Tag Archives: Gwirfoddoli

400 mlwyddiant Beibl 1620

Casgliadau / Collections - Postiwyd 23-11-2020

Eleni rydym yn dathlu 400 mlwyddiant un o gerrig milltir cyhoeddi yn y Gymraeg, sef Beibl 1620. Yr argraffiad cyntaf o ran sylweddol o’r Ysgrythur yn yr iaith oedd Testament Newydd William Salesbury, a gyhoeddwyd ym 1567. Dilynwyd hwn gan gyfieithiad William Morgan o’r Beibl cyfan ym 1588. Pam felly cyhoeddi fersiwn newydd mor fuan wedyn? Roedd sawl rheswm am hyn. Doedd William Morgan ddim yn gwbl fodlon gyda fersiwn 1588, a oedd yn cynnwys nifer o wallau argraffu. Hefyd, yn y cyfamser roedd Beibl Awdurdodedig y Brenin Iago wedi’i gyhoeddi yn Saesneg ym 1611. Cafodd y cyfieithiad Saesneg hwn ddylanwad sylweddol yng Nghymru, er nad oedd y cyfieithwyr yn gaeth iddo wrth baratoi Beibl Cymraeg 1620.

Mae Beibl 1620 yn cael ei nabod fel Beibl Richard Parry, Esgob Llanelwy, ond y dyn a oedd yn bennaf gyfrifol am y gwaith oedd Dr. John Davies, Rheithor Mallwyd, ac awdur nifer o lyfrau pwysig, gan gynnwys y gramadeg Cymraeg Antiquae linguae Britannicae … rudimenta a’r geiriadur Cymraeg-Lladin Dictionarium duplex. Cyn symud i Fallwyd roedd John Davies wedi byw yn yr un ty â William Morgan yn Llanelwy a chydweithio ag ef ar fersiwn ddiwygiedig o’r Testament Newydd.

 

 

Mae Beibl 1620 yn diwygio iaith y fersiwn gynharach, gan ei gwneud yn fwy tebyg i’r ynganiad llafar. Mae hefyd yn cynnwys dros 2,000 o eiriau newydd. Er iddo gael ei gyhoeddi fel Beibl mawr ar gyfer y pulpud, cyhoeddwyd argraffiad llai ohono ddegawd yn ddiweddarach, sef “Beibl Bach” 1630, a oedd yn fforddadwy i bobl cyffredin ei brynu a’i ddarllen yn eu cartrefi. Fersiwn 1620 oedd y Beibl a ddefnyddiwyd gan bobl Cymru tan ail hanner yr ugeinfed ganrif a thu hwnt.

Oherwydd amgylchiadau’r flwyddyn hon nid oedd modd cynnal arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 2020 i ddathlu’r 400 mlwyddiant, ond mae yna fwriad i’w chynnal yn 2021. Yn y cyfamser mae’r Llyfrgell wedi cynnal cyfres o ddarlithoedd arlein gan ysgolheigion blaenllaw i drafod gwahanol agweddau ar hanes y Beibl yng Nghymru.

Timothy Cutts
Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Y Cymry yng Nghanada

Darganfod Sain - Postiwyd 17-11-2020

Yn ystod y 70au cynnar comisiynodd Llywodraeth Canada bobl i gasglu gwybodaeth am amrywiol genhedloedd a oedd yn byw yn y wlad. Am dri mis yn ystod 1974, bu Glenys James yn ymchwilio i hanes y Cymry a ymfudodd i Ganada o Batagonia. Yn ystod yr amser hwn, teithiodd dros 8,000 o filltiroedd yn siarad a recordio cyfweliadau âg amrywiol deuluoedd o ddisgynyddion Cymreig.

 

Mae’r recordiadau o werth hanesyddol ac yn rhoi persbectif i ni o fywyd ym Mhatagonia a Chanada ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Trwy wrando ar leisiau’r bobl eu hunain gallwn glywed yr hyn a welsant, a sut roeddent yn teimlo.
Yn ystod yr amser hwn bu llawer o symud o fewn Canada ymysg nifer o wahanol genhedloedd, gan gynnwys pobl o Batagonia â gwreiddiau yng Nghymru.
Yn 1902, gadawodd dros 200 o Gymry Batagonia am eu bywyd newydd yng Nghanada gyda dros 5,000 yn mudo ar ôl Adfywiad 1904-5. Symudodd llawer ohonynt oherwydd yr amodau byw anodd y daethant ar eu traws, yn bennaf llifogydd cyson, a dim tir ar gael i’w ffermio.
Ffurfiwyd cymunedau newydd gyda llawer o’r Cymry yn ymgartrefu yn ardal Saskatchewan, gan fod hon yn ardal ddynodedig a ddewiswyd gan Lywodraeth Prydain o dan David Lloyd George. Cafodd y pentrefi a’r trefi newydd enwau lleoedd Cymreig, megis Bangor, Llewelyn a Glyndwr. Codwyd siopau, adeiladau, ysgolion a chapeli a chadwyd rhai o’r traddodiadau Cymreig, megis yr Eisteddfod.

Mae Mr Griffith Jones yn cofio’r Englyn a ysgrifennodd ei dad yn yr Eisteddfod:

 

Gellir gweld trawsgrifiad o’r ffeil sain ar ddiwedd y blog.

Casglwyd y casgliad hanes llafar gan Amgueddfa Hanes Canada, Ottawa lle cedwir y tapiau gwreiddiol. Anfonwyd copïau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru lle cawsant eu storio mewn amgylchedd rheoledig er mwyn amddiffyn y tapiau i’w defnyddio yn y dyfodol.

 

Mae’r prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a’i arwain gan y Llyfrgell Brydeinig bellach wedi digido a chreu metadata ar gyfer y cyfweliadau hyn. Bellach gellir clywed y casgliad am y tro cyntaf ers y 70au.

Dyma Jonathan Wise o Amgueddfa Hanes Canada yn trafod Casgliad Glenys James:

 

Gellir gweld trawsgrifiad o’r ffeil sain ar ddiwedd y blog

I gael mwy o wybodaeth am gasgliad Glenys James a sut y cawsant eu digido, edrychwch ar ein fideo ‘O Ganada i Lyfrgell Genedlaethol Cymru’ ar ein tudalen YouTube: https://www.youtube.com/user/llyfrgen

 

Trawsgrifiad: Mr Griffith Jones yn siarad â Glenys James

[Cyfieithu]

Griffith Jones: Daeth Dad o Gymru, Tregeiriog gyntaf ym 1891 ac ar ôl sawl taith yn ôl death allan eto ym 1910 ac ymgartrefu yn ardal Wood River. Mae mam gyda rhieni o Gymru a daeth hi o’r Unol Daliaethau i Ganada ym 1902 ac fe briodon nhw ym 1911. Ganwyd pedwar ohonom iddyn nhw ac mae’n debyg fy mod i’n siarad cystal Cymraeg ag unrhyw un ohonyn nhw, sydd ddim yn dda iawn.

Glenys James: Nawr, roedd eich tad yn adnabyddus yn yr ardal yma am ysgrifennu englynion yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Griffith Jones: Roedd yn adnabyddus ledled Gogledd America mewn gwirionedd, oherwydd cyfrannodd at y papurau Cymreig a chystadlodd yn holl Eisteddfodau Cymru y gallai gyda’i Englynion ac enillodd lawer o wobrau gyda hwy.

Glenys James: A allwch gofio unrhyw un o’r englynion a ysgrifennodd?

Griffith Jones: Gallwn ddweud un yn Saesneg, fel y gwyddoch fod yn rhaid i’r englyn gyseinio gyda harmonïau, un yr enillodd wobr arno yn Saesneg oedd:

Lindy how well he landed
In Paris o peril confronted
Pretty Yank with great head
Away he went un daunted

Trawsgrifiad: Mr Jonathan Wise

[Cyfieithu]

Helo, fy enw i yw Jonathan Wise. Rwy’n arbenigwr casglu ar gyfer yr archifau clyweledol yn Amgueddfa Hanes Canada. Ynghyd ag arddangosfeydd a rhaglenni ymchwil o’r radd flaenaf, mae’r Amgueddfa’n gartref i archif o dros 100,000 o recordiadau hanesyddol. Mae’r casgliadau unigryw hyn yn dyddio o 1899 ac yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon, straeon a chyfweliadau wedi’u recordio gan gymunedau ym mhob talaith a thiriogaeth yng Nghanada.
Un o’r casgliadau hyn yw Casgliad Glenys James. Ym 1974, cychwynnodd Glenys James ar ei thaith o amgylch y wlad i ymchwilio i fywydau mewnfudwyr o Gymru a oedd wedi dod i Ganada yn ystod y ganrif ddiwethaf. Bu’n cyfweld â phobl yn eu cartrefi, yn siarad am eu bywydau a’u profiadau unigryw eu hunain. Holodd am hanesion teulu ac atgofion plentyndod. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn y modd yr oedd iaith a diwylliant Cymraeg yn cael eu cadw.

O Montreal, Quebec i Edington, Alberta a phwyntiau rhwng y ddau, cipiodd Glenys James y foment ym mywydau cymunedau Cymreig Canada.
Mae staff llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd ledled y byd yn gweithio’n galed i amddiffyn casgliadau hanes llafar fel rhai Glenys James. Mae llawer o’r recordiadau hyn ar gyfryngau bregus a darfodedig y mae’n rhaid eu digido er mwyn y dyfodol.

Yn y pen draw, gwneir yr holl waith yma er mwyn gwarchod y gorffennol, gwasanaethu’r cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae Amgueddfa Hanes Canada yn falch o gael y cyfle i rannu gwaith Glenys James a hoffwn ddiolch i bawb yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am eu cefnogaeth i helpu diogelu’r casgliad pwysig yma.

 

Trafod Dyfodol Archifau Gwleidyddol

Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 09-11-2020

Mae Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig wedi bod yn rhan o galendr y Llyfrgell Genedlaethol ers 30 o flynyddoedd gyda chymysgedd o wleidyddion, academyddion a newyddiadurwyr yn cyfrannu dros y blynyddoedd. Ond, ohwerwydd cyfyngiadau pandemig Covid-19 nid oedd modd cynnal y ddarlith eleni a hynny ar ôl i’r trefniadau gael eu cwblhau.

Roedd y sefyllfa wedi rhoi’r cyfle i ni wneud rhywbeth gwahanol felly penderfynom i gynnal sesiwn panel trafod ar-lein gan ddefnyddio Zoom a gwahodd creuwyr a defnyddwyr archifau gwleidyddiol i drafod eu profiadau gydag archifau gwleidyddol a’u syniadau ar gyfer y dyfodol.

Ces i’r fraint o gadeirio’r sesiwn gyda’r newyddiadurwariag Elliw Gwawr,  y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones AS, Yr Athro Richard Wyn Jones a’r Aelod Seneddol Liz-Saville-Roberts. Cawsom drafodaeth ddidorol am awr ar nifer o gwestiynau a oedd wedi cael eu paratoi o flaen llaw a chwestiynau a gyfranwyd gan y gynulleidfa; rhai ohonynt yn faterion trwm, rhai yn fwy ysgafn. Trafodwn rôl archifau ym myd y cyfryngau cymdeithasol, sut i sicrhau bod pob rhan o gymdeithas yn cael ei gynrychioli yn yr archifau, beth yw’r mudiadau newydd sydd angen eu cofnodi a beth fyddai’n cynrychioli’r flwyddyn 2020 orau.

Mae’r sesiwn ar gael i’w weld ar dudalen Facebook y Llyfrgell a byddwn yn paratoi fideos i’w gosod ar wefan yr Archif Wleidyddol Gymreig gydag isdeitliau Cymraeg a Saesneg yn yr wythnosau nesaf.

Rob Phillips
Yr Archif Wleidyddol Gymreig

Gwaith Da yn Cadw’r Hyn sydd Dda: Cadw Deddfau Hywel Dda yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Casgliadau / Collections / Digido - Postiwyd 05-11-2020

Diwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd

Bob blwyddyn, mae’r Glymblaid Cadwedigaeth Ddigidol yn cynnal Diwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd gyda’r nod o dynnu sylw at y materion strategol, diwylliannol a thechnolegol cymhleth sy’n gysylltiedig â sicrhau mynediad parhaus at gynnwys digidol. Mae eleni wedi dwyn sylw yn benodol
at y ddibyniaeth fyd-eang ar wybodaeth ddigidol, seilwaith a chysylltedd ac mae’r thema eleni: Digidau: er Daioni, yn adlewyrchu effaith gadarnhaol cadw a darparu mynediad at gynnwys digidol dibynadwy. Mae’r thema hon yn cyd-fynd yn berffaith ag ymagweddau arloesol y Llyfrgell mewn cadwraeth draddodiadol, digido a chadwraeth ddigidol sy’n integreiddio i sicrhau bod Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn hygyrch nawr ac yn y dyfodol.

Llawysgrif Boston

Prynwyd Llawysgrif Boston yn 2012 gan y Llyfrgell gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru. Mae’r llawysgrif, a ysgrifennwyd yn Gymraeg, yn dyddio o tua 1350 ac mae’n cofnodi deddfau brodorol Cymru, y credwyd iddynt gael eu codeiddio gan Hywel Dda. Mae’n destun allweddol yn hanes cyfraith Cymru ac mae’n rhoi cyfle inni dreiddio i fywyd diwylliannol a hunaniaeth Cymru. Fe’i defnyddiwyd fel testun gwaith, gan gael ei anodi gan Farnwr yn Ne Cymru, a’i gariodd o gwmpas yn ei boced. Erbyn y 19eg ganrif, roedd y llawysgrif wedi cyrraedd America ac roedd yng ngofal Cymdeithas Hanesyddol Massachusetts yn Boston, ar ôl cael ei chludo yno gan ymfudwr mae’n debyg.

Datgelodd asesiad cadwraeth fod y llawysgrif yn fregus iawn, gyda llawer o rwygiadau a holltiadau, gan olygu na ellid ei thrafod heb y risg o ddifrod pellach. Penderfynwyd dad-rwymo’r gyfrol a digideiddio’r cynnwys, a fyddai’n galluogi ail-rwymo’r gwreiddiol, creu copïau ffacsimili a mynediad digidol.

Llif gwaith o un pen i’r llall

Mae llif gwaith cymhleth wedi’i ddatblygu i reoli’r broses ddigido, o ddethol i ddarparu mynediad a storio. Sicrhaodd ymarfer meincnodi fod y llawysgrif yn cael ei digido yn unol â’r safonau a’r fethodoleg a sefydlwyd ar gyfer digido deunyddiau llawysgrif. Nodwyd y protocolau ar gyfer sganio, gan gynnwys y wybodaeth hanfodol er mwyn cipio delwedd, sef , priodoli enw ffeil, proses trosi, a phenodi fformatau ffeiliau ar gyfer ffeiliau meistr a deilliadol.

Digido’r llawysgrif

Hwyluswyd y broses sganio trwy’r dadrwymo, gan alluogi cipio pob ffolio yn gyfan, heb yr angen i ddad-ystofi (de-warp). Cynorthwyodd hyn gyda’r broses o ymestyn ymylon allanol y memrwn yn ddigidol. Gellid sganio pob ffolio gwastad trwy ddefnyddio system sganio llinell, yn hytrach na’r dull arferol o ddefnyddio camera a chrud un siot . Trwy ddefnyddio’r dull hwn, gellid cipio’r delweddau ar eglurdeb uwch nag y byddai arferion gwaith normal yn ei ganiatáu ac roedd mwy o gysondeb o ran goleuo, a chywirdeb lliw gwell.

Cynhyrchodd y broses sganio ffeiliau meistr TIFF, gyda’r deilliadau JP2 yn cael eu cynhyrchu wrth amlyncu i Fedora, y System Rheoli Asedau Digidol. Cynhyrchwyd y ffeiliau METS, a oedd yn cynnwys metadata disgrifiadol a strwythurol wrth amlyncu. Storiwyd y prif ffeiliau TIFF yn yr Archif Ddigidol. Mae camau cadwraeth, gan gynnwys gwirio checksum , monitro sefydlogrwydd a chynllunio cadwraeth yn sicrhau bod y cynnwys digidol yn cael ei gadw.

Creu’r ffacsimiliau

Budd arall o’r broses dadrwymo a sganio oedd y cyfle i’r Llyfrgell ddangos ei thechnegau arloesol wrth greu ffacsimiliau, sydd bron yr un ffunud â’r rhai gwreiddiol. Cydiwyd copïau printiedig o’r dail wedi’u sganio, ar bapur archifol o ansawdd uchel, a’u pastio gefn wrth gefn i ffurfio ffolios a chydiadau. Sicrhaodd y fformat cefn wrth gefn hwn y byddai’r ffacsimili yr un trwch â’r llawysgrif wreiddiol. Arweiniodd y dechneg arloesol o efelychu memrwn trwy ymestyn y papur â llaw yn anwastad, tra bod y dail yn dal i fod yn llaith, at ymddangosiad crychiog dilys.
Rhwymwyd y ffacsimiliau yn yr un modd â’r gwreiddiol ac fe’u defnyddiwyd at ddibenion addysgu ac allgymorth, gan ganiatáu mynediad am gyfnod estynedig i’r llawysgrif, gan ddiogelu’r gwreiddiol.

Allwch chi weld y gwahaniaeth!

Gellir gweld y llawysgrif ddigidol ar wefan y Llyfrgell. Mae’r delweddau’n cael eu gweini trwy faniffest IIIF, wedi’i gysylltu â’r ffeiliau deilliadol a gedwir yn Fedora, sy’n cyflenwi’r Gwyliwr Cyffredinol (Universal Viewer). Gellir newid y delweddau, gyda’r gallu i chwyddo rannau o’r llawysgrif, troi’r tudalennau a chael amrywiaeth o olygfeydd. Mae’r metadata disgrifiadol ar gael gyda’r delweddau er mwyn ddarparu gwybodaeth gyd-destunol.

Trwy ei dull integredig o warchod ac ymestyn mynediad i un o drysorau mwyaf arwyddocaol Cymru, mae’r Llyfrgell yn sicr wedi defnyddio ei digidau, yn ffigurol ac yn llythrennol, er lles ac i bawb.

Sally McInnes, Pennaeth Gofal Casgliadau a Chasgliadau Unigryw

 

Tips ar sut i wneud ymchwil hanes teulu

Gwasanaethau Darllenwyr / Ymchwil - Postiwyd 26-10-2020

Am gyfnod rhyfedd! Yr ydym unwaith eto yn mynd mewn i gyfnod clo ac yn nesáu at dymor y Gaeaf, pryd yn aml iawn mae llawer yn troi at ymchwilio hanes eu teulu. Beth amdani? Ddim yn siŵr lle i ddechrau, darllenwch ymlaen.

5 cam i ddechrau ymchwil hanes teulu

Cam 1 – dechreuwch gyda’ch hunan a chofnodi digwyddiadau, dyddiadau a llefydd, yna gweithio’n ôl i’ch rhieni a’r cenedlaethol blaenorol hyd y medrwch.
Cam 2 – holwch i aelodau eraill o’r teulu am eu hatgofion, cofnodwch a/neu recordio’r wybodaeth.
Cam 3 – chwiliwch am dystiolaeth – tystysgrifau, ffotograffau, torion papur ayb, mae’r atig yn le da i chwilio.
Cam 4 – rhowch drefn ar y wybodaeth a gasglwyd hyd yma, creu coeden deulu ar bapur neu yn electronig mae digon o ddewis am ddim ar-lein.
Cam 5 – creu rhestr o’r hyn sydd angen ymchwil pellach, edrychwch ar wefan y Llyfrgell beth sydd ar gael ac os am help pellach cysylltwch â’r Gwasanaeth Ymholiadau

Os ydych wedi gwneud ychydig o ymchwil yn barod dyma ychydig o tips i chi wrth ymchwilio ymhellach.

10 tip i symud ymlaen gyda’ch ymchwil

  1. Cofiwch nodi pa adnoddau chi wedi chwilio, hyd yn oed os na ddaethpwyd o hyd i unrhyw wybodaeth rhag mynd nôl i wneud hynny yn y dyfodol.
  2. Darllenwch yn eang am yr adnoddau sydd ar gael a sut i’w dadansoddi
  3. Wrth chwilio cofrestri plwyf cofiwch mai cofnodion bedydd, priodi a chladdu ydynt yn wahanol i dystysgrifau sy’n cofnodi geni, priodi a marw.
  4. Cofrestri plwyf yn anodd eu deall neu yn eisiau, yna defnyddiwch adysgrifau’r esgob i lenwi bylchau os ydynt wedi goroesi.
  5. Methu dod o hyd i aelodau o’r teulu yn y cofrestri plwyf, ewch i chwilio yng nghofrestri capeli anghydffurfiol cyfagos.
  6. Wrth edrych ar gofnodion o gyfrifiad 1841 cofiwch fod oedran rhai dros 15 mlwydd oed yn cael ei dynnu lawr i’r 5 agosaf, mae hyn yn helpu wrth chwilio cofnod geni/bedydd.
  7. Erbyn cyfrifiad 1911 mae llawer mwy o wybodaeth yn cael ei gynnwys – faint o flynyddoedd yn briod, faint o blant, faint o’r plant sy dal yn fyw.
  8. Wrth ddod o hyd i farwolaeth mae bob amser werth chwilio i weld os oes ewyllys wedi ei adael.
  9. Chwiliwch am eich cyndeidiau mewn papurau newydd maent bob amser yn frith o wybodaeth am bob math o bobl, lleoliadau, digwyddiadau yn enwedig os medrir chwilio ar-lein.
  10. Ar ôl edrych ar yr adnoddau cyffredinol, beth am fentro chwilio mewn casgliadau ystadau, cyfreithwyr, cofnodion maenorol, sesiwn fawr a’r llu o gasgliadau eraill sydd ar gael drwy wefan a chatalog y Llyfrgell.

Pob hwyl gyda’r chwilio a mwynhewch!

Beryl Evans, Rheolwr Gwasanaethau Ymchwil

Beth yw’r sgôr, Bach?

Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections - Postiwyd

Wrth bori casgliad print Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd wedi’i ddigido, yr oedd diddordeb gennyf i weld cofnod yn dwyn y teitl ‘Six Concertos for Keyboard’. Ar ôl agor y cofnod catalog, gwelais sawl delwedd o sgôr cerddorol gan ‘Jean Bach’, wedi’i ddyddio’n betrus 177[u].

Roedd yr enw ‘Bach’ yng nghyd-destun cyfansoddwr wedi dechrau canu clychau wrth i mi feddwl am bwysigrwydd posibl yr eitem. Fe wnaeth y cyflwyniad ar y dudalen rhwymo gadarnhau fy nhybiaeth bod hwn yn haeddu ymchwil bellach. Yn wir, cadarnhaodd chwiliad cyflym ar y We mai’r cyfansoddwr oedd Johann Christian Bach.

 

 

Teitl y gwaith llawn [sydd ar goll o’r sgôr yn y Llyfrgell] yw Six concerti pour le clavecin, deux violons & une violoncelle, oevre [sic] premier / composées par Jean Bach (Six concertos for harpsichord, two violins and violincello, first opus, composed by Jean Bach) a gyhoeddwyd gan Peter Welcker yn Llundain, 1763. Debyg bod y sgôr yn y Llyfrgell ond yn cynnwys y rhan ar gyfer yr harpsicord. Nid yw’r catalog ar hyn o bryd yn darparu unrhyw gliwiau o darddiad y gwaith.

Cafodd J.C. Bach, mab ieuengaf yr enwog Johann Sebastian Bach, ei eni yn Leipzig yn 1735. Derbyniodd ei addysg gerddorol o’i dad hyd nes ei farwolaeth yn 1750. Gwariodd J.C. Bach sawl blwyddyn yn Yr Eidal, yn cyfansoddi cerddoriaeth eglwysig yn bennaf, ac yn 1760 cafodd ei apwyntion yn organydd yn eglwys gadeiriol Milan. Yn 1762, symudodd i Lundain a bu’n ymwneud â’r byd cerddorol cyfoes. Diolch i’w enw da, cafodd ei apwyntio fel meistr cerdd i’r Frenhines Charlotte, sef gwraig ifanc Siôr III.

 

 

Mae’n debyg bod Bach a’r Frenhines, a chafodd ei eni yn Yr Almaen ac oedd yn hoff iawn o gerddoriaeth, yn dod ymlaen yn dda. Yn ystod ei yrfa broffesiynol, dysgodd Bach ei phlant hefyd, gan gynnwys y brenhinoedd Siôr IV a William IV. Nid yw’n syndod felly iddo gyflwyno’i Opus I, y chwe concerto i’r harpsicord, i’w noddwraig brenhinol. Mae’r dynged raslon yn y Ffrangeg, sef iaith diplomyddiaeth a diwylliant. Mae’r geiriad yn gonfensiynol a gellid ei gyfieithu, yn fras, fel y ganlyn:

‘Gan fy mod wedi fy nerbyn yn raslon i roi fy ngwasanaeth i’ch Mawrhydi yn y grefft o ganu, yr wyf yn ei gwneud yn ddyletswydd arnaf i ymroi’n llwyr i’w hastudiaethau a’i difyrrwch. Yng ngoleuni hyn, yr wyf wedi mentro cynnig i’ch Mawrhydi’r ymgais wan hon. Mae’r gras a’r caredigrwydd y mae Eich Mawrhydi wedi dangos wrth wrando ar berfformiad y gerddoriaeth yma wedi f’annog i’w gyhoeddi; ac mae’r caniatâd graslon y mae Eich Mawrhydi wedi rhoi imi i’w hargraffu dan ei gofal gogoneddus yn fy sicrhau yr hoffai dderbyn y deyrnged hon o fy mrwdfrydedd â’r un caredigrwydd a chymwynasgarwch brenhinol sy’n dwyn edmygedd y deyrnas, llawenydd y llys, dedwyddwch ei gweision a’i deiliaid, ac hapusrwydd yr un sy’n cael yr anrhydedd o fod, gyda’r parch mwyaf, Madame Eich Mawrhydi, eich ufudd was, Jean Bach.’

Mae WorldCat yn rhestri sawl esiampl o’r un gwaith, gan gynnwys sgôr printiedig lawn yn Y Llyfrgell Brydeinig. Ni does sôn am y sgôr yn y Llyfrgell Genedlaethol, a hynny mwy na thebyg oherwydd nad oedd wedi’i hadnabod hyd yma. Er bod y gerddoriaeth yn adnabyddus, mae prinder cymharol y sgôr cynnar hwn yn ei gwneud hi’n haeddiannol o gael ei chynnwys.

Gallwch wrando ar sampl o’r gerddoriaeth ar wefan Presto Classical. Mae symudiad olaf Concerto Rhif 6 yn adlewyrchu perthynas Johann Christian Bach gyda’r teulu brenhinol, yn cynnwys amrywiaethau arbennig o dôn dra gyfarwydd.

Gellid chwilio am gerddoriaeth i’r allweddell gan gyfansoddwyr arall o’r deunawfed ganrif, megis Johann Christian Fischer, Johann Samuel Schroeter a Johann Anton Filtz, ymysg y gerddoriaeth sydd wedi’u digido yn y Llyfrgell Genedlaethol o dan y pennawd ‘Deunyddiau Print eraill sydd ar gael i’w gweld’.

Diolch i Heini Davies a Menna Morgan am eu cymorth gyda’r blog yma ac am ddiweddaru’r cofnodion catalog perthnasol.

Hilary Peters
Archifydd Cynorthwyol

 

WiciPics

Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 20-10-2020

Prosiect torfol newydd sy’n anelu at gofnodi treftadaeth adeiladau Cymru trwy gyfrwng ffotograffiaeth ac erthyglau Wikipedia.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru unwaith eto yn cydweithio gyda Menter Iaith Môn, ynghyd ag arian oddi wrth uned iaith Llywodraeth Cymru, i gyflwyno a chyhoeddi’r prosiect gyffrous newydd yma.

Mae gan Gymru miloedd o adeiladau cofrestredig, sy’n amrywio o’r cestyll ysblennydd a adeiladwyd gan y Tywysogion Cymreig i eglwysi, plastai a thai teras.  Ar un adeg, roedd mwy o seddi yng nghapeli Cymru nag oedd o boblogaeth i eistedd arnynt ond bellach mae’r capeli hyn yn diflannu’n gyflym.  Mae gennym hefyd fel gwlad, adeiladau modern sydd angen eu cofnodi, er enghraifft, ysbytai a chanolfannau iechyd, ysgolion, llyfrgelloedd a chyfleusterau chwaraeon.

Ar gyfer y prosiect yma, rydym yn gofyn i chi weld beth ydych chi’n meddwl sydd angen cael ei gofnodi’n ffotograffig.  Os ydych yn cerdded y ci, rhedeg, seiclo neu’n mynd allan am dro ar ôl cinio dydd Sul blasus, jyst cydiwch yn eich ffôn neu gamera a chymerwch ambell ffotograff ar hyd y ffordd.

Bydd y delweddau hyn yn ffurfio rhan o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru a bydd mynediad cyhoeddus ac am ddim iddynt wedyn i gael eu hail-ddefnyddio ar Wikimedia Commons, fel eu bod yn medru gwella erthyglau Wikipedia.  Mae Wikipedia yn llwyfan gwych inni gofnodi’n gymunedol a rhannu ein hanes lleol.  Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod erthyglau Wikipedia safonol yn help sylweddol i hybu twristiaeth.

Nid ydym yn disgwyl ffotograffau proffesiynol eu safon, na lluniau sydd wedi eu steilio mewn arddull neu ffordd arbennig.  Yr hyn sy’n bwysig yw delweddau sy’n cofnodi’n glir.  Medrwch dynnu llun ar unrhyw beth, o  gamera DSLR i ffôn symudol, felly mae pawb yn medru cyfrannu, o mamgu/nain a dadcu/taid i‘r wyrion.

Fel rhan o’r prosiect rydym yn bwriadu gweithio’n uniongyrchol (o bell) gydag ysgolion er mwyn annog disgyblion i dynnu ffotograff o’r adeiladau yn eu hardaloedd hwy ac yna byddwn yn eu hyfforddi ar sut i ddefnyddio’r delweddau hyn i wella safonau erthyglau Wikipedia.

Mae cyfrannu i’r prosiect yn rhwydd.  Bydd map rhyngweithiol yn dangos I chi yr holl leoedd sydd angen eu cofnodi/tynnu ffotograff ohonynt yn eich ardal chi ac yna bydd ein tiwtorial fideo yn eich cyfarwyddo ar y camau syml ynghylch y broses llwytho’r ffotograffau.  Felly, cewch i weld beth sydd angen cael ffotograff ohono yn eich ardal chi a chofnodwch heddiw i sicrhau bod eich delweddau yn cael eu cynnwys yn ein harchif ddigidol newydd.

Tagiau: , , ,

Telynor Arall Wynnstay

Casgliadau - Postiwyd 28-09-2020

John Parry (Parri Dall), telynor dall enwog Wynnstay, oedd un o hoff gerddorion Syr Watkin Williams Wynn, y Bedwerydd Barwnig (1749-1789). Nid yw llawer o bobol yn ymwybodol bod gan Parry olynydd, er nad mor adnabyddus. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi derbyn portread arbennig o Benjamin Cunnah, organydd eglwys Rhiwabon, cyfansoddwr New Welch Music, a thelynor i Syr Watkin Williams Wynn, y Pumed Barwnig (1772-1840). Mae’r portread, o bosib gan William Roos, yn dangos Cunnah wedi’i wisgo’n llwydaidd ynghyd ag offer ei grefft: ei delyn aur, cwilsyn a dalennau o gerddoriaeth.

 

 

Gellid deall mwy am ei fywyd drwy ymchwilio amryw o gasgliadau archifol. Mae papurau Leeswood yn Archifdy Sir y Fflint yn cofnodi bod Benjamin Cunnah wedi gwneud cais am swydd yn Yr Wyddgrug yn 1812. Ysgrifennodd at Miss Griffiths o Rual am ei chefnogaeth gan fod Mr Birch yn ei wrthwynebu, er gwaethaf caredigrwydd Mr Eyton, a honnodd ei bod yn cael ei drin yn anheg gan fod rhai wedi torri ar ei draws wrth chwarae’r organ ar dreial (Cyfeirnod D-LE/C/7/6 a D-LE/C/7/15).

Mae’n debyg iddo dderbyn swydd gyda Syr Watkin Williams Wynn tua 1815, sy’n dangos parhad yn y traddodiad ymysg teuluoedd bonedd Cymru o gyflogi telynorion. Nid yw llyfrau cyfrifo Wynnstay yn dangos unrhyw dystiolaeth o gyflogaeth Cunnah, ond maent yn cofnodi gosod yr organ Snetzler hardd yn eglwys Rhiwabon yn 1770 a oedd Cunnah yn siŵr o fod wedi chwarae.

Yma yn y Llyfrgell, ceir llawysgrif gerddorol yn llaw Elizabeth Giffard o Neuadd Nercwys, Sir y Fflint, sy’n cynnwys gwersi ac alawon i’r delyn. Mae’n cynnwys sawl darn gan Benjamin Cunnah, megis ‘Nerquis March’ (NLW MS 24006A). Cafodd yr alawon yma eu cyhoeddi fel New Welch Music : consisting of three Sonatas, Chase, Minuets, Siciliano, Rondos, Marches, Airs with Variations for the Harp or Piano Forte / composed & humbly dedicated by permission to Sir Watkin Wms. Wynn, Bart. by B. Cunnah of Rhuabon. (Argraffwyd gan yr awdur gan Goulding & Co.of New Bond Street.)

Mae enwau’r tanysgrifwyr yn awgrymu dyddiad cyhoeddi rhwng 1815 ac 1823. Roedd yn anarferol yn ystod y cyfnod hwn i gyfansoddwr Cymreig gyhoeddi gwaith ei hun yn ystod ei oes.

 

 

Mae Robert Griffith, yn ei lyfr Llyfr Cerdd Dannau: ymchwiliad i hanes hen gerddoriaeth a’r dulliau hynaf o ganu (Caernarfon 1913), yn cyfeirio at erthyglau yn y Cambro-Briton yn disgrifio Cunnah yn cystadlu yn Eisteddfodau yn Wrecsam, 1820, ac yng Nghaernarfon, 1821. Er nad oedd ymysg yr enillwyr, derbyniodd clod uchel. Cafodd ei feirniadu yn chwaraewr ‘gwyddonol’ a greodd y dôn orau, a derbyniodd tipyn o glod am chwaeth ac arddull ei berfformiad. Cynghorwyd ef i ganolbwyntio llai ar chwarae ei gyfansoddiadau ei hun, ac i ddysgu alawon traddodiadol Cymreig er mwyn chwarae i’r brodorion! Cafodd ei ddewis fel beirniad cystadleuaeth y delyn yn Eisteddfod Yr Wyddgrug yn 1823.

Ni wyddwn ryw lawer am fywyd personol Benjamin Cunnah. Priododd Mary Rogers yn Wrecsam yn 1800 (ymrwymiadau priodas LlGC Llanelwy A 137/7). Cafodd y ddau nifer o blant, deg a gafodd eu henwi fel cymyndderbynwyr yn ei ewyllys dyddiedig 12 Ebrill 1823, profwyd 6 Mai 1840 (SA1840-198). Gadawodd y canlynol yn ei ewyllys: ‘… [my] musical instruments if any one of my children who plays may have a wish, to be given to them at a fair valuation by some well disposed person…..and my music books likewise to be valued and given to them according and agreeable to their wish’. Penderfynodd dietifeddu ei fab Edward, nid o ganlyniad i unrhyw ddrwgdeimlad ond oherwydd iddo roi mwy na’i ran iddo tra oedd iddo fyw i gymharu â’r plant arall.

Daw sawl llinyn o ddiddordeb ynghyd – yr artistig, y cerddorol, a’r archifol – wrth ymchwilio stori Benjamin Cunnah, telynor ‘arall’ Wynnstay.

Estynnwn ddiolch i staff Archifdy Dinbych am eu cefnogaeth gyda’r ymchwil.

Hilary Peters
Archifydd Cynorthwyol

Cerddorion yn Creu

Darganfod Sain - Postiwyd 09-09-2020

Yn ystod y cyfnod cloi mae 25 o gyfansoddwyr wedi bod yn brysur yn cyfansoddi darnau newydd ar gyfer y prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain. Derbyniodd y cyfansoddwyr gyfweliadau amrywiol o 5 casgliad gwahanol o’r archif sain a gofynnwyd iddynt wrando a’u defnyddio i’w hysbrydoli i greu darn newydd o waith.

Gallwch glywed pob un o’r darnau newydd ar Sianel YouTube y Llyfrgell trwy chwilio’r tag #DETS

Dyma’r casgliadau a ysbrydolodd y cyfansoddwyr:

Casgliad Glenys James

Ganed Glenys James yn Llundain i rieni o Gymru, ac roedd yn siarad Cymraeg adref ac yn y capel, ond nid fu erioed yn byw yng Nghymru.

Symudodd i Ganada lle bu’n cynnal ymchwil ar gyfer Amgueddfa Dyn Canada, Ottawa (a elwir bellach yn Ganolfan Astudiaethau Diwylliannol Canada, Ottawa) i’r Cymry a fudodd i Ganada a Patagonia.

Yn 1974, recordiodd Glenys James amryw o gyfweliadau â phobl o dras Gymreig oedd yn byw yng Nghanada, yn enwedig ardal Satchawen lle ffurfiwyd cymunedau Cymreig. Gadawodd dros 200 o bobl Patagonia am Ganada ym 1902 oherwydd amodau anodd ac am eu bod eisiau creu bywyd gwell. Mae’r cyfweliadau hyn yn cynnwys straeon personol a hanesion adeiladu pentrefi newydd a’u henwi yn Gymraeg (Glyndwr, Bangor, Llewelyn). Fe wnaethant godi ysgolion a chapeli newydd a chynnal Eisteddfodau.

Mae’r tapiau rîl i rîl gwreiddiol bellach yn cael eu cadw yng Nghanolfan Astudiaethau Diwylliannol Canada yn Ottawa gyda chopïau casét a ffeiliau digidol yma yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Pam na ddylem ni ganu?

Yn 1916 cyhoeddodd y Times lythyr lle roedd yr ysgrifennwr yn gwrthwynebu cynnal yr Eisteddfod yn ystod y rhyfel. Mewn ymateb i’r erthygl, traddododd David Lloyd George araith yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, gan ddechrau gyda’r geiriau – ‘Pam na ddylem ni ganu yn ystod y rhyfel?’

Trwy gydol yr araith mae’n amddiffyn cynnal yr Eisteddfod. Adroddwyd bod dros 7,000 o bobl wedi gwrando ar ei araith. Ar 15fed Chwefror, 1934, recordiodd Lloyd George ran o’i araith enwog yn stiwdio’r  BBC er mwyn ei darlledu ar y radio. Cedwir copi o’r anerchiad yma yn y Llyfrgell ac fe’i adferwyd yn ddigidol gan y tîm Datgloi Ein Treftadaeth Sain.

Stori’r Goedwig

Roedd Stori’r Goedwig yn brosiect gan y Comisiwn Coedwigaeth yn 2002-3 lle recordiwyd cyfweliadau â phobl oedd yn ymwneud â gweithgareddau’r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru.

Adroddwyd straeon personol gan bobl a oedd yn byw ac yn gweithio yn y goedwig ac o’i chwmpas, gan sôn am y cyfnod wedi’r rhyfel hyd at yr 21ain ganrif.  Mae yma hanesion am sut y daethant i weithio i’r Comisiwn Coedwigaeth, y gweithgareddau – adeiladu ffyrdd, aredig. Mae’r cyfweliadau’n caniatáu inni ddysgu am y newidiadau yn nhirwedd Cymru, a’r effaith gafodd hyn ar gymdeithas, amaeth a’r economi.

Adneuwyd 167 o finiddisgiau i’r Llyfrgell a chawsant eu digideiddio a’u catalogio gan fyfyrwyr MA Gweinyddiaeth Archifau ac MSc Curadu Digidol o Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth yn 2019.

Caradog Jones

Yn 1997 recordiodd Meleri Mair gyfweliad gyda Caradog Jones am botsio o afonydd, lle rhoddir sylwadau am ei brofiad personol fel beili afon yn y 1950au.

Mae Mr Jones yn disgrifio pam fod pobl yn potsio – tlodi yn bennaf, y gosb i’r rhai a gafodd eu dal, a’r arfer o orchuddio eu hunain i osgoi cael eu hadnabod a’u dal gyda’r nos.

Casgliad Colin Edwards

Newyddiadurwr, darlledwr ac awdur o Gymru oedd Colin Edwards a oedd yn byw yng Nghaliffornia. Yn ystod y 1960au recordiodd gyfweliadau â ffrindiau, teulu a chydnabod Dylan Thomas. Mae’r hanesion a’r atgofion hyn am fywyd Dylan yn rhoi darlun i ni o’i gymeriad, ei waith, ei berthnasau a’i gefndir teuluol.

Rhoddwyd y tapiau i’r Llyfrgell gan wraig Colin, Mary Edwards, wedi iddo farw. Defnyddiodd David N Thomas y tapiau yn ei lyfrau cyhoeddedig ‘Dylan Remembered’, 2 gyfrol (Seren a NLW, 2003, 2004)

Hoffem ddiolch i’r holl gyfansoddwyr am gymryd rhan yn y gwaith comisiwn; gobeithiwn y byddwch yn mwynhau gwrando ar y cyfansoddiadau:

Alan Chamberlain; Angharad Davies; Ben McManus; Bonello, Ruth a Hay; Branwen Williams ; David Roche; Derri Joseph Lewis; Gareth Bonello; Georgia Ruth Williams; Geraint Rhys; Gwen Mairi; Gwenan Gibbard; Gwilym Bowen Rhys; Gwydion Rhys; Luciano Williamson; Owen Shiers; Pierce Joyce; Pwdin Reis a gyfansoddwyd gan Neil Rosser; Sally Crosby; Sam Humphreys; Seth Alexander; Stacey Blythe; Steff Rees; Tinc y Tannau; Toby Hay.

Alison Lloyd Smith,

Rheolwr Hwb Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain

Datgloi Ein Treftadaeth Sain a pherthnasedd archifau yn oes Wicipedia

Darganfod Sain - Postiwyd 13-08-2020

Rwy’n archifydd o Sweden sydd wedi gwneud interniaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) rhwng Ionawr a Gorffennaf 2020. Ariannwyd yr interniaeth gan Erasmus + Rhaglen yr UE, a Phrifysgol Gothenburg oedd y sefydliad cefnogi yn Sweden. Y diben oedd cael profiad ymarferol o weithio fel archifydd sain ac ar yr un pryd helpu sefydliad treftadaeth ddiwylliannol. Felly, roeddwn i’n gweithio yn yr Archif Sgrin a Sain ar brosiect digido Datgloi Ein Treftadaeth Sain.

Nod prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain yw gwarchod, digido a sicrhau bod recordiadau sain prin ac unigryw ar gael i’r cyhoedd ledled y DU. Mae LlGC yn un o ddeg sefydliad archifol cenedlaethol a rhanbarthol sy’n rhan o’r prosiect ac mae’r holl waith yn cael ei gydlynu gan y Llyfrgell Brydeinig. Bydd y consortiwm hefyd yn cyflwyno gwahanol raglenni o weithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd, a gwefan lle bydd rhan helaeth o’r recordiadau ar gael am ddim i bawb ar gyfer ymchwil.

Felly rwyf wedi digido, catalogio ac ymchwilio i gynnwys a hawliau recordiadau, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi i wirfoddolwyr yn ardal Bae Teiger o Gaerdydd. Mae gan LlGC gasgliadau sain a recordiadau sy’n ymwneud ag agweddau amrywiol ar fywyd yng Nghymru, sy’n dyddio’n ôl i’r recordiadau cynharaf yn yr 1880au hyd at heddiw. Felly mae gweithio gyda’r deunydd wedi rhoi cipolwg cynnar i mi ar rannau o hanes a diwylliant Cymru. Rwyf hefyd wedi creu cynnwys i’w ddefnyddio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol LlGC ac wedi ysgrifennu/golygu erthyglau ar gyfer Wicipedia, er mwyn lledaenu gwybodaeth am brosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain a’r recordiadau (ac am brosiect digido blaenorol o’r enw Datgloi Treftadaeth Ffilm) i’r cyhoedd yn ehangach.

Wrth weithio gyda Wicipedia fe’m hatgoffwyd o’i gryfderau a’i wendidau mewn perthynas ag archifau. Un o gryfderau Wicipedia yw ei fod ar gael ac yn cael ei ddefnyddio’n eang o amgylch y byd, ond ar y llaw arall mae problemau o ran cynrychiolaeth yn yr erthyglau.

Yn Sweden, roeddwn eisoes wedi cymryd rhan mewn gweithdy Wicipedia wedi’i anelu at fenywod heb lawer o brofiad neu ddim profiad o gwbl o olygu ac ysgrifennu erthyglau. Fe’i trefnwyd gan Amgueddfa Hanes Merched Stockholm er mwyn lleihau’r bwlch rhwng y rhywiau yn Wicipedia. Mae tua 90% o’r erthyglau yn cael eu hysgrifennu gan ddynion sy’n golygu bod tua phedair gwaith cymaint o erthyglau am ddynion. Cawsom ein hannog felly i olygu ac ysgrifennu erthyglau am fenywod.

Ysgrifennais erthygl am Bulgariska Damkör Stockholm (Côr Merched Bwlgareg Stockholm), côr a fu’n weithgar ers dros 20 mlynedd. Ond roedd hi’n anodd trefnu bod yr erthygl yn cael ei chymeradwyo gan Wicipedia oherwydd y meini prawf yn gysylltiedig ag amlygrwydd. Mae angen i destun erthygl fod o ddiddordeb, arwyddocâd neu enwogrwydd nodedig. Roedd y côr wedi bod yn perfformio mewn gwyliau, mewn eglwysi, llysgenadaethau, amgueddfeydd, wedi cymryd rhan mewn teithiau cyfnewid diwylliannol, wedi trefnu gweithdai ac ati. Fodd bynnag, doedden nhw erioed wedi rhyddhau albwm, felly dadleuwyd nad oedd y côr yn deilwng i’w gynnwys. Hefyd prin oedd yr erthyglau amdanynt mewn cylchgronau cerdd neu debyg. Llwyddais i ddod o hyd i recordiadau radio o berfformiadau byw gan ddadlau eu bod yn bwysig ac yn unigryw, felly yn y pen draw cymeradwywyd yr erthygl.

Gwnaeth hyn i mi feddwl am gynrychiolaeth a’r perygl y bydd Wicipedia yn cadw at yr un hen hierarchaeth sydd wedi bod yn amlwg drwy hanes. Yn draddodiadol, mae merched fel grŵp wedi cael llai o gyfleoedd ac o ganlyniad llai o sylw mewn dogfennau hanesyddol, y wasg ac ati. Un ffordd i fynd i’r afael â hyn oedd i fenywod ddilyn trywydd gwahanol i ddynion. O ganlyniad efallai y byddai côr merched heddiw yn cynnal perfformiadau byw ac yn gwneud enw iddynt eu hunain drwy argymhellion personol, yn lle recordio a cheisio denu sylw gan y cyfryngau. Mae grwpiau anghofiedig eraill fel pobl sy’n fregus yn ariannol neu leiafrifoedd gwahanol (ethnig, diwylliannol ac ati) yn wynebu’r un risg o gael llai o gynrychiolaeth yn gyson yn yr oes ddigidol.

Wrth gwrs, mae archifau hefyd yn wynebu problemau cynrychiolaeth. Ond un ffordd o fynd i’r afael â hyn yw mynd ati’n fwriadol i lenwi’r bylchau archifol trwy gynnal cyfweliadau hanes llafar. Gellir deall hanes llafar fel dull o gasglu gwybodaeth am gyfnodau a digwyddiadau hanesyddol drwy gyfweld â phobl a’u profodd. Gellir cynnal cyfweliadau hefyd â phobl y mae eu profiadau a’u hatgofion yn cynrychioli cymunedau penodol neu y mae eu bywydau wedi bod yn arbennig o arwyddocaol. Y nod yn aml yw cael gwybodaeth o wahanol bersbectif, yn enwedig y rhai na ellir dod o hyd iddynt mewn ffynonellau ysgrifenedig. Mae hanes llafar wedi datblygu law yn llaw â thechnegau recordio sain a chlyweledol ond gellir trawsgrifio cyfweliadau hefyd. Mae casglu caneuon a cherddoriaeth yn ffordd debyg o gasglu cerddoriaeth a drosglwyddir ar lafar (fel cerddoriaeth werin) a thrwy hynny, llenwi’r bwlch cerddorol.

Rwyf wedi dod ar draws amrywiaeth eang o recordiadau hanes llafar wrth weithio ar brosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain. Er enghraifft, cyfweliadau gyda ffermwyr o Gymru a oedd yn byw yn ystod yr Ail Ryfel Byd, disgynyddion i ymfudwyr o Gymru yn UDA, Andy Fairweather y cerddor o Gymru, Eric Rowan cynhyrchydd ffilmiau a wnaeth y ffilm am frodyr a chwiorydd yr arlunydd “Augustus and Gwen: The Fire and the Fountain (1975)”, Elinor Rosen a fu’n ymwneud â’r Blaid Lafur ar hyd ei hoes, John Goddard y ffotograffydd a llawer o gyfweliadau gydag arlunwyr ac artistiaid o Gymru a oedd yn weithgar yn ystod y 1900au, fel Eirian a Denys Short.

Mae rhai cyfweliadau hanes llafar gyda pherthnasau a ffrindiau i bobl mwy enwog, nad ydyn nhw gyda ni bellach, fel y cyfweliad gyda Tom Evans sy’n trafod gweithgareddau casglu ei wraig Margaret Evans (1922-1996). Casglodd wisgoedd, arteffactau, dogfennau ac effemera sy’n gysylltiedig ag Aberystwyth a thu hwnt, o’r 1800au i’r 1900au. Rhoddwyd y dogfennau o’i chasgliad i Archifdy Ceredigion a’r arteffactau i Amgueddfa Ceredigion. Enghraifft arall yw’r cyfweliad gyda Stanley Cheetham, a oedd yn perthyn i’r arloeswr Arthur Cheetham (1864-1937), sef y gwneuthurwr ffilmiau cyntaf yng Nghymru. Gwnaeth dros 30 o ffilmiau byrion rhwng 1898 a 1912 a’u dangos mewn cymunedau gwledig yn ogystal ag agor y sinema gyntaf oedd yn agored drwy’r flwyddyn yn y Rhyl yn 1906. Hefyd mae gan yr Archif Sgrin a Sain ffilmiau a wnaed gan G.A. Cheetham, mab Arthur.

Ar y llaw arall, mae cyfweliadau hanes llafar eraill yn canobwyntio ar ffenomen ddiwylliannol fel y gyfres o gyfweliadau gan yr Athro Moira Vincentelli sy’n trafod defnydd a swyddogaeth y ddreser Gymreig ar draws y cenedlaethau.

Yn olaf, hoffwn sôn am Gasgliad Bae Teigr. Mae’n perthyn i The Heritage & Cultural Exchange Bae Teigr a’r Byd, sefydliad cymunedol sy’n ceisio croniclo treftadaeth ac amrywiaeth ddiwylliannol Bae Teigr a Dociau Caerdydd. Mae ganddynt ddeunyddiau archifol sy’n cynnwys: ffotograffau, llyfrau dogni, cylchgronau, llyfrau gwasanaeth morwyr, paentiadau a brasluniau, cofrestr ysgol yn ogystal â chyfweliadau sain a thapiau fideo. Mae’r recordiadau sain yn cael eu digido a’u catalogio yn ystod prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain ac ymddengys eu bod yn amhrisiadwy i bobl sydd eisiau dysgu mwy am un o’r ardaloedd amlddiwylliannol gwreiddiol, gyda mewnfudwyr o hyd at 45 o wledydd.

Ac mae’r holl enghreifftiau yma’n recordiadau a wnaed yn Saesneg, mae llawer mwy ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Gobeithio y bydd rhywbeth perthnasol i bawb. Mae’r holl recordiadau sy’n cael eu digido a’u catalogio o’r prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain yn cael eu derbyn i Gatalog Sain a Delweddau Symudol y Llyfrgell Brydeinig ac yn y pen draw, bydd chwaraewr cyfryngau pwrpasol, a ddatblygir o’r newydd, a gwefan yn cael ei lansio. Bydd hyd at 100,000 o recordiau ar gael am ddim i bawb ymchwilio iddynt, eu mwynhau a chael eu hysbrydoli ganddynt. Bydd y sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol yn darparu mynediad yn lleol i’w recordiadau eu hunain a’r rhai nad oes ganddynt drwydded a chaniatad i’w cyhoeddi ar-lein.

Nid yw Wicipedia yn derbyn hanes llafar fel ffynhonnell gyfreithlon ar gyfer erthygl felly mae’n werth chwilio drwy’r archifau i ddod o hyd i rywbeth gwreiddiol a gwahanol. A gyda phrosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain mae archifau bron â chael y blaen ar Wicipedia, o ran mynediad ac argaeledd ar-lein.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i staff LlGC, yn enwedig yn yr Archif Sgrin a Sain, sydd wedi bod yn groesawgar a chefnogol iawn yn ystod fy nghyfnod yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn

Maria, archifydd o Sweden

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog