Blog

Postiwyd - 11-06-2014

Arddangosfeydd

Weak or Strong?

Ar y dydd hwn yn 1936, agorodd yr Arddangosfa Swrrealaidd Ryngwladol yn y New Burlington Gallereies yn Llundain. Yn ystod yr Arddangosfa, cyflwynwyd darlithoedd ar bynciau fel ‘Celf a’r Anymwybod’ a ‘Bioleg a Swrrealaeth’ gan swrrealyddion nodedig megis Salvador Dalí, André Breton a Hugh Sykes Davies. Cyflwynodd Dalí ei ddarlith tra’n gwisgo siwt blymio, (er mwyn plymio’n ddyfnach i’r isymwybod) a bu bron iawn iddo fygu.

Roedd Dylan Thomas hefyd yn bresennol yn yr Arddangosfa Swrrealaidd Ryngwladol, a tra yno penderfynodd yntau gymryd rhan. Cariodd gwpanaid o gortyn wedi ei ferwi o gwmpas gydag ef, gan ofyn i’r dorf a fyddai’n well ganddynt ef “weak or strong?”

Er i Dylan ddatgan mewn llythyr at Richard Church yn 1935 “I wasn’t, never had been, never would be, nor never could be for that matter, a surrealist”, ni ellir gwadu ei ddiddordeb yn y Celfyddydau. Tueddai i droi yng nghylchoedd artistig, a byddai ef ei hun yn aml â phensel, pastel neu frwsh paent yn ei law.

Mae’r cwestiwn a ofynodd Dylan yn yr Arddangosfa Swrrealaidd wedi ysbrydoli arddangosfa yma yn y Llyfrgell, a fydd yn arddangos gweithiau celf gan Dylan, o Dylan, ac wedi’u hysbrydoli gan Dylan. Bydd ‘Weak or Strong?’: Celf Dylan ar agor i’r cyhoedd rhwng 28 Mehefin a 20 Rhagfyr 2014, a bydd yn rhan o’n dathliadau Dylan.  Bydd gweithiau celf gan artistiaid megis Mervyn Levy, Alfred Janes, Ceri Richard, Peter Evershed a Dylan ei hun i’w gweld yn rhan o’r arddangosfa.

'Dylan Thomas, San Remo N.Y.', © Peter Evershed

‘Dylan Thomas, San Remo N.Y.’, © Peter Evershed

Darlun gan Dylan Thomas / Doodle by Dylan Thomas © David Higham Associates

Darlun gan Dylan Thomas / Doodle by Dylan Thomas © David Higham Associates

'Dylan at Laugharne', Mervyn Levy © Ystâd Mervyn Levy / The Estate of Mervyn Levy

‘Dylan at Laugharne’, Mervyn Levy © Ystâd Mervyn Levy / The Estate of Mervyn Levy

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog