Tag Archives: @Wici_LLGC

Postiwyd - 08-07-2019

Blas ar waith / Casgliadau / Heb ei gategoreiddio

Ach Eisteddfodol

Mae cart achau’r Parch. John Bowen (1747-1835), Caerfaddon (sef NLW MS 24111G), yn bryniad diweddar gan y Llyfrgell Genedlaethol sydd o ddiddordeb ar sawl cyfrif.

Mae’r ach yn gopi wedi ei ddiweddaru, yn llaw John Bowen ei hun, o ach gynharach a luniwyd ym 1608 gan Thomas Jones o Borth-y-Ffynnon, Tregaron, yr enwog Twm Siôn Cati. Fe gomisiynwyd honno gan Robert Bowen o Ballyadams, Swydd Laois, Iwerddon, gor-ŵyr i Owein ap Jenkyn, Ynyspenllwch. Roedd John Bowen yntau yn ddisgynydd o’r un llinach ac wedi ei fagu yng Nghasllwchwr.

Mae saith deg pump o arfbeisiau wedi eu paentio ar yr ach, nid gan Bowen ei hun, mae’n debyg, ond yn hytrach gan arlunydd a gomisiynwyd ganddo. Mae’r arfbeisiau unigol yn hardd ond gyda’i gilydd maent yn creu argraff hynod o drawiadol.

 

 

Nodwedd arall sydd yn arbennig o amserol yw’r nodyn a ganlyn ar gychwyn y siart: ‘Examined and confirmed at the Carmarthen Gorsedd July 11th 1819. The Lord Bishop of St Davids President’. Dyma gyfeiriad felly at y cyntaf o’r Eisteddfodau Taleithiol a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ar 8-10 Gorffennaf 1819, union ddwy ganrif yn ôl. Hon oedd yr eisteddfod gyntaf i’w chysylltu gyda dyfeisiad enwocaf Iolo Morganwg, sef Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Sonier i’r Orsedd gyfarfod yng ngardd Gwesty’r Llwyn Iorwg ar fore Sadwrn, 10 Gorffennaf, er mwyn urddo beirdd, derwyddon ac ofyddion. Roedd John Bowen yn bresennol, a chafodd ei urddo yn ofydd.

Hyd y gwyddom, cart achau John Bowen yw’r unig un i gael ei ardystio gan yr Orsedd yn y fath ffordd. Dogfen unigryw felly.

 

Rhys M. Jones

Llyfrgellydd Llawysgrifau Cynorthwyol

Postiwyd - 05-07-2019

Heb ei gategoreiddio

Game of Thrones a chwedloniaeth Gymreig – beth yw’r cysylltiad?

Dyma gofnod gwâdd fel rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i rai o’r llawysgrifau allweddol sy’n cynnwys rhai o destunau mwyaf dylanwadol chwedloniaeth Gymreig ac sydd wedi goroseu hyd heddiw.

Yn ei plith mae Llyfr Gwyn Rhydderch, sy’n cynnwys y fersiwn gynharaf o’r Mabinogi – y storïau mwyaf adnabyddus yn chwedloniaeth Cymru.

 

Nid peth newydd yw bod awduron yn troi at hanes a chwedloniaeth Gymreig am ysbrydoliaeth. Roedd glo Cymru yn dannwydd i’r chwyldro diwydiannol, ac felly hefyd mae awduron wedi cloddio ein mytholeg am dannwydd i yrru boelerdai rhai o gyfresi ffantasi mwyaf poblogaidd y byd.

Y gyfres uchaf ei phroffil o’r rhain yw The Lord of the Rings, ac ynddi mae Cymru wedi dylanwadu popeth o iaith yr ‘Elves’ i briodasau rhwng rhyfelwyr a merched teg arallfydol, ac o gleddyfau tynghedus i deithiau niferus i leoedd tanddaearol tebyg i Annwn.

Mae cyfres Harry Potter hefyd yn llawn tebygrwydd i chwedloniaeth Gymreig. Sylwais yn arbennig ar yr olygfa lle mae’r anfad Arglwydd Voldemort yn cael ei atgyfodi  o grochan mewn rhediad stori sydd yn ddigon tebyg i un y Pair Dadeni yn Ail Gainc y Mabinogi.

 

Mae dylanwad chwedloniaeth Gymreig wedi ymestyn ymhell tu hwnt i’r byd gorllewinol hefyd – mae tua 500,000 o chwaraewyr gan Mabinogi, gêm amlchwaraewr anferth o Corea sydd wedi ei seilio ar y chwedlau o’r un enw.

Y gyfres ffantasi uchaf ei phroffil a’r mwyaf proffidiol ar hyn o bryd yw Game of Thrones. Mae’r olaf o wyth cyfres deledu newydd orffen gyda mwy na 38 miliwn yn gwylio’r bennod gyntaf. Mae dau lyfr arall i ddod, sef The Winds of Winter ac A Dream of Spring, ac mae’n siwr y bydd nifer o ffilmiau a chyfresi deilliedig yn dilyn hefyd.

Mae nifer o gyffelybiaethau rhwng cyfres Game of Thrones a chwedloniaeth a hanes Cymru, ond dyma rai a sylwais arnynt tra’n gwylio a darllen.

Cweryla

Un o’r themâu amlycaf yn y gyfres yw bod o dan warchae gan ‘eraill’ bygythiol – yn achos Game of Thrones, y Cerddwyr Gwyn o ‘du hwnt i’r Wal’.

Efallai mai’r gymhariaeth agosaf i’r stori hon yw’r waliau a adeiladwyd gan y Rhufeiniaid i gadw allan y Pictiaid. Ond mae tebygrwydd hefyd i ddyfodiad yr Eingl-Sacsoniaid i Brydain, a ddisgrifiwyd gan Sieffre o Fynwy ym Mrut y Brenhinoedd fel cosb gan Dduw.

 

Yn bennaf, mae’r Prydeinwyr yn hanes Sieffre yn gadael ei hunain yn ddiamddiffyn i oresgynnwyr drwy ymddwyn yn anfoesol a chweryla ymysg ei gilydd.

Adlewyrchir hyn yn y modd mae’r gwahanol Deuluoedd yng nghyfres George RR Martin yn gwanhau ei hunain yn ystod Rhyfel y Pum Brenin, yn treisio ac yn ysbeilio, heb sylweddoli fod bygythiad llawer mwy ar drothwy Westeros.

Mae tebygrwydd i hanes Prydain hefyd yn y ffaith bod y ‘Dynion Cyntaf’, sy’n siarad yr ‘Hen Iaith’ ac yn addoli’r Hen Dduwiau, yn poblogi ardaloedd ymylol Westeros.

Yn y cyfamser, mae’r Andaliaid o Essos, a ddaeth a’r ‘Iaith Gyffredin’ gyda nhw, wedi goresgyn y rhan fwyaf o’r tiroedd ffrwythlon, heulog a llewyrchus.

‘Fy nheyrnas am ddraig!’

Cadarnhaodd George RR Martin hefyd bod cyffelybiaethau cryf rhwng Game of Thrones a Rhyfeloedd y Rhosod yn y 15fed ganrif, lle chwaraeodd Cymru rhan fawr.

Yn debyg i Joffrey Baratheon yn Game of Thrones, roedd etifeddion ifanc yn Rhyfeloedd y Rhosod – y Tywysogion yn y Tŵr – y credir iddynt gael eu llofruddio i alluogi rhywun arall – Richard III – i gymryd yr orsedd.

Mae rhan Harri VII, a anwyd yn Sir Benfro ond a alltudiwyd dros y môr, ac sydd yn parhau i gynllwynio i gymryd yr orsedd, yn cael ei gymryd gan Daenerys Targaryen.

Yn ogystal â bod o dras Cymreig, glaniodd Harri VII yng Nghymru gan recriwtio lluoedd milwrol yn y wlad cyn eu harwain i fuddugoliaeth ar Faes Bosworth.

 

Coed sanctaidd

Roedd coed megis derw ac yw yn sanctaidd i’r Celtiaid, fel ag y maent i’r ‘Dynion Cyntaf’ sydd dal i ddilyn yr ‘Hen Dduwiau’ yn Game of Thrones.

Nid cyd-ddigwyddiad chwaith yw pren gwyn a dail coch y coed Weirwood sydd yn Godswood yn Game of Thrones. Dyma luwiau’r goruwchnaturiol yn chwedloniaeth Cymru.

Pan ddaw Pwyll ar draws cnud o gŵn ar ddechrau’r Mabinogi – Cŵn Annwn – maent yn wyn â chlustiau coch.

Mae sôn hefyd yn Game of Thrones am Blant y Goedwig, sydd yn addoli anifeiliaid a choed, ac mae tebygrwydd clir rhyngddynt a’r Tylwyth Teg yn chwedloniaeth Cymru.

Anifeiliaid

Llosgach, trais a phobl yn troi i mewn i anifeiliaid – mae gan Game of Thrones ddigonedd o’r tri.

Ond mae’n anodd i George RR Martin wneud hyn yn well na Phedwaredd Cainc Y Mabinogi.

Wedi i Gilfaethwy dreisio morwyn ei ewythr, mae dewin pwerus yn ei droi ef a’i frawd Gwydion yn bâr cyplysol o anifeiliaid; yn gyntaf yn hydd ac ewig, yna yn faedd a hwch, ac yn olaf yn flaidd a bleiddast.

Mae’r ddau frawd yn cymharu tra’u bod yn eu ffurfiau anifeilaidd ac yn cael tri o feibion; Hyddwn, Hychddwn a Bleiddwn.

Yn Game of Thrones mae Joffrey wedi ei eni o berthynas losgachaidd rhwng ei fam a’i brawd.  Mae nifer o gymeriadau hefyd sydd yn medru meddiannu cyrff anifieiliaid cyfagos.

Camdriniaeth

Mae cyfeiriadau cyson yn llyfrau a chyfresi teledu Game of Thrones at ryfel a ddigwyddodd yn y gorffennol a arweiniodd at orseddu Robert Baratheon yn frenin.

Y gwreichionyn a daniodd y rhyfel oedd pan herwgipiodd Rhaegar Targaryen (brawd Daenerys) chwaer Edward Stark a darpar wraig Robert, Lyanna.

Mae Robert a Ned yn mynd ar ei hôl, ac mae hyn yn arwain at ryfel cartref sydd yn dymchwel y Teulu Targaryen. Mae rhai wedi cyfeirio at Helen o Gaerdroia fel ysbrydoliaeth amlwg – yr wyneb a lansiodd fil o longau.

Ond mae yma debygrwydd cryf iawn i stori Branwen ferch Llŷr yn Ail Gainc y Mabinogi.

 

Mae camdriniaeth Branwen gan y brenin Gwyddelig Matholwch yn dechrau rhyfel gyda Phrydain. Mae ei brodyr, Bendigeidfran, Brenin y Prydeinwyr, ac Efnisien, yn mynd ati i’w hachub.

Fel yn Game of Thrones, mae’r cyrff yn pentyrru. Mae’r prif gymeriadau i gyd wedi marw erbyn diwedd y rhyfel rhwng Prydain ac Iwerddon, gan gynnwys Matholwch, Bendigeidfran, Efnisien a Branwen.

Enwau

Mae gan nifer o gymeriadau Game of Thrones enwau Cymreig sydd yn rhoi syniad i ni o’u cymeriad neu eu ffawd.

Un o’r rhai mwyaf amlwg yw ‘Tyrion’ – enw sydd yn agos iawn i’r gair Cymraeg ‘tirion’.

Mae’r corrach, er ei fod yn gallu bod yn greulon, yn un o gymeriadau mwyaf hoffus y gyfres oherwydd y gamdriniaeth mae ef ei hun yn ei ddioddef.

Ond cymeriad Bran Stark yw’r enghraifft fwyaf amlwg o George RR Martin yn cael ysbrydoliaeth o chwedloniaeth Gymreig.

Mae tebygrwydd amlwg rhyngddo a’r cymeriad chwedlonol Bran, neu Bendigeidfran fel y gelwir ef yn y Mabinogi.

 

Mae Bran yn Game of Thrones yn datblygu pwerau arbennig wedi iddo golli defnydd ei goesau ar ôl cael ei daflu o ffenestr uchel mewn castell.

Mae ei goesau hefyd yn fan gwan i Bendigeidfran, ac mae ei bwerau yn cynyddu wedi iddo gael ei ‘ladd’ gan waywffon yn ei droed.

Fel y Bran sy’n cael ei gario o gwmpas Westeros gan Hodor, mae Bran y Mabinogi yn cael ei gario o gwmpas Prydain cyn cael ei gladdu ar y Gwynfryn (safle Tŵr Llundain heddiw).

Gwaed

Mae Game of Thrones yn adnabyddus iawn am fod yn arbennnig o waedlyd, ac mae hynny yn deillio o ddylanwad mytholeg Cymreig hefyd.

Mae gan Ramsey Bolton (sy’n cael ei chwarae gan y Cymro Iwan Rheon) hoffder o ddatgymalu cyrff sydd yn debyg iawn i hanner brawd drygionus Bendigeidfran, Efnisien.

Mae’r Efnisien gwallgof yn mwynhau torri clustiau a gwefusau, gwasgu pennau pobl gyda’i ddwylo, a llosgi plant bychain yn fyw.

Mae hanes Cymru hefyd yn llawn trais. Mae rhai pobl wedi tynnu sylw at y tebygrwydd rhwng y Briodas Goch, ble mae’r teuluoedd Stark a Tully yn cael eu llofruddio yn ystod priodas a gynhalwyd gan yr Arglwydd Walder Frey, a’r lladdfa yng Nghastell Y Fenni ar Ddydd Nadolig 1175.

Yno, gwahoddodd y barwn Normanaidd, William de Braose, un o benaethiaid y Cymry, Seisyll ap Dyfnwal, i wledd yn y castell, cyn cloi’r drysau a’i lofruddio ef a’i ddynion i gyd.

Gwreiddiau

Mae’n drawiadol faint o bobl yng Nghymru sydd yn gyfarwydd â’r hanesion hyn yn ail-law drwy storïau Tolkien, Martin a Rowling, ond nad ydynt yn ymwybodol fod iddynt wreiddiau Cymreig.

Mae llawer o waith i’w wneud yng Nghymru i ddod i wybod am ein hanes a’n chwedloniaeth ni ein hunain. Dyna pam yr ysgrifennais fy nhrydedd nofel, Dadeni,  er mwyn cyflwyno nifer o bobl newydd yng Nghymru i’n chwedloniaeth ni ein hunain.

Os nad ydych wedi gwneud hynny eisioes, beth am ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol neu ddewis llyfr am hanes neu chwedloniaeth Cymru.

Efallai y cewch eich ysbrydoli i ysgrifennu y Game of Thrones nesaf!

Ifan Morgan Jones

Postiwyd - 03-07-2019

Casgliadau / Darganfod Sain / Sgrin a Sain

Fy Mhrofiad yn gweithio ar y prosiect Datgloi ein Treftadaeth Sain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yma mae Oscar Seager, un o wirfoddolwyr Datgloi ein Treftadaeth Sain, yn siarad am ei brofiad o weithio ar Gasgliad Archif Sain Drake.

Ers dechrau gwirfoddoli yn adran Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar y prosiect Datgloi ein Treftadaeth Sain o fis Chwefror ymlaen eleni, rwyf wedi gwrando ar nifer o wahanol glipiau sain sydd yn Archif Sain Drake.  Er bod y clipiau hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar bynciau’n ymwneud â busnesau fel roeddent yn codi yng Nghlwb Busnes Caerdydd cefais fy synnu gan yr amrywiaeth o sgyrsiau a gafwyd.

Cafodd llawer o’r clipiau rwyf i wedi gwrando arnynt eu recordio yn 1998. Serch hynny, yn fwy diweddar, mae nifer o’r clipiau wedi camu ymlaen  i’r 21ain ganrif.   Pynciau’n ymwneud â’r Ewro oedd y rhan fwyaf o’r rhai a drafodwyd yn y cyfnod hwn ynghyd â phryderon a wynebai pobl wrth uno o dan arian sengl o ran masnach.   Fodd bynnag, cafwyd clipiau eraill ar bynciau gwahanol a roddai gipolwg diddorol ar bethau na fyddwn i byth wedi dod ar eu traws yn fy astudiaethau  academaidd yn fy nghwrs Hanes.  Dyma enghraifft neu ddwy: gwneud ffilmiau (a gafodd, er syndod, ei drafod gan Richard Attenborough) neu’r trafodaethau ar hap mwy byrfyfyr megis manteision alcohol ar y corff (a drafodwyd gan  Dr Thomas Stuttaford).   Er bod gen i ddealltwriaeth sylfaenol o’r hyn oedd yn cael ei drafod mewn unrhyw glip, mae gallu gwrando ar unigolyn proffesiynol yn trafod y llwybr gwaith hwnnw yn bwysig i fi.

 

 

Er hynny,  nid yn unig y ffaith bod y clipiau hyn yn ddiddorol sy’n gwneud fy ngwaith gwirfoddol yn y prosiect hwn yn werth chweil i fi ond hefyd gwybod nad yw’r tapiau hyn yn cael eu gosod o’r neilltu bellach.  Yn hytrach, maent ar gael yn awr yng nghatalog y Llyfrgell Brydeinig i eraill wrando arnynt, gan wirioneddol ddatgloi ein treftadaeth sain i bawb fanteisio’n llawn arni!   Wrth weld fy ngwaith fy hun ar gatalog y llyfrgell, cefais ymdeimlad o falchder a llwyddiant gan fy mod i’n cyfrannu’n ddyfal at hanesyddiaeth a hefyd ar yr un pryd yn ennill profiad gwerthfawr ar gyfer fy MA mewn Gweinyddu Archifau.

Postiwyd - 01-07-2019

Arddangosfeydd / Casgliadau

50 mlynedd ers yr Arwisgo

Yn union 50 mlynedd yn ôl, ar 1af Gorffennaf 1969, cafodd Tywysog Siarl ei arwisgo fel Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon. Roedd yr arwisgo yn ddigwyddiad dadleuol iawn, gan arwain at brostestiadau mawr yn ei erbyn.  Yn yr un modd, roedd tipyn yn cefnogi’r arwisgiad, yn arbennig Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, George Thomas.

 

 

Mae Rhodri Evans wedi bod yn ymchwilio’r ymateb radicalaidd i’r arwisgo ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yr wythnos hon fydd arddangosfa ar yr ymateb radicalaidd yn cael ei gynnal yn Ystafell Summers.

 

Bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan ddydd Gwener 5ed Gorffennaf ac yn cynnwys deunydd o gasgliadau print, archifol a sgrin a sain y Llyfrgell. Dewch yn llu!

 

 

Rob Phillips
Archif Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Archif Wleidyddol Gymreig

 

Postiwyd - 28-06-2019

Collections

Cytundeb Versailles: yng ngeiriau’r rhai oedd yno

Digwyddodd arwyddo cyntaf Cytundeb Versailles 100 mlynedd yn ôl i heddiw, yn yr ‘Hall of Mirrors’ yn Versailles, ger Paris. Er fod ymladd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi dod i ben gydag arwyddo’r cadoediad ar 11 Tachwedd 1918, fe gymerodd 6 mis o drafodaethau yng Nghynhadledd Heddwch Paris i gytuno ar Gytundeb Versailles. Roedd y cytundeb yn amlinellu telerau’r heddwch rhwng yr Almaen a’r Pwerau Cynghreiriol.

Yn y fideo hwn, dysgwch fwy am y Gynhadledd Heddwch a’r trafodaethau a ffurfiodd Gytundeb Versailles, gyda’n harbenigwr, Rob Phillips, fydd yn eich tywys trwy’r dogfennau gwreiddiol sy’n taflu goleuni ar denysiynnau’r trafodaethau.

Roedd Prif Weinidog Prydain, David Lloyd George yn un o’r ‘Big Three’ a lywiodd Cytundeb Versailles, a gallwch ddysgu mwy amdano yn ein harddangosfa ddigidol, David Lloyd George.

Gallwch hefyd ddarllen llythyrau ei ysgrifennydd personol ar y pryd, Frances Stevenson, a ddanfonwyd o Baris at ei theulu. Maent yn cynnig cipolwg ar ddigwyddiadau’r Gynhadledd, ond hefyd i feddyliau David Lloyd George ei hun. Mae’n ysgrifennu fod y Prif Weinidog yn meddwl fod y Cytundeb yn ddogfen ofnadwy, ‘terrible document’, roedd ef wrth gwrs yn teimlo’n gryf na ddylid cosbi’r Almaen yn eithafol.

Postiwyd - 21-06-2019

Arddangosfeydd / Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Stori Cymru

Cerddoriaeth Cymru: Gwerin, Protest a Phop

Fe ddisgrifir Cymru yn aml fel gwlad y gân. Ond ym mha le dechreuodd ein traddodiad cerddorol, a sut y datblygodd?

Mae ein harddangosfa newydd – ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’ yn archwilio traddodiad cerddorol Cymru ar hyd y canrifoedd; o’r crwth i’r Cyrff, drwy ddefnyddio amrywiol eitemau o’r Archif Gerddorol Gymreig a’r Archif Sgrin a Sain.

Dyma Nia Mai Daniel o’r Archif Gerddorol i esbonio ymhellach …

 

 

Gwreiddiau
Er bod Cymru’n cael ei hadnabod fel ‘Gwlad y Gân’, does gennym ni ddim cof arbennig o weithiau cerddorol cynnar. Traddodiad llafar yw’n traddodiad gwerin, gyda thelynorion a baledwyr yn teithio ar hyd a lled y wlad, yn difyrru’r werin mewn marchnadoedd a thafarndai, gan gadw’r alawon ar eu cof.

Erbyn y ddeunawfed ganrif cofnodwyd alawon ar bapur, ac aeth nifer o bobl amlwg ati i gasglu’r rhain yn ddiweddarach; dim ond trwy waith diflino unigolion fel Nansi Richards, J Lloyd Williams a Meredydd Evans yr achubwyd a gofalwyd am ein traddodiad gwerin.

Mae sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906 a’r adfywiad yn y traddodiad gwerin yn yr 1970au, pan bu i ganu gwerin gyd-fyw ochr yn ochr â chanu poblogaidd, hefyd wedi cyfrannu’n fawr at ddiogelu’r traddodiad.

 

Merêd
Roedd Meredydd Evans, neu Merêd, yn ffigwr hollbwysig yn natbylgiad cerddoriaeth yng Nghymru . Treuliodd ei fywyd yn cyfrannu at fywyd a diwylliant Cymru fel casglwr, hanesydd, cerddor, golygydd, cenedlaetholwr ac ymgyrchydd brwd dros yr iaith.

Casglodd Merêd a’i wraig Phyllis Kinney ganeuon a oedd wedi bod mewn perygl o ddiflannu, a chredai nad oedd modd i’r traddodiad dyfu ac addasu heb roi bywyd i’r caneuon hynny a ddarganfyddodd yn y llawysgrifau a’r sgorau hynafol.

Yn ogystal â’i waith fel casglwr, roedd Merêd hefyd yn berfformiwr talentog, a recordiodd ddetholiad pwysig o ganeuon i label Folkway Records yn Efrog Newydd yn 1954. Am ddegawd o 1963 ef oedd pennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru, a gweithiodd yn ddiflino i greu rhaglenni adloniant ysgafn Cymreig hynod boblogaidd.

 

Chwyldro
“Mae’n hen bryd cael mwy o ganu eithafol yng Nghymru heddiw, mwy o sgrechfeydd a drwmiau gwyllt…” oedd geiriau un o aelodau’r grwp roc Cymraeg cyntaf, Y Blew, a ffurfiwyd yn 1967.

Roedd Cymru’r 60au a’r 70au yn wlad a welodd gyffro gwleidyddol yn ogystal â cherddorol. Daeth canu gwerin a phop ysgafn yn boblogaidd iawn, a sefydlwyd y label recordio Cymraeg cyntaf, Sain, ym 1969. Ond yr hyn a wthiodd cerddoriaeth bop Cymraeg yn ei blaen oedd y gân brotest. Yn lle cyfansoddi caneuon serch roedd artistiaid ifainc yn mynd a’u gitârs i’r dafarn a chanu caneuon dychanol a gwleidyddol.

Erbyn yr 1980au daeth to newydd o fandiau a labeli recordio i’r wyneb, rhai a oedd yn creu sŵn gwahanol iawn i’r pop a arferwyd ei glywed ar lwyfannau a thonfeddi radio’r wlad. Roedd bandiau fel Anhrefn, Datblygu, Llwybr Llaethog a’r Cyrff yn arbrofol ac yn chwyldroadol.

 

Gorwelion
Yn ystod yr 1990au roedd llawer o fandiau yn canu caneuon yn yr iaith Gymraeg yn ogystal â chynhyrchu cerddoriaeth yn Saesneg, fel Catatonia, Super Furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci. Cafodd eu cerddoriaeth ei glywed gan gynulleidfa ehangach, a arweiniodd at ddiddordeb cynyddol yn yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ar draws y byd.

Erbyn yr 1990au hwyr a dechrau’r unfed ganrif ar hugain, roedd yr iaith Gymraeg yn cael ei chyfleu trwy sawl arddull gwahanol, o hip hop, reggae a ska ac yn ôl i wreiddiau’r traddodiad gwerin.

Heddiw, mae’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru yn fyw ac yn iach, gyda thoreth gyfoethog o artistiaid talentog yn ysgrifennu, recordio a pherfformio yn y Gymraeg a mwy nag erioed o labeli annibynnol yn gweithio i ryddhau recordiau Cymreig.

 

Mwy o wybodaeth am arddangosfa RECORD: Gwerin, Protest a Phop (22 Mehefin 2019 – 1 Chwefror 2020)

Postiwyd - 11-06-2019

Casgliadau / Cerddoriaeth

Mansel Thomas: cerddor o fri

Wythnos hon, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn coffau 110 mlynedd ers genedigaeth Mansel Thomas, un o gyfansoddwyr a cherddorion campus Cymru. Cafodd ei eni ar 12 Mehefin 1909 yn y Rhondda a wnaeth ei farc fel cerddor dylanwadol. Gweithiodd i’r BBC am ddeng mlynedd ar hugain gyda Cherddorfa Gymreig y BBC, oedd newydd ei ffurfio ar y pryd, ac yna fel Pennaeth Cerddoriaeth BBC Cymru. Mae’r dyddiad a fyddai wedi bod yn benblwydd arno yn gyfle i ni ddathlu ei fywyd a’i gyfraniad nodedig i gerddoriaeth yng Nghymru.

 

 

Bydd arddangosfa fechan o’i waith o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol wedi’i osod yn Ystafell Summers i gyd-fynd â sgwrs gan Terence Gilmore-James ar y dyn ei hun ar 12 Mehefin 2019. Dyma cip ar yr eitemau bydd ar ddangos:

 

  • Llyfr gwaith cerddoriaeth a luniwyd yn ystod y cyfnod 1918-1925, gyda’r darnau cynharaf wedi’u copïo gyda chymorth ei dad, Theophilus Thomas. (Mansel Thomas Music Manuscripts, J1/1)

 

  • Cyfrol sy’n cynnwys sgôr lawn o’r gantawd ‘God is our hope and strength’ gyda geiriau o Salm 46, a gyflwynwyd fel rhan o’i radd B.Mus. o Brifysgol Durham, [1930]. (Mansel Thomas Music Manuscripts, J1/60)

 

  • Cyfansoddiad buddugol ‘Chwech o ganeuon unsain’ gyda chyfeiliant syml cyfaddas i ysgolion babanod yn Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru Aberafan-Port Talbot, 1932. (Eisteddfod Genedlaethol Cymru – cyfansoddiadau a beirniadaethau, 1932/39)

 

  • Sgôr llawysgrif ‘To Daffodils (Cennin Aur)’ cyfansoddwyd yng nghanol/diwedd y 1920au yn arbennig ar gyfer Côr Meibion Pendyrus a oedd newydd ei ffurfio. (Mansel Thomas Music Manuscripts, M1/1)

 

  • Sgôr lleisiol o’r anthem ‘Blest are the pure in heart’, a gyfansoddwyd gan Mansel Thomas ar gyfer y côr ac organ ar gyfer Terence a Grace ar achlysur eu priodas, 1965. (Mansel Thomas Music Manuscripts, P2/14)

 

  • Sgôr cerddorfa ‘God bless the Prince of Wales’ gan Brinley Richards, wedi’i addasu a’i drefnu ar gyfer cerddorfa gan Mansel Thomas ar gyfer Arwisgiad EUB Tywysog Cymru yng Nghaernarfon, Gorffennaf 1969. (Mansel Thomas Music Manuscripts, M4/2i)

 

  • Brasluniau rhagarweiniol o sgôr lleisiol o ‘Requiem’ gan Mansel Thomas. Hefyd, rhai llythyrau oddi wrth Megan Thomas, gwraig y cyfansoddwr, at Ian Parrott, yn trafod argraffu’r symudiad cyntaf. (Mansel Thomas Music Manuscripts, P2/18; UW Aberystwyth Department of Music Archives, 18/2)

 

  • Sgôr lleisiol o ‘Mass for mixed voices’ mewn pum symudiad a threfniant ar gyfer unawd lleisiol a cherddorfa linynnol o ‘Wrth fynd efo Deio i Dowyn’, 1943. (Mansel Thomas Music Manuscripts, P2/17; T2/11.)

 

Mae llawysgrifau cerddorol Mansel Thomas wedi cael ei gatalogio yn ddiweddar fel rhan o Raglen Yr Archif Gerddorol Gymreig. Gallwch weld y disgrifiadau o’r archif fan hyn. Darllenwch fwy am fywyd y cerddor ar flog y Llyfrgell (Cymraeg yn unig).

 

Robert Evans
Swyddog Prosiect yr Archif Gerddorol Gymreig

Postiwyd - 07-06-2019

Collections / Stori Cymru

Llenyddiaeth Stryd: Almanaciau Cymraeg

 

Almanaciau oedd hoff ddeunydd darllen siaradwyr uniaith Gymraeg o ddechrau’r 17eg ganrif.

Roedd llenyddiaeth fforddiadwy fel yr almanac yn boblogaidd gyda’r dosbarthiadau is, a oedd yn ffurfio rhan fwyaf poblogaeth Cymru. Rhwng c. 1545 a 1801, gwelwyd cynnydd aruthrol ym mhoblogaeth Cymru – a dweud y gwir, gwelwyd e’n mwy na dyblu. Roedd y mwyafrif o’r rhain yn siaradwyr uniaith Gymraeg.

Ond beth yn union yw almanac, a beth drodd hwn yn gymaint o ffefryn?

Nodwedd ddiffiniol yr almanac yw ei galendr blynyddol, ac yn hynny o beth, mae’n ei hanes yn dyddio’n ôl ymhell cyn y wasg brintiedig. Roedd y Dwyrain agos yn cynhyrchu testun a ystyrir i fod yn almanaciau mor bell yn ôl â 500BC. Fodd bynnag, dim ond ar ôl datblygiad argraffu tyfodd yr almanaciau yn eu poblogrwydd.

Cynhyrchwyd yr almanac cyntaf, yn Ewrop yn 1457. Argraffwyd almanaciau blynyddol yn Lloegr o ddiwedd yr 16eg ganrif, ac mi ddatblygont i fod yn werthwyr arbennig yn ystod y canrifoedd dilynol. Dilynodd yr almanac Cymraeg cyntaf yn fuan wedyn.

 

 

Mae stori’r almanac Cymraeg yn dechrau gyda Thomas Jones (1648-1713), mab i deiliwr o Dre’r Ddôl ger Corwen.

Yn 1679, pan yn 18 mlwydd oed, derbyniodd batent ar gyfer ysgrifennu a chyhoeddi almanac cyfrwng Cymraeg blynyddol. Cyhoeddwyd y rhain yn Llundain, o dan y teitl ‘Newyddion Oddi Wrth y Ser’.

Roedd almanaciau Jones rhwng 20 a 24 dalen o hyd. Roeddent yn cynnwys, ynghyd â chalendr blynyddol arferol, deunydd a luniwyd ar gyfer ei gynulleidfa.

Roedd yr almanaciau cyntaf yn cynnwys:

  • Adroddiadau tywydd a chyfnodau’r lleuad
  • Rhestr o farchnadoedd a ffeiriau
  • Canllawiau seryddol a darlleniadau
  • Gwyliau Cristnogol
  • Tablau’r llanw
  • Canllawiau darllen iaith Gymraeg
  • Enghreifftiau o lenyddiaeth Gymraeg a barddoniaeth
  • Cronoleg o ddigwyddiadau hanesyddol
  • Hysbysebion amrywiol

 

 

Roedd almanaciau Jones yn adnoddau defnyddiol ar gyfer y werin Gymreig, yn arbennig ffermwyr; ystyriwch er enghraifft, eu deunydd yn ymwneud â’r amgylchedd a’r tywydd. Roedd y nodweddion seryddol hefyd yn bwydo eu credoau ofergoelus. Roedd Jones yn adnabyddus fel cefnogwr ysgrifenwyr Cymreig, amatur, ac roedd yn cynnig llwyfan printiedig iddynt trwy ei almanac.

Roedd almanac Thomas Jones yn unigryw tan 1695, pan ddoeth y ddeddf Argraffu (a oedd wedi cyfyngu cyhoeddi llyfrau i Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt) i ben. O hynny ymlaen lledodd y diwydiant argraffu trwy Lloegr a Chymru, gan sbarduno cynnydd yn nifer y teitlau almanaciau Cymraeg. Mi arhosodd eu cynnwys serch hynny, yn agos iawn at fformat gwreiddiol Jones.

Mae’r almanac Cymraeg yn aros ar wahân i’w gefndryd Ewropeaidd. Roedd eu cynnwys yn amrywio o wybodaeth feddygol almanaciau canoloesol Lloegr i ddosraniad gweinyddol Ffrainc; fel yr ymddangosodd yn ‘Royal Almanac’ Ffrainc, a sefydlwyd yn 1683. Cynhwysir ‘Barbanera’ yr Eidal (a gyhoeddwyd gyntaf yn 1762) ar gofrestr Cof y Byd UNESCO, sy’n rhoi argraff glir o werth yr almanac.

Yn sicr nid yw’r almanac Cymraeg yn eithriad. Mae’n adnodd pwysig, nid yn unig yn nhermau hanes llenyddol, brodorol a chymdeithasol, ond hefyd fel gwaith o bwys treftadol arbennig.

Steffani W Davies, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Postiwyd - 06-06-2019

Casgliadau

D-Day 75: Cofio glaniadau Normandi

Saith deg pump o flynyddoedd yn ôl, ar ddydd Mawrth y 6ed o Fehefin 1944, glaniodd y lluoedd Cynghreiriol ar draethau Normandi fel rhan o’r ymgyrch morwrol, tir ac awyr mwyaf yn hanes. Marciodd D-Day gychwyn ar ymgyrch hir, wedi’i enwi’n ‘Operation Overlord, i ryddhau gogledd-orllewin Ewrop o feddiant y Natsïaid.

 

Ymosododd degau o filoedd o filwyr, yn bennaf o’r DU, yr UD a Chanada, ar fyddinoedd yr Almaen ar bum traeth ar arfordir gogledd Ffrainc: Utah, Omaha, Gold, Juno a Sword. Yn oriau man y bore hwnnw, glaniodd miloedd o awyr filwyr tu ôl i linellau’r gelyn cyn i’r milwyr traed a’r adrannau arfog ddechrau glanio ar y traethau. Cefnogwyd hwy gan bron i 7,000 o longau milwrol.

 

Cychwynnodd y gwaith o gynllunio Operation Overlord misoedd lawer cyn yr ymosodiad. Roedd dros ddwy filiwn o filwyr o dros 12 gwlad wedi cyrraedd ym Mhrydain erbyn 1944 fel rhan o’r paratoadau. Roedd hyn yn cynnwys bataliwn o filwyr Americanaidd oedd yn aros yng ngwersyll Island Farm ym Mhen-y-bont. Cafodd y cytiau eu hadeiladu’r wreiddiol ar gyfer gweithwyr yn y ffatri arfau cyfagos ond yr oedd yn wag hyd nes dyfodiad yr Americanwyr yn Hydref 1943. Dywedir bod y Cadfridog Dwight D. Eisenhower ei hun wedi ymweld â’r gwersyll yn Ebrill 1944 I gyfarch y milwyr cyn iddynt adael i Ffrainc. Yn hwyrach yn y Rhyfel, defnyddiwyd Island Farm fel gwersyll carcharorion rhyfel ar gyfer swyddogion yr Almaen. Darllenwch fwy am hanes y gwersyll ar Gasgliad y Werin Cymru.

 

 

Ymunodd Leslie Illingworth (1902-1979), y cartwnydd gwleidyddol Cymreig, â’r Daily Mail  yn 1939 ac mae canran uchel o’i waith cynnar a gedwir yma yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ymwneud â thestun yr Ail Ryfel Byd. Mae ei ddarluniad o’r glaniadau yn Normandi, sy’n ddyddiedig y 9fed o Fehefin 1944, yn gal war steil Tapestri Bayeux. Mae’n dangos y Cynghreiriaid yn ymosod ar yr Almaenwyr ar y traethau. Uwch eu pennau mae Churchill, Montgomery ac Eisenhower, ac ar yr ochr mae Hitler, ynghyd â’i gadfridogion arall, yn edrych ymlaen yn ofidus.

 

Erbyn diwedd D-Day, roedd y Cynghreiriaid wedi sefydlu troedle bychan yn Ffrainc. Fe wnaeth hyn arwain at ryddhau Paris ac, yn y pendraw, buddugoliaeth dros y Natsïaid. Cafodd dros 150,000 o filwyr Cynghreiriol eu danfon i arfordir Normandi ar y diwrnod hwnnw, gyda 10,000 o gerbydau milwrol. Bu farw tua 4,400 o’r dynion yma ac anafwyd 10,000 arall.

 

“At dawn’s first light on 6th June our longest day began.” (NLW Facs 1028)

Postiwyd - 03-06-2019

Casgliadau

Emyr Humphreys yn 100

Yn ddiweddar, dathlodd Emyr Humphreys, un o nofelwyr enwocaf a mwyaf blaengar Cymru, ei ben-blwydd yn gant oed. Mae ei ddylanwad ar lenyddiaeth Gymreig wedi bod yn sylweddol. Yn wir, cafodd ei ddisgrifio gan y bardd R. S. Thomas fel ‘the supreme interpreter of Welsh life’.

Ganwyd Emyr Humphreys yn Nhrelawnyd ger Prestatyn, Sir y Fflint. Mynychodd Ysgol Uwchradd Rhyl cyn symud ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol a bu’n gweithio ar fferm cyn cael ei ddanfon i’r Dwyrain Canol a’r Eidal yn weithiwr cymorth yn 1944 ac 1946. Wedi’r rhyfel bu’n gweithio fel athro, cynhyrchydd gyda’r BBC ac, yn hwyrach, fel darlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor cyn gadael i ganolbwyntio ar ei ysgrifennu yn 1972.

 

 

Mae Emyr Humphreys wedi cyhoeddi dros ugain o nofelau ac wedi ennill sawl gwobr am ei waith, gan gynnwys Gwobr Maugham Somerset am Hear and Forgive yn 1953, a Gwobr Hawthornden am A Toy Epic yn 1958. Enillodd hefyd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 1992 am Bonds of Attachment, ac eto yn 1999 am The Gift of a Daughter. Yn ogystal, enillodd wobr gyntaf Siân Phillips am ei gyfraniad i radio a theledu yng Nghymru yn 2004. Ynghyd â rhyddiaith, mae’r awdur hefyd wedi troi ei law at farddoni ac ysgrifennu ffeithiol, yn cynnwys The Taliesin Tradition (1983) sy’n edrych ar hunaniaeth Cymru drwy lenyddiaeth a hanes Cymreig.

Cafodd ei archif gynhwysfawr ei brynu gan y Llyfrgell Genedlaethol yn 1994 a gellid pori’r cynnwys drwy’r Catalog Archifau a Llawysgrifau. Yn bennaf, mae’n cynnwys ei ohebiaeth bersonol a phroffesiynol, a chopïau teipysgrif a llawysgrif o’i weithiau cyhoeddedig ac heb eu cyhoeddi. Mae’r archif yn un swmpus – 79 bocs i gyd – sy’n destament i’w yrfa faith yn ysgrifennu a barddoni am fywyd yng Nghymru.       

Hoffai’r Llyfrgell Genedlaethol dymuno’n dda iddo ar yr achlysur arbennig hwn.

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog