Tag Archives: Digidol

O’r Gell i’r Gell: Gweithiau Gwyddonol yng Nghasgliad Print y Llyfrgell

Casgliadau / Collections / Digido - Postiwyd 25-09-2023

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol cefais y fraint o roi sgwrs yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar y trysorau gwyddonol yng nghasgliadau’r Llyfrgell. Cyflwynodd y sgwrs honno 27 o drysorau gwyddonol yn dyddio o’r 11eg ganrif hyd at yr 20fed ganrif gan gynnig blas o’r math o ddeunydd yn ymwneud â gwyddoniaeth sydd gan y Llyfrgell. Bydd y blog hwn yn eich cyflwyno i bedair o’r eitemau hyn, gan ganolbwyntio ar rai gweithiau printiedig allweddol sy’n ymwneud â gwyddoniaeth o gasgliadau print y Llyfrgell. 

 

Dechreuwn gydag un o’r llyfrau mwyaf arwyddocaol yn natblygiad syniadaeth gwyddonol, sef Dialogo di Galileo Galilei…: sopra i due massimi sistemi del mondo Tolemaico, e Copernaico (1632) gan Galileo. Yn gwneud achos feirniadol dros ddamcaniaeth Copernicus bod y ddaear yn troi o amgylch yr haul, mae gwaith Galileo ar ffurf deialog rhwng dau athronydd, Saliviati, yn cynrychioli safbwyntiau Galileo a rhagdybiaeth Copernicus, a Simplicio, yn cynrychioli’r safbwynt Ptolemaidd a gefnogir gan yr Eglwys Gatholig, a lleygwr amhleidiol, Sagredo. Arweiniodd cyhoeddi’r llyfr hwn at achos llys Galileo am heresi, ei cyfyngu i’w dŷ am weddill ei oes, ac osodiad y llyfr ar y Mynegai o Lyfrau Gwaharddedig o 1633 hyd at 1835. Yr argraffiad cyntaf a gyhoeddwyd yn Fflorens yn 1632 yw copi’r Llyfrgell.

 

 

Daw’r ddau waith nesaf â ni i Gymru ac maent yn gynrychioliadol o weithiau Cymraeg ar wyddoniaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae’r cyntaf, Y Darluniadur Anianyddol (1850) gan Edward Mills, yn un o nifer o lyfrau gwyddoniaeth poblogaidd a gyhoeddwyd yng nghanol y 19eg ganrif. Teithiodd Mills (1802-1865) ledled Cymru yn darlithio ar seryddiaeth ac fe adeiladodd planedur 66 troedfedd, a ddisgrifiwyd fel un o ‘ryfeddodau’r oes’. Mills a’i fab oedd yn gyfrifol am y torluniau pren yn y Darluniadur.

 

 

Yr ail yw Y Gwyddonydd, y cylchgrawn gwyddonol arloesol iaith Gymraeg a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru rhwng 1963 a 1996. Roedd y cylchgrawn yn cynnwys papurau academaidd, erthyglau, adolygiadau a newyddion ar bynciau gwyddonol. Nododd Dr Gwyn Chambers, un o sylfaenwyr y cylchgrawn, fod Y Gwyddonydd “wedi profi addasrwydd y Gymraeg i drafod pynciau gwyddonol o bob math, a hynny mewn ffordd gwbl naturiol.” Gellir gweld holl rifynnau Y Gwyddonydd ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein drwy’r cysylltiad hwn.

 

 

Daw’r eitem olaf â ni at y presennol a’r angen frys i weithredu yn wyneb yr argyfwng hinsawdd mwyfwy difrifol sy’n wynebu’r blaned. Wedi’i gyd-olygu gan y gwyddonydd o Gymru, John Theodore Houghton, roedd yr adroddiad Climate Change a gyhoeddwyd gan y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd ym 1990, yn un o’r cyhoeddiadau gwyddonol cynnar wnaeth ein rhybuddio am raddfa’r her sy’n ein hwynebu nawr mewn perthynas â newid hinsawdd anthropogenig.

 

 

Blas yn unig yw hwn o’r gweithiau gwyddonol sydd yng nghasgliadau printiedig y Llyfrgell. Mae gennym hefyd weithiau pwysig gan Isaac Newton, Francis Bacon, Robert Hooke, gweithiau gan wyddonwyr Cymreig fel William Robert Grove, Lewis Weston Dillwyn, Eirwen Gwynn a Donald Davies, a agraffiad cyntaf o’r Origin of the Species gan Charles  Darwin a ddarganfuwyd yn ddiweddar. Mae llawer iawn fwy i’w darganfod, felly beth am galw lan i’r Llyfrgell i chwilio am y gweithiau gwyddonol yn ein casgliadau? 

 

Dr Douglas Jones 

Rheolwr Prosiectau Casgliadau Cyhoeddedig 

Gwobrau’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion 2023

Casgliadau - Postiwyd 12-09-2023

Eleni cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Archifau a Chofnodion y DU ac Iwerddon (ARA) yn Belfast rhwng 30 Awst a 1 Medi. Yn ystod y gynhadledd derbyniodd dau aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydnabyddiaeth am eu gwaith caled yn y sector Archifau.

 

 

Cyflwynwyd Gwobr Gwasanaeth Nodedig mewn Archifau i Sally McInnes, Pennaeth Cynnwys Unigryw a Chyfoes. Cymhwysodd Sally fel archifydd ym 1988 a daeth i weithio yn y Llyfrgell ym 1989, ac mae wedi bod yma ers hynny! Mae Sally wedi gweithio ar bob lefel i helpu i hwyluso cadwraeth a mynediad at archifau, gan ddod yn Bennaeth Gofal Casgliadau yn 2010 ac yn Bennaeth Cynnwys Unigryw a Chyfoes yn 2015. Gwelodd Sally archifau a chasgliadau arbennig y Llyfrgell drwy heriau sylweddol, gan gynnwys tân yn 2013 ac yn fwy diweddar y pandemig Covid-19, yn ogystal â sicrhau Achrediad Gwasanaeth Archifau ar gyfer y Llyfrgell a hyrwyddo Cadwedigaeth Ddigidol.

 

 

Yn ystod ei gyrfa mae Sally wedi cyfrannu at lawer o gyrff proffesiynol, gan gynnwys Rhanbarth ARA Cymru, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru a’i Grŵp Cadwedigaeth Ddigidol, y Gynghrair Cadwedigaeth Ddigidol, Grŵp Penaethiaid Cadwraeth a Gwyddoniaeth, a Grŵp Archifau a Chasgliadau Arbennig WHELF.

Mae Sally wedi gwneud cyfraniad anhygoel i’r gwaith o gasglu a chadw archifau yma yn y Llyfrgell a hefyd ar draws y proffesiwn archifau ehangach, ac rydym yn siŵr y byddwch yn ymuno â ni i ddymuno llongyfarchiadau iddi.

Llongyfarchiadau hefyd i Julian Evans, Cynorthwy-ydd Cadwraeth, a dderbyniodd ei Dystysgrif mewn Cadwraeth Archifau. Dechreuodd Julian ei Hyfforddiant Cadwraeth Archifau ARA yn LlGC yn 2019, gan weithio ar lawer o wahanol dechnegau a chasgliadau gan gynnwys rhwymo llyfrau, cadwraeth papur, glanhau ac atgyweirio. Mae Julian nawr yn dechrau ar ei yrfa fel Cadwraethwr Archifau cwbl gymwys, gan helpu i gadw sgiliau hanfodol ar gyfer cadwraeth archifau yn y dyfodol.

 

 

 

Lucie Hobson

Archifydd Cynorthwyol

 

O’r Storfeydd – Storïau Cudd o’r Casgliad Cymraeg

Collections - Postiwyd 11-09-2023

Awdur mewn proffil: Hymen Kaner

Wrth ymchwilio at waith diweddar ar ddata etifeddiaeth yng nghasgliad ffuglen y Llyfrgell Genedlaethol,  darganfuwyd nifer o gyhoeddiadau gan yr awdur Hymen Kaner, a aned yn Rwmania. Tynnwyd sylw at y llyfrau hyn gan iddynt gael eu cyhoeddi yn Llandudno. Gydag ychydig iawn o gofnodion catalog llawn ar gael ar gyfer cyhoeddiadau Kaner, bu rhaid i un o’n llyfrgellwyr yma sicrhau fod y cyfrolau’n cael eu catalogio’n llawn, a’u cynnwys fel rhan o Lyfryddiaeth Cenedlaethol Cymru.

 

 

Trwy’r broses hon sylwais ar stori ddiddorol, o deulu o fewnfudwyr o Rwmania yn cyrraedd Prydain Fawr, yn gyntaf i Lundain, yna i Landudno. Ar ryw adeg sefydlodd Kaner wasg gyhoeddi yn Llandudno, yn bennaf i gyhoeddi ei waith ei hun. Er hyn, cyhoeddwyd gweithiau gan awduron eraill hefyd. Nid yw’n glir pa mor llwyddiannus oedd y fenter, ond mae’r ffaith fod sawl casgliad o straeon byrion, gan gynnwys ‘Ordeal by moonlight’, ‘Hot Swag!’, and ‘Fire watchers night’, wedi’u cyhoeddi’n fasnachol ac sydd bellach o fewn casgliad y Llyfrgell yn brawf fod Kaner wedi cael rhywfaint o lwyddiant.

Er mwyn darllen rhagor am hanes yr awdur, darllenwch y ddolen yma a ysgrifennwyd gan Laurence Worms o Ash Rare Books:

Gweler yma am lyfryddiaeth gynhwysfawr yr awdur.

 

Ian Evans

Rheolwr Cynllun Catalogio ar y Cyd

Detholiad o lyfrau Cymreig newydd a dderbyniwyd gan y Llyfrgell o fis Mehefin 2023

Casgliadau / Collections / Derbynion newydd - Postiwyd 31-08-2023

 

 

Hanes a gweithiau cyffredinol

Sarn Helen: A Journey through Wales, Past, Present and Future / Tom Bullough, Granta, 2023, 9781783788095

The History of Llanthony Priory / Edited and translated by Robert Bartlett, Oxford University Press, 2022, 9780192866493

Wales, the Welsh and the making of America / Vivienne Saunders, University of Wales Press, 2022, ‎ 9781786837905

Broadcasting for Wales: the early years of S4C / Elain Price, University of Wales Press, 2022, 9781786839640

The art of music: branding the Welsh nation / Peter Lord and Rhian Davies, Parthian, 2022, 9781914595257‎

Wild swimming walks, South Wales: 28 coast, river & waterfall days out, Nia Lloyd Knott, Wild Things Publishing, 2023

Railways in South Wales and the central Wales line in the late 20th century, Peter J. Green, Pen and Sword Transport, 2022

The Welsh marcher lordships: II South-west, John Fleming, Logaston Press, 2023

Porth, farm, coal and town: a small history of mining in the Rhondda, David Robinson, 2023

Bywyd a bwyd = enjoying life through food / Colleen Ramsey, Lolfa, 2022

Eitemau Cymdeithas Hanes Teuluoedd Ceredigion = Cardiganshire Family History Society items

A history of the vale of Montgomery from earliest times to the Black Death, John Davies, 2021

 

Bywgraffiadau

The farm that raised me: tales from a Breconshire valley / David Jones, Logaston Press, 2022.

Jan Morris: life from both sides: a biography / Paul Clements, Scribe, 2022.

Frank Lloyd Wright: the architecture of defiance / Jonathan Adams, Royal Society of Architects in Wales, 2022.

 

Barddoniaeth

Barddoniaeth Ystrad Fflur / Dafydd Johnston, Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur, 2023

The poetry of Strata Florida / Dafydd Johnston, Strata Florida Trust, 2023

 

Gwyddoniaeth, addysg, a natur / Science, education, and nature

CBAC Cemeg ar gyfer UG: llyfr gwaith adolygu / Rhodri Thomas, Lindsay Bromley, Illuminate Publishing, 2022

CBAC Ffiseg ar gyfer U2 (2il argraffiad) / Gareth Kelly, Nigel Wood, Illuminate Publishing, 2022

 

Chwaraeon

Colwyn Bay, the West Indies & Me: Reminiscences of a Boy / Martin Hamer, Hamer 20th Century Books, 2022, 9780953787562

Glamorgan cricketers 1949-1979 / Andrew Hignell, Halsgrove, 2022.

 

Plant

The travelling fox twins journey to Wales / Roberto Di Nuzzo & Elisa Ditta, Independent Publishing Network, 2022

Beth sy’n digwydd yn fy mhen? Taro sgwrs â’ch plentyn am iechyd meddwl cadarnhaol / Molly Potter, Graffeg, 2021

Asterix a helynt yr Archdderwydd / René Goscinny, Dalen, 2021

Asterix and the muckle rammy / René Goscinny, Dalen Scot, 2021

Tintin yn America / Hergé, Dalen, 2022

Tintin a chwyldro’r picaros / Hergé; addasiad Dafydd Jones, Dalen, 2021.

Byd Frankie / Aoife Dooley, Graffeg, 2022

The boy who dreamed dragons / Caryl Lewis, Puffin, 2022.

 

Ffuglen

Safana / Jerry Hunter, Y Lolfa, 2021

A wedding at Café Lompar / Anna and Jacqui Burns, Honno, 2022.

Ryc, Lleucu Fflur Jones, Gwasg y Bwthyn, 2021

 

 

Euros Evans

Cynorthwy-ydd Catalogio

Clefydau’r glun, pen-glin a chymal y ffêr

Casgliadau / Collections / Derbynion newydd / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 07-07-2023

Wythnos diwethaf, dathlodd y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol 75 mlynedd ers ei sefydlu. Diddorol yw nodi y prynwyd argraffiad cyntaf prin (1875) gan y Llyfrgell llynedd o’r llyfr ‘Diseases of the Hip, Knee and Ankle Joint and their treatment by a new and efficient method’ gan y llawfeddyg Hugh Owen Thomas. Fe’i cyhoeddwyd gan T. Dobb o Lerpwl.

 

 

Ganwyd Hugh Owen Thomas yn Sir Fôn yn 1834. Hyfforddodd fel llawfeddyg yn gyntaf gyda’i ewythr, Dr Owen Roberts, yn Llanelwy a hynny am bedair blynedd. Wedyn astudiodd feddygaeth yng Nghaeredin a Choleg Prifysgol Llundain. Datblygodd i fod yn llawfeddyg orthopaedig a gwneuthurwr rhwymyn (brace) llwyddiannus yn Lerpwl. Ysgrifennodd yn eang ar sut i drin toriadau gan ddefnyddio dulliau arbrofol a ddatblygodd ef ei hun. Dyma un o gyhoeddiadau cynharaf Thomas. Nifer fach o’r rhain a gyhoeddwyd a’u diben oedd eu cyflwyno i’w ffrindiau. Yn ddiddorol, ni wnaeth unrhyw ymdrech i roi cyhoeddusrwydd i’w lyfr a credir iddo ddistrywio’r copïau oedd yn weddill ar ôl eu dosbarthu.

Priodolir i Thomas o leiaf tair rheol wyddonol, sylfaenol ar sut i drin toriad. Yn gyntaf, mae’n bwysig fod y claf yn cael ei orfodi i orffwys. Yn ail, ni ddylid rhoi pwysau ar y cymal sydd wedi brifo ac yn drydydd mae’n bwysig symbylu’r cylchrediad o fewn y cymal sydd wedi brifo yn ystod y cyfnod adfer.

Mae’r dulliau llawfeddygol a ddisgrifir yn y llyfr yn dal i gael eu defnyddio heddiw a mae eu defnydd wedi galluogi trin fwy o gleifion yn llwyddiannus, gan osgoi cymalau sy’n gwella’n ddiffygiol ar ôl toriadau. Mae hefyd wedi llwyddo i leihau’n sylweddol y nifer o ddrychiadau.

 

 

Cyhoeddwyd y llyfr hwn saith deg tri mlynedd cyn sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Mae’n rhoi cip o’r gofal meddygol oedd ar gael i bobl yn gyffredinol cyn darpariaeth gan y wladwriaeth. Ceir cyfeiriadau cyson at gost ac argaeledd triniaethau a bod y rhain yn dibynnu ar gyfoeth y claf.

Diddorol yw sylwi fod Thomas yn sôn am driniaethau a ddefnyddir gan lawfeddygon led led y byd. Mae’n gwerthuso’r technegau gwahanol hyn mewn modd beirniadol gan geisio gwella arnynt wrth ddatblygu ei ddulliau ei hun. Trwy gydol y llyfr mae Thomas yn cynnwys astudiaethau achos sy’n dangos iddo ystyried yn fanwl lwyddianau a methianau ei driniaethau wrth addysgu llawfeddygon eraill.

Yn sicr, gwnaeth Hugh Owen Thomas gyfraniad sylweddol i ddatblygiad dulliau llawfeddygol dros y degawdau.

 

Hywel Lloyd,

Llyfrgellydd Cynorthwyol.

Ben Bach y Baledwr

Casgliadau / Cerddoriaeth - Postiwyd 03-07-2023

Gorchwyl dymunol iawn gefais fel gwirfoddolwr yn ddiweddar, sef gwrando ar recordiau o Ben Bach yn canu caneuon gwerin a cheisio eu trawsgrifio.  Brodor o Fathri yn Sir Benfro oedd Ben – Ben Phillips i roi ei enw iawn iddo, ond fel ‘Ben Bach’ oedd yn cael ei adnabod.  Roedd ganddo lais hyfryd a chlir ac yn canu yn nhafodiaith Sir Benfro ac yn enwog, mae’n debyg, am fynd i dipyn o hwyl gyda’i gynulleidfa.

 

 

Roedd angen cadw’r dafodiaith wrth drawsgrifio, oedd yn her ar adegau – ambell i ‘ddishgled o dê’ a ‘dwêd da thre’.  Tua deg ar hugain o ganeuon – un fach hyfryd am y gwcw oedd yn hir yn cyrraedd – “oerwynt y gaeaf a’m cadwodd yn ôl”;   fersiwn Gymraeg o ‘Deuddeg Dydd o’r Gwyliau’ (‘The Twelve Days of Christmas’); rhai caneuon trist, rhai doniol, caneuon serch ac ambell i faled.  Roeddwn mewn ffitie o chwerthin wrth wrando ar ‘Y Ladi Fowr Benfelen’ gyda’i double entendres amheus iawn!

 

 

Lluniau (Ch-Dd): Ben Bach a’i gyd-weithwyr, 1910; Ben Bach, 1953

 

Fy hoff gân oedd ‘Pentre Mathri Lân’ oedd Ben yn canu ar y dôn ‘Johnny Comes Marching Home’, sy’n disgrifio llawer o drigolion Mathri mewn ffordd ddigri, er enghraifft:

“Ma Jo siop ardderchog yn i le, hwrê, hwrê,

Yn gwerthu shwgwr, sebon a thê, hwrê, hwrê,

Sim raid i chi dalu am fîsh ne ddou

Ond diwedd i gân yw ‘pei yp mei boi’.

Hip hip hwrê-i, pentre Mathri lân.”

 

Mae’n debyg mai bwriad y trawsgrifio oedd i blant ysgol yn Sir Benfro gael dysgu rhai o’r caneuon – fel bo’r geiriau a’r dafodiaith ar gôf a chadw gan y genhedlaeth nesaf – syniad ardderchog! Rwy’n siwr byddai Ben Bach wrth ei fodd.

 

Gwenno Watkin

Gwirfoddolwr LlGC

Argraffiad prin o’r Mabinogion

Casgliadau / Collections / Derbynion newydd - Postiwyd 26-06-2023

Mae’r Mabinogion yn gasgliad o ddeuddeg o chwedlau Cymraeg Canol.  Fe’u cyfieithwyd i’r Saesneg yn y 19eg ganrif gan y Fonesig Charlotte Guest, merch nawfed Iarll Lindsey, a anwyd yn swydd Lincoln ond a ddechreuodd ymddiddori yn llên a thraddodiadau Cymru ar ôl priodi Syr Josiah John Guest, meistr gweithfeydd haearn Dowlais.

 

 

Mae un ar ddeg o’r chwedlau wedi’u cymryd o’r Llyfr Coch o Hergest, sef un o’r llawysgrifau Cymraeg pwysicaf yr Oesoedd Canol.  Maent yn cynnwys pedair cainc y Mabinogi, sef Pwyll Pendefig Dyfed, Branwen ferch Llŷr, Manawydan fab Llŷr, a Math fab Mathonwy, yn ogystal â thair rhamant Arthuraidd a phedair chwedl annibynnol.  Rhoddwyd cymorth i Charlotte Guest gan John Jones (Tegid) a Thomas Price (Carnhuanawc) gyda’r gwaith cyfieithu.  Argraffwyd y testunau Cymraeg gyda’r cyfieithiadau, ac mae’r cyfrolau yn cynnwys ffacsimilïau o rannau o’r llawysgrifau gwreiddiol.

 

 

Cyhoeddwyd y cyfieithiad mewn saith rhan rhwng 1838 a 1849, wedi’u bwriadu i’w rhwymo mewn tair cyfrol.  Yn ddiweddar mae’r Llyfrgell wedi prynu copi prin iawn o’r saith rhan wreiddiol; dim ond un copi arall sy’n hysbys mewn llyfrgell sefydliadol.  Copi personol y cyfieithydd yw’r rhai a brynwyd, gyda’i phlât llyfr tu fewn i’r cloriau, yn dangos ei harfbais a’i henw ar ôl priodi am yr ail dro, sef Lady Charlotte Schreiber.

 

 

Mae’r cyfrolau prin yma yn ychwanegiad pwysig at gasgliad helaeth y Llyfrgell Genedlaethol o lyfrau Arthuraidd.

Timothy Cutts,

Llyfrgellydd Llyfrau Prin.

Paul Robeson a Chymru

Casgliadau / Collections - Postiwyd 13-06-2023

Bydd Paul Robeson bob amser â chysylltiad agos â Chymru. Hyd yn oed yn y cyfnod modern, mae nifer o lyfrau wedi’u hysgrifennu am ei gysylltiadau, yn ymdrin â’i gyfarfodydd ag Aneurin Bevan, ei ymddangosiadau cyson mewn gwyliau Cymreig, ei weithgareddau gwleidyddol a’i gefnogaeth i lowyr Cymru. Mae cerddoriaeth wedi cael ei dylanwadu hefyd, gyda rocwyr Cymreig y Manic Street Preachers yn canu am ei alltudiaeth wleidyddol o America yn eu cân ‘Let Robeson Sing’ oddi ar eu halbwm yn 2001 ‘Know your Enemy’.

 

 

Mae cysylltiad Robeson i’w deimlo’n ddyfnaf yn y ffilm ‘The Proud Valley’ o’r 1940au, a welodd cymeriad Robeson David Goliath yn ymweld â Chymru yn chwilio am swydd. Roedd gan y tyrigolion lleol amheuon ar y dechrau, ond croesawyd David i’w cymuned trwy gân a’i ymdrechion arwrol.

Er mwyn archwilio’n llawn gysylltiadau Robeson â Chymru byddai angen misoedd o ymchwil manwl, ond hyd yn oed gyda chrynodeb byr, bydd y canlyniad cyffredinol bob amser yr un fath. I gofio Paul Robeson.

Ffynonellau ar-lein dethol:

https://cadw.gov.wales/paul-robesons-wales

https://cynonvalleymuseum.wales/2022/10/15/paul-robeson-and-wales-a-proud-bond/

https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/documents/Robeson-in-Wales.pdf

https://blackhistorywales.org.uk/resources/paul-robeson/

https://collections.swansea.ac.uk/s/paul-robeson-wales/page/introduction

Eitemau dethol o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol

Llyfrau:

Aneurin Bevan a Paul Robeson: sosialaeth, dosbarth a hunaniaeth = Aneurin Bevan and Paul Robeson: socialism, class and identity – ISBN: 9781904773535

Black is just a colour: responses to the life of Paul Robeson

Cymanfa Ganu Bevan, Robeson, Cymru 1958

Gadewch i Paul Robeson ganu!: dathlu bywyd Paul Robeson a thrafod ei berthynas â Chymru – ISBN: 1862250383

Here I stand – ISBN: 0304703516

No way but this: in search of Paul Robeson – ISBN: 9781911617204

Paul Robeson: essays on his life and legacy – ISBN: 0786411538

Paul Robeson speaks: writings, speeches, interviews, 1918-1974

Cerddoriaeth:

20 songs & Transatlantic exchange concert

The best of Paul Robeson

Deep river: I’m goin’ to tell God all o’ my troubles

Emperor of song!

Ol’ man river: Show boat – vocal gems

Ffilm a fideo:

Dilyn Ddoe. Paul Robeson

Jericho

The proud valley

Delweddau:

Paul Robeson / Echt Foto

Paul Robeson [print modern o lun cyhoeddusrwydd o Paul Robeson fel Brutus Jones o ffilm 1933 ‘The Emperor Jones’. Isod mae llofnod Paul Robeson]

Paul Robeson yn Eisteddfod Glynebwy, 1958

Robeson / HTV [ffilm yn dilyn mab y chwedlonol Paul Robeson ar ei ymweliad â Chymru]

 

Ian Evans

Rheolwr Cynllun Catalogio ar y Cyd

Asesu cywirdeb gwaith tagio delweddau gan wirfoddolwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Collections / Research - Postiwyd 29-05-2023

Dros y ddegawd ddiwethaf mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi datblygu rhaglen wirfoddoli sydd wedi ennil sawl gwobr, gyda channoedd o wirfoddolwyr yn gweithio i gyfoethogi data a’n dealltwriaeth o’n casgliadau trwy amrywiaeth o dasgau, o drawsgrifio a mynegeio i dagio ffotograffau.

 

Mae gan y llyfrgell hefyd bartneriaeth hirsefydlog gyda Wikimedia, y sefydliad y tu ôl i Wikipedia a Wikidata – cronfa ddata agored gysylltiedig enfawr o bobl, lleoedd a phob math o bethau. Yn ystod y cyfyngiadau Covid fe wnaethom dreialu’r defnydd o Wikidata a safon delweddu IIIF i ychwanegu tagiau disgrifiadol at ddelweddau gan ddefnyddio meddalwedd ffynhonnell agored a ddatblygwyd gan gymuned Wiki, cyn ymgorffori’r broses hon yn ein llwyfan torfoli digidol.

Enghraifft o ddelwedd wedi’i thagio gan wirfoddolwyr o bell yn ystod y cyfnod cloi

 

Tra bod y defnydd o technoleg IIIF wedi ei hen sefydlu yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae defnyddio Wikidata i ddisgrifio ein casgliadau dal yn fwy arbrofol. Y prif fanteision a welwn o’r dull hwn yw amlieithrwydd a data cyfoethog.

 

Mae Wikidata yn galluogi defnyddwyr i ychwanegu labeli at eitemau data mewn nifer o ieithoedd. Er enghraifft, dim ond un eitem sydd yn y set ddata ar gyfer ‘coeden’, gyda dynodwr unigryw, ond mae modd labelu a’i ddisgrifio’r data mewn cannoedd o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg. Mae hyn yn golygu y gall ein gwirfoddolwyr weithio yn Gymraeg neu Saesneg a gallwn gasglu a chyflwyno’r data hwnnw mewn unrhyw iaith a ddewiswn. Mae hefyd yn rhoi mynediad i ni at amrywiaeth gyfoethog o ddata ychwanegol am y lleoedd, y bobl a’r pethau sydd wedi’u tagio yn ein casgliadau.

Cafodd tagio delweddau gan ddefnyddio Wikidata ei integreiddio i’n llwyfan torfoli

 

Er bod defnyddio geirfa benodol fel Wikidata yn golygu y gallwn greu data strwythuredig, yn hytrach na llinynnau o destun  rhydd lle gallai gwirfoddolwyr gwahanol ddisgrifio un eitem mewn nifer o wahanol ffyrdd, mae yna heriau o hyd gyda’n methodoleg.

 

Mae Wikidata yn cynnwys 100 miliwn o eitemau ddata ar bob math o bethau ac mae llawer o hyn yn amherthnasol i’n defnyddwyr, sy’n golygu bod risg o dagio’r peth anghywir. Gall hyn fod yn ddamweiniol. Er enghraifft, mewn un ddelwedd roedd bachgen i’w weld yn penlinio a defnyddiodd ein gwirfoddolwyr yr eitem Wikidata ar gyfer ‘Kneeling Boy’ i dagio’r ddelwedd. Fodd bynnag ‘Kneeling Boy’ oedd teitl paentiad mewn gwirionedd. Ac felly defnyddiwyd y tag anghywir.

 

Efallai hefyd fod tagiau’n cael eu cymhwyso’n ddidwyll, ond mae natur gymhleth ontoleg Wikidata yn golygu bod y tag anghywir wedi’i gymhwyso, megis defnyddio ‘gwryw’ (rhyw) yn lle ‘dyn’ (dyn dynol) i dagio dyn mewn ffotograff.

 

Nod y prosiect tagio lluniau yw ychwanegu tagiau at gasgliad mawr o albymau ffotograffiau o’r 19eg ganrif, gan ddarparu data manylach na’r hyn a gedwir ar ein catalog. Dros y 12 mis diwethaf mae dros 100 o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan yn y dasg tagio ar ein llwyfan torfoli a threuliwyd cyfanswm o 900 awr ar y platfform. Y gwirfoddolwyr mwyaf gweithgar yw’r rhai sy’n rhan o dîm gwirfoddolwyr mewnol y llyfrgell er bod y prosiect yn agored i unrhyw un gymryd rhan.

 

Mae mwy nag 20,000 o dagiau wedi’u hychwanegu at y casgliad ffotograffau hyd yma.

 

Rhai o’r pethau cafodd eu tagio’n amlaf yng nghasgliad ffotograffau’r 19eg ganrif

 

Felly, pan holodd Myfyriwr Meistr Gwyddor Llyfrgell a Gwybodaeth ym Mhrifysgol Maryland am leoliad maes, gwelsom gyfle gwych i adolygu safon y tagio gan ein gwirfoddolwyr hyd yn hyn. Roedd Amelia Eldridge, ein Myfyriwr Meistr, wedi ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol tra ar ymweliad â Chymru fel rhan o breswyliad artist yn 2020. Teimlai y byddai lleoliad maes gyda’r Llyfrgell yn ffordd anhygoel o gyfuno ei diddordeb yn niwylliant Cymru gyda gofyniad graddio.

 

Aeth Amelia ati i adolygu sampl ar hap o dros 3000 o dagiau. Roedd hi’n edrych am ddefnydd anghywir o dagiau ac absenoldeb tagiau defnyddiol, lle efallai mae gwirfoddolwyr wedi colli’r cyfle i ychwanegu data defnyddiol.

 

O’r 3315 o dagiau a adolygwyd roedd 191 wedi’u marcio’n anghywir sy’n gyfradd fethiant o 5% yn unig. Ychwanegwyd 671 o dagiau newydd at albymau a ystyriwyd yn ‘gyflawn’ (cynnydd o 20%) sy’n awgrymu bod gwirfoddolwyr weithiau’n colli cyfleoedd i dagio rhai pethau.

   

Dyma Amelia yn esbonio mwy; 

 

“Y tag coll a ychwanegwyd amlaf oedd “capsiwn” – llinellau o destun a ddefnyddir i esbonio neu ymhelaethu ar ddarlun, ffigwr, tabl neu ffotograff. Ychwanegwyd 155 o dagiau. Ychwanegais y tag hwn pan fod gan ddelwedd/ddarluniad gapsiwn disgrifiadol yn y ffotograff neu’r darluniad ei hun, yn hytrach nag wedi ei ysgrifennu mewn graffit oddi tano. Yr ail dag amlaf i gael ei ychwanegu oedd “ffasiynau Fictorianaidd”; ffasiynau a thueddiadau yn y diwylliant Prydeinig yn ystod y cyfnod Fictorianaidd, gyda 45 tag wedi eu hychwanegu. Ychwanegais y tag hwn i ffotograffau mewn arddull portread, ble ymddangosai i mi fod y ffasiynau a wisgir gan y bobl yn bwysig i ddisgrifiad y ddelwedd.

Ni ychwanegais hyn i ddelweddau ble roedd pobl yn amlwg yn gwisgo “ffasiynau Fictorianaidd” ond nad oeddent mewn arddull portread. Fodd bynnag, ni fyddwn yn marcio hyn yn anghywir os oedd gwirfoddolwr arall yn gwneud. Dyma enghraifft o ‘ogwydd tagiwr’, pan fyddwn yn gweld gyda diddordeb sut fyddai pobl gwahanol yn disgrifio ffotograff. Yn y rhan fwyaf o achosion ni dagiais y gwahaniaethau hyn fel rhai anghywir, yn hytrach gwnaethant i mi hunan fyfyrio.”

 

Un o’r delweddau a dagiwyd gan Amelia fel ‘ffasiynau Fictorianaidd’

 

Mae’r ‘gogwydd tagiwr’ a arsylwyd yn ein hatgoffa bod torfoli data disgrifiadol, beth bynnag fo’r fethodoleg, yn debygol o ddioddef o ddiffyg cysondeb gan y bydd pobl yn tueddu i dagio’r pethau sydd o ddiddordeb personol, neu’r pethau maen nhw’n sylwi arnynt yn fwy amlwg wrth archwilio delwedd. Fodd bynnag, mae’r gallu i weld tagiau a ychwanegir gan eraill ar y llwyfan yn caniatáu i ddefnyddwyr fyfyrio ar eu tagio eu hunain.

 

Pan ddaeth hi at y defnydd anghywir o dagiau roedd patrwm clir, fel yr eglura Amelia;

 

“Mi wnes farcio rhai tagiau fel rhai anghywir. Roedd y tri pennaf yn ymwneud a rhywedd. Y tag a farciwyd yn anghywir amlaf oedd ‘dyn’ (oedolyn gwryw dynol) gyda 74 o dagiau wedi eu marcio yn anghywir. Byddwn yn marcio’r tag hwn fel un anghywir pan fyddai dynion lluosog yn cael eu tagio fel un dyn. Teimlwn mai’r tag cywir ar gyfer y delweddau hyn, gan eu bod yn dangos nifer o ddynion, oedd ‘grwp o ddynion’. Yn ail roedd ‘gwryw’, sydd wedi ei fwriadu i ddisgrifio “rhyw neu rhywedd”. Marciwyd 45 o dagiau o’r math hwn. Byddwn yn cywiro hyn i naill ai ‘dyn’ neu ‘grwp o ddynion’ yn ddibynnol ar faint o bobl oedd yn cyflwyno fel gwryw oedd yn y llun. Y trydydd tag mwyaf aml i gael ei gywiro oedd ‘gwraig’ gydag 18 o dagiau anghywir. Byddwn yn cywiro’r tag hwn os byddai, fel gyda’r dynion, nifer o bobl yn cyflwyno fel menywod wedi eu tagio fel un yn unig. Byddwn yn eu newid i ‘grwp o wragedd’. Defnyddiwyd ‘benyw’ yn anghywir i ddisgrifio person benywaidd, ond ddwywaith yn unig. Defnyddiwyd ‘benyw’ a ‘gwryw’ mewn albymau cynnar a werthusais, ac mae’n ymddangos i’r gwirfoddolwyr gywiro eu hunain yn eithaf cyflym.”

 

Mae’r ffaith bod cymaint o’r tagiau anghywir yn deillio o gamddealltwriaeth onest o’r data yn awgrymu y gallai darparu mwy o arweiniad ac adnoddau hyfforddi leihau’r gyfradd gwallau yn sylweddol heb gormod o adnoddau.

 

Roedd rhai problemau hefyd yn ymwneud ag ethnigrwydd, lle cafodd unigolion eu tagio fel Eidaleg, Tsieineaidd neu Americanaidd Brodorol. Fel yr oedd Amelia yn awyddus i bwysleisio, “ni allwn gymryd hunaniaeth yn ganiataol”. Mae gan Wikidata eitemau data ar gyfer nodi preswylfa person neu grwp o bobl i defnyddio yn lle ethnigrwydd ac mae Amelia yn awgrymu y byddai defnyddio’r eitemau hyn yn llai problemus, er bod cymryd yn ganiataol bod pobl mewn ffotograff a dynnwyd yn yr Eidal yn bendant yn byw yn yr Eidal  dal yn anodd datgan efo unrhyw awdurdod. Er enghraifft, mae Amelia yn awgrymu, pan gafodd “brodorion Gwreiddiol America yn UDA’ eu tagio o fewn delwedd, y gallai ei newid i ‘pobloedd brodorol yr Amerig’ fod yn fwy cynhwysol a chywir.” Eto, gallai darparu arweiniad clir i wirfoddolwyr helpu i leihau enghreifftiau o’r broblem hon.

 

Delwedd wedi’i thagio’n anghywir efo ‘ethnigrwydd’

 

Gofynnais i Amelia beth fyddai ei hargymhellion ar gyfer lleihau nifer y gwallau.

 

“Fy nheimlad i yw fod nifer o’r tagiau a farciwyd fel rhai anghywir yn rhai y gellid eu hosgoi drwy hyfforddi’r gwirfoddolwyr i beidio eu hychwanegu. Er enghraifft – osgoi tagio ethnigrwydd, neu’r tag rhywedd wrth ddisgrifio gwryw neu fenyw. Byddwn yn betrus o gael set benodol o dagiau â geirfa rhag ddiffiniedig, am na fyddwn am gyfyngu’r gwirfoddolwyr. Fel y soniais, rhywbeth diddorol i mi am y prosiect oedd gweld sut mae gwahanol ymagweddau i ddisgrifio delwedd. Hefyd, fel y soniais hefyd, ar y cyfryw mae’r gwirfoddolwyr yn barod yn gwneud gwaith da yn dehongli a thagio beth sydd yn yr albymau ffotograffau. Awgrym arall – a ddylai’r gwirfoddolwyr ddysgu am gefndir yr albymau ffotograffau cyn dechrau eu gwaith tagio? Efallai cael sgwrs fer gyda’r curadur sydd yn gyfrifol amdanynt? Neu fideo wedi ei recordio ymlaen llaw i weithiwr o bell? Rwy’n credu byddai rhai yn gweld hyn yn ddiddorol, a byddai’n rhoi cyfle i weld ochr arall o’r llyfrgell (curadurol).”

 

Bydd gwaith Amelia i adolygu’r albymau sydd wedi’u tagio ac i nodi patrymau yn ymddygiad defnyddwyr yn hynod werthfawr wrth i ni geisio datblygu a tyfu ein cyfleoedd torfoli. Bydd ei phersbectif fel rhywun sydd hefyd wedi cyfrannu at y tagio fel gwirfoddolwr yn ein helpu i wella ein gwasanaeth wrth i ni symud ymlaen. Y casgliad llethol yma, yw bod y gwirfoddolwyr, mewn gwirionedd, wedi gwneud gwaith gwych yn tagio’r albymau gyda chywirdeb trawiadol. Mae awgrymiadau Amelia ar gyfer adnoddau hyfforddi ac i ofyn i guraduron roi rhywfaint o hanes a chyd-destun ar gyfer y casgliadau sy’n cael eu tagio yn hynod ddefnyddiol ac yn rhywbeth rwy’n gobeithio y gallwn ei ddatblygu ar gyfer ein prosiect tagio nesaf.

 

Amelia yn cyflwyno ei chanfyddiadau i staff LlGC gyda Jason Evans, ei goruchwyliwr yn LlGC.

 

Felly can diolch i Amelia am y gwaith hwn. Dymunwn y gorau iddi gyda’i gradd meistr a gobeithio y cafodd gymaint allan o’i lleoliad maes ag y gwnaethom ni!

Tagiau: , , , , , ,

Gŵyl y Gelli

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd

Mae Gŵyl y Gelli yn cychwyn yr wythnos hon, ac roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n edrych i mewn i sut y bu i dref fechan dawel ym Mhowys gynnal un o ŵyliau llenyddol mwyaf y byd.

Yn ôl yn y 60au, agorodd gŵr busnes lleol, Richard Booth, siop lyfrau ail law yn y Gelli Gandryll, penderfyniad a fyddai’n newid hanes y dref am byth. Ymhen ychydig flynyddoedd, roedd ganddo chwe siop lyfrau, ac roedd eu poblogrwydd yn denu hyd yn oed mwy o lyfrwerthwyr i’r dref. Oherwydd y nifer o siopau llyfrau, cafodd Y Gelli ei labelu fel “Y Dref Llyfrau”. Roedd Booth yn adnabyddus am ei hynodrwydd, fel y gwelir pan fe ddatganwyd annibyniaeth i’r dref, a’i alw’n hun yn Frenin arni. Mae’r erthygl hon o 1983 o’r Daily Telegraph yn dangos enghraifft i ni o’i weithgareddau gwleidyddol, ac mae ei gofnod yn The Oxford Dictionary of National Biography yn rhoi cipolwg pellach ar ei fywyd:

‘Horsepower manifesto by eccentric bookman’ – The Daily Telegraph, 23 Mai 1983 (The Telegraph Historical Archive). Booth, Richard George William Pitt, 1938-2019 (The Oxford Dictionary of National Biography).

 

 

Syniad Peter Florence, actor lleol, oedd i gael gŵyl yn y dref, ac yn ôl y sôn, fe ddefnyddiodd ei enillion o gêm o bocer i gynnal yr ŵyl gyntaf yn 1988. Llwyddodd i berswadio’r dramodydd Arthur Miller i fod yn bresennol, ac fel y mae’r erthygl hon yn y World Literature Journal yn nodi, credai Miller i ddechrau mai brechdan oedd “Hay-on-Wye”!

‘Outposts: Literary Landmarks & Events’ – World Literary Journal, 2006 (JSTOR)

 

 

Bu’r ŵyl gyntaf yn llwyddiant mawr, ac o ganlyniad, penderfynodd y Sunday Times i noddi’r digwyddiad yn ei hail flwyddyn. Fel y dengys y cyhoeddiad hwn yn y papur newydd, roedden nhw’n falch o noddi’r ŵyl hon oedd, yn ôl nhw, mewn “siop lyfrau byw”. Llwyddodd y digwyddiad i ddenu rhestr o awduron enwog, gan gynnwys Ruth Rendell, John Mortimer, Ian McEwan a Benjamin Zephaniah.

Book yourself a Festival – The Sunday Times, 12 March 1989 (Sunday Times Digital Archive)

 

 

Dros y blynyddoedd, mae’r ŵyl wedi denu rhai o enwau mwyaf yn y byd llenyddiaeth, ac wrth iddi dyfu, gwahoddwyd enwogion o feysydd eraill i gymryd rhan. Bu cryn gyffro pan fynychodd Bill Clinton yn 2001, gan frandio’r ŵyl fel “Woodstock of the mind”. Fodd bynnag, fel y dengys yr erthygl hon ar y pryd, roedd rhai yn poeni bod yr enwogion hyn yn tynnu sylw oddi wrth awduron.

Making Hay – The Guardian, 31 May 2001 (ProQuest Historical Newspapers (Guardian & The Observer)

 

 

Yn ffodus, nid felly y bu, ac mae’r ŵyl wedi parhau i hyrwyddo awduron a’u gweithiau. Bellach yn ei 35ain flwyddyn, mae’n cyfrannu at nifer o brosiectau addysgol ac amgylcheddol, yn ogystal â chynnal gŵyliau yn Ewrop a De America. Dyma gipolwg cyflym ar yr hyn y gellir ei ddisgwyl yng ngŵyl eleni.

Are you Ready for Hay?‘ – Western Mail, 29 April 2002 (Newsbank)

 

 

Os na allwch chi gyrraedd yr ŵyl eleni, beth am ymweld â’r Llyfrgell, a darllen profiad Ellen Wiles o’r ŵyl, yn “The Hay Festival: The Remote Welsh Field That Stages the Global Publishing Industry”, sydd ar gael yn ein hystafell ddarllen trwy adnau cyfreithiol electronig.

 

Paul Jackson,

Llyfrgellydd Adnau Cyfreithiol, Electronig a Derbyn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog