Teyrnged i Graham Thomas
Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 25-05-2023
Ganwyd Graham Charles Gordon Thomas yng Nghaerdydd ym 1941. Ar ôl ysgol a graddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg y Drindod Dulyn. Treuliodd Graham nifer o flynyddoedd yn Nulyn, fel myfyriwr MA o dan nawdd Adran yr Iaith Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Roedd yn ymchwilio’r testun ‘Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain’ (‘The Thirteen Treasures of the British Isles’), sef cyfres o eitemau yn nhraddodiad Cymreig diwedd yr oesoedd canol. Roedd hynny’n golygu gwneud llawer o waith ymchwil ar lên gwerin a threuliodd y rhan fwyaf o’i amser yng Nghomisiwn Llên Gwerin Iwerddon. Casglodd Graham llawer o anecdotau yn ystod ei amser yn Iwerddon yn y 1960au, lawer o anecdotau iddo, llawer ohonynt yn ymwneud â lleianod. Yn ddiweddarach astudiodd yma yn Aberystwyth yn y Coleg Llyfrgellyddiaeth cyn cychwyn ar ei swydd gyntaf yn Llyfrgell Prifysgol Lerpwl. Bu’n gweithio mewn adran lle cedwid y cyfnodolion meddygol. Roedd meddygon o rai o ysbytai Lerpwl yn arfer ei alw i ofyn iddo edrych ar y cyfnodolion i weld beth oedd y ‘dosau’ priodol o rai o’r cyffuriau i’w rhoi i’w cleifion! Roedd hyn yn beryglus iawn, gan nad oedd golwg Graham yn ôl ei gyfaddefiad ei hun yn dda o gwbl ar y pryd. Yn ddiweddarach bu’n gweithio i’r Bwrdd Gwybodau Celtaidd cyn ymuno â Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel Cynorthwy-ydd Ymchwil ym 1974.
Roedd cyfraniad ysgolheigaidd Graham yn arwyddocaol iawn. Bu ei waith mawr (y bu’n gweithio arno ers tua 1974) o fynegeio’r holl destunau rhyddiaith Cymraeg mewn llawysgrifau yn brosiect enfawr. Yr oedd y gwaith a gyflawnodd arno yn hynod o fanwl. Teg fyddai dweud fod Graham yn gwybod mwy am ryddiaith Gymraeg y llawysgrifau na neb arall, erioed. Mae ei waith yn parhau trwy Geiriadur Prifysgol Cymru.
Ymddeolodd fel Archifydd Cynorthwyol yn 2001 ar ôl ysgrifennu nifer o erthyglau i gylchgronau academaidd ar siarteri a llawysgrifau canoloesol eraill. Cyhoeddodd ei magnum opus ar ‘The Charters of the Abbey of Ystrad Marchell’ ym 1997. Wedi ymddeol yn 2001 parhaodd i ysgrifennu ac yn 2014 cyhoeddodd gyfieithiad o Bewnans Ke, drama yn y Gernyweg o tua 1500 am fywyd St Kea.
Roedd Graham yn ddysgedig, yn wybodus ac yn gydweithiwr ysbrydoledig. Ar ôl ymddeol parhaodd i weithio ar ei fynegai rhyddiaith a phrosiectau academaidd eraill, yn aml i gyfeiliant Handel. Roeddwn yn ffodus i gwrdd â Graham ym 1992 pan ddechreuais weithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a daethom yn gyfeillion, ac fel llawer o rai eraill mi wnes i’n elwa’n fawr o’i wybodaeth ac yn enwedig ei frwdfrydedd dros gasgliadau’r Llyfrgell.
W. Troughton
Curadur Casgliad Ffotograffig