Blog

Uffern o le

Arddangosfeydd / Casgliadau - Postiwyd 23-01-2015

Mae rhigwm Eisteddfod o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn Saesneg, yn sôn am ymweliad y diafol ei hun â Gland?r. Wrth iddo anadlu mwg ffwrneisiau’r gweithfeydd meddyliodd, “Ni allaf fod yn bell o gartref”!

 

Heddiw, ni all un ond dychmygu’r mwg a’r drewdod, ond cofiaf yn glir y golygfeydd o’r trên ar gyrion gorsaf Abertawe – tiroedd sorod cythreulig Gland?r, y diffeithdir, ac Allt Cilfái, yn foel, heb goeden. Dyma’r etifeddiaeth hyll a gwenwynig a adawyd inni gan ddwy ganrif o weithgarwch diwydiannol dwys a llygredd enbyd.

 

Hwn oedd y pris dalodd Abertawe am fod ymhlith y pennaf o grudau’r Chwyldro Diwydiannol. Mae’r ardal bellach yn enwog am ei hanes o doddi metel a hefyd am fod yn brif ganolfan y byd ar gyfer cynhyrchu copr yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyma sut cafodd yr enw Copperopolis. Deilliodd llwyddiant y diwydiant copr o’r digonedd o lo a llafur lleol oedd gan Abertawe, ac oherwydd bod y diwydiant yn agos i haenau mwyn copr Cernyw, ac i afon fordwyol a hwylusai gludo’r mwyn yn syth i’r mwyndoddwyr, ar y dechrau o Gernyw ond, yn nes ymlaen, o wledydd tramor.

 

“Copper smelting houses near Swansea” gan Thomas Rowlandson

“Copper smelting houses near Swansea” gan Thomas Rowlandson

Dyma ddarlun, a brynwyd yn ddiweddar, gan Thomas Rowlandson mewn pen ac inc a dyfrlliw gyda chyffyrddiadau pensil, gyda’r arysgrif “Copper smelting houses near Swansea”. Darluniwyd yn Awst 1797, ac mae’n rhoi cipolwg ar ddechreuad diwydiannol y ddinas.

 

Mae Rowlandson yn darlunio mwg yn dod allan o ffwrneisiau copr yn ardal y Graig Wen ar lan ddwyreiniol Afon Tawe. Roedd mwyndoddwr y Graig Wen yn un o’r mwyndoddwyr cynharaf ac yn gweithredu o 1736 i 1924. Mae’r darlun hefyd yn dangos Camlas Smith, oedd newydd ei hadeiladu ac a roddai fynediad uniongyrchol i gyflenwadau o lo, a thu hwnt i’r afon, tir agored lle’r oedd gweithfeydd copr enfawr yr Hafod a Morfa ar fin cael eu hadeiladu a lle byddai cymunedau Gland?r, Plas-marl a Threforys yn tyfu. Uwchben, ar y Clas, gwelir ‘Castell Morris’, ‘castell’ Cymreig anghonfensiynol, oedd mewn gwirionedd yn floc o fflatiau i weithwyr yn dyddio o tua 1775. Adfeilion ‘Castell Morris’ sydd bellach yn edrych dros y cwm.

 

Ar yr heol, yn nhu blaen y darlun, gwelir braslun pensil, egwan ac anghyflawn, sy’n dangos pobl, o bosib gyda cheffyl cwch camlas.

 

Mae darlun Rowlandson yn cynnwys gwybodaeth werthfawr. Dechreuodd y gwaith adfer a gwaredu’r diffeithdir diwydiannol o ddifrif yn ystod canol y 1960au, cyn i’r cysyniad o archaeoleg ddiwydiannol, a’r astudiaeth ohoni, ddatblygu’n llawn a chyn colli gweithfeydd y Graig Wen, safle oedd yn berffaith ar gyfer gwaith cadwraeth. Mae’r gwaith o adfer rhai o’r ychydig o adeiladau diwydiannol hanesyddol sydd ar ôl yn parhau, ond mae creiriau’r hen ddiwydiannau bellach yn rhai prin ymhlith y swyddfeydd, y siopau mân-werthu a’r cymdogaethau preswyl sydd yno heddiw.

 

Tra oedd yn Abertawe, aeth Rowlandson hefyd i’r Mwmbwls ac i Fae Caswell. Atgynhyrchwyd rhai o’r lluniau o’r ardal yn 1800 gan ei gyd-deithiwr Henry Wigstead, a’u cyhoeddi yn ei lyfr yntau, “Remarks on a Tour to North and South Wales”. Ar yr un adeg, darluniodd Rowlandson fannau eraill yng Nghymru a chymynroddwyd nifer o’i ddarluniau gwreiddiol cyfoes, yn arbennig o Eryri, Conwy a Llangollen, i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan Syr John Williams, cymwynaswr mwyaf blaenllaw’r Llyfrgell.

 

Mae darlun Rowlandson i’w weld yn arddangosfa gyfredol y Llyfrgell, sef ‘Beth Sy’n Newydd?’, sy’n cynnwys rhai o’r derbyniadau diweddar.

 

Gwilym Tawy

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog