Tag Archives: Mumph

Postiwyd - 09-12-2019

Casgliadau

Llofruddion a lladron Pen-ffordd: Y genre trosedd a chosb yng Nghymru’r 19eg Ganrif

Ymhlith bywgraffiadau’r pregethwyr, gwleidyddion, diwygwyr cymdeithasol, ffigyrau rhyngwladol, beirdd, awduron a cherddorion yn ein casgliad o fywgraffiadau’r 19eg ganrif yn y Casgliad Print Cymreig mae categori amlwg arall o weithiau, sef bywgraffiadau troseddwyr a drwgweithredwyr. O Making a Murderer i All Killa No Filla, Serial neu They Walk Among Us mae’r genre trosedd a chosb yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd yn yr oes ddigidol gyfoes. Mae’r bywgraffiadau yma o’r 19eg ganrif yn ein hatgoffa nad ydy hyn yn ffenomena newydd, yn wir gellid dadlau mae yn y ganrif honno, gyda dyfodiad y gwasg ceiniog, y gwelwyd genedigaeth y genre fel un poblogaidd torfol. Bydd blog heddiw yn edrych ar ddwy esiampl o’r genre, un yn esiampl cynnar sy’n delio gyda hanes llofrudd o’r Hwlffordd, a’r llall yn esiampl o’r 1830au yn adrodd hanes y lleidr pen ffordd enwog Dick Turpin.

 

 

Mae Cyffes John Griffiths (1811) yn esiampl gynnar a weddol nodweddiadol o’r fath yma o fywgraffiad. Mae’r pamffled yn adrodd hanes John Griffiths, llofrudd a fu’n gyfrifol am wenwyno ei ddwy wraig rhwng 1808 a 1810, y gyntaf ar ôl dweud wrthi ei fod angen gwenwyn i ladd llygod a’r ail, Mary Thomas, ar ôl gosod gwenwyn yn ei thriagl a griawl. Gafodd Griffith ei harestio a’i chwilio’n euog o lofruddiaeth Mary, fuodd ond yn briod iddo am 8 wythnos, a dim ond ar ôl ei dedfrydu gwnaeth Griffiths gyfaddef i ladd ei wraig gyntaf mewn cyffes i bregethwr ac yna, yn gyhoeddus, ar y grocbren. Mae’r pamffled yn nodi fod Griffiths wedi dod o dan amheuaeth ar ôl i gymdogion cofio sylwadau roedd wedi neud tra oedd Mary dal yn fyw ei fod ei wraig yn sâl ac wedi chwyddo a’i fod wedi cael gweledigaeth ohoni wedi ei gosod allan ar ford gyda chanhwyllau o’i chwmpas.

 

Fel llawer o bamffledi tebyg o’r 19eg ganrif ar y wyneb mae yna neges grefyddol i’r pamffled. Mae’n ceisio dysgu gwers i’w darllenwyr i beidio dilyn llwybrau dinistriol trwy ymfalchïo yn ei hunain yn ormodol, pechod honedig John Griffiths. Mae’r elfen grefyddol yn cael ei bwysleisio ar ddiwedd y pamffled gyda Griffiths yn cyffesu i Dduw, ond mae’n ddiddorol fod y pamffled yn cynnwys troednodyn yn nodi ei fod yn adrodd “Dywediadau anaddas i Dduw” pan, wrth atgofio ei phlentyndod anodd a thlawd, mae Griffiths yn ddatgan “O na byddai i Dduw gymmeryd gofal mwy am fy mhlentyn nag y gwnaeth am danaf fi”.

 

Wrth gwrs, i ryw raddau roedd yr elfen grefyddol yma yna i roi sglein o barchusrwydd i bamffled oedd, yn y bôn, yn ymateb i ddiddordeb y cyhoedd yn hanesion troseddau o’r fath. I’r llygad modern mae yna elfennau eraill yn dod i’r golwg. Yn gyntaf gallwn nodi’r rôl achlysurol bron mae’r ddwy wraig yn chwarae yn yr hanes. Mae’r ffocws bron i gyd ar hanes, trosedd a thrawsnewidiad John Griffiths, yn wir mae’n nodi mae “sylwedd yr hanes galarus presennol yw, John Griffiths”. Dydy’r pamffled ddim hyd yn oed yn enwi’r wraig gyntaf ac mae hithau a Mary Thomas ond yn ymddangos yn y pamffled fel dioddefwyr. Yn ail, mae’r pamffled yn gydymdeimladol i Griffiths yn enwedig yn dilyn ei drawsnewidiad crefyddol, hyd yn oed yn nodi, heb feirniadaeth, ei fod wedi siarad “yn y modd mwyaf parchus am ei wraig” a’i fod yn dymuno “os caniateid, i’w esgyrn gael eu claddu wrth ei hochr.”

 

Mae Bywyd Turpin Leidr (1835) yn cynnig math arall o fywgraffiad trosedd a chosb, y tro yma un oedd yn cynnig hanes anturus, rhamantaidd o fywyd troseddwr. Fel Cyffes John Griffiths mae cyhoeddwyr y llyfryn yn amddiffyn y cyhoeddiad trwy nodi mae ei bwrpas yw rhybuddio’r darllenydd rhag dilyn y llwybrau anghywir gan nodi “Nid ynt mewn un modd yn anogaeth i ddrygioni.” Mae’r llyfryn yn gyfieithiad o The Life of Richard Turpin, a Notorious Highwayman (1800), ac mae’n bosib fod y cyhoeddwr, John Jones, Llanrwst, wedi manteisio ar gyfle i gyhoeddi gwaith ar Turpin yn sgil poblogrwydd y rhamant hanesyddol Rockwood gan William Ainsworth, gafodd ei gyhoeddi’r flwyddyn cynt. Rockwood oedd y gwaith na’th boblogeiddio Turpin fel cymeriad rhamantaidd, ond rydym yn medru gweld rhai o’r elfennau o’r chwedl yma yn Bywyd Lleidr Turpin.

 

Tra bod y llyfryn yn adrodd hanes ei fywyd troseddol fel ysbeiliwr gyda’r Essex Gang a hwyrach fel lleidr pen ffordd mae’r ddelwedd o Turpin sy’n cael ei gyflwyno yn un o ffigwr ataliol yn enwedig o ran y defnydd o drais a chreulondeb, ac fel dyn feiddgar a mentrus. Yn wir mae’n ddiddorol cymharu’r llyfryn yma gyda gwaith Robert Bayes, The Genuine History of Richard Turpin (1739), lle yn un digwyddiad roedd rhaid i un o gymdogion Turpin ei ddarbwyllo o ysbeilio dwy ferch ifanc; yn Bywyd Turpin Leidr mae’r rolau wedi ei gwrthdroi. Hwn oedd hefyd un o’r hanesion gyntaf i son am ei reid chwedlonol ar gefn ceffyl o Lundain i Gaerefrog ac mae hefyd mewn un rhan, yn ceisio cyflwyno Turpin fel ffigwr tebyg i Robin Hood. Yn ôl yr hanesydd James Sharpe mae’r gwirionedd yn tra gwahanol, roedd Turpin yn droseddwr treisgar a chreulon, yn hapus i dwyn o’r cyfoethog a’r tlawd.

 

Un elfen nodedig arall o Bywyd Lleidr Turpin yw beth ddigwyddodd i gorff Turpin ar ôl ei dienyddiad, digwyddiad sydd wedi ei chefnogi gan ffynonellau eraill. Cludwyd corff Turpin i dafarn y Blue Boar ar ôl y dienyddiad i ddisgwyl i’w cael ei gladdu’r bore trannoeth. Mae’r llyfryn yn nodi ymgais gynnar y bore hynny gan griw oedd yng nghyflog llawfeddygon i geisio dwyn corff Turpin er mwyn ei difynio. Roedd hyn yn ymarferiad cyffredin yn y cyfnod yma ac yn un, fel mae Peter Linebaugh wedi dangos, oedd yn cael ei gwrthwynebu’n gryf gan y bobl gyffredin am amryw o resymau gan gynnwys credoau ynghylch y pwysigrwydd o gladdu yn y ffordd gywir ac ofnau ynghylch y posibilrwydd o ddadebru’r crogiedig. Mae Linebaugh yn nodi sawl achos yn Tyburn lle achubwyd corff y crogiedig gan dorf o bobl gyffredin o ddwylo’r llawfeddygon ac mae’r llyfryn yn nodi’r un peth yn digwydd i gorff Turpin yng Nghaerefrog y bore hynny.

 

Os ydych am wybod mwy am y pwnc diddorol yma byddai’n cynnal sgwrs awr ginio yn Y Drwm ar y genre trosedd a chosb yng Nghymru’r 19eg ganrif ar y 1af o Orffennaf. Ymunwch gyda ni i ddysgu mwy!

 

Darllen Pellach

 

Cyffes John Griffiths yr hwn a grogwyd yn Hwlffordd, Dydd Sadwrn, Mis Ebrill 13, 1811 am ladd ei wraig, Mary Griffiths (Aberystwyth, 1811)

James Sharpe – Dick Turpin: The Myth of the English Highwayman (Llundain, 2005)

Bywyd Turpin Lleidr sef Hanes Richard Turpin y Lleidr Pen-ffordd Hynotaf a ymddangosodd yn yr oesoedd diweddaf (Llanrwst, 1835)

Peter Linebaugh – ‘The Tyburn Riot Against the Surgeons’ yn Douglas Hay et al, Albion’s Fatal Tree: Crime and Society in Eighteenth-Century England (Llundain, 2011) tt. 65-117.

 

Dr. Douglas Jones

Rhelowr Proseictau Casgliadau Cyhoeddedig

Postiwyd - 06-12-2019

Collections / Stori Cymru

Salem a hynny oll…

Pan ysgrifennais gyntaf am ddarlun Sidney Curnow Vosper, Salem yng nghylchgrawn Planet yn 1988, gallwn gymryd yn ganiataol y byddai mwyafrif fy narllenwyr yn gwybod rhywbeth am stori’r llun, neu o leiaf yn gyfarwydd â’i edrychiad. Roedd y print lliw mawr yn dal i hongian ar y wal yng nghartrefi nifer o neiniau a theidiau. Dyna pam y teimlais yn hyderus yn defnyddio’r term ‘Eicon Cenedlaethol’ i’w ddisgrifio. Ond, tua pum mlynedd yn ôl, cefais sioc tra’n dysgu hanes celf i fyfyrwyr israddedig, blwyddyn gyntaf, ym Mhrifysgol Abertawe. Doedd neb yn y dosbarth yn adnabod y llun, a neb wedi clywed amdano. Roedd yr ‘eicon cenedlaethol’ wedi diflannu o ymwybyddiaeth y genhedlaeth newydd.

Nid y ffaith ei fod wedi mynd yn angof oedd y syndod fel y cyfryw, ond pa mor gyflym y digwyddodd hynny. Wedi’r cyfan mae presenoldeb byw y llun mewn diwylliant wedi ei ategu ym mhob cenhedlaeth, o’i greadigaeth yn 1909, i 1997 pan ailddyfeisiodd Golwg y darlun ar gyfer clawr y cylchgrawn yn ystod yr ymgyrch refferendwm datganoli y flwyddyn honno. Mi addasodd y cylchgrawn y ddelwedd i ddangos Sian Owen yn gadael y capel gan groesi ei bysedd – ar ei ffordd i bleidleisio ‘Ie’ yn y festri, y tybiwn.

Wedi ei greu’n ddarlun pictiwrésg o grefydd ymysg y Cymry, yn wreiddiol, roedd Salem yn cyflwyno neges gysurol o genedl ddof at bwrpas ei werthu yn y Farchnad gelf Seisnig. Petai popeth wedi mynd fel y bwriadwyd, mae’n annhebygol y byddai mwy na llond llaw o Gymry wedi ei weld. Serch hynny, mi brynodd William Hesketh Lever, AS, y darlun a’i ddefnyddio’n ddiniwed fel poster i hyrwyddo gwerthiant ‘Sunlight Soap’, a gynhyrchwyd gan ei gwmni. Gosododd hyn y darlun yn y sffêr cyhoeddus, gan arwain at drawsnewidiad ei ystyr maes o law. Er fod camau cychwynnol y trawsnewidiad yn parhau yn annelwig, erbyn yr 1920au roedd y darlun wedi magu stori newydd ymysg cynulleidfa wahanol. Arweiniodd ‘darganfod’ y diafol yn siôl bersli Sian Owen at ailddyfeisio Salem fel dameg pechod balchder. Wedi dweud hynny, ni thybiaf y byddai mwy na’r Cristnogion mwyaf piwritanaidd wedi cymryd egwyddor y stori ormod o ddifrif – does bosib mai natur hudol ymddangosiad y wyneb yn y siôl oedd yn apelio fwyaf. Roedd gan y stori fwy yn gyffredin â’r Mabinogi nag Anghydffurfiaeth, ac eithrio ei hyrwyddo yng ngherdd ddefosiynol T. Rowland Hughes, a ysgrifennwyd yn nyddiau tywyll yr Ail Ryfel Byd. Fe’i ailwampiwyd eto mewn naws fyfyriol, gyda dos go dda o hiraeth, ar gyfer clawr LP Endaf Emlyn yn 1974. Gan symud i fan uchaf y farchnad, fe ddiweddarodd yr arlunydd Hywel Harris y darlun i mewn i waith olew mewn arddull ciwbyddol-cwilt clytwaith.

Newidiodd methiant refferendwm datganoli 1979 y naws, ond fe ailddyfeisiwyd Salem eto yn y cyfnod o weithgarwch gwleidyddol a ddilynodd. ‘Deffrwch y bastards. Mae Cymru’n marw’ oedd y neges o gwmpas y ddelwedd ar y pamffled a gynhyrchwyd yn 1989 gan Cymdeithas Cyfamod y Cymry Rhydd. Y cyd-destun y tro hwn oedd yr ymateb i’r mudo mewnol a’r ymgyrch llosgi tai haf. Wedi hynny, defnyddiwyd Salem gan amgylcheddwyr yn erbyn cwmni cemegol aml-genedlaethol, Montsanto, Wrexham, drwy wyrdroi wyneb Sian Owen a wyneb y diafol ar ffurf arbennig o erchyll.

Ond mae’n bosib iawn mai dyna ddiwedd y daith ar gyfer Salem fel grym weithredol yn ein diwylliant ni. Os yw myfyrwyr Abertawe yn fesur, efallai bod y dirywiad mewn Cristnogaeth Anghydffurfiol a ddarluniwyd yn y llun, a dieithrwch bywyd cymdeithasol a oedd yn cylchdroi o gwmpas y capel, wedi tanseilio, o’r diwedd, botensial y darlun ar gyfer ei ailddefnyddio. Yn sicr mae’r ffaith bod y Llyfrgell Genedlaethol wedi prynu copi o’r gwaith wedi atgyfodi diddordeb yn ei hanes. Peintiwyd yr ail fersiwn yma ar gyfer Frank Treharne James, cyfreithiwr o Ferthyr, a brawd-yng-nghyfraith yr artist. Roedd y gŵr hwn yn rhwystredig gan ei fod wedi dymuno prynu’r gwreiddiol pan y gwerthwyd ef i’r gŵr a fyddai’n dod yn Arglwydd Leverhulme, am 100 gini, yng Nghymdeithas Brenhinol y Dyfrliwiau yn Llundain. Ond rwy’n amau erbyn hyn fod y Salem gwreiddiol wedi symud o’r lle byw hwnnw yn y diwylliant, a ganiataodd iddo ail fathu ei hun a pharhau’n berthnasol drwy gydol yr ugeinfed ganrif, i fod yn ffosil diddorol. Mor drist ag yw hyn, mae Salem bellach yn bodoli yn bennaf fel tystiolaeth o gyfnod a fu, a gwrthrych ymchwil i haneswyr.

Peter Lord

Postiwyd - 02-12-2019

Arddangosfeydd / Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau

Dathlu Bywyd Merêd

“Allai ddim meddwl am dad yn gant”, meddai ei ferch Eluned, ac yn wir wrth ymchwilio yn yr archif sydd yn y Llyfrgell nid hen ddyn sydd yn dod i’r meddwl, ond dyn egnïol, brwdfrydig, gweithgar a phenderfynol. Roedd Meredydd Evans, neu Merêd, yn ffigwr hollbwysig yn natblygiad cerddoriaeth yng Nghymru . Treuliodd ei fywyd yn cyfrannu at fywyd a diwylliant Cymru fel casglwr, hanesydd, cerddor, golygydd, cenedlaetholwr ac ymgyrchydd brwd dros yr iaith. Cyfle i ddathlu bywyd llawn a chynhyrchiol yw’r canmlwyddiant a dyma flas o’r bwrlwm o weithgareddau yn y Llyfrgell Genedlaethol :

  • Ffilm: Canmlwyddiant Merêd – Clipiau o’r archif Dydd Llun, 9 Rhagfyr 2019

Ymunwch â ni i ddathlu canmlwyddiant geni Merêd (9 Rhagfyr 1919 – 21 Chwefror 2015) ar ddiwrnod ei ben-blwydd gyda dangosiad arbennig o ddetholiad o glipiau o gasgliad yr Archif Sgrin a Sain, sy’n rhoi blas o fywyd a gwaith Merêd a Phyllis Kinney. Dewch gyda ni ar siwrne o’r Noson Lawen i Ryan a Ronnie, ac o’r caneuon gwerin i Heather Jones yn canu ‘Colli laith’.

  • Sesiwn Unnos Radio Cymru

Fis Medi 2019 gwahoddwyd y cerddorion Siân James, Gwenan Gibbard, Gareth Bonello, Gai Toms, Iestyn Tyne a Casi Wyn i greu trefniant newydd o rai o hen alawon gwerin Cymru o archif Meredydd Evans a Phyllis Kinney, sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Darlledwyd rhaglen Sesiwn Unnos Gwerin Radio Cymru ar 29 Medi o Gynhadledd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. I nodi canmlwyddiant geni Dr Meredydd Evans, dyma gyfle prin i chi glywed y casgliad hwnnw o alawon yn cael eu canu eto, yn dilyn y ffilm Merêd, a ddangosir yn y Drwm ar y 9fed o Ragfyr.

  • Merêd yn gant – Darlith awr ginio gan Geraint H. Jenkins, Dydd Mercher 11 Rhagfyr.

Cyfle i ddathlu canmlwyddiant geni Merêd – athronydd, llenor, cerddor a gweithredwr – yng nghwmni’r hanesydd Geraint H. Jenkins. Bydd ffotograff arbennig o Merêd gan Iestyn Hughes i’w weld yma yn ystod yr wythnos.

  • Rhaglen BBC Radio Cymru ‘Hela’r Hen Ganeuon’

Yn dilyn cyfnod o ymchwilio yn archif Merêd a Phyllis yn y Llyfrgell Genedlaethol bydd cerddorion yn ymateb i gerddoriaeth yn ymwneud â chyfnod y Nadolig a’r Calan. Al Lewis, Nia Morgan ac Arfon Gwilym sy’n ymuno â Georgia Ruth Williams, ac maen nhw’n perfformio caneuon sy’n perthyn i dymor y Nadolig a’r flwyddyn newydd e.e. Plygain, Calennig, Y Fari Lwyd. Darlledir dydd Sul 8 Rhagfyr am 19:05 ar BBC Radio Cymru, a bydd y rhaglen ‘Hela’r Hen Ganeuion’ ar gael wedyn i wrando eto ar wefan Radio Cymru neu ap BBC Sounds.

  • Rhaglen BBC Radio Wales. Frank Hennessy ‘Celtic Heartbeat’.

Sgwrs am Merêd ar ‘Celtic Heartbeat’, Radio Wales (1 Rhagfyr 2019) gyda Nia Mai Daniel a Frank Hennessey yn trafod y modd y bu yn ysgogiad i gerddorion gwerin Cymru drwy ei fywyd o’r cyfnod fel pennaeth adloniant ysgafn yn y BBC (1963- 1973) i gynorthwyo cerddorion ifanc y Prosiect ‘10 mewn bws’. Roedd Merêd yn berfformiwr talentog, a recordiodd ddetholiad pwysig o ganeuon i label Folkway Records yn Efrog Newydd yn 1954, ac yn ddiweddarach i label recordio Sain.

  • Catalogio archif Merêd a Phyllis Kinney yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Fel rhan o waith yr Archif Gerddorol Gymreig rydym yn paratoi catalog o’r archif er mwyn rhoi mynediad hawdd at y drysorfa o archif sy’n cynnwys papurau cerddorol Merêd a Phyllis Kinney, gohebiaeth Merêd, a ffeiliau Merêd ar athroniaeth, llenyddiaeth, ymgyrchoedd dros yr iaith Gymraeg, a mwy.

  • Cardiau mynegai ar gael ar-lein

Mae miloedd o gardiau mynegai ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru wedi cael eu digido ac ar gael ar ein gwefan. Ceir naw grŵp sef Caneuon gwerin, Alawon Carolau, Geiriau Carolau, Hwiangerddi, ‘Alawon Fy Ngwlad’ Nicholas Bennett, Mari Lwyd, J. Lloyd Williams a Chylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Bydd cyfle cyffrous i ymwneud â phrosiect gwirfoddoli ar yr Hwiangerddi yn y flwyddyn newydd.

  • PhD Cerddoriaeth werin

Gwenan Gibbard yw enillydd Ysgoloriaeth Ddoethurol i astudio cyfraniad Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney i faes cerddoriaeth werin yng Nghymru. Cynllun ar y cyd rhwng Yr Archif Gerddorol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw hwn.

  • Arddangosfa gerddorol ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’

Cyfle olaf i weld yr arddangosfa sy’n ymwneud â cherddoriaeth Cymru o’r Crwth i’r Cyrff. Sylwer fod yr arddangosfa yn cau ar 11 Rhagfyr (nid 1 Chwefror) oherwydd y gwaith adeiladu. Mae’r arddangosfa yn cynnwys adran ar Merêd gan edrych ar ei ddylanwad fel casglwr a pherfformiwr ac fel pennaeth rhaglenni adloniant ysgafn BBC Cymru.

Wrth ddathlu’r canmlwyddiant, diolchwn am gyfraniad enfawr Merêd i ddiwylliant Cymru.

Nia Mai Daniel, Yr Archif Gerddorol Gymreig @CerddLLGC

Postiwyd - 22-11-2019

Collections / Stori Cymru

Margaret Jones a Dawn Chwedleua Gweledol

 

Yn 1982, derbyniodd Margaret Jones gomisiwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddarlunio Pedair Cainc y Mabinogi. (1) O ganlyniad i’w chariad oes at chwedlau a llên gwerin, roedd yn ymwybodol fod cenedlaethau wedi tyfu i fyny gyda’r cymeriadau yn y straeon diwylliannol, eiconig hyn, a gwyddau y gallai chwalu breuddwydion gydag un linell bensil. Roedd lleisiau o’r gorffennol yn ei rhybuddio i droedio’n ofalus. (2) Ni ddylai fod wedi poeni. Trwy ei dychymyg a’i gallu naturiol fel darlunydd ac ymchwilydd, mae darluniau Margaret wedi dod i ddiffinio chwedlau Cymreig cymaint â’r geiriau eu hunain.

Ganwyd Margaret yn Bromley, Kent yn ystod ‘Oes Air Darlunio’, ddim yn hir wedi diwedd y rhyfel byd cyntaf. Tyfodd i fyny wedi ei hysbrydoli gan lyfrau Arthur Rackham a mawrion y byd darlunio ar ddechrau’r 20fed Ganrif. Yn ferch fach, bu’n tynnu lluniau ar y papur wal, yn cerfio wyneb yn y silff ben tan, ac yn braslunio dyn yn llithro ar groen banana. Bob dydd, byddai’n darlunio, thrwy ei dyddiau ysgol yn Birmingham a Southport, ac yn ystod ei bywyd priodasol cynnar yn India. Yn 1954, symudodd gyda’i theulu ifanc i Aberystwyth, lle’r oedd ei gŵr Basil wedi derbyn swydd fel athro Methodistaidd. Yn teithio trwy Tre Taliesin ar y bws, gwyddau mai dyma lle y byddai’n magu ei phlant, gwneud sioeau pypedau a datblygu’n ddarlunydd.

Arweiniodd arddangosfa o ddarluniau Margaret yng Nghanolfan Celfyddydau newydd Aberystwyth yn 1979, at gomisiwn gan Ganolfan Celfyddydau Cymru i ddarlunio rhifyn newydd o Y Mabinogi. Dyma ei chomisiwn cyntaf am lyfr. Roedd yn chwech deg pedwar, wedi ei hysbrydoli, ac yn bryderus.

Cyrhaeddodd y llawysgrif o’r cyhoeddwr. Dysgodd Margaret Gymraeg trwy ei darllen mewn llyfrau plant, gan ddefnyddio ei llygaid yn hytrach na’i chlustiau, ffeindiodd yr iaith ysgrifenedig llawer haws na’r un llafar. Ni chafodd unrhyw gysylltiad â’r llenor Gwyn Thomas tan ddiwedd y prosiect pan gwrddodd y ddau yn yr Eisteddfod.

 

Sylweddolodd Margaret fod y cymeriadau yn y straeon yn byw mewn tirwedd Gymreig, fyw. Mae’r rhain yn straeon am y llwyth, am ymgais i osgoi gwrthdaro gydag Iwerddon yn yr ail gainc, mudo a dadleoli yn y drydedd, ac ymdriniaeth greulon o ferched yn y bedwaredd. Gwyddai Margaret mai rôl y darlunydd yw i gyfoethogi’r testun, nid ei ail-greu, felly mi ychwanegodd eitemau a delweddau o’r byd real i ychwanegu at yr hud.

Fe ymchwiliodd i mewn i’r gwisgoedd yn drwyadl, nes bod bob esgid a broetsh yn adlewyrchu’r cyfnod, ac mi ddarluniodd ei thirluniau ei hun. Darluniwyd y darlun o Manawydan yn casglu pysgod yng Nghapel Bangor, tra y dylanwadwyd ar yr anifeiliaid a’r adar gan lyfrau Ladybird a ddarluniwyd gan yr artist Charles Tunnicliffe o Ynys Môn.

Fel Rackham o’i blaen, gosododd gyntaf ddyfrlliw o felyn ocr, glas Prwsiaidd neu fermiliwn, a oedd yn tawelu’r lliwiau a baentiwyd dros y dyfrlliw. Roedd y cyhoeddwyr yn anfodlon gyda hyn gan eu bod wedi mynnu cael lliwiau primaidd llachar, fel oedd ffasiwn anwybodus y cyfnod. Roedd Margaret, ar y llaw arall, yn hoffi archwilio’r ffiniau mwy tywyll rhwng y sentimental a’r grotésg, ac felly mi ysgrifennodd at Gyngor Celfyddydau Cymru i ddweud wrthynt na fyddai Arthur Rackham yn cael y fath drafferth.

Fel cyfaddawd, mi baentiodd bedwar lythyren cyflwyniad, lliwgar ar gyfer y ceinciau.

 

Gorffennodd Margaret eu darluniau ar gyfer Y Mabinogi yn 1982 ac fe gyhoeddwyd y gyfrol ddwy flynedd yn ddiweddarach wedi’r troeon arferol o gyhoeddi llyfr.

 

Mi aeth ymlaen i ddarlunio mwy o lyfrau i’r Cyngor Celfyddydau, yn cynnwys ei hoff stori Gymreig, Culwch ac Olwen. Fe ddilynodd hwn gyda Taliesin, lle lliwiodd y darluniau gyda’i hiwmor coeglyd a’i dealltwriaeth o’r ffraethineb a’r parodi sy’n rhan annatod o rai o’r straeon epig yma, elfennau sy’n dod yn fwy amlwg wrth glywed y stori, yn hytrach na’i darllen.

 

Ar un adeg, gwelwyd mapiau fel drych i’r hen fyd, felly doedd hi’n fawr o syndod pan grëodd Margaret ei map o’r Mabinogion. Dilynwyd hwn yn 1988 gan fap o Chwedlau Gwerin Cymreig, a ysbrydolwyd gan gasgliad Robin Gwyndaf o straeon yn amgueddfa werin Sain Ffagan, a gyhoeddwyd yn hwyrach fel ‘Chwedlau Gwerin Cymru / Welsh Folk Tales’. Ar droad y mileniwm gwahoddodd y Llyfrgell Genedlaethol, Margaret i ddarlunio map o fywyd Owain Glyndŵr. Fe wnaeth hi hyd yn oed ddarlunio map o Narnia nas cyhoeddwyd. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol hefyd gasgliad o 12 darlun heb eu cyhoeddi, o gerddi Dafydd ap Gwilym, a ddanfonwyd i Wasg Gregynnog fel calendr.

 

Dilynodd mwy o straeon o’r byd chwedlonol, Madog, Dewi Sant, Arthur, Twm Siôn Cati, a’i stori hi ei hun am blentyn cyfnewid o’r enw Nat, sy’n gadael byd y Tylwyth Teg am y dyffrynnoedd diwydiannol. Defnyddiodd hefyd ei hatgofion o’i chyfnod yn India yn fuan wedi’r rhaniad i ddarlunio set o Straeon Hindŵaidd.

 

Enillodd wobr Tir na n-Og yn 1989, 2000 a 2003, wedyn yn 2008 cydweithiodd â Robin Gwyndaf ar Llyfr Datguddiad Ioan. Gellir dadlau mai dyma ei champwaith, o bosib gan fod straeon y Datguddiad i Ioan yn golygu mwy i Margaret nag unrhyw stori arall. Cyhoeddwyd y llyfr yn breifat gan Robin yn 2008, ac mae’n ddarn coeth o waith.

Erbyn hyn, chwedleua gweledol Margaret yw ein llygaid i weld chwedlau Cymru. Mae ei nerfusrwydd dealladwy yn y dyddiau cynnar hynny wedi ei droi ar ei ben. Mae ei llyfrau’n ysbrydoli artistiaid eraill, sydd yn eu tro yn dychmygu gweledigaeth newydd ar gyfer yr hen chwedlau. Yn ei chanfed blwyddyn, mae’n cymryd ei lle’n haeddiannol, ymysg yr artistiaid sydd wedi ddiffinio chwedlau gweledol eu gwledydd, Arthur Rackham, Virginia Sterrett, John Bauer, Kay Neilsen, Tove Jansson, Maurice Sendak, Jessie Wilcox Smith, Lotte Reiniger a gymaint mwy. Pa mor addas yw hi felly fod chwedlau Cymru, sy’n enwog am straeon Branwen, Blodeuwedd, Arianrhod, Rhiannon a Goewin, yn cael eu diffinio gan ddynes ysbrydoledig arall, Margaret Jones.

Daw’r detholiad hwn o sgwrs ar 20 Tachwedd 2019 sy’n gosod gwaith Margaret yn ei gyd-destun rhyngwladol o artistiaid sydd wedi diffinio chwedlau eu gwledydd.

  • Thomas, Gwyn: Kevin: Y Mabinogi, (Cyngor Celfyddydau Cymru, 1984)
  • Jones, Margaret: It Came, To Pass (Apecs Press 20??)

Cyfeiriadau Pellach

Cyflwyniad gan Robin Gwyndaf i hunangofiant Margaret Jones (2007)

Cynnwys Perthnasol

Postiwyd - 15-11-2019

Collections

Ffocws ar Ffotograffiaeth – Eich Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig

Efallai na fyddech chi’n disgwyl dod ar draws Richard Burton yn chwarae criced wedi’i wisgo fel Alexander The Great yn y Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig sydd ar gadw yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ond mae’n darlunio nature amrywiol y casgliad. Dim ond un o’r 1.2 miliwn o ffotograffau a gedwir yma ar gyfer pobl Cymru ydyw, sy’n amrywio o’r ffotograff cyntaf i gael ei dynnu yng Nghymru – ar 9 Mawrth 1841 gan y Parchedig Calvert Richard Jones yng Nghastell Margam – i ddelweddau a dynnwyd eleni, fel y rhai gan Jack Lowe a Nick Treharne, a brynwyd yn ddiweddar gan y Llyfrgell. Mae’n gasgliad sy’n parhau i ddatblygu ac er gwaethaf effeithiau economaidd, rydym wedi parhau i brynu gweithiau gan ffotograffwyr cyfoes. Ymhlith y rhain y mae Abbie Trayler-Smith, Pete Davis, Amanda Jackson a Rhodri Jones.

Ymhlith ein daliadau mae llawer o weithiau gan fawrion ffotograffiaeth – megis Henri Cartier-Bresson, Robert Frank, Bill Brandt, Carleton Watkins, Angus McBean a Philip Jones Griffiths i roi ychydig enghreifftiau. Yn ystod y mis diwethaf rydym hefyd wedi ceisio tynnu sylw at y cyfoeth o ffotograffau sydd yma ac yn darlunio corneli pellennig y byd, boed yn Ffiji, Venezuela neu Yemen. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys gwaith ffotograffwyr o Gymru ac yn recordio pob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Yn bersonol, rwy’n falch iawn o’r ffaith bod hwn yn gasgliad democrataidd. Mae’n agored i dderbyn deunydd perthnasol gan unrhyw un, yn bendant nid yw’n glwb ecsliwsif wedi’i gyfyngu i fawrion ffotograffiaeth. Wedi’r cyfan, pwy well i ddogfennu cymuned na’r rhai sy’n byw ynddi?

Gobeithio bod y deunydd fideo a’r negeseuon Twitter rydym wedi’u rhannu a’r digwyddiadau a gynhaliwyd yma dros yr wythnosau diwethaf wedi dangos dyfnder ac ehangder y casgliad hwn.

Dyma gasgliad ffotograffau o bobl Cymru. Mae’r casgliad nid yn unig yn gofnod o stori’r genedl, ond yn cael eu cadw ar gyfer y genedl. Dyma’ch casgliad chi, sy’n adrodd eich stori chi, felly ewch ati i’w ddefnyddio, ac yn fwy dim, ei fwynhau. I gael mwy o wybodaeth ewch i wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Will Troughton, Curadur Ffotograffau

 

Postiwyd - 07-11-2019

Collections

Diwrnod Cadwraeth Ddigidol y Byd

Mae Tachwedd 7 yn Ddiwrnod Cadwraeth Ddigidol y Byd. Ymgyrch fyd-eang yw hon, a gydlynir gan y Glymblaid Cadwraeth Ddigidol, i godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n gysylltiedig â chadw gwybodaeth ddigidol. Thema ymgyrch eleni yw Deunyddiau Digidol mewn Perygl, ond byddwn i’n dadlau bod yr holl ddeunydd digidol mewn perygl, gan fod newid cyflym technoleg, breuder y cod deuaidd, darfodiad caledwedd a meddalwedd, i gyd yn cyflwyno heriau cadwraeth. Mae yna heriau hefyd o ran darparu mynediad at y deunydd hwn, oherwydd gall fod yn anodd sefydlu tarddiad a threfn wreiddiol, sef y ffordd y mae deunydd archifol yn cael ei gatalogio yn draddodiadol, wrth ddelio ag olyniaeth o drydariadau a bostiwyd ar gyfryngau cymdeithasol.

Yng Nghymru, rydym wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd i liniaru’r risgiau sy’n gysylltiedig â chadw deunydd digidol. Mae Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi cynhyrchu polisi cadwraeth ddigidol genedlaethol ac wedi datblygu datrysiad technolegol i warchod a darparu mynediad at y deunydd digidol a gaffaelwyd gan ei bartneriaid. Mae’r datrysiad yn cadw’r cynnwys mewn ystorfa ganolog a gedwir yn y Llyfrgell, a darperir mynediad trwy gatalogau’r partneriaid.

 

Mae atgofion teulu hefyd mewn perygl oddi wrth dechnolegau digidol, gan fod e-byst, ffotograffau a fideos i gyd yn cael eu creu ar ffurf ddigidol. Mae cadw’r atgofion digidol hyn yn dibynnu ar y crewyr yn gweithredu nawr i sicrhau eu bod ar gael ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Neges Diwrnod Cadwraeth Ddigidol y Byd yw codi ymwybyddiaeth o’r angen i weithredu er mwyn cadw, fel bod cynnwys digidol yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol.

Sally McInnes, Pennaeth Casgliadau Unigryw a Gofal Casgliadau

Postiwyd - 30-10-2019

Casgliadau / Collections

‘Gweld mewn Lliw’ gan James Clerk Maxwell

Ymhlith y casgliad o bamffledi Gladstone sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol mae cannoedd o bapurau o gasgliad y Parchedig Bartholomew Price, mathemategydd a ddaliodd gadair Athro Athroniaeth Naturiol Sedleian ym Mhrifysgol Rhydychen.  Pamffledi ydyn nhw yn bennaf a anfonwyd at Price gan wyddonwyr eraill ym Mhrydain Fawr.  Fe’u cyflwynwyd i’r Llyfrgell gan ei fab, W.A. Price, yn 1939.

Mae’n amlwg o’r nodiadau mewn llawysgrifen ar nifer o’r taflenni hyn fod gan y gymuned wyddonol feddwl uchel o Price ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Ymhlith awduron y pamffledi mae enwau nodedig fel James Clerk Maxwell, Charles Lutwidge Dodgson (Lewis Carroll), Sir George Stokes a William Thomson (yr Arglwydd Kelvin). Mae llawer o’r pamffledi hyn yn rhai prin, a rhai ohonynt yr unig gopiau sydd mewn bodolaeth.  Mae’r pamffledi, ynghyd â’r ysgrifen sydd arnynt, yn rhoi tystiolaeth o sut ‘roedd gwyddonwyr y cyfnod hwnnw yn cyfnewid eu syniadau.

Mae pamffled James Clerk Maxwell Gweld Mewn Lliw (On Colour Vision) yn ddiddorol. Ceir yma ddarlith arddangosiadol a gyflwynwyd gan yr awdur yn 1871 yn Sefydliad Brenhinol Prydain Fawr.  Mae’n arsylwi bod gwyddoniaeth lliw yn wyddoniaeth feddyliol, lle mae ein natur ni‘n pennu rheolau arsylwi lliw a hefyd yn wyddoniaeth ffisegol lle gellir cymhwyso deddfau clir natur.

 

 

Mae Maxwell yn dechrau drwy ddangos sut mae deddfau Newton yn cael eu cymhwyso i arsylwi lliw.  Wrth basio golau drwy brism, dangosodd Newton nad golau gwyn yw’r golau mwyaf pur, fel y tybiwyd yn wreiddiol, yn hytrach, ei fod yn cynnwys holl liwiau’r sbectrwm. Mae gwrthrychau rydyn ni’n eu galw’n lliw wrth gael eu goleuo â golau gwyn yn gwneud detholiad o’r pelydrau hyn ac mae ein llygaid yn canfod rhan yn unig o’r golau sy’n disgyn arnyn nhw. Er enghraifft, mae gwrthrych coch yn amsugno pob rhan o’r sbectrwm ar wahân i’r rhan goch y mae’n ei gwasgaru.  Fodd bynnag, os byddant yn derbyn pelydrau pur o un lliw o’r sbectrwm byddant yn ymddangos yn y lliw hwnnw. Er enghraifft, bydd unrhyw wrthrych yn ymddangos yn goch pan fydd golau coch yn cael ei ddisgleirio arno – oni bai ei fod yn amsugno coch, ac os felly, bydd yn ymddangos yn ddu.

Mae’n disgrifio sut mae cymysgu paent coch a phaent gwyrdd yn cynhyrchu lliw melyn budr, ond pan cymysgir golau coch a golau gwyrdd ceir lliw melyn disglair.  Mae’r paent coch, wrth ei wasgaru, yn colli ei ddisgleirdeb wrth gael ei gymysgu â gronynnau o baent gwyrdd ac i’r gwrthwyneb.  Fodd bynnag, mae’r golau melyn sydd wedi’i gynhyrchu gan olau gwyrdd a choch yn liw pur ac nid yw wedi ei rannu’n ddwy gyfran fel y cymysgedd.

Mae Maxwell yn cymharu ein canfyddiad o liw i’n canfyddiad o gordiau cerddorol.  Ymddengys i’n hymwybyddiaeth fod pob lliw yn unffurf ond gallwn yn hawdd glywed y cydrannau ar wahân sydd mewn cord cerddorol.

Mae’r pamffled hefyd yn disgrifio agweddau eraill o wyddoniaeth lliw, fel y cyflwr lliwddallineb a’r smotyn melyn ar y retina.  Er enghraifft, oeddech chi’n sylweddoli fod rhan eithafol y retina yn ansensitif i’r lliw coch?  Yn ôl Maxwell, os daliwch flodyn coch a blodyn glas yn eich llaw mor bell yn ôl ag y gallwch chi weld eich llaw, fe gollwch olwg ar y blodyn coch tra gallwch ddal i weld blodyn glas. Hefyd os yw’r golau’n lleihau, bydd gwrthrychau coch yn ymddangos yn dywyllach o’u cymharu â gwrthrychau glas.  Tybed a allwch chi, y darllenydd, gadarnhau a yw’r arsylwadau hyn yn wir?  Y trydydd sylw diddorol, na ddylid rhoi cynnig arno gartref, yw bod modd profi math o liwddallineb drwy gymryd y cyffur Santonin. Fel diweddglo i’r pamffled, mae Maxwell yn ymddiheuro i’r darllenwyr am beidio â chymryd y cyffur i gadarnhau a yw hyn yn wir!

 

 

Hywel Lloyd

Llyfrgellydd Cynorthwyol

Postiwyd - 25-10-2019

Collections / Stori Cymru

The Moon-eyed People

Chwedl o Gymru ac Appalachia ar gyfer Calan Gaeaf

Ar ddiwedd mis Mai 2019, agorodd arddangosfa o gelf werinol Gymreig o’r enw ‘Meddygon, Swynion a Melltithion / Curers, Charms and Curses’ yng Nghanolfan Celfyddydau Monongalia yng nghanol Morgantown, Gorllewin Virginia, yn cynnwys gwaith wyth artist, sef darlunwyr, ffotograffwyr, artistiaid sain, gwneuthurwyr doliau a gwneuthurwyr crancis. ‘Roeddwn i wedi cludo’r gwaith celf ar hyd un o hen lwybrau ymfudo Ewropeaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dros gefnau mynyddoedd yr Allegheny i Pittsburgh, dinas dur a glo, ac i lawr afon Monongahela i gyrraedd Appalachia. Er nad oeddwn ar fwrdd sgwner o Aberaeron yn brwydro stormydd yr Iwerydd, nac wedi clymu fy holl eiddo ar gefn wagen do a mul yn ei thynnu, yn hytrach yn cario gwarbac mawr ar 747 nad oedd yn gyfeillgar i’r amgylchedd, ac yna ar y Megabus dros nos.

Wrth gyrraedd Morgantown, fe gefais fy nghyfweld yn drwyadl am gelf werin Cymru ac Appalachia gan Caitlin Tan, gohebydd bywyd gwerin dros West Virginia Public Broadcasting. Yng nghanol hyn, cynigiodd Larry, y dyn camera, sylw annisgwyl ar y Mabinogi. Esboniodd ei fod wedi astudio ieithyddiaeth ganoloesol yn y coleg, lle roedd yn arbenigo yn yr hen chwedlau Cymreig. Ar noson agoriadol yr arddangosfa, ffilmiodd Jesse Wright, pennaeth newyddion WVPB, y digwyddiad cyfan. Dywedodd wraig wrthyf bod ei mam wedi trefnu eisteddfod Gymraeg ym Morgantown tan y 1960au cynnar; rhoddodd JoAnn Evans o’r St David’s Society of Pittsburgh lond bag i fi o recordiau finyl Cymraeg a gasglwyd gan ei thad; darganfu amgueddfa’r ddinas bod ganddynt bamffledyn gyda’r teitl Mining A career for Welsh Boys; perfformiodd y Gweinidog Bob Dayton o Bennsylvania, Gadwaladr a’r Afr, stori o Eryri, gyda llond bag o bypedau defaid. ‘Roedd rhywbeth ar droed.

Nid oedd hyn yn syndod i mi. Mae gennyf deulu yn Appalachia ac roeddwn yn gwybod bod olion y Cymry yno yn nhalaith y mynyddoedd. Sefydlwyd Morgantown gan Zackquil Morgan, mab Morgan Morgan o Forgannwg, a gyrhaeddodd yn y 1730au yn yr hyn a ddaeth yn nes ymlaen yn Orllewin Virginia. Mae mynwent y ddinas yn llawn beddfeini yn dwyn yr enwau Davies, Griffith, Evans, Jones, Williams, Price, ac wrth gwrs Morgan, ond eto ychydig iawn o dystiolaeth ysgrifenedig sydd am eu cyndeidiau. Ymddengys i’r Cymry angof ddiflannu i’r coedydd mawr tywyll a dod yn Appalachiaid coll.

Yn yr 1800au cynnar, roedd comins Ceredigion wrthi’n cael eu prynu gan foneddigion cefnog, a doedd gan y gweithwyr tlawd, y buont yn ffermio yno ers cenedlaethau, ddim llawer o ddewis ond i ymadael. Cyrhaeddasant Appalachia fel ymfudwyr, gan ymsefydlu ar dir lle roedd y bobl gynhenid yn byw ac yn gweithio, a hwythau yn eu tro yn cael eu gorfodi i ymadael o ganlyniad. Erbyn 1830, roedd ‘Deddf Allgludo Indiaid’ yr Arlywydd Jackson yn gyfraith, gan arwain at allgludo’r Cherokee o ddeheubarth Appalachia. Bu farw hanner y boblogaeth ar ‘Drywydd y Dagrau’ wrth iddynt gael eu tywys ymaith i Oklahoma o dan olwg gwarchodwyr arfog. Wrth i ddagrau’r gwragedd drwytho’r pridd sych, fe dyfodd flodeuyn hardd. Rhosyn y Cherokee.

Rhyw gan mlynedd yn ddiweddarach, daeth glowyr a golygianwyr i weithio yn Osage a Scott’s Run yn ymylon Morgantown, lle siaradwyd y Gymraeg ochr yn ochr a’r Almaeneg, Sbaeneg, Romaneg, Groeg, Eidaleg a llawer o ieithoedd eraill. Golyga’r sustem sgrip a’r tai cwmni nad oedd y glowyr a’u teuluoedd ond yn ychydig mwy na gwrthrychau’n perthyn i berchenogion y glofaoedd – anghyfiawnder roedden nhw’n meddwl eu bod nhw wedi ei adael ar eu holau yng Nghymru.

Enw’r Cherokee ar gyfer y glowyr Cymreig oedd ‘Y Bobl a’r Lleuad yn eu Llygaid’, oherwydd eu gallu i weld mewn tywyllwch a’u bod yn byw o dan y ddaear.

Cyn agor yr arddangosfa, ychydig o atgof o’r Cymry a barhaodd yng Ngorllewin Virginia. Wedi tair neu bedair genhedlaeth, ‘roedd sŵn y llyffaint yn crawcian yn y corsydd a’r cychod glo yn pwffian ar hyd afon Monongahela wedi boddi sŵn yr iaith Gymraeg. Mae pobl yn ystyried eu hunain yn Appalachiaid Americanaidd erbyn hyn.

Eto mae eu lleisiau tawel wedi gadael atgof, nid yn unig yn niwydiant y glofaoedd, ond mewn straeon a chelf werin a gydrennir. Dathlodd yr arddangosfa leisiau colledig mamguod Appalachia a Chymru fel ei gilydd, a allai swyno, iachau a melltithio, a feddai ar feddyginiaeth ar gyfer pob gwaeledd, ac a ystyrid a drwgdybiaeth a pharch yn gydradd o fewn eu cymunedau.

Roedd Beti Grwca, Cei Newydd, yn fawr ei bri oherwydd ei dognau serch, fel yr oedd Nancie Gore, Cherokee o fynyddoedd yr Ozark, a garai ceffylau, a gasaodd meddygon, ac a oedd wedi dysgu meddyginiaeth gan yr hen swyngyfareddwyr roedd hi’n eu hadnabod. Gallai Agnes Dolan o Orllewin Virginia iachau twymynau a melltithion trwy ddarlunio calon ar ddarn o bapur a dodi piniau trwyddo, tra y gallai Anna Ddu, Llanfairfechan, fwrw melltith trwy dyllu doli glai gyda phin het ei mam faeth. Saethodd ddyn yn Clay County racoon yn ei goes a bu hen Martha Pringle yn hercian byth a beunydd wedi hynny, tra y saethodd ffermwr yn Nhregaron ysgyfarnog gyda bwled arian a fe dynnodd meddyg yr un bwled allan o goes hen wraig a drigai gerllaw.

Mae Appalachia a Chymru yn cydrannu traddodiad o wneud cwiltiau. Yn yr arddangosfa y mae cwilt glas a gwyn a wnaethpwyd yn Oak Hill, Ohio, ym 1894 ar gyfer y Parch. a Mrs J. Mostyn Jones, sydd wedi’i frodio â llofnodion rhyw chwe deg o wragedd Cymreig o’r bron.

Mae chwedlau gwerin a chelf werin yn archifo atgofion y rhai a fu’n dwyn gwybodaeth a doethineb. Nhw yw ein cysylltiad ni â’r meirw.

Rydyn ni’ n eu cofio nhw ar ddiwrnod Calan Gaeaf.

Peter Stevenson

Wedi’i addasu o:

Stevenson, Peter: The Moon-eyed People, Folk Tales from Welsh America (Stroud, The History Press, 2019)

Stevenson, Peter: Chwedlau, Cwiltiau a Chranci / Stories, Quilts and a Crankie (Amgueddfa Ceredigion Museum, 2019)

Cyfieithiad Cymraeg: David Moore, Llyfrgell Genedlaethol Cymraeg

Postiwyd - 11-10-2019

Collections / Stori Cymru

T Llew Jones: Brenin Llenyddiaeth Plant Cymru

Un prynhawn Gwener, mewn ysgol fechan yn Nyffryn Teifi, cafodd crwtyn ifanc ei wahodd i ddosbarth y plant mawr er mwyn clywed y prifathro yn darllen darn o stori. Roedd y stori yn un gyffrous. Roedd hi’n sôn am noson stormus, dywyll ac am dollborth unig yn y wlad. Dyma geidwad y tollborth yn clywed sŵn carnau ceffyl yn agosáu o’r pellter, ac yna’r marchog yn gweiddi ‘Gêt’. Wrth fentro mas i agor y gât, dyma’r marchog yn estyn rhywbeth iddo – rhyw barsel wedi ei lapio mewn clogyn – cyn gyrru i ffwrdd i’r tywyllwch. A beth oedd yn y parsel? Daeth y ceidwad i wybod ar ôl dychwelyd i’r tŷ – baban.

Y crwtyn ifanc a oedd yn gwrando’n gegrwth ar y stori hon oedd neb llai na T. Llew Jones. Ni chafodd glywed rhagor ohoni am ryw reswm, ond fe adawodd argraff ddofn ar ei ddychymyg am yn hir wedyn. Daeth i wybod yn ddiweddarach yn ei oes mai Y Golud Gwell (1910) gan Anthropos (Robert David Rowland; 1853?-1944) oedd y stori, ond nid cyn ysgrifennu ei fersiwn ei hun a’i chyhoeddi o dan y teitl Un Noson Dywyll (1973).

Cyffro, rhamant, dirgelwch – dyna’r hyn sy’n nodweddu’r hanesyn uchod. Dyma hefyd nodweddion a ymddengys yn aml yn llenyddiaeth plant T. Llew – yn ei farddoniaeth a’i ryddiaith. Y gŵr hwn a ddefnyddiodd gymeriadau hanesyddol a lled-hanesyddol fel y môr-ladron, Harry Morgan a Barti Ddu, a’r lleidr pen-ffordd, Twm Siôn Cati, fel ei ddeunydd crai. Y gŵr hwn hefyd a greodd fabinogi o’i fywyd ei hun, gyda photswyr Pentre-cwrt, sipsiwn y ‘Pishyn Padis’ ac anturiaethau Beirdd y Cilie yn rhan o un saga amryliw a ddefnyddiwyd i ddiddanu cynulleidfaoedd o blant ac oedolion fel ei gilydd.

Mae’n hawdd rhamantu T. Llew. Rhamantydd oedd e. A’r un mor rhamantus ar yr un olwg yw’r teitl anrhydeddus ac arwrol hwnnw y cysylltir T. Llew ag ef, sef ‘Brenin Llenyddiaeth Plant Cymru’. Ond eto i gyd, mae tadogi teitl o’r fath arno yn dangos cymaint yw ei gyfraniad i’r maes.

Yn y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd, roedd y diwydiant cyhoeddi Cymraeg mewn cyflwr truenus. Yn 1950, o’r can llyfr a gyhoeddwyd yn Gymraeg, dim ond 13 oedd yn gyhoeddiadau i blant. Gŵr a oedd yn effro i’r argyfwng hwn oedd y llyfrgellydd o Geredigion, Alun R. Edwards. Ym mis Medi 1951, trefnodd y gynhadledd gyntaf o blith nifer yn ystod yr 1950au ym mhlas y Cilgwyn ger Castellnewydd Emlyn, gyda’r nod o annog darpar ysgrifenwyr i greu deunydd darllen Cymraeg ar gyfer plant. Gwahoddwyd 48 o athrawon yr hen sir Aberteifi i’r gynhadledd arbennig hon, ac yn eu plith roedd T. Llew – bardd lled-ifanc ac ysgolfeistr Tre-groes ar y pryd.

Yn ei hunangofiant, Yr Hedyn Mwstard (1980), mae Alun R. Edwards yn cyfeirio at T. Llew fel “y pysgodyn mwyaf a ddaliwyd gan y Cilgwyn.” Roedd yn ysgrifennu’r geiriau hyn ar ddiwedd ei yrfa, ac ar adeg pan oedd T. Llew eisoes wedi ymsefydlu fel un o brif awduron plant Cymru. Bu farw T. Llew bron i dri degawd yn ddiweddarach yn 2009, a rhwng hynny a chynhadledd gyntaf y Cilgwyn yn 1951, fe gyhoeddodd tua hanner cant o gyfrolau – a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n rhai ar gyfer plant.

Fel athro – yn ysgolion Tre-groes (1951-1957) a Choed-y-bryn (1958-1976) – gwyddai T. Llew am yr angen i ddenu plant at ddarllen, ac i ddarparu deunydd cyffrous ar eu cyfer a fyddai’n eu haddysgu a’u diddanu ar yr un pryd. Yn y categori hwn y gosodir straeon fel Trysor y Môr-ladron (1960), Corn, Pistol a Chwip (1969) a Cri’r Dylluan (1974), sy’n cymryd darnau o hanes Cymru a’u troi’n anturiaethau cyffrous llawn arwyr a dihirod. Mae ei farddoniaeth i blant wedyn – a gyhoeddwyd yn Penillion y Plant (1965) a Cerddi Newydd i Blant (1973) – yn mentro mas o’r stafell ddosbarth i’r awyr agored, ac yn ceisio agor llygaid y darllenydd i ryfeddod y byd o’i gwmpas.

Mewn cyfweliad yn y cylchgrawn Llais Llyfrau yn 1968, dywed T. Llew iddo deimlo “mai’r hyn oedd eisiau fwyaf ar blant Cymru oedd arwyr.” Mae arwyr yn cael eu creu ar adeg o angen. Ac yn y Gymru Gymraeg ynghanol yr ugeinfed ganrif, roedd yna angen am awdur fel T. Llew Jones ar lenyddiaeth plant.

Endaf Griffiths

Cynnwys Perthnasol

Postiwyd -

Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Cyfieithathon Wicipedia

I ddathlu Wythnos Llyfrgelloedd cynhaliodd y Llyfrgell Genedlaethol Gyfieithathon Gymraeg i fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth sy’n gobeithio dilyn gyrfa fel cyfieithwyr. Y nod oedd cyfieithu erthyglau Wikipedia Saesneg presennol am awduron enwog i’r Gymraeg. Roedd y digwyddiad yn rhan o gwaith ehangach prosiect WiciLlên, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a’i nod oedd gwella mynediad ar-lein i wybodaeth a data Cymraeg am lenyddiaeth a llyfryddiaeth Cymru.

Myfyrwyr yn cyfieithu Cynnwys yn ystod y digwyddiad

 

Mae gan y Llyfrgell Wicimediwr Cenedlaethol sydd yn helpu’r sefydlaid gefnogi a chyfrannu at Wikipedia. Y Wikipedia Cymraeg fu’n canolbwynt y gwaith hwn ers i’r cydweithredu ddechrau yn 2015. Mae’r Llyfrgell a’i phrif gyllidwr, Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd y hwb yma o wybodaeth Gymraeg wrth adeiladu dyfodol cynaliadwy a llewyrchus i’r Gymraeg – Wicipedia eisoes yw’r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd ac erbyn hyn mae ganddi dros 100,000 o erthyglau. Fodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud o hyd er mwyn rhoi mynediad i wybodaeth y byd yn Gymraeg.

 

Mae’r Llyfrgell wedi bod yn gweithio gyda’r cwrs Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth ers sawl blwyddyn bellach. Wrth ddefnyddio’r Cymhorthydd Cyfieithu ar Wicipedia er mwyn perffeithio cyfieithu, gall myfyrwyr gyfrannu’n weithredol at wella cynnwys Cymraeg sydd ar gael i bawb wrth astudio, gan roi gwerth go iawn i’w aseiniadau.

 

 

Un o’r erthyglau cafodd i gyfieithu

Dywed arweinydd y cwrs Mandi Morse “Rydyn ni’n falch iawn o’r cyfle i fanteisio ar gronfa Wicipedia wrth ddysgu’r cwrs uwchraddedig Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol. Mae’n rhoi profiadau gwych i’n myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau cyfieithu a chael cyfle i ymarfer cyfieithu pob math o feysydd a chyd-destunau. Mae cronfa Wicipedia yn sicr yn ddefnyddiol tu hwnt ac yn cyfoethogi’n darpariaeth.”

 

Mynychodd 12 myfyriwr y digwyddiad yn y Llyfrgell Genedlaethol, a chrëwyd 9 erthygl newydd. Mewn llawer o achosion mae hyn wedi sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn Gymraeg am y tro cyntaf. Mae erthyglau newydd yn cynnwys y nofelydd Almaeneg Gerhart Hauptmann, a dderbyniodd y Wobr Nobel mewn Llenyddiaeth ym 1912 a’r awdur plant Joan Aiken. Gallwch ddod o hyd i restr lawn o erthyglau a grëwyd yma.

 

Rydym yn gobeithio cynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol er mwyn gwella cynnwys Cymraeg ar-lein, ac annog Prifysgolion Cymru i feddwl sut y gallant gyfrannu at y broses.

 

Jason Evans

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , , , , ,

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog