Blog

Un arall o’r Llyfrau Duon

Casgliadau / Digido - Postiwyd 20-09-2021

Ganrif union yn ôl, yn 1921, cyhoeddodd J. Gwenogvryn Evans ei ffacsimili du-a-gwyn o gynnwys Llyfr Du’r Waun (er mai 1909 sydd ar y wyneb ddalen!). Bellach, trwy haelioni un o noddwyr y Llyfrgell Genedlaethol, gellir gweld delweddau newydd sbon o’r llawysgrif ar ein gwefan.

Ar un adeg, credid mai’r llawysgrif hon – Peniarth 29 – oedd y gynharaf yn y Gymraeg. Erbyn heddiw, cydnabyddir ei bod ymysg y cynharaf, gan rannu pen-blwydd megis â Llyfr Du arall, sef yr un enwog o Gaerfyrddin. Ganed y ddwy yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg, un yn y Gogledd, a’r llall yn y De. Ond beth sydd ynddi?

Llawysgrif Gymraeg ydyw, wedi ei hysgrifennu ar femrwn, a hynny gan chwech o sgrifyddion, mewn dull digon rheolaidd a phroffesiynol, er bod lle i feddwl nad oeddent yn gyfarwydd iawn ag ysgrifennu Cymraeg.

Cynhwysa destunau cyfreithiol sy’n ymwneud â’r brenin a’i lys yn ôl ‘dull Gwynedd’ neu ‘ddull Iorwerth’, brenin o fewn cyd-destun Cymreig wrth gwrs, fel sy’n gweddu i lawysgrif o gyfnod cynnar tywysogaeth Llywelyn ap Gruffudd, ‘y llyw olaf’. Wedi amlinellu hawliau’r brenin a’i osgordd (Cyfraith y Llys – cofier am y delweddau hynny o lawysgrif Ladin gyfoes Peniarth 28), mae’r awduron yn nodi rhannau o’r gyfraith fyddai’n berthnasol i’r werin, a manylu ar werthoedd anifeiliaid ‘gwyllt a dof’ ac elfennau eraill. Ceir crynodeb, a thestun cyfleus a darllenadwy, ar wefan Cyfraith Hywel.

Ond mae yn y gyfrol ychwanegiadau diddorol y tu hwnt i’r testunau cyfreithiol: diarhebion, a marwnad Dafydd Benfras i’r tywysog Llywelyn ab Iorwerth o 1240, yr olaf yn atgof efallai o oes aur y gyfraith frodorol yn null Gwynedd.

Ond pam ei chyplysu â’r Waun, yn sir Ddinbych? Mae’r cynnwys yn awgrymu mai llawysgrif o Ogledd Cymru ydyw, ac erbyn 1615 roedd ym meddiant John Edwards o Blas Newydd, Y Waun, reciwsant a gollodd lawer o’i eiddo trwy atafaeliad cyn ei farw yn 1625. Yn ei gartref ef y copïwyd ei chynnwys gan Francis Tate i lawysgrif Llanstephan 68. Trwy John Jones o’r Gellilyfdy, yn ôl pob golwg, y daeth i feddiant Robert Vaughan o Hengwrt, a gwelir iddo yntau roi iddi’r teitl ‘Y llyfr du or Waun’ yn ei law gain ar yr hyn sy’n weddill o frig tudalen 114.

Mae’r cloriau gwreiddiol duon wedi hen ddiflannu, ond mae’r hyn sy’n weddill o’r dail rhwymo yn niwedd y gyfrol.

A ninnau eisoes wedi digido Llyfr Du Caerfyrddin (Peniarth 1) a Llyfr Du Basing (llawysgrif NLW 7006D), pa sawl llyfr du arall sydd ar ôl i’w digido tybed?

 

Maredudd ap Huw

Curadur Llawysgrifau

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog