WICIPOP
Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 20-01-2017
Bydd prosiect newydd yn canolbwyntio ar wella cynnwys Wicipedia ar y Sîn Gerddoriaeth Bop Gymraeg.
Mae’r Wicipedia Cymraeg yn cynnwys tua 90,000 o erthyglau Cymraeg a bwriad prosiect Wikipop yw ychwanegu 500 o erthyglau mewn ymgais i gofnodi a chyfoethogi hanes ysgrifenedig y sîn gerddoriaeth Gymraeg bywiog.
Ffynhonnell: Wikimedia Commons CC_BY. Attribution Silvio Tanaka, 2009.
Mae Ionawr yn nodi dwy flynedd ers i Lyfrgell Genedlaethol Cymru benodi Wicipediwr Preswyl. Yn ystod y ddwy flynedd hynny mae’r Llyfrgell wedi helpu hyfforddi golygyddion Wicipedia newydd sydd wedi creu cannoedd o erthyglau newydd, ac mae’r llyfrgell wedi arwain y ffordd wrth hyrwyddo mynediad agored at dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.
Rhannwyd 15,000 o ddelweddau digidol o gasgliadau’r llyfrgell ar drwydded agored drwy Comin Wikimedia ac mae’r delweddau a ddefnyddir mewn erthyglau Wicipedia wedi cael eu gweld bron i 200 miliwn o weithiau.
Yn awr, gyda cymorth grant gan Llywodraeth Cymru a mewn cydweithrediad efo Wikimedia UK, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau ar brosiect, 3 mis o hyd, i greu a gwella erthyglau Wicipedia am gerddoriaeth bop Cymraeg.
Y nod yw creu 500 o erthyglau newydd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan cynnwys rhaglen estyn allan a chyfres o ‘Olygathonau’ a fydd yn annog pobl i ysgrifennu cynnwys newydd.
Bydd aelodau o’r cyhoedd a sefydliadau yn cael eu hannog i rannu gwybodaeth a allai fod ar gael eisoes, a bydd staff technegol y Llyfrgell Genedlaethol yn treialu awtomeiddio’r broses o greu erthyglau Wikipedia gan ddefnyddio data.
Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect newydd cyffrous hwn, cysylltwch â ni.
Jason Evans
Wikipediwr Preswyl, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English