Blog

‘Tydfor yr hiwmor a’r hwyl’

Casgliadau / Derbynion newydd - Postiwyd 10-08-2020

Dyna deitl addas teyrnged Dic Jones i’w gyfaill Tydfor Jones yn Barddas, Medi 1983, yn dilyn ei farwolaeth drasig mewn damwain dractor ar ei fferm Y Gaerwen, Blaencelyn, ger Llangrannog, ar 20 Mehefin 1983, yn wyth a deugain mlwydd oed.

Ym mis Chwefror llynedd cyrhaeddodd Papurau Tydfor Jones yn rhodd i’r Llyfrgell mewn cês patrwm tartan ‘Black Watch’.  Mae Papurau’r Parch. Gerallt Jones, cefnder i Tydfor, yma’n y Llyfrgell hefyd.

Derbyniwyd papurau tad Tydfor sef Evan George (‘Siors’, 1892-1953) neu ‘Sioronwy’ (ei enw barddol) yn rhan o’r rhodd.  Yr oedd yn fardd ac yn ddegfed plentyn o’r deuddeg a fagwyd ar fferm enwog a diwylliedig y Cilie, Cwmtydu.

Ym mis Rhagfyr 2019 cyrhaeddodd pecyn ychwanegol o bapurau yn ymwneud â John (Tydu) Jones (1883-1947), ewythr Tydfor a brawd Siors, a ymfudodd i Ganada yn 1904 ac roedd ‘Jac Canada’ yn dipyn o gymeriad.  Ceir llythyrau hiraethus oddi wrtho at ei deulu.  Cofnododd ei gerddi mewn cyfrol ddu – ‘Aelwyd y teulu’ i gofio am ei rieni ac yn anrheg pen-blwydd i Tydfor yn saith mlwydd oed.  Roedd yn arbennig o hoff o englyna a cheir englynion i’w frodyr, ei chwiorydd, ei neiaint, gan gynnwys englyn i Tydfor.  Bu farw mewn damwain wrth weithio ar felin lifio yn Sultan, Canada, yn 1947.

Ceir copi o sgript teyrnged T. Llew Jones i ‘Bois y Cilie’ yn y Babell Lên adeg Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976 ac roedd Tydfor yn un o’r llefarwyr.  Cyfeirir at Tydfor fel ‘enghraifft dda o’r bardd gwlad’ yn y Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997).

Cyhoeddwyd Rhamant a hiwmor Tydfor (Llandysul, 1993), cyfrol o’i farddoniaeth wedi’i golygu gan ei weddw Ann Tydfor, yn 1993.  Gellir gweld fod ei ddiddordeb mewn barddoni yn tarddu o’i blentyndod wrth edrych ar ei gerddi cynnar niferus sy’n cynnwys cerdd i ‘T. Llewelyn Jones’ yn ei gyfrol ‘Yr awen’, 1947-1948, gyda mynegai i’r cerddi hyd yn oed.

Ym Mhapurau Cassie Davies 68 mae dau bennill ‘Defi John’ a anfonodd Tydfor ati yn 1970 er cof am D. J. Williams.

Ddeugain mlynedd nôl ym mis Chwefror 1980 cefais y fraint o fod mewn noson yng Nghanolfan y Dderi, Llangybi, Ceredigion, fy mhentref genedigol, ac Adar Tydfor yn ein diddanu.  Mae gen i lofnod Tydfor i brofi hynny!  Ef oedd yn gyfrifol am lunio sgriptiau i’r parti, cyfansoddi geiriau’r caneuon ac yn arweinydd y noson hefyd.  Roedd yn gyfrannwr cyson i’r rhaglen radio ‘Penigamp’ ar ddechrau’r 1970au.

Yng ngeiriau Emyr Llywelyn yn ei deyrnged i Tydfor yn Y Gambo, Gorffennaf 1983, ‘Ti oedd brenin diwylliant bro’.

Ann Francis Evans
Archifydd Cynorthwyol

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog