Blog

Postiwyd - 12-11-2012

Digido

‘Trwy Braw i Goruchafiaeth’ – Lloyd George, Cymru a’r Rhyfel Mawr

Central Office of Information (London), “The Right Honourable David Lloyd George.” (PG234/15 Llyfr Ffoto LLGC : NLW Photograph Album 1014, dlg00001).

Yn ystod y misoedd diwethaf bûm yn catalogio pamffledi casgliad Gladstone y Llyfrgell, – casgliad gwerthfawr iawn fydd o ddiddordeb arbennig i unrhyw un sydd am wybod fwy am faterion gwleidyddol a diwylliannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Yng nghanol y nifer fawr o bamffledi sydd yn y casgliad deuthum ar draws  araith ysgrifennodd David Lloyd George yn 1914 i gynulleidfa Gymreig yn Neuadd y Frenhines yn Llundain, o dan y teitl Through Terror to Triumph. Pwrpas yr araith oedd ceisio cyfiawnhau rôl y wlad yn y Rhyfel Byd Cyntaf drwy ddatgan bod rhaid i Brydain amddiffyn Gwlad Belg oedd, yn ôl Lloyd George, yn wlad heddychlon, ddi-niwed. Pan oedd Gladstone yn Brif Weinidog yn 1870, arwyddodd Prydain gytundeb i amddiffyn Gwlad Belg ynghyd â Rwsia, Ffrainc, Awstria a Prwsia. Cwestiynodd felly pam i Awstria a Prwsia dorri eu addewid.

Ceir yma bolemig mewn gwirionedd yn portreadu’r Almaen fel y gelyn mawr, di-egwyddor yn ymosod ar wlad Belg fach, egwyddorol ond gwan. Cyfeiria at hanes Prwsia o dan Frederick y 1af, pan ddewiswyd ei milwyr yn seiliedig ar eu taldra (o leiaf 6 troedfedd 2 fodfedd o leiaf). Cyferbynna hyn gyda’r ffaith fod llawer o bethau da’r byd wedi eu creu gan wledydd bach a phobl bach.

Mae’n portreadu Serbia fel y wlad fach, ddi-niwed arall yn y rhyfel. Wrth gwrs, dechreuodd y rhyfel pan laddwyd Archddug Franz Ferdinand o Awstria-Hwngari gan ?r o Serbia.

Mae rhai o’i ddatganiadau i geisio denu milwyr i ymuno â’r fyddin yn peri anesmwythyd o wybod am y nifer fawr o golledion yn y rhyfel. Mae’n amlwg fod Lloyd George yn disgwyl rhyfel hir a gwaedlyd, a hynny a gafwyd yn y pen draw.

Pwysleisiodd y gwlatgarwch newydd a ddaeth yn sgil y rhyfel. Gwêl ddiwedd ar hunanoldeb, diogi a gormodedd – canlyniadau bywyd moethus. Byddai marw yn y rhyfel yn farw cysygredig, fyddai’n yn well na byw bywyd diflas, llafurus a dibwrpas.

I orffen, defnyddiodd ddelwedd o fynyddoedd a dyffrynnoedd gogledd Cymru. Mynna fod pobl Cymru wedi byw yn rhy hir yn gyfforddus, hapus yn y dyffrynnoedd wrth gael eu hamddiffyn o’r bannau. Roedd yn amser gadael y dyffrynnoedd i droedio uchelfannau’r mynyddoedd – dyletswydd gwlatgarwch, urddas ac aberth. Mae’n creu darlun o rhyfel fel cyfle cyffrous a rhinweddol. Go brin fod y milwyr yn credu hyn ar ôl cyrraedd y ffosydd!

Hywel Lloyd

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog