Y Coroniad
Casgliadau / Collections - Postiwyd 05-05-2023
Mae Coroniad y Brenin Siarl III yn gyfle i weld sut mae achlysuron tebyg wedi cael eu nodi yn y gorffennol a sut mae hynny’n cael ei adlewyrchu yng nghasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol.
Yn y bôn seremoni Cristnogol yw’r Coroni, ac roedd yn arfer i argraffu’r pregethau a draddodwyd fel rhan o’r gwasanaeth. Mae sawl enghraifft o’r rhain yng nghasgliad Eglwys Gadeiriol Llandaf, a brynwyd gan y Llyfrgell yn 1984, gan gynnwys y bregeth hon gan William Talbot, Esgob Rhydychen, ar gyfer gwasanaeth coroni Siôr I yn 1714.
Yn 1820 ysgrifennodd William Owen Pughe, geiriadurwr, gramadegydd, golygydd, hynafiaethydd a bardd o Sir Feirionnydd, gerdd o dan ei enw barddol Idrison ar gyfer coroni Siôr IV.
Mae cerddoriaeth hefyd yn elfen bwysig o’r seremoni a darnau newydd yn cael eu cyfansoddi ar gyfer pob coroniad. Mae ein casgliadau cerddorol yn cynnwys emyn gan y Parch. W. Morgan ac anthem gan Syr John Goss, y ddau gyda geiriau Cymraeg, a gyhoeddwyd ar gyfer coroni Siôr V yn 1911. Ond yn y Drenewydd y flwyddyn honno roedd rhaid gohirio’r ŵyl chwaraeon a cherddoriaeth flynyddol oherwydd dathliadau’r coroniad.
Adeg coroni Siôr VI yn 1937 traddodwyd pregeth yn eglwys Drenewydd Gelli-farch yn Sir Fynwy gan y Parch. Arthur Morgan gyda’r teitl “The meaning of the Coronation” a’i chyhoeddi wedyn. Roedd naws ysgafnach i’r dathliadau yng Nghei Connah, oedd yn cynnwys gêmau pêl-droed a phêl-rwyd, sioe tân gwyllt, a dosbarthu siocledi i blant ysgol gynradd.
Yn 1953 cynhaliwyd gwasanaethau yng nghapeli Penygroes, Sir Gaerfyrddin, a chymanfa ganu yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, i ddathlu coroni Elizabeth II. Nododd Cyngor Maesteg yr achlysur gan gyhoeddi argraffiad arbennig o’r arweinlyfr swyddogol.
Dim ond enghreifftiau yw’r rhain o ddigwyddiadau a gynhaliwyd trwy gydol Cymru a’r Deyrnas Unedig. Tybed pa gyhoeddiadau fydd yn cyrraedd ein casgliadau ar ôl y dathliadau eleni.
Timothy Cutts
Llyfrgellydd Llyfrau Prin
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English