Gŵyl y Gelli
Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 29-05-2023
Mae Gŵyl y Gelli yn cychwyn yr wythnos hon, ac roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n edrych i mewn i sut y bu i dref fechan dawel ym Mhowys gynnal un o ŵyliau llenyddol mwyaf y byd.
Yn ôl yn y 60au, agorodd gŵr busnes lleol, Richard Booth, siop lyfrau ail law yn y Gelli Gandryll, penderfyniad a fyddai’n newid hanes y dref am byth. Ymhen ychydig flynyddoedd, roedd ganddo chwe siop lyfrau, ac roedd eu poblogrwydd yn denu hyd yn oed mwy o lyfrwerthwyr i’r dref. Oherwydd y nifer o siopau llyfrau, cafodd Y Gelli ei labelu fel “Y Dref Llyfrau”. Roedd Booth yn adnabyddus am ei hynodrwydd, fel y gwelir pan fe ddatganwyd annibyniaeth i’r dref, a’i alw’n hun yn Frenin arni. Mae’r erthygl hon o 1983 o’r Daily Telegraph yn dangos enghraifft i ni o’i weithgareddau gwleidyddol, ac mae ei gofnod yn The Oxford Dictionary of National Biography yn rhoi cipolwg pellach ar ei fywyd:
‘Horsepower manifesto by eccentric bookman’ – The Daily Telegraph, 23 Mai 1983 (The Telegraph Historical Archive). Booth, Richard George William Pitt, 1938-2019 (The Oxford Dictionary of National Biography).
Syniad Peter Florence, actor lleol, oedd i gael gŵyl yn y dref, ac yn ôl y sôn, fe ddefnyddiodd ei enillion o gêm o bocer i gynnal yr ŵyl gyntaf yn 1988. Llwyddodd i berswadio’r dramodydd Arthur Miller i fod yn bresennol, ac fel y mae’r erthygl hon yn y World Literature Journal yn nodi, credai Miller i ddechrau mai brechdan oedd “Hay-on-Wye”!
‘Outposts: Literary Landmarks & Events’ – World Literary Journal, 2006 (JSTOR)
Bu’r ŵyl gyntaf yn llwyddiant mawr, ac o ganlyniad, penderfynodd y Sunday Times i noddi’r digwyddiad yn ei hail flwyddyn. Fel y dengys y cyhoeddiad hwn yn y papur newydd, roedden nhw’n falch o noddi’r ŵyl hon oedd, yn ôl nhw, mewn “siop lyfrau byw”. Llwyddodd y digwyddiad i ddenu rhestr o awduron enwog, gan gynnwys Ruth Rendell, John Mortimer, Ian McEwan a Benjamin Zephaniah.
Book yourself a Festival – The Sunday Times, 12 March 1989 (Sunday Times Digital Archive)
Dros y blynyddoedd, mae’r ŵyl wedi denu rhai o enwau mwyaf yn y byd llenyddiaeth, ac wrth iddi dyfu, gwahoddwyd enwogion o feysydd eraill i gymryd rhan. Bu cryn gyffro pan fynychodd Bill Clinton yn 2001, gan frandio’r ŵyl fel “Woodstock of the mind”. Fodd bynnag, fel y dengys yr erthygl hon ar y pryd, roedd rhai yn poeni bod yr enwogion hyn yn tynnu sylw oddi wrth awduron.
Making Hay – The Guardian, 31 May 2001 (ProQuest Historical Newspapers (Guardian & The Observer)
Yn ffodus, nid felly y bu, ac mae’r ŵyl wedi parhau i hyrwyddo awduron a’u gweithiau. Bellach yn ei 35ain flwyddyn, mae’n cyfrannu at nifer o brosiectau addysgol ac amgylcheddol, yn ogystal â chynnal gŵyliau yn Ewrop a De America. Dyma gipolwg cyflym ar yr hyn y gellir ei ddisgwyl yng ngŵyl eleni.
‘Are you Ready for Hay?‘ – Western Mail, 29 April 2002 (Newsbank)
Os na allwch chi gyrraedd yr ŵyl eleni, beth am ymweld â’r Llyfrgell, a darllen profiad Ellen Wiles o’r ŵyl, yn “The Hay Festival: The Remote Welsh Field That Stages the Global Publishing Industry”, sydd ar gael yn ein hystafell ddarllen trwy adnau cyfreithiol electronig.
Paul Jackson,
Llyfrgellydd Adnau Cyfreithiol, Electronig a Derbyn
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English