Tag Archives: Covid19

Cyfweliadau Artistiaid

Darganfod Sain - Postiwyd 16-06-2021

Dyma’r blog olaf gan ein grŵp o fyfyrwyr MA Prifysgol Aberystwyth sy’n astudio Archifau a Rheoli Cofnodion sydd wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o’r prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain i gatalogio recordiadau o’r archif Treftadaeth a Chyfnewid Diwylliannol yn Butetown, Caerdydd.

 

 

Y recordiad diweddaraf i mi ei gatalogio oedd sgwrs gan arlunydd lleol Jack Sullivan (1925-2002) a weithiodd fel heddwas yn ardal Tiger Bay rhwng 1948 a 1955, fel Plismon Trafnidiaeth Prydain. Cerddodd Jack yr ardal, yn aml yn y nos, gan batrolio dociau Caerdydd. Wrth iddo gerdded trwy strydoedd y ddinas, gwnaeth ryw 800 o frasluniau o’r bobl a’r lleoedd a welodd.

Mae’r tâp yn cynnwys Jack Sullivan yn disgrifio’r darluniau o’i gyfnod yn Kenya lle bu’n gweithio fel heddwas. Mae’r paentiadau’n canolbwyntio’n bennaf ar ferched llwythol mewn gwisg a gemwaith traddodiadol. Mae Jack Sullivan yn darparu sawl stori am ei brofiadau o blismona yn Kenya a straeon o amgylch y paentiadau gan gynnwys sawl stori waedlyd am ryfela, ysbeilwyr gwartheg a hyd yn oed straeon am gred pobl mewn dewiniaeth. Mae gwrando ar y recordiad yn eich gwneud chi’n genfigennus o’r bywyd cyffrous y mae wedi’i brofi a’r bobl a’r lleoedd y mae wedi’u gweld (teimlad a gafodd ei ddwysáu o ystyried y cyfyngiad presennol rydyn ni’n byw ynddo!). Dyma deimlad rydw i wedi’i brofi yn gwrando ar lawer o’r recordiadau ac sydd wedi fy arwain i’r casgliad bod gan bawb stori i’w hadrodd.

Gan adlewyrchu ar y gyfres arall o recordiadau rydym wedi catalogio, un peth a’m tarodd oedd amseriad y cyfweliadau hyn. I mi mae’r recordiadau, yn enwedig cyfweliadau 1987, yn adrodd stori sy’n gyffredin i lawer o leoedd yn y DU yn yr ugeinfed ganrif: y symud o gymdeithas ddiwydiannol i gymdeithas ôl-ddiwydiannol. Profodd y bobl a gafodd eu cyfweld y dociau yn eu hanterth pan wnaeth Glo o’r Cymoedd ei wneud yn un o’r dociau prysuraf yn y byd, yna gweld ei ddirywiad, ac ar adeg y cyfweliadau, ailddatblygiad y dociau. Mae hon yn stori sy’n cael ei hadlewyrchu ledled y DU yn yr ugeinfed ganrif, y symudiad o gymdeithas ddiwydiannol i gymdeithas ôl-ddiwydiannol a byddai stori debyg yn dod i’r amlwg o amgylch dociau Lerpwl a Llundain, lle mae’r ddwy ardal wedi gweld prosiectau ailddatblygu ac adfywio enfawr yn ystod hanner olaf yr ugeinfed ganrif.

Yn hynod arwyddocaol hefyd yw’r ffaith fod y recordiadau hyn yn adnodd amhrisiadwy o ran astudio cysylltiadau hiliol ym Mhrydain yn yr ugeinfed ganrif. Fel pwnc sy’n hynod berthnasol yn y math o ddadleuon rydyn ni’n eu cael fel gwlad; mae’r tapiau hyn yn adrodd hanes profiadau un o gymunedau aml-ethnig cynharaf Prydain ac felly maent yn adnodd gwych wrth inni symud tuag at gymdeithas fwyfwy amrywiol.

Digwyddodd y prosiect hwn gyda’r pandemig fel cefndir sydd wedi peri sawl her, y mwyafrif ohonynt yn logistaidd. Fodd bynnag, roedd natur ddigidol y deunydd a gatalogiwyd gennym yn ei wneud yn addas iawn mewn pandemig pan rannwyd ein grŵp o Ynys Manaw i Gaint a’n gorfodi i weithio o bell i raddau helaeth. Ar gyfer rhan gyntaf y prosiect, gwnaethom gynnal ein cyfarfod ar Dimau Microsoft, nad oedd yn ddelfrydol, ond wrth edrych nôl 10 i 15 mlynedd ni fyddai technoleg o’r fath wedi bod yn ddigon soffistigedig i ganiatáu inni symud ymlaen. Ar ôl i ni gyd ddychwelyd i Aberystwyth a gallu cwrdd yn bersonol, gwelsom fod y cyfarfod yn rhedeg yn llawer mwy effeithlon, ac yn fwy pleserus.

O safbwynt personol, mae’r prosiect hwn wedi bod yn brofiad dysgu defnyddiol iawn. Profiad ymarferol eithaf cyfyngedig o gatalogio oedd gen i cyn hyn. Cefais beth profiad catalogio trwy brofiad gwaith blaenorol, ond roeddwn yn anghyfarwydd â chysyniadau fel safoni a rhyngweithredu (gallu systemau cyfrifiadurol neu feddalwedd i gyfnewid a defnyddio gwybodaeth) cyn dechrau fy nghwrs. Mae’n bwysig iawn, wrth gwrs, i fetadata fod yn fanwl, cywir ac yn gyson, a theimlaf y gallwch ddysgu llawer o’r broses o’i greu a chael eich cyfoedion i wirio’ch gwaith. Roedd y broses barhaus o adolygu yn fuddiol iawn gan ei bod yn troi’r hyn a allai fod yn ymarfer unigol yn brofiad dysgu cydweithredol. Teimlaf hefyd fy mod wedi dysgu mwy am agweddau mwyaf sensitif catalogio. Roedd gorfod gwrando ar bob recordiad wrth ystyried sut y gallai rhyddhau unrhyw wybodaeth effeithio ar bynciau data adnabyddadwy yn dod â chyfrifoldeb y rôl adref i mi. Ar y cyfan, rwy’n teimlo bod y prosiect wedi fy ngadael mewn gwell sefyllfa i chwilio am waith yn y sector ac wedi rhoi profiad ymarferol cadarnhaol i mi siarad amdano mewn unrhyw gyfweliadau swydd.

Yn olaf, gan mai hwn yw ein blog olaf, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am roi’r cyfle inni fod yn rhan o’r prosiect hwn ac am ddarparu cefnogaeth ac adborth parhaus inni.

Michael Holland, Myfyriwr MA Archifau a Rheoli Cofnodion, Prifysgol Aberystwyth

 

Ail-fyw cyffro Ymgyrch Ewro 2016 Cymru trwy Newsbank

Collections - Postiwyd 11-06-2021

Mae 5 mlynedd wedi mynd heibio ers i dîm pêl-droed Cymru a’i cefnogwyr brofi twrnament bythgofiadwy yn Ewro 2016.

Wedi absenoldeb o 58 mlynedd o brif bencampwriaethau pêl-droed, rhuodd y wal goch yn ystod y gemau.

Gyda phencampwriaeth Euro 2020 yn cychwyn heno ar ôl cael ei ohirio llynedd, mae’r tîm yn llawn gobaith y gallant efelychu ymdrech arwrol 2016. Dyma grynodeb cyflym o’r gemau anhygoel hynny trwy danysgrifiad Newsbank y Llyfrgell (cliciwch ar y lincs i ddarllen yr adroddiadau).

 

 

Cymru 2 – Slofacia 1 – “Dragons do roar!”

Roedd y cyffro yn ddealladwy o uchel ymhlith cefnogwyr Cymru. A allai’r tîm gario drosodd eu llwyddiant o’r rowndiau rhagbrofol? Cawsom yr ateb hwnnw o fewn y 10 munud cyntaf. Yn gyntaf, fe wnaeth Ben Davies yn wych i glirio’r bêl oddi ar y llinell gôl i rwystro Slofacia, ac yn fuan ar ôl hynny, sgoriodd Gareth Bale gic rydd arbennig i roi Cymru ar y blaen.

Er i Slofacia ei gwneud hi yn  gyfartal yn yr ail hanner, sgoriodd Hal Robson-Kanu y gôl fuddugol gyda 9 munud o chwarae ar ôl ar y cloc gan  roi Cymru ar frig y grŵp, a hel cefnogwyr Cymru yn wirion o hapus. Cychwyn perffaith!

Lloegr 2 – Cymru 1: “England grab last-gasp winner and break Welsh hearts.”

Roedd Cymru yn hyderus o flaen y gêm yn erbyn ein cymdogion, ac roedd pethau’n edrych yn addawol ar ôl i Gareth Bale sgorio cic rydd o bell ar drothwy hanner amser. Fodd bynnag, ar ôl i Loegr daro yn ôl yn gynnar yn yr ail hanner, fe sgoriodd Sturridge yn yr eiliadau olau i roi’r fuddugoliaeth i’r Saeson, ac o ganlyniad, symud Cymru i’r ail safle yn y grŵp.

Rwsia 0 – Cymru 3: “Bale & Co thrash Russia in magnificent display as the Welsh fairy tale gathers momentum”

Os oedd y tîm yn teimlo unrhyw bwysau ynglŷn â symud ymlaen o gamau’r grŵp, nid oedd yn amlwg wrth iddynt drechu Rwsia.  Sgoriodd Ramsey a Taylor yn yr hanner cyntaf i roi Cymru ar y blaen yn gyfforddus, cyn i Bale sgorio’r trydydd yn yr ail hanner, gan ddod yn brif sgoriwr y bencampwriaeth. Gyda Lloegr dim ond yn cael gêm gyfartal yn erbyn Slofacia, golygai  hyn mai Cymru oedd buddugwyr y grŵp.

 

 

Cymru 1 – Gogledd Iwerddon 0: “Cruel blow as own goal sends Wales into fantasy land.”

Gyda’r ddau dîm yn chwarae eu gêm ‘knock-out’ gyntaf ers Cwpan y Byd ym 1958, roedd cefnogwyr ac yn wir chwaraewyr y ddau dȋm ar bigau drain. Prin oedd y cyfleoedd, ac yn y pen draw penderfynwyd yr ornest pan groesodd Bale i mewn i’r cwrt cosbi, lle rwydodd Gareth Mcauley i’w gôl ei hun. Nid bod unrhyw gefnogwr Cymru yn poeni rhyw lawer, roedd rownd yr wyth olaf yn galw!

Cymru 3 – Gwlad Belg 1: “Wales unleash the Dragon to roast Belgium and seal semi”

Heb os, yr hyn a ddaeth nesaf ydy’r noson enwocaf yn hanes pêl-droed Cymru. Cyrhaeddodd Cymru Lille gyda’r siawns o fedru mynd un cam ymhellach na thîm enwog 1958. Safai tîm Gwlad Belg rhwng tîm Cymru a’r freuddwyd o gyrraedd y rownd gynderfynol.  Dyma dȋm roedd Cymru eisoes wedi ei wynebu a’i threchu yn y rowndiau rhagbrofol. Fodd bynnag, Gwlad Belg oedd y ffefrynnau i ennill yr ornest. Cwta chwarter awr i mewn i’r gêm, aeth y Belg ar y blaen trwy ergyd anhygoel Nainggolan o 25 llath. Arhosodd Cymru yn y gêm, a sgoriodd y capten Ashley Williams i wneud pethau’n gyfartal ar yr hanner awr.

Yna cawsom ein trin i gôl y bencampwriaeth , pan ar 55 munud, chwalodd Robson-Kanu amddiffynwyr Gwlad Belg gyda troead bendigedig yn y cwrt cosbi, ac yna gosod y bêl yn y gornel isaf y rhwyd . Aeth cefnogwyr Cymru yn wallgo, boed yn gwylio’r gêm yn fyw yn y stadiwm neu’r miloedd fu’n gwylio’r gêm mewn tai a thafarndai trwy’r wlad.  Parhaodd Gwlad Belg i wthio am y gôl nesaf, ond seliodd Cymru fuddugoliaeth enwog gyda pheniad syfrdanol Sam Voakes. Roedd Cymru wedi cyrraedd y rownd gynderfynol!

Portiwgal 2 – Cymru 0: “Welsh fairytale ends as Cristiano Ronaldo takes Portugal to Euro 2016 final”

Roedd ysbryd cefnogwyr Cymru  yn uwch nag erioed ar ôl gêm Gwlad Belg, ac uchel oedd y gobeithion y byddai’r tȋm yn cyrraedd y rownd derfynol yn y Stade de France. Yn anffodus nid dyna a fu, roedd gan Bortiwgal syniadau eraill. Dan arweiniad Cristiano Ronaldo, cafwyd perfformiad cadarn a Phortiwgal enillodd eu lle yn y rownd derfynol, gyda Ronaldo yn sgorio eu gôl gyntaf ac yn helpu Nani i sgorio’r ail.

Roedd y freuddwyd drosodd.

Er i dȋm Cymru syrthio ar y rhwystr olaf, roedd y tîm wedi sicrhau y byddent yn cael eu hystyried am byth yn arwyr y gêm, fel yr oedd yn amlwg wrth i filoedd o bobl leinio strydoedd Caerdydd i’w croesawu adref.

“UEFA honours Welsh fans‘ inspiring passion”

Aeth ymgyrch Euro 2016 y tu hwnt i unrhyw un o’n breuddwydion gwylltaf, a sicrhaodd tîm Cymru na fyddai’r un ohonom byth yn anghofio’r 25 diwrnod rhyfeddol ac anhygoel hyn. Dyma obeithio am fwy o’r un peth eleni. Pob lwc hogia!!!

Diolch i Siôn England a Deiniol Glyn am y lluniau.

 

Paul Jackson

Llyfrgellydd Adnau Cyfreithiol, Electronig a Derbyn

Catalogio Hanesion Llafar Tiger Bay ar gyfer y Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain: Casgliad yr Ail Ryfel Byd 

Darganfod Sain - Postiwyd 09-06-2021

Ochr yn ochr ag ailagor Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae’r cyfnod ar ôl y Pasg wedi gweld dychweliad i ddysgu wyneb i wyneb ym Mhrifysgol Aberystwyth. Felly mae ein grŵp o fyfyrwyr MA sy’n astudio Archifau a Rheoli Cofnodion (Adran Astudiaethau Gwybodaeth) wedi bod yn catalogio recordiadau sain o gasgliad ‘Tiger Bay – Cyfnewid Treftadaeth a Diwylliant’ fel rhan o’r fenter Datgloi Ein Treftadaeth Sain ledled y wlad.

Yn ddiweddar rydym wedi bod yn catalogio cyfres o recordiadau sain sy’n cynnwys cyfweliadau â thrigolion o Butetown, Caerdydd am eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cynhaliwyd y cyfweliadau yn gynnar yn y 2000au ac maent yn cynnwys adroddiadau o fywyd teuluol, addysg a gwaith yn Butetown a thu hwnt, gan gynnwys atgofion am wasanaeth amser rhyfel. Mae rhai o’r themâu yr ymdriniwyd â hwy yn gyfarwydd yn y cof cyfunol cenedlaethol o Brydain adeg y rhyfel megis cyrchoedd awyr, dogni, a dathliadau Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (‘VE’). Ac eto mae’r atgofion a ddisgrifir hefyd wedi’u gwreiddio’n unigol yn y gymuned leol. Felly, ymhlith straeon am ddogni mae atgofion o’r bwyd a gludwyd adref gan forwyr lleol a’i rannu ymhlith cymdogion. Mae adroddiad o’r berthynas a ffurfiwyd rhwng preswylwyr yn y gymuned leol, unigryw ac amrywiol wedi’u cydgymysgu â’r gwahaniaethu a wynebent hyd yn oed yn ystod y rhyfel.

Mae’r casgliad yn tynnu sylw at werth nid yn unig hanesion llafar, ond hanesion llafar yn y gymuned yn benodol. Gallwch glywed am yr un digwyddiadau a adroddir gan gymdogion ac aelodau o’r un teulu sy’n datgelu sut mae profiadau a rennir yn cael eu cofio’n amrywiol. Mewn achosion eraill, megis cyfweliadau â brodyr a chwiorydd am eu profiadau o gyrchoedd bomio, mae’r disgrifiadau manwl a roddir yn hynod yn eu tebygrwydd ac yn awgrymu eu bod efallai’n atgofion sydd wedi’u hail-adrodd lawer gwaith mewn blynyddoedd ers hynny. Fel y soniwyd yn ein blogiau blaenorol, mae’r recordiadau hyn yn rhan o gasgliad ehangach a sefydlwyd gan breswylwyr a gyfwelodd â’i gilydd am eu treftadaeth leol. Felly mae’r recordiadau, a’r myfyrdodau o’r amser rhyfel sydd ynddynt, yn cynrychioli deialog cymaint â safbwyntiau unigol.

Yn ogystal â chynnwys hynod ddiddorol y recordiadau, mae ein tîm wedi bod yn rhan o benderfyniadau ynghylch sut y dylid eu catalogio. Pan fydd catalogwyr llyfrgelloedd yn dosbarthu llyfrau, byddant yn disgrifio gwybodaeth lyfryddol allweddol am ei nodweddion, megis yr awdur, teitl, dyddiad cyhoeddi a rhif silff. Rydym yn galw’r wybodaeth hon yn ‘metadata’ oherwydd ei bod yn ddata sy’n disgrifio data arall (h.y. data am y llyfr, sydd ei hun yn ddata!). Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chynnwys mewn cofnod catalog a fydd yn helpu staff a defnyddwyr y llyfrgell i ddod o hyd i’r deunyddiau a’u cyrchu. Ar gyfer recordiadau sain, gall cofnod y catalog gynnwys gwahanol elfennau metadata, megis gwybodaeth am y perfformwyr, yr iaith (ieithoedd) a siaredir, a nodiadau ar ansawdd sain. Enghraifft arall o’r meysydd metadata rydyn ni’n eu creu yw testun y recordiadau. Mae hwn yn faes pwysig gan ei fod yn dangos i ddefnyddwyr beth yw pwrpas y recordiad sain. Yn hanfodol, bydd dosbarthiadau pwnc hefyd yn dylanwadu ar y gallu i ddefnyddwyr chwilio am yr eitemau mewn catalog ar-lein a’u darganfod, gan eu bod yn un o’r elfennau a ddefnyddir i boblogi canlyniadau chwilio.

Fodd bynnag, nid yw dosbarthiad y pwnc yn benagored. Yn gyffredinol, mae catalogwyr wedi’u cyfyngu i ddefnyddio set benodol o labeli neu eiriau a bennwyd ymlaen llaw (“geirfaoedd rheoledig”) sydd wedi’u cynnwys mewn safon gatalogio benodol. Mae safon gatalogio yn darparu arweiniad ar y metadata i’w gynnwys mewn cofnod catalog a sut y dylid disgrifio a fformatio’r metadata hwnnw. Ac eto, gall yr opsiynau sydd ar gael fod yn eithaf helaeth o hyd a gofyn am feddwl yn ofalus. Er enghraifft, pe baech yn dosbarthu recordiad o hanes llafar am brofiadau plentyndod unigolyn o gyrchoedd awyr yn Butetown, pa labeli y gallech eu defnyddio? A fyddech chi’n meddwl amdano fel cyfrif am gyrchoedd awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn benodol? Efallai y byddwch yn tynnu cysylltiadau amserol at ‘amddiffyn sifil’ a’r ‘Blitz’, neu’n fwy rhanbarthol i ardal ‘Tiger Bay’. Yn fwy eang fyth, efallai y byddwch yn categoreiddio’r cyfrif fel un o ‘plentyndod’, ‘cymuned’, neu ‘fywyd teuluol’. Mae’r rhain yn frasamcanion o llond llaw o’r dosbarthiadau pwnc sydd ar gael ar gyfer catalog Sain a Delwedd Symudol y Llyfrgell Brydeinig (SAMI) y mae’r recordiadau Datgloi Ein Treftadaeth Sain yn rhan ohonynt. Felly mae ein gwaith wedi gofyn i ni feddwl yn ofalus pa labeli sy’n cynrychioli cynnwys y recordiadau orau, ac edrych y tu hwnt i’n dehongliadau goddrychol i ddychmygu eu defnyddioldeb a’u diddordeb ar gyfer ystod eang o wrandawyr ac ymchwilwyr.

Fel rhan o’n gwaith cwrs ehangach, mae ein tîm wedi dechrau creu catalog archif o’r recordiadau sain i ddangos sut y gallent gael eu hymgorffori fel adnodd darganfod archifol. Yn yr un modd â chatalog llyfrgell, mae adnodd darganfod yn helpu pobl i ddod o hyd i eitem, grŵp o eitemau neu gasgliad penodol mewn archif. Ac eto, oherwydd bod archifwyr yn defnyddio safonau catalogio gwahanol i’r rhai a ddefnyddir gan lyfrgellwyr, gall gwahanol eirfaoedd rheoledig fod yn berthnasol. Mae ein tîm yn defnyddio safon ‘Dublin Core’ sy’n amlinellu pymtheg elfen o fetadata i’w cynnwys mewn unrhyw ddisgrifiadau a ddefnyddir i greu adnodd darganfod. Mae safon Dublin Core yn cefnogi defnyddio ‘Penawdau Pwnc Llyfrgell y Gyngres’ i ddosbarthu pwnc, sy’n thesawrws awdurdodol o benawdau pwnc a gynhelir gan Lyfrgell y Gyngres. Gan y gall y penawdau sydd ar gael fod yn wahanol i’r rhai a ddefnyddir yng nghatalog SAMI, gall catalogio felly ail-gydlynu cynnwys y recordiadau lle nad yw’r opsiynau sydd ar gael yn gorgyffwrdd yn daclus. Gyda’r profiad hwn daw gwerthfawrogiad o’r dryswch bob dydd a wynebir gan lyfrgellwyr ac archifwyr a’r ‘ddwy het’ a wisgir gan y rhai sy’n gweithio ar draws sawl safon metadata.

Trwy gydol ein prosiect mae ein tîm wedi elwa o arweiniad aelodau staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd wedi rhannu eu harbenigedd ynghylch catalogio yn unol â safon amgodio MARC, sy’n sicrhau y bydd ein cofnodion yn ddarllenadwy ac yn gallu eu hatgynhyrchu yng nghatalogau’r llyfrgell ei hun a chatalogau llyfrgelloedd eraill. Maent wedi ein dysgu am y materion hawliau a sensitifrwydd a allai effeithio ar ddefnyddwyr yn cael mynediad i’r deunydd. Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi dysgu am y broses ddigido recordiadau sain a materion cadwraeth sy’n ymwneud â recordiadau sain a gedwir mewn fformatau corfforol a digidol. Felly bydd y wybodaeth a gawsom trwy ein cydweithrediad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ein cefnogi nid yn unig wrth gwblhau ein prosiect ond trwy gydol ein gyrfaoedd archifol gobeithiol yn y dyfodol.

 

Richard Stone. Cymuned Fwslimaidd – Bywyd Bob Dydd yn Butetown, Caerdydd, Cymru, y DU, 1943. Cyrchwyd: 5 Mai 2021.
Ar gael yn: https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Muslim_Community-_Everyday_Life_in_Butetown,_Cardiff,_Wales,_UK,_1943_D15328.jpg
Trwydded: Parth cyhoeddus.

 

Gemma Evans, Myfyriwr MA Archifau a Rheoli Cofnodion, Prifysgol Aberystwyth

Dreigiau bach a moch prydferth: Addurniadau mewn llawysgrifau Cymreig canoloesol

Casgliadau - Postiwyd 07-06-2021

Yn ystod y cyfnod clo, mae llawer ohonom ni efallai wedi cymryd y cyfle i fod yn fwy creadigol, trwy gelf, crefftau, neu hyd yn oed trwy ddysgu sgil newydd fel chwarae offeryn cerdd. Ond pe buasech yn ysgrifwr canoloesol, efallai eich unig gyfle i sianelu’ch Van Gogh mewnol oedd trwy ychwanegu rhywfaint o liw i’r llawysgrif roeddech chi’n gweithio arno. Roedd ysgrifennwyr yn gallu ychwanegu addurniadau mewn nifer o ffyrdd, felly am ysbrydoliaeth artistig beth am edrych ar rai o’r llawysgrifau i’w gael yn ein casgliadau digidol?

Roedd llawysgrifau fel arfer yn cael eu gwneud o groen dafad neu groen gafr, a gafodd ei lanhau, ei ymestyn, a’i sychu i greu taflenni memrwn. Byddai’r taflenni hyn yn cael eu plygu i greu plygion; gwnaeth pedair taflen wyth tudalen (neu bifolia), pob un ag ochr recto a verso yn dibynnu ar yr ochr cnawd neu wallt y memrwn. I greu cyfrol, byddai nifer o blygion yn cael eu rhwymo at ei gilydd. Roedd hon yn broses drud a gymerodd lawer o amser, ac roedd yr angen i osgoi gwastraff, a’r amherffeithrwydd naturiol y deunydd, yn golygu mai anaml y byddai tudalennau’n gyson. Felly cyn ysgrifennu ar dudalen, fel arfer roedd yr ysgrifwr yn pigo tyllau yn yr ymylon a mesur y tudalen gyda llinellau llorweddol a fertigol er mwyn sicrhau cysondeb. Byddai lleoedd yn cael eu gadael ar y dudalen ar gyfer addurniadau, gan nad oedd yr ysgrifwr a’r addurnwr yr un person bob amser.

Defnyddiwyd nifer o wahanol liwiau ar gyfer addurno, wedi ei wneud o ddeunyddiau naturiol yn amrywio o ran cost a phrinder. Gellid gwneud yr inc a ddefnyddir ar gyfer testun yng Nghymru’r Oesoedd Canol o fustl derw (neu gallotannic), a allai ddangos fel lliw brown tywyll, ond gellid gwneud llawer o liwiau eraill o seiliau powdr, fel coch ac oren o blwm coch (neu minium); gwyn o blwm gwyn; gwyrdd o halwynau copr; a glas o lapis lazuli. Byddai’r rhain i gyd yn gymysg ag asiant rhwymo fel gum Arabic. Ond peidiwch â rhoi cynnig ar hyn gartref – roedd llawer o’r paent hyn yn wenwynig! Roeddent hefyd yn ddrud, felly roedd addurno llawysgrifau yn arwydd o noddwr cyfoethog.

Mae’n debyg mai’r math mwyaf cyffredin a symlaf o addurno oedd llythrennau coch. Gellir gweld hyn mewn llawer o lawysgrifau Cymreig canoloesol a fei’i defnyddiwyd ar gyfer priflythrennau a phenawdau. Mae’r llawysgrif Hendregadredd, yn cynnwys barddoniaeth Cymraeg, y rhannau cynharaf ohonynt yn dyddio o’r diwedd y 13eg-dechrau’r 14eg ganrif, yn dangos hyn, yn cynnwys inc coch ar gyfer teitlau cerddi, priflythrennau, ac am batrymau i lenwi lleoedd gwag yn y testun.

Roedd llythrennau coch yn aml yn cael eu newid bob yn ail â lliwiau gwahanol, a oedd yn yr engraifft uchod yn las. Ond roedd inc glas yn ddrud iawn, felly roedd gwyrdd yn aml yn cael ei roi yn lle glas. Defnyddiwyd ysgrifwr y llawysgrif Llyfr Aneirin, o’r 13eg ganrif, gwyrdd yn lle glas, a lliwiodd patrymau yn y llefydd gwag yn goch ac yn wyrdd.

Gallai priflythrennau hefyd gynnwys lluniadau cymleth. Os ydych chi’n hoff o ddreigiau bach, byddwch chi wrth eich bodd â’r priflythrennau wedi’i addurno â bwystfilod mewn Peniarth MS 540B, cynhyrchiad Cymreig o’r 12fed ganrif yn cynnwys copi o’r gwaith Bede, De natura rerum.

Mewn rhai achosion, aeth yr ysgrifwr amdani a lluniodd addurniadau ar y priflythrennau yn cymryd lan yr holl dudalen, fel sy’n digwydd yn NLW MS 3024C, copi o’r 14eg ganrif o weithiau Gerallt Cymro. Roedd addurnwr y llawysgrif hon hyd yn oed wedi llunio wyneb barfog – cystadleuydd ar gyfer ‘Movember’ efallai? (f. 42v).

 
Os nad dreigiau bach yw eich peth chi, mae bwystfilod eraill hefyd yn ymddangos. Weithiau, ysgrifennodd ysgrifwyr eiriau cyntaf y dudalen nesaf yng nghornel dde isaf y dudalen neu golofn flaenorol fel canllaw.

Gellid addurno’r cipeiriau hyn, gyda rhai yn y llawysgrif 13eg-ganrif Llyfr Du Caerfyrddin (sy’n cynnwys casgliad o farddoniaeth Cymraeg) wedi ei addurno â llew (f. 4r) a chreadur môr eithaf syfrdanol (f. 49r).

 

Ond nid oedd addurno yn gyfyngedig i’r chwedlonol – gellid darlunio golygfeydd mwy cyffredinol hefyd. Mae llawysgrif y 13eg-ganrif, Peniarth MS 28, sy’n llawysgrif Lladin o gyfraith Hywel Dda, yn cynnwys sawl llun lliw yn dangos nifer o olygfeydd wedi ei ddeddfu o gyfraith Hywel. Mae’r llawysgrif yn cynnwys nifer o ffigurau lliwgar gan gynnwys delweddau o swyddogion llys wedi’u gwisgo’n drawiadol yn ogystal â lluniau o anifeiliaid gwerthfawr fel ceirw, ceffylau, ac ychen; ond mae rhaid i’r wobr am y darluniad gorau  mynd i’r mochyn (f. 25r), wedi’i dynnu’n gyflawn gyda chynffon cyrliog!

 

Pan feddyliem am y cyfnod canoloesol, efallai ein bod ni’n meddwl am liwiau llwydaidd a thudalennau wedi pylu. Ond heblaw am ddreigiau bach a moch prydferth, gallwn weld sut mae’r llawysgrifau Cymreig canoloesol hyn yn fwy na thestunau, maen nhw’n arddangosfa ar gyfer y creadigrwydd a sgiliau eu haddurnwyr a’u hysgrifwyr hyd yn oed ganrifoedd ar ôl iddynt gael eu gwneud. Felly y tro nesaf y byddwch chi’n codi pen neu frwsh paent, beth am gymryd ysbrydoliaeth o’n llawysgrifau, a rhyddhewch eich ysgrifwr canoloesol mewnol!

 

Lucie Hobson
Archifydd Cynorthwyol

 

Darllen pellach:

  • Daniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Caerdydd, 2000)
  • Daniel Huws, Peniarth 28: Darluniau o Lyfr Cyfraith Hywel Dda = Illustrations from a Welsh lawbook (Aberystwyth, 2008)
  • Myriah Williams, ‘The Black Book of Carmarthen: Minding the Gaps’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 36.4 (2017), 357-375
  • Gerald Morgan, ‘The Book of Aneirin and Welsh Manuscript Prickings’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 20.1 (1962), 12-17
  • J. J. G. Alexander, Medieval Illuminators and their Methods of Work (New Haven/Llundain, 1992)
  • Daniel V. Thompson, The Materials of Medieval Painting (Llundain, 1936)

Tagiau:

Robert Recorde a’r Whetstone of Witte

Collections - Postiwyd 31-05-2021

Daeth Robert Recorde yn enwog fel y mathemategydd cyntaf i ddefnyddio’r symbol “=” mewn llyfr a gyhoeddwyd yn Saesneg, The Whetstone of Witte. Mae’r Llyfrgell yn bwriadu arddangos y llyfr hwn ar-lein yn fuan.

Ganwyd Robert Recorde yn Ninbych-y-Pysgod yn 1512. Roedd ei fam yn hannu o Fachynlleth. Yn Ninbych-y-Pysgod gwelwyd ei ddiddordeb mewn mathemateg yn datblygu gyntaf. Cydnabyddwyd hyn gan Gymdeithas Fathemategol Llundain yn 2015 pan gomisynwyd arddangosfa yn ei dref enedigol i gyd-fynd â dathliad 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Gymdeithas.

Lladin oedd iaith y mwyafrif o lyfrau gwyddonol yr unfed ganrif ar bymtheg ond credai Recorde y dylid rhoi addysg fathemategol i bobl na allent ddeall Lladin na Groeg. Ef oedd un o’r awduron cyntaf i ysgrifennu llyfrau mathemategol yn Saesneg.

Gwelir yr hafaliad cyntaf gyda’r defnydd o’r symbol “=” yn yr eglureb ar dudalen 236 o gopi digidol y Llyfrgell o The Whetstone of Witte. Gellid fod wedi mabwysiadu symbolau eraill a ddefnyddiwyd gan fathemategwyr y cyfnod yn Ewrop ac aeth bron canrif heibio cyn i’r ddwy linell gyfochrog gael eu derbyn fel symbol o hafaliad. Defnyddiwyd y symbol mewn gweithiau dylanwadol fel Trigonometic gan Richard Norwood. Yn raddol, lledodd y defnydd o’r symbol hafaliad o Loegr i Ewrop ac i weddill y byd. Er mwyn egluro pam y defnyddiai dwy linell gyfochrog ysgrifennodd Recorde: Er mwyn osgoi ail-ddweud y geiriau “mae’n hafal i” fe ddefnyddiaf bâr o linellau cyfochrog = o’r un hyd, gan fod y rhain yn hafal.

Roedd Recorde ymhlith y mathemategwyr cyntaf i ddefnyddio’r ffurfiau o rifau sy’n gyfarwydd i ni heddiw (1, 2, 3 ayyb). Yn un o’i lyfrau eraill, o’r enw The Groundes of Artes, mae Recorde yn cymharu’r rhifau hyn â’r rhifau Rhufeinig (i, ii, iii) a ddefnyddiwyd gan amlaf yn llyfrau’r cyfnod. Mae’r ffurfiau o rifau a ddefnyddir heddiw yn deillio o rifau Hindŵ neu Arabaidd o tua 600 O.C. Syndod i ni yw fod Recorde wedi gorfod cyflwyno’r rhifau hyn i’w ddarllenwyr di-brofiad. Arfer newydd oedd ysgrifennu mathemateg a rhifyddeg yn Saesneg. Roedd Recorde yn ffigwr blaenllaw wrth gyflwyno’r arfer i bobl Prydain.

 

 

Bu Recorde yn Gymrawd yng Ngholeg All Souls, Rhydychen ar ôl iddo raddio mewn mathemateg. Wedyn astudiodd Feddygaeth yng Nghaergrawnt. Roedd hefyd yn Feddyg Brenhinol ac fe’i apwyntiwyd yn Bennaeth y Bathdy Brenhinol. Tra’n gweithio yn y Bathdy roedd yn atebol i Iarll Penfro. Cyhuddodd Recorde yr Iarll o ddwyn peth o elw’r bathdy. Erlyniwyd ef am enllib am wneud y fath gyhuddiad a chafodd ddirwy o fil o bunnoedd. ‘Doedd ganddo mo’r modd i dalu’r ddirwy ac fe’i carcharwyd fel methdalwr. Cafodd ei daro’n wael yn y carchar a bu farw yn 1558. Pan esgynnodd Elizabeth I i’r orsedd ail-agorwyd yr achos a chafwyd enw Recorde yn ddi-euog. Rhoddwyd tir i’r teulu yn Ninbych-y-Pysgod fel iawndal.

Ysgrifennodd Recorde ei lyfrau Mathemateg yn Saesneg er mwyn i’r bobl eu deall. Roedd ymhlith y cyntaf i gyflwyno y rhifau yn y ffurf yr ydym yn eu hadnabod heddiw. Cofiwn amdano yn arbennig am iddo gyflwyno’r symbol llinellau cyfochrog i ddynodi hafaliad. Felly gwnaeth y Cymro Robert Recorde gyfraniad unigryw i fathemateg yr unfed ganrif ar bymtheg.

 

Llyfryddiaeth

Roberts, G. (2016) Robert Recorde: Tudor Scholar and Mathematician, Cardiff: University of Wales Press.

Roberts, G. Ff. (2020) Cyfri’n Cewri: Hanes mawrion ein mathemateg, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

 

 

Hywel Lloyd,

Llyfrgellydd Cynorthwyol.

Mis Rhannwch Stori

Collections - Postiwyd 26-05-2021

Mae hi’n Fis Rhannwch Stori ac mae traddodiad hir o rannu straeon yng Nghymru yn cael ei adlewyrchu nid yn unig yn ein casgliad llawysgrifau ond hefyd ein casgliad llyfrau print. O gyfrolau am chwedlau ac anturiaethau rhyfeddol megis straeon Twm Siôn Cati i hanesion mordaith Madog i America, i anturiaethau Wil Cwac a’i ffrindiau yn Llyfr Mawr y Plant a dirgelion byd o swyn yng nghyfres Harry Potter, dyma gyfle i rannu rhai o’n hoff straeon o’r casgliad llyfrau print.

Arwr y llyfr The adventures and vagaries of Twm Shôn Catti (1828) yw’r cymeriad chwedlonol sy’n cyfateb weithiau i Robin Hood neu Rob Roy. Honnwyd bod ei orchestion wedi’u seilio ar ddigwyddiadau ym mywyd cynnar Thomas Jones o Dregaron, tirfeddiannwr, hynafiaethydd, achydd a bardd. Dyma’r llyfr cyntaf i glodfori’r arwr hwn. Gellir casglu fod y llyfr wedi’i fwriadu ar gyfer y Cymry, gan fod yr awdur yn agored feirniadol o’r teithwyr Seisnig.

Mae Cymru fu : yn cynnwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (1862) yn un o’r gweithiau pwysig cyntaf a gyhoeddwyd gan Isaac Foulkes (Llyfrbryf, 1836-1904), cyhoeddwr, newyddiadurwr a llenor o Lanfwrog, Sir Ddinbych. Yn ogystal â chyhoeddi llyfrau fel y casgliad hwn o lên gwerin, ysgrifennodd Llyfrbryf gofiannau i J. Ceiriog Hughes a Daniel Owen a golygodd farddoniaeth a llythyrau Goronwy Owen a gweithiau Twm o’r Nant. Gwnaeth fwy na’r un golygydd arall yn ei gyfnod i ennyn diddordeb y Cymro cyffredin yn llenyddiaeth ei wlad.

Dywedir i Madog ab Owain Gwynedd hwylio gydag wyth llong o Abercerrig ger Abergele i chwilio am wlad newydd yn y gorllewin oherwydd iddo ddiflasu ar y gynnen rhwng ei frodyr wedi marwolaeth ei dad, ac iddo lanio ym Mobile Bay tua 1169. Yn yr 16eg ganrif, John Dee oedd y cyntaf i hawlio’r Byd Newydd i Frenhines Lloegr ar sail mordaith Madog. Cafodd disgynyddion y Cymry a ymfudodd gyda Madog eu huniaethu â’r Indiaid Mandan a oedd yn byw i’r gorllewin o afon Missouri ar ddiwedd y 18fed ganrif. Daeth y myth i sylw’r cyhoedd pan gyhoeddodd yr hanesydd John Williams Farther observations, on the discovery of America, by Prince Madog ab Owen Gwynedd (1792) . O ganlyniad i ffugiadau Iolo Morganwg daeth yn gymhelliad cryf i ymfudo i America o Gymru.

Ganwyd y nofelydd Isaac Craigfryn Hughes (1852-1928) ym Mynwent y Crynwyr, Morgannwg. Glöwr ydoedd a bu’n ddall am ran olaf ei oes. Y ferch o Gefn Ydfa (1881?) yw’r fwyaf poblogaidd o’i chwe nofel, sydd yn adrodd hanes Ann Maddocks (1704-1727), merch i William Thomas o Gefn Ydfa, tŷ ger Llangynwyd, Morgannwg a gwraig i Anthony Maddocks. Bu farw ei thad pan oedd hi’n blentyn, ac yn ôl y chwedl ramantus di-sail priododd Maddocks, cyfreithiwr cefnog a mab i’w gwarcheidwad, o’i hanfodd, er iddi garu â bardd ifanc o’r enw Wil Hopcyn a gyfansoddodd penillion “Bugeilio’r Gwenith Gwyn” iddi hi. Dywedir iddi farw o dorcalon yn fuan ar ôl priodi â Maddocks. Iolo Morganwg oedd y cyntaf i honni mai Wil Hopcyn oedd awdur y gân, ond ychwanegodd Hughes manylion gordeimladol at y stori yn y nofel hon.

Mae Histori Sawney Beane (ca. 1800) yn chwedl hynod sy’n adrodd hanes Alexander “Sawney” Beane, pennaeth llwyth gyda 45 aelod yn yr Alban yn yr 16eg ganrif. Cyhuddwyd ei wraig, Agnes Douglas, o fod yn wrach. Roedd y llwyth hwn yn gyfrifol am lofruddio a chanibaleiddio dros 1,000 o bobl tra’n byw mewn ogof rhwng Girvan a Ballantrae am 25 mlynedd, nes iddynt gael eu darganfod a’u dienyddio ar orchymyn y Brenin Iago VI. Mae’r llyfr hwn am hanes Sawney Beane yn gyfieithiad o’r Saesneg.

Detholiad bychan sydd fan hyn wrth gwrs – mae silffoedd y Llyfrgell yn gwegian dan bwysau cyfrolau sy’n llawn straeon hud, lledrith a direidi. Hawdd fyddai ymgolli am oriau rhwng cloriau’r rhain – beth am chwilio’n catalog i weld pa stori wnewch chi ddarganfod?

Pam na ddylem ni ganu?

Darganfod Sain - Postiwyd 21-05-2021

Gyda gofid bu rhaid i’r pwyllgor a drefnodd yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer 2021 wneud y penderfyniad i ohirio’r gystadleuaeth am yr ail flwyddyn oherwydd parhad y pandemig COVID-19. Teitl llawn y clip sain a amlygwyd yn y blog hwn yw “Pam na ddylem ni ganu mewn Rhyfel?”

Ar hyn o bryd rydym yn ymladd rhyfel â’r firws trwy frechlynnau, pellhau cymdeithasol a chyfnodau clo; bu llawer o glwyfedigion yn y rhyfel hwn ac mae’r Eisteddfod yn un o lawer o sefydliadau sydd wedi cael eu heffeithio’n andwyol hefyd.

Mae’r ŵyl, gyda’i hanes yn olrhain nôl i 1176, yn ddathliad o iaith a diwylliant Cymreig, a gynhelir yn ystod wythnos gyntaf mis Awst ers 1861, ar wahân i 1914, pan fu rhaid gohirio am flwyddyn oherwydd cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn 1916, atebodd yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros y Rhyfel, David Lloyd George yn angerddol i lythyr a gyhoeddwyd yn y Times, yn beirniadu’r penderfyniad i gynnal yr Eisteddfod yn ystod y rhyfel. Gwnaeth ei araith yn agoriad Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth ym mis Awst, ac er na all yr ŵyl gael ei chynnal eleni, gallwn gymryd ei eiriau i’n hatgoffa, er bod adfyd yn taro eto, fel y mae wedi gwneud lawer gwaith yn ystod hanes Cymru, bydd ei phobl yn parhau i ganu.

 

 

Er i’r araith gael ei gwneud yn 1916, recordiwyd y ffeil sain sydd gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn stiwdios y BBC ar 15 Chwefror 1934, pan oedd Lloyd George yn Llywydd Ymddiriedolaeth Cymru Llundain. Cafodd ei digido gan y prosiect Datgloi ein Treftadaeth Sain (DETS).

Erbyn y pwynt yma yn ei fywyd, roedd Lloyd George wedi ei ymyleiddio o Wleidyddiaeth Prydain, ond rhoddodd ei araith wreiddiol ychydig fisoedd cyn iddo gael ei wahodd i ffurfio llywodraeth ym mis Rhagfyr 1916, gan ddal ei swydd tan 1922, fel y Cymro cyntaf a’r unig Gymro i ddod yn Brif Weinidog Prydain Fawr.

Ganed Lloyd George ym Manceinion ond cafodd ei fagu yng nghartref teulu ei fam yn Llanystumdwy, ger Cricieth. Cadwodd gysylltiadau gydol oes â’r ardal hon, gan gael ei wneud yn Iarll Dwyfor ym 1944, y flwyddyn cyn ei farwolaeth yn 82. Fe’i claddwyd ar lannau Afon Dwyfor yn Llanystumdwy.

 

 

Roedd yn angerddol dros wleidyddiaeth a hawliau Cymru, ac yn siaradwr huawdl, sy’n amlwg trwy’r ffeil sain hon. Gan ddechrau gyda hisian a chrac y recordiad 78rpm, mae Lloyd George yn arwain gyda chwestiwn at ei feirniaid: “Pam na ddylem ni ganu yn ystod y rhyfel… pam yn arbennig na ddylen ni ganu ar y cam hwn o’r rhyfel?” Mae’n egluro fod Prydain yn fwy nag erioed, felly er bod rhyfel yn golygu dioddefaint a thristwch, dylai’r wlad fod fel yr eos, gan roi ei chân yn y tywyllwch ac felly’n fuddugoliaethus dros boen.

Roedd y cyfeiriad hwn at chwedl Hans Christian Andersen o’r ymerawdwr Tsieineaidd lle mae ei gân yn symud marwolaeth fel bod bywyd yr ymerawdwr yn cael ei arbed, yn destun opera yn 1914 gan Igor Stravinsky, “La Rossignol”. Efallai fod Lloyd George yn gyfarwydd â’r opera neu efallai ei fod wedi hoffi darllen straeon tylwyth teg i’w blant, ond yn ôl ei amcangyfrif, er nad yw’r eos yn hysbys ar ochr Cymru o’r Hafren, “… gallwn ddarparu’n well. Mae aderyn yn ein pentrefi sy’n gallu curo’r gorau ohonynt. Gelwir ef Y Cymro. ”

Fel yr eos sy’n canu yn y nos, mae’r Cymry yn canu yn y nos ac yn ystod y dydd, mewn llawenydd a thristwch, yn y gwaith ac wrth chwarae, mewn ffyniant a thrwy adfyd, mewn heulwen a storm, yn ystod adegau o heddwch – ac felly pam oni ddylent ganu yn ystod y rhyfel?

 

Gellir gweld cyfieithiad o’r ffeil sain ar ddiwedd y blog.

 

Mae Lloyd George yn parhau, gan gyfeirio at hanes cythryblus Cymru a’i gallu i gynnal hunaniaeth ddiwylliannol drwyddi draw: “Mae cannoedd o ryfeloedd wedi ysgubo dros y bryniau hyn, ond nid yw calon Cymru erioed wedi ei distewi gan un ohonynt.”

Yn yr oes sydd ohoni, ni all yr Eisteddfod gael ei dawelu’n llwyr, hyd yn oed gan firws. Mae technoleg fodern yn caniatáu i’r Eisteddfod AmGen ddigwydd ar amrywiol lwyfannau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol gydag elfen gystadleuol gref. Mae’r rhyddid hwn fel diwedd chwedl yr eos, lle mae dyfodol cryf yn cael ei drafod i sicrhau bod yr aderyn yn byw yn ei wir amgylchedd fel y gall barhau i ffynnu a chael ei glywed.

Wrth wraidd araith Lloyd George mae sicrwydd y byddwn yn ei wneud trwy’r adfyd presennol hwn a gyda’n gilydd gallwn aros mewn tiwn.

 

Gan Rasma Bertz, Gwirfoddolwraig Datgloi Ein Treftadaeth Sain

 

Trawsgrifiad: Pam na ddylem ni ganu?
[Cyfieithiad]

Y Cymro.
Mae’n canu mewn llawenydd mae’n canu hefyd mewn tristwch.
Mae’n canu mewn ffyniant mae’n canu hefyd mewn adfyd.
Mae’n canu wrth chwarae mae’n canu yn y gwaith hefyd.
Mae’n canu yn yr heulwen mae’n canu yn y storm.
Mae’n canu yn ystod y dydd y mae’n canu hefyd yn y nos.
Mae’n canu mewn heddwch; pam na ddylai ganu mewn rhyfel?

 

Cwrs Bywyd Merched

Darganfod Sain - Postiwyd 18-05-2021

Mewn cydweithrediad â Phrosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Brydeinig Prydain, mae ein grŵp, myfyrwyr ôl-raddedig sy’n astudio ar gyfer MA mewn Rheoli Archifau a Chofnodion ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi bod yn catalogio casgliad o recordiadau hanes llafar digidol o Butetown, Cymru. Cafodd y recordiadau eu creu yn ystod yr 1980au gan academydd a oedd yn ymchwilio i Butetown, a elwir hefyd yn Tiger Bay, ac a oedd yn cyfweld â thrigolion am eu hatgofion o’r ugeinfed ganrif. Roedd Butetown yn un o’r cymdeithasau amlddiwylliannol cyntaf ym Mhrydain ac roedd ei dociau’n ddosbarthwr mawr o lo a nwyddau eraill yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif ac oherwydd hyn, roedd gan drigolion safbwyntiau unigryw.

Blynyddoedd yn ddiweddarach cynhaliwyd cyfweliadau a thrafodaethau pellach gyda’r nod o warchod hanes Butetown, gan fod yr ardal yn mynd trwy gyfres o ailddatblygu ac, o ganlyniad, roedd llawer o bobl wedi symud i ffwrdd, a rhai preswylwyr yn oedrannus neu wedi marw. Mae un rhan o’r casgliad yn cynnwys recordiadau o Gwrs Bywyd Merched, digwyddiad a fu’n parhau dros gyfnod o flwyddyn a gynhaliwyd yn Butetown ar ddiwedd yr 1980au a fynychwyd gan breswylwyr, cyn-breswylwyr, a phobl o’r ardaloedd cyfagos. Cynhaliwyd cyfarfodydd wythnosol, lle bu trafodaethau gan ganolbwyntio ar bwnc gwahanol a effeithiodd ar fywydau menywod yn Butetown gan gynnwys addysg, crefydd, priodas, cyflogaeth, hiliaeth a dynameg teulu. Yn ystod y cwrs dysgwyd sgiliau gwerthfawr i’r cyfranogwyr fel sut i ddyfeisio cwestiynau cyfweliad, yr offer gorau i’w defnyddio ar gyfer cyfweliadau hanes llafar a sgiliau technegol, megis sut i ddefnyddio meicroffonau a recordwyr tâp.

Mae’r recordiadau’n ddiddorol iawn, maent yn cynnwys dyfyniadau o gyfweliadau blaenorol a’r trafodaethau yn canolbwyntio o amgylch bywyd yr unigolyn yn y recordiad gwreiddiol a oedd, ar brydiau, yn mynychu’r drafodaeth yn ogystal ag am brofiadau tebyg a gwahanol a gafodd mynychwyr. Ymfudodd rhieni rhai mynychwyr i Gymru yn ystod yr ugeinfed ganrif, neu fe ymfudasant hwy eu hunain i Gymru ac o ganlyniad, maent yn adrodd straeon am dyfu i fyny mewn teuluoedd amlddiwylliannol, y gwahanol fwydydd yr oedd pobl yn eu bwyta, a byw mewn gwahanol wledydd, ymhlith eraill. Mae’r recordiadau yn cynnwys trafodaethau am ddiwylliant a chymdeithas Prydain, hunaniaeth gymunedol ac allfudo yn ogystal ag am Butetown a’i ailddatblygiad.

Mae’r recordiadau o’r Cwrs Bywydau Merched, o ganlyniad, yn rhoi goleuni amhrisiadwy i fywydau menywod yn Butetown yr ugeinfed ganrif, profiadau cymunedau amrywiol yng Nghymru, sut roedd cymdeithas yn newid wrth iddi agosáu at yr unfed ganrif ar hugain a sut roedd grwpiau cymunedol yn ceisio gwarchod eu hatgofion.

 

 

Cylchlythyr Llais y Teigr, (1) Medi 1994, Cyrchwyd: 15 Ebrill 2021. Ar gael:
https://www.peoplescollection.wales/items/728376
Trwydded Archifau Creadigol, c. Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown

 

Gall catalogio cyfweliadau hanes llafar fod yn broses hir sy’n gofyn am sylw mawr i fanylion. Pan gyflwynwyd ein recordiadau i’n grŵp, cyflwynwyd taenlen gychwynnol i ni yn cynnwys teitlau’r recordiadau a disgrifiadau cyffredinol o’u cynnwys. Cyn gwrando ar y recordiadau, gwnaethom ymgyfarwyddo â’r daenlen a chynnal ymchwil i pam y crëwyd y recordiadau. Wedi hynny dechreuon ni gynllunio sut y byddem ni’n mynd at y recordiadau, fe wnaethon ni eu rhannu rhyngom a dechrau gwrando arnynt.

Mae gwrando ar recordiadau at ddibenion catalogio yn wahanol i wrando ar gerddoriaeth neu bodlediad. Mae catalogwyr yn gwrando i benderfynu ar y prif bynciau a drafodir, i nodi pynciau y bydd gan ddefnyddwyr ddiddordeb ynddynt ac unrhyw ddeunydd na ddylid ei gyhoeddi. Yn ystod cyfweliadau, bydd pobl, ar brydiau, yn dweud pethau yn gyfrinachol nad ydyn nhw am gael eu cyhoeddi neu a allai fod yn ymwneud â mater sensitif. Felly, gellir tynnu’r deunydd hwn o’r recordiad neu gellir dosbarthu’r recordiad fel deunydd amhriodol i’w gyhoeddi ar-lein a bydd mynediad mewnol yn unig iddo. Ar ôl i ni wrando ar y recordiadau, mae ein tîm yn ysgrifennu disgrifiadau, crynodebau a meysydd eraill am yr hyn rydyn ni wedi’i glywed. Nid trawsgrifiadau yw disgrifiadau a chrynodebau, maent yn gyfrifon cryno ond eto manwl o’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y deunydd fel y gall defnyddwyr benderfynu a ydynt am wrando ar y recordiadau. Gellir mewnbynnu’r wybodaeth hon i feddalwedd archif a llyfrgell neu raglen gyfrifiadurol arall fel Microsoft Excel.

Rhaid cynnal ymchwil deiliaid hawliau hefyd. Mae gan yr holl gyfranwyr, cyfwelwyr, cyfweleion, a phobl sy’n ymwneud â’r recordiadau fel peirianwyr sain, hawliau dros y deunydd ac felly, rhaid cysylltu â nhw, a rhaid sicrhau eu caniatâd cyn i’r recordiadau gael eu cyhoeddi ar-lein. Os na ellir sicrhau’r caniatâd hwn neu os yw’r deunydd yn cynnwys pynciau sy’n hynod sensitif, dim ond mynediad yn yr adeilad fydd yn bosib.

Ar ôl i’r recordiadau gael eu catalogio a’r gwaith ymchwil hawliau wedi cwblhau, amlyncir y wybodaeth hon i catalogau’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Llyfrgell Brydeinig. Mae rhai o’r recordiadau yng nghasgliad Tiger Bay, megis y recordiadau Cwrs Bywydau Merched, yn cynnwys deunydd sensitif. O ganlyniad, gall rhai recordiadau fod ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn unig. Er na fydd rhai recordiadau ar gael ar-lein, mae’r casgliad yn ddiddorol, ac mae’n werth gwrando ar y recordiadau yn bersonol.

 

Gan Evangeline Mills, Myfyriwr MA Archifau a Rheoli Cofnodion, Prifysgol Aberystwyth

 

Catalogio hanesion llafar Tiger Bay ar gyfer y Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain

Darganfod Sain - Postiwyd 05-05-2021

Bob blwyddyn, mae myfyrwyr ôl-raddedig sy’n astudio Rheoli Archifau a Chofnodion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymgymryd â phrosiect sy’n rhoi cyfle iddynt ddefnyddio rhai o’r sgiliau y maent wedi bod yn eu datblygu. Ni fu eleni ddim gwahanol, er yn anochel teimlwyd effeithiau eang y pandemig byd-eang. Serch hynny, gyda chefnogaeth staff y Brifysgol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LLGC), rydym wedi llwyddo i addasu. Mae wedi bod yn gyfle i’w groesawu’n fawr i bob un ohonom yn y grŵp ennill rhywfaint o brofiad catalogio a chwarae rhan yn y Prosiect Datgloi ein Treftadaeth Sain. Gan gwrdd drwy Tîm Microsoft bob wythnos, rydym wedi ennill profiad o gynllunio prosiectau a chydweithio fel grŵp i gyflawni nod cyffredin. Rydym hefyd wedi cael cyfle i hogi sgiliau sy’n fwy penodol i rôl archifydd, megis sicrhau cysondeb a rhyngweithrededd wrth greu metadata. Er mwyn sicrhau cysondeb iaith, gwnaethom greu canllawiau catalogio yn unol â gofynion LLGC. Roedd hyn yn nodi’n glir beth oedd yn ofynnol ym mhob maes, yn ogystal a’r angen i gadw at unrhyw eirfa reoledig neu safonau rhyngwladol. Er mwyn sicrhau rhyngweithrededd, gwnaethom sicrhau y gellid mapio’r holl wybodaeth a gofnodwyd gennym i wahanol safonau. Mae hyn yn lliniaru’r risg y bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei cholli os yw’r casgliad wedi’i integreiddio i wahanol gatalogau.

Mae’r casgliad penodol o recordiadau rydyn ni wedi bod yn helpu i’w catalogio yn cwmpasu cyfresi amrywiol o hanesion llafar a gynhaliwyd gyda thrigolion Tiger Bay, y gymuned amrywiol ar ochr y dociau sydd wedi’i hailddatblygu dros amser i Fae modern Caerdydd. Hoffwn ganolbwyntio’n benodol ar y gyfres gyntaf o recordiadau rydyn ni wedi bod yn eu catalogio, a recordiwyd yn 1987. Mae’r gyfres hon yn cwmpasu amrywiaeth o gyfweliadau â nifer o drigolion yr oes. Roeddynt i gyd yn byw bywydau amrywiol iawn, ond maent i gyd yn unedig oherwydd eu cysylltiad â Tiger Bay. Mae’r dyddiad y gwnaed y recordiadau hyn yn golygu bod gan y preswylwyr safbwyntiau diddorol a fyddai o bwys i lawer o ymchwilwyr. Yn gyntaf, roedd llawer ohonynt yn byw yng nghysgod y ddau Ryfel Byd ac yn cyfrannu’n uniongyrchol at ymdrech y rhyfel. Yn ail, roedd llawer yn byw yn Tiger Bay cyn ac ar ôl ei ailddatblygiad yn yr 1960au, ac felly’n darparu mewnwelediad unigryw i sut y gallai’r hyn a elwir yn ‘gliriadau slym’ y cyfnod effeithio ar gymunedau.

 

Western Mail & Echo, “Golygfa Butetown o’r awyr,” Archif Cyfnewid Treftadaeth a Diwylliant, a gyrchwyd ar Ebrill 21, 2021, https://www.hcearchive.org.uk/items/show/6472. Trwydded Archifau Creadigol, c. Western Mail & Echo

 

Ymhlith y pynciau diddorol eraill a godwyd yn ystod y cyfweliadau mae: natur cysylltiadau hiliol yn yr ugeinfed ganrif mewn rhan arbennig, amlddiwylliannol o Brydain; maint a natur cadwraeth grefyddol; rolau rhyw; gwerthoedd cymdeithasol; amodau gwaith a diwydiant. Treuliodd rhai a gyfwelwyd fwy o’u bywyd nag eraill yn Tiger Bay. Mae’r rhai sydd â chysylltiad â’r gymuned yn dal i ddarparu straeon hynod ddiddorol a allai fel arall fod wedi’u colli. Mae hyn wir yn dod â gwerth hanesion llafar fel cyfrwng i mi. Er bod archifwyr yn draddodiadol wedi canolbwyntio ar dystiolaeth ddogfennol, mae’r recordiadau hyn yn helpu i dynnu sylw at y mewnwelediad y gall hanesion llafar eu cynnig i fywydau unigryw a allai fel arall fod heb eu cofnodi.

Ar y cyfan, mae’r grŵp yn gweld hwn yn weithgaredd diddorol a gwerth chweil iawn. Byddwn yn ôl mewn cysylltiad maes o law, gyda phrofiadau aelodau eraill y grŵp gyda’r gyfres ddilynol o recordiadau.

 

Gan Ewan Macleod, MA Rheoli Archifau a Chofnodion, Prifysgol Cymru Aberystwyth

Iaith, Llenyddiaeth, a Chwilio am Raeadr Derwennydd: Cofnodion Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

Casgliadau - Postiwyd 03-05-2021

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ddiweddar wedi cael y pleser o dderbyn cofnodion ein cymdogion, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Un o’r sefydliadau academaidd blaenorol ym maes astudiaethau Celtaidd, mae ymchwil y Ganolfan yn cwmpasu’r llenyddiaeth a’r ieithoedd Celtaidd i gyd, yn cynnwys y Gymraeg, Gwyddeleg, Manaweg, Llydaweg, Cernyweg, a Gaeleg yr Alban, ymysg eraill.

Mae’r cofnodion yn dechrau yn swyddogol yn y 70au, gyda sefydlu’r Ysgol Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru yn 1971 gydag adrannau Y Gymraeg, Gwyddeleg, a Hanes Cymru. Mae’r papurau cynnar yma (Cyfres D1 yn y catalog) yn cyfleu rhai o’r syniadau tu ôl sefydlu’r Ysgol Astudiaethau Celtaidd, yn ogystal â rhai o’r problemau ymarferol fel chwilio am adeilad addas fel cartref i’r Ysgol. Gallwn glywed hefyd rhai o leisiau myfyrwyr cyntaf yr Ysgol, trwy lythyrau gan ddarpar fyfyrwyr yn gwneud ymholiadau am astudio yn yr Ysgol newydd.

Yn 1976, lansiodd athrawon yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd gronfa apêl er cof am y llenor Thomas Parry-Williams gyda’r bwriad o sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Mae cofnodion y Ganolfan (Cyfres A1) yn dangos ymdrech a datblygiad yr Apêl trwy ohebiaeth yr Athrawon a manylion rhoddion, ac yn cofnodi llwyddiant yr Apêl ac agoriad swyddogol y Ganolfan yn 1979 (Ffeil D1/2). Mae’r dogfennau yn dangos y Ganolfan yn mynd o nerth i nerth, gyda mwy o staff yn ymuno yn yr 80au, ac agor yr adeilad newydd ar bwys y Llyfrgell Genedlaethol yn 1993  (Ffeil D2/2 a Chyfres D3).

Rhan fawr o’r casgliad yw’r cofnodion cyfarfodydd (Grŵp P), sy’n cofnodi gwaith y Ganolfan o ddydd i ddydd yn ogystal â thrafod gweithgareddau fel cyhoeddiad ac ymchwil. Mae ehangder ag amrywiaeth gwaith y Ganolfan yn amlwg o gofnodion a phapurau seminarau a fforymau (Cyfresau G1 a G2), sy’n hyrwyddo pynciau fel ‘Gweithiau Beirdd y Tywysogion’ (G2/1), ‘Traddodiad Barddol yr Alban’ (G2/5), ‘Tafodieithoedd’ (G2/9), ‘Archaeoleg’ (G2/11), a ‘Llysiau a Meddygaeth’ (G2/16) ymysg eraill. Fel rhywun sydd â ddiddordeb yn astudiaethau Celtaidd fy hunan, rwy’n meddwl mai’r dogfennau mwyaf diddorol yn y casgliad yw’r rhai sy’n cyfleu’r broses ymchwilio. Un o fy ffefrynnau yw’r casgliad o lythyrau (Ffeil C1/3) sy’n trafod ymchwil un o gyn-gyfarwyddwyr y Ganolfan, R. Geraint Gruffydd, ar gyfer ei ddarn ‘Where Was Rhaeadr Derwennydd?’ a gyhoeddwyd yn 1990. Mae’r ffeil yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gruffydd at bob Bwrdd Dŵr rhanbarthol yn Lloegr yn gofyn am leoliad y Rhaeadr enwog sy’n cael ei henwi yn y gerdd gynnar ‘Canu Aneurin’ – gydag amrywiaeth o atebion diddorol o weithwyr y Byrddau Dŵr!

Ond efallai un o’r pethau pwysicaf am gofnodion y Ganolfan yw’r papurau sydd wedi cael eu hysgrifennu yn yr ieithoedd Celtaidd. Heblaw’r Gymraeg, mae’r casgliad yn cynnwys dogfennau a llythyrau yn y Wyddeleg, Llydaweg, a Gaeleg yr Alban. Mae’n braf iawn i weld yr ieithoedd yma yn cael eu defnyddio, ac mae’n pwysleisio gwaith y Ganolfan i ymchwilio a hyrwyddo hanes a llenyddiaeth Geltaidd er mwyn cadw’r ieithoedd yma yn fyw ac i helpu sicrhau eu dyfodol.

Catalog: https://archives.library.wales/index.php/cofnodion-canolfan-uwchefrydiau-cymreig-a-cheltaidd-prifysgol-cymru-2

 

Lucie Hobson
Archifydd Cynorthwyol

Tagiau: ,

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog