Ymweld â Llyfrgell Genedlaethol yr Alban
Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 21-12-2022
Yn ystod mis Tachwedd, aeth staff o’r Llyfrgell ar daith i Lyfrgell Genedlaethol yr Alban a mynychu cyfarfodydd i drafod materion gweithredol a strategol sy’n ymwneud â’r Asiantaeth Adnau Cyfreithiol. Mae’r Asiantaeth yn gyfrifol am gasglu deunydd adnau cyfreithiol o bob rhan o’r DU ac Iwerddon a’i ddosbarthu i bob un o’r llyfrgelloedd adnau cyfreithiol.
Yn ystod yr ymweliad cafwyd taith o amgylch prif adeilad Llyfrgell Genedlaethol yr Alban ar George IV Bridge, eu hail safle yn Causewayside, a hefyd yr asiantaeth ei hun.
Un o uchafbwyntiau’r ymweliad oedd gweld ardal arddangos y Llyfrgell a oedd yn canolbwyntio ar awduron Albanaidd fodern, megis Ian Rankin. Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i drafod arferion llyfrgellyddol. Mewn taith tu ôl i’r llen, bu cyfle i weld eu mannau storio helaeth a thrafod materion amrywiol, megis sut maent yn delio â gofod storio. Soniodd y Tîm Cyfnodolion hefyd am sut y gwnaethant ddelio â’r ôl-groniad a grëwyd yn sgil y pandemig Covid – mater yr oedd yn rhaid bob llyfrgell adnau cyfreithiol ei reoli.
Roedd ymweliad i adeilad yr Asiantaeth hefyd yn brofiad diddorol, wrth weld cratiau gwyrdd y Llyfrgell yn cael eu llenwi â deunydd newydd, i’w prosesu yr wythnos ganlynol wedi iddynt gyrraedd y Llyfgell yn ddiogel.
Roedd y daith yn un diddorol tu hwnt; roedd yn gyfle i drafod materion pwysig yn ymwneud â’r Asiantaeth, ond dangosodd hefyd bwysigrwydd cydweithio a rhannu gwybodaeth. Yr oedd hefyd yn gyfle i gwrdd â llyfrgellwyr adnau cyfreithiol eraill o bob rhan o’r DU ac Iwerddon.
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English