Tag Archives: Celf

Liber Landavensis: Llyfr Llandaf

Casgliadau / Collections / Digido - Postiwyd 26-05-2020

Naw can mlynedd yn ôl, ym mis Mai 1120, trosglwyddwyd esgyrn Dyfrig, sant o’r chweched ganrif, o Enlli a’u hailgladdu yn Llandaf, lle ‘roedd yr esgob Urban wrthi’n ailadeiladu a helaethu’r eglwys i adlewyrchu beth oedd, yn ei dyb ef, ei phriod parch. Fel esgob Llandaf, ‘roedd Urban yn hawlio awdurdod dros bob eglwys a gysegrwyd i esgobion gwreiddiol a nawddseintiau Llandaf, sef Dyfrig, Teilo ac Euddogwy, ac fe gododd hyn anghydfod rhyngddo fe ac esgobion Tŷ Ddewi a Henffordd, yr oeddent yn israddol iddo yn ei lygaid ef. Bwriad trosglwyddo creiriau Dyfrig i Landaf oedd i gryfhau achos Urban, ond canolbwynt ei ymgyrch oedd Liber Landavensis, Llyfr Llandaf, sydd yn un o drysorau’r Llyfrgell erbyn hyn. Trwy hon, cawn weld sut y chwaraeodd honiadau uchelgeisiol Urban ran pwysig mewn ailddiffinio nid yn unig yr eglwys yng Nghymru ond ei pherthnasau gyda’r eglwys yn Lloegr a hefyd gyda’r pab.

Rhoddwyd cynnwys y llawysgrif at ei gilydd gyda’r bwriad o ddangos bod Llandaf yn meddu ar statws archesgobaethol, bod awdurdod uniongyrchol ganddi dros yr eglwys o’r Tywi hyd y Gwy (ardal cyfatebol yn fras i hen deyrnas Morgannwg) a bod ei thraddodiad yn ddi-dor ers Dyfrig, gan feddiannu traddodiadau eglwysi eraill yn y broses o wneud hyn. Mae hi’n dyddio rhwng tua 1120 a marwolaeth Urban ym 1133 (er yr ychwanegwyd deunydd eraill wedyn), ac ymhlith ei chynnwys y mae Efengyl Mathew Sant, ‘Bucheddau’ Dyfrig, Teilo, Euddogwy a saint eraill, ‘Braint Teilo’ yn Lladin ac yn Gymraeg, hanes sefydlu Llandaf, rhestr o’i hesgobion, a chopiau anghyflawn neu llygredig o siarteri rheolwyr seciwlar yn rhoi tiroedd i Landaf o’r chweched ganrif hyd yr unfed ganrif ar ddeg. Mae rhywfaint o ddeunydd cyfoes hefyd, yn cynnwys copi o’r cytundeb a wnaethpwyd ym 1126 rhwng Urban a Robert o Gaerloyw, arglwydd Morgannwg, yn atal ymosodiadau ar feddiannau bydol yr esgobaeth. Fel arfer yn achos propaganda, mae Liber Landavensis yn cynnwys cymysgedd o ffaith, ensyniad a ffuglen sydd yn aml yn anodd i’w dadblethu.

 

 

Ymatebodd Tŷ Ddewi trwy greu ei phropaganda ei hun, gan honni statws archesgobaethol dros Gymru gyfan a chan adolygu ‘Buchedd Dewi’ Rhigyfarch o’r unfed ganrif ar ddeg fel bod Dewi yn mynd yn uwchradd i Deilo a bod unrhyw gyfeiriad at ei gysegru gan Ddyfrig yn cael ei ddileu, ond nid yng Nghymru y penderfynwyd y mater. Golygai grym cynyddol yr eglwys Eingl-Normanaidd a’r pabaeth diwygiadol bod cydnabyddiaeth y pab ac archesgob Caergaint yn allweddol i lwyddiant achos Llandaf, a mae’r llawysgrif yn dogfennu yn ofalus sut yr aeth Urban ati i geisio cyflawni hyn. ‘Roedd arno ddyled i’r Normaniaid am gael ei swydd; o gael ei benodi gan Harri I a’i gysegru gan yr archesgob Anselm ym 1107, ‘roedd e’n un o’r esgobion cyntaf yng Nghymru i gael ei sefydlu gan awdurdodau tu allan i Gymru, a fe oedd yr un cyntaf y gwyddwn iddo dyngu llw o ufudd-dod i Gaergaint. Mae Liber Landavensis yn adlewyrchu’r realaeth newydd hon, gan honni (yn anghywir) ym ‘Muchedd’ Euddogwy bod Llandaf wedi bod yn ostyngedig i Gaergaint ac yn ufudd i frenhinoedd Lloegr ers amser Awstin Sant, a bod ei harferion yr un fath ag eiddo’r Saeson. Yn yr un modd, ‘roedd gweithgareddau Urban mewn materion eglwysig ar lefel Ewropeaidd yn beth newydd i esgob o Gymru. Mynychodd Gyngor Rheims ym 1119, lle apeliodd am y tro cyntaf i’r pab Calixtus II i gydnabod statws Llandaf; derbyniodd y Cardinal John o Crema, legad cyntaf y pab y gwyddwn iddo ymweld â Chymru, ym 1125; mynychodd Gynghorau San Steffan ym 1125 a 1127, a cymerodd ran mewn cysegru esgobion yn Lloegr; aeth â’i anghydfod gyda Tŷ Ddewi at lys y pab yn bersonol ym 1128 a 1129; a fe farwodd yn yr Eidal tra’n dilyn achos arall. Mae Liber Landavensis yn cofnodi hyn i gyd o’r bron, yn cynnwys copiau o lythyron y pabau a hanesion am y Cynghorau ac am deithiau Urban i Rufain.

Calonogwyd Urban gan ddyfarniad dros dro o’i blaid gan y pab Honorius II ym 1128, ond collodd ei achos yn y pen draw. ‘Roedd e wedi bod yn ymhongar – nid oedd Llandaf wedi bod yn eglwys o bwys ond ers rhyw ganrif, ac Urban ei hun oedd y cyntaf o esgobion Morgannwg i ddefnyddio teitl esgob Llandaf – ond ‘roedd e wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol. O ganlyniad i’w uchelgais, enillodd Tŷ Ddewi yr anghydfod am ffiniau a sefydlodd ei hun fel y prif esgobaeth yng Nghymru, tynhaodd Caergaint ei gafael ar esgobaethau Cymru, a rhoddwyd hwb newydd i eglwyswyr Lloegr i fynd â’u cwynion at lys y pab. Mae Liber Landavensis yn tystio i weledigaeth Urban, a’i fethiant hefyd.

Mae copi digidol o’r llawysgrif ar gael ar wefan y Llyfrgell, yn datgelu testun nad oedd yn weladwy cyn i’r gyfrol gael ei hailrwymo yn 2007.

 

Dr David Moore (Archifydd)

 

Llun

Delwedd efydd Crist ar glawr y llawysgrif; dim ond y clawr hwn sy’n goroesi o’r cloriau derw gwreiddiol. Cysylltiwyd y ddelwedd â’r clawr, yn ôl pob tebyg, yn fuan ar ôl iddi gael ei gwneud yn Lloegr yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg. Cedwir y cloriau ar wahân erbyn hyn.

“Diogelu trysorau cenedlaethol mewn cyfnod heriol…”

Collections - Postiwyd 23-05-2020

Yn ystod yr amser heriol sydd ohoni, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn parhau i warchod trysorau cenedlaethol Cymru. Yn ogystal, mae technoleg wedi ein galluogi i ddarparu mynediad i’n casgliadau; at ddibenion ymchwil, addysg, ac ysbrydoliaeth, fel y gall pawb eu mwynhau o adref!

Fodd bynnag, y tu ôl i lenni adeilad y Llyfrgell, mae ein casgliadau’n parhau i gael eu gwarchod mewn ffordd hynod ymarferol!

Er bod y rhan fwyaf o staff y Llyfrgell yn medru gweithio o’u cartrefi yn ystod y cyfnod hwn, ni ellir dweud yr un peth am ein staff diogelwch ymroddedig – sy’n parhau i amddiffyn ein heitemau helaeth ac amrywiol, bob awr o’r dydd , o du fewn i’r Llyfrgell yn Aberystwyth.

Mae Paul Ingram, o dîm diogelwch Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn rhoi cipolwg i ni o sut mae gwaith wedi parhau y tu mewn i furiau’r Llyfrgell:

“Mae ein gweithdrefnau diogelwch o ddydd i ddydd yn parhau. Mae nifer helaeth o bwyntiau diogelwch ledled yr adeilad, fel bod pob ardal o’r Llyfrgell yn cael eu cadw o dan wyliadwriaeth gyson. Yn ogystal, mae’r tîm yn gwirio ac yn rheoleiddio’r lefelau tymheredd a lleithder, er mwyn diogelu ein casgliadau gwerthfawr rhag unrhyw fygythiadau amgylcheddol.”

Pan ofynnwyd iddo am unrhyw newidiadau i weithdrefnau yn ystod y cyfnod ynysi, dywedodd Ingram:

“Mae cadw at lefelau glendid safonol wedi bod yn rhan o gyfrifoldebau allweddol y tîm erioed. Ymhlith ein blaenoriaethau y mae cynnal yr adeilad i safon mor uchel â phosibl, at ddibenion gofal casgliadau a diogelwch staff ac ymwelwyr. Fodd bynnag, nid yw’n syndod bod y cyfnod hwn wedi cynyddu ein hymwybyddiaeth ymhellach o lendid, yn enwedig o ran cyswllt pobl â’i gilydd. Rwy’n siŵr, fel llawer o sefydliadau, fod y gair ‘sanitise’ wedi dod yn rhan o’n geirfa ddyddiol!”

Mae’r tîm hefyd wedi wynebu rhai heriau newydd oherwydd epidemig Covid-19, fel yr eglura Ingram:

“Yr unig her wirioneddol rydyn ni wedi dod ar ei thraws yw amserlennu shifftiau staff. Bydd rhai aelodau o’n tîm, am amrywiol resymau, yn hunan-ynysu am gyfnod hir. O ganlyniad, mae aelodau iau o’r tîm yn benodol, wedi bod yn gweithio oriau estynedig, gan ysgwyddo cyfrifoldebau newydd. ”

Fodd bynnag, mae’r cyfnod wedi arwain at rai canlyniadau positif hefyd:

“Mae’r cyfnod hwn yn sicr wedi cynyddu’r ymdeimlad o dîm o fewn yr uned, sy’n eironig gan ein bod yn ymbellhau’n gymdeithasol yn ystod ein sifftiau!

“Rydym yn falch iawn o’n gwaith, sy’n sicrhau bod holl drysorau cenedlaethol y Llyfrgell yn cael eu diogelu yn ystod yr amser heriol hwn.”

Colin Edwards a Dylan Thomas: Atgofion Am Eicon

Darganfod Sain - Postiwyd 14-05-2020

Wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, mae’r peiriannydd Datgloi Ein Treftadaeth Sain (DETS) wedi bod yn digideiddio cyfweliadau a recordiwyd gan Colin Edwards gyda ffrindiau a theulu Dylan Thomas. Rhoddwyd y recordiadau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan Mary Edwards, gwraig Colin.  Golygwyd y tapiau, ar ôl eu trawsgrifio, gan David N Thomas a’u cyhoeddi yn ei lyfrau Dylan Remembered (Seren 2003, 2004).

Yma, mae Sophie Tupholme, un o wirfoddolwyr DETS yn myfyrio ar ei phrofiad o wrando a chatalogio’r casgliad.

 

Am y pum mis diwethaf, rwyf wedi cael y cyfle hyfryd a lwcus i helpu catalogio recordiadau sain a wnaed gan y newyddiadurwr o Gymru, Colin Edwards. Ar draws y 1960au, cwblhaodd Edwards gasgliad uchelgeisiol o gyfweliadau â theulu, ffrindiau a chydnabod y bardd Dylan Thomas – gan greu collage cywrain o atgofion a daflodd olau digynsail ar fywyd a chymeriad y bardd.

Yn dod o ddealltwriaeth gymharol fylchog o fywgraffiad, allbwn ac eicon Dylan Thomas, cefais gyfle unigryw i lunio argraff o’r dyn, ei waith a’i berthnasoedd o ffynonellau agos yn hytrach nag o syniadau neu fytholeg a dderbynnir yn ddiwylliannol. Rwyf wedi dysgu am ac yn mwynhau argraffiadau o Dylan Thomas fel unigolyn hael, doniol, weithiau’n swil ond yn aml yn gymdeithasgar, a chlywed y rhain fel pe bai ffrind yn eu trosglwyddo i mi yn bersonol. Atgofion o dirnodau Abertawe ac Ysgol Ramadeg yn gludwaith a’i gilydd yn rhoi llun yr un mor llachar â phe bawn i wedi ymweld â nhw fy hun; rwy’n adnabod sgyrsiau gyda rhai ysgolfeistri a myfyrwyr, i mi eistedd yn y Caffi Kardomah ar foreau Sul, a cherdded y Promenâd yn y nosweithiau oer. Wrth wrando ar ddisgrifiadau o wyliau haf yn Fferm Fern Hill yng Nghaerfyrddin, gyda myrdd o deulu, ffrindiau a phobl leol i gyd yn cyfrannu eu straeon a’u safbwyntiau, roeddwn i’n teimlo dealltwriaeth gyffredinol o’r cyfnod a lle hwn fel pe bawn i hefyd wedi ymweld â’r ffermydd cyfagos ac wedi bod am beint yn y pentrefi cyfagos.

Am wledd hynod ddiddorol – dysgu am fyd cyfan, gyda’r dyn hynod hwn yn ei ganol, trwy atgofion a hanesion a rennir gan y rhai oedd yn ei adnabod orau. Yn lwcus i mi, yr wyf yn awr yn teimlo fel pe wyf yn adnabod y dyn ar lefel uwch na’r wybodaeth gyffredin, dim ond oherwydd bod y cyfweliadau hyn yn teimlo fel rhannu gwybodaeth freintiedig o gof a genau ffrind. A hyd yn oed ar wahân i gynnwys, roedd yr iaith hyfryd a ddefnyddiodd y beirdd a’r artistiaid yng nghydnabod Thomas (Charles Fischer, Alfred Janes, Frances Hughes a llawer o rai eraill) wrth ddisgrifio ei ‘fywiogrwydd’, synnwyr digrifwch neu gariad at eiriau, yn wefreiddiol.

Wrth gwrs, nid oeddwn ar fy mhen fy hun ar y siwrnai hon a’r darganfyddiadau yma. Y newyddiadurwr a chyfwelydd toreithiog Colin Edwards arweiniodd fy ffordd, tywys y sgyrsiau i bwyntiau penodol, holi golwg newydd a chloddio am fanylion pellach, a bob amser yn dychwelyd y sgwrs i Dylan – y Dylan ‘go iawn’, y Dylan o gydnabod teulu a ffrindiau. Ochr yn ochr â thrafodaethau am ddyddiau ysgol Thomas, bywyd yn Nhalacharn a theithiau i America, daeth pynciau dadlennol eraill i’r amlwg, megis ei berfformiadau theatr trawiadol, cyfeillgarwch â ffigurau amlwg ac artistiaid fel Edith Sitwell ac Augustus John, a theithiau i Fflorens a Rhufain, Prag ac Iran.

 

 

 

 

Roedd dod i adnabod Colin Edwards trwy gydol y cyfweliadau hyn ynddo’i hun yn broses hynod ddiddorol, a gwnaeth ei amynedd, ei ddyfalbarhad a’i ddiddordeb gwirioneddol yn ei bynciau argraff fawr arnaf. Fe ddes i ragweld ei hoff gwestiynau, tôn y llais a ddefnyddir mewn sefyllfaoedd penodol, y pwyntiau yr oedd eisiau datgelu a gwthio amdanynt fwyaf, y mathau o hanesion roedd yn mwynhau neu yn eu gweld yn ddoniol, a ffurfioldeb ei lais wrth siarad â rhywun sy’n uchel ei barch yng nghylchoedd artistig Thomas, o’i gymharu â rhwyddineb ei sgyrsiau â ‘dynion cyffredin’ neu ffrindiau teulu amser hir. Mae cyfeilio i Edwards ar y prosiect hanes llafar hwn wedi teimlo fel ymuno â hen ffrind wrth iddo alw ar gymdogion, gan fwynhau sgyrsiau agos fel rhywun sylwgar o’r tu allan.

Roedd hefyd yn ddiddorol clywed yr un storïau ac ymatebion yn cael eu hailadrodd ar draws cyfweliadau. Roedd yr ailadroddiadau hyn yn rhoi arwydd o ddealltwriaeth a rennir o Thomas oedd yn aml, mewn gwirionedd, yn ymadael o syniadau o Dylan Thomas sy’n treiddio ein dealltwriaeth ddiwylliannol o’i gymeriad a’i fywyd. Rhannodd llawer o’r cyfweleion straeon am Thomas yn mynnu ad-dalu dyledion i’w ffrindiau, gan reoli ei yfed yn llwyddiannus fel y gallai ysgrifennu’n ddilyffethair a chwarae’n siriol gyda’i blant. Mae chwedlau o’i yfed, mercheta, nwydau di-hid a natur anrhagweladwy yn cael eu gwanhau ac yn ymddangos yn rhyfedd o’i gymharu ag atgofion ac argraffiadau mwy dof ei deulu a’i ffrindiau. Mae’n ymddangos bod straeon am ei giamocs gwyllt wedi tyfu oherwydd, wrth gwrs, mae’r straeon hyn yn gwerthu’n well na straeon am Thomas yn ceisio ad-dalu ei ddyledion, yfed peintiau yn hytrach na gwirod caled a theithio i America am arian i gefnogi ei deulu a’i ffordd o fyw, yn hytrach nag ar gyfer profiadau o anfoesoldeb a rhyddid rhag bywyd cartref.

Ni allaf argymell y casgliad hwn yn ddigon uchel. Yn hynod ddiddorol ac yn addysgiadol, mae’n dwyn ynghyd amrywiaeth hyfryd o leisiau a safbwyntiau, ac yn ennyn diddordeb y gwrandäwr ar unwaith – p’un a ydych chi’n teimlo eich bod yn gwybod bron popeth neu nesaf peth i ddim am Dylan Thomas a’i Gymru. Canfûm fod dwyster gwrando ar gynifer o gyfweliadau mewn cyfnod byr o amser hefyd wedi fy helpu i fyfyrio ar agweddau y tu hwnt i fywyd a chymeriad Thomas, megis y ffyrdd mwyaf buddiol o gynnal cyfweliad a pha bwyntiau sgwrsio sy’n debygol o arwain at yr ymatebion gorau. Roedd Edwards, heb amheuaeth, yn gyfwelydd medrus a phroffesiynol iawn, ac mae’r casgliad hwn yn cyflwyno model rhagorol ar gyfer mynd o gwmpas prosiect hanes llafar i’r rhai a allai fod â diddordeb mewn dilyn rhywbeth tebyg.

Mae cael y cyfle i gatalogio’r tapiau sain hyn wedi bod yn gwbl werth chweil o’r dechrau i’r diwedd. Mae wedi bod yn bleser cyfrannu at ein treftadaeth ddiwylliannol a rennir yn y llwybr hwn, gan alluogi yn y pen draw i gyflwyno’r gweithiau cadwedig hyn o’r newydd a’u mwynhau ar y cyd gan gynulleidfaoedd hen a newydd fel ei gilydd.

 

 

Sophie Tupholme

Troseddwyr Sir Aberteifi

Collections - Postiwyd 13-05-2020

Mewn hen lawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae trysorfa o broffiliau troseddol a myg-shots sy’n rhoi cipolwg hynod ddiddorol inni ar fywyd yng Nghanolbarth Cymru ar diwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif.

Er ein bod wedi arfer gweld ffotograffiaeth portread o’r cyfnod hwn, mae mabwysiadu ffotograffiaeth gan yr heddlu yn eu cofnodion yn golygu ein bod yn cael cipolwg prin ar fyd rhai o’r pobol tlotaf, mwyaf anobeithiol ac weithiau’n fradwrus mewn cymdeithas.

Dyma fy deg proffil gorau.

Disgrifiodd Walter Chambers, 19 oed, ei hun fel garddwr o Nottingham. Yn byw yn ddigartref, fe wnaeth ddwyn cot o brethynnwr ar y Stryd Fawr, Aberystwyth ym mis Tachwedd 1904. Awr yn ddiweddarach fe aeth at heddwas gan cyfaddef ei drosedd ac ildio ond cafodd ychydig o gydymdeimlad. Cafodd ei garcharu a’i ddedfrydu i 21 diwrnod o lafur galed.

Ymrwymodd Anne Williams o Abertawe yn Llambed yn 1905 i fis o lafur galed am drin arian wedi’i ddwyn. A nid yw’n edrych yn hapus.

Llafurwr wrth eu grefft oedd Thomas Taylor. Ymrwymodd i 2 fis o lafur galed ym 1907 am ddwyn pâr o sliperi. Er mae trosedd bach oedd hyn, ysgrifennodd yr heddlu ddisgrifiad manwl o Taylor. Roedd yn 5 troedfedd 3 ⅜ modfedd, gyda gwallt brown a llygaid glas. Mae ganddo sawl tatŵ angor a a chreithiau ar ei ddwylo, ynghyd â man geni uwchben ei teth chwith a chraith o ferw o dan ei ben-ôl chwith.

Mae’r llun teimladwy hwn yn dangos jipsan o’r enw Elizabeth Boswell, a gafodd ddirwy am ddwyn o Westy yn Aberystwyth ym mis Mawrth 1900.

Roedd gan James Harries gyfres o euogfarnau am ladrad mân yn rhychwantu dros ddegawd. Mae ei achos llys yn y Llanilar Petty Sessions ym 1903 yn nodedig am fod y tro cyntaf i olion bysedd gael eu defnyddio fel tystiolaeth yn Sir Aberteifi, ar ôl i’r heddlu lleol weithio gydag Scotland Yard i gysylltu Harries â nifer o ladradau o amgylch y wlad.

Roedd gan Sarah Mary Edwards, 18 oed o Pennal lygaid cyll a gwallt brown ac roeddent yn 4 troedfedd o daldra. Dedfrydwyd i lafur galed am ddwyn sawl eitem o ddillad.

Gweithiodd John Edward Davies o Four Crosses, fel porthor ar Reilffordd Cambria ym 1899. Gan ei fod yng ngofal y cerbyd bagiau, fe wnaeth ddwyn ‘llawer iawn’ o emwaith ar y daith rhwng Aberystwyth a Birmingham yn ystod mis Medi 1899. Yn fuan cafodd ei ddal a’i ddedfrydu i 6 mis o lafur galed.

Dedfrydwyd Kate McCarthy o Lerpwl a dau gynorthwyydd i 14 diwrnod o lafur galed am ddwyn dillad o Aberystwyth.

Rhoddwyd un o’r cosbau cryfach a gofnodwyd yn y gofrestr i William Jarvis, 22 oed. Wedi’i ddedfrydu i 12 mis o lafur galed ym 1899 am ddwyn, roedd wedi bod yn rhydd am ddim ond ychydig fisoedd pan gafwyd ef yn euog o fyrgleriaeth yn Llambed a’i ddedfrydu i 3 blynedd o penyd-wasanaeth. Mae’r gofrestr yn dangos iddo droseddu eto ar ôl iddo gael ei ryddhau, gyda ddedfrydau am lafur galed ar sawl achlysur.

Ymrwymodd John Smythe, peintiwr 65 oed i 7 diwrnod o lafur galed ym 1879 am ddwyn hwyaden o Llanychaearn.

Mae Cofrestr Troseddwyr Heddlu Swydd Aberteifi wedi’i digideiddio a gellir ei harchwilio’n llawn ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r holl luniau o’r llawysgrif hefyd wedi’u rhannu’n agored ar Comin Wikimedia a gellir eu harchwilio yma.

Jason Evans
Wicimediwr Cenedlaethol

Adnoddau Digidol

Collections - Postiwyd 07-05-2020

Er bod drysau adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar gau am gyfnod, ar-lein rydym mor agored ag erioed ac mae dal llawer y gallwch ei wneud o adref trwy ddefnyddio ein casgliad gwych o adnoddau ar-lein.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae’r Llyfrgell wedi bod yn brysur yn digideiddio ei chasgliad, sydd wedi arwain at dros 5 miliwn o adnoddau digidol sydd ar gael am ddim ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae’r casgliadau sydd ar gael yn cynnwys:

  • llyfrau
  • llawysgrifau
  • archifau
  • mapiau
  • lluniau
  • ffotograffau

felly mae digon ar gael i ddifyrru neu ddysgu beth bynnag sydd o ddiddordeb i chi.

Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r amser hwn i wneud rhywfaint o ymchwil hanes teulu?

Dyma ychydig o ffyrdd y gallwn ni helpu:

  • Cyngor arbenigol ar sut i ddechrau eich ymchwil Hanes Teulu
  • Chwilio a gweld ein casgliad o ewyllysiau cyn 1858 am ddim
  • Chwiliwch am eich hynafiaid ymhlith yr 1.1 miliwn o dudalennau o Bapurau Newydd Cymru. Pwy a ŵyr pa straeon cudd y dewch chi o hyd iddynt ymhlith y 15 miliwn o erthyglau sy’n dyddio o 1804 i 1919!

Efallai bod gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am eich tŷ neu’ch ardal leol?

Mae gwefan Lleoedd Cymru yn lle gwych i ddechrau.

Yma gallwch chwilio a phori dros 300,000 o gofnodion o Fapiau Degwm Cymru. Gallwch weld y mapiau eu hunain a’r dogfennau pennu cysylltiedig a’u cymharu â mapiau mwy modern. Pwy oedd yn berchen ar eich tŷ, sut y defnyddiwyd y tir yn y gorffennol – mae’r cyfan ar wefan Lleoedd Cymru.

Mae yna hefyd 1.2 miliwn o dudalennau o Gylchgronau Cymru yn dyddio rhwng 1735-2007 i’ch helpu gydag ymchwil hanes lleol. Porwch trwy 450 o gyfnodolion gwahanol i weld beth allwch chi ei ddarganfod am eich ardal leol.

Ydych chi’n dysgu o gartref am y tro cyntaf?

Rydyn ni’n gallu helpu!

Mae Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell yn cynnig llawer o adnoddau addysgol am ddim.  Mae’r adnoddau, sydd ar gael ar dudalennau’r Gwasanaethau Addysg a Hwb, yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, o Dywysogion Cymru i’r Ail Ryfel Byd, i gelf ac ysbrydoli creadigrwydd.

Ac yn ystod amser chwarae, beth am roi cynnig ar yr Her Adeiladu Digidol ac ail-greu Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan ddefnyddio Minecraft, Lego neu unrhyw gêm floc arall! Bydd fideos, cynlluniau llawr, dimensiynau a lluniau, i gyd ar gael ar Hwb, yn eich helpu ar hyd y ffordd.

Wedi cael digon o ymchwil a dysgu? Ymlaciwch gyda’r Llyfrgell Genedlaethol!

Porwch trwy ein casgliadau amrywiol.

Gadewch i’n gweithiau celf hardd eich ysbrydoli! Chwiliwch ein Catalog [darganfod.llyfrgell.cymru] neu bori bron i 2000 o weithiau celf o’n casgliadau trwy wefan ArtUK.

Dihangwch am ychydig gyda’r hen ffotograffau neu ffilmiau rydym yn eu cynnig am ddim ar-lein.

Gallwch hyd yn oed fwynhau arddangosfeydd digidol o gysur eich cartref eich hun

Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd, a beth bynnag sydd o ddiddordeb i chi, rydych chi’n siŵr o ddarganfod rhywbeth i’ch addysgu neu ddifyrru. Ewch i’n tudalen Adnoddau’r Llyfrgell i weld rhestr lawn o’r hadnoddau sydd ar gael i chi gartref.

Byd Llenyddol Paul Peter Piech

Collections - Postiwyd 06-05-2020

Mae 2020 yn flwyddyn canmlwyddiant yr artist graffig a gwneuthurwr posteri Paul Peter Piech, ac yma yn y Llyfrgell Genedlaethol mae’r casgliad mwyaf o flociau leino Piech, yn ogystal â chasgliad mawr o’i bosteri a’i brintiau unigryw.

Ganwyd Piech yn Brooklyn, Efrog Newydd ym 1920, ond treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa broffesiynol ym Mhrydain. Dros bum degawd cynhyrchodd brintiau trawiadol yn ymwneud â themâu cymdeithasol, gwleidyddol, llenyddol a cherddorol gan gyfuno llythrennu sgwarog gyda gwaith celf lliwgar a beiddgar i greu steil hollol unigryw.

Yn ystod yr 1980au symudodd Piech i Gymru, ble parhaodd i weithio fel rhan o’r byd celf Cymreig. Cofleidiodd yr iaith a’r diwylliant gan droi ei argraffiadau o Gymru a’i phobl yn bosteri trawiadol.

Mae dylanwad llenyddiaeth yn amlwg yn ei waith, ac yn aml defnyddia eiriau’r awduron a’r beirdd hynny a’i hysbrydolodd i gyfleu ei farn a’i werthoedd personol. Mae’n amlwg i’r cyfnod a dreuliodd yng Nghymru ddylanwadu’n fawr arno, a phortreadodd rhai o lenorion amlycaf Cymru. Tueddai i ganolbwyntio ar y rheiny a oedd â ffocws cymdeithasol, gwleidyddol neu ddychanol i’w gwaith.

Gellir gweld fersiwn ddigidol o’r arddangosfa ar wefan Casgliad y Werin Cymru.

Mari Elin Jones

O blaid ac yn erbyn brechu

Casgliadau / Collections - Postiwyd 04-05-2020

Gyda’r haint Coronafeirws yn ymledu drwy’r byd ar raddfa ddychrynllyd, diddorol oedd darllen llyfryn amserol o gasgliad y meddyg a’r seiciatrydd o Gymru, Syr Robert Armstrong-Jones. Dosbarthwyd yr eitemau yn y casgliad yn ôl pwnc ac mae’n cynnwys tua ugain o bamffledi am glefydau pandemig.

Y farn gyffredinol heddiw yw mai brechlyn yn erbyn y feirws Covid-19 fydd mwyaf effeithiol i ymladd y clefyd. Er hynny, wrth ddarllen y llyfryn For and against Vaccination, gwelir fod angytundeb dros y dull orau i leihau lledaeniad y frech wen dros gan mlynedd nôl. Dangosir cyfres o lythyrau a anfonwyd i’r wasg yn Nulyn rhwng y Cadfridog Arthur Phelps, o’r Anti-Vaccination League, a Percy Kirkpatrick, meddyg enwog o’r Iwerddon a Llywydd Cynghrair Glanweithdra Dulyn. Defnyddiodd Phelps a Kirkpatrick ystadegau o achosion a marwolaethau, gan gynnwys rhai o’r rhyfel rhwng y Ffrancwyr a’r Almaenwyr yn 1870—71 i gryfhau eu dadleuon dros ac yn erbyn brechu.

 

 

Ond ‘doedd y ddadl ddim mor ddu a gwyn â hynny. Credodd Phelps mai glanweithdra oedd yn allweddol i drechu’r frech wen, nid brechu. Dyma ei eiriau:-

Glanweithdra yw’r unig ateb ar gyfer y frech wen, typhus, a chlefydau brwnt eraill. Mae ceisio gwneud i rywun fod yn imiwn i glefyd A (y frech wen) drwy ei haeintio a clefyd B (brech y llus) mor hurt ag y byddai i ddyn i hongian lluniau treisgar yn ysgol ei blant gyda’r syniad o’u rhwystro rhag dweud celwydd.

Roedd Phelps yn trafod dyfeisiad Edward Jenner o frechu yn erbyn y frech wen drwy roi chwistrelliad sy’n cynnwys firws brech y llus. Wrth gwrs gwyddom erbyn heddiw fod chwistrellu straen llai difrifol o firws i rywun yn galluogi system imiwnedd y corff i greu gwrthgyrff a fydd yn amddiffyn yr unigolyn rhag y clefyd difrifol. Dyma sut gwneir brechlyn yn erbyn y ffliw a ymchwil o’r fath sy’n debygol o arwain at frechlyn yn erbyn Cofid-19.

 

 

Yn y llyfryn, dyfynnir Y Athro Minkowski, Prif Feddyg Ysbyty Augusta, Cologne, fod imiwnedd yr Almaenwyr wedi digwydd oherwydd brechu ac ail-frechu gorfodol. Nid oedd yn credu fod aros ar wahan a phellhau cymdeithasol yn ffactorau mor bwysig. Ychwanegodd y byddai’r rhain wedi methu’n llwyr oni bai fod brechu gorfodol i blant ac ail-frechu i oedolion wedi digwydd hefyd.

Dywedodd Dr Brandhomme, oedd yn Swyddog Meddygol Iechyd i ddinas Frankfurt–on-Main:

Rwy’n credu taw brechu ac ail-frechu sy’n amddiffyn pobl orau. Heb y rhain byddai cadw’r epidemig o dan reolaeth yn amhosib.

Nid oedd gan Fitzpatrick a Phelps fodelau fathemategol fel sydd gan llywodraethau heddiw. Er hyn roedd yn amlwg eu bod yn edrych ar ystadegau i geisio darganfod patrymau i awgrymu y nifer o achsion a marwolaethau byddai’n digwydd wrth frechu neu beidio. Dywedodd Phelps am yr ystadegau a welir yn y llun isod am yr achosion a marwolaethau o ganlyniad i frech y llys yn yr Ymerodraeth Almaenig yn 1908: The most favoured were the vaccinated too late, of whom only 4.76 % died. If all the 434 had been in this happy category, the total deaths would have been not 65, but about 20! Er hyn, cred Kirkpatrick fod y tabl yn profi ei bwynt fod brechu yn gweithio. Wrth uno grŵp I a II (rhai oedd heb eu brechu a’r rhai a frechwyd unwaith yn unig) cawn gyfanswm o 55 o farwolaethau o’r frech wen a 291 o achosion. Yn grwp III (rhai a frechwyd ddwywaith) cawn 10 o farwolaethau a 143 o achosion.

 

 

Erbyn heddiw nid oes amheuaeth fod brechu yn erbyn y frech wen wedi bod yn llwyddianus ac nid oes achosion wedi codi unrhywle ers 1977. Diddorol nodi y dechreuwyd dreialu brechlyn a ddatblygwyd gan Brifysgol Rhydychen a Choleg Imperial, Llundain, yn erbyn Covid-19 yn y bythefnos ddiwethaf. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at y canlyniadau gan obeithio darganfod brechlyn arall i helpu’r ddynol ryw.

 

Hywel Lloyd,
Llyfrgellydd Cynorthwyol

Stori Cymru: Cwis 4

Stori Cymru - Postiwyd 01-05-2020

Fel rhan o gyfres Stori Cymru, mi fyddwn ni’n cyhoeddi cwis wythnosol ar ddyddiau Gwener dros yr wythnosau nesaf.

Mi fyddwn ni’n eich herio chi gyda 10 cwestiwn. Mi fydd bob cwestiwn yn gysylltiedig â Chymru, o’i hanes i lenyddiaeth, cerddoriaeth, daearyddiaeth a llawer mwy.

Felly, rhowch gynnig arni, a cofiwch roi gwybod i ni sut aiff hi: LlGC ar Twitter, LlGC ar Facebook neu LlGC ar Instagram

(Gyda llaw, mae’r cwestiynau ar y diwedd – felly dim edrych!)

 

Cwestiynau

1. Yn chwedl Gelert, pwy oedd perchennog y ci ffyddlon?

2. Crëwyd pentref Eidalaidd Portmeirion gan ba bensaer Prydeinig?

3. Cysylltir y gân werin ‘Sosban Fach’ gyda pha dîm rygbi Cymreig?

4. Pa fetal gloddiwyd yn mynydd Y Gogarth yn Llandudno?

5. Enwch y ddau AS o etholaethau yng Nghymru a fu’n Brif Weinidog ar y DU yn ystod yr 20fed Ganrif

6. Pa athro Lladin a drodd yn naturiaethwr a ddaeth yn warden cyntaf RSPB Ynyshir?

7. Pwy oedd y telynor dall o Wynnstay?

8. Pwy oedd y ddynes gyntaf i arwain plaid yn y Cynulliad Cenedlaethol? Who was the first woman to lead a party in the National Assembly for Wales?

9. I ba gyfnod cynoesol mae siambr gladdu Bryn Celli Ddu, Sir Fôn yn perthyn?

10. Torrodd Malcolm Campbell record cyflymder tir y byd yn Bluebird, rhywle yng Nghymru, ond ble?

Atebion

  1. Llywelyn Fawr (‘Llywelyn ap Iorwerth’)
  2. Sir Clough Williams-Ellis
  3. Scarlets
  4. Copper
  5. David Lloyd George a James Callaghan 
  6. William Condry 
  7. John Parry
  8. Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol, Cymru) 
  9. Neolithig
  10. Traeth Pentywyn, Sir Gaerfyrddin (Pendine Sands)

Sprinclad o hanes

Casgliadau / Collections - Postiwyd 28-04-2020

Roedd cydsyniad y Frenhines i Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 yn ddigwyddiad hanesyddol. Roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael yr hawl i ddeddfu mewn meysydd penodol ac o dan amgylchiadau penodol dan Ddeddf Lywodraeth Cymru 2006, ac roedd nifer o fesurau’r llywodraeth wedi pasio ar faterion fel addysg, iechyd a gwastraff. Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 oedd y ddeddf gyntaf i’w basio gan y Cynulliad oedd wedi cael ei chyflwyno gan Aelod Cynulliad meinciau cefn. Ann Jones, AC dros Ddyffryn Clwyd, oedd yn gyfrifol am y ddeddf ac fel cyn swyddog tân, roedd ganddi ddiddordeb tymor hir ac arbenigedd yn y maes.

Cyflwynodd Ann Jones archif diddorol o bapurau yn olrhain hanes pasio’r ddeddf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru trwy Archif Menywod Cymru fel rhan o brosiect Gwir Gofnod o Gyfnod. Mae’r prosiect yn gweithio gydag Aelodau a chyn Aelodau Cynulliad benywaidd i recordio eu hanes llafar a threfnu bod eu papurau yn cael eu trosglwyddo i archifdai priodol. Dyma’r casgliad archifol cyntaf i ddod i archifdy fel rhan o’r prosiect ac es i â Rhian James, Pennaeth Archifau a Llawysgrifau, i gasglu’r papurau o’r Senedd yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.

 

 

Mae stori’r ddeddf yn ddiddorol, ac mae’r papurau yn dilyn pob cam o’r broses yn drwyadl – yr ymchwil, sicrhau Gorchymyn Cymhwysedd Deddfu, y dadleuon yn y Cynulliad, pasio’r mesur, a gweithredu’r rheoliadau newydd. Ymysg y papurau ceir drafftiau o areithiau ble mae Ann yn gwneud yr achos dros y ddeddfwriaeth yn effeithiol iawn; drafftiau o’r ddeddfwriaeth; a gohebiaeth gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru, Aelodau Seneddol ac Arglwyddi, a phrif swyddogion gwasanaethau tân. Ceir hefyd copïau o ymchwil i fesuriadau tebyg yn Toronto a Scottsdale Arizona, papurau cynadleddau diogelwch tân, a chasgliad o ohebiaeth ddiddorol rhwng Ann Jones a gweinidogion Llywodraeth Prydain, gan gynnwys David Jones, a oedd yn feirniadol iawn o’r deddf oedd, yn eu tybiant nhw, yn faich afresymol ar y diwydiant adeiladu. Mae atebion Ann Jones yn dangos ei meistrolaeth o’r dadleuon a’i arbenigedd yn y maes, a’i ewyllys i gymodi i gyrraedd y nôd o leihau’r nifer o bobl fyddai’n marw mewn tanau domestig.

Mae deddf y ‘sprinklers’ yn un o weithgareddau mwyaf adnabyddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru felly mae’n briodol iawn bod y dogfennau sy’n dweud stori’r ddeddf ac yn cofnodi rôl y gwleidydd tu ôl i’r ddeddf wedi’u diogelu. Yr ydym yn falch iawn eu bod bellach yn rhan o gasgliad yr Archif Wleidyddol Gymreig ac Archif Menywod Cymru yma yn y Llyfrgell Genedlaethol, a’u bod yn helpu ni i sicrhau gwir gofnod o’r cyfnod hwn yn ein hanes gwleidyddol. Gellir pori’r archif ar ein catalog ar-lein.

 

Rob Phillips
Archif Wleidyddol Gymreig

Tagiau:

Stori Cymru: Cwis 3

Stori Cymru - Postiwyd 24-04-2020

Fel rhan o gyfres Stori Cymru, mi fyddwn ni’n cyhoeddi cwis wythnosol ar ddyddiau Gwener dros yr wythnosau nesaf.

Mi fyddwn ni’n eich herio chi gyda 10 cwestiwn. Mi fydd bob cwestiwn yn gysylltiedig â Chymru, o’i hanes i lenyddiaeth, cerddoriaeth, daearyddiaeth a llawer mwy.

Felly, rhowch gynnig arni, a cofiwch roi gwybod i ni sut aiff hi: LlGC ar Twitter, LlGC ar Facebook neu LlGC ar Instagram

(Gyda llaw, mae’r atebion ar y diwedd – felly dim edrych!)

Cwestiynau

1.Pwy oedd sefydlydd casgliad Llawysgrifau Peniarth?
2. Beth oedd enw’r artist portreadau enwog a anwyd yn Hwlffordd yn 1876? Roedd ei brawd yn artist enwog hefyd.
3. Pwy ddanfonodd Llythyr Pennal at Frenin Ffrainc yn 1406?
4. Pwy gyflwynodd yr arwydd hafal (=) am y tro cyntaf yn y gyfrol The Whetstone of Witte?
5. Pwy oedd y fenyw gyntaf erioed i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol?
6. Pa Frenin Lloegr a anwyd yng Nghastell Penfro?
7. Ym mha flwyddyn ddigwyddodd Brwydr Abergwaun?
8. Ble y ganwyd yr artist Cymreig, Syr Kyffin Williams?
9. Ble y cyhaliwyd yr Eisteddfod cyntaf a gofnodwyd?
10. Beth yw enw’r ffotograffydd benywaidd cyntaf yng Ngymru?

Atebion

  1. Robert Vaughan
  2. Gwen Joh
  3. Owain Glyndŵr
  4. Robert Recorde
  5. Cranogwen (Sarah Jane Rees)
  6. Harri VII
  7. 1797
  8. Llangefni, Sir Fôn
  9. Castell Aberteifi
  10. Mary Dillwyn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog