Tag Archives: Cymraeg

Archifau – Catalogau Newydd

Casgliadau - Postiwyd 24-01-2023

 

Detholiad o gasgliadau archifol y Llyfrgell

 

Blwyddyn brysur oedd 2022 i archifyddion y Llyfrgell. Yn ogystal ag ymgymryd â’u dyletswyddau eraill, cawsant gyfle i dreulio’r flwyddyn gyfan yn catalogio o ddifri yn sgil llacio gwaharddiadau covid, ac o ganlyniad fe gynhyrchwyd llawer mwy o gatalogau nag a gafwyd yn y ddwy flynedd cyn hynny.

Dyma flas ar y catalogau a gwblhawyd yn ystod 2022. Mae gwaith yn parhau ar gatalogau eraill fel erioed, yn cynnwys nifer o archifau sylweddol a phwysig, a hefyd ychwanegiadau bach at gatalogau sy’n bodoli yn barod. Ceir manylion am gatalogau diweddar o lawysgrifau yng nghyfresi NLW MSS a NLW ex mewn blog arall yn y man.

 

Aber Research Papers

Cofnodion Aber Research, corff a ymgymerodd â pholiau piniwn ac a gasglodd gwybodaeth ystadegol ar ran Plaid Cymru yn ystod y 1990au.

Archif Brwydr Llangyndeyrn

Casgliad o ddeunydd yn perthyn i frwydr cymunedau yng Nghwm Gwendraeth yn erbyn ymdrechion Corfforaeth Abertawe i greu cronfa dŵr yno yn y 1960au.

Archif Urdd Gobaith Cymru

Ychwanegiad pellach at archif sylweddol y mudiad ieuenctid.

Caryl and Herbert Roese Papers

Papurau academaidd ac ymchwil y gerddores Caryl Roese a’i gŵr, Herbert Roese.

David Harries Music MSS

Ychwanegiad at archif y cyfansoddwr David Harries, yn cynnwys gweithiau ganddo fe a William Mathias.

Deian R. Hopkin Papers

Ychwanegiad at y papurau a gronnwyd gan yr hanesydd Syr Deian Hopkin, yn cynnwys llyfr cofnodion Plaid Lafur Llanelli ar gyfer y cyfarfod pan ddewiswyd Jim Griffiths fel ymgeisydd.

Emrys Bennett Owen Papers

Papurau ychwanegol yr amaethwr Emrys Bennett Owen (1911-1988), yn cynnwys deunydd yn ymwneud â’i ddiddordeb mewn cerddoriaeth, ffermio a materion cymunedol.

 

 

Papurau Greg Hill

 

Greg Hill Papers

Papurau’r llenor, bardd a golygydd Greg Hill.

Hywel Ceri Jones Papers

Papurau addysg Hywel Ceri Jones, swyddog gyda’r Comisiwn Ewropeaidd.

Ivor T Rees Political Papers

Llenyddiaeth yn ymwneud ag etholiadau yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig, 1928-1997, a gasglwyd gan y Parchedig Ivor T. Rees.

 

 

Papurau Jenny Porter

 

Jenny Porter Papers

Papurau Jenny Porter, cydlynydd Cymru Pride Wales.

Layers in the Landscape Archive

Papurau a grewyd mewn perthynas â Layers in the Landscape (Haenau yn y Tirwedd), prosiect rhyngddisgyblaethol a osododd cysyniad mapio dwfn ar dirwedd boddedig Bae Ceredigion.

Lee Waters Papers

Ychwanegiad at bapurau’r gwleidydd a darlledwr Lee Waters.

Lord MacDonald of Gwaenysgor Papers

Papurau gwleidyddol a phersonol Yr Arglwydd MacDonald o Waenysgor (1988-1966), yn cynnwys deunydd yn ymwneud â materion megis uno Newfoundland a Chanada.

 

 

NLW Deed 1962

 

NLW Deed 1962

Siarter y Brenin John yn ymwneud â’r Fenni. Cafwyd blog am y siarter yn fuan ar ôl i ni ei phrynu, a fe gyhoeddwyd erthygl mwy manwl amdani yn ddiweddar hefyd: D. J. Moore, ‘Abergavenny and Dunwallesland: a 1209 charter of king John’ yn The Monmouthshire Antiquary: Proceedings of the Monmouthshire Antiquarian Association XXXVII (2022), 5-13

Papurau Alun Eirug Davies

Papurau llenyddol ac academaidd y llenor Alun Eirug Davies (1932-2019), ynghyd â phapurau personol a llenyddol ei dad, y Parchedig T. Eirug Davies.

Papurau Cymdeithas Lyfrau Ceredigion

Cofnodion y grŵp cyhoeddi yn Aberystwyth sy’n arbenigo mewn llyfrau Cymraeg.

Papurau D. Tecwyn Lloyd

Ychwanegiad bach at archif lenyddol y llenor Tecwyn Lloyd.

Papurau Elinor Bennett

Papurau proffesiynol y delynores Elinor Bennett.

Papurau John Meirion Morris

Papurau’r cerflunydd, dyluniwr ac athro John Meirion Morris (1936-2020).

Papurau Mary Silyn Roberts (Archif Menywod Cymru)

Papurau personol a phroffesiynol yr ymgyrchwraig addysg Mary Silyn Roberts (1877-1972), ynghyd ag eiddo ei gŵr, Robert (Silyn) Roberts.

Papurau’r Parchedig D. S. Owen

Papurau’r Parchedig David Samuel Owen (1887-1959), gweinidog Capel Jewin, Llundain.

Siân Phillips Papers

Papurau personol a phroffesiynol yr actores enwog Siân Phillips.

Sir Guildhaume Myrddin-Evans Papers

Papurau Syr Guildhaume Myrddin-Evans (1894-1964), gwas sifil hŷn, arbenigwr mewn cydberthynas ddiwydiannol a chynrychiolydd Prydain i’r International Labour Organisation, yn cynnwys cofnodion yn ymwneud â Chomisiwn Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal ag anghytundeb diplomataidd yn Venezuela gyda’r ILO.

Casgliad Effemera Gwleidyddol Cymreig

Ychwanegiadau pellach at y casgliad effemera.

Welsh Women’s Aid Archive (Archif Menywod Cymru)

Papurau gweinyddol canghennau Aberystwyth, Pontypridd a Chaerdydd Cymorth i Ferched Cymru (Welsh Women’s Aid), yn cyfeirio at lawer o faterion sy’n effeithio ar ferched a’u plant sy’n defnyddio’r gwasanaeth, yn cynnwys trais domestig, lles cymdeithasol a’r gyfraith.

 

David Moore (Archifydd)

Hanes Dragon Data

Casgliadau / Collections - Postiwyd 23-01-2023

Yn ystod chwyldro cyfrifiadurol yr 1980au, ffurfiwyd nifer o gwmnïau newydd oedd yn creu caledwedd i’r cyhoedd. Cyn hyn, roedd cost a maint yn ffactorau oedd yn erbyn y fath fentro, ond gyda chyfrifiaduron yn mynd yn llai ac yn rhatach i’w cynhyrchu, cododd gwawr newydd i’r rhai oedd yn frwd am dechnoleg. Un o’r cwmnïau a ffurfiwyd oedd Dragon Data, a sefydlwyd ar ddechrau’r 80au yn Ne Cymru gan y cwmni teganau Mattoy.

 

 

Cawsant rywfaint o lwyddiant gyda’u cyfrifiaduron Dragon 32 a Dragon 64, ond ni phrofodd y Ddraig hon fywyd hir. Roedd cyfyngiadau technegol yn golygu iddynt lusgo tu ôl i’w cystadleuwyr, fel Sinclair a Commodore. O ganlyniad, dechreuodd y cwmni fynd i drafferthion. Yn ystod canol yr 80au, prynwyd y cwmni gan Eurohand S.A., a symudwyd canolfan y cwmni i Sbaen. Yn 1987, daeth y cwmni gwreiddiol a’r enw i ben yn dilyn methdaliad.

 

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn dal nifer o deitlau sy’n ymwneud â chyfrifiaduron y Ddraig (gweler y llun). Mae llawer ohonynt yn plymio’n ddwfn i ddulliau amrywiol o raglennu wrth ddefnyddio’r peiriant. Er i fywyd y Ddraig fod yn fyr, mae ei hetifeddiaeth a’i henw yn parhau. Prawf o hyn yw fod crewyr cyfryngau cymdeithasol ar lwyfannau fel Youtube wedi ymchwilio i’w hanes, a gellir gweld eu cyflwyniadau yno.

 

Darllen/gwylio pellach:

Duncan Smeed. 1983. Inside the Dragon.

George Knight. 1983. Learning to use the Dragon 32 Computer.

Keith Brain. 1984. Advanced sound & graphics for the Dragon computer: including machine code subroutine.

Keith Brain. 1984. Artificial intelligence on the Dragon computer: make your micro think.

Keith Brain. 1984. Dragon 32 games master: learn how to write your own top level games.

Tim Hartnell. 1984. Giant book of games for your Dragon.

Tim Langdell. 1982. 35 programs for the Dragon 32. Dragon user: the independent Dragon magazine.

https://en.wikipedia.org/wiki/Dragon_Data

https://en.wikipedia.org/wiki/Dragon_32/64

https://www.nostalgianerd.com/the-dragon-32/

Hanes Dragon 32/64 gan Nostaglia Nerd: https://www.youtube.com/watch?v=ifDQ_OlUhTc

 

Ian Evans,

Rheolwr Cynllun Catalogio ar y Cyd.

Arbrofion Gwyddonol Cynnar yn Eryri

Casgliadau / Collections / Derbynion newydd / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 09-01-2023

Ymysg y llyfrau a brynwyd yn ddiweddar ar gyfer ein casgliadau llyfrau prin oedd Experiments and observations made in Britain, in order to obtain a rule for measuring heights with the barometer.  Yr awdur oedd Cyrnol William Roy (1726-1790), tirfesurydd a sylfaenydd yr Arolwg Ordnans.  Cyhoeddwyd yr adroddiad yn wreiddiol yn Philosophical transactions y Gymdeithas Frenhinol yn 1777, ond mae’r copi a brynwyd wedi’i gyhoeddi ar wahân gan J. Nichols y flwyddyn wedyn.

 

 

Gwnaethpwyd yr arbrofion a ddisgrifir yn yr adroddiad mewn sawl lle, gan gynnwys Schiehallion yn yr Alban a’r Wyddfa yng Nghymru.  Yn ogystal â disgrifiadau o’r arbrofion, mae’r llyfr yn cynnwys tablau o’r mesuriadau a mapiau o’r mynyddoedd lle cawsant eu gwneud.  Mae’n dystiolaeth bwysig o gyfraniad gogledd Cymru at ddatblygiadau gwyddonol yn y ddeunawfed ganrif.

Timothy Cutts,

Llyfrgellydd Llyfrau Prin.

Ymweld â Llyfrgell Genedlaethol yr Alban

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 21-12-2022

Yn ystod mis Tachwedd, aeth staff o’r Llyfrgell ar daith i Lyfrgell Genedlaethol yr Alban a mynychu cyfarfodydd i drafod materion gweithredol a strategol sy’n ymwneud â’r Asiantaeth Adnau Cyfreithiol. Mae’r Asiantaeth yn gyfrifol am gasglu deunydd adnau cyfreithiol o bob rhan o’r DU ac Iwerddon a’i ddosbarthu i bob un o’r llyfrgelloedd adnau cyfreithiol.

Yn ystod yr ymweliad cafwyd taith o amgylch prif adeilad Llyfrgell Genedlaethol yr Alban ar George IV Bridge, eu hail safle yn Causewayside, a hefyd yr asiantaeth ei hun.

Un o uchafbwyntiau’r ymweliad oedd gweld ardal arddangos y Llyfrgell a oedd yn canolbwyntio ar awduron Albanaidd fodern, megis Ian Rankin. Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i drafod arferion llyfrgellyddol. Mewn taith tu ôl i’r llen, bu cyfle i weld eu mannau storio helaeth a thrafod materion amrywiol, megis sut maent yn delio â gofod storio. Soniodd y Tîm Cyfnodolion hefyd am sut y gwnaethant ddelio â’r ôl-groniad a grëwyd yn sgil y pandemig Covid – mater yr oedd yn rhaid bob llyfrgell adnau cyfreithiol ei reoli.

Roedd ymweliad i adeilad yr Asiantaeth hefyd yn brofiad diddorol, wrth weld cratiau gwyrdd y Llyfrgell yn cael eu llenwi â deunydd newydd, i’w prosesu yr wythnos ganlynol wedi iddynt gyrraedd y Llyfgell yn ddiogel.

Roedd y daith yn un diddorol tu hwnt; roedd yn gyfle i drafod materion pwysig yn ymwneud â’r Asiantaeth, ond dangosodd hefyd bwysigrwydd cydweithio a rhannu gwybodaeth. Yr oedd hefyd yn gyfle i gwrdd â llyfrgellwyr adnau cyfreithiol eraill o bob rhan o’r DU ac Iwerddon.

Cymru yng Nghwpan y Byd

Digido / Gwasanaethau Darllenwyr - Postiwyd 19-12-2022

Ar ôl 64 o flynyddoedd hir, llwyddodd tîm pêl-droed Cymru o’r diwedd i gyraedd eu hail dwrnament Cwpan y Byd, y tro hwn yn Qatar. Nawr bod y twrnament wedi dod i ben, meddyliais y byddwn yn edrych yn ôl ar eu ymgyrch drwy danysgrifiad newydd Newsbank y Llyfrgell, sydd bellach yn cynnwys fersiynau delwedd llawn ar gyfer rhai teitlau. Er mwyn cael mynediad i Newsbank mae’n angenrheidiol i chi fod yn aelod arlein yng Nghymru o’r Llyfrgell. Gweler yma am fwy o wybodaeth, ac yma am ffurflen gofrestru. Gall aelodau arlein gael mynediad i Newsbank ac adnoddau allanol eraill drwy dudalen A-Z o adnoddau allanol y Llyfrgell. Gellir gwneud hyn drwy naill ai fod yn adeilad y Llyfrgell, neu mewngofnodi gyda tocyn darllen.

Roedd y cyffro a’r disgwyliadau yn amlwg yn uchel ar ôl absenoldeb mor hir o’r gystadleuaeth fwyaf ym myd pêl-droed. Ar ôl curo’r Wcráin yn rowndiau terfynol y gemau ail gyfle, fe allai cefnogwyr Cymru edrych ymlaen at weld eu tîm yn perfformio gyda thimau gorau’r byd. Yn y cyfnod cyn y twrnament, mabwysiadwyd cân eiconig Dafydd Iwan “Yma o Hyd” fel anthem Cwpan y Byd Cymru, a chyfwelodd y Guardian ef a chefnogwyr eraill i drafod sut roedd pawb yn teimlo cyn y twrnament.

 

 

UDA 1 – Cymru 1

Dyma hi, ein gêm Cwpan y Byd gyntaf ers 1958! Roedd miloedd o gefnogwyr Cymru wedi gwneud y daith draw i fod yn rhan o’r Wal Goch, ac roedden nhw a’r cefnogwyr yma yng Nghymru yn ysu i’r gêm ddechrau. Serch hynny, roedd hi’n edrych fel bod yr achlysur yn dangos ar y tîm, ac fe aeth yr Americanwyr ar y blaen yn haeddiannol hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf. Roedd yn amlwg fod angen newid ein tactegau ar gyfer yr ail hanner, a chafodd cyflwyniad Kiefer Moore effaith bositif ar sut oedd y tîm yn chwarae. Gyda deg munud i fynd fe enillodd Cymru gic gosb ar ôl trosedd ar Gareth Bale. Unwaith eto, Bale oedd arwr Cymru wrth iddo sgorio o’r smotyn, ac aeth cefnogwyr Cymru yn wyllt. Er ni lwyddwyd i gipio gôl arall, roeddwn ni wedi cael ein pwynt cyntaf!

 

 

Cymru 0 – Iran 2

Ar ôl i Iran ildio 6 gôl yn eu gêm agoriadol, roedd cefnogwyr Cymru yn eitha’ hyderus y gallen nhw gael canlyniad yn y gêm hon. Gyda lefelau cyffro yn cynyddu, dangoswyd y gêm mewn ysgolion a gweithleoedd ledled Cymru, oherwydd roedd ymlaen am 10 yn y bore. Yn anffodus, roedd gan Iran syniadau eraill. Nhw oedd amlwg y tîm gorau, a dim ond trwy gyfuniad o ffram y gôl a VAR, y gwrthodwyd gôl iddynt. Gwaethygodd y sefyllfa i Gymru ar ôl i Wayne Hennessey gael ei anfon o’r maes wrth iddo neidio’n wyllt i fewn i Taremi, chwaraewr cyntaf y twrnament i dderbyn cerdyn coch. Roedd bellach yn fater o hongian ymlaen am gêm gyfartal, ac achub pwynt. Bu bron i Gymru lwyddo, ond sgoriodd Iran ddwy gôl hwyr i dorri calonnau Cymru.

 

 

Lloegr 3 – Cymru 0

Ar ôl symud ymlaen i’r rownd 16 olaf yn y ddau Bencampwriaeth Ewropeaidd ddiwethaf, roedd y siawns o wneud hynny yn Qatar yn edrych yn anhebygol iawn. A dyna ddigwyddodd, wrth i ni golli yn erbyn Lloegr. Roedd y freuddwyd ar ben.  Er nad aeth yr ymgyrch fel y gobeithiwyd, bydd y grŵp hwn o chwaraewyr yn cael ei gofio fel y tîm a ddaeth â ni’n ôl i’r lle roedd holl gefnogwyr pêl-droed Cymru eisiau bod. Diolch bois.

 

 

 

Paul Jackson

Llyfrgellydd Adnau Cyfreithiol, Electronig a Derbyn

Detholiad o lyfrau Cymreig Nadoligaidd o’n casgliad

Collections - Postiwyd 12-12-2022

Gyda’r Nadolig yn agosáu, rydym wedi dewis nifer o deitlau o’n casgliad i rannu llawenydd yr ŵyl â chi:

 

Nadolig fel hynny / T. James Jones, 1988, 0863810969

Nadolig / W.H. Doane ; geiriau gan W. Waters, [19–?]

Nadolig Peppa / [gan Neville Astley a Mark Baker ; cyfieithiad gan Owain Siôn, 2011, 99125245802419

Nadolig Llawen: cerddi / gan Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones, 2007, 9781900437974

Gwerthfawr Drysor: Detholiad o garolau ac emynau’r Nadolig / Detholwyd a golygwyd gan E. Wyn James, 2019, 9781859949252

A Christmas story / by Richard Burton, 1964

A Christmas Carol Revisited / Phil Rowlands, [2012], 9781480075580

Christmas past at Nanteos / Janet Joel, 2014, 99418736502419

A Christmas collection from Wales / Chris S. Stephens, 2008, 9781843239796

 

 

Detholiad o deunydd Cymreig newydd (Tachwedd/Rhagfyr 2022)

Hanes a gweithiau cyffredinol

Trên Bach y Llan, The Little Train to Llan Ffestiniog : A History of the Festiniog & Blaenau Railway, the Area and its Community / Chris Jones, Lightmoor Press, 2022, 9781915069108

Grave tales from Wales: More ‘Stories in Welsh Stone’ / Geoff Brookes, Llyfrau Cambria Books, 2021, 9781838428921

Snowdonia Slate Trail (2nd edition) / Aled Owen, Rucksack Readers, 2022, 9781913817091

Ceiniogau’r Werin: Prifysgol Aberystwyth mewn 150 Gwrthrych = The pennies of the people: Aberystwyth University in 150 Objects / Prifysgol Aberystwyth, 2022, 9781739691707

The civil war in Wales: the scouring of the nation / Terry John, Pen and Sword History, 2021, 9781399004763

Pressed flowers of Herefordshire and the Welsh marches / John Gardner, ArtCircus Books, 2021, 9781914424045

Plas Newydd and the Manor of Talerddig / Melvin Humphreys, 2022

A history of the Vale of Montgomery from earliest times to the Black Death / John Davies, 2021

 

Bywgraffiadau

The Duke of Monmouth: life and rebellion / Laura Brennan, Pen and Sword History, 2022, 9781399075145

Manic Street Preachers: album by album / edited by Marc Burrows, White Owl, 2021, 9781399016216

In search of Ruritania: the life & times of Ivor Novello & My life / David Slattery-Christy, Christyplays Publications, 2022, 9781838136529

 

Barddoniaeth

The way taken: A Chinese Expedition / Dave Wynne-Jones, 2022, 9781916367418

Poems From California / Beau William Beakhouse, 2019

 

Gwyddoniaeth, addysg, a natur

Dewch i drafod / Manon Steffan Ros, Iola Ynyr, 2022, 9781783903726

Metamorffosis: an easy reader for Welsh learners / Franz Kafka, iawn.cymru, [2022], 9781527285798

Original Sin: Power, Technology and War in Outer Space / Bleddyn E. Bowen, Hurst & Company, 2022, 9781787387775

 

Plant

Mae gan Mam lwmp / Simone Baldwin, addasiad Cymraeg gan Rhys Iorwerth, 2022, 9781739164508

Fîra Farus a’r Wy Siocled Enfawr / Eira Moon, 2021, 9781916875524

The Witch-Hare / Irina Richards, 2022, 9781905038640

 

Ffuglen

Old Flames / by Dewi Griffiths, 2022, 9781999926335

Black Valley / By John Washbourne and Dewi Griffiths, 2022, 9781999926373

Valley Noir, Valley Blan / J.M. Bayliss, 2022, 9781739724511

 

Llywodraethol a gwledyddiaeth

Arolwg 2023 o etholaethau seneddol Cymry y Comisiwn Ffiniau i Gymru : Adroddiad y Comisiynwyr Cynorthwyol / Comisiwn Ffiniau i Gymru, 2022

Arolwg 2023 o Etholaethau Seneddol: Cynigion Diwygiedig = 2023 Review of Parliamentary Constituencies / Comisiwn Ffiniau i Gymru, 2022

 

 

Ian Evans

Rheolwr Cynllun Catalogio ar y Cyd

Y Fari Lwyd yn yr Archif

Casgliadau - Postiwyd 05-12-2022

  ‘Listen.

Mari Lwyd.

White as moonlight.

Rattle-bagged and broken backed.

Steed of winter who the pale men carry.
Who are those that squire you?

Slow and ceaseless, yard by yard, house by house, and door by door.’

(Torchwood, pennod 57, 21 Rhagfyr 2021)

 

Dechreuodd hyn fel sgwrs siawns yn y coridor; cefais fy ysbrydoli gan y Fari Lwyd oherwydd gorymdaith Aberystwyth ac oherwydd bod gennyf ddiddordeb mewn cymysgu chwedlau a chrefydd.

 

 

Dwy Mari Lwyd ar y Prom, Aberystwyth, Ionawr 2022. Llun: Rasma Bertz

 

Bydd yn rhaid i fy niddordeb mewn darganfod a ddaeth y Fari Lwyd o gyfnod pan oedd dau Bab yn dathlu Gŵyl yr Asyn canoloesol – a adeiladwyd ar sylfaen Mair Fendigaid; rôl bwysig yr asyn yn arwain at, ac yn bresennol ar, enedigaeth Crist; y ffoedigaeth i’r Aifft ac yn ddiweddarach, fel cludiant ar gyfer Iesu i Jerwsalem ar Sul y Blodau, aros am ddiwrnod arall.

Ac yn yr un modd, y cadarnhad o darddiad y Fari (yng ngeiriau’r arlunydd Robert Alwyn Hughes) fel ‘a figure of ritual significance for a pagan fertility [tradition] …celebrating the Celtic Goddess Rhiannon.’

Yn lle hynny, daeth baled gan Vernon Watkins yn ffocws i mi oherwydd ar ôl ei darllen, roedd yn sownd yn fy meddwl am ddyddiau. Ni ellir anwybyddu’r math hwnnw o argraff. Ond yn gyntaf: beth yw’r Fari Lwyd?

Mae hi’n ymddengys fel croes rhwng Gwasael a defod ‘Mummers’ – penglog ceffyl bygythiol, wedi’i addurno a’i gario’n wreiddiol gan chwe dyn (a enwyd fel dawnswyr Morys gydag un ffidlwr) o Noswyl Nadolig i Hen Galan, y Flwyddyn Newydd Cymreig ar 13 Ionawr yn ôl y calendr Julian.

Os yw’r Fari’n curo ar eich drws, mae rhaid cadwch eich ffraethineb a chanu penillion yn ôl i atal y gaseg rhag mynd i mewn. Yn anochel mae’r gwesteiwr yn colli, ac unwaith y tu mewn, darperir bwyd a diod.

 

 

Mary Pearce, Fernlea, Cerdyn Nadolig 1977

 

Yr eitem gyntaf i mi ddod o hyd iddi yn yr archifau oedd cyfansoddiad 1930 ar gyfer tympanau o’r enw ‘The Prelude to the Ballad of the Mari Llwyd [sic]’ gan Daniel Jones. Ceir dau gyfeiriad arall at yr un teitl, a hyd nes y trefnir y dyddiadau cyhoeddi amrywiol, mae’n hawdd tybio cafodd y darn hwn ei ysgrifennu i gyd-fynd ag addasiad teledu 1958 o gerdd Vernon Watkins o 1941 ‘The Ballad of the Mari Lwyd’ gan Douglas Cleverdon.

Fel tympanydd fy hun, roedd yn rhaid i mi edrych ar y ddalen gerddoriaeth. Ceir atodiad sy’n datgelu mai ‘music for approaching and retreating footsteps’, ond erys y dirgelwch ynghylch pam y cafodd ei ysgrifennu ac a fu erioed fwy na rhagarweiniad!

Am Vernon Watkins, mae llawer mwy ar gael: drafftiau gwreiddiol y faled (NLW MS 21263E) a dwy fersiwn o’r sgript deledu (NLW MS 22841), un gyda blaenlythrennau ar gyfer pob actor yn adrodd y penillion. Mae nodiadau yn nodi’r Byw fel William Squire, Rachel Thomas, Haydn Jones, Jeffrey Segal a William Eedle, tra bod y Meirw wedi’i leisio gan Aubrey Richards a Basil Jones.

Roedd Watkins, a ddisgrifiwyd gan ei ffrind agos Dylan Thomas fel ‘the most profound…Welshman writing poems in English’ yn torri codau yn yr Ail Ryfel Byd. Roedd wedi ei leoli ym Mharc Bletchley pan ysgrifennodd y faled hon, ffaith sydd o bosibl yn egluro ei ddelweddaeth ddaearyddol fywiog – hiraeth efallai; hefyd, y ffordd y mae Watkins yn troi persbectif tu mewn allan.

Gan adleisio’r defnydd o’r Fari Lwyd fel archdeip i’r Fendigaid Fair, defnyddir delweddaeth dywyllach ar gyfer y sanctaidd, tra bod golau yn cynrychioli elfennau o gymdeithas yr ydym fel arfer yn eu hystyried yn llai parchus h.y. yr alltudion, pechaduriaid a chableddus.

Ysgrifennodd Watkins fod ‘the singers came every year to my father’s house; and listening to them at midnight, I found myself imagining a horse’s skull decked with ribbons, followed and surrounded by all kinds of drunken claims and holy deceptions.’

I mi, mae hyn yn mynd yn ôl fwy at y Samhain Celtaidd, ond mae ‘the last breath of the year is their threshold, the moment of supreme forgiveness, confusion and understanding, the profane and sacred moment impossible to realize while the clock hands divide the Living from the Dead’ yn pwysleisio pa mor atgofus yw’r traddodiad Cymreig hwn.

 

 

Robert Alwyn Hughes, Braslun 46 allan o “Y Fari Lwyd, Cysgod y farch, Shadow of the Horse” (2004)

 

Mewn dogfen wedi’i llofnodi, ychwanegodd Watkins linellau i’w siarad gan ffigurau anweledig fel rhagarweiniad i’r prolog yn y fersiwn wedi’i dramateiddio. Mae’r stroffe/gwrthstroff hwn yn dechrau: ‘Come to me, Mother of God: in an hour the Old Year ends’ ac yn gorffen: ‘The beggar is holy within this hour, the inner and culprit divine, even as I bolt the door on those hands, the handcuffs fall upon mine.’

Mae Watkins yn plethu edefyn o ymwybyddiaeth gymdeithasol drwy gydol ei faled, yn union fel y mae’n defnyddio galwad ac ymateb – fel y cyfnewid o bennillion ar garreg y drws – i gyferbynnu’r grefyddol â phryderon seciwlar:

‘And the chattering speech of skull and spade

beckon the banished poor.

[Cytgan] Sinner and saint, sinner and saint

A horse’s head in the frost.

Conscience counts the cost.’

Ymatal sinistr: ‘Midnight. Midnight. Midnight. Midnight. Hark at the hands of the Clock’ i newid yr adnodau rhwng lleoliadau daearol a gweithgareddau gyda delweddaeth Feiblaidd – mae pennill 23: ‘Starving we come from Gruffydd Bryn’ hefyd yn sôn am gwrw Felinfoel yn erbyn pennill 27: ‘for she knows all from the birth of the Flood’.

Cawn ein tywys i arfordir chwerw Harlech gydag ateb y Byw:

‘White horses need white horse’s food:

We cannot feed a ghost.

Cast your Lwyd to the white spray’s crest

That pounds and rides the air.

Why should we break our lucky feast

For the braying of a mare?’

Ac i Hebron, Dolgellau, Cydweli – ‘we bring from Cader Idris, and those ancient valleys, Mari of your sorrows, Queen of the starry fillies…’ – troslun parhaus o’r gysegredig a’r halogedig.

Unwaith y bydd y darllenydd yn ymwybodol o’r gwahaniaeth rhwng y byw a’r marw, daw’r alwad a’r ymateb hyd yn oed yn gliriach: deuawd ysbrydion Mari yn proffesu bod yn sanctaidd, a’r trigolion byw yn datgan ei bod yn feddw a maleisus.

Mari Lwyd, Lwyd Mari:

A sacred thing

Betrayed are the living, betrayed the dead

All are confused by a horse’s head.’

Allan o’r holl eitemau yn y catalog – gan gynnwys llyfrau caneuon, trefniannau o garolau’r Fendigaid Fair, a chasgliadau o ganeuon ac alawon dawns, baled Vernon Watkins a gafodd yr effaith fwyaf arnaf yn bersonol, yn enwedig wrth bwysleisio’r frwydr am ddychwelyd y Goleuni yn yr adeg yma o’r flwyddyn.

 

Rasma Bertz

Gwirfoddolwr LlGC

 

 

 

Adfywiad Enwau Lleoedd Cymreig?

#CaruMapiau / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 25-11-2022

Isadeiledd Digidol Democrataidd ar gyfer Enwau Lleoedd Cymru

 

Cyhoeddodd Parc Cenedlaethol Eryri yn ddiweddar na fyddent bellach yn defnyddio’r enwau Saesneg ar gyfer Yr Wyddfa neu Eryri fel rhan o bolisi ehangach o fabwysiadu a diogelu enwau lleoedd Cymraeg ar draws y parc.

 

Mae’r symudiad hwn wedi’i groesawu’n gyffredinol, yn enwedig yma yng Nghymru, a bydd ymgyrchwyr yn gobeithio y bydd y symudiad beiddgar hwn yn grymuso eraill i wneud yr un peth. Mae sôn eisoes o dîm pêl-droed Cymru yn mabwysiadu’r defnydd o ‘Cymru’ yn y ddwy iaith ar ôl Cwpan y Byd.

 

Mae symudiadau o’r fath nid yn unig yn helpu i ddiogelu’r Gymraeg ond hefyd i’w dathlu, ac i annog ymwelwyr i ymgysylltu â hi.

 

Mae penderfyniad Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn codi rhai cwestiynau diddorol. A fydd gweddill y sector twristiaeth yn dilyn eu hesiampl? Neu a fyddan nhw’n parhau i ddefnyddio’r enw Saesneg? A beth am addysg, y cyfryngau a’r llywodraeth? Gad i ni weld.

 

Fel ceidwaid gwybodaeth, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn naturiol wedi buddsoddi mewn archifo cofnodion swyddogol, ond o ran enwau lleoedd Cymraeg, nid yw’r cofnodion swyddogol hyn bob amser yn adlewyrchu diwylliant ac arferion poblogaidd ac yn sicr maent yn araf i ymateb i newidiadau yn nisgwyliadau’r cyhoedd.

 

O ran mapio, dim ond y fersiynau Saesneg o enwau lleoedd Cymraeg y mae llawer o fapiau swyddogol yn eu defnyddio. Er enghraifft, er gwaethaf ymdrech sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Arolwg Ordnans yn dal i fod yn brin o lawer o ddata am y Gymraeg. Mewn ymdrech i gefnogi’r galw cynyddol am fapio a data Cymraeg mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gweithio ar ddatblygu data agored a datrysiadau mapio ar gyfer enwau lleoedd Cymraeg. Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Mapio Cymru a Menter Iaith Môn rydym yn gweithio efo setiau data torfol a lywodraethir gan y gymuned, sef Wikidata a Open Street Map, i helpu i ddatblygu datrysiadau mapio Cymraeg. Rydym wedi defnyddio ein harbenigedd technegol i helpu i alinio’r ddwy ffynhonnell ddata enwau lleoedd Cymraeg, ac wedi gweithio gyda data agored Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg i gynyddu cyfoeth ac amrywiaeth y data.

 

 

Ac mae’r setiau data hyn yn caniatáu i’r gymuned benderfynu ar ffurf enwau lleoedd. Ar Wicipedia a Wikidata mae enwau yn cael eu newid neu eu mabwysiadu gan broses ddemocrataidd agored – eisoes mae trafodaeth fywiog ar Wicipedia Saesneg am newid teitl yr erthygl ar Yr Wyddfa. Ond mae’r setiau data hefyd yn cynnig hyblygrwydd, gall enw gael llawer o amrywiadau, gan gynnwys enwau ‘swyddogol’ lluosog, a gellir nodi enwau gwahanol ar gyfer cyfnodau amser gwahanol. Yna mae defnyddwyr y data yn cael dewis pa fersiwn y maent am ei gyflwyno ar eu map. Yn ddiweddar mae’r BBC a Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r data agored hwn i wasanaethu mapiau iaith Gymraeg i’r cyhoedd

 

 

Rydym hefyd wedi defnyddio’r data agored cyfoethog hwn i sicrhau bod gan Wicipedia Cymraeg erthyglau sylfaenol am (bron) holl drefi a phentrefi Cymru. Yn ddiweddar fe wnaethom greu dros 800 o’r rhain ac rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i gyfoethogi cynnwys Cymraeg am ein lleoedd. Mae un o’n gwirfoddolwyr wedi creu dwsinau o erthyglau am strydoedd ac adeiladau hanesyddol Wrecsam ac rydym yn cynllunio digwyddiad golygu mewn partneriaeth â Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru i wella cynnwys Wicipedia ymhellach am enwau lleoedd Cymru, eu hanes a’u hystyr. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, gallwch ddarganfod mwy yma.

 

 

Byddwn hefyd yn gweithio gyda Menter Iaith Môn i ddysgu plant ysgol sut i ychwanegu gwybodaeth am eu cymuned at Wicipedia yn Gymraeg, ac i gasglu clipiau sain o blant yn ynganu eu henwau lleoedd lleol. Bydd y rhain hefyd ar gael am ddim i bawb ar Wiki.

 

Mae’r prosiect hwn yn ein galluogi i wneud mwy nag archifo a rhoi mynediad i gofnodion. Mae’n  ymwneud ag ymgysylltu â’r cyhoedd a chefnogi datblygiad seilwaith digidol ar gyfer enwau lleoedd Cymraeg. Bydd hyn hefyd yn ein galluogi i feddwl am sut allwn ni gyflwyno ein casgliadau yng nghyd-destun lle ac amser. Allbwn arall o’n gwaith eleni fydd map prototeip ar gyfer gweld ein casgliadau yn y Gymraeg a’r Saesneg, a fydd yn gam cadarnhaol tuag at ddatblygu datrysiad chwilio a darganfod gwirioneddol ddwyieithog, gyda’r hyblygrwydd i addasu’n gyflym i newidiadau positif megis yr ailenwi diweddar o’r Wyddfa.

 

Jason Evans

Rheolwr Data Agored

 

Tagiau: , , ,

Y Llyfrgell Genedlaethol a Chwpan y Byd

Casgliadau / Collections - Postiwyd 17-11-2022

Gyda Chwpan y Byd yn Qatar ar y gorwel, mae’n werth cofio bod gan y Llyfrgell Genedlaethol nifer o eitemau sy’n gysylltiedig â Chwpan y Byd a phêl-droed y gall y cyhoedd eu darllen, eu gweld a’u mwynhau yn y Llyfrgell.

Cwpan y Byd Qatar yw’r ail dro yn unig i Gymru lwyddo i sicrhau lle i gystadlu yn y gystadleuaeth hon, a’r tro diwethaf iddynt lwyddo i wneud hynny oedd yng Nghwpan y Byd 1958 yn Sweden. Mae gan y Llyfrgell nifer o eitemau o’r ymgyrch honno yng Nghwpan y Byd, gan gynnwys rhaglenni o’r gemau, adroddiadau Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyrraedd y rowndiau cymhwyso, a’r twrnamaint ei hun, ac i rai sy’n gallu darllen Swedeg mae’r llyfr swyddogol a gyhoeddwyd yn Sweden yn fuan wedi’r twrnamaint hefyd ar gael.
Mae gennym hefyd nifer o fywgraffiadau wedi ei cyhoeddi gan chwaraewyr allweddol fel John Charles, Cliff Jones a Jack Kelsey, ac mae modd dod o hyd i adroddiadau papur newydd o’r gemau a’r wythnosau’n arwain i fyny at y gystadleuaeth yn ein casgliad papurau newydd.

O ran gweithiau mwy diweddar sy’n gysylltiedig â thîm pêl-droed Cymru a Chwpan y Byd, mae gan y Llyfrgell baentiadau o aelodau’r tîm gan Owain Fôn Williams, rhaglenni gemau diweddar y tîm cenedlaethol, bywgraffiadau pêl-droedwyr blaenllaw o Gymru, llyfrau ar hanes tîm pêl-droed Cymru a llyfrau ar hanes Cwpan y Byd. I’r rhai ohonom a oedd yn mwynhau casglu sticeri Panini yn ein hieuenctid, mae’r Llyfrgell hefyd yn dal ffacsimili a gyhoeddwyd yn ddiweddar o albymau sticeri Panini wedi’u cwblhau o bob Cwpan y Byd o 1970 ymlaen.

Felly, rhwng gwylio’r gemau a chefnogi eich tîm cenedlaethol, beth am gymryd y cyfle i ymweld â’r Llyfrgell ac archwilio peth o’r deunydd sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth yn ein casgliadau. Bydd detholiad o’r eitemau yn cael eu harddangos yn y Llyfrgell yn ystod cyfnod Cwpan y Byd, a gellir pori ein casgliadau ar-lein (darganfod.llyfrgell.cymru) ac yn yr Ystafell Ddarllen.

Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig 2022

Casgliadau - Postiwyd 14-11-2022

Erbyn hyn mae darlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig yn rhan o galendr y Llyfrgell Genedlaethol. Ar ddydd Gwener cyntaf mis Tachwedd, mae aelodau Pwyllgor Ymgynghorol yn cwrdd ac mae’r darlith yn dilyn am 5.30 yn. Dyma’r tro cyntaf ers 2019 i ni gynnal y ddarlith yn y Llyfrgell; roedd yn rhaid cynnal trafodaeth panel ar-lein yn 2020 ac yn 2021 traddododd yr Athro Paul O’Leary ei ddarlith ar Lloyd George yn y Senedd yng Nghaerdydd.

 

 

Huw Edwards yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Y newyddiadurwr Huw Edwards oedd y darlithydd eleni. Mae Huw yn wyneb a llais cyfarwydd ers y 1980s ar y BBC, a’i waith fel gohebydd a lle Cymru yn  y newyddion a gwleidyddiaeth Prydain oedd y pwnc. Edrychodd Huw yn ol ar yr 1980au gan sylwi yn arbennig a sut roedd y BBC wedi adrodd ar lansiad S4C yn 1982 a’r sylw ar faterion Cymreig yn Senedd y DG gan gymharu a’r cyfnod ers datganoli. Soniodd am rai o ffigyrau amlwg yn gwleidyddiaeth Cymru gynnwys Jim Griffiths, Megan Lloyd George a Syr Wyn Roberts, y dadl Cymreig cyntaf yn Senedd y DG, datblygiadau fel sefydlu Uwch Bwyllgor Cymreig, Pwyllgor Materion Cymreig,  penodi Ysgrifennydd Gwladol i Gymru a sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

 

Huw yn cyflwyno yn y Drwm

 

Fel rhan o’r digwyddiadau roedd arddangosfa dros dro yn ystafell Summers o archifau 3 newyddiadwr amlwg Cymru sef Wynford Vaughan Thomas, Patrick Hannan a Gareth Vaughan Jones. Fel Huw Edwards, roedd Wynford Vaughan Thomas wedi cyflwyno rhaglenni’r BBC ar ddigwyddiadau mawr Prydain gan gynnwys angladdau brenhinol, Coroni Brenhiness Elizabeth II a Gwyl y Cofio yn Neuadd Albert.

 

 

Yr arddangosfa dros dro, a Huw efo pennaeth yr Archif Wleidyddol Gymreig, Rob Phillips

 

 

Roedd trafodaeth diddorol yn dilyn y darlith ac o fewn y dyddiau nesaf bydd y testun ar dudalennau gwe yr Archif Wleidyddol Gymreig.

 

Rob Phillips

Yr Archif Wleidyddol Gymreig

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog