Tag Archives: Cymru

Phyllis Kinney. Y gantores o Michigan

Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 23-03-2020

Mae bywyd Phyllis Kinney yn daith o America i Aberystwyth, ac o fod yn gantores operatig i fod yn un o’r awdurdodau mwyaf blaenllaw ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru.

Ganed Phyllis Kinney (sydd bellach yn 97 mlwydd oed) ym Mhontiac, Michigan ger Detroit ar 4 Gorffennaf 1922 – diwrnod Annibyniaeth yr UDA. Addysgwyd hi yn Ysgol Uwchradd Pontiac ac yna yng Ngholeg Talaith Michigan, East Lansing lle bu’n arbenigo mewn cerddoriaeth gan raddio ym 1943. Cymaint oedd ei thalent lleisiol fel iddi sicrhau cymrodoriaeth yn Ysgol Gerdd Juilliard, Efrog Newydd lle bu’n astudio am dair blynedd. Yn 1947 daeth yn brif soprano gyda chwmni opera Carl Rosa, ac wrth deithio ym Mangor cyfarfu â Meredydd Evans (1919-2015) a ddaeth yn ŵr iddi. Priododd ar 10 Ebrill 1948 a ganed eu merch Eluned yn ystod haf 1949. Treuliwyd eu bywyd priodasol yng Nghymru yn bennaf, ar wahân i gyfnod o wyth mlynedd rhwng 1952 a 1960 a dreuliasant yn America – gyda’i rhieni ym Mhontiac, yn Princeton ac yn Cambridge Mass. Parhaodd â’i gyrfa gerddorol, gan berfformio mewn opera gan y cyfansoddwr Americanaidd Roger Sessions yn Princeton ym 1955, a bu’n dysgu cerddoriaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Ar ôl dychwelyd i Gymru cyfrannodd at raglenni adloniant ysgafn y BBC fel cantores, a daeth hefyd yn gyflwynydd ac ymchwilydd arbenigol ar gyfer rhaglenni teledu. Mae ei diddordeb cerddorol yn amrywio o sioeau cerdd Americanaidd i ganeuon gwerin Cymraeg ac mae hi wedi treulio’r ychydig ddegawdau diwethaf yn ymchwilio i lawysgrifau a chyhoeddiadau cerddorol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Sain Ffagan a Phrifysgol Bangor. Dyma oedd cefndir ei gwaith nodedig, Welsh Traditional Music (Gwasg Prifysgol Cymru, 2011), sef y llyfr awdurdodol ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru o’r dechrau hyd heddiw. Mae hi hefyd wedi cyfrannu nifer o erthyglau i gyfnodolion (yn enwedig yn ‘Canu Gwerin’ a Hanes Cerddoriaeth Cymru: Welsh Music History) ac wedi cyhoeddi sawl llyfr ar gerddoriaeth werin Gymraeg, a llyfrau caneuon i blant, rhai wedi’u hysgrifennu ar y cyd â Meredydd Evans. Dyfarnwyd gradd M Mus anrhydeddus iddi gan Brifysgol Cymru ym 1991 a daeth yn gymrawd anrhydeddus Prifysgol Bangor ochr yn ochr â’i gŵr ym 1997.

Ceir trysorfa o wybodaeth am gerddoriaeth draddodiadol Cymru ymysg archifau Meredydd Evans a Phyllis Kinney, a gyflwynwyd fel rhodd hael i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae ffeiliau Phyllis Kinney (dros 30 bocs) yn cynnwys nodiadau manwl, rhestrau a dadansoddiad o alawon, gyda gwybodaeth am gerddorion a chasglwyr cerddoriaeth. Roedd ei dull systematig o weithio, wrth edrych ar rythm, diweddeb, ffurf, harmoni a moddau yn golygu y gallai hi nodi’n hyderus mewn llythyr at y bardd Keith Bosley mai’r mesur gwerin mwyaf poblogaidd yng nghân werin Cymru yw’r ‘trochaic tetrameter quatrain’; ac ysgrifennu erthygl ar y cysylltiad rhwng ‘Migldi Magldi’ a theulu o alawon Gwyddelig / Cymraeg penodol. Dengys ei gohebiaeth ei haelioni wrth ateb ymholiadau a darparu cefnogaeth i fyfyrwyr, ymchwilwyr a cherddorion ledled y byd. Mae’r archif yn adlewyrchu’r modd y cofleidiodd Gymru, ei phobl a’i diwylliant, gan ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl a dyrchafu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig trwy ei hastudiaethau cerddolegol.

Nia Mai Daniel
Rheolwr Rhaglen | Programme Manager
Yr Archif Gerddorol Gymreig | The Welsh Music Archive
@cerddllgc | @MusicNLW

Traddodiad Canu Gwerin Cymru

Stori Cymru - Postiwyd 06-03-2020

Mae gan bob llwyth a chenedl drwy’r byd draddodiad o ganeuon ac alawon sy’n ddrych o’u diwylliant, eu cymeriad a’u ffordd o fyw. Gellir dweud felly fod pob un o’r traddodiadau hynny yn unigryw.

Yr hyn sy’n gwneud traddodiad Cymru yn unigryw yn anad dim arall yw iaith y caneuon eu hunain, Cymraeg. O blith y caneuon y gellir eu disgrifio fel rhai ‘traddodiadol’ mae o leiaf 90% yn rhai Cymraeg, am y rheswm syml eu bod yn tarddu o gyfnod yn hanes Cymru pan oedd Cymraeg yn brif iaith mwyafrif llethol y boblogaeth – yn wir, yr unig iaith yn aml iawn.

I unrhyw un sy’n dod at ganeuon gwerin Cymru o’r newydd, daw yn amlwg:
• eu bod wedi chwarae rhan hanfodol bwysig yn niwylliant y Cymry ar hyd y canrifoedd;
• eu bod yn niferus ac yn amrywiol iawn;
• fod yna amrywiaeth rhyfeddol o alawon, llawer ohonynt yn eithriadol o brydferth a chofiadwy.

Gellir yn fras eu dosbarthu fel a ganlyn:

Caneuon Serch
Cariad yw pwnc mwyaf poblogaidd y caneuon gwerin Cymraeg. Amcangyfrif Meredydd Evans yw fod cymaint â 170 ohonynt. Mae cyfran go lew o’r rheiny yn ymdrin â cholli cariad, ac felly yn ganeuon digon trist; eraill yn foliant i’r cariad, eraill yn disgrifio’r helyntion a’r trafferthion sy’n gosod cymaint o rwystrau ar lwybr serch.

Enghreifftiau: Y Gwydr Glas, Beth yw’r Haf i Mi?, Dacw ‘Nghariad i Lawr yn y Berllan, Cariad Cyntaf, Tra Bo Dau.

Hwiangerddi a Chaneuon Plant
Ar hyd y canrifoedd bu mamau yn allweddol yn y gwaith o gyflwyno caneuon i genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant. Ystyr llythrennol ‘hwiangerdd’ yw cân i suo plentyn i gysgu, a cheir sawl enghraifft o’r math hwnnw o gân, ond defnyddir y gair yn ehangach hefyd i ddisgrifio caneuon syml eraill i blant.

Enghreifftiau: Suo Gân, Si Hei Lwli ‘Mabi (hwiangerddi); Dacw Mam yn Dwad, Fuoch Chi Rioed yn Morio, Mi Welais Jac y Do.

Caneuon Gwaith
Y caneuon mwyaf nodedig yn y dosbarth hwn yw’r caneuon ‘Gyrru’r Ychen’ o Forgannwg: caneuon i annog ychen i weithio wrth aredig. Cofnodwyd rhai o’r rhain gan Iolo Morgannwg.

Enghreifftiau: Cân yr Ychen, I Ysgafnhau ein Gwaith.

Caneuon Doniol
Mewn cystadlaethau eisteddfodol yn y cyfnod diweddar bu tuedd i roi amlygrwydd i’r caneuon gwerin mwyaf trist. Ond mae lle i gredu mai ar y caneuon hwyliog yr oedd y pwyslais yn yr hen nosweithiau llawen a’r cyfarfodydd anffurfiol. Y gair ‘llawen’ yw’r cliw!

Enghreifftiau: Cân Merthyr, Yr Hen Wyddeles, Mari’r Glwyseg, Ar y Ffordd Wrth Fynd i Lundain, Cân y Cwcwallt.

Caneuon Gwasael
Caneuon yw y rhain sy’n ymwneud yn benodol ag achlysuron arbennig ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Ystyr lythrennol y gair gwasael yw ‘Iechyd Da’, a rhan bwysig o’r ddefod oedd diod arbennig, yn cael ei rannu o’r ‘llestr gwasael’. Golyga’r term ‘canu gwasael’ ddefod lle mae criw bychan yn crwydro o dŷ i dŷ, yn dymuno iechyd da i’r teuluoedd a bendith ar eu bywydau – yn y gobaith o dderbyn croeso a lletygarwch. Canu awyr agored ydyw (er fod rhai o’r defodau yn golygu fod cantorion o fewn y tŷ yn ateb ac yn ymryson gyda’r cantorion y tu allan). Mae’r termau ‘canu tan bared’ a ‘canu yn drws’ hefyd yn disgrifio’r arfer. Mae’r canu gwasael yn gysylltiedig â’r defodau canlynol: Y Fari Lwyd, Y Calennig, a Hela’r Dryw (Ionawr), Gŵyl Fair, Dydd Mawrth Ynyd (Chwefror /Dechrau Mawrth), Calan Mai, a hefyd priodasau. Mae sawl ‘cân ymryson’ (y caneuon ‘cynyddol’ lle mae’n rhaid cyflymu pob pennill) yn gysylltiedig â Gŵyl Fair yn arbennig.

Enghreifftiau: Wel Dyma Ni’n Dwad, Hela’r Dryw, Cadi Ha, Mwynen Mai. (Caneuon cynyddol): Cyfri’r Geifr, Un o Fy Mrodyr I.

Baledi
Dyma’r dosbarth mwyaf niferus o ddigon – mae tua 4,000 ohonynt ar gael, y rhan fwyaf o’r ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Digwyddiadau’r dydd oedd eu testun: llofruddiaethau, helyntion fel Rhyfel y Degwm a Helynt Beca, stormydd, llongddrylliadau, agor rheilffyrdd newydd, ac ati. Oherwydd mai yn yr awyr agored, mewn ffair a marchnad, y cenid y baledi hyn, byddai raid i’r baledwr feddu ar lais cryf ac arddull drawiadol, gan mai ei nod oedd gwerthu copïau o’r faled i’w gynulleidfa.

Enghreifftiau: Baled y Blotyn Du, Storm Fawr 1846, Llofruddiaeth Dafydd Lewis.

Caneuon Morwrol
Cymharol brin yw’r shanties môr yn Gymraeg, ond fe gyfansoddodd J. Glyn Davies stôr ohonynt yn yr 1920au, ac ymhen dim o dro fe’u derbyniwyd yn rhan o’r traddodiad gwerin.

Enghreifftiau: Sianti Gymraeg, Fflat Huw Puw, Llongau Caernarfon, Santiana

Canu Penillion
Yn y cyfnod diweddar, fe ddisodlwyd y term ‘canu penillion’ gan y term ‘cerdd dant’, (sef y grefft o ganu darnau o farddoniaeth i gyfeiliant ceinciau gosodedig ar y delyn, yn unol â rheolau pendant). Mae’r grefft bellach wedi datblygu i gyfeiriad gwahanol i ganu gwerin. Ond ar un adeg, difyrrwch y werin bobl oedd canu penillion: crefft fyrfyfyr oedd yn gwneud defnydd helaeth o benillion telyn a cherddi ysgafn, ffwrdd-â-hi, ac ni fyddai neb ar y pryd yn ystyried gosod canu penillion a chanu gwerin mewn categorïau ar wahân.

Enghreifftiau: penillion syml pedair neu chwe llinell ar geinciau megis Cader Idris, Llwyn Onn, Pen Rhaw.

Canu Plygain
Canu crefyddol ei natur yw hwn; math o ganu sy’n gysylltiedig â chyfnod y Nadolig ac a glywir mewn gwasanaethau plygain mewn eglwysi a chapeli. Mae’n ymdebygu mwy i ganu gwerin a chanu baledi nag ydyw i ganu emynau: canu naturiol, dirodres, a dihyfforddiant, bob amser yn ddigyfeiliant, ac yn amlach na pheidio mewn harmoni syml. Alawon gwerin yw llawer iawn o’r alawon y gosodwyd y geiriau arnynt.

Enghreifftiau: Ar Gyfer Heddiw’r Bore, Carol y Swper, Tramwywn, Ffarwel Ned Puw, Y Ceiliog Gwyn.

Wrth gwrs, nid pob cân werin sy’n syrthio’n daclus i’r categorïau uchod. Er enghraifft, y gân Myn Mair, sef cân a genid mewn gwylnos ym mhresenoldeb corff marw. Gweddi sydd yma dros enaid y person ymadawedig. Oherwydd yr erfyniad ar y Fair Forwyn ar ddiwedd pob pennill, mae’n amlwg fod y gân yn tarddu o’r cyfnod cyn y Diwygiad, pan oedd Cymru yn wlad Gatholig.

Erbyn heddiw fe ddiogelwyd y corff hyn o ganeuon gwerin, ond fe ellid yn hawdd fod wedi eu colli am byth. Bu dau gorff yn gyfrifol yn fwy na neb am gasglu a chofnodi’r caneuon: Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, yn enwedig eu haelodau cynnar ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac Amgueddfa Sain Ffagan mewn cyfnod diweddarach. Meddai J. Lloyd Williams, un o arweinwyr y Gymdeithas Alawon Gwerin, “Tipyn o beth oedd i’r hen alawon fyw trwy genedlaethau o esgeulustod, a mwy gorchest oedd iddynt wrthod marw dan ddimyg a gwarth y Diwygiad.”

Arfon Gwilym

[Nodyn: Yn y byd modern mae union ystyr y gair ‘gwerin’ yn amrywio’n fawr. I ddibenion yr erthygl hon, fe ganolbwyntir ar y math hwnnw o ganeuon a drosglwyddwyd ar lafar o un genhedlaeth i’r llall dros gyfnod hir o amser: y math o ganeuon y gellir eu disgrifio fel rhai ‘traddodiadol’]

Rhannu’r Mabinogi

Collections - Postiwyd 05-03-2020

Heddiw rydyn ni’n dathlu Diwrnod y Llyfr a lansiad yr ymgyrch ‘Rhannu Stori’. Mae gan Gymru draddodiad hir o rannu storïau, a’r gwaddol mwyaf enwog o hyn mae’n siŵr yw’r casgliad rhyddiaith Gymraeg canoloesol a adnabyddir fel y Mabinogi – a pha storïau gwell sydd yna i’w rhannu na’r rhain?

 

Cymysgedd cyfareddol o straeon dramatig a dirgel am hudoliaeth, trasiedi, rhamant, ffantasi, hiwmor, brad, gwrthdaro, cyfiawnder, antur, moesoldeb, natur ddynol a’r Arallfyd yw’r rhain, sy’n cyfuno elfennau o lên werin, mytholeg, ffughanes, chwedlau ac athroniaeth, gydag ambell i sylwad ar faterion cyfoes yr Oesoedd Canol.

 

Mae yna un stori ar ddeg i gyd, gan gynnwys y rhyddiaith gynharaf ym Mhrydain. Ystyrir bod y pedair cyntaf – ‘Pwyll Pendefig Dyfed’, ‘Branwen ferch Llŷr’, ‘Manawydan fab Llŷr’ a ‘Math fab Mathonwy’, a adnabyddir ar y cyd fel y Pedair Cainc – yn gysylltiedig â’i gilydd, er yn eithaf amwys i olwg llygaid modern. Fe’u hysgrifennwyd i lawr am y tro cyntaf rhwng 1060 a 1200 yn ôl pob tebyg, yn gyfamserol ag ymosodiadau ar Gymru o Loegr a dinistrio penarglwyddiaethau gwleidyddol cryfion cynhenid Cymreig, ond mae llawer o’r storïau eu hunain yn hŷn o lawer, wedi iddynt gael eu hadrodd, eu hailadrodd a’u haddasu dros ganrifoedd.

 

Un arall o’r storïau hynaf yw ‘Culhwch ac Olwen’, sy’n cyflwyno Brenin Arthur gwahanol iawn i’r hyn a geir yn y rhamantau a ffug-hanesion Eingl-Ffrengig a wnaethpwyd yn boblogaidd gan Sieffre o Fynwy a Chrétien de Troyes yn y ddeuddegfed ganrif, tra bod ‘Breuddwyd Macsen Wledig’ yn adleisio gwaith Sieffre ond yn cynnwys llawer o elfennau gwahanol hefyd. Fodd bynnag, dylanwadwyd yn gryf ar rai o’r storïau eraill gan ramantau Eingl-Ffrengig, yn arbennig ‘Breuddwyd Rhonabwy’, yr ymddengys iddi fod yn greadigaeth lenyddol pur. Mewn sawl ffordd, gellir gweld y storïau fel cynnyrch y byd ôl-drefedigaethol lle y cawsant eu hysgrifennu i lawr am y tro cyntaf.

 

Eto mae hanesion y Mabinogi yn llawer mwy dyledus i’r traddodiad llafar Cymreig y tyfon nhw allan ohono, yn ogystal â dawn hanesiol y bobl a’u hysgrifennodd i lawr. Mae’r technegau adrodd a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o’r storïau – yr ailadrodd, yr ymddiddan helaeth a’r penodau cofiadwy ar wahân – yn awgrymu iddynt gael eu cyfansoddi er mwyn cael eu perfformio a’u clywed, yn hytrach na’u darllen, ond ni wyddom lawer am bwy a’u cyfansoddodd na phwy fyddai wedi eu hadrodd. Roedd beirdd y tywysogion a’r uchelwyr yn adnabod llawer o hanesion traddodiadol ac yn disgwyl y byddai eu cynulleidfaoedd yn deall y cyfeiriadau atynt, a dywed y storïau eu hunain yr oedd disgwyl i bencerdd adrodd stori wrth iddo dderbyn lletygarwch, a bod pobl eraill yn adrodd straeon hefyd. Mae hi’n gyffredin hyd heddiw mewn cymunedau traddodiadol i rannu straeon o bob math wrth ymgasglu yn gymdeithasol. Gellir meddwl am y Mabinogi, felly, fel mynegiant o gof torfol y gymdeithas a’i cynhyrchodd.

 

Mae’r llawysgrifau cynharaf sy’n cynnwys darnau o’r storïau ac sydd wedi goroesi hyd heddiw yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg, ond y casgliad mawr cynharaf – ac un o drysorau mawrion y Llyfrgell – yw Llyfr Gwyn Rhydderch, sy’n cynnwys deg o’r un stori ar ddeg. Fe’i hysgrifennwyd tua 1350 gan fynachod Ystrad Fflur yn ôl pob tebyg; camgymeriad gan ysgrifydd canoloesol a arweiniodd at adnabod y casgliad fel y Mabinogion erbyn y ddeunawfed ganrif. Rhannwyd y Llyfr Gwyn yn ddwy gyfrol (Llawysgrifau Peniarth 4 a 5 erbyn hyn) cyn 1658, gyda storïau’r Mabinogi ym Mheniarth 4, tra bod yr unfed stori ar ddeg, sef ‘Breuddwyd Rhonabwy’, ond yn ymddangos ond yn Llyfr Coch Hergest, llawysgrif ddiweddarach sydd erbyn hyn yn Rhydychen (Llawysgrif Coleg yr Iesu 111).

Gwnaeth ysgolheigion yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg dipyn o ddefnydd o’r Llyfr Gwyn, ond ymddengys nad oedd llawer o wybodaeth am y storïau yn y byd tu hwnt i astudiaethau llawysgrifol. Nid oes tystiolaeth i adroddwyr straeon enwog fel Thomas Edwards (Twm o’r Nant, 1739-1810), er enghraifft, adrodd yr un hanesyn o’r Mabinogi. Ond daeth tro ar fyd pan gyhoeddodd William Owen Pughe storïau’r ‘Mabinogion’ yn Saesneg rhwng 1795 a 1829, ac aethant yn fyd-enwog pan gyhoeddodd yr Arglwyddes Charlotte Guest y casgliad llawn cyntaf rhwng 1838 a 1877, yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg. Atgyfodwyd diddordeb yr ysgolheigion, ac erbyn yr ugeinfed ganrif yr oedd y Mabinogi wedi ennill ei le mewn ymwybyddiaeth ddiwylliannol yr oes, gan ysbrydoli gwaith creadigol ar bob ffurf a chyfrwng yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd: nofelau, cerddi, dramâu, celf weledol, adrodd straeon, operâu, cerddoriaeth bop a gwerin, ffilmiau, a llyfrau plant, ac yn cynnwys gwaith gan unigolion blaenllaw megis Saunders Lewis, Alan Garner, Anthony Conran, Gwyneth Lewis, Margaret Jones, Geraint Jarman, Robin Williamson a Michael Harvey, ymhlith llawer o eraill. Mae’r Llyfrgell yn gartref i hyn i gyd.

Fel y chwedlau Arthuraidd, mae hanesion y Mabinogi yn ganoloesol ond eto’n ddiamser. Maen nhw wedi cael eu hail-ddychmygu dros amser gan genedlaethau gwahanol wrth iddynt ymdrechu i ddatguddio eu hanes eu hunain, i wneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas, ac i edrych i mewn i ddyfodol ansicr. Maen nhw mor berthnasol heddiw ag erioed.

 

Felly beth am ddarllen storïau’r Mabinogi ar Ddiwrnod y Llyfr? Gwrandewch arnynt. Perfformiwch nhw. Rhannwch nhw. Straeon i’w clywed yw’r rhain. Ac felly y terfyna’r gangen yma o flog y Llyfrgell.

 

Dr David Moore (Archifydd)

Tarw Gwyllt Llangian a Stori Cymru

Stori Cymru - Postiwyd 21-02-2020

Mae pawb yn hoff o stori dda. Boed hynny mewn llyfr, mewn papur newydd, cartŵn, ar fideo, ar raglen deledu, ar ffilm neu ar lafar.

Mae’r awydd i glywed stori yn ddwfn ym mhob un ohonom ni. Mae ailadrodd storïau yn rhan o’n gwead ni. Ailadrodd straeon a wnawn ni wrth gyfarfod ffrindiau a theulu da ni heb eu gweld ers tro. Mae’r traddodiad yma o adrodd straeon yn dyddio ymhell cyn cof. Dyma’r “traddodiad llafar” a oedd yn ffynhonnell cynnwys y llawysgrifau cynharaf sydd yma yn y Llyfrgell Genedlaethol.

 

 

Ymhlith y 15 miliwn o erthyglau papur newydd a ddigiwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol mae hanes Tarw Gwyllt Llangian. Daeth ffermwr â tharw ifanc ar droed i dref Pwllheli heb dennyn. Dychrynwyd y tarw a rhedodd yn wyllt drwy’r dref. Aethpwyd â’r ffermwr i’r llys yn dilyn y digwyddiad. Mae’r adroddiad papur newydd yn creu darlun byw o’r cyfan. Darllenwch stori llawn Tarw Gwyllt Llangian.

 

 

Nid yw’r stori hon yn stori eiconig yn hanes Cymru ond yn gipolwg ar fywyd yng Nghymru yn nechrau’r 20fed ganrif. Clytwaith o storïau yw Stori Cymru, gyda rhai digwyddiadau yn fwy arwyddocaol na’i gilydd ond pob un yn ddilys. Mae gan y stori hon arwyddocâd bersonol i mi oherwydd mai cymydog i fy nhaid oedd perchennog y tarw gwyllt!

Mae casglu, cadw, diogelu a rhannu hanes Cymru yn y byd yn rhan allweddol o waith y Llyfrgell Genedlaethol. Yr her i’r Llyfrgell, ac i ni fel cenedl, yw gwneud hynny yn y ffordd sy’n dod a’r budd mwyaf i ni heddiw ac i genedlaethau’r dyfodol. Y Llyfrgell yw “cof y genedl” ac mae’n dal i gasglu, rheoli a diogelu dros 20 miliwn o lyfrau, llawysgrifau, archifau, mapiau, lluniau, ffotograffau, papurau newydd, sain, fideo a ffilm.

 

 

Dyma waith sy’n gofyn am arbenigedd a chydweithio ac rydym yn ffodus iawn fod gennym staff profiadol, gwirfoddolwyr ymroddedig, unigolion, cymunedau a phartneriaid i’w gyflawni. Mae’r byd wedi newid, ac yn parhau i newid yn gyflym. Gyda hyn daw cyfleon yn ogystal a heriau. Mae digido wedi dod yn rhan o waith y Llyfrgell ers degawdau bellach ac wedi ein galluogi i rannu’r storïau ledled Cymru â’r byd.

 

 

Her arall yw sicrhau y bydd deunydd digidol gwreiddiol ar gael i genedlaethau’r dyfodol. Er mwyn gwneud hyn mae gofyn i’r Llyfrgell gydweithio â sefydliadau ar draws y byd. Mae deunydd digidol yn cynnig cyfleon cyffrous i ni wella ein dealltwriaeth o “stori” Cymru. Un enghraifft syml fyddai dadansoddi amlder defnydd geiriau dros ddegawdau mewn erthyglau papur newydd. Yn ddi-os bydd datblygiad deallusrwydd artiffisial (artificial intelligence) yn ehangu’r posibiliadau yma ymhellach nag y gallwn ni ei ddychmygu ar hyn o bryd.

 

 

Er yr holl ddatblygiadau technolegol mae grym stori dda yn parhau. Mae hi’n byw yn y cof, yn ein diddanu, ein haddysgu ac yn ein hysbrydoli. Mae clytwaith Stori Cymru’n parhau i dyfu ac mae gan y Llyfrgell rôl allweddol yn y dasg o’i diogelu a sicrhau ei bod yn dal i ysbrydoli a chyfoethogi bywydau ymhell i’r dyfodol.

 

Dr Owain Rhys Roberts
Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd (Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus)

Atgyfodi’r Hen Ganeuon

Cerddoriaeth / Collections / Digido - Postiwyd 17-02-2020

 

Dydd Gwener 28ain Chwefror bydd na ddigwyddiad arbennig yn y Drwm, sef GIG: ATGYFODI’R HEN GANEUON gydag Arfon Gwilym a Sioned Webb.  Tocynnau ar gael yma.

Mae’r ddau yn adnabyddus yng Nghymru fel perfformwyr amryddawn a phrofiadol ym maes cerddoriaeth draddodiadol, yn gantorion a hefyd yn chwarae’r ffidil a’r delyn.  Gwahoddwyd hwy i wneud noson yn y Drwm yn dilyn llwyddiant eu sesiwn ‘O’r Archif’ yn y Tŷ Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, pan wnaethon nhw berfformio caneuon a wnaethon nhw ddarganfod wrth ymchwilio yn archif J. Lloyd Williams.

Pwy oedd J. Lloyd Williams?

Roedd J Lloyd Williams (1854 – 1945),  yn fotanegydd a cherddor a aned yn Llanrwst. Enillodd radd D.Sc. (Cymru) am ei waith ar algâu morol yn 1908, a chafodd radd anrhydeddus D.Mus. (Cymru) yn 1936. Roedd yn un o brif gasglwyr cerddoriaeth gwerin Cymru, bu iddo ran bwysig yn sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, yn 1906, a bu’n olygydd cylchgrawn y gymdeithas.

Golygodd hefyd y cylchgrawn cerddoriaeth cyffredinol ‘Y Cerddor’ rhwng 1931 a 1939 ac, ar y cyd ag Arthur Somerville, lluniodd ddwy gyfrol Sixteen Welsh Melodies, 1907 a 1909. Gellir darllen mwy amdano yn Y Bywgraffiadur

Beth sydd yn archif J. Lloyd Williams?

Llawysgrifau a phapurau cerddorol, 1750 -1945, gan gynnwys cannoedd o ganeuon gwerin a gasglwyd gan Dr J. Lloyd Williams yn ei rôl fel Golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, a phapurau yn ymwneud â’i ymchwil i hanes cerddoriaeth Gymraeg; deunydd yn ymwneud â’i ddiddordeb a’i alwedigaeth ym maes botaneg, a phapurau personol. (53 bocs) Ceir manylion pellach yn y catalog.

Mae’r archif yn cynnwys caneuon a gasglodd J Lloyd Williams ei hun, caneuon a gasglwyd gan grŵp o’r enw’r ‘Canorion’, a gan Ruth Herbert Lewis, Mary Davies a Grace Gwyneddon Davies. Mae’n bwysig hefyd am ei fod yn cynnwys casgliadau hŷn o ganeuon yn llawysgrifau Ifor Ceri, Llywelyn Alaw, a Mari Richards Darowen. Fel telynores tynnwyd sylw Sioned Webb yn arbennig at gyfrol o alawon a chaneuon Cymraeg a Saesneg yn llaw Evan Jones (‘Ifan y Gorlan’), telynor o Gorlan, ger Llanrwst. (AH1/46)

Mae rhai o’r llawysgrifau pwysicaf wedi cael eu digido gan y Llyfrgell, sef:

Cyfrol o alawon, [c. 1815], sef y gwreiddiol o ‘Melus Geingciau [sic] Deheubarth Cymru neu ‘The Melodies of South Wales’, yn cynnwys 56 o alawon, rhai â geiriau, a gasglwyd gan Ifor Ceri ac eraill.

Cyfrol gyfansawdd yn cynnwys dau draethawd yn Gymraeg ar bysgota a theori gerddorol, tair rhestr o deitlau alaw, a chasgliad mawr o alawon, a luniwyd gan John Thomas ar gyfer y ffidil, rhai o ffynonellau printiedig ac eraill wedi’u hysgrifennu i lawr o draddodiad llafar. Cyhoeddwyd yr alawon, gyda nodiadau cysylltiedig, yn Cass Meurig (gol.), Alawon John Thomas: A Fiddler’s Tune Book from Eighteenth-Century Wales (Aberystwyth, 2004).

Dysgwch fwy am gerddoriaeth draddodiadol Cymru a’r Archif Gerddorol Gymreig fan hyn.

Ymunwch â ni i ddathlu Gŵyl Ddewi yng nghwmni Arfon Gwilym a Sioned Webb.

Nia Mai Daniel

Rheolwr Rhaglen | Programme Manager
Yr Archif Gerddorol Gymreig | The Welsh Music Archive

@cerddllgc | @MusicNLW

Y Llychlynwyr yn Llenyddiaeth Gymraeg Ganoloesol

Collections / Stori Cymru - Postiwyd 07-02-2020

 

Pobl mordwyol oedd y Llychlynwyr a ddaeth i Ynysoedd Prydain rhwng tua’r 8fed a’r 11eg ganrif, yn bennaf o Norwy a Denmarc yn Sgandinafia. Daethant a thrais a dinistr, ond hefyd daethant a’u diwylliant – eu sgiliau, eu crefydd, a’u iaith. Daethant yn rhan o lenyddiaeth Gymraeg ganoloesol, gan gynnwys sawl llawysgrif sydd ar gadw yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Beth a ddenodd y Llychlynwyr o Sgandinafia i Gymru? Mae’n bosib fod y Llychlynwyr a ddaeth i Gymru yn chwilio am dir ffrwythlon a nwyddau i’w masnachu. Roedd arfordir Cymru yn ran o lwybr arfordirol o Sgandinafia, gan deithio drwy Ynysoedd Shetland, Ynysoedd Erch, Yr Alban, Iwerddon, gogledd-ddwyrain Lloegr ac Ynys Manaw i Gymru. Roedd cyrchoedd cyntaf y Llychlynwyr yng Nghymru yn targedu lleoedd amlwg ar yr arfordir, a daeth canolfannau eglwysig yn dargedau poblogaidd. Disgrifiwyd y cyrchoedd hyn ar ddiwedd y 13eg/dechrau’r 14eg ganrif ym Mrut y Tywysogion, sy’n rhoi darlun apocalyptaidd o ddinistrio Tyddewi (Mynyw) mewn cyrch yn 810.

‘Deg mlynedd ac wythcant oed oet Krist pan duawd y lleuad duw Nadolic. Ac y llos[get] Mynyw. Ac y bu varwolaeth ar yr ysgrubyl yn holl ynys Brydein.’

Wyth cant a deg oedd blwyddyn oed Crist pan dywyllodd y lleuad ar Ddydd Nadolig. A llosgwyd Mynyw. A bu marwolaeth ar holl anifeiliaid Prydain.’

(Brut y Tywysogion, NLW MS Peniarth 20, t. 67)

Dros y ddwy ganrif nesaf, daeth ymosodiadau’r Llychlynwyr o’r môr yn fwyfwy cyffredin wrth i Gymru gael ei rhoi ar fap y Llychlynwyr a sefydlwyd treflannau Llychlynnaidd parhaol yn Iwerddon. Roedd y Llychlynwyr hefyd yn awyddus i hawlio tiroedd yng Nghymru. Dywed yr Annales Cambriae, a ysgrifennwyd yn gynnar yn y 12fed ganrif, i Llychlynnwr o’r enw Ingimundr ddod i Ynys Môn a meddiannu tir mewn lle o’r enw Maes Osfeilion; mae Liber Landavensis (Llyfr Llandaf) o’r 12fed ganrif yn disgrifio sut bu’r brenin Cymreig Gruffudd ap Llywelyn yn gwrthsefyll ymosodiadau Llychlynnaidd o Denmarc, Ynysoedd Erch, ac Iwerddon. Erbyn diwedd yr 11eg ganrif roedd cysylltiadau Gwyddelig-Llychlynnaidd mor sefydledig nes fod un arall o arweinwyr Cymru yn medru ymdrechu i hawlio tras Llychlynnaidd. Mae Historia Gruffud vab Cynan o’r 13eg ganrif a’i ragflaenydd Lladin Vita Griffini filii Conani yn ymgais i olrhain achres y brenin Cymreig Gruffudd ap Cynan (m.1137) yn ôl i hen frenhinoedd Norwy. Dioddefodd Gruffudd ei hun fwy na’i siâr o drafferth gyda’r Llychlynwyr; yn 1098 fe’i fradychwyd gan ei lynges Wyddelig-Lychlynnaidd ei hun yn dilyn ymosodiad ar Wynedd gan yr ieirll Normanaidd Hugh o Gaer ac Hugh a’r Amwythig. Ar yr un pryd, roedd y brenin Norwyaidd Magnús Berfœtr yn ymosod ar Ynys Môn, ac yn ôl y ffynonellau uchod, lladdwyd Hugh o’r Amwythig gan Magnús  pan saethodd ef yn ei lygad.

 (Liber Landavensis, f.109v)

Roedd gan Gruffudd ap Cynan hefyd duedd i gyrchu mewn modd Llychlynnaidd. Mae Vita Sancti Gundleii (Buchedd Sant Gwynllyw) , a grynhowyd gyntaf yn y 12fed ganrif, yn disgrifio sut y casglodd Gruffudd lynges Wyddelig-Lychlynnaidd at bwrpas môr-ladrad. Wedi glanio yn aber yr afon Wysg, ymosodwyd ar eglwys Sant Gwynllyw, ond pan ddychwelsant fe ddinistriwyd eu llynges a bu bron i Gruffudd gael ei ladd mewn storm ofnadwy, efallai wedi ei danfon yn gosb gan Sant Gwynllyw ei hun. Mae’r syniad hwn o gosb yn cyd-fynd a’r disgrifiad apocalyptaidd o gyrch Llychlynnaidd ym Mrut y Tywysogion, ac nid yw’n syndod; doedd dim rheswm gan fynachlogydd i gyflwyno’r Llychlynwyr mewn goleuni ffafriol, a hwythau yn brif dargedau i’r Llychlynwyr yn ogystal â bod yn gynhyrchwyr o hanesion ysgrifenedig. Oherwydd hyn, a’r bwlch mewn amser rhwng y cofnodion a’r digwyddiadau a ddisgrifir, mae’n rhaid i ni gwestiynu pa mor ddibynadwy ydynt.

Mae hyn yn amlygu un o’r prif wahaniaethau diwylliannol rhwng y Llychlynwyr a’r Cymru – eu crefydd. Yn ystod Oes y Llychlynwyr, nid oedd Denmarc na Norwy wedi cael tröedigaeth lawn i Gristnogaeth, ac felly byddai llawer o’r ymwelwyr wedi bod yn ddilynwyr crefydd paganaidd Llychlynnaidd. Gellir gweld tir diwylliannol cyffredin drwy astudio ffynonellau llenyddol eraill. Roedd y traddodiad barddol canoloesol skald yn Norwy yr un mor hen a datblygedig a’r gogynfeirdd yng Nghymru, ac roedd beirdd yn aml yn bresennol ar achlysuron pwysig ac yn rhoi adroddiadau cyfoesol o’r digwyddiadau. Cyfansoddodd y bardd Meilyr farwnad i Gruffudd, Marwnad Gruffudd ap Cynan, ac mae’r detholiad isod yn rhoi darlun cryf o ryfel:

‘Gwern gwygid, gwanai bawb yn ei gilydd,
Gwaed gwŷr goferai, gwyrai onwydd.’

Malwyd gwaywffyn, rhuthrodd pawb at ei gilydd,
Llifodd gwaed rhyfelwyr, gostyngodd gwaywffyn ynn’

(Marwnad Ruffut ab Kynan, NLW MS 6680B (Llawysgrif Hendregadredd), f1.r)

Yn yr un modd, mae Gisl Illugason, bardd Magnús Berfœtr, yn tystio i’r hyn a welodd a’i lygaid ei hun wrth ddisgrifio marwolaeth Hugh o’r Amwythig yn ei Erfikvæði (marwnad) i Magnús. Mae’r beirdd yn cyfleu delweddau byw tra’n dilyn ffurf mydryddol gaeth; roedd Meilyr yn dilyn cyhydedd naw ban y gynghanedd, tra dilynai Gisl y ffurf Llychlynnaidd fornyrðislag (‘ffurf-iaith-hen’). Cwynodd Iolo Morganwg, y bardd a’r hynfiaethydd o’r 18fed ganrif, fod hen farddoniaeth Llychlynnaidd yn llawn o gymeriadau treisgar a theimladau ffyrnig, termau sydd hefyd yn berthnasol i farddoniaeth Meilyr. Efallai mai yma mae’r Llychlynwyr a’r Cymry yn rhannu diddordebau llenyddol.

Yn ôl y Brut, roedd cyrch Magnús Berfœtr i Ynys Môn yn 1098 yn un o ymosodiadau diwethaf y Llychlynwyr yng Nghymru. Nid yw olion llenyddol y Llychlynwyr yng Nghymru yn amlwg bob tro, ond mae’r etifeddiaeth yn parhau, nid yn unig mewn llawysgrifau, ond mewn ffurfiau mwy cyfarwydd, beunyddiol megis enwau lleoedd. Er mor gyfarwydd ydynt, mae’n hynnod meddwl ein bod yn byw ochr yn ochr a’r treftadaeth Llychlynnaidd hwn a ddaethpwyd i Gymru bron i fil o flynyddoedd yn ôl.

Lucie Hobson

Archifydd dan Hyfforddiant

Ffynonellau:

Annales Cambriae, A.D. 682-954: Texts A-C in Parallel, gol. & chyf. gan David N. Dumville (Caergrawnt: ASNC, 2002)

Brut y Tywysogion or The Chronicle of the Princes: Peniarth MS 20 Version, cyf. Thomas Jones (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1952)

Historia Gruffud vab Kenan, gol. D. Simon Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1977)

Jesch, Judith, ‘Norse Historical Traditions and Historia Gruffud vab Kenan: Magnús berfœtr and Harald hárfagri’, yn Gruffudd ap Cynan: A Collaborative Biography, gol. K. L. Maund (Woodbridge: Boydell, 1996), tt. 117-148

Vita Griffini filii Conani, gol. & chyf. Paul Russell (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2005)

Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogie, gol. & chyf. A. W. Wade-Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1944)

Williams, J. E. Caerwyn, ‘Meilyr Brydydd and Gruffudd ap Cynan’, yn Gruffudd ap Cynan: A Collaborative Biography, gol. K. L. Maund (Woodbridge: Boydell, 1996), tt. 165-186

Derbyniad newydd David Jones

Casgliadau / Derbynion newydd - Postiwyd 03-02-2020

Ar 21 Tachwedd 2019, gyda chymorth hael Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol, llwyddodd y Llyfrgell Genedlaethol i brynu mewn arwerthiant grŵp bychan o lythyrau gan yr artist, ysgythrwr a’r bardd David Jones (1895-1974) i’w gyfaill Morag Owen (gynt McLennan), ynghyd a rhai papurau perthynol.

Yn ystod ei gyfnod yn Harrow, cafodd Jones ei gefnogi fwyfwy gan gylch sylweddol o gyfeillion. Un o’r cyfeillion yma oedd Morag Owen, myfyriwr celf ifanc ar adeg eu cyfarfod cyntaf yn 1948. Ar ôl i Morag briodi a symud i ffwrdd, fe ddaeth yn un o’r ffrindiau amryw oedd yn gohebu’n aml ac yn faith gyda Jones.

 

 

Mae’r llythyrau yn ymwneud ag amryw o destunau, er un thema amlwg yw dirywiad ei iechyd. Mae’r llythyrau hwyraf wedi’u hysgrifennu yn defnyddio ei gyfuniad nodweddiadol o inciau du, coch a gwyrdd, gyda nodiadau ac ôl-nodiadau wedi’u hychwanegu ar onglau yn yr ymylon.

Er iddo gael ei eni yng Nghaint, roedd tad Jones yn Gymro ac yr oedd yn ymwybodol iawn o’i gysylltiadau Cymreig. Roedd ganddo ddiddordeb ar hyd ei oes yn hanes a llenyddiaeth Gymreig ac, er nad oedd erioed yn siaradwr rhugl, roedd ganddo ymwybyddiaeth fanwl o ramadeg Cymraeg a tharddiad geiriau yn yr iaith. Ceir hyn oll ei drafod ymysg y llythyrau. Wedi’i ysgogi gan fagwraeth Morag yng Nglasgow, mae Jones hefyd yn trafod hanes ac enwau lleoedd ardaloedd Brythonaidd Strathclyde a Rheged, ‘Hen Ogledd’ y traddodiad Cymreig.

Ceir esiamplau o’i waith artistig ymysg y papurau, gan gynnwys darlun pensil o wraig anhysbys. Mae yna hefyd sawl esiampl o arysgrifau paentiedig nodweddiadol Jones sy’n cyfosod dyfyniadau yn y Gymraeg, Lladin, Groeg a’r Saesneg. Caiff rhai o’r arysgrifau yma eu cynnwys yn eu llythyrau fel cyfarchion, tra bod eraill yn atgynhyrchiadau ffotograffig a ddefnyddiwyd gan Jones fel cardiau Nadolig.

Mae’r papurau yma yn ychwanegiad gwerthfawr i’r archif sylweddol o bapurau personol, gohebiaeth a gweithiau llenyddol ac artistig David Jones sydd yma yn y Llyfrgell Genedlaethol eisoes. Yn arbennig, mae’r deunydd yn ategu grŵp o oddeutu trideg llythyr gan Morag Owen i Jones. Mae’r derbyniad diweddar yma wedi’i gatalogio (rhif cyfeirnod NLW MS 24139E) a bellach ar gael i’w gweld gan ddarllenwyr yn ystafelloedd ddarllen y Llyfrgell.

Rhys Jones
Llyfrgellydd Llawysgrifau Cynorthwyol

Ystadau boneddigion Cymru: Trysorfa o wybodaeth

Collections / Stori Cymru - Postiwyd 24-01-2020

Am ganrifoedd, roedd cyfran uchel o dir Cymru wedi ei ganoli yn nwylo cyfran gymharol fechan o deuluoedd bonedd. Roedd rhai ystadau yn anferth, er enghraifft Wynnstay, tra’r oedd eraill yn eithaf bychan, er enghraifft, Allt-lwyd yn Sir Aberteifi. Fe gafodd bodolaeth ystadau’r boneddigion effaith ddofn ar dirwedd a hanes Cymru. Roedd eu pŵer yn amlwg drwy’r plastai mawreddog a amgylchynwyd gan erddi helaeth a pharcdiroedd. Roedd hollbresenoldeb yr ystadau yn y dirwedd yn amlwg trwy ffermydd y tenantiaid, y bythynnod, y fforestydd, cysgod yr helgig, amgáu y tiroedd comin, tollbyrth, gweithfeydd mwyngloddio, y rheilffyrdd a datblygiadau trefol.

Teimlwyd dylanwad yr ystadau ym mron pob agwedd o fywyd Cymreig. Roeddent yn cynnig cyflogaeth i bobl leol fel gweithwyr amaethyddol, stiwardiaid, garddwyr, gweision ystafelloedd, gweision y tŷ a nyrsys plant. Roedd y gweithwyr hyn i gyd ar drugaredd yr ystadau. Roedd perchnogion ystadau yn priodi i mewn i deuluoedd eraill uchel eu statws, ac felly’n ehangu eu tiroedd ac yn ymestyn eu pŵer i bob agwedd ar fywyd cyhoeddus. Roeddent yn dal swyddogaethau uchel fel gweision i Goron Lloegr, aelodau seneddol, is-gapteiniaid, siryfion sirol, meiri ac ynadon heddwch. Roeddent yn rheoli’r etholiadau sirol, penodiadau offeiriaid y plwyf a chasgliad y degwm. Roeddent yn cyfrannu at adeiladu ac adfer eglwysi, ysgolion, ysbytai, neuaddau pentref ac ystafelloedd darllen cyhoeddus.

Mewn bywyd preifat, roeddent yn noddi beirdd a cherddorion gan gynnal y traddodiad barddol. Roeddent hefyd yn casglu llyfrgelloedd o lawysgrifau prin a llyfrau, yn llenwi eu tai â chelfi crand, ac yn casglu gweithiau celf a threfnu peintio eu portreadau eu hunain i’w rhoi ar gof a chadw.

Yn ffodus, fe greodd ystadau’r boneddigion lawer iawn o gofnodion, sy’n nefoedd i haneswyr modern. Mae archif ystâd arferol yn cynnwys gweithred eiddo, rhentol, cyfrifon yr ystâd, cofnodion y tŷ, arolygon a phrisiadau, mapiau, cytundebau teuluol ac ewyllysiau, dyddiaduron, llythyrau, papurau cyfreithiol a phapurau gweinyddol y sir. Fe greodd rhai ystadau nifer helaeth o gofnodion yn ymwneud ag amaeth, mwyngloddio plwm neu chwareli llechi. Mae cofnodion ystadau eraill yn adlewyrchu diddordeb penodol y perchennog, er enghraifft hela llwynogod yn Gogerddan neu gasglu cerddoriaeth, celf a cherfluniau yn Wynnstay. Mae’r cofnodion hyn i gyd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd ymchwil i haneswyr teulu, haneswyr lleol, plant ysgol, archeolegwyr, haneswyr tirwedd, myfyrwyr hanes gwleidyddol, artistiaid a cherddorion.

Mae gweithredoedd eiddo, cytundebau teuluol ac ewyllysiau yn esbonio sut roedd perchnogion ystadau yn cronni tiroedd ac yn eu pasio i’w disgynyddion. Mae rhai dogfennau o bwys cenedlaethol. Mae archifau ystadau Wynnstay, Penrice a Margam yn cynnwys siarteri canoloesol pwysig o Ystrad Fflur ac Abaty Margam, yn y drefn honno, gan ddangos dosraniad tiroedd cyn diddymiad y mynachlogydd.

Mae’r dogfennau rhent, llyfrau cyflog a chofnodion tŷ yn cynnig enwau stiwardiaid yr ystâd, y tenantiaid, y labrwyr a’r gweision. Mae’r cyfrifon yn aml yn dangos cofnod codi neu atgyweirio adeiladau, sydd o bosib yn parhau hyd heddiw. Mae’n bosib y byddai’r rhestrau eiddo yn nodi pethau fel platiau arian, lluniau a chreiriau eraill. Mae arolygon a mapiau’n dangos lle lleolwyd y tiroedd a sut y defnyddiwyd hwy.

Mae’n bosib y byddai dyddiaduron a llythyrau’n disgrifio bywyd dyddiol perchnogion yr ystâd a’u cyflogai, perthnasau o fewn y teulu, digwyddiadau lleol, straeon cymdeithasol, bywyd milwrol, teithio ac uchelgais gwleidyddol. Mae papurau gwleidyddol yn cynnwys llawer o dystiolaeth, yn taenu golau ar gysylltiadau teuluol coll ac amodau cymdeithasol. Mae gweithiau celf yn portreadu’r tai a’u perchnogion mewn cyd-destun, gan ddangos y dirwedd, pensaernïaeth, herodraeth, dodrefn, dillad, steiliau gwallt ac weithiau hoff anifeiliaid nai rai gwethfawr.

Mae tynged ystadau’r boneddigion yn amrywio. Boddodd nifer dan bwysau eu dyled, a dyfodd o wariant uchel, morgeisi, cytundebau teuluol a thollau marwolaeth. Gwerthwyd eangderau o dir ystadau yng Nghymru yn ystod diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Aeth peth plastai i ddistryw, troswyd eraill yn fflatiau, ysbytai, gwallgofdai ac ysgolion. Diogelwyd rhai, megis Castell Powys a Llanerchaeron, gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Tra bod ambell un, fel Rhug a Mostyn, yn parhau i weithredu fel ystadau yn y byd modern.

Felly, ble’r ewch chi i ganfod mwy? Cedwir papurau ystadau mewn nifer o storfeydd trwy Gymru. Mae nifer ohonynt yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gallwch bori rhestr o 50 o’r casgliadau ystadau mwyaf poblogaidd yn y Llyfrgell ar ein gwefan. Gallwch hefyd bori Catalog y Llyfrgell arlein o unrhyw le. Os oes well gennych chi ymweld â ni, mae staff proffesiynol yr Ystafelloedd Darllen wrth law i’ch helpu.

Cedwir nifer o gofnodion ystadau mewn archifdai sirol hefyd. Mae rhai yn parhau mewn dwylo preifat gyda’r perchnogion presennol neu eu cyfreithwyr. Mae Prifysgol Bangor wedi sefydlu canolfan arbennig ar gyfer hanes ystadau Cymreig: Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.

Darganfyddwch gofnodion yr ystadau Cymreig drosoch eich hunain. Gyda cymaint o amrywiaeth o feysydd diddordeb, mae rhywbeth yma i bawb.

Gwybodaeth bellach

 

Bywydau mewn trosedd: Hanes cymdeithasol a diwylliannol Cymru yn Llys y Sesiwn Fawr

Collections / Stori Cymru - Postiwyd 10-01-2020

Mae brawddegau fel ‘Hanes Cymru’ yn aml yn cynhyrchu delweddau o dywysogion a thywysogesau Cymreig o’r oesoedd canol, fel Llywelyn Fawr, Owain Glyndŵr a Gwenllian ferch Gruffydd, a digwyddiadau oedd yn drobwynt mewn hanes, fel y concwest Edwardaidd neu Ddeddf Uno’r Tuduriaid. Fel arall, mae ‘Hanes Cymru’ yn corddi delweddau o newid cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yn y 19eg ganrif. Y rhain wedi eu nodweddu gan y pyllau glo, diwydiannu a thŵf Methodistiaeth, mudiad y Siartwyr a Therfysgoedd Beca. Mae’r rhain i gyd yn bynciau diddorol a chyfoethog, ac yn haeddu’r sylw y maent yn ei dderbyn. Serch hynny, yn aml fe anghofir am y cyfnod hwnnw rhwng y Ddeddf Uno a’r Chwildro diwydiannol, yn arbennig o safbwynt hanes sy’n archwilio bywyd dyddiol gwerin Cymru.

Fel hanesydd â diddordeb mewn hanes cymdeithasol a diwylliannol y 18fed ganrif yng Nghymru, ryw’n gweithio i newid hyn. Yn ffodus, mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru y ffynhonnell orau o dystiolaeth am fywyd dyddiol y Cymry yn ystod y cyfnod hwn. Er syndod o bosib, y ffynhonnell rwy’n cyfeirio ati, yw cofnodion ffeiliau carchar Llys y Sesiwn Fawr – y llys uchaf yng Nghymru cyn yr 1830au. Mae’r cofnodion hyn yn cynnig manylion cyfoethog am drefn ddyddiol bobl, eu gwaith a’u bywyd teuluol, eu gwerthoedd, rhagdybiaethau a’u perthynas rhyngbersonol ayb.

Crëwyd dogfennau cyn-treial, er enghraifft deponiadau, archwiliadau, cwynion a ‘gwybodaeth’, ynghyd â chyfaddefiadau, pan y cyfeiriwyd troseddau fel llofruddiaeth, terfysg, ymosodiad, lladrad, dynwarediad, dwywreiciaeth, neu hyd yn oed fwystfilaidd-dra, at Lys y Sesiwn Fawr. Byddai clercod neu ynadon yn cyfweld tystion a’r diffynnydd ac yn cadw cofnod o’u hymatebion, ar ôl eu cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg yn aml. Er yn bur anaml, os byth, y cofnodwyd hwy air am air. Roedd y cofnodion yn ganolog i broses treial mewn gwlad lle’r oedd nifer o’r tystion yn siarad iaith wahanol i’r llys, a’r trafodion cyfreithiol yn digwydd yn Saesneg. Am y rheswm hwn, mae dogfennau cyn-treial Llys y Sesiwn Fawr wedi goroesi’n dda o gymharu â chofnodion tebyg o’r Brawdlys yn Lloegr. Ynghyd â darparu tystiolaeth gymhellol am drosedd a gwyredigaeth, mae’r cofnodion cyn-treial yma’n cynnwys manylion trylwyr am yr hyn oedd yr unigolion yn gwneud pan welson nhw drosedd, y cyflawnon nhw drosedd neu y dioddefont drosedd. Mae’r cofnodion hyn felly yn arbennig o ddefnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes gymdeithasol neu ddiwylliannol Cymru.

Mae achos o gynnai tân yn fwriadol yn Sir Fôn yn 1799 yn dangos pa mor gyfoethog gall y cofnodion hyn fod. Yn yr achos hwn, cyhuddwyd merch ifanc, ddi-briod, feichiog o gynnai tân yn fwriadol yn nhŷ dynes arall. Meistr y ferch ifanc a gyhuddwyd, yn ôl y sôn, oedd tad y babi. Roedd hefyd yn canlyn y ddynes y llosgwyd ei thŷ, fel y profwyd gan y ffaith fod ganddo ei gardas (garter). Mae’r achos cywilyddus hwn o driongl serch o’r 18fed ganrif yn dangos yn glir cymhlethdodau a manylion gweithgareddau carwriaeth rhai cylchoedd. Serch hynny, mae deponiadau rhai tystion yn cynnig tystiolaeth ddiddorol o fywyd ‘bob dydd’. Er enghraifft sut y rhannwyd tân rhwng aelwydydd a chartrefi (yn defnyddio gwellt a thywarchen o dân cymydog). A’r lletygarwch a ddangoswyd i forwynion ifanc a oedd yn canfod eu hunain ymhell o adre wrth iddi nosi (fe’u cymerwyd i mewn i dai a’u caniatáu i gysgu gyda’r morwynion am y noson). Dyma un enghraifft, o nifer, o’r drefn ddyddiol arferol, y gymdogaeth a’r perthnasau rhyngbersonol a ganfyddir yn y cofnodion llys ‘anhygoel’ hyn.

Mae’r cofnodion carchar yn ganolog i’m hymchwil ar anghyfreithlondeb a bydwreigiaeth yng Nghymru’r 18fed ganrif, ac yn ffurfio rhan ganolog o’m dysgu ym Mhrifysgol Caerlŷr. Fodd bynnag, gyda mynegai arlein ar gyfer y blynyddoedd 1730-1830, a chofnodion mewn Saesneg (yn bennaf gan ddefnyddio llaw italig ac ysgrifenyddol) o 1730 ymlaen, mae’r cofnodion carchar yn arbennig o hygyrch yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Dr Angela Muir

Adnoddau Perthnasol

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog