Blog

Postiwyd - 20-01-2017

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

WICIPOP

Bydd prosiect newydd yn canolbwyntio ar wella cynnwys Wicipedia ar  y Sîn Gerddoriaeth Bop Gymraeg.

Mae’r  Wicipedia Cymraeg yn cynnwys tua 90,000 o erthyglau Cymraeg a bwriad prosiect Wikipop yw  ychwanegu 500 o erthyglau mewn ymgais i gofnodi a chyfoethogi hanes ysgrifenedig y sîn gerddoriaeth Gymraeg bywiog.

Ffynhonnell: Wikimedia Commons CC_BY. Attribution Silvio Tanaka, 2009.

Mae Ionawr yn nodi dwy flynedd ers i Lyfrgell Genedlaethol Cymru benodi Wicipediwr Preswyl. Yn ystod y ddwy flynedd hynny mae’r Llyfrgell wedi helpu hyfforddi golygyddion Wicipedia newydd sydd wedi creu cannoedd o erthyglau newydd, ac mae’r llyfrgell wedi arwain y ffordd wrth hyrwyddo mynediad agored at dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Rhannwyd 15,000 o ddelweddau digidol o gasgliadau’r llyfrgell ar drwydded agored drwy Comin Wikimedia ac mae’r delweddau a ddefnyddir mewn erthyglau Wicipedia wedi cael eu gweld bron i 200 miliwn o weithiau.

Yn awr, gyda cymorth grant gan Llywodraeth Cymru a mewn  cydweithrediad efo Wikimedia UK, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau ar brosiect,  3 mis o hyd, i greu a gwella erthyglau Wicipedia am gerddoriaeth bop Cymraeg.

Y nod yw creu 500 o erthyglau newydd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan cynnwys rhaglen estyn allan a chyfres o ‘Olygathonau’ a fydd yn annog pobl i ysgrifennu cynnwys newydd.

Bydd aelodau o’r cyhoedd a sefydliadau yn cael eu hannog i rannu gwybodaeth a allai fod ar gael eisoes, a bydd staff technegol y Llyfrgell Genedlaethol yn treialu awtomeiddio’r broses o greu erthyglau Wikipedia gan ddefnyddio data.
Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect newydd cyffrous hwn, cysylltwch â ni.

 

Jason Evans

Wikipediwr Preswyl, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Tagiau: , , , , , , ,

3 responses

Beth am wneud yr un peth am theatr cymraeg nesaf?

Richard Huw Morgan

Commented Ionawr 20, 2017 / 22:21:37

Mae gynai nifer fawr o bosteri/ticedi gigs, unrhyw ddiddordeb mewn rhain?

Glyn llewelyn

Commented Chwefror 25, 2017 / 14:21:14

    Helo Glyn. Diolch yn fawr am y neges. Fi wedi hela e-bost atoch er mwyn trafod ym mhellach.

    Llyfrgell Genedlaethol Cymru / National Library of Wales

    Commented Chwefror 25, 2017 / 14:25:27

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog