Tag Archives: dataagored

Postiwyd - 16-05-2019

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Wikimedia a’r sector diwylliant – Astudiaeth effaith newydd

Ym mis Rhagfyr 2017 dechreuodd Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell weithio ar brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru i wella ansawdd gwybodaeth am bobl sy’n gysylltiedig â Chymru ar y Wicipedia Cymraeg.

 

Cynlluniwyd y prosiect gan ddefnyddio’r ‘Impact Playbook’ newydd gan Europeana gyda’r nod o archwilio a dogfennu’r newidiadau (neu impacts), i wahanol grwpiau rhandaliad o gyflwyno ystod o weithgareddau Wikimedia yn seiliedig ar gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

Mae adroddiad effaith llawn ar gyfer y prosiect bellach wedi’i gyhoeddi.

 

Mae’r Playbook yn gweithio trwy greu llwybrau newid sydd wedi’u diffinio’n glir yn ystod y broses gynllunio gyda chanlyniadau mesuradwy, gan sicrhau y gellir asesu a mesur ystod eang o ganlyniadau ac effeithiau dymunol ar ddiwedd y prosiect.

 

Dyma’r tro cyntaf i brosiect sy’n canolbwyntio ar weithgareddau Wikipedia gael ei asesu fel hyn, felly roedd hwn yn gyfle gwych i archwilio a dogfennu effaith gweithio gyda Wikimedia yn y sector diwylliant.

 

Canolbwyntiodd y prosiect ar ryddhau 4,862 o bortreadau o Gymru i Comin Wikimedia gyda phwyslais ar wella mynediad at gynnwys Cymraeg a darparu cyfleoedd i’r cyhoedd ymgysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Crëwyd Wikidata dwyieithog ar gyfer pob portread. Defnyddiwyd y data hwn i helpu i greu bron i 1,500 o erthyglau newydd ar y Wicipedia Cymraeg, gan ddefnyddio 25% o’r delweddau. Cynhyrchodd y delweddau 1.6 miliwn hit mewn 55 o ieithoedd o fewn mis, gan gynyddu mynediad at wybodaeth am bobl Cymru yn fawr.

 

 

Trwy weithio gyda Menter Iaith Môn, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau mewn ysgolion gan amlygu sut y gall dysgu gyda Wikipedia gyfrannu’n gadarnhaol at dargedau ysgolion ar gyfer yr iaith Gymraeg a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

 

Dangosodd digwyddiad Hacathon y gwerth o ddata agored i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a chofnodwyd nifer o achosion defnydd.

 

Mae’r prosiect yn dangos sut y gall gweithio gyda Wikimedia helpu sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol i adeiladu a chefnogi cymunedau newydd a chyflawni canlyniadau sy’n cyd-fynd â’u gwerthoedd craidd wrth gynyddu mynediad i’w casgliadau digidol a’u defnydd ohonynt.

 

Jason Evans

Tagiau: , , , ,

Postiwyd - 15-05-2019

Casgliadau / Heb ei gategoreiddio / Sgrin a Sain

Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol

Gan fod Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol yn digwydd ar draws y byd heddiw – 15fed Mai – mae Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn awyddus i dynnu eich sylw at ffilm fer sydd ar gael ar y BFI Player dan y teitl ‘Defending This Country Only Means Attacking Another’. Daw’r teitl o blacard yr Undeb Llw Heddwch a welir yn y ffilm gan Mr J. Fred Phillips, a redai sinema ym Mrynmawr o 1923 hyd 1958. Roedd yn gapten Clwb Golff Sir Fynwy yn Y Fenni, ac roedd yn ŵr i Pollto Williams, a chwaraeodd mewn sawl rownd derfynol cystadlaethau cenedlaethol golff merched yn Llandrindod. Mae placardiau eraill yn nodi credoau’r Undeb: ‘Nid yw Llofruddiaeth Dorfol yn Amddiffyn Rhyddid’ a ‘Mae Heddwch yn Annatod – Rydym yn Ceisio Heddwch ar y Ddaear, Ewyllys Da i BAWB’. Mae placardiau a wnaed â llaw yn dangos tasgiad gwaed ynghyd â’r geiriau ‘Arfau Rhyfel Glyn Ebwy’ yn awgrymu y gallai hon fod yn brotest yn erbyn agor neu weithredu ffatri arfau rhyfel yn yr ardal. Yn ystod yr 1930au bu Cymdeithas y Cyfeillion yn gyfrifol am sefydlu prosiectau i bobl ddi-waith yn ardal Brynmawr (e.e. gwneud esgidiau a chelfi – gweler hefyd y ffilm ‘Eastern Valley’ ar y BFI Player), ond aeth llawer ohonynt i weithio yn ffatrïoedd arfau Glyn Ebwy yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Neu, o gofio i’r  Undeb fynd ar ymgyrch heddwch o Gaerliwelydd i Lundain yn 1938, tybed ai ymweliad yr ymgyrch honno â Glyn Ebwy a welir yma?

 

Cliciwch yma i wylio’r ffilm: Defending This Country Only Means Attacking Another (1938)

 

 

Sefydlwyd yr Undeb Llw Heddwch yn 1934 gan y Canon Dick Sheppard a fu’n gaplan yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ysgrifennodd lythyr i’r papurau newydd at ddynion (gan fod merched yn gweithredu yn y mudiad heddwch y  barod) yn gofyn iddynt arwyddo llw os oeddent yn gwrthwynebu yr hyn a ymddangosai fel cyffroi rhyfel arall: ‘Rwy’n ymwrthod â rhyfel, ac ni fyddaf yn cefnogi na goddef un arall.’ Roedd wrth ei fodd gyda’r ymateb. Roedd y mudiad yn cynnwys merched ers 1936. Heddiw, yr Undeb Llw Heddwch sy’n cyflenwi’r Pabïau Gwyn a wisgir ar Ddydd y Coffa. Gwisgwyd pabïau o’r fath am y tro cyntaf ar anogiad Urdd Cydweithredol y Merched ar Ddydd y Cadoediad, 1933 (newidiodd Dydd y Cadoediad yn Ddydd y Coffa yn dilyn yr Ail Ryfel Byd). Roedd llawer o’r merched wedi colli eu ceraint yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn anobeithio wrth weld paratoadau at ryfel pellach. Teimlwyd hefyd y dylai’r coffa gynnwys y rhai a ddioddefodd yn y rhyfel y tu allan i’r gwasanaethau milwrol. Mae’r llw heddiw fel a ganlyn: ‘Mae rhyfel yn drosedd yn erbyn dynoliaeth. Rwy’n ymwrthod â rhyfel, ac felly yn benderfynol o beidio a chefnogi rhyfel o unrhyw fath. Rwyf hefyd yn benderfynol o weithio i gael gwared o bob achos dechrau rhyfel’.

 

Mary Moylett, Catalogydd (Ffilm) Archif Sgrin a Sain

Postiwyd - 14-05-2019

#CaruMapiau / Heb ei gategoreiddio

Datrys dirgelwch deugain mlwydd oed

Mae hon yn dipyn o stori dditectif. Yn 1979 derbyniodd y Llyfrgell lungopi o fap bychan o Sir Frycheiniog; ni wyddai’r perchennog ddim am y map a gofynnodd a fyddai modd i’r Llyfrgell ei adnabod. Er gwaethaf ymdrechion gorau staff y Llyfrgell, a chymorth curaduron mapiau’r Llyfrgell Brydeinig, ni fu modd adnabod yr eitem. Ychwanegwyd y llungopi at y casgliad mapiau, ynghyd â nodyn i ddweud y dylid hysbysu’r perchennog os llwyddid i adnabod y map yn y dyfodol.

 

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, yng ngwanwyn 2019, derbyniais neges oddi wrth werthwr mapiau o Sir Benfro o’r enw Berian Williams, a ddanfonodd sgan o fap bychan ataf yn gofyn i mi a fedrwn ei adnabod. Ar y dechrau, roeddwn mewn penbleth, gan nad oedd yn debyg i unrhyw fapiau sirol i mi eu gweld o’r blaen. Yn ôl Mr Williams, roedd y perchennog blaenorol wedi awgrymu y gallai fod wedi tarddu o “The Pocket Tourist & English Atlas” gan Orlando Hodgson a gyhoeddwyd yn 1820; ond nid oedd yr atlas hwnnw’n cynnwys unrhyw fapiau o siroedd Cymru, er bod yr arddull yn ymddangos yn debyg. Soniodd Mr Williams hefyd am erthygl sôn am becyn o gardiau chwarae gan John Allen oedd yn sail ar gyfer mapiau Hodgson, ond eto nid oedd yn cynnwys mapiau o siroedd Cymru.

Dyma pryd y deuthum ar draws y llungopi o 1979. Ar yr olwg gyntaf, ymddangosai mai’r un map ydoedd, ac yn wir wrth ei archwilio’n fanylach daeth yn glir mai yr un copi yn union ydoedd (roedd nifer o staeniau a marciau ar y ddelwedd electronig yn cyd-fynd â’r llungopi). Wedi i mi edrych drwy fy nghyfeirlnodau printiedig roeddwn yn dal mewn penbleth, felly ysgrifenais yn ôl at Mr Williams yn dweud hynny gan ychwanegu y gallai gymryd tipyn o amser i lwyddo i adnabod y map, os fyddai hynny’n bosibl o gwbl.

Yma y gallai’r stori fod wedi cyrraedd ei therfyn; ond dechreuais feddwl am y tebygrwydd i gardiau chwarae Allen, a oedd cysylltiad rhwng y map o Sir Frycheiniog â’r mapiau ym mhecyn cardiau Allen? Penderfynais edrych ar ffynonellau printiedig yn y maes i weld a wnaeth Allen gynhyrchu set arall o gardiau yn cynnwys siroedd Cymru, ond ni welais unrhyw gofnod o set o’r fath. Soniai’r erthygl am gardiau Allen hefyd am argraffiad gan Robert Rowe yr ysgythrwr felly penderfynais ymchwilio i’w waith yntau hefyd. Roedd un ffynhonnell yn nodi i Rowe ysgythru set arall o gardiau chwarae ar gyfer gŵr o’r enw John Fairburn yn 1798, tybed ai dyma darddle y cerdyn?

Penderfynais edrych am unrhyw gyfeirnodau arlein i’r set hon o gardiau gan nad oeddent wedi eu cofnodi yn unrhyw un o’r gweithiau cyfeiriol a welais. O’r diwedd, deuthum ar draws cyfeiriad at gardiau chwarae Fairburn 1798, yn nodi i’r set gynnwys siroedd Cymru ac yn bwysicach roedd modd gweld delweddau o rai o’r cardiau – roeddent yn cydweddu â’r map oedd ganddom. Roedd y dirgelwch wedi ei ddatrys o’r diwedd.

Ond mae tro yng nghynffon y stori dditectif hon. Ar ôl i mi hysbysu Mr Williams am fy narganfyddiad gofynais iddo a fyddai’n rhoi’r map ar werth, gyda’r bwriad o’i brynu ar gyfer ein casgliad. Er mawr syndod i mi, atebodd Mr Williams gan ddweud ei fod wedi penderfynnu rhoi’r map yn rhodd i’r Llyfrgell. Roedd hyn yn anrheg hael dros ben ac rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Williams am ei garedigrwydd. Mae’r map hwn nawr wedi ymuno â’r 1.5 miliwn o fapiau sydd yn y Casgliad Mapiau Cenedlaethol yn y Llyfrgell yn rhan o hanes diwylliannol cartograffig Cymru.

Huw Thomas
Curadur Mapiau

Postiwyd - 08-05-2019

Casgliadau

Straeon o swyddfa’r twrnai

Hen ddogfennau a gweithredoedd llychlyd? Diflas ac anniddorol? Meddyliwch eto! Ydy, mae’r gorchuddion allanol yn frwnt ond mae’r dogfennau y tu mewn mewn cyflwr da, prin wedi’u cyffwrdd am ganrif neu fwy. Dyma yw hanes y ffeiliau o swyddfa’r twrneiod Longueville yng Nghroesoswallt.

 

Mae’r ffeiliau yn deillio o waith dydd i ddydd y swyddfa ar gyfer Stad Brogyntyn, sef un o’i chleientiaid mwyaf. Maent yn delio gyda gwerthu a phrynu eiddo, ewyllysiau teuluol ac ardrefniannau, a gwaith y rheiny oedd yn gweithio fel ymddiriedolwyr dros deulu’r Ormsby Gore, Barwniaid Harlech.

 

Mae sawl eitem o ddiddordeb wedi dod i’r golwg, gan gynnwys rhestr eiddo hynod o ddiddorol Glyn Cywarch, 1876 – sef testun blog arall yn ddiweddar. Ceir manylion tŷ yn 12 Grosvenor Crescent, Llundain, wedi’i rhentu ar brydles i William Richard Ormsby Gore, gan yr adeiladwr, Robert John Waller, sy’n cynnwys manylyn llawn o waith y peintiwr a’r darnau gosod ar gyfer y tŷ, 1871. Mae yna hefyd catalogau arwerthiant sy’n cofnodi gwasgariad eiddo Brogyntyn yng ngogledd Cymru yn 1911. Mae’r eiddo, er enghraifft, yn cynnwys tai peilot a sawl llain adeiladu ddymunol ym Morth-y-gest, Sir Gaernarfon, felly gallwch olrhain hanes y datblygiadau yno ers y dyddiad hwnnw.

 

 

Yn bennaf oll, ceir cannoedd o weithredoedd ymysg y casgliad, llawer yn ymwneud â phryniadau o dai, ffermydd a thiroedd ger Croesoswallt. Roedd un parsel anferth yn cynnwys naw pecyn o 99 ‘hen weithredoedd’ yn dyddio o 1607 i 1894 oedd yn cofnodi pryniadau’r teulu Peate o Fferm Pentreclawdd yn Selatyn, a’i gwerthwyd i William Richard Ormsby Gore, ail Farwn Harlech, yn 1899. Mae bwndel mawr arall yn perthyn i stad Pentrepant, a’i prynwyd gan Brogyntyn am £29,000 o Ethel Mary Trollope o Crowcombe Court, Gwlad yr Haf, yn 1894.

 

Mae nifer o’r gweithredoedd yn cofnodi trafodion y teulu Payne o’r Brick Kilns a’r teulu Jones o ‘Forest’. Ymysg papurau’r Jones, darganfuwyd tystysgrif marwolaeth William Jones a laddodd ei hun ‘during a fit of temporary insanity’ yng ngwallgofdy Wenlock Borough, Bicton Heath, yn 36 mlwydd oed. Stori ddiddorol, trasig arall wedi’i chwilio ymysg pentyrrau llychlyd swyddfa’r twrnai.

 

Hilary Peters
Archifydd Cynorthwyol

Postiwyd - 29-04-2019

Blas ar waith / Casgliadau

Pythefnos yn y Llyfrgell Genedlaethol: darganfod, digido a chatalogio

Rhai wythnosau’n ôl, croesawodd y Llyfrgell Myra Booth-Cockcroft, myfyrwraig ymchwil PhD o Brifysgol Glasgow, yma ar bythefnos o brofiad gwaith yn yr Isadran Archifau a Llawysgrifau. Diolchwn i Myra am ysgrifennu blog am ei hamser yma gyda ni ac am ei gwaith yn catalogio rhai o ysgriflechi Ystrad Fflur.

***

Dros y bythefnos ddiwethaf, rydw i wedi bod yn Isadran Archifau a Llawysgrifau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cael dipyn bach o brofiad o’r gwaith amrywiol sydd yn mynd ymlaen yna. Cefais gyflwyniadau gan staff amrywiol ar eu gwaith, gan gynnwys: y prosesau ar gyfer catalogio llawysgrifau; catalogio archifau mawrion; digido llawysgrifau; cadwraeth ataliol, triniaeth cadwraeth a chwarantin; llyfrau cynnar; creu ffacsimilïau; archifau electroneg a chadwraeth ddigidol. Cefais hefyd y cyfle i arsyllu ar waith y staff tu ôl i’r ddesg yn Ystafell Darllen y De, sydd yn ymateb i ymholiadau ac yn hwyluso profiad darllenwyr sydd yn defnyddio’r casgliadau. Wnes i fwynhau, yn arbennig, y cyfle i baratoi MS Peniarth 6 i’w digido (a chael gweld y nodiadau yn llaw J. Gwenogvryn Evans ynddo!), a hefyd tynnu lluniau o un o lawysgrifau arall o’r casgliad Peniarth gyda’r staff sydd yn gweithio ar ddigido’r holl gasgliad. Oeddwn i wrth fy modd, hefyd, efo’r cyfle i weithio gyda Dr Daniel Huws, Dr Ann Parry Owen, Dr Maredudd ap Huw a Gruffudd Antur yn paratoi Cyfrol 3 o’r cyhoeddiad sydd i ddod, A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes.

 

Cefais brofiad o gatalogio nifer o wahanol bethau: casgliad o lythyrau’r bardd ac arlunydd David Jones i Louis Bonnerot; rholyn achyddol Francis Vaughan, o 1591, wedi ei greu yng ngweithdy Twm Sion Cati; casgliad o bapurau’r hynafiaethydd 19eg ganrif, Owen Williams (Owain Gwyrfai); dalen o lawysgrif o’r 13eg ganrif oedd yn cynnwys y testun Lladin o Salm 87 o’r Beibl Fwlgat; a dalen o lawysgrif arall o’r 13eg ganrif oedd wedi’i defnyddio fel ‘pastedown’ i lawysgrif hwyrach. Un o uchafbwyntiau’r pythefnos, yn bendant, oedd cael dechrau catalogio’r Ysgriflechi Ystrad Fflur.

 

 

Mae’r casgliad o 35 ysgriflechi wedi bod yn y Llyfrgell ers 1946, pryd oedant wedi eu darganfod ar safle’r Mynachdy yn Ystrad Fflur. Oedd o’n gyffroes iawn cael edrych ar y llechi, sydd efo arysgrifau o luniau o bobl ac anifeiliaid, barddoniaeth Cymraeg, ac ysgrifennu arall mewn Cymraeg, Lladin a Saesneg. Maent yn gwbl unigryw yng nghyd-destun Cymraeg, ond mae yna esiamplau o ysgriflechi o ddyddiad tebyg wedi’u darganfod yn 1959 yn Smarmore, Iwerddon ac yn 1991 yn Abaty Paisley, Yr Alban. Mae’r llechi yn rhoi cipolwg i ni ar fywyd yn y Mynachdy yn y 15fed ganrif: mae un gyda rhestr o enwau tenantiad Hafodwen Grange ac yn nodi faint oeddynt angen talu am eu rhent (SF1); mae yna tair gyda barddoniaeth yn y mesurau cyhydedd nawban a’r cywydd (SF2, SF3, SF4); mae tair arall wedi’u defnyddio fel ymarfer ar gyfer beddargraffiaeth (SF11, SF12, SF13); ac mae yna sawl gyda lluniau o bobl, anifeiliaid, neu batrymau geometrig. Wrth arsyllu ar y llechi, darganfyddais bod dau ohonynt yn rhan o’r un llech yn wreiddiol (SF23 a SF25) ac yn dangos portread llawn o ddyn moel yn gwisgo tiwnig – un o fynachod Ystrad Fflur o bosib? Yn sicr mae yna mwy i ddarganfod am y llechi difir yma ac rwyf yn edrych ymlaen at fwy o waith yn cael ei wneud efo nhw!

 

Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i’r Llyfrgell am bythefnos ardderchog. Yn enwedig, dwi eisio diolch i Maredudd ap Huw, Llyfrgellydd Llawysgrifau, am drefnu rhaglen mor llawn a diddorol i mi, i bawb yn yr isadran Archifau a Llawysgrifau am fod yn fodlon i ddangos eu gwaith ac am fod hynod o groesawgar, a hefyd i’r Canolfan Hyfforddiant Doethurol yr Ieithoedd Celtaidd yr AHRC am noddi fy amser yno.

 

Myra Booth-Cockcroft
Myfyriwr PhD, Prifysgol Glasgow

Tagiau: , ,

Postiwyd - 26-04-2019

Darganfod Sain / Stori Cymru

Gwarchod Stori Cymru

Mae Datgloi Ein Treftadaeth Sain yn brosiect Cenedlaethol cyffrous, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’i arwain gan y Llyfrgell Brydeinig.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o fod yn un o’r 10 Hwb sy’n cymryd rhan yn y prosiect lle bydd hanner miliwn o recordiadau sain prin ac mewn perygl yn cael eu digido, a 100,000 ar gael ar-lein.

O fis Medi 2018 tan fis Medi 2021 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn digido, catalogio ac asesu hawliau ar gyfer 5,000 o recordiadau sain o Gymru. Byddant yn cynnwys ystod o bynciau o hanes llafar, darlithoedd, tafodiaith, barddoniaeth, sesiynau radio i gerddoriaeth pop a gwerin Cymru.

Byddwn yn diogelu recordiadau sain sydd o dan fygythiad o ddirywiad ffisegol, a’r rhai sydd mewn perygl o’u colli oherwydd nad oes peiriant ar gael i’w chwarae. Mae arbenigwyr yn awgrymu taw 15 mlynedd sydd gennym i achub y casgliadau sain hyn cyn iddynt gael eu colli am byth.

Diolch i Datgloi Ein Treftadaeth Sain, byddwn yn gallu cadw a diogelu rhai o recordiadau sain Cymru gan ddarparu mynediad i’r cyhoedd. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn gweithio gyda rhai o’n partneriaid yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe a Thredegar.

Wrth ddigido’r recordiadau, rydym wedi dadorchuddio rhai cyfweliadau coll ac anghofiedig gan bobl yn hel atgofion am eu plentyndod ar ddiwedd y 1800au ac ar ddechrau’r 1900au, eu dyddiau ysgol, bywyd teuluol, cymunedau, a thafodiaith leol.

Mae Cymru’n wlad gydag amrywiaeth o arferion a thraddodiadau sy’n rhan bwysig o’n diwylliant a’n hanes. Trwy arbed y recordiadau hyn, rydym yn caniatáu i genedlaethau’r dyfodol glywed am ein gorffennol a dysgu am ein hanes.

Mae straeon am arferion lleol o’r 19eg ganrif yn cael eu hadrodd, er enghraifft, ‘Y Fari Lwyd’, arfer gwerin ganoloesol, gyda’r nod o gasglu arian i’r tlawd a’r digartref i wneud iawn am y diffyg cefnogaeth gan y llywodraeth. Enwebwyd person tal i arwain, gan ddal penglog y ceffyl, gyda dau arall y tu ôl i ddal yr offrymau a gasglwyd. Gwelwyd y Fari Lwyd am y tro olaf yng Nghei Newydd yn 1887.

Gellir clywed disgrifiad o’r ‘Ceffyl Pren’. Defnyddiwyd y Ceffyl Pren fel ymarferiad o gyfiawnder cymdeithasol. Y nod oedd cosbi’r troseddwyr yn erbyn cymdeithas pan na fedrai’r gyfraith wneud hynny. Gwnaed y ceffyl o bren a gwellt er mwyn cynrychioli’r euogrwydd. Gwisgwyd cwfl gan y rhai oedd yn cario’r ddelwedd, i guddio eu hunaniaeth, a gorymdeithiwyd trwy fannau cyhoeddus y dref tuag at gartref y tramgwyddwr. Tair wythnos yn ddiweddarach llosgwyd y Ceffyl Pren o flaen tŷ’r tramgwyddwr.

Mae Thomas Williams yn sôn am y ‘gogryddion’ (sievemakers) sy’n symud i mewn i’r gymuned ac yn cael eu defnyddio i brosesu’r gwenith. Mae’n cofio’r traddodiad lle taflwyd chwe cheiniog gyda’r gwenith, a phan ymddangosai’r darn arian roedd hyn yn awgrymu fod y gwenith yn barod. Roedd y rhidyllau wedi’u gwneud o helyg wedi’u hollti, a Mormoniaid oedd y gwneuthurwyr.

Yn ystod y tair blynedd, bydd cyfoeth o hanes, traddodiadau ac etifeddiaeth yn cael eu cadw, a phe na bai modd diogelu’r adroddiadau uniongyrchol hyn mi fyddent wedi eu colli am byth.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Datgloi ein Treftadaeth Sain, cysylltwch â ni ar: uosh@llyfrgell.cymru

 

Alison Smith, Rheolwr Hwb Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain

Postiwyd - 15-04-2019

Casgliadau

Cenhadon i Tsieina: Llythyrau Timothy a Mary Richard

Eleni mae’n gan mlynedd ers marwolaeth Dr Timothy Richard, un o genhadon amlycaf y Bedyddwyr. Yn enedigol o Ffaldybrenin, ger Llambed, mae Richard wedi’i ddisgrifio fel ‘un o’r cenhadon mwyaf a anfonwyd gan unrhyw ran o’r Eglwys Gristionogol i China’. Cafodd ei benodi’n Ysgrifennydd y gymdeithas a ddaeth i’w henwi yn Gymdeithas Llenyddiaeth Gristnogol i Tsieina, bu’n Ganghellor i’r hyn a ddaeth wedi hynny yn Brifysgol Shansi, fe’i gwnaed yn Fandarin o’r Radd Uchaf gan Lywodraeth Tsieina ac fe’i anrhydeddwyd yn aelod o Urdd y Ddraig Ddwbl. Cymaint oedd ei ddylanwad fel iddo gael ei ddweud y ‘bu ganddo fwy o rym gwleidyddol na’r un Cymro heblaw am David Lloyd George’ a bod enw ‘Li Timotai’ yn hysbys ac yn cael ei barchu ledled Tsieina.

 

 

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn nodi’r canmlwyddiant  gyda chyflwyno 32 o lythyrau a ysgrifennwyd gan Timothy a’i wraig, Mary, at ei fam, Eleanor, yn Ffaldybrenin. Mae’r llythyrau wedi’u digido yn arbennig a bellach ar gael i’w darllen ar-lein am y tro cyntaf.

 

Timothy Richard oedd yr ieuengaf o naw o blamt a aned i Eleanor a Timothy Richard o Danyresgair, Ffaldybrenin. Cafodd ei fedyddio yn 1859, pan oedd tua 14 oed, a bu’n aelod o Eglwys y Bedyddwyr yng Nghaeo. Aeth i Goleg y Bedyddwyr yn Hwlffordd yn 1865 ac fe’i anfonwyd yn genhadwr i Tsieina gan Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr yn 1869.

 

Dylanwad Timothy Richard yn ddiweddarach yn ei fywyd sy’n rhoi arwyddocad arbennig i’r dogfennau hyn, ond maent yn gofnod o’i brofiadau personol fel cenhadwr, a’r heriau y byddai nifer fawr o genhadon eraill wedi’u wynebu wrth deithio i rannau eraill o’r byd yn ystod y 19eg ganrif.

 

Wedi’i hysgrifennu rhwng Chwefror 1878 a Mai 1884, mae’r naw llythyr cyntaf yn perthyn i gyfnod cynnar ei genhadaeth yn Tsieina. Yn yr wyth mlynedd rhwng cyrraedd Shanghai a’r cynharaf o’r llythyrau, roedd Shandong a Shansi, y taleithiau ble yr oedd wedi’i leoli, wedi dioddef newyn enbyd a achosodd filiynau o farwolaethau. Ymateb Richard oedd i drefnu cymorth i’r dioddefwyr, a llwyddodd i godi miloedd o bunnoedd tuag at yr achos.

 

 

Mewn llythyr at ei fam yn Hydref 1882, ceisiodd Timothy Richard gyfleu maint Tsieina yn ddaearyddol a’r her roedd yn ei wynebu fel un o’r ychydig genhadon Cristnogol yno:

 

‘Meddyliwch am Gymru. Mae llawer heb fod allan o’r swydd y ganwyd hwynt. Mae holl Gymru yn lle nid bychan. Meddyliwch am ddeg Cymru ie am gant Cymru ie a tri chant Cymru un ar ol y llall dyna’r fath le eang yw China. Pa faint o genhadon sydd yn yr holl le? Nid oes yma ddigon o bobl i osod un cenhadwr mewn lle mor eang a Chymru. Meddyliwch fod ond un pregethwr yn Nghymru a chwi a ellwch feddwl i raddai mor lleied yw y llafurwyr yn y wlad eang hon. Gweddiwch lawer drosom – Yr ydym yn aml mewn peryglon. Etto diolchwch i Dduw am ei fawr drugareddau yn ein gwared yr holl amser er pan y deuthym yma.’

 

Mae’r llythyrau yn dangos yn eglur ei argyhoeddiad a’i ymroddiad i’r genhadaeth, yr aberthau a wnaed a’r peryglon a wynebant fel teulu. Treuliai gyfnodau hir oddi wrth ei wraig Mary a’u merched, yn ymweld â’r eglwysi gwasgaredig ac yn dosbarthu llenyddiaeth Gristnogol.  Pan yn ysgrifennu ar 17 Mai 1884, roedd wedi derbyn newydd am enedigaeth ei bedwaredd merch ac mae’n nodi mai dyma’r trydydd tro iddo orfod gadael adref ar adeg pan oeddynt yn disgwyl plentyn. Dri mis yn ddiweddarach, mae’n nodi nad oedd Mary wedi gwella’n llwyr ers yr enedigaeth, ac nad oedd y plentyn yn iach ychwaith, a’i fod yn disgwyl cael dychwelyd adref ymhen tair wythnos.

 

Mae’r casgliad o lythyrau yn cynnwys dau a ysgrifennwyd (yn Saesneg) gan Mary Richard i’w mam-yng-nghyfraith. Roedd Mary (née Martin) wedi teithio i Tsieina gyda’r Genhadaeth Bresbyteraidd Unedig, ac yno y gwnaeth Timothy a hithau gyfarfod. Priodwyd hwy yn 1878. Yn ei llythyrau, mae Mary hefyd yn rhannu ei hargyhoeddiad, ei chefnogaeth i Timothy, ond hefyd ei hiraeth am deulu a chyfeillion:

 

… it is now 7 years since I said goodbye to all the dear home friends. I often wish I could see you to tell you how happy your son Timothy has made me. God is very good to us. We and our children enjoy very good health. Out little girls are a great joy to us. Ella & Mary still pray in Chinese not knowing enough English. They always remember grandma in Wales.’

 

Yng ngwanwyn 1885, gwnaeth Timothy Richard a’i teulu y siwrne yn ôl i Gymru. Ysgrifennwyd 23 o’r llythyrau rhwng Ebrill 1885  a Mai 1886. Roeddynt wedi’u hanfon o amryw ddinasoedd a threfi yn Lloegr, yr Alban a Chymru wrth i Timothy deithio i roi cyflwyniadau ar y gwaith cenhadol yn Tsieina i eglwysi a cholegau. Roedd y teulu i ddychwelyd i Tsieina i barhau’r gwaith yn hydref 1886.

 

Gallwch weld y llythyrau ar-lein trwy Syllwr Casgliadau’r Llyfrgell.

 

Dr Dafydd Tudur

Pennaeth Mynediad Digidol

 

Postiwyd - 12-04-2019

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Collections / Stori Cymru

Casglu Cyfoes: Celf o’r Casgliad Cenedlaethol

Hel Llwch’ gan Valériane Leblond, 2018 (Hawlfraint: Valériane Leblond)

 

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i gasgliad pwysig o gelf gyfoes Gymreig. O fewn yr arddangosfa ‘Casglu Cyfoes’ (6.4.19 – 21.3.20) sydd newydd agor yma yn y Llyfrgell ceir esiamplau o weithiau sydd wedi dod yn rhan o’n casgliadau yn ddiweddar, o dorlun leino deinamig Paul Peter Piech i waith ciwbaidd Charles Byrd.

 

‘Abstraction’ gan Charles Byrd, 1964 (Hawlfraint: Ystâd Charles Byrd)

 

Rhodd bwysig a ddaeth i feddiant y Llyfrgell yn ddiweddar oedd y Casgliad Roese. sef casgliad gwerthfawr a chynhwysfawr o gelf gyfoes Gymreig. Dyma yw un o’r casgliadau celf gyfoes bwysicaf i ddod yn rhan o gasgliadau’r Llyfrgell, a gwelir eitemau o’r casgliad yn yr arddangosfa hon, gan gynnwys gweithiau gan Charles Byrd, Ernest Zobole, Ceri Richards, Mary Lloyd Jones, Ivor Davies, Glenys Cour, ac Iwan Bala.

 

‘View through a window’ gan Ivor Davies (Hawlfraint: Ivor Davies)

 

Eleni buom hefyd yn ffodus i dderbyn naw darn o waith eiconig yr artist pop Ken Elias o Lyn Nedd i fewn i’n casgliadau.

 

‘Check’ gan Ken Elias, ca.2008-2009 (Hawlfraint: Ken Elias)

 

Mae’r Llyfrgell yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn casglu gweithiau artistiaid sydd yn denu sylw cynyddol yn y maes ar hyn o bryd, fel Seren Morgan Jones sy’n gweithio yn Llundain a Teresa Jenellen ym Machynlleth. Mae’r thema o ferched yn ganolog i’w gwaith. Artist lleol arall y mae ei gwaith i’w gweld o fewn yr arddangosfa ydy Valériane Le Blond ac mae ei paentiadau llawn dychymyg yn llwyddo i bortreadu cefn gwlad Cymru sydd yn gyfarwydd i ni gyd, tra bod tirluniau mynegiadol Sarah Carvell, ac haniaethol Lisa Eurgain Taylor ac Elfyn Lewis yn dangos ysbrydoliaeth ddiderfyn y tirlun Cymreig.

 

‘Blue Gloves, Orange Chair’ gan Seren Morgan Jones, 2016 (Hawlfraint: Seren Morgan Jones)

 

Mae ein casgliad yn tyfu gyda phryniadau cyson a rhoddion oddi wrth gymwynaswyr hael.

 

Morfudd Bevan, Curadur Celf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Postiwyd - 08-04-2019

Newyddion a Digwyddiadau

Lansiad gwefan newydd Archif Gwefannau’r DG

Fis diwethaf, bu 30 mlynedd ers dyfodiad y We Fyd-Eang. Yn ffodus, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’i phartneriaid wedi bod yn archifo gwefannau Cymru ers tro ac felly wedi bod yn cadw’r hanes hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. O ganlyniad, lansiwyd Archif Gwefannau’r DG yn swyddogol diwedd flwyddyn diwethaf. Mae’r safle newydd hwn wedi ei greu mewn ymateb i newidiadau a wnaed i’r ddeddfwriaeth Adnau Cyfreithiol yn dilyn pasio Rheoliadau Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol (Gweithiau Di-brint) 2013.  O ganlyniad, mae Adnau Cyfreithiol nawr yn cwmpasu deunydd electroneg ac ar-lein megis gwefannau, blogiau, e-gylchgronau a deunydd ar CD-rom.

 

Pwrpas Archif Gwefannau’r DU yw casglu, cadw a rhoi mynediad parhaus i wefannau allweddol y DU ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gosododd Rheoliadau 2013 her enfawr i’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol gan mai un o’r gofynion yw archifo Gofod Gwefannau’r DU yn ei gyfanrwydd. Fel gyda Deddfau Adnau Cyfreithiol blaenorol, sy’n ymdrin yn bennaf â deunydd print, mae adnau cyfreithiol o ddeunydd ar-lein yn berthnasol i eitemau a gyhoeddir yn y DU yn unig.

 

 

Yn ychwanegol, bu cynnydd sylweddol yn ystod yr hyn a gasglwn o ganlyniad i Reoliadau 2013. Mae Archif Gwefannau’r DU er enghraifft yn casglu llawer o filiynau o wefanau a biliynau o “asedau” unigol (tudalennau html, delweddau, pdfs, fideos ac ati).  Ers 2017, mae Archif Gwefannau’r DU wedi casglu tua 500TB o ddata. O leiaf unwaith y flwyddyn, mae’r Llyfrgell Brydeinig yn ymgymryd ag ymgripiad (“crawl”) wedi ei awtomeiddio yn unol â Rheoliadau Adnau Cyfreithiol (Gweithiau Di-brint) 2013 i gasglu cymaint o wefannau’r DU ag y gallwn eu hadnabod. Canlyniad hyn fydd cynnydd sylweddol pellach ym maint enfawr y data rydym yn ei gasglu ar hyn o bryd.

 

Bu Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’n partneriaid Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol, dan arweiniad y Llyfrgell Brydeinig, yn archifo gwefannau o 2003 hyd 2013, ond model wedi ei seilio ar ganiatâd oedd hwn.  Er mwyn i ni allu archifo gwefan, roedd angen caniatâd perchennog y safle ymlaen llaw.  Oherwydd y Rheoliadau newydd, bellach nid ydym angen caniatâd i archifo safle os yw wedi ei gyhoeddi yn y DU.

 

O ran mynediad, gellir gweld y safle o’r fan hyn.  Fodd bynnag, dan y Rheoliadau Adnau Cyfreithiol (Gweithiau Di-brint) 2013 mae llawer o’r cynnwys sydd wedi ei archifo gyda chyfyngiad mynediad i ystafell ddarllen llyfrgell Adnau Cyfreithiol y DU.  Felly, byddwch yn dod ar draws arwyddion megis ‘gellir edrych arno o fewn adeilad y Llyfrgell yn unig’ ynghyd â sawl disgrifiad o wefannau sydd wedi eu harchifo yn eich cyfeirio chi at un o Lyfrgelloedd Adnau Cyfriethiol y DU ar gyfer cael mynediad.

 

Nod Archif Gwefannau’r DU yw darparu ‘mynediad agored’ i gymaint o’r gwefannau hyn â phosib. Felly rydym yn dal i gysylltu â pherchnogion y gwefannau i ofyn am ganiatâd fel ein bod yn sicrhau mynediad i fersiynau o’u gwefannau sydd wedi eu harchifo. Er enghraifft, mae gennym eisoes gytundeb ers nifer o flynyddoedd gyda Llywodraeth Cymru sy’n caniatáu i ni ddarparu mynediad agored i’w rhestr gwefannau sy’n dal i dyfu.

 

Wrth gwrs, bydd Archif Gwefannau’r DU yn parhau i ehangu a datblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.   Mae Archif Gwefannau’r DU yn un o nifer o fentrau sydd wedi eu sefydlu er mwyn ymateb yn llwyddiannus i’r Rheoliadau newydd a’r her y mae’r twll du Digidol wedi ei gyflwyno i ni fel Llyfrgellwyr. Nawr bod y safle yn fyw, gobeithiwn gynyddu’r rhyngweithio gyda’n defnyddwyr. Er enghraifft, un nodwedd o’r safle yw Casgliadau Arbennig.  Os hoffech chi weld deunydd wedi ei gynnwys yn un o’n casgliadau arbennig neu os hoffech chi ddarparu adborth cyffredinol ar Archif Gwefannau’r DU yna cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.  Byddwn yn falch iawn o glywed oddi wrthych.

 

 

Aled Betts,

Llyfrgellydd Derbyn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog