Tag Archives: Eisteddfod

Catalogio mapiau trefedigaethol o Affrica

#CaruMapiau / Casgliadau - Postiwyd 10-05-2022

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rhwng cyfnodau clo, rwyf wedi bod yn gweithio fy ffordd trwy ôl-groniad o fapiau o Affrica heb eu catalogio neu wedi’u catalogio’n rhannol, gan eu didoli a’u hychwanegu at y gronfa ddata ar-lein fel y gall pawb gael mynediad atynt. Mae darllenwyr yn dweud wrthym yn aml nad oedden nhw’n gwybod bod gennym ni fapiau o’r tu allan i Gymru, felly rwy’n gobeithio y bydd y prosiect catalogio hwn a’m blogiau yn helpu mwy o ddarllenwyr i ddarganfod ehangder y deunydd sydd gennym.

 

 

Anglo Belgian Boundary Commission, 1925

 

 

Diagramau triongli ffin Tanganyika, 1928

 

 

Anglo-Belgian Boundary Commission, 1925 [llofnodion]

 

Daw’r rhan fwyaf o’r mapiau hyn o gyfnod gweinyddiaeth drefedigaethol Ewropeaidd gwledydd Affrica. Mae hyn yn rhannol yn deillio o ffynhonnell y mapiau yn y casgliad — daw’r mwyafrif i’r llyfrgell yn ystod yr 20fed ganrif drwy’r broses adnau cyfreithiol, sy’n berthnasol i ddeunydd a gyhoeddwyd yn y DU yn unig. Y cyhoeddwr mwyaf cynhyrchiol o fapiau tramor ym Mhrydain yn yr 20fed ganrif oedd Cyfarwyddiaeth Arolygon Trefedigaethol y llywodraeth. Fe’i sefydlwyd ym 1946 i ganoli cynhyrchu mapiau o’r ymerodraeth. Ym 1957, gyda symudiadau annibyniaeth ar draws yr ymerodraeth yn ennill momentwm, fe’i hailenwyd yn Gyfarwyddiaeth Arolygon Tramor. Cynhyrchodd adrannau eraill y llywodraeth, megis y Swyddfa Gwybodaeth Ganolog, fapiau ar gyfer cynulleidfa gyffredinol hefyd, tra bod y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) yn cynhyrchu ac yn casglu mapiau at ddibenion milwrol, rhai ohonynt wedi’u hychwanegu at gasgliadau’r llyfrgell wrth i’r Weinyddiaeth Amddiffyn leihau ei gasgliad mapiau papur o blaid dull mwy digidol. Fodd bynnag, mae goruchafiaeth safbwyntiau gweinyddol trefedigaethol yn y casgliad hefyd yn adlewyrchu pwysigrwydd mapio’r byd trefedigaethol — mae mapiau’n ‘profi’ pwy sy’n berchen ar dir.

Daw ein dau fap cyntaf o set a ddefnyddiwyd i ddiffinio a chyfreithloni’r ffin rhwng Tanganyika Prydeinig (Tanzania fodern) a Rwanda a Burundi’r Wlad Belg. Lluniwyd y mapiau yn y 1920au, gan rannu ysbail y Rhyfel Byd Cyntaf fel y penderfynwyd gan Gytundeb Versailles. Tan hynny roedd Tanganyika, Rwanda a Burundi wedi bod yn rhan o Ddwyrain Affrica’r Almaen, ond roeddynt i’w rhannu fel iawndal rhwng Prydain a Gwlad Belg.

Mae llofnodion seremonïol comisiynwyr Prydain a Gwlad Belg i’w gweld ar y map. Ni chyfeirir at bobl leol nac arweinwyr nad oedd angen eu llofnodion ar gyfer y rhan hon o’u tiriogaeth.

 

 

Wiedergutmachung von Unrecht?, 1918

 

Ein map nesaf yw her Almaeneg i Brif Weinidog Prydain, David Lloyd George, yn amlinellu ei nod o ‘iawndal am anghyfiawnder’ [Wiedergutmachung von Unrecht] drwy’r broses heddwch.

Roedd Lloyd George wedi mynnu bod yr Almaen a’i chynghreiriaid yn tynnu’n ôl o Wlad Belg, Serbia, Montenegro, yr Eidal, Rwmania, Alsace a Lorraine — mae’r map Almaeneg hwn yn dadlau bod ei ofynion yn rhagrithiol tra bod Prydain a’i chynghreiriaid yn dal trefedigaethau ledled y byd. Nid yw Dwyrain Affrica Almaeneg wedi’i gynnwys ar y map.

Er bod rhai ffiniau trefedigaethol wedi’u diffinio gan gyfeirio at nodweddion daearyddol, megis Llyn Tanganyika yn ein map cyntaf, mae cipolwg cyflym ar ffiniau cenedlaethol syth fel pren mesur yng ngogledd Affrica, er enghraifft, yn awgrymu bod ffiniau eraill wedi’u diffinio ar bapur, gan linellau a dynnwyd ar fapiau, yn hytrach na chyfeirio at y tir ei hun, neu ei bobl.

 

 

Voi, 1959

 

Mae’r map chwe dalen hwn o 1959 o dref Voi yn ne Kenya yn dangos hyn ar raddfa lai: mae ffin weinyddol y dref yn gylch perffaith, ac mae gwybodaeth y map yn aros yn sydyn ar ymyl y cylch.

Bwriadwyd y map o Voi at ddefnydd gweinyddol o fewn Kenya ei hun. Fodd bynnag, gwnaed llawer o fapiau yn y casgliad ar gyfer cynulleidfa yn y DU, i hysbysu pobl am yr ymerodraeth. O ganlyniad, mae rhai yn llawer mwy trawiadol yn weledol na’r mapiau graddfa fawr a ddefnyddir ar gyfer gweinyddiaeth drefedigaethol.

 

 

Gorllewin Affrica, 1948

 

 

Dwyrain Affrica, 1947

 

 

Gorllewin Affrica, 1948 [darluniad]

 

 

Gorllewin Affrica, 1948 [Mungo Park]

 

 

Dwyrain Affrica, 1947 [eglurhad]

 

Cynhyrchwyd ein dau fap nesaf ddiwedd y 1940au gan Swyddfa Gwybodaeth Ganolog llywodraeth Prydain ar gyfer cynulleidfa Brydeinig gyffredinol. Lluniwyd y ddau gan Leo Vernon, a fu hefyd yn darlunio mapiau o rannau eraill o’r ymerodraeth, yn ogystal â mapiau twristiaeth a hanesyddol o Brydain.

Eu bwriad yw cyfleu rhywbeth o ddiwylliant a hanes y lleoedd y maent yn eu darlunio trwy eu defnydd o liw a ffiniau darluniadol.

Ar fap Gorllewin Affrica, mae ffigurau niferus yn cael eu darlunio o amgylch ymyl y map. Yr unig un a enwir yw Mungo Park, fforiwr Albanaidd. Mae’r llu o Affricanwyr Du a ddarlunnir yn ddienw, a dim ond yr awgrym lleiaf o nodweddion wyneb sydd gan y mwyafrif, mewn cyferbyniad llwyr â delwedd fanwl Park.

 

Mae’r ddau fap hefyd yn dangos yr adnoddau cyfoethog a geir yn nhrefedigaethau Prydain, gan bwysleisio natur ecsbloetiol ac echdynnol llawer o wladychiaeth Brydeinig. Mae’r ffocws hwn ar allforio a photensial masnachol yn nodwedd gyffredin ar y mapiau yn y casgliad.

 

 

Africa: commercial development, 1922

 

 

Eglurhad o Africa: commercial development, 1922

 

Mae’r map nesaf yn dyddio o 1922, a’i nod yw dosbarthu ‘datblygiad masnachol’ cyfandir Affrica i gyd. Mae’r codau lliw taclus yn cyflwyno argraff o drylwyredd a chywirdeb gwyddonol, mewn cyferbyniad ag apêl ddarluniadol darluniau Leo Vernon.

Yn yr hierarchaeth hon o ddatblygiad, mae mwyngloddio, diwydiant ac amaethyddiaeth planhigfa (sy’n cael ei redeg gan ac ar gyfer ymsefydlwyr Ewropeaidd) ar y brig, tra bod tiroedd ‘gwyryf’, er eu bod yn cael eu defnyddio gan gymunedau lleol ar gyfer hela a chasglu ‘cyntefig’, yn cael eu dosbarthu fel rhai annatblygedig. Mae’n amlwg er budd pwy y mae ‘datblygiad masnachol’ wedi’i fwriadu. Does dim llawer o ddiddordeb hefyd mewn masnach fewnol o fewn gwledydd neu ranbarthau, dim ond mewn cysylltiadau allanol — y rhai a fu o fudd i wledydd ymerodraethol.

 

 

The continent of Africa, 1954

 

Mae nifer o fapiau yn y casgliad yn pwysleisio’r gwahaniaeth rhwng trefedigaethau, gwarchodaethau ac ymddiriedolwyr, gan gynnwys ein map nesaf, yn ogystal â’r map Gorllewin Affrica 1948 a drafodwyd uchod.

Er mai bwriad damcaniaethol oedd bod ymddiriedolwyr yn sicrhau bod datblygiad economaidd o fudd i bobl frodorol a buddiannau trefedigaethol, meddyliwyd amdanynt yn benderfynnol mewn ffordd dadol. Mae erthygl a gyhoeddwyd ym 1946 yn disgrifio ymddiriedolwyr:

“Trusteeship, both national and international, is a conception which is at the forefront of the human advance. It assumes a relatively stable human society in which nations, themselves mature, rational, and governed in their actions and policies by high conceptions of law and justice, undertake to assist less advanced peoples to climb the ladder of self-government…”

Mae’r mapiau hefyd yn aml yn cynnwys testunau byr sy’n canmol rhinweddau’r system drefedigaethol, yn manylu ar y budd yr oedd rheolaeth Brydeinig i fod i’w roi i Affricanwyr, a’r ‘cynnydd’ sydd i’w wneud cyn y gellid ‘ymddiried’ mewn hunanlywodraeth i Affricanwyr:

 

 

The continent of Africa, 1954 [testun]

 

 

Dwyrain Affrica, 1947 [testun]

 

Mae’r blog hwn dim ond wedi crafu wyneb y deunydd hynod ddiddorol yr wyf wedi’i gatalogio yn ystod y prosiect hwn, ac mae llawer mwy o waith i’w wneud eto, felly byddaf yn gwneud mwy o fostiau blog yn y dyfodol i’ch diweddaru gyda fy hoff ddarganfyddiadau o’r broses hon.

 

Eitemau yn ein casgliadau:

 

Anglo-Belgian boundary commission, 1925 (E11:3 (3))

[Tanganyika border triangulation diagrams], 1928 (E11:6 (13)) 

Wiedergutmachung von Unrecht?, 1918 (B1:4 (4)) 

Voi, 1959 (E10:20 Voi (1)) 

West Africa, 1948 (E1:6 (18))

East Africa, 1947 (E1:4 (23))

Africa: commercial development, 1922 (Oversize Map 164)

The continent of Africa, 1954 (E1 (128))

 

 

Llyfryddiaeth a darllen pellach:

 

The imperial map: cartography and the mastery of empire, golygwyd gan James R. Akerman. University of Chicago Press, 2009.

Mapping an empire: the geographical construction of British India, 1765-1843, Matthew H. Edney. University of Chicago Press, 1997.

The Napoleonic survey of Egypt: a masterpiece of cartographic compilation and early nineteenth-century fieldwork, Anne Godlewska. Cartographica Monograph no. 38-39. Cartographica 25 (1-2), 1988.

The iconography of landscape: essays on the symbolic representation, design, and use of past environments, golygwyd gan Denis Cosgrove and Stephen Daniels. Cambridge University Press, 1988.

The British Commonwealth and Trusteeship, cyhoeddwyd yn International Affairs, cyfrol 22.2, tudalennau 199-213, 1946.
Ar gael am ddim trwy JSTOR

 

Ellie King

Cynorthwy-ydd Curadur Mapiau dan Hyfforddiant

Cymro yn Wcráin

Casgliadau / Collections - Postiwyd 09-05-2022

Yn y flwyddyn 1870 safodd Cymro o’r enw John Hughes ar dir anghyfannedd yn nwyrain Wcráin. Dewiswyd y tir hwn fel safle ei weithdy haearn. Yr ardal, a gafodd ei henwi’n Hughesovka ar ei ôl, ddaeth gyda adeilad diwydiannol enfawr a ddenodd lawer o weithwyr o bob rhan o’r byd.

Ganed Hughes ym Merthyr Tudful yn 1814, a fu’n llwyddianus yn Ne Cymru a Llundain am fod yn feistr yn sawl ffowndri dur. Dysgodd ei grefft gan ei dad yng Ngweithdŷ Haearn Cyfarthfa, ac erbyn i Hughes gyrraedd ei 30au canol, roedd yn berchen ffowndri ei hun yng Nghasnewydd. Wedyn, symudodd i Lundain a parhaodd ei lwyddiant. Ym 1870, cafodd Hughes y cyfle gan y Tsar Rwsiaidd i ddod a’i arbenigedd i Rwsia ymerodrol.

 

 

Nid yn unig roedd ei gwmni newydd, the New Russia Company Ltd., wedi creu diwydiant o fewn y rhanbarth, ond hefyd darparodd amwynderau ar gyfer y boblogaeth newydd, gydag eglwysi, ysbytai, a gwasanaethau pwysig eraill ar gael, i sicrhau amgylchedd gwaith hapus a chytûn. Roedd gweithwyr hyd yn oed yn cael ail-leoli eu teuluoedd i’r rhanbarth newydd, yn y gobaith y byddai hyn yn lleihau hiraeth.

Roedd yr amodau gwaith yn galed gyda hafau poeth a sych, stormydd llwch, glaw trwm y gwanwyn, a gaeafau caled gyda llawer o eira. Roedd Hughes yn gobeithio y byddai’r cyflogau da a gwaith cyson, na allai llawer o wledydd eraill ei ddarparu, yn gwneud yn iawn am y tywydd eithafol yr oedd rhaid i’r gweithwyr ddioddef.

Datblygodd Hughesovka a newidiodd ei enw yn ddiweddarach i Stalino, ac yna Donetsk, yn gymuned lewyrchus erbyn dechrau’r 21ain ganrif. Daeth y rhanbarth yn rhan bwysig o ardal Donbas. Yn anfoddus, daeth gwrthdaro yn fuan wedyn.

Cyfeiriadau a ffynonellau ar-lein:

Edwards, S. Hughesovka: a Welsh enterprise in Imperial Russia : an account of John Hughes of Merthyr Tydfil, his New Russia Company, and the town, works and collieries which he established in the Ukraine, 1992

Thomas, C. Dreaming a city : From Wales to Ukraine : The Story of Hughesovka/Stalino/Donestsk, 2009*

Glamorgan Family History Society Journal, No. 128 (December 2017), p. 10-13 (Diggins, R. Hughesovka: a Welsh enterprise in Imperial Russia).

https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-40345030

https://cy.wikipedia.org/wiki/John_Hughes_(diwydiannwr)

*Yn cynnwys DVD ‘Hughesovka & the New Russia – Best Documentary BAFTA Cymru’

 

Ian Evans,

Shared Cataloguing Programme Manager

Arddangosfa Diwygiadau yn y Senedd

Arddangosfeydd / Casgliadau / Collections - Postiwyd 11-04-2022

Mae’r Llyfrgell yn darparu arddangosfa bob blwyddyn ar gyfer Brecwast Gweddi Gŵyl Ddewi yng Nghaerdydd.  Trefnir y digwyddiad arbennig hwn gan grŵp o aelodau Cristnogol o’r Senedd o wahanol bleidiau, ac mae’r gwahoddedigion yn cynnwys aelodau o seneddau dros Ewrop, arweinyddion eglwysi a chapeli, a chynrychiolwyr nifer o fudiadau Cristnogol.

Thema’r Brecwast Gweddi eleni oedd “Diwygiadau”.  Yr eitem hynaf a ddangoswyd oedd Llythyr ynghylch y ddyledswydd o gateceisio plant a phobl anwybodus (1749) gan Griffith Jones, oedd yn gyfrifol am sefydlu miloedd o ysgylion cylchynol er mwyn dysgu pobl i ddarllen y Beibl.  Roedd cysylltiad agos rhwng yr ysgolion hyn a’r ymdrechion i gael yr SPCK i ddarparu Beiblau Cymraeg.

 

 

Cyhoeddwyd Two letters, giving an account of a revival of religion in Wales gan Thomas Charles o’r Bala yn 1792.  Arweiniodd y cyfnod o adfywiad ysbrydol mae Charles yn ei adrodd at sefydlu Cymdeithas y Beibl, a dangoswyd hefyd yr argraffiad cyntaf o’r Beibl Cymraeg a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas yn 1807.

Er mwyn adlewyrchu agwedd ryngwladol y thema, dangoswyd Hanes llwyddiant diweddar yr Efengyl, a rhyfeddol waith Duw, ar eneidiau pobl yn North America (1766), sef cyfieithiad gan William Williams, Pantycelyn o bamffledyn yn disgrifio deffroad ysbrydol yn America ddwy flynedd ynghynt.  Roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys hunangofiant Ben Chidlaw (1890), Cymro a ymfudodd i America ond a fu’n rhan o Ddiwygiad 1839 tra ar ymweliad â’i famwlad, a The revival in the Khasia Hills (1907), sef hanes cenhadaeth dramor y Methodistiaid Calfinaidd yn India.

Dangoswyd dwy lawysgrif o Ddiwygiad 1858-9, sef dyddiadur Dafydd Morgan, Ysbyty, a llythyr oddi wrth John Matthews o Aberystwyth.  Yr eitem a ddenodd sylw mwyaf y gwahoddedigion oedd Beibl Evan Roberts, a oedd gydag ef pan oedd yn gweithio mewn pwll glo.  Cafodd y Beibl ei losgi yn rhannol mewn ffrwydrad yn 1897 a laddodd pump o’i gydweithwyr.  Arweiniodd hyn at ei droëdigaeth, sy’n cael ei disgrifio yn nyddiadur y Parch. Seth Joshua a ddangoswyd ar bwys y Beibl.  Roedd Evan Roberts yn un o brif arweinwyr Diwygiad 1904-5.

Roedd yn fraint i arddangos y trysorau hyn o gasgliadau’r Llyfrgell yng nghyntedd y Senedd a’u trafod gyda’r gwesteion.  Wrth greu’r arddangosfa, ceisiais amlinellu hanes gwaith Duw trwy nifer o ddiwygiadau yng Nghymru a diwygiadau mewn gwledydd eraill sydd naill ai wedi dylanwadu ar Gymru neu wedi elwa o gyfraniad cenhadon o Gymru.

 

Timothy Cutts

Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Cofnodi Cymru Gyfoes

Casgliadau - Postiwyd 04-04-2022

 

Un o brif amcanion y Llyfrgell yw i gasglu pob math o wybodaeth gofnodedig am Gymru a phobl Cymru, er budd y cyhoedd, gyda phwyslais newydd ar sicrhau fod ein casgliadau’n cynrychioli pob agwedd o fywyd a hanes Cymru, yn arbennig unigolion a chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli. Mae’r arddangosfa ‘Casglu’ yn rhoi blas ar ein derbynion diweddar, yn cynnwys archifau a llawysgrifau, llyfrau, mapiau, ffotograffau a gwaith celf.

 

 

O ran archifau mae’r deunydd yn cynrychioli nifer o themâu – llenyddiaeth, rhyfeloedd, chwaraeon ac adloniant, gwleidyddiaeth a cherddoriaeth, diwydiant a ddiwylliant. Mae yma ddeunydd o ddiddordeb o ran hanes merched, hanes caethwasanaeth, hanes cymdeithasol Cymru, hanes celf, a hanes y byd adloniant, yn dyddio o 1866 i 2018. Mae’r llenorion Edward Thomas, David Jones, Menna Elfyn ac Eigra Lewis Roberts ymhlith yr rhai sydd yn cael sylw, ynghyd a Frederick Douglass , David Lloyd George a Jill Evans o’r byd gwleidyddol, a Mollie Doreen Phillips, Harry Secombe a Llio Rhydderch o’r diwydiant adloniant.

 

Dyma beth sydd yn cael ei arddangos:

  • Llyfr nodiadau’r bardd Edward Thomas yn cynnwys ddrafft o ‘The Mountain Chapel’ Rhagfyr 1914. (NLW MS 24122B). Prynwyd gyda chymorth ariannol Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol
  • Llythyr darluniadol yn Gymraeg o gasgliad o lythyrau oddi wrth David Jones at Valerie ‘Elri’ Wynne-Williams. (NLW MS 24167i-iiiE) Prynwyd gyda chymorth ariannol Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol.
  • Llyfr nodiadau’r llenor Menna Elfyn yn dyddio o 1977 yn cynnwys ymdrechion barddoni cynnar a drafftiau o gerddi.(Archif Menna Elfyn, 1/1/1) Pryniad.
  • Drafft llawysgrif Eigra Lewis Roberts o’r rhaglen deledu boblogaidd, ‘Minafon’. Ysgrifennai hi am fywydau ac anfodlonrwydd merched Cymreig ym Mhrydain ar ôl y Rhyfel, pwnc nad oedd yn cael fawr o sylw gan awduron Cymreig ar y pryd. (NLW MS 23074B) Rhodd.
  • Papurau Capten Ted Lees, yn ymwneud â Gwersyll Carcharorion Rhyfel Island Farm, Pen-y-bont ar Ogwr. Capten Lees oedd Swyddog Cudd-wybodaeth a dehonglydd y gwersyll yn ystod y cyfnod 1946-1948, pan oedd rhai o swyddogion uchaf yr Almaen, gan gynnwys Feldmarschall Gerd von Rundstedt, yn garcharorion yno. (NLW MS 24094E) Pryniad.
  • Llyfr lloffion yn ymwneud â Mollie Doreen Phillips, y sglefrwraig iâ a oedd yn byw yn Sir Gaerfyrddin. Bu’n cystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn 1932 a 1936. (NLW ex 3043 (i)) Pryniad.
  • Detholiad o eitemau o archif Harry Secombe, yn cynnwys llythyr iddo oddi wrth y Tywysog Charles yn 1981, y sgript ar gyfer rhaglen radio olaf ‘The Goon Show’, a ddarlledwyd ym 1972, a ffotograffau o ‘The Goons’. (Archif Harry Secombe) Rhodd (isod):

 

 

  • Copi o ddeiseb, a gyflwynwyd i Senedd Ewrop ar ran Trigolion yn erbyn Ffos-y-fran mewn ymgais i atal cloddio glo brig ym Merthyr Tudful. (Papurau Jill Evans MEP 1) Rhodd.
  • Pas Adran Rhyfel, Cerdyn Adnabod Milwrol a Phas Palas San Steffan David Lloyd George o 1940. (Coalition Liberal Association Papers), Pryniad.
  • Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018. Y bwriad oedd diogelu stoc tai cymdeithasol Cymru ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu caffael cartrefi drwy’r farchnad dai. (Deddfau a Mesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru – dccc/anaw/2018/1) Rhodd.
  • Papurau’n ymwneud ag arddangosfa deithiol ‘Croesi Moroedd: Cymru, Caethwasiaeth a’i Gerddoriaeth’ yn 2007, blwyddyn 21ain penblwydd Menywod Mewn Jazz a deucanmlwyddiant diddymu’r fasnach gaethweision. (Archif Jazz Heritage Wales : Archif Menywod Cymru) Rhodd.
  • Casgliad o ffansîns cerddoriaeth Gymreig Rhys Williams o’r 1980au, yn cynnwys ffansîn ‘Yn Syth o’r Rhewgell’, Ebrill 1985. (Casgliad Ffansîn Rhys Williams). Rhodd (isod):

 

 

  • Sgôr llawysgrif ‘Dwy Gwningen Fechan’ gan y delynores nodedig Llio Rhydderch, i eiriau I. D. Hooson, 1955. (Papurau Llio Rhydderch, Bocs 1 ) Rhodd.
  • Albwm llofnodion yn perthyn i’r newyddiadurwr John Griffith, a luniwyd yn ystod ymweliadau ag America Oes yr Ailadeiladu i adrodd i Baner ac Amserau Cymru, rhwng 1866 a 1868. Yma gwelir llofnod y diddymwr Affricanaidd-Americanaidd enwog, Frederick Douglass. Ar ôl dianc o gaethwasiaeth yn Maryland, daeth yn arweinydd cenedlaethol y mudiad diddymwyr yn Massachusetts ac Efrog Newydd. (NLW MS 24173B) Pryniad.
  • Poster gig Tŷ Gwydr, Llwybr Llaethog a Datblygu, Awst 8fed 1991. Derbyniwyd y poster yma fel rhan o’r apêl am bosteri gigs Cymreig #poster2020 gan Yr Archif Gerddorol Gymreig. Rhodd (isod):

 

 

 

Mae’r Arddangosfa derbynion newydd ‘Casglu / Collecting’ ymlaen o 14.02.22 – 03.06.22. Cofiwch alw mewn i’w gweld.

 

Nia Mai Daniel

Pennaeth Isadran Archifau, Llawysgrifau a Chofnodion Modern, a Chydlynydd Yr Archif Gerddorol Gymreig

Mollie Phillips, ‘dawnswraig ar iâ’

Casgliadau - Postiwyd 21-03-2022

Mae llyfr lloffion i’w gweld yn ein harddangosfa gyfredol ‘Casglu’ a oedd yn perthyn i Mollie Doreen Phillips (1907-1994), sglefrwraig iâ a beirniad Olympaidd. Prynwyd hwn a dau arall (NLW ex 3043i-iii) mewn ocsiwn yn Llundain gan y Llyfrgell ym mis Tachwedd 2020.

 

 

Maent yn cynnwys torion o bapurau newydd am ei gyrfa amrywiol, gan gynnwys The Skating Times a phapurau Ewropeaidd, llythyrau oddi wrth Gymdeithas Genedlaethol Sglefrio Prydain Fawr a rhaglenni cystadlaethau sglefrio. Dechreuodd gystadlu gyda Rodney Murdoch fel pâr ond dewisodd gystadlu fel unigolyn. Mollie Phillips oedd y fenyw gyntaf i gario’r faner genedlaethol yn seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Lake Placid, 1932 a’r fenyw gyntaf i feirniadu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf a gynhaliwyd yn St. Moritz yn 1948. Hi hefyd oedd y fenyw gyntaf i’w hethol i’r Gymdeithas Genedlaethol Sglefrio.

Er i Mollie Phillips gael ei geni yn Llundain roedd ganddi gysylltiadau teuluol cryf gyda Chymru a bu’n byw ym mhlasty Cilyblaidd, Pencarreg, ger Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, lle bu’n bridio da godro. Ei thad oedd George Phillips, sylfaenydd cwmni Rwber Phillips, a chadeirydd Cymdeithas Shir Gâr Llundain yn 1936. Yr oedd yn berson cyhoeddus amlwg yn ei sir fabwysiedig a bu’n Uchel-Siryf Sir Gaerfyrddin, 1961-62, ac yn Ynad Heddwch am nifer o flynyddoedd. Astudiodd Mollie Phillips y gyfraith yn Lincoln’s Inn. Dyfarnwyd OBE iddi yn 1978.

Ysgrifennodd Dennis Bird ysgrif goffa iddi yn The Independent lle mae’n disgrifio’i phersonoliaeth hoffus a’i phrofiad helaeth yn y byd sglefrio. Roedd ganddi stôr o hanesion difyr ac roedd ei gwên i’w gweld yn aml ar y teledu wrth godi’r cardiau marciau mewn pencampwriaethau.
Daw’r arddangosfa i ben ar 3 Mehefin 2022.

 

Ann Evans

Archifydd Cynorthwyol

Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2022

Casgliadau - Postiwyd 08-03-2022

Fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2022 mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn arddangos rhai eitemau o gasgliadau Menna Elfyn, Jan Morris a Margiad Evans:

• Mae Menna Elfyn yn fardd a dramodydd arobryn sy’n ysgrifennu gydag angerdd dros yr iaith Gymraeg a hunaniaeth. Mae hi’n un o feirdd Cymraeg modern mwyaf adnabyddus a chyfieithiedig Cymru.

• Hanesydd, llenor ac awdur taith Cymreig oedd Jan Morris (1926-2020) . Wedi’i gyhoeddi ym 1974, Conundrum oedd ei llyfr cyntaf o dan ei henw newydd, ac un o’r hunangofiannau cyntaf i drafod newid rhyw personol.

• Yn nofelwraig, ysgrifwraig, bardd ac awdur straeon byrion, roedd Margiad Evans (1909-1958), sef Peggy Eileen Whistler yn un o lenorion benywaidd mwyaf rhyfeddol canol yr ugeinfed ganrif. Mae hi’n adnabyddus am ei darluniau arloesol o gariad, rhyw, salwch a marwolaeth ym mywydau a gwaith merched a oedd yn byw mewn amgylcheddau gwledig llym a chyfyng.

 

 

Dysgwch fwy am y casgliadau trwy chwilio yn ein catalog:

Papurau Menna Elfyn

Jan Morris Papers

Margiad Evans Manuscripts

 

Galwch mewn i weld yr arddangosfa yn ystod y mis yma.

 

Nia Mai Daniel

Pennaeth Isadran Archifau, Llawysgrifau a Chofnodion Modern

Ie neu Na?

Casgliadau / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 28-02-2022

Mae’n anodd credu bod 1997 yn 25 mlynedd yn ol, ond roedd sgwrs y llynedd wedi fy atgoffa bod hi’n agosau i chwarter canrif ers refferendwm datganoli Cymru ar 18 Medi 1997, a dylai’r Archif Wleidyddol Gymreig wneud rhywbeth i nodi’r digwyddiad hanesyddol hwnnw.

Trafodwyd nifer o syniadau, gan gynnwys arddangosfa deithiol ond yn y pen draw, y penderfyniad oedd i ddigido rhan o’n casgliad effemera gwleidyddol yn ymwneud a’r refferenda yn 1979 ac 1997 fel bod y deunydd ar gael yn barahol ar draws Cymru. Yr wythnos diwethaf, aethom ati i baratoi’r deunydd i’w digido.

Roedd mynd twy’r ffeiliau yn dod a nifer o atgofion yn ol ac roedd gweld negeseuon a dadleuon y rhai o blaid ac yn erbyn datganoli yn hynod diddorol.Yn 1979 roedd rhai undebau llafur dylanwadol fel NALGO yn ymgyrchu yn erbyn y cynlluniau – ond am resymau diddorol iawn. Cred yr undeb oedd bod angen datganoli Loegr yr un pryd a bod angen gwasanaeth sifil annibynnol ar Gymru. Roedd taflen arall yn codi pryderon am derfysgaeth gan ddweud “Bu gan Gogledd Iwerddol Gynulliad ers 1921. A ydych chi am weld hynny yn digwydd yma?” Ar yr un pryd, roedd taflenni’r Comiwmyddion a’r Blaid Lafur yn annog pleidlias Ie (er bod y Blaid Lafur yn rhanedig ar y pwnc), tra roedd y Rhyddfrydwyr wedi atgyfodi David Lloyd George i fod yn rhan o’u hymgyrch o blaid!

 

 

Yn 1997 roedd llawer o’r un dadleuon i’w gweld ond roedd ymgyrch y Blaid Llafur yn llawer mwy unedig gyda Phrif Weinidog Prydain, Tony Blair, yn cymryd rol canolog. Roedd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar ddemocratiaeth, y Cynulliad yn arbed arian a gwrthwynebiad y Ceidwadwyr. Aeth yr ymgyrch Na ar ol y costau a’r peryglon o fynd lawr y ffordd tuag at annibynniaeth.

 

 

Dwi ddim yn cofio refferendwm 1979 – roedd mwy o ddiddordeb ‘da fi yn Duplo pryd hynny – ond roedd amgylchiadau a naws yr ymgyrchoedd yn dra gwahanol. Yn 1979 roedd Llywodraeth gwan ar fin colli etholiad wedi cynnal y bleidlais, gyda’r ateb Na yn glir. Yn 1997 roedd llywodraeth Tony Blair yn hynod boblogaidd yng Nghymru, yn meddu ar fwyafrif sylweddol yn Senedd y DU ac yn symud gyda thipyn o fomentwm.

Fodd bynnag, roedd y ganlyniad yn agos iawn, ond y tro hwn yr ymgyrch Ie oedd yn fuddygol. Roedd pennod newydd a chyffrous wedi agor yn hanes Cymru.

Rob Phillips
Yr Archif Wleidyddol Gymreig

Cadwraethwyr yn derbyn hyfforddiant yn Wakefield

Casgliadau / Collections / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 21-02-2022

Dros bythefnos ym mis Ionawr teithiodd Rhydian Davies a minnau, cadwraethwyr o dan hyfforddiant y Llyfrgell, i Wakefield. Yno, mynychom fodiwl cadwraeth papur yng Nghanolfan Hanes Gorllewin Swydd Efrog. Rydym hanner ffordd drwy’r hyfforddiant, a dyma flas ar beth a ddysgom yn hanner cyntaf y modiwl.

Trwsio dogfennau gwlyb

Mae gwlychu papur yn ffordd ddefnyddiol iawn i’w ymlacio a golchi baw sy’n gynhenid tu fewn i’r ffibrau er mwyn paratoi i drwsio’r ddogfen. Ond cyn golchi’r ddogfen, rhaid glanhau’r arwyneb. Os na wneir hyn, mae perygl symud baw tu fewn i ffibrau’r papur. Rydym yn defnyddio brwsh meddal i lanhau’r llwch a sbwng latecs awyrog (smoke sponge, aerated latex sponge) i waredu baw mwy styfnig. Fe ddefnyddir dilëwr Staedtler weithiau hefyd.

 

Ar ôl glanhau’r arwyneb mae’r ddogfen yn barod i’w wlychu. Y risg mwyaf gyda gwlychu unrhyw ddogfen yw fod yr inc/cyfryngau’n rhedeg pan mae’n cyffwrdd â’r dŵr. I osgoi trychineb, rydym yn arbrofi’r inc gyda diferyn o ddŵr ac alcohol. Gwelir uchod llun o Rhydian yn gwneud hynny.

 

Mae rhan fwyaf o’r llawysgrifau yn defnyddio inc “iron gall” sydd ddim yn doddadwy mewn dŵr nag alcohol. Mae sêl yn bresennol ar y ddogfen, a gan fod sielac yn doddadwy mewn alcohol ond ddim mewn dŵr, felly fe wlychom y ddogfen mewn dŵr yn unig.

 

Ar ôl ei olchi mewn dŵr, fe drosglwyddom y ddogfen i fwrdd gwydr i ddechrau trwsio. Gan fod y ddogfen mor frau penderfynwyd rhoi papur sidan Japaneaidd (2gsm) dros y cefn i gyd; mae’r papur sidan mor ysgafn a thenau fel nad yw’n cuddio unrhyw eiriau sydd ar y ddogfen.

 

Dyma lun ohonof uchod yn dal y papur sidan Japaneaidd. Gellir ei weld trwyddo’n hawdd, ac ar ôl ei osod ar y ddogfen, mi fydd bron yn anweladwy!

 

Dyma’r ddogfen ar ôl derbyn y papur sidan Japaneaidd dros y cefn, fel y gwelwch o’r llun, mae’r ddogfen llawer mwy sefydlog. Ond nid yw’r papur sidan ar ben ei hun yn ddigon cryf i amddiffyn y ddogfen o niwed mecanyddol. Mae’n ddigon hawdd i’r ddogfen gael ei niwedio yn bellach.

Felly, yn y cam nesaf cawsom gyfle i ddysgu a defnyddio’r dull “leaf casting”. Mae’r dull yma yn defnyddio’r cysyniad o sut mae papur yn cael eu creu yn y lle gyntaf, gan ddefnyddio pwlp papur i lenwi’r ardaloedd sydd ar goll. Mae’r ddogfen yn cael ei roi o dan ddŵr, ac wedi tynnu’r plwg, mae disgyrchiant yn tynnu’r pwlp lawr i’r llefydd sydd angen eu llenwi.

D’oes dim llun gyda ni o’r canlyniad terfynol, gan fod hanner cyntaf y modiwl wedi gorffen ar ôl i ni wneud y cam hyn. Rydym yn dechrau’r ail hanner ar 7 Chwefror, felly bydd llawer mwy i ddweud ar ôl i ni orffen! Ond am y tro, gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen yr erthygl hon.

 

Julian Evans,

Cynorthwyydd Cadwraeth dan Hyfforddiant

Blwyddyn newydd – adnoddau digidol newydd!

Collections - Postiwyd 14-02-2022

Mae mis cyfan o 2022 eisoes wedi mynd heibio a chyda blwyddyn newydd daw adnoddau digidol newydd. Mae ein gwaith digido wedi parhau tu ôl i’r llen ac mae’r eitemau a’r casgliadau yma bellach ar gael yn ddigidol i’w pori ar wefan y Llyfrgell a/neu y catalog:

Archifau a Llawysgrifau

Casgliadau Peniarth, Llanstephan, Cwrtmawr a Brogyntyn

Llawysgrifau

Mae’r llawysgrifau canlynol hefyd ar gael trwy ein syllwr bellach:

Cofrestrau Meteoroleg ‘The Chain’

Dechreuwyd ar y gwaith o ddigido cyfres o gofrestrau meteoroleg o ddarlleniadau thermomedr, baromedr a mesurydd glaw yn ‘The Chain’:

Byddwn y gwaith i ddigido’r cyfrolau hyd at 1945 yn parhau yn ystod yr wythnosau nesaf.

Deunydd Print

Biographies

Dros y misoedd diwethaf parhawyd i ryddhau cofiannau trwy’t catalog ac mae 288 o gyfrolau ychwanegol ar gael bellach, yn eu plith ceir:

Y Casgliad Arthuraidd

Parhawyd gyda’r gwaith o ddigido cyfrolau print yn ymwneud â’r Brenin Arthur ac mae 21 cyfrol arall ar gael bellach:

Cyfrolau Cerddorol

Mae dwy gyfrol gerddorol bwysig wedi’u digido hefyd:

Mapiau a Deunydd Graffigol

Casgliad Portreadau

Mae bron i 100 o bortreadau wedi cael eu hychwanegu i’r catalog, gan gynnwys ffotograffau o J .Herbert Lewis, Clara Butt, Syr Frank Ree, Betty Blythe and Mrs. Lewis, Llanaeron, ar ei chanfed pen-blwydd ym 1913!

Y Bywgraffiadur Cymreig

Cyhoeddwyd 24 erthygl newydd ar y wefan:

Cofiwch hefyd ddilyn cyfrifon Trydar Y Bywgraffiadur: @Bywgraffiadur ac @WelshBiography

Morfudd Nia Jones (Swyddog Cynnwys Digidol)

Datganiad Y Cyfrifiad 1921

Casgliadau - Postiwyd

Mae’n gyfnod cyffrous i haneswyr teulu gyda datganiad y Cyfrifiad 1921 ar gyfer Cymru a Lloegr yn ddiweddar gan Findmypast. Dyma’r cyfrifiad mwyaf manwl hyd yn hyn a’r un olaf i’w ryddhau tan 2052, oherwydd bod cyfrifiad 1931 wedi’i golli oherwydd tân a dim cyfrifiad ym 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd. Mae’n rhoi cipolwg ar fywyd ar ddechrau’r 1920au yn fuan ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a phandemig ffliw Sbaen ac ar adeg streic y glowyr. Arweiniodd y bygythiad o streiciau at y Llywodraeth yn symud y cyfrifiad o 24 Ebrill i 19 Mehefin.

Gyda newid y dyddiad i fis Mehefin, golygai hyn na fyddai llawer i’w cael gartref adeg y cyfrifiad, ond ar wyliau lle byddent yn cael eu rhifo. Gwelodd rhai cyrchfannau gwyliau cynnydd yn y boblogaeth o gymharu â chyfrifiad 1911. Roedd hyn yn wir yn Aberystwyth lle cynyddodd y boblogaeth o 21,482 yn 1911 i 23,508 yn 1921. Roedd ein Llyfrgellydd ein hunain, Syr John Ballinger a’i wraig ar wyliau yn Llandrindod ar y pryd.

 

© Hawlfraint y Goron wedi’i atgynhyrchu gyda chaniatâd The National Archives, Llundain a Findmypast

 

Pa wybodaeth sydd i’w chael ar y ffurflen? Er mwyn denu pobl i roi oedrannau cywirach gofynnwyd hyn ymhen blynyddoedd a misoedd am y tro cyntaf. Gofynnwyd hefyd i’r rhai dan 15 oed a oedd y ddau riant yn fyw ac os nad i nodi a oedd y tad neu’r fam wedi marw neu’r ddau.

O dan ‘Man Geni a Chenedligrwydd’ gofynnwyd i’r plwyf a’r sir enedigol o hyd, ond os cawsant eu geni y tu allan i’r DU i nodi a oedd yn ymwelydd neu’n breswylydd a pha genedligrwydd. Dyma’r tro cyntaf i wybodaeth am addysg gael ei chasglu, gan ofyn ai addysg amser llawn neu ran amser.

Casglwyd y wybodaeth ynglŷn â nifer y plant o fewn teulu yn wahanol y tro hwn, nid gofyn am ba hyd y bu’r wraig yn briod, ond gofyn am nifer ac oedran y plant a’r llysblant dan 15 oed, boed yn byw yn yr un tŷ neu ddim.

Ac wrth gwrs mae colofn olaf Cymru yn cyfeirio at yr iaith a siaredir boed Gymraeg, Saesneg neu’r ddau. Mae llawer o gartrefi wedi dychwelyd yr atodlenni Cymraeg ond mae llawer o’r fersiynau Saesneg yn rhestru aelwydydd a oedd yn siarad Cymraeg a Saesneg.

Mae mynediad am ddim i gyfrifiad 1921 ar gael yn adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel un o’r tri hwb rhanbarthol dynodedig sy’n cynnig mynediad am ddim, fel arall gallwch dalu i gael mynediad drwy wefan Findmypast. Bydd angen i chi gofrestru am docyn darllenwr i gael mynediad.

 

Beryl Evans

Rheolwr Gwasanaethau Ymchwil

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog