Tag Archives: Effaith

WiciPics

Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 20-10-2020

Prosiect torfol newydd sy’n anelu at gofnodi treftadaeth adeiladau Cymru trwy gyfrwng ffotograffiaeth ac erthyglau Wikipedia.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru unwaith eto yn cydweithio gyda Menter Iaith Môn, ynghyd ag arian oddi wrth uned iaith Llywodraeth Cymru, i gyflwyno a chyhoeddi’r prosiect gyffrous newydd yma.

Mae gan Gymru miloedd o adeiladau cofrestredig, sy’n amrywio o’r cestyll ysblennydd a adeiladwyd gan y Tywysogion Cymreig i eglwysi, plastai a thai teras.  Ar un adeg, roedd mwy o seddi yng nghapeli Cymru nag oedd o boblogaeth i eistedd arnynt ond bellach mae’r capeli hyn yn diflannu’n gyflym.  Mae gennym hefyd fel gwlad, adeiladau modern sydd angen eu cofnodi, er enghraifft, ysbytai a chanolfannau iechyd, ysgolion, llyfrgelloedd a chyfleusterau chwaraeon.

Ar gyfer y prosiect yma, rydym yn gofyn i chi weld beth ydych chi’n meddwl sydd angen cael ei gofnodi’n ffotograffig.  Os ydych yn cerdded y ci, rhedeg, seiclo neu’n mynd allan am dro ar ôl cinio dydd Sul blasus, jyst cydiwch yn eich ffôn neu gamera a chymerwch ambell ffotograff ar hyd y ffordd.

Bydd y delweddau hyn yn ffurfio rhan o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru a bydd mynediad cyhoeddus ac am ddim iddynt wedyn i gael eu hail-ddefnyddio ar Wikimedia Commons, fel eu bod yn medru gwella erthyglau Wikipedia.  Mae Wikipedia yn llwyfan gwych inni gofnodi’n gymunedol a rhannu ein hanes lleol.  Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod erthyglau Wikipedia safonol yn help sylweddol i hybu twristiaeth.

Nid ydym yn disgwyl ffotograffau proffesiynol eu safon, na lluniau sydd wedi eu steilio mewn arddull neu ffordd arbennig.  Yr hyn sy’n bwysig yw delweddau sy’n cofnodi’n glir.  Medrwch dynnu llun ar unrhyw beth, o  gamera DSLR i ffôn symudol, felly mae pawb yn medru cyfrannu, o mamgu/nain a dadcu/taid i‘r wyrion.

Fel rhan o’r prosiect rydym yn bwriadu gweithio’n uniongyrchol (o bell) gydag ysgolion er mwyn annog disgyblion i dynnu ffotograff o’r adeiladau yn eu hardaloedd hwy ac yna byddwn yn eu hyfforddi ar sut i ddefnyddio’r delweddau hyn i wella safonau erthyglau Wikipedia.

Mae cyfrannu i’r prosiect yn rhwydd.  Bydd map rhyngweithiol yn dangos I chi yr holl leoedd sydd angen eu cofnodi/tynnu ffotograff ohonynt yn eich ardal chi ac yna bydd ein tiwtorial fideo yn eich cyfarwyddo ar y camau syml ynghylch y broses llwytho’r ffotograffau.  Felly, cewch i weld beth sydd angen cael ffotograff ohono yn eich ardal chi a chofnodwch heddiw i sicrhau bod eich delweddau yn cael eu cynnwys yn ein harchif ddigidol newydd.

Tagiau: , , ,

Telynor Arall Wynnstay

Casgliadau - Postiwyd 28-09-2020

John Parry (Parri Dall), telynor dall enwog Wynnstay, oedd un o hoff gerddorion Syr Watkin Williams Wynn, y Bedwerydd Barwnig (1749-1789). Nid yw llawer o bobol yn ymwybodol bod gan Parry olynydd, er nad mor adnabyddus. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi derbyn portread arbennig o Benjamin Cunnah, organydd eglwys Rhiwabon, cyfansoddwr New Welch Music, a thelynor i Syr Watkin Williams Wynn, y Pumed Barwnig (1772-1840). Mae’r portread, o bosib gan William Roos, yn dangos Cunnah wedi’i wisgo’n llwydaidd ynghyd ag offer ei grefft: ei delyn aur, cwilsyn a dalennau o gerddoriaeth.

 

 

Gellid deall mwy am ei fywyd drwy ymchwilio amryw o gasgliadau archifol. Mae papurau Leeswood yn Archifdy Sir y Fflint yn cofnodi bod Benjamin Cunnah wedi gwneud cais am swydd yn Yr Wyddgrug yn 1812. Ysgrifennodd at Miss Griffiths o Rual am ei chefnogaeth gan fod Mr Birch yn ei wrthwynebu, er gwaethaf caredigrwydd Mr Eyton, a honnodd ei bod yn cael ei drin yn anheg gan fod rhai wedi torri ar ei draws wrth chwarae’r organ ar dreial (Cyfeirnod D-LE/C/7/6 a D-LE/C/7/15).

Mae’n debyg iddo dderbyn swydd gyda Syr Watkin Williams Wynn tua 1815, sy’n dangos parhad yn y traddodiad ymysg teuluoedd bonedd Cymru o gyflogi telynorion. Nid yw llyfrau cyfrifo Wynnstay yn dangos unrhyw dystiolaeth o gyflogaeth Cunnah, ond maent yn cofnodi gosod yr organ Snetzler hardd yn eglwys Rhiwabon yn 1770 a oedd Cunnah yn siŵr o fod wedi chwarae.

Yma yn y Llyfrgell, ceir llawysgrif gerddorol yn llaw Elizabeth Giffard o Neuadd Nercwys, Sir y Fflint, sy’n cynnwys gwersi ac alawon i’r delyn. Mae’n cynnwys sawl darn gan Benjamin Cunnah, megis ‘Nerquis March’ (NLW MS 24006A). Cafodd yr alawon yma eu cyhoeddi fel New Welch Music : consisting of three Sonatas, Chase, Minuets, Siciliano, Rondos, Marches, Airs with Variations for the Harp or Piano Forte / composed & humbly dedicated by permission to Sir Watkin Wms. Wynn, Bart. by B. Cunnah of Rhuabon. (Argraffwyd gan yr awdur gan Goulding & Co.of New Bond Street.)

Mae enwau’r tanysgrifwyr yn awgrymu dyddiad cyhoeddi rhwng 1815 ac 1823. Roedd yn anarferol yn ystod y cyfnod hwn i gyfansoddwr Cymreig gyhoeddi gwaith ei hun yn ystod ei oes.

 

 

Mae Robert Griffith, yn ei lyfr Llyfr Cerdd Dannau: ymchwiliad i hanes hen gerddoriaeth a’r dulliau hynaf o ganu (Caernarfon 1913), yn cyfeirio at erthyglau yn y Cambro-Briton yn disgrifio Cunnah yn cystadlu yn Eisteddfodau yn Wrecsam, 1820, ac yng Nghaernarfon, 1821. Er nad oedd ymysg yr enillwyr, derbyniodd clod uchel. Cafodd ei feirniadu yn chwaraewr ‘gwyddonol’ a greodd y dôn orau, a derbyniodd tipyn o glod am chwaeth ac arddull ei berfformiad. Cynghorwyd ef i ganolbwyntio llai ar chwarae ei gyfansoddiadau ei hun, ac i ddysgu alawon traddodiadol Cymreig er mwyn chwarae i’r brodorion! Cafodd ei ddewis fel beirniad cystadleuaeth y delyn yn Eisteddfod Yr Wyddgrug yn 1823.

Ni wyddwn ryw lawer am fywyd personol Benjamin Cunnah. Priododd Mary Rogers yn Wrecsam yn 1800 (ymrwymiadau priodas LlGC Llanelwy A 137/7). Cafodd y ddau nifer o blant, deg a gafodd eu henwi fel cymyndderbynwyr yn ei ewyllys dyddiedig 12 Ebrill 1823, profwyd 6 Mai 1840 (SA1840-198). Gadawodd y canlynol yn ei ewyllys: ‘… [my] musical instruments if any one of my children who plays may have a wish, to be given to them at a fair valuation by some well disposed person…..and my music books likewise to be valued and given to them according and agreeable to their wish’. Penderfynodd dietifeddu ei fab Edward, nid o ganlyniad i unrhyw ddrwgdeimlad ond oherwydd iddo roi mwy na’i ran iddo tra oedd iddo fyw i gymharu â’r plant arall.

Daw sawl llinyn o ddiddordeb ynghyd – yr artistig, y cerddorol, a’r archifol – wrth ymchwilio stori Benjamin Cunnah, telynor ‘arall’ Wynnstay.

Estynnwn ddiolch i staff Archifdy Dinbych am eu cefnogaeth gyda’r ymchwil.

Hilary Peters
Archifydd Cynorthwyol

Cerddorion yn Creu

Darganfod Sain - Postiwyd 09-09-2020

Yn ystod y cyfnod cloi mae 25 o gyfansoddwyr wedi bod yn brysur yn cyfansoddi darnau newydd ar gyfer y prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain. Derbyniodd y cyfansoddwyr gyfweliadau amrywiol o 5 casgliad gwahanol o’r archif sain a gofynnwyd iddynt wrando a’u defnyddio i’w hysbrydoli i greu darn newydd o waith.

Gallwch glywed pob un o’r darnau newydd ar Sianel YouTube y Llyfrgell trwy chwilio’r tag #DETS

Dyma’r casgliadau a ysbrydolodd y cyfansoddwyr:

Casgliad Glenys James

Ganed Glenys James yn Llundain i rieni o Gymru, ac roedd yn siarad Cymraeg adref ac yn y capel, ond nid fu erioed yn byw yng Nghymru.

Symudodd i Ganada lle bu’n cynnal ymchwil ar gyfer Amgueddfa Dyn Canada, Ottawa (a elwir bellach yn Ganolfan Astudiaethau Diwylliannol Canada, Ottawa) i’r Cymry a fudodd i Ganada a Patagonia.

Yn 1974, recordiodd Glenys James amryw o gyfweliadau â phobl o dras Gymreig oedd yn byw yng Nghanada, yn enwedig ardal Satchawen lle ffurfiwyd cymunedau Cymreig. Gadawodd dros 200 o bobl Patagonia am Ganada ym 1902 oherwydd amodau anodd ac am eu bod eisiau creu bywyd gwell. Mae’r cyfweliadau hyn yn cynnwys straeon personol a hanesion adeiladu pentrefi newydd a’u henwi yn Gymraeg (Glyndwr, Bangor, Llewelyn). Fe wnaethant godi ysgolion a chapeli newydd a chynnal Eisteddfodau.

Mae’r tapiau rîl i rîl gwreiddiol bellach yn cael eu cadw yng Nghanolfan Astudiaethau Diwylliannol Canada yn Ottawa gyda chopïau casét a ffeiliau digidol yma yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Pam na ddylem ni ganu?

Yn 1916 cyhoeddodd y Times lythyr lle roedd yr ysgrifennwr yn gwrthwynebu cynnal yr Eisteddfod yn ystod y rhyfel. Mewn ymateb i’r erthygl, traddododd David Lloyd George araith yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, gan ddechrau gyda’r geiriau – ‘Pam na ddylem ni ganu yn ystod y rhyfel?’

Trwy gydol yr araith mae’n amddiffyn cynnal yr Eisteddfod. Adroddwyd bod dros 7,000 o bobl wedi gwrando ar ei araith. Ar 15fed Chwefror, 1934, recordiodd Lloyd George ran o’i araith enwog yn stiwdio’r  BBC er mwyn ei darlledu ar y radio. Cedwir copi o’r anerchiad yma yn y Llyfrgell ac fe’i adferwyd yn ddigidol gan y tîm Datgloi Ein Treftadaeth Sain.

Stori’r Goedwig

Roedd Stori’r Goedwig yn brosiect gan y Comisiwn Coedwigaeth yn 2002-3 lle recordiwyd cyfweliadau â phobl oedd yn ymwneud â gweithgareddau’r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru.

Adroddwyd straeon personol gan bobl a oedd yn byw ac yn gweithio yn y goedwig ac o’i chwmpas, gan sôn am y cyfnod wedi’r rhyfel hyd at yr 21ain ganrif.  Mae yma hanesion am sut y daethant i weithio i’r Comisiwn Coedwigaeth, y gweithgareddau – adeiladu ffyrdd, aredig. Mae’r cyfweliadau’n caniatáu inni ddysgu am y newidiadau yn nhirwedd Cymru, a’r effaith gafodd hyn ar gymdeithas, amaeth a’r economi.

Adneuwyd 167 o finiddisgiau i’r Llyfrgell a chawsant eu digideiddio a’u catalogio gan fyfyrwyr MA Gweinyddiaeth Archifau ac MSc Curadu Digidol o Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth yn 2019.

Caradog Jones

Yn 1997 recordiodd Meleri Mair gyfweliad gyda Caradog Jones am botsio o afonydd, lle rhoddir sylwadau am ei brofiad personol fel beili afon yn y 1950au.

Mae Mr Jones yn disgrifio pam fod pobl yn potsio – tlodi yn bennaf, y gosb i’r rhai a gafodd eu dal, a’r arfer o orchuddio eu hunain i osgoi cael eu hadnabod a’u dal gyda’r nos.

Casgliad Colin Edwards

Newyddiadurwr, darlledwr ac awdur o Gymru oedd Colin Edwards a oedd yn byw yng Nghaliffornia. Yn ystod y 1960au recordiodd gyfweliadau â ffrindiau, teulu a chydnabod Dylan Thomas. Mae’r hanesion a’r atgofion hyn am fywyd Dylan yn rhoi darlun i ni o’i gymeriad, ei waith, ei berthnasau a’i gefndir teuluol.

Rhoddwyd y tapiau i’r Llyfrgell gan wraig Colin, Mary Edwards, wedi iddo farw. Defnyddiodd David N Thomas y tapiau yn ei lyfrau cyhoeddedig ‘Dylan Remembered’, 2 gyfrol (Seren a NLW, 2003, 2004)

Hoffem ddiolch i’r holl gyfansoddwyr am gymryd rhan yn y gwaith comisiwn; gobeithiwn y byddwch yn mwynhau gwrando ar y cyfansoddiadau:

Alan Chamberlain; Angharad Davies; Ben McManus; Bonello, Ruth a Hay; Branwen Williams ; David Roche; Derri Joseph Lewis; Gareth Bonello; Georgia Ruth Williams; Geraint Rhys; Gwen Mairi; Gwenan Gibbard; Gwilym Bowen Rhys; Gwydion Rhys; Luciano Williamson; Owen Shiers; Pierce Joyce; Pwdin Reis a gyfansoddwyd gan Neil Rosser; Sally Crosby; Sam Humphreys; Seth Alexander; Stacey Blythe; Steff Rees; Tinc y Tannau; Toby Hay.

Alison Lloyd Smith,

Rheolwr Hwb Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain

Datgloi Ein Treftadaeth Sain a pherthnasedd archifau yn oes Wicipedia

Darganfod Sain - Postiwyd 13-08-2020

Rwy’n archifydd o Sweden sydd wedi gwneud interniaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) rhwng Ionawr a Gorffennaf 2020. Ariannwyd yr interniaeth gan Erasmus + Rhaglen yr UE, a Phrifysgol Gothenburg oedd y sefydliad cefnogi yn Sweden. Y diben oedd cael profiad ymarferol o weithio fel archifydd sain ac ar yr un pryd helpu sefydliad treftadaeth ddiwylliannol. Felly, roeddwn i’n gweithio yn yr Archif Sgrin a Sain ar brosiect digido Datgloi Ein Treftadaeth Sain.

Nod prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain yw gwarchod, digido a sicrhau bod recordiadau sain prin ac unigryw ar gael i’r cyhoedd ledled y DU. Mae LlGC yn un o ddeg sefydliad archifol cenedlaethol a rhanbarthol sy’n rhan o’r prosiect ac mae’r holl waith yn cael ei gydlynu gan y Llyfrgell Brydeinig. Bydd y consortiwm hefyd yn cyflwyno gwahanol raglenni o weithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd, a gwefan lle bydd rhan helaeth o’r recordiadau ar gael am ddim i bawb ar gyfer ymchwil.

Felly rwyf wedi digido, catalogio ac ymchwilio i gynnwys a hawliau recordiadau, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi i wirfoddolwyr yn ardal Bae Teiger o Gaerdydd. Mae gan LlGC gasgliadau sain a recordiadau sy’n ymwneud ag agweddau amrywiol ar fywyd yng Nghymru, sy’n dyddio’n ôl i’r recordiadau cynharaf yn yr 1880au hyd at heddiw. Felly mae gweithio gyda’r deunydd wedi rhoi cipolwg cynnar i mi ar rannau o hanes a diwylliant Cymru. Rwyf hefyd wedi creu cynnwys i’w ddefnyddio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol LlGC ac wedi ysgrifennu/golygu erthyglau ar gyfer Wicipedia, er mwyn lledaenu gwybodaeth am brosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain a’r recordiadau (ac am brosiect digido blaenorol o’r enw Datgloi Treftadaeth Ffilm) i’r cyhoedd yn ehangach.

Wrth weithio gyda Wicipedia fe’m hatgoffwyd o’i gryfderau a’i wendidau mewn perthynas ag archifau. Un o gryfderau Wicipedia yw ei fod ar gael ac yn cael ei ddefnyddio’n eang o amgylch y byd, ond ar y llaw arall mae problemau o ran cynrychiolaeth yn yr erthyglau.

Yn Sweden, roeddwn eisoes wedi cymryd rhan mewn gweithdy Wicipedia wedi’i anelu at fenywod heb lawer o brofiad neu ddim profiad o gwbl o olygu ac ysgrifennu erthyglau. Fe’i trefnwyd gan Amgueddfa Hanes Merched Stockholm er mwyn lleihau’r bwlch rhwng y rhywiau yn Wicipedia. Mae tua 90% o’r erthyglau yn cael eu hysgrifennu gan ddynion sy’n golygu bod tua phedair gwaith cymaint o erthyglau am ddynion. Cawsom ein hannog felly i olygu ac ysgrifennu erthyglau am fenywod.

Ysgrifennais erthygl am Bulgariska Damkör Stockholm (Côr Merched Bwlgareg Stockholm), côr a fu’n weithgar ers dros 20 mlynedd. Ond roedd hi’n anodd trefnu bod yr erthygl yn cael ei chymeradwyo gan Wicipedia oherwydd y meini prawf yn gysylltiedig ag amlygrwydd. Mae angen i destun erthygl fod o ddiddordeb, arwyddocâd neu enwogrwydd nodedig. Roedd y côr wedi bod yn perfformio mewn gwyliau, mewn eglwysi, llysgenadaethau, amgueddfeydd, wedi cymryd rhan mewn teithiau cyfnewid diwylliannol, wedi trefnu gweithdai ac ati. Fodd bynnag, doedden nhw erioed wedi rhyddhau albwm, felly dadleuwyd nad oedd y côr yn deilwng i’w gynnwys. Hefyd prin oedd yr erthyglau amdanynt mewn cylchgronau cerdd neu debyg. Llwyddais i ddod o hyd i recordiadau radio o berfformiadau byw gan ddadlau eu bod yn bwysig ac yn unigryw, felly yn y pen draw cymeradwywyd yr erthygl.

Gwnaeth hyn i mi feddwl am gynrychiolaeth a’r perygl y bydd Wicipedia yn cadw at yr un hen hierarchaeth sydd wedi bod yn amlwg drwy hanes. Yn draddodiadol, mae merched fel grŵp wedi cael llai o gyfleoedd ac o ganlyniad llai o sylw mewn dogfennau hanesyddol, y wasg ac ati. Un ffordd i fynd i’r afael â hyn oedd i fenywod ddilyn trywydd gwahanol i ddynion. O ganlyniad efallai y byddai côr merched heddiw yn cynnal perfformiadau byw ac yn gwneud enw iddynt eu hunain drwy argymhellion personol, yn lle recordio a cheisio denu sylw gan y cyfryngau. Mae grwpiau anghofiedig eraill fel pobl sy’n fregus yn ariannol neu leiafrifoedd gwahanol (ethnig, diwylliannol ac ati) yn wynebu’r un risg o gael llai o gynrychiolaeth yn gyson yn yr oes ddigidol.

Wrth gwrs, mae archifau hefyd yn wynebu problemau cynrychiolaeth. Ond un ffordd o fynd i’r afael â hyn yw mynd ati’n fwriadol i lenwi’r bylchau archifol trwy gynnal cyfweliadau hanes llafar. Gellir deall hanes llafar fel dull o gasglu gwybodaeth am gyfnodau a digwyddiadau hanesyddol drwy gyfweld â phobl a’u profodd. Gellir cynnal cyfweliadau hefyd â phobl y mae eu profiadau a’u hatgofion yn cynrychioli cymunedau penodol neu y mae eu bywydau wedi bod yn arbennig o arwyddocaol. Y nod yn aml yw cael gwybodaeth o wahanol bersbectif, yn enwedig y rhai na ellir dod o hyd iddynt mewn ffynonellau ysgrifenedig. Mae hanes llafar wedi datblygu law yn llaw â thechnegau recordio sain a chlyweledol ond gellir trawsgrifio cyfweliadau hefyd. Mae casglu caneuon a cherddoriaeth yn ffordd debyg o gasglu cerddoriaeth a drosglwyddir ar lafar (fel cerddoriaeth werin) a thrwy hynny, llenwi’r bwlch cerddorol.

Rwyf wedi dod ar draws amrywiaeth eang o recordiadau hanes llafar wrth weithio ar brosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain. Er enghraifft, cyfweliadau gyda ffermwyr o Gymru a oedd yn byw yn ystod yr Ail Ryfel Byd, disgynyddion i ymfudwyr o Gymru yn UDA, Andy Fairweather y cerddor o Gymru, Eric Rowan cynhyrchydd ffilmiau a wnaeth y ffilm am frodyr a chwiorydd yr arlunydd “Augustus and Gwen: The Fire and the Fountain (1975)”, Elinor Rosen a fu’n ymwneud â’r Blaid Lafur ar hyd ei hoes, John Goddard y ffotograffydd a llawer o gyfweliadau gydag arlunwyr ac artistiaid o Gymru a oedd yn weithgar yn ystod y 1900au, fel Eirian a Denys Short.

Mae rhai cyfweliadau hanes llafar gyda pherthnasau a ffrindiau i bobl mwy enwog, nad ydyn nhw gyda ni bellach, fel y cyfweliad gyda Tom Evans sy’n trafod gweithgareddau casglu ei wraig Margaret Evans (1922-1996). Casglodd wisgoedd, arteffactau, dogfennau ac effemera sy’n gysylltiedig ag Aberystwyth a thu hwnt, o’r 1800au i’r 1900au. Rhoddwyd y dogfennau o’i chasgliad i Archifdy Ceredigion a’r arteffactau i Amgueddfa Ceredigion. Enghraifft arall yw’r cyfweliad gyda Stanley Cheetham, a oedd yn perthyn i’r arloeswr Arthur Cheetham (1864-1937), sef y gwneuthurwr ffilmiau cyntaf yng Nghymru. Gwnaeth dros 30 o ffilmiau byrion rhwng 1898 a 1912 a’u dangos mewn cymunedau gwledig yn ogystal ag agor y sinema gyntaf oedd yn agored drwy’r flwyddyn yn y Rhyl yn 1906. Hefyd mae gan yr Archif Sgrin a Sain ffilmiau a wnaed gan G.A. Cheetham, mab Arthur.

Ar y llaw arall, mae cyfweliadau hanes llafar eraill yn canobwyntio ar ffenomen ddiwylliannol fel y gyfres o gyfweliadau gan yr Athro Moira Vincentelli sy’n trafod defnydd a swyddogaeth y ddreser Gymreig ar draws y cenedlaethau.

Yn olaf, hoffwn sôn am Gasgliad Bae Teigr. Mae’n perthyn i The Heritage & Cultural Exchange Bae Teigr a’r Byd, sefydliad cymunedol sy’n ceisio croniclo treftadaeth ac amrywiaeth ddiwylliannol Bae Teigr a Dociau Caerdydd. Mae ganddynt ddeunyddiau archifol sy’n cynnwys: ffotograffau, llyfrau dogni, cylchgronau, llyfrau gwasanaeth morwyr, paentiadau a brasluniau, cofrestr ysgol yn ogystal â chyfweliadau sain a thapiau fideo. Mae’r recordiadau sain yn cael eu digido a’u catalogio yn ystod prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain ac ymddengys eu bod yn amhrisiadwy i bobl sydd eisiau dysgu mwy am un o’r ardaloedd amlddiwylliannol gwreiddiol, gyda mewnfudwyr o hyd at 45 o wledydd.

Ac mae’r holl enghreifftiau yma’n recordiadau a wnaed yn Saesneg, mae llawer mwy ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Gobeithio y bydd rhywbeth perthnasol i bawb. Mae’r holl recordiadau sy’n cael eu digido a’u catalogio o’r prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain yn cael eu derbyn i Gatalog Sain a Delweddau Symudol y Llyfrgell Brydeinig ac yn y pen draw, bydd chwaraewr cyfryngau pwrpasol, a ddatblygir o’r newydd, a gwefan yn cael ei lansio. Bydd hyd at 100,000 o recordiau ar gael am ddim i bawb ymchwilio iddynt, eu mwynhau a chael eu hysbrydoli ganddynt. Bydd y sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol yn darparu mynediad yn lleol i’w recordiadau eu hunain a’r rhai nad oes ganddynt drwydded a chaniatad i’w cyhoeddi ar-lein.

Nid yw Wicipedia yn derbyn hanes llafar fel ffynhonnell gyfreithlon ar gyfer erthygl felly mae’n werth chwilio drwy’r archifau i ddod o hyd i rywbeth gwreiddiol a gwahanol. A gyda phrosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain mae archifau bron â chael y blaen ar Wicipedia, o ran mynediad ac argaeledd ar-lein.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i staff LlGC, yn enwedig yn yr Archif Sgrin a Sain, sydd wedi bod yn groesawgar a chefnogol iawn yn ystod fy nghyfnod yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn

Maria, archifydd o Sweden

‘Tydfor yr hiwmor a’r hwyl’

Casgliadau / Derbynion newydd - Postiwyd 10-08-2020

Dyna deitl addas teyrnged Dic Jones i’w gyfaill Tydfor Jones yn Barddas, Medi 1983, yn dilyn ei farwolaeth drasig mewn damwain dractor ar ei fferm Y Gaerwen, Blaencelyn, ger Llangrannog, ar 20 Mehefin 1983, yn wyth a deugain mlwydd oed.

Ym mis Chwefror llynedd cyrhaeddodd Papurau Tydfor Jones yn rhodd i’r Llyfrgell mewn cês patrwm tartan ‘Black Watch’.  Mae Papurau’r Parch. Gerallt Jones, cefnder i Tydfor, yma’n y Llyfrgell hefyd.

Derbyniwyd papurau tad Tydfor sef Evan George (‘Siors’, 1892-1953) neu ‘Sioronwy’ (ei enw barddol) yn rhan o’r rhodd.  Yr oedd yn fardd ac yn ddegfed plentyn o’r deuddeg a fagwyd ar fferm enwog a diwylliedig y Cilie, Cwmtydu.

Ym mis Rhagfyr 2019 cyrhaeddodd pecyn ychwanegol o bapurau yn ymwneud â John (Tydu) Jones (1883-1947), ewythr Tydfor a brawd Siors, a ymfudodd i Ganada yn 1904 ac roedd ‘Jac Canada’ yn dipyn o gymeriad.  Ceir llythyrau hiraethus oddi wrtho at ei deulu.  Cofnododd ei gerddi mewn cyfrol ddu – ‘Aelwyd y teulu’ i gofio am ei rieni ac yn anrheg pen-blwydd i Tydfor yn saith mlwydd oed.  Roedd yn arbennig o hoff o englyna a cheir englynion i’w frodyr, ei chwiorydd, ei neiaint, gan gynnwys englyn i Tydfor.  Bu farw mewn damwain wrth weithio ar felin lifio yn Sultan, Canada, yn 1947.

Ceir copi o sgript teyrnged T. Llew Jones i ‘Bois y Cilie’ yn y Babell Lên adeg Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976 ac roedd Tydfor yn un o’r llefarwyr.  Cyfeirir at Tydfor fel ‘enghraifft dda o’r bardd gwlad’ yn y Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997).

Cyhoeddwyd Rhamant a hiwmor Tydfor (Llandysul, 1993), cyfrol o’i farddoniaeth wedi’i golygu gan ei weddw Ann Tydfor, yn 1993.  Gellir gweld fod ei ddiddordeb mewn barddoni yn tarddu o’i blentyndod wrth edrych ar ei gerddi cynnar niferus sy’n cynnwys cerdd i ‘T. Llewelyn Jones’ yn ei gyfrol ‘Yr awen’, 1947-1948, gyda mynegai i’r cerddi hyd yn oed.

Ym Mhapurau Cassie Davies 68 mae dau bennill ‘Defi John’ a anfonodd Tydfor ati yn 1970 er cof am D. J. Williams.

Ddeugain mlynedd nôl ym mis Chwefror 1980 cefais y fraint o fod mewn noson yng Nghanolfan y Dderi, Llangybi, Ceredigion, fy mhentref genedigol, ac Adar Tydfor yn ein diddanu.  Mae gen i lofnod Tydfor i brofi hynny!  Ef oedd yn gyfrifol am lunio sgriptiau i’r parti, cyfansoddi geiriau’r caneuon ac yn arweinydd y noson hefyd.  Roedd yn gyfrannwr cyson i’r rhaglen radio ‘Penigamp’ ar ddechrau’r 1970au.

Yng ngeiriau Emyr Llywelyn yn ei deyrnged i Tydfor yn Y Gambo, Gorffennaf 1983, ‘Ti oedd brenin diwylliant bro’.

Ann Francis Evans
Archifydd Cynorthwyol

Derbynion Newydd: Papurau Syr David Treharne Llewellyn

Casgliadau / Derbynion newydd - Postiwyd 03-08-2020

Ym mis Ionawr eleni daeth casgliad bach o lythyron a effemera yn ymwneud a gyrfa gwleidyddol Syr David Treharne Llewellyn, cyn aelod seneddol Ceidwadol, ar werth mewn arwerthiant.Roedd Llewellyn wedi gwasanaethu fel AS dros Ogledd Caerdydd rhwng 1950 a 1959 a chael ei apwyntio fel is-weinidog yn y Swyddfa Gartref yn dilyn buddugolaeth y Ceidwadwyr yn Etholiad Cyffredinol 1951. Dim ond blwyddyn roedd Llewellyn yn ei swydd yn y Swyddfa Gartref, cyn iddo orfod ymddiswyddo oherwydd ei iechyd ond roedd yn benodiad arwyddocaol iawn.

Yn eu maniffesto ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1951, roedd y Ceidwadwyr wedi addo creu swydd yn y Llywodraeth i ymdrin a materion Cymreig. Pan gafodd ei apwyntio i’r cabinet, cafodd David Maxwell-Fyfe y teitl Ysgrifennydd Cartref a Gweinidog dros Faterion Cymreig. I brofi bod hyn yn newid mwy na theitl swydd, penodwyd gweinidog yn y Swyddfa Gartref oedd yn gyfrifol yn benodol am faterion Cymreig; David Treharne Llewellyn oedd y gwleidydd cyntaf yn y rôl honno.

Mae’r Archif Wleidyddol Gymreig yn casglu papurau Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, felly roeddwn ni’n teimlo bod yr archif bach hwn yn werth ei brynu. Nid oes llawer o’i gyfnod yn y Swyddfa Gartref ond mae un llythyr gan Winston Churchill yn diolch iddo am ei wasanaeth i Gymru fel gweinidog a llawer o ohebiaeth gyda gweinidogion eraill yn ystod ei yrfa seneddol gan gynnwys James Callaghan, Edward Heath, David Maxwell-Fyfe a Gwilym Lloyd George. Mae casgliad diddorol o lythyron oddi wrth Philip Noel-Baker, Gweinidog Tanwydd a Phŵer, am gymorth ar gyfer y rhai oedd mewn angen oherwydd damweiniau mewn pyllau glo, a grŵp arall sy’n dangos y berthynas rhwng Llewellyn a George Thomas ac sy’n trafod trychineb Aberfan a’r Arwisgo yn 1969.

Roedd Llewellyn wedi chwarae rhan byr ond arwyddocol yn natblygiad gwleidyddiaeth Cymru, felly mae’n briodol bod ei archif bach wedi dod i’r Llyfrgell Genedlaethol gyda phapurau Ysgrifenyddion Gwladol Cymru a gwleidyddion Cymreig o’r un cyfnod.

Mae’r papurau erbyn hyn ar gael ar ein catalog arlein.

Rob Phillips
Archif Wleidyddol Gymreig

Curaduron yn Cyflwyno: Chwilio’r Cofnodion Esgobaethol

Casgliadau / Collections - Postiwyd 27-07-2020

Yn 1944 dechreuodd yr Eglwys yng Nghymru adneuo cofnodion pob esgobaeth yn y Llyfrgell Genedlaethol, er budd i’r genedl. Roedd hyn yn cynnwys y pedair esgobaeth hynafol, sef Bangor, Llandaf, Llanelwy a Thyddewi, a’r ddwy esgobaeth fodern, Mynwy, ac Abertawe ac Aberhonddu. Cafodd dogfennau, llawysgrifau, mapiau a darluniau eu hadneuo, ac mae’r Llyfrgell yn parhau i dderbyn adneuon rheolaidd hyd heddiw.

Mae mwyafrif y cofnodion esgobaethol yn ymwneud â systemau gweinyddol a chyfreithiol yr Eglwys. Mae’r cofnodion yn adrodd hanes yr Eglwys a’r esgobaethau, adeiladau eglwysig, a gwaith yr esgobion, llysoedd, a’r clerigwyr. I’r rheiny sy’n ymddiddori yn hanes eglwysig neu hanes teulu neu leol, mae’ casgliad yn cynnwys ffynonellau gwybodaeth hollbwysig. Mae’r casgliad yn un sylweddol o ran maint – un o’r casgliadau mwyaf o gofnodion corfforaethol yn y Llyfrgell. Yn ffodus i ymchwilwyr, mae’r casgliad wedi’i drefnu’n dda, sy’n gwneud mynediad i’r deunydd yn weddol rwydd.

Os nad ydych wedi defnyddio’r casgliad o’r blaen a’ch bod yn ansicr o ble i ddechrau, efallai bydd yr awgrymiadau yma o gymorth:

1. Adnabod eich esgobaeth: Mae cofnodion pob esgobaeth wedi’u rhannu i gategorïau bras, megis Adysgrifau’r Esgob, Papurau’r Llys Consistori, Cofnodion y Cabidwl ayyb. Yn gyffredinol, gallwch ddisgwyl chwilio’r un mathau o gofnodion yng nghasgliad pob esgobaeth, er efallai bydd gwahaniaethau yn hyd y cofnodion a’u dyddiadau.

2. Porwch y prif ddisgrifiad ar gyfer yr esgobaeth: Bydd y prif dudalen catalog ar gyfer yr esgobaeth yn cynnwys pa gofnodion sydd ar gael – mae’r meysydd ‘Natur a Chynnwys’ a ‘System o Drefniant’ yn enwedig o ddefnyddiol. Bydd y prif dudalen hefyd yn dangos y categorïau o gofnodion sydd ar gael.

3. Chwilio cyflym: Mae nifer o deitlau’r cyfresi a’r cofnodion yn chwiliadwy drwy ddefnyddio allweddeiriau, felly rhowch dro ar chwilio am dermau penodol sy’n berthnasol i’ch ymchwil. Cofiwch drio sillafiadau gwahanol i wella eich canlyniadau chwilio. Fe welwch fod modd i chi wneud chwiliad cyflym o fewn casgliad penodol drwy ddefnyddio’r blwch chwilio ar ochr chwith y sgrin yng Nghatalog Archifau a Llawysgrifau’r Llyfrgell.

4. Adnoddau print: Os ydych yn ceisio chwilio gwybodaeth am aelod o’r glerigiaeth, man cychwyn da ar gyfer eich ymchwil yw Crockford’s Clerical Directory. Mae’n cynnwys manylion apwyntiadau clerigol ers 1858.

5. Llefydd annisgwyl: Er efallai nad yw’n ymddangos yn berthnasol ar yr olwg gyntaf, byddwch yn barod i dreulio peth amser yn archwilio rhannau arall o’r casgliad. Ni chafodd rhai dogfennau swyddogol eu rhoi mewn i’r categorïau cyffredinol. Er enghraifft, mae cyfres Amrywiol (Miscellaneous) yng Nghofnodion Esgobaethol Tyddewi yn cynnwys deunydd yn ymwneud â chapeli anghydffurfiol yn Aberhonddu.

Mwynhewch y chwilio!

Lorena Troughton
Archifydd Cynorthwyol

Salem – Symbol o Hunaniaeth Gymreig

Collections - Postiwyd 23-07-2020

Diogelu ail fersiwn ‘Salem’

Mis Hydref y llynedd bu’r Llyfrgell yn hynod falch o’i llwyddiant wrth ddiogelu gwaith eiconig ‘Salem’ o 1909 gan Sidney Curnow Vosper (1866-1942) ar gyfer y genedl. Mae’r gwaith mewn dyfrlliw yn darlunio’r olygfa o oedfa yng Nghapel Salem, Cefncymerau, Llanbedr ger Harlech, gyda’r cymeriad Siân Owen yn ei gwisg draddodiadol Gymreig yn dal llyfr emynau yn ganolog i’r llun. Ar hyd y degawdau daeth ‘Salem’ yn symbol eiconig o hunaniaeth Gymreig a’r traddodiad anghydffurfiol yng Nghymru.

Cartrefi Cymru a’r Cof Gwerinol

Creodd Vosper ddau fersiwn o ‘Salem’ yn ystod ei oes. Cafodd y cyntaf ei greu ym 1908, a’i arddangos yn Llundain lle fe’i prynwyd gan y diwydiannwr William Hesketh Lever a’i defnyddiodd er mwyn hyrwyddo gwerthiant ei gynnyrch ‘Sunlight Soap’. Yn sgil hyn daeth y ddelwedd yn un eiconig ar draws Prydain. Fel y nododd yr hanesydd celf Peter Lord yn ei lyfr ‘The Tradition’ yn 2016: ‘In the wake of a nationwide religious revival in 1904, the picture itself and its associated mythology entered Welsh homes and folk memory’. Un o’r rhesymau eraill hefyd dros lwyddiant y llun oedd na chynhyrchwyd ond ychydig iawn o ddelweddau Cymreig cyn y Rhyfel Byd fel printiau lliw rhad a deniadol. Ym 1937 prynodd Ifan ab Owen Edwards printiau o’r darlun er mwyn eu gwerthu yn adrannau’r Urdd. Atgynhyrchwyd y darlun hefyd ar gyfer ei ddefnydd yng nghalendr ‘Cymru Fydd’ ym 1950, 1956 a 1957. Fe fanteisiodd nifer o Gymry ar hyn drwy ei dorri allan o’r cylchgrawn a’u fframio ar gyfer eu cartrefi. Fe grëwyd yr ail fersiwn o ‘Salem’, a brynwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol, sydd ond ychydig yn wahanol i’r gwreiddiol ar gyfer Frank Treharne James, cyfreithiwr o Ferthyr, a brawd-yng-nghyfraith yr artist yn 1909.

Cyferbyniadau

Fel y dywed Peter Lord mae yna wrthgyferbyniad cryf o fewn y llun rhwng symlrwydd yr adeilad, gostyngeiddrwydd yr oedfa a siôl chwaethus y prif gymeriad. Credai nifer eu bod yn medru gweld delwedd o’r diafol ym mhlyg siôl Siân Owen, a greodd dipyn o gynnwrf ynglŷn ag ystyr y llun. Tybier rhai bod y ddelwedd o’r diafol yn rhybudd i bobl yn erbyn pechod balchder, a bod Siân Owen yn euog o’r fath pechu drwy wisgo ei siôl Baisli gorau i fynychu’r gwasanaeth. Tybier hefyd fod Siân Owen yn cynrychioli’r ffigwr o’r ‘Fam’ yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adnabyddwyd Siân Owen yn lleol fel Siân Owen, Tŷ’n y Fawnog . Roedd hi dros 70 mlwydd oed pan grëwyd y paentiad, ac yn dorcalonnus rhai blynyddoedd wedi i Vosper beintio’r llun fe gollodd hi dau o’i wyrion yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhoddai hyn ystyr hyd yn oed yn ddwysach i’w symbolaeth hi fel Mam Gymreig, wrth ystyried y miloedd o famau yng Nghymru a gollodd meibion ar faes y frwydr yn ystod y Rhyfeloedd Byd.

Cymeriadau lleol

Cymeriadau lleol a bortreadir yn y llun ac fe wnaethant eistedd ar gyfer yr artist o fewn y capel. Eithriad i hyn oedd y ddelw teiliwr a enwodd yn Leusa Jones a roddodd i eistedd yn y sêt blaen. Mae’n ddiddorol i nodi mai wyneb Siân Owen a benderfynodd ei roi ar gyfer wyneb Leusa Jones hefyd. Mae’n annhebygol fod yr het dal Gymreig yn boblogaidd yn 1908, ac felly fel dywed Tal Williams yn ei lyfr ar Salem yn 2010 nid oedd gan un o’r gwragedd a bortreadir o fewn y llun ei het ei hun. Benthyciwyd felly’r un het a wisgir gan Siân Owen, Laura Williams, Mary Rowlands a Leusa Jones y ddelw teiliwr, gan Elin Edwards, Tŷ’r Capel, nain y Parch. Evan Rowlands. Mrs Williams, gwraig Ficer Harlech, a roddodd fenthyg y siôl i Siân Owen. Rhoddodd yr artist bocs ‘Quaker Oats’ i Evan Lloyd y bachgen bach 6 mlwydd oed i’w ddal a eisteddai gyda’i fodryb Mary Rowlands. Ofnai Vosper y byddai’r bachgen bach yn dechrau troi tudalennau’r llyfr pe bai ganddo lyfr emynau iawn i’w ddal, fel yr hyn a’i portreadir ef yn dal yn y llun gorffenedig. Wiliam Siôn a Rhobet Williams, Cae’r Meddyg ydy enwau’r ddau ddyn o fewn yr olygfa.

Mynegiant o deyrngarwch at Gymru

Ysbrydolwyd yr artist dyfrlliw Vosper i greu gweithiau wedi eu selio ar ddiwylliant Llydaweg a Chymreig yn ystod ei oes, ond heb os ‘Salem’ yw ei waith mwyaf adnabyddus heddiw. Fel y nododd Peter Lord: ‘Yn y pen draw, mater o fynegi teyrngarwch a pherthyn i Gymru yw poblogeiddrwydd Salem’.

Morfudd Bevan
Curadur Celf Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Curaduron yn Cyflwyno: Defnyddio cofnodion Llys y Sesiwn Fawr (Rhan 2)

Casgliadau / Collections - Postiwyd 20-07-2020

Rhan 2: Cofnodion a chymhorthion chwilio o fewn archif y Sesiwn Fawr

Y cofnodion mwyaf defnyddiol i ymchwilwyr yn archif y Sesiwn Fawr yw’r Rholiau Pledion (y dosbarth mwyaf), y Ffeiliau Carchar (y mwyaf diddorol) a’r Pledion, sy’n cynrychioli achosion sifil, achosion y Goron ac achosion ecwiti yn y drefn honno. Nid oes dim mynegeion go iawn, ond mae llawer o gofnodion y llys yn gyflenwol a gellir eu defnyddio fel cymhorthion chwilio. Nid yw’r rhain yn gynhwysfawr, ond dyma’r lle i gychwyn oni bai eich bod chi’n gwybod pryd y cafodd achos arbennig ei glywed. Yn Saesneg mae’r dogfennau o 1733 ymlaen, a hefyd yr achosion ecwiti, tystiolaethau troseddol a chofnodion y Werinlywodraeth, tra bod y rhan fwyaf o’r deunydd cyn 1733 yn Lladin.

Dyma beth allwch chi ddisgwyl ei ddarganfod yn y cofnodion a’r cymhorthion chwilio mewnol

Ochr Sifil

Mae Rholiau Pledion (Plea Rolls) yn cynnwys pledion yn bennaf mewn achosion a gyrhaeddodd prawf, gan gofnodi enwau a phledion pob plaid, galwedigaethau a mannau preswyl diffynyddion, a manylion pwnc y ddadl ac unrhyw ymgais blaenorol i ddod â’r achos o flaen llys (gan nodi dyfarniadau’r llys ac enwau rheithwyr). Maen nhw hefyd yn cynnwys adferiadau (ymddiriedolathau eiddo a wnaethpwyd fel arfer ar gyfer cytundebau priodas neu dadentaeliadau), achau herio (a dynnwyd gan achwynyddion i brofi perthynas teuluol â swyddogion y Goron fel na allai diffynyddion herio panelu rheithgorau), rhestrau o dwrneiod, gwysion a gwritiau proses eraill (yn aml yn nodi rheithfarnau ac iawndaliadau a wobrwywyd).

Cymhorthion Chwilio

Mae Rhestri Cynnwys (Docket Rolls and Books) a Llyfrau Praecipe (Praecipe Books ar gyfer cylchdaith Caerfyrddin) yn cofnodi manylion pob achos a gyflwynwyd, yn cynnwys mathau o achosion, enwau’r pleidiau, yr eiddo dan sylw ac enwau’r twrneiod. Fe’u trefnir naill ai fesul enw twrnai’r achwynydd neu yn ôl pa mor bell yr oedd pob achos wedi mynd.

Mae Ffeiliau’r Protonotari (Prothonotary’s Files) yn cynnwys pledion achwynyddion a diffynyddion, copïau o ddogfennau cynorthwyol, siedylau o gostau, ac erfyniadau i aswyno unigolion rhag wasanaethu ar reithgorau. Y cynnwys mwyaf defnyddiol yw achau herio (gweler uchod) ac achosion athrod (y clywid y rhan fwyaf ohonynt gan lysoedd eglwysig).

Mae Rhestri Cynnwys Cytgordau ac Adferiadau (Docket Books of Fines and Recoveries), Rhestri Cynnwys Pledion a Chytgordau (Docket Books of Pleas and Fines ar gyfer cylchdaith Aberhonddu) a Rholiau Coffa Adferiadau (Remembrance Rolls of Recoveries ar gyfer cylchdaith Caerfyrddin) yn cynnwys cytgordau terfynol a phledion mewn adferiadau cyffredin, y ddau ohonynt yn achosion cydgynllwyniol ffug. Yn aml, mae’r cofnodion yma yn fwy niferus mewn archifau ystadau, sydd hefyd yn cynnwys gweithredoedd sy’n datgelu gwir ddiben y gweithrediadau.

Mae Llyfrau Rheolau (Rule Books) a Llyfrau Gorchmynion (Order Books) yn cynnwys dyfarniadau a chyfarwyddiadau yn ymwneud â sut y dylai achosion fynd yn eu blaenau. Yn aml, maen nhw wedi cael eu talfyrru yn llym.

Mae Llyfrau Gohiriadau (Imparlance Books) yn cofnodi achosion a drosglwyddwyd i’r sesiwn nesaf.

Ochr y Goron

Mae Ffeiliau Carchar (Gaol Files) yn cynnwys cofnodion yn ymwneud ag achosion troseddol, sef:

  • Calendrau o garcharorion yn aros i sefyll eu prawf, yn cynnwys enwau, troseddau honedig, galwedigaethau, mannau preswyl, mechniwyr, pwy a gyflwynodd carcharorion i’r carchar, carcharorion yn pledio eu boliau, a rhai rheithfarnau a dedfrydau. Mae calendrau diweddarach hefyd yn enwi’r sawl a ddyfarnwyd yn euog. Mae calendrau wedi cael eu talfyrru yn llym, ac yn aml wedi cael eu treulio.
  • Rhestrau o swyddogion y llys a rheithwyr y rheithgorau gwahanol a alwyd i fynychu’r llys (yn cynnwys y sawl a esgusodwyd, neu a wrthwynebwyd neu a ddirwywyd am beidio mynychu), gydag enwau diffynyddion a brasluniau o achosion.
  • Cyhuddiadau yn cofnodi troseddau honedig, ymhle a phryd y digwyddon nhw, enwau a galwedigaethau a mannau preswyl diffynyddion, pryd y cawsant eu dal, enwau achwynyddion a dioddefwyr eraill, a drwgdybiedigion yn derbyn braint clerigwyr. Yn aml, cafodd manylion nad oeddynt yn allweddol i lwyddiant neu fethiant prawf eu hasio neu eu cofnodi yn amhenodol neu yn anghywir, a newidwyd cyhuddiadau yn rheolaidd oherwydd bargeinio pledion neu’r awydd i osgoi’r gosb eithaf. Cofnodir pledion diffynyddion yn aml, a rheithfarnau a dedfrydau hefyd.
  • Biliau yn dynodi a oedd rheithgorau yn ystyried bod achos i’w ateb.
  • Ymrwymiadau i sicrhau presenoldeb erlynwyr, diffynyddion a thystion yn y llys, gydag enwau, cyfeiriadau a dyddiadau troseddau. Yr oedd gweithredu’r ymrwymiadau yn dibynnu ar gywirdeb y wybodaeth hon.
  • Erfyniadau, fel arfer ar ffurf cwynion diffynyddion am sut yr oedd achosion yn cael eu trafod.
  • Deponiadau a chroesholiadau tystion a dioddefwyr a gymerwyd cyn mynd i brawf, fel arfer yn Saesneg (yn aml wedi eu trosi o’r Gymraeg) ac weithiau yn Gymraeg, yn cynnwys gwybodaeth fanwl am bob agwedd o fywyd bob dydd. Mae’r rhain yn ffynhonnell eithriadol o werthfawr, mwy felly oherwydd na chofnodid tystiolaeth a roddid ar lafar yn y llys, ond dinistriwyd y rhan fwyaf ohonynt oherwydd nad cofnodion swyddogol y llys oeddent.
  • Siedylau o garcharorion, gyda chrynodebau o achosion i gynorthwyo rheithwyr.
  • Cyflwyniadau gan gwnstablau a’r Rheithgor Mawr o droseddau y tybiwyd eu bod wedi cael eu cyflawni. Yr oedd y rhain yn aml yn cynnwys esgeuluso cynnal ffyrdd.
  • Gwritiau i sicrhau presenoldeb y cyhuddiedig, yn ymestyn o’r ŵys wreiddiol hyd at atafaeliad a herwriaeth. Dibynnodd y math o writ a ddefnyddiwyd ar y drosedd a faint o writiau a gyhoeddwyd o’r blaen.
  • Biliau o gostau, yn dangos (ymhlith pethau eraill) sut y dalwyd drwgdybiedigion a sut y defnyddid cyfieithwyr yn y llys.
  • Gwritiau yn trosglwyddo achosion o’r Sesiwn Chwarter i’r Sesiwn Fawr, gan nodi gwybodaeth fras am yr achosion.
  • Cwestau’r Crwner ynghylch materion megis marwolaethau annisgwyl neu trwy drais, trysorau cudd a llongddrylliadau. Canolbwynt y cwest oedd penderfynu a oedd trosedd wedi cael ei chyflawni yn hytrach na chadarnhau’r ffeithiau yn llawn.

Cymhorthion Chwilio

Mae Llyfrau’r Goron (Crown Books – dim ond ar gyfer Sir Fflint 1564-1666) a Llyfrau Duon (Black Books – dim ond ar gyfer cylchdaith Aberhonddu 1726-1830) yn cynnwys enwau carcharorion, manylion troseddau a phledion, a rheithfarnau a dedfrydau. Ni chynhwysir pob achos. Mae Llyfrau’r Goron hefyd yn darparu gwybodaeth am lawer o’r cofnodion eraill a geir yn y Ffeiliau Carchar.

Mae Rholiau Calendr (Calendar Rolls) yn darparu mynegeion i galendrau cynnar Sir Faesyfed, Sir Forgannwg, Sir Aberteifi a Sir Benfro.

Mae Llyfrau Gorchmynion (Order Books), Llyfrau Rheolau (Rule Books) a Llyfrau Cofnodion (Minute Books) yn perthyn yn bennaf i achosion sifil, ond rheithfarnau a dedfrydau troseddol yw eu cynnwys mwyaf defnyddiol. Mae’r cofnodion yn fylchog ac wedi cael eu talfyrru yn llym. Mae gan Lyfrau Gohiriadau (Imparlance Books) wybodaeth debyg am gylchdaith Aberhonddu.

Ochr Ecwiti

Mae PLEDION (PLEADINGS) yn cynnwys datganiadau ac atebion gan achwynyddion a diffynyddion, gyda deponiadau tystion. Mae’r cofnodion memrwn a’r rhai papur ar wahân, felly gall manylion am un achos ymddangos mewn mwy nag un lle.

Cymhorthion Chwilio

Mae Llyfrau Bil (Bill Books) yn cofnodi pryd y derbynwyd pob achwyniad yn wreiddiol.

Mae Llyfrau Dyfarniadau (Decree Books) yn cynnwys manylion achosion, crynodebau o bledion, a dyfarniadau’r llys.

Mae Llyfrau Gorchmynion (Order Books) yn cynnwys gorchmynion y llys, yn cynnwys dyfarniadau.

Gobeithiwn y bydd yr adroddiad cryno hwn yn cynorthwyo ac ysbrydoli ymchwilwyr.

Dr David Moore
Archifydd Cynorthwyol

Curaduron yn Cyflwyno: Defnyddio cofnodion Llys y Sesiwn Fawr (Rhan 1)

Casgliadau / Collections - Postiwyd 16-07-2020

Mae cofnodion Llys y Sesiwn Fawr yn adnodd eithriadol o werthfawr ar gyfer hanes cymdeithasol, economaidd a chyfreithiol Cymru o 1542 hyd 1830, a maen nhw’n llawnach na chofnodion cyffelyb yn Lloegr. Maen nhw wedi cael eu tanddefnyddio gan ymchwilwyr, er eu bod nhw’n un o archifau pwysicaf y Llyfrgell. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod defnyddio cofnodion llys yn gallu bod yn anodd, ond bydd y blog hwn yn ceisio rhoi cymorth i ddarllenwyr i ddarganfod eu ffordd i mewn i’r cofnodion. Ceir brasolwg yn Rhan 1 ar waith y Sesiwn Fawr a’r cymhorthion chwilio eilaidd sydd ar gael, a bydd Rhan 2 yn edrych yn fanylach ar y cofnodion llys eu hunain, beth sydd ynddyn nhw, a sut y gallen nhw eich helpu chi i chwilio’r archif.

Y llys a’i waith

Sefydlwyd Llys y Sesiwn Fawr yng Nghymru ym 1542 fel rhan o’r ‘Deddfau Uno’, a estynnodd cyfraith gyffredin Lloegr i Gymru gyfan am y tro cyntaf. Rhoddwyd hawl i’r llys newydd glywed yr achosion mwyaf difrifol, a trefnwyd deuddeg o’r llysoedd sirol yng Nghymru yn bedair cylchdaith o dair sir yr un, sef Caer (Sir Ddinbych, Sir Fflint a Sir Drefaldwyn), Gogledd Cymru (Sir Fôn, Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd), Aberhonddu (Sir Frycheiniog, Sir Forgannwg a Sir Faesyfed) a Chaerfyrddin (Sir Aberteifi, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro). Byddai barnwyr crwydrol yn ymweld â phob cylchdaith dwywaith bob blwyddyn, gan eistedd mewn sesiynau chwech diwrnod yn y gwanwyn ac yn hwyr yn yr haf, er mwyn clywed achosion sifil, achosion y Goron, ac achosion ecwiti.

  • Achosion sifil oedd y rhai rhwng ddeiliaid lle nad oedd buddiant gan y Goron. Rhain oedd asgwrn cefn gwaith y llys, yn ymwneud yn bennaf ag anghydfodau ynghylch eiddo (yn cynnwys eiddo tiriog, nwyddau a chelfi) a dyledion, yn ogystâl â,thorri cytundebau, athrodion, tresbasiadau, talu dirwyon, adferiadau cyffredin, rhai iawndaliadau yn deillio o ymosodiadau corfforol, a materion eraill. Gellir cymharu gallu’r Sesiwn Fawr mewn achosion sifil ag eiddo’r Llys Pledion Cyffredin yn San Steffan.
  • Achosion y Goron oedd y rhai a gyffyrddai â buddiannau’r Goron. Achosion troseddol oedd y rhan fwyaf ohonynt, a mae’r cofnodion yn arbennig o gyfoethog. Mae’r achosion yn cynnwys ffeloniaethau (troseddau dihenydd) – llofruddiaeth, dynladdiad, bradwriaeth, llosgi bwriadol, trais rhywiol, lladrata, lladrad o nwyddau yn werth mwy nag un swllt (lladrad mawr), dewiniaeth a throseddau difrifol eraill – a chamymddygiadau megis tresbasu, terfysga, codi cynnwrf, ymgynnull yn anghyfreithlon, mynediadau, dadfeddiannu, cribddail, dirmyg, reciwsantiaeth, a lladrad o nwyddau yn werth llai nag un swllt (mân-ladrad), y gellid eu cosbi trwy ddirwy, carchar, chwipio, y stociau neu anafu. Ymgymerwyd â rhai materion anhroseddol hefyd, yn cynnwys cynnal y ffordd fawr a chwestau’r Crwner, er nad oedd rhain i gyd yn perthyn i fusnes y llys yn swyddogol. Gellir cymharu gallu’r Sesiwn Fawr mewn achosion y Goron ag eiddo brawdlysoedd Lloegr a llys Mainc y Brenin/Frenhines yn San Steffan.
  • Achosion ecwiti oedd y rhai na ellid eu hateb gan lys y gyfraith gyffredin, naill ai oherwydd nad oedd y gyfraith gyffredin yn adnabod y fater wrth law (megis buddiannau ecwitïol mewn tir), neu oherwydd nad oedd gan y llys awdurdodaeth (mewn anghydfodau a godai ar y môr, er enghraifft), neu oherwydd nad oedd cynsail ar gael. Dilynid egwyddorion ecwiti a chydwybod, felly, yn hytrach na’r rheolau caeth arferol. Dyma oedd gwaith lleiaf pwysig y Sesiwn Fawr, ond mae’r cofnodion yn werthfawr i achyddion oherwydd bod y rhan fwyaf o achosion ecwiti yn ymwneud â materion o ymddiried a chytundeb, megis cytundebau priodas, cytundebau ar lafar, ewyllysiau, morgeisi ac ymddiriedolaethau, y codai llawer ohonynt o drefniadau teuluol. Gellir cymharu gallu’r Sesiwn Fawr mewn achosion ecwiti ag eiddo’r Canghellys yn San Steffan; ymddengys mai dyma oedd y drefn trwy gydol bodolaeth y llys, er na soniwyd am ecwiti yn benodol yn statud 1542.

Parhaodd y trefniadau hyn nes i’r llys gael ei ddiddymu ym 1830, a fe’u hadlewyrchir yn y cofnodion a strwythur catalog y Llyfrgell. Dosbarthwyd Sir Fynwy i gylch brawdlysoedd Rhydychen, a mae ei chofnodion hi yn yr Archifdy Gwladol.

Clywid achosion llai yn Llysoedd Chwarter y siroedd, a hefyd mewn llysoedd maenorol, yn ogystâl â’r Sesiwn Fach o’r ddeunawfed ganrif ymlaen. Nid oedd gan y Sesiwn Fawr fonopoli dros yr achosion mwy difrifol, ychwaith. Bu raid iddi fyw ar y cyd gyda nifer o lysoedd eraill ag awdurdodaethau tebyg, yn enwedig llys Cyngor Cymru a’r Gororau (llys uchelfraint a eisteddai yn Llwydlo tan 1689), yn ogystâl â llysoedd eglwysig, llys Mainc y Brenin, y Canghellys, brawdlysoedd Lloegr, ac eraill; ni ddaeth y rhan fwyaf o achosion ecwiti yng Nghymru erioed o flaen y Sesiwn Fawr, er enghraifft. Dros amser, sefydlwyd cynseiliau bod mwy o achosion yn gallu cael eu clywed mewn llysoedd yn Lloegr, ac yn raddol fe danseiliwyd y Sesiwn Fawr. Beirniedid gymhlethdodau, anghysonderau a chyfyngiadau’r llys yn eang, yn ogystâl â safon ei farnwyr. Y tyb ym 1830 oedd bod y llys yn ddarfodedig ac yn ddianghenraid, er iddo gael ei ystyried gan lawer yn sefydliad cenedlaethol Cymreig.

Dechrau ymchwil yng nghofnodion y Sesiwn Fawr – cymhorthion chwilio eilaidd

Ffordd syml a buddiol i mewn i’r Sesiwn Fawr yw cronfa ddata’r Llyfrgell o’r enw Trosedd a Chosb, sydd yn chwiladwy ac yn cynnwys cofnodion troseddol am y cyfnod 1730-1830.

Hefyd, mae Murray Chapman wedi calendro a mynegeio Ffeiliau Carchar cynnar Sir Drefaldwyn, gan ddarparu ffordd lawer rhwyddach i mewn i’r cofnodion hyn ar gyfer ymchwilwyr. Cyhoeddwyd wyth gyfrol gan y Llyfrgell hyd yn hyn, yn cwmpasu’r cyfnodau 1541-1613 a 1650-1660.

Os ydy darllenwyr am ddarganfod mwy, bydd angen iddynt wneud eu chwiliadau eu hunain. Mae’r Llyfrgell wedi cynhyrchu nifer o gymhorthion chwilio i gynorthwyo gyda hyn, yn cynnwys:

  • catalog llawn a rhwydd i’w bori arlein o gofnodion y Sesiwn Fawr
  • Arweinlyfr Glyn Parry, A guide to the records of Great Sessions in Wales, sef y gwaith mwya gynhwysfawr dan un clawr am gofnodion, gweithdrefnau a datblygiad y llys; mae e hefyd yn cynnwys nodiadau llyfryddol helaeth
  • Taflen i ddarllenwyr, ‘Cofnodion Llys y Sesiwn Fawr’, ar gael yn yr Ystafell Ddarllen

Bydd Rhan 2 o’r blog hwn yn edrych ar sut y gall y cofnodion llys eu hunain fod yn gymorth i’ch hymchwil.

Dr David Moore
Archifydd Cynorthwyol

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog