Torri Cyfraith Hywel
Casgliadau - Postiwyd 05-11-2012
Fe gofiwch i’r Llyfrgell Genedlaethol rai misoedd yn ôl wario’n helaeth iawn ar lawysgrif o Gyfreithiau Hywel Dda mewn arwerthiant yn Llundain. Ers hynny, bu staff y Llyfrgell yn brysur yn ymosod arni â chyllyll, yn ei darnio, a’i diberfeddu.

Elgar Pugh a’i gyllell
A ydym wedi colli’n synhwyrau? Beth tybed fyddai ymateb ein noddwyr hael, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, i weithred ysgeler o’r fath?
Daeth yn amlwg cyn i ni brynu Llawysgrif Boston yn Sotheby’s y byddai’n rhaid ei thrwsio: roedd y rhwymiad modern oedd arni yn difrodi’r dail memrwn, gan achosi iddynt grebachu a hollti. Roedd angen cryfhau rhai priflythrennau drylliedig, a sicrhau nad oedd cyflwr y gyfrol yn dirywio ymhellach.

Dilwyn Williams yn naddu
Nid ar chwarae bach y gwneir penderfyniad i ddadrwymo llawysgrif ganoloesol. Mae’r rhwymiad fel arfer yn rhan anhepgor o hanes y llawysgrif, ond yn ffodus iawn, clawr modern oedd i’r gyfrol hon. Felly, aeth ein crefftwyr ati’n ofalus i dynnu’r cydiadau o’r cloriau, i dynnu pob darn o lud oddi ar y meingefn, a rhoi cipolwg prin i ni o’r dail fel ag y gwelwyd hwy ddiwethaf yng ngweithdy’r mynach 700 mlynedd yn ôl.
Gwelir canlyniad y gwaith cadwraeth yn y darlun isod, gyda’r arbenigwyr annibynnol, Mr Daniel Huws o Aberystwyth a’r Athro Paul Russell o Gaergrawnt, yn arsylwi’n ofalus ar bob cam o’r broses (gweler adroddiad Paul ar flog difyr ei adran). Bellach, gwastatawyd a thrwsiwyd pob dalen o Lawysgrif Boston, ac mae’r cyfan yn barod i’w digido ar gyfer ein Drych Digidol.

Daniel Huws, Paul Russell a’r dail
Ymhen ychydig wythnosau bydd cydiadau ein Hympti Dympti llawysgrifol yn cael eu hail-wnio gan grefftwyr cywrain y Llyfrgell, a’u gosod yn ddiogel rhwng cloriau newydd fydd yn eu diogelu am flynyddoedd i ddod. Fe gewch weld canlyniad y llawfeddygaeth honno eto!
Maredudd ap Huw