Tag Archives: Wicipedia

Lobsgows a Llymru: Bwyd a ryseitiau Cymreig

Casgliadau / Collections - Postiwyd 22-04-2020

Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn darllen First Catch Your Peacock: The Classic guide to Welsh food gan Bobby Freeman (Y Lolfa, 2006). Mae’r llyfr yn cynnwys cyflwyniad o hanes bwyd Cymreig ac esiamplau o ryseitiau traddodiadol.

Diffinier ‘traddodiadol’ fel bwyd cafodd ei goginio mewn bwthyn Cymreig neu gegin tŷ fferm yn defnyddio pot neu lechen bobi ar dân agored neu, yn hwyrach, ar ffwrn haearn bwrw. Byddai’r ryseitiau yn dueddol o gael eu pasio lawr drwy’r teulu ar lafar am genedlaethau, yn aml heb eu cofnodi yn ysgrifenedig, hyd nes i Mati Thomas eu cynnwys yn ei thraethawd a enillodd gwobr yn Eisteddfod 1928.

 

 

Oherwydd y tebygrwydd rhwng cynhwysion neu o ganlyniad i ddryswch ieithyddol, mae Freeman yn cydnabod pa mor anodd ydyw i ganfod ryseitiau traddodiadol Cymreig yn hytrach na rhai Saesnig neu rhai o dramor. Un esiampl yw’r cawl o gig a llysiau a elwir ‘lobsgóws’ yng ngogledd Cymru, neu ‘cawl’ yn y de. Er bod y cynhwysion yn debyg, mae gan yr enwau darddiadau gwahanol iawn. Mae’n debyg bod ‘cawl’ yn dod o darddiad Cymraeg, tra bod ‘lobsgóws’ yn dod o’r gair Almaeneg ‘labskaus, a ddaeth yn ‘lobscouse’ yng ngogledd Lloegr. I’r gwrthwyneb, mae enwau bwydydd Cymreig hefyd wedi pasio i repertoire coginio traddodiadol Lloegr. Daeth y pwdin a elwir yn ‘llymru’, wedi’i wneud o flawd ceirch yng Nghymru, ei adnabod fel ‘flummery’ yn Lloegr ac ymddangosodd rysáit sylfaenol ar ei gyfer yn Countrey contentments, or The English husvvife gan Gervase Markham (Llundain 1623). Erbyn canol yr ail ganrif ar bymtheg, datblygodd amrywiadau mwy ffansi oedd yn cynnwys siwgr, hufen, dŵr blodyn-oren neu gyflasynnau ffrwyth gwahanol. Cyhoeddwyd rysáit, er enghraifft, yn The Closet of the eminently learned Sir Kenelme Digbie Kt. opened (Llundain 1669), sy’n debycach i rysáit cogydd modern ar gyfer llymru.

Ymysg y llyfrau coginio astudiodd Bobby Freeman yn y Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer ei ymchwil oedd The First Principles of Good Cookery illustrated and Recipes communicated by the Welsh Hermit of the Cell of St. Gover (Llundain 1867) gan Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer. Er ei fod wedi’i ysgrifennu yn y Saesneg a bod dilysrwydd rhai o’r eitemau ‘Cymreig’ yn amheus, mae’r rysait am hwyaden hallt (tud. 408) yn un go iawn yn ôl y sôn. Gallwch weld copi digidol o’r fersiwn cynnar ar wefan y Llyfrgell.

Ceir ffynonellau diddorol arall yn ymwneud â bwyd a diod yng nghasgliadau stadau’r Llyfrgell. Mae Freeman yn cysylltu ryseitiau o’r ‘plas’ yn agosach â thraddodiad coginio Saesnig. Er hyn, maent yn ‘Gymreig’ yn yr ystyr bod y ryseitiau yma wedi’u hysgrifennu gan wragedd y plastai ac yr oedd mwyafrif y cynhwysion ffres yn dod yn uniongyrchol o’u stadau. Un esiampl hardd yw llawysgrif Peniarth 513D, llyfr ryseitiau crynhowyd yn yr ail ganrif ar bymtheg gan Meryell Williams (1629-1703), gwraig fedrus John Williams o Ystumcolwyn, sir Trefaldwyn. Mae’r llawysgrifen daclus yn ei gwneud hi’n ffynhonnell eithaf defnyddiol ar gyfer cogyddion heddiw. Mae’r llyfr wedi’i rannu yng nghategorïau megis potes, cig a physgod, pwdinau, bisgedi, cacennau, cyffeithiau, gwinoedd, a moddion, oll wedi’u mynegeio yng nghefn y gyfrol. Cafodd nifer o’r ryseitiau eu cyfieithu i’r Gymraeg gan Dr Enid Pierce Roberts yn Gwraig orau o’r Gwragedd (Gwasg Pantycelyn, 2003).

Roedd stad Gogerddan, ger Aberystwyth, yn berchen i deulu’r Pryse a Loveden. Dim ond un llyfr rysait sydd wedi goroesi ymysg y casgliad, ynghyd â rhai eitemau rhydd megis bwydlen Cymraeg o 1796 pan oedd y stad yn nwylo Pryse Pryse (gynt Loveden). Mae’n cynnwys Brithyll ffrio, math o’r pysgodin berw yn Saesneg enw Turbot, oen coes berw gyda y llwin ffrio, pwding crynu, cig eidion rhost…pastai afal ffrwythau).

Cafodd mwyafrif y bwyd a’i gynhyrchwyd ar y stad ei ddefnyddio yn y plasty, fel a ddengys yng nghofnodion gweinyddol y stad a’r tŷ. Mae’r rhestrau o hadau ymysg cyfrifon y stad yn dangos beth oedd yn cael ei dyfu yn ardd y gegin rhwng 1767 a 1919: winwns gwyn, cennin, moron oren, pannas, had rêp, mathau amrywiol o letys, seleri Eidalaidd, tri math o flodfresych, ffa Ffrengig, bresych, ciwcymbrau, ac afalau. Roedd cnydau’r tŷ gwydr yn cynnwys grawnwin a thomatos. Mae’r llyfr cyfrifon yn cofnodi pris danfon parseli o gynnyrch i Aberystwyth ac, yn anffodus, pris cynnyrch mygdarthu a gwenwyn ar gyfer llygod ffyrnig. Ymysg y casgliad, ceir hefyd cyfres hyfryd o gyfrifon y fferm, sy’n cofnodi’r anifeiliaid prynwyd a’u gwerthwyd, y cnydau a werthwyd a chyflogai’r fferm, 1813-1919; a chyfrifon y llaethdy, sy’n cofnodi faint o laeth, hufen a menyn cynhyrchwyd yn wythnosol rhwng 1881 ac 1919. Cafodd nifer o’r bwydydd fel siwgr a the eu prynu yn lleol yn Aberystwyth.

Ceir rhai o’r cofnodion cadw tŷ gorau yn archif Brogyntyn o gyfnod Mrs Mary Owen yng nghanol y ddeunawfed ganrif. Roedd Mary (gynt Godolphin) yn briodferch amharod i William Owen, ysgwier Brogyntyn. Fel Mrs Owen, ymgyfarwyddodd â’i bywyd newydd fel meistres plasty. Ymysg papurau’r tŷ mae yna gyfarwyddiadau ysgrifennodd i’w morwynion:

The Cook’s Business. She must be able to get a dinner of fiveteen dishes of meat; four or five things when the family is alone is sufficient…..She must salt all the meat……fatten the poultry…….keep the scullery and larders and kitchen clean, and the utensils belonging to them……dress the wheat flower……make the parlour bread……rise with the other maids to wash, till her own business requires her elsewhere……She has help from the other maids to scour, which is once in four weeks, but I expect her to scour the pewter plates every fortnight……She is to carve for the lower servants at dinner…..When she has time I expect her to iron her own cloaths……

 

Mae’r tasgau llafurus roedd yn rhaid i’r gweision a’r morwynion eu cwblhau yn gwneud i ni feddwl am y problemau roedd rhaid i gogyddion y bwthyn a’r plas eu hwynebu canrifoedd yn ôl. Mae Bobby Freeman a Mati Thomas yn cydnabod pa mor anodd byddai wedi bod i goginio i safon gyson ar dân agored neu ffwrn haearn bwrw, yn dibynnu ar y math o danwydd, y tywydd ac effeithlonrwydd y simnai. Maent yn nodi’r ymdrech gorfforol a fyddai wedi’i hangen i drin offer trwm cegin draddodiadol Gymreig ac i gadw’r lle yn lan. Ceir tystiolaeth o offer coginio traddodiadol ymhlith y miloedd o restrau eiddo sydd wedi goroesi yn yr ewyllysiau Cymru cyn 1858, y rhan fwyaf ohonynt ar gael yn electronig drwy wefan y Llyfrgell.

 

 

Esiampl dda yw rhestr eiddo Thomas Lewis, Llan-gors. Roedd ei gegin yn cynnwys amrywiaeth eang o ddysglau, basnau a phlatiau, selerau halen, canwyllbrennau a fflagenni pewter; sgiledi, canwyllbrennau pres, dysglau twymo a phedyll tân, padellau pres, llestri metal, padellau toddion, padellau ffrio ac offer haearn arall; un pâr o gypyrddau, un pêr-droell, un plât haearn o flaen y tân a nwyddau haearn arall; cafnau, casgenni, hocsidiau, cwpwrdd arall, un gadair a dwy stôl (Ewyllysiau LlGC, BR1680/103).

 

Gallwch weld esiamplau o offer coginio yng nghasgliadau Amgueddfa CeredigionSain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

 

Hilary Peters
Archifydd Cynorthwyol

 

 

Tagiau: , ,

Stori Cymru – Cwis 2

Stori Cymru - Postiwyd 17-04-2020

Fel rhan o gyfres Stori Cymru, mi fyddwn ni’n cyhoeddi cwis wythnosol ar ddyddiau Gwener dros yr wythnosau nesaf.

Mi fyddwn ni’n eich herio chi gyda 10 cwestiwn. Mi fydd bob cwestiwn yn gysylltiedig â Chymru, o’i hanes i lenyddiaeth, cerddoriaeth, daearyddiaeth a llawer mwy.

Felly, rhowch gynnig arni, a cofiwch roi gwybod i ni sut aiff hi: LlGC ar Twitter, LlGC ar Facebook neu LlGC ar Instagram

(Gyda llaw, mae’r cwestiynau ar y diwedd – felly dim edrych!)

 

Cwestiynau

1. Beth oedd enw’r tad a mab â ysgrifennodd Anthem Genedlaethol Cymru – Hen Wlad Fy Nhadau?   

2. Beth oedd enw’r ficer yn nrama lleisiol Dylan Thomas, “Under Milk Wood”?  

3. Beth oedd enw’r bardd a enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Penbedw, 1917 – bardd y gadair ddu?  

4. Pa dair afon sy’n tarddu ar ben Pumlumon? 

5. Yn ôl chwedl Merched y Môr, fe drôdd brenin y môr dair chwaer i mewn i beth?  

6. O bwy y prynodd Mari Jones ei Beibl yn 1800? 

7. Pwy ddanfonodd Llythyr Pennal at Frenin Ffrainc yn 1406? 

8. Beth oedd enw’r llong a gludodd y Cymry cyntaf i Batagonia? 

9. Ym mha flwyddyn daeth David Lloyd George yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig?  

10. Ym mha iaith mae Peniarth 28 (y copi cynharaf o Gyfraith Hywel Dda i oroesi) wedi ei hysgrifennu? 

Atebion

  1. Evan James a James James 
  2. Y Parch Eli Jenkins 
  3. Ellis Humphrey Evans 
  4. Hafren, Gwy a Rheidol 
  5. Gwylanod 
  6. Y Parch Thomas Charles 
  7. Owain Glyndŵr 
  8. Y Mimosa 
  9. 1916
  10. Lladin 

Stori Cymru – Cwis 1

Stori Cymru - Postiwyd 10-04-2020

Fel rhan o gyfres Stori Cymru, mi fyddwn ni’n cyhoeddi cwis wythnosol ar ddyddiau Gwener dros yr wythnosau nesaf.

Mi fyddwn ni’n eich herio chi gyda 10 cwestiwn. Mi fydd bob cwestiwn yn gysylltiedig â Chymru, o’i hanes i lenyddiaeth, cerddoriaeth, daearyddiaeth a llawer mwy.

Felly, rhowch gynnig arni, a cofiwch roi gwybod i ni sut aiff hi: LlGC ar Twitter, LlGC ar Facebook neu LlGC ar Instagram

(Gyda llaw, mae’r cwestiynau ar y diwedd – felly dim edrych!)

 

Cwestiynau

1. Adnabyddir Humphrey Llwyd fel awdur y map cyntaf o Gymru i’w gyhoeddi, ond pwy oedd y cyhoeddwr 

2. Pwy adeiladodd Pont Menai rhwng y tir mawr ac Ynys Môn? 

3. Pa lyn yw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru 

4. Darlun o beth oedd gwaith olaf yr artist Kyffin Williams? 

5. Enwch 4 cainc y Mabinogi 

6. Pa lawysgrif sy’n cynnwys y copi cynharaf o chwedlau’r Mabinogion 

7. Crêd rhai mai hwn yw’r Greal Sanctaidd, ond beth yw enw’r cwpan enwog 

8. Ble ganwyd y môr leidr enwog, Barti Ddu (Bartholomew Roberts) 

9. Allwch chi enwi Prif Weinidogion/Prif Ysgrifenyddion Cymru ers 1999? 

10. Pwy oedd awdur y gyfrol straeon byrion ‘Te yn y Grug’? 

Atebion

  1. Abraham Ortelius 
  2. Thomas Telford 
  3. Llyn Tegid 
  4. Machlud haul 
  5. Pwyll Pendefig Dyfed, Branwen Ferch Llŷr, Manawydan Fab Llŷr, Math Fab Mathonwy 
  6. Llyfr Gwyn Rhydderch 
  7. Cwpan Nanteos 
  8. Casnewydd Bach, Sir Benfro
  9. Alun Michael, Rhodri Morgan, Carwyn Jones a Mark Drakeford 
  10. Kate Roberts

Clwb Busnes Caerdydd

Darganfod Sain / Sgrin a Sain - Postiwyd 08-04-2020

Mae Julie Kenny a Katy Stone, gwirfoddolwyr ar gyfer y prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain yn myfyrio ar eu profiad o gatalogio Casgliad Clwb Busnes Caerdydd.

Fel archifwyr dan hyfforddiant ym Mhrifysgol Aberystwyth, roeddem yn falch o gael cyfle i gymryd rhan yn y prosiect ‘Datgloi Ein Treftadaeth Sain’ (DETS), prosiect ledled y DU sy’n ceisio helpu i warchod synau’r genedl a darparu mynediad iddynt ar gyfer cenedlaethau i ddod. Roedd y casgliad cyntaf y cawsom y dasg o’i gatalogio yn cynnwys recordiadau o areithiau a roddwyd mewn ciniawau a gynhaliwyd gan Glwb Busnes Caerdydd. Mae’r sefydliad hwn yn hyrwyddo ysbrydoliaeth a mentrau busnes i’w aelodau, a hwn yw’r prif sefydliad o’r natur hon yng Nghymru. Ei noddwr yw Tywysog Cymru.

 

 

Roedd y recordiadau’n ymdrin â phynciau diddorol gan gynnwys: hawliau dynol; effaith amgylcheddol a chynaliadwyedd i fusnesau fel Ford, y Grid Cenedlaethol, Mercedes Benz;  systemau gofal iechyd; diddordeb rhyngwladol yn NICE a’i waith yn y dyfodol mewn perthynas â datblygu cyffuriau ac ehangu posibl o ganllawiau clinigol; agendâu gwleidyddol; twf economaidd gan gynnwys chwyddiant a’r dirwasgiad; y farchnad eiddo tiriog; darlledu y BBC a’r adolygiad o’i siarter; datblygiad adeiladwr tai mwyaf Cymru, Redrow; toriadau Margaret Thatcher o weithiau cyhoeddus; amcanion World Rugby a’r cyfleoedd a gynigir gan ddigwyddiadau fel Cwpan Rygbi’r Byd a’r gemau Olympaidd; effaith epidemigau ar fusnesau a rôl busnesau wrth leihau achosion; Perthynas Brasil â’r DU; economi Cymru; a hanes a datblygiad Bae Caerdydd.

Ymhlith rhai o’r siaradwyr mwy adnabyddus mae Shami Chakrabarti, yr Arglwydd Tony Hall, y Gwir Anrh. David Cameron, Brett Gosper, a’r Athro Fonesig Sally Davies. Talwyd teyrngedau i Syr Cennydd Traherne, a oedd yn Arglwydd Raglaw Morgannwg.

Gwelsom fod gwrando ar y recordiadau hyn wedi codi pwyntiau diddorol nad oeddem wedi’u hystyried o’r blaen. Mae’n amlwg i ni sut y gallent fod o fudd i gynulleidfa ehangach.

Ar y cyfan, mae’r amser rydym wedi’i dreulio yn gwirfoddoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) wedi bod yn hynod werthfawr. Mae wedi cyfrannu at ein hastudiaethau, ac wedi ein galluogi i ddatblygu sgiliau a fydd yn ddefnyddiol i ni yn ein proffesiwn yn y dyfodol. Mae’r staff yn LlGC wedi bod yn groesawgar ac yn gartrefol iawn, a byddem yn argymell yn gryf i unrhyw un sydd â diddordeb mewn amddiffyn ein treftadaeth sain i wirfoddoli.

Gan fyfyrwyr Gweinyddiaeth Archifau MA, Julie Kenny a Katy Stone.

 

Phyllis Kinney. Y gantores o Michigan

Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 23-03-2020

Mae bywyd Phyllis Kinney yn daith o America i Aberystwyth, ac o fod yn gantores operatig i fod yn un o’r awdurdodau mwyaf blaenllaw ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru.

Ganed Phyllis Kinney (sydd bellach yn 97 mlwydd oed) ym Mhontiac, Michigan ger Detroit ar 4 Gorffennaf 1922 – diwrnod Annibyniaeth yr UDA. Addysgwyd hi yn Ysgol Uwchradd Pontiac ac yna yng Ngholeg Talaith Michigan, East Lansing lle bu’n arbenigo mewn cerddoriaeth gan raddio ym 1943. Cymaint oedd ei thalent lleisiol fel iddi sicrhau cymrodoriaeth yn Ysgol Gerdd Juilliard, Efrog Newydd lle bu’n astudio am dair blynedd. Yn 1947 daeth yn brif soprano gyda chwmni opera Carl Rosa, ac wrth deithio ym Mangor cyfarfu â Meredydd Evans (1919-2015) a ddaeth yn ŵr iddi. Priododd ar 10 Ebrill 1948 a ganed eu merch Eluned yn ystod haf 1949. Treuliwyd eu bywyd priodasol yng Nghymru yn bennaf, ar wahân i gyfnod o wyth mlynedd rhwng 1952 a 1960 a dreuliasant yn America – gyda’i rhieni ym Mhontiac, yn Princeton ac yn Cambridge Mass. Parhaodd â’i gyrfa gerddorol, gan berfformio mewn opera gan y cyfansoddwr Americanaidd Roger Sessions yn Princeton ym 1955, a bu’n dysgu cerddoriaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Ar ôl dychwelyd i Gymru cyfrannodd at raglenni adloniant ysgafn y BBC fel cantores, a daeth hefyd yn gyflwynydd ac ymchwilydd arbenigol ar gyfer rhaglenni teledu. Mae ei diddordeb cerddorol yn amrywio o sioeau cerdd Americanaidd i ganeuon gwerin Cymraeg ac mae hi wedi treulio’r ychydig ddegawdau diwethaf yn ymchwilio i lawysgrifau a chyhoeddiadau cerddorol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Sain Ffagan a Phrifysgol Bangor. Dyma oedd cefndir ei gwaith nodedig, Welsh Traditional Music (Gwasg Prifysgol Cymru, 2011), sef y llyfr awdurdodol ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru o’r dechrau hyd heddiw. Mae hi hefyd wedi cyfrannu nifer o erthyglau i gyfnodolion (yn enwedig yn ‘Canu Gwerin’ a Hanes Cerddoriaeth Cymru: Welsh Music History) ac wedi cyhoeddi sawl llyfr ar gerddoriaeth werin Gymraeg, a llyfrau caneuon i blant, rhai wedi’u hysgrifennu ar y cyd â Meredydd Evans. Dyfarnwyd gradd M Mus anrhydeddus iddi gan Brifysgol Cymru ym 1991 a daeth yn gymrawd anrhydeddus Prifysgol Bangor ochr yn ochr â’i gŵr ym 1997.

Ceir trysorfa o wybodaeth am gerddoriaeth draddodiadol Cymru ymysg archifau Meredydd Evans a Phyllis Kinney, a gyflwynwyd fel rhodd hael i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae ffeiliau Phyllis Kinney (dros 30 bocs) yn cynnwys nodiadau manwl, rhestrau a dadansoddiad o alawon, gyda gwybodaeth am gerddorion a chasglwyr cerddoriaeth. Roedd ei dull systematig o weithio, wrth edrych ar rythm, diweddeb, ffurf, harmoni a moddau yn golygu y gallai hi nodi’n hyderus mewn llythyr at y bardd Keith Bosley mai’r mesur gwerin mwyaf poblogaidd yng nghân werin Cymru yw’r ‘trochaic tetrameter quatrain’; ac ysgrifennu erthygl ar y cysylltiad rhwng ‘Migldi Magldi’ a theulu o alawon Gwyddelig / Cymraeg penodol. Dengys ei gohebiaeth ei haelioni wrth ateb ymholiadau a darparu cefnogaeth i fyfyrwyr, ymchwilwyr a cherddorion ledled y byd. Mae’r archif yn adlewyrchu’r modd y cofleidiodd Gymru, ei phobl a’i diwylliant, gan ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl a dyrchafu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig trwy ei hastudiaethau cerddolegol.

Nia Mai Daniel
Rheolwr Rhaglen | Programme Manager
Yr Archif Gerddorol Gymreig | The Welsh Music Archive
@cerddllgc | @MusicNLW

Traddodiad Canu Gwerin Cymru

Stori Cymru - Postiwyd 06-03-2020

Mae gan bob llwyth a chenedl drwy’r byd draddodiad o ganeuon ac alawon sy’n ddrych o’u diwylliant, eu cymeriad a’u ffordd o fyw. Gellir dweud felly fod pob un o’r traddodiadau hynny yn unigryw.

Yr hyn sy’n gwneud traddodiad Cymru yn unigryw yn anad dim arall yw iaith y caneuon eu hunain, Cymraeg. O blith y caneuon y gellir eu disgrifio fel rhai ‘traddodiadol’ mae o leiaf 90% yn rhai Cymraeg, am y rheswm syml eu bod yn tarddu o gyfnod yn hanes Cymru pan oedd Cymraeg yn brif iaith mwyafrif llethol y boblogaeth – yn wir, yr unig iaith yn aml iawn.

I unrhyw un sy’n dod at ganeuon gwerin Cymru o’r newydd, daw yn amlwg:
• eu bod wedi chwarae rhan hanfodol bwysig yn niwylliant y Cymry ar hyd y canrifoedd;
• eu bod yn niferus ac yn amrywiol iawn;
• fod yna amrywiaeth rhyfeddol o alawon, llawer ohonynt yn eithriadol o brydferth a chofiadwy.

Gellir yn fras eu dosbarthu fel a ganlyn:

Caneuon Serch
Cariad yw pwnc mwyaf poblogaidd y caneuon gwerin Cymraeg. Amcangyfrif Meredydd Evans yw fod cymaint â 170 ohonynt. Mae cyfran go lew o’r rheiny yn ymdrin â cholli cariad, ac felly yn ganeuon digon trist; eraill yn foliant i’r cariad, eraill yn disgrifio’r helyntion a’r trafferthion sy’n gosod cymaint o rwystrau ar lwybr serch.

Enghreifftiau: Y Gwydr Glas, Beth yw’r Haf i Mi?, Dacw ‘Nghariad i Lawr yn y Berllan, Cariad Cyntaf, Tra Bo Dau.

Hwiangerddi a Chaneuon Plant
Ar hyd y canrifoedd bu mamau yn allweddol yn y gwaith o gyflwyno caneuon i genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant. Ystyr llythrennol ‘hwiangerdd’ yw cân i suo plentyn i gysgu, a cheir sawl enghraifft o’r math hwnnw o gân, ond defnyddir y gair yn ehangach hefyd i ddisgrifio caneuon syml eraill i blant.

Enghreifftiau: Suo Gân, Si Hei Lwli ‘Mabi (hwiangerddi); Dacw Mam yn Dwad, Fuoch Chi Rioed yn Morio, Mi Welais Jac y Do.

Caneuon Gwaith
Y caneuon mwyaf nodedig yn y dosbarth hwn yw’r caneuon ‘Gyrru’r Ychen’ o Forgannwg: caneuon i annog ychen i weithio wrth aredig. Cofnodwyd rhai o’r rhain gan Iolo Morgannwg.

Enghreifftiau: Cân yr Ychen, I Ysgafnhau ein Gwaith.

Caneuon Doniol
Mewn cystadlaethau eisteddfodol yn y cyfnod diweddar bu tuedd i roi amlygrwydd i’r caneuon gwerin mwyaf trist. Ond mae lle i gredu mai ar y caneuon hwyliog yr oedd y pwyslais yn yr hen nosweithiau llawen a’r cyfarfodydd anffurfiol. Y gair ‘llawen’ yw’r cliw!

Enghreifftiau: Cân Merthyr, Yr Hen Wyddeles, Mari’r Glwyseg, Ar y Ffordd Wrth Fynd i Lundain, Cân y Cwcwallt.

Caneuon Gwasael
Caneuon yw y rhain sy’n ymwneud yn benodol ag achlysuron arbennig ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Ystyr lythrennol y gair gwasael yw ‘Iechyd Da’, a rhan bwysig o’r ddefod oedd diod arbennig, yn cael ei rannu o’r ‘llestr gwasael’. Golyga’r term ‘canu gwasael’ ddefod lle mae criw bychan yn crwydro o dŷ i dŷ, yn dymuno iechyd da i’r teuluoedd a bendith ar eu bywydau – yn y gobaith o dderbyn croeso a lletygarwch. Canu awyr agored ydyw (er fod rhai o’r defodau yn golygu fod cantorion o fewn y tŷ yn ateb ac yn ymryson gyda’r cantorion y tu allan). Mae’r termau ‘canu tan bared’ a ‘canu yn drws’ hefyd yn disgrifio’r arfer. Mae’r canu gwasael yn gysylltiedig â’r defodau canlynol: Y Fari Lwyd, Y Calennig, a Hela’r Dryw (Ionawr), Gŵyl Fair, Dydd Mawrth Ynyd (Chwefror /Dechrau Mawrth), Calan Mai, a hefyd priodasau. Mae sawl ‘cân ymryson’ (y caneuon ‘cynyddol’ lle mae’n rhaid cyflymu pob pennill) yn gysylltiedig â Gŵyl Fair yn arbennig.

Enghreifftiau: Wel Dyma Ni’n Dwad, Hela’r Dryw, Cadi Ha, Mwynen Mai. (Caneuon cynyddol): Cyfri’r Geifr, Un o Fy Mrodyr I.

Baledi
Dyma’r dosbarth mwyaf niferus o ddigon – mae tua 4,000 ohonynt ar gael, y rhan fwyaf o’r ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Digwyddiadau’r dydd oedd eu testun: llofruddiaethau, helyntion fel Rhyfel y Degwm a Helynt Beca, stormydd, llongddrylliadau, agor rheilffyrdd newydd, ac ati. Oherwydd mai yn yr awyr agored, mewn ffair a marchnad, y cenid y baledi hyn, byddai raid i’r baledwr feddu ar lais cryf ac arddull drawiadol, gan mai ei nod oedd gwerthu copïau o’r faled i’w gynulleidfa.

Enghreifftiau: Baled y Blotyn Du, Storm Fawr 1846, Llofruddiaeth Dafydd Lewis.

Caneuon Morwrol
Cymharol brin yw’r shanties môr yn Gymraeg, ond fe gyfansoddodd J. Glyn Davies stôr ohonynt yn yr 1920au, ac ymhen dim o dro fe’u derbyniwyd yn rhan o’r traddodiad gwerin.

Enghreifftiau: Sianti Gymraeg, Fflat Huw Puw, Llongau Caernarfon, Santiana

Canu Penillion
Yn y cyfnod diweddar, fe ddisodlwyd y term ‘canu penillion’ gan y term ‘cerdd dant’, (sef y grefft o ganu darnau o farddoniaeth i gyfeiliant ceinciau gosodedig ar y delyn, yn unol â rheolau pendant). Mae’r grefft bellach wedi datblygu i gyfeiriad gwahanol i ganu gwerin. Ond ar un adeg, difyrrwch y werin bobl oedd canu penillion: crefft fyrfyfyr oedd yn gwneud defnydd helaeth o benillion telyn a cherddi ysgafn, ffwrdd-â-hi, ac ni fyddai neb ar y pryd yn ystyried gosod canu penillion a chanu gwerin mewn categorïau ar wahân.

Enghreifftiau: penillion syml pedair neu chwe llinell ar geinciau megis Cader Idris, Llwyn Onn, Pen Rhaw.

Canu Plygain
Canu crefyddol ei natur yw hwn; math o ganu sy’n gysylltiedig â chyfnod y Nadolig ac a glywir mewn gwasanaethau plygain mewn eglwysi a chapeli. Mae’n ymdebygu mwy i ganu gwerin a chanu baledi nag ydyw i ganu emynau: canu naturiol, dirodres, a dihyfforddiant, bob amser yn ddigyfeiliant, ac yn amlach na pheidio mewn harmoni syml. Alawon gwerin yw llawer iawn o’r alawon y gosodwyd y geiriau arnynt.

Enghreifftiau: Ar Gyfer Heddiw’r Bore, Carol y Swper, Tramwywn, Ffarwel Ned Puw, Y Ceiliog Gwyn.

Wrth gwrs, nid pob cân werin sy’n syrthio’n daclus i’r categorïau uchod. Er enghraifft, y gân Myn Mair, sef cân a genid mewn gwylnos ym mhresenoldeb corff marw. Gweddi sydd yma dros enaid y person ymadawedig. Oherwydd yr erfyniad ar y Fair Forwyn ar ddiwedd pob pennill, mae’n amlwg fod y gân yn tarddu o’r cyfnod cyn y Diwygiad, pan oedd Cymru yn wlad Gatholig.

Erbyn heddiw fe ddiogelwyd y corff hyn o ganeuon gwerin, ond fe ellid yn hawdd fod wedi eu colli am byth. Bu dau gorff yn gyfrifol yn fwy na neb am gasglu a chofnodi’r caneuon: Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, yn enwedig eu haelodau cynnar ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac Amgueddfa Sain Ffagan mewn cyfnod diweddarach. Meddai J. Lloyd Williams, un o arweinwyr y Gymdeithas Alawon Gwerin, “Tipyn o beth oedd i’r hen alawon fyw trwy genedlaethau o esgeulustod, a mwy gorchest oedd iddynt wrthod marw dan ddimyg a gwarth y Diwygiad.”

Arfon Gwilym

[Nodyn: Yn y byd modern mae union ystyr y gair ‘gwerin’ yn amrywio’n fawr. I ddibenion yr erthygl hon, fe ganolbwyntir ar y math hwnnw o ganeuon a drosglwyddwyd ar lafar o un genhedlaeth i’r llall dros gyfnod hir o amser: y math o ganeuon y gellir eu disgrifio fel rhai ‘traddodiadol’]

Rhannu’r Mabinogi

Collections - Postiwyd 05-03-2020

Heddiw rydyn ni’n dathlu Diwrnod y Llyfr a lansiad yr ymgyrch ‘Rhannu Stori’. Mae gan Gymru draddodiad hir o rannu storïau, a’r gwaddol mwyaf enwog o hyn mae’n siŵr yw’r casgliad rhyddiaith Gymraeg canoloesol a adnabyddir fel y Mabinogi – a pha storïau gwell sydd yna i’w rhannu na’r rhain?

 

Cymysgedd cyfareddol o straeon dramatig a dirgel am hudoliaeth, trasiedi, rhamant, ffantasi, hiwmor, brad, gwrthdaro, cyfiawnder, antur, moesoldeb, natur ddynol a’r Arallfyd yw’r rhain, sy’n cyfuno elfennau o lên werin, mytholeg, ffughanes, chwedlau ac athroniaeth, gydag ambell i sylwad ar faterion cyfoes yr Oesoedd Canol.

 

Mae yna un stori ar ddeg i gyd, gan gynnwys y rhyddiaith gynharaf ym Mhrydain. Ystyrir bod y pedair cyntaf – ‘Pwyll Pendefig Dyfed’, ‘Branwen ferch Llŷr’, ‘Manawydan fab Llŷr’ a ‘Math fab Mathonwy’, a adnabyddir ar y cyd fel y Pedair Cainc – yn gysylltiedig â’i gilydd, er yn eithaf amwys i olwg llygaid modern. Fe’u hysgrifennwyd i lawr am y tro cyntaf rhwng 1060 a 1200 yn ôl pob tebyg, yn gyfamserol ag ymosodiadau ar Gymru o Loegr a dinistrio penarglwyddiaethau gwleidyddol cryfion cynhenid Cymreig, ond mae llawer o’r storïau eu hunain yn hŷn o lawer, wedi iddynt gael eu hadrodd, eu hailadrodd a’u haddasu dros ganrifoedd.

 

Un arall o’r storïau hynaf yw ‘Culhwch ac Olwen’, sy’n cyflwyno Brenin Arthur gwahanol iawn i’r hyn a geir yn y rhamantau a ffug-hanesion Eingl-Ffrengig a wnaethpwyd yn boblogaidd gan Sieffre o Fynwy a Chrétien de Troyes yn y ddeuddegfed ganrif, tra bod ‘Breuddwyd Macsen Wledig’ yn adleisio gwaith Sieffre ond yn cynnwys llawer o elfennau gwahanol hefyd. Fodd bynnag, dylanwadwyd yn gryf ar rai o’r storïau eraill gan ramantau Eingl-Ffrengig, yn arbennig ‘Breuddwyd Rhonabwy’, yr ymddengys iddi fod yn greadigaeth lenyddol pur. Mewn sawl ffordd, gellir gweld y storïau fel cynnyrch y byd ôl-drefedigaethol lle y cawsant eu hysgrifennu i lawr am y tro cyntaf.

 

Eto mae hanesion y Mabinogi yn llawer mwy dyledus i’r traddodiad llafar Cymreig y tyfon nhw allan ohono, yn ogystal â dawn hanesiol y bobl a’u hysgrifennodd i lawr. Mae’r technegau adrodd a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o’r storïau – yr ailadrodd, yr ymddiddan helaeth a’r penodau cofiadwy ar wahân – yn awgrymu iddynt gael eu cyfansoddi er mwyn cael eu perfformio a’u clywed, yn hytrach na’u darllen, ond ni wyddom lawer am bwy a’u cyfansoddodd na phwy fyddai wedi eu hadrodd. Roedd beirdd y tywysogion a’r uchelwyr yn adnabod llawer o hanesion traddodiadol ac yn disgwyl y byddai eu cynulleidfaoedd yn deall y cyfeiriadau atynt, a dywed y storïau eu hunain yr oedd disgwyl i bencerdd adrodd stori wrth iddo dderbyn lletygarwch, a bod pobl eraill yn adrodd straeon hefyd. Mae hi’n gyffredin hyd heddiw mewn cymunedau traddodiadol i rannu straeon o bob math wrth ymgasglu yn gymdeithasol. Gellir meddwl am y Mabinogi, felly, fel mynegiant o gof torfol y gymdeithas a’i cynhyrchodd.

 

Mae’r llawysgrifau cynharaf sy’n cynnwys darnau o’r storïau ac sydd wedi goroesi hyd heddiw yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg, ond y casgliad mawr cynharaf – ac un o drysorau mawrion y Llyfrgell – yw Llyfr Gwyn Rhydderch, sy’n cynnwys deg o’r un stori ar ddeg. Fe’i hysgrifennwyd tua 1350 gan fynachod Ystrad Fflur yn ôl pob tebyg; camgymeriad gan ysgrifydd canoloesol a arweiniodd at adnabod y casgliad fel y Mabinogion erbyn y ddeunawfed ganrif. Rhannwyd y Llyfr Gwyn yn ddwy gyfrol (Llawysgrifau Peniarth 4 a 5 erbyn hyn) cyn 1658, gyda storïau’r Mabinogi ym Mheniarth 4, tra bod yr unfed stori ar ddeg, sef ‘Breuddwyd Rhonabwy’, ond yn ymddangos ond yn Llyfr Coch Hergest, llawysgrif ddiweddarach sydd erbyn hyn yn Rhydychen (Llawysgrif Coleg yr Iesu 111).

Gwnaeth ysgolheigion yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg dipyn o ddefnydd o’r Llyfr Gwyn, ond ymddengys nad oedd llawer o wybodaeth am y storïau yn y byd tu hwnt i astudiaethau llawysgrifol. Nid oes tystiolaeth i adroddwyr straeon enwog fel Thomas Edwards (Twm o’r Nant, 1739-1810), er enghraifft, adrodd yr un hanesyn o’r Mabinogi. Ond daeth tro ar fyd pan gyhoeddodd William Owen Pughe storïau’r ‘Mabinogion’ yn Saesneg rhwng 1795 a 1829, ac aethant yn fyd-enwog pan gyhoeddodd yr Arglwyddes Charlotte Guest y casgliad llawn cyntaf rhwng 1838 a 1877, yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg. Atgyfodwyd diddordeb yr ysgolheigion, ac erbyn yr ugeinfed ganrif yr oedd y Mabinogi wedi ennill ei le mewn ymwybyddiaeth ddiwylliannol yr oes, gan ysbrydoli gwaith creadigol ar bob ffurf a chyfrwng yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd: nofelau, cerddi, dramâu, celf weledol, adrodd straeon, operâu, cerddoriaeth bop a gwerin, ffilmiau, a llyfrau plant, ac yn cynnwys gwaith gan unigolion blaenllaw megis Saunders Lewis, Alan Garner, Anthony Conran, Gwyneth Lewis, Margaret Jones, Geraint Jarman, Robin Williamson a Michael Harvey, ymhlith llawer o eraill. Mae’r Llyfrgell yn gartref i hyn i gyd.

Fel y chwedlau Arthuraidd, mae hanesion y Mabinogi yn ganoloesol ond eto’n ddiamser. Maen nhw wedi cael eu hail-ddychmygu dros amser gan genedlaethau gwahanol wrth iddynt ymdrechu i ddatguddio eu hanes eu hunain, i wneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas, ac i edrych i mewn i ddyfodol ansicr. Maen nhw mor berthnasol heddiw ag erioed.

 

Felly beth am ddarllen storïau’r Mabinogi ar Ddiwrnod y Llyfr? Gwrandewch arnynt. Perfformiwch nhw. Rhannwch nhw. Straeon i’w clywed yw’r rhain. Ac felly y terfyna’r gangen yma o flog y Llyfrgell.

 

Dr David Moore (Archifydd)

Tarw Gwyllt Llangian a Stori Cymru

Stori Cymru - Postiwyd 21-02-2020

Mae pawb yn hoff o stori dda. Boed hynny mewn llyfr, mewn papur newydd, cartŵn, ar fideo, ar raglen deledu, ar ffilm neu ar lafar.

Mae’r awydd i glywed stori yn ddwfn ym mhob un ohonom ni. Mae ailadrodd storïau yn rhan o’n gwead ni. Ailadrodd straeon a wnawn ni wrth gyfarfod ffrindiau a theulu da ni heb eu gweld ers tro. Mae’r traddodiad yma o adrodd straeon yn dyddio ymhell cyn cof. Dyma’r “traddodiad llafar” a oedd yn ffynhonnell cynnwys y llawysgrifau cynharaf sydd yma yn y Llyfrgell Genedlaethol.

 

 

Ymhlith y 15 miliwn o erthyglau papur newydd a ddigiwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol mae hanes Tarw Gwyllt Llangian. Daeth ffermwr â tharw ifanc ar droed i dref Pwllheli heb dennyn. Dychrynwyd y tarw a rhedodd yn wyllt drwy’r dref. Aethpwyd â’r ffermwr i’r llys yn dilyn y digwyddiad. Mae’r adroddiad papur newydd yn creu darlun byw o’r cyfan. Darllenwch stori llawn Tarw Gwyllt Llangian.

 

 

Nid yw’r stori hon yn stori eiconig yn hanes Cymru ond yn gipolwg ar fywyd yng Nghymru yn nechrau’r 20fed ganrif. Clytwaith o storïau yw Stori Cymru, gyda rhai digwyddiadau yn fwy arwyddocaol na’i gilydd ond pob un yn ddilys. Mae gan y stori hon arwyddocâd bersonol i mi oherwydd mai cymydog i fy nhaid oedd perchennog y tarw gwyllt!

Mae casglu, cadw, diogelu a rhannu hanes Cymru yn y byd yn rhan allweddol o waith y Llyfrgell Genedlaethol. Yr her i’r Llyfrgell, ac i ni fel cenedl, yw gwneud hynny yn y ffordd sy’n dod a’r budd mwyaf i ni heddiw ac i genedlaethau’r dyfodol. Y Llyfrgell yw “cof y genedl” ac mae’n dal i gasglu, rheoli a diogelu dros 20 miliwn o lyfrau, llawysgrifau, archifau, mapiau, lluniau, ffotograffau, papurau newydd, sain, fideo a ffilm.

 

 

Dyma waith sy’n gofyn am arbenigedd a chydweithio ac rydym yn ffodus iawn fod gennym staff profiadol, gwirfoddolwyr ymroddedig, unigolion, cymunedau a phartneriaid i’w gyflawni. Mae’r byd wedi newid, ac yn parhau i newid yn gyflym. Gyda hyn daw cyfleon yn ogystal a heriau. Mae digido wedi dod yn rhan o waith y Llyfrgell ers degawdau bellach ac wedi ein galluogi i rannu’r storïau ledled Cymru â’r byd.

 

 

Her arall yw sicrhau y bydd deunydd digidol gwreiddiol ar gael i genedlaethau’r dyfodol. Er mwyn gwneud hyn mae gofyn i’r Llyfrgell gydweithio â sefydliadau ar draws y byd. Mae deunydd digidol yn cynnig cyfleon cyffrous i ni wella ein dealltwriaeth o “stori” Cymru. Un enghraifft syml fyddai dadansoddi amlder defnydd geiriau dros ddegawdau mewn erthyglau papur newydd. Yn ddi-os bydd datblygiad deallusrwydd artiffisial (artificial intelligence) yn ehangu’r posibiliadau yma ymhellach nag y gallwn ni ei ddychmygu ar hyn o bryd.

 

 

Er yr holl ddatblygiadau technolegol mae grym stori dda yn parhau. Mae hi’n byw yn y cof, yn ein diddanu, ein haddysgu ac yn ein hysbrydoli. Mae clytwaith Stori Cymru’n parhau i dyfu ac mae gan y Llyfrgell rôl allweddol yn y dasg o’i diogelu a sicrhau ei bod yn dal i ysbrydoli a chyfoethogi bywydau ymhell i’r dyfodol.

 

Dr Owain Rhys Roberts
Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd (Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus)

Atgyfodi’r Hen Ganeuon

Cerddoriaeth / Collections / Digido - Postiwyd 17-02-2020

 

Dydd Gwener 28ain Chwefror bydd na ddigwyddiad arbennig yn y Drwm, sef GIG: ATGYFODI’R HEN GANEUON gydag Arfon Gwilym a Sioned Webb.  Tocynnau ar gael yma.

Mae’r ddau yn adnabyddus yng Nghymru fel perfformwyr amryddawn a phrofiadol ym maes cerddoriaeth draddodiadol, yn gantorion a hefyd yn chwarae’r ffidil a’r delyn.  Gwahoddwyd hwy i wneud noson yn y Drwm yn dilyn llwyddiant eu sesiwn ‘O’r Archif’ yn y Tŷ Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, pan wnaethon nhw berfformio caneuon a wnaethon nhw ddarganfod wrth ymchwilio yn archif J. Lloyd Williams.

Pwy oedd J. Lloyd Williams?

Roedd J Lloyd Williams (1854 – 1945),  yn fotanegydd a cherddor a aned yn Llanrwst. Enillodd radd D.Sc. (Cymru) am ei waith ar algâu morol yn 1908, a chafodd radd anrhydeddus D.Mus. (Cymru) yn 1936. Roedd yn un o brif gasglwyr cerddoriaeth gwerin Cymru, bu iddo ran bwysig yn sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, yn 1906, a bu’n olygydd cylchgrawn y gymdeithas.

Golygodd hefyd y cylchgrawn cerddoriaeth cyffredinol ‘Y Cerddor’ rhwng 1931 a 1939 ac, ar y cyd ag Arthur Somerville, lluniodd ddwy gyfrol Sixteen Welsh Melodies, 1907 a 1909. Gellir darllen mwy amdano yn Y Bywgraffiadur

Beth sydd yn archif J. Lloyd Williams?

Llawysgrifau a phapurau cerddorol, 1750 -1945, gan gynnwys cannoedd o ganeuon gwerin a gasglwyd gan Dr J. Lloyd Williams yn ei rôl fel Golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, a phapurau yn ymwneud â’i ymchwil i hanes cerddoriaeth Gymraeg; deunydd yn ymwneud â’i ddiddordeb a’i alwedigaeth ym maes botaneg, a phapurau personol. (53 bocs) Ceir manylion pellach yn y catalog.

Mae’r archif yn cynnwys caneuon a gasglodd J Lloyd Williams ei hun, caneuon a gasglwyd gan grŵp o’r enw’r ‘Canorion’, a gan Ruth Herbert Lewis, Mary Davies a Grace Gwyneddon Davies. Mae’n bwysig hefyd am ei fod yn cynnwys casgliadau hŷn o ganeuon yn llawysgrifau Ifor Ceri, Llywelyn Alaw, a Mari Richards Darowen. Fel telynores tynnwyd sylw Sioned Webb yn arbennig at gyfrol o alawon a chaneuon Cymraeg a Saesneg yn llaw Evan Jones (‘Ifan y Gorlan’), telynor o Gorlan, ger Llanrwst. (AH1/46)

Mae rhai o’r llawysgrifau pwysicaf wedi cael eu digido gan y Llyfrgell, sef:

Cyfrol o alawon, [c. 1815], sef y gwreiddiol o ‘Melus Geingciau [sic] Deheubarth Cymru neu ‘The Melodies of South Wales’, yn cynnwys 56 o alawon, rhai â geiriau, a gasglwyd gan Ifor Ceri ac eraill.

Cyfrol gyfansawdd yn cynnwys dau draethawd yn Gymraeg ar bysgota a theori gerddorol, tair rhestr o deitlau alaw, a chasgliad mawr o alawon, a luniwyd gan John Thomas ar gyfer y ffidil, rhai o ffynonellau printiedig ac eraill wedi’u hysgrifennu i lawr o draddodiad llafar. Cyhoeddwyd yr alawon, gyda nodiadau cysylltiedig, yn Cass Meurig (gol.), Alawon John Thomas: A Fiddler’s Tune Book from Eighteenth-Century Wales (Aberystwyth, 2004).

Dysgwch fwy am gerddoriaeth draddodiadol Cymru a’r Archif Gerddorol Gymreig fan hyn.

Ymunwch â ni i ddathlu Gŵyl Ddewi yng nghwmni Arfon Gwilym a Sioned Webb.

Nia Mai Daniel

Rheolwr Rhaglen | Programme Manager
Yr Archif Gerddorol Gymreig | The Welsh Music Archive

@cerddllgc | @MusicNLW

Cofnodion Newydd ->

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog