Tag Archives: Archif Wleidyddol Gymreig

Catalogio hanesion llafar Tiger Bay ar gyfer y Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain

Darganfod Sain - Postiwyd 05-05-2021

Bob blwyddyn, mae myfyrwyr ôl-raddedig sy’n astudio Rheoli Archifau a Chofnodion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymgymryd â phrosiect sy’n rhoi cyfle iddynt ddefnyddio rhai o’r sgiliau y maent wedi bod yn eu datblygu. Ni fu eleni ddim gwahanol, er yn anochel teimlwyd effeithiau eang y pandemig byd-eang. Serch hynny, gyda chefnogaeth staff y Brifysgol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LLGC), rydym wedi llwyddo i addasu. Mae wedi bod yn gyfle i’w groesawu’n fawr i bob un ohonom yn y grŵp ennill rhywfaint o brofiad catalogio a chwarae rhan yn y Prosiect Datgloi ein Treftadaeth Sain. Gan gwrdd drwy Tîm Microsoft bob wythnos, rydym wedi ennill profiad o gynllunio prosiectau a chydweithio fel grŵp i gyflawni nod cyffredin. Rydym hefyd wedi cael cyfle i hogi sgiliau sy’n fwy penodol i rôl archifydd, megis sicrhau cysondeb a rhyngweithrededd wrth greu metadata. Er mwyn sicrhau cysondeb iaith, gwnaethom greu canllawiau catalogio yn unol â gofynion LLGC. Roedd hyn yn nodi’n glir beth oedd yn ofynnol ym mhob maes, yn ogystal a’r angen i gadw at unrhyw eirfa reoledig neu safonau rhyngwladol. Er mwyn sicrhau rhyngweithrededd, gwnaethom sicrhau y gellid mapio’r holl wybodaeth a gofnodwyd gennym i wahanol safonau. Mae hyn yn lliniaru’r risg y bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei cholli os yw’r casgliad wedi’i integreiddio i wahanol gatalogau.

Mae’r casgliad penodol o recordiadau rydyn ni wedi bod yn helpu i’w catalogio yn cwmpasu cyfresi amrywiol o hanesion llafar a gynhaliwyd gyda thrigolion Tiger Bay, y gymuned amrywiol ar ochr y dociau sydd wedi’i hailddatblygu dros amser i Fae modern Caerdydd. Hoffwn ganolbwyntio’n benodol ar y gyfres gyntaf o recordiadau rydyn ni wedi bod yn eu catalogio, a recordiwyd yn 1987. Mae’r gyfres hon yn cwmpasu amrywiaeth o gyfweliadau â nifer o drigolion yr oes. Roeddynt i gyd yn byw bywydau amrywiol iawn, ond maent i gyd yn unedig oherwydd eu cysylltiad â Tiger Bay. Mae’r dyddiad y gwnaed y recordiadau hyn yn golygu bod gan y preswylwyr safbwyntiau diddorol a fyddai o bwys i lawer o ymchwilwyr. Yn gyntaf, roedd llawer ohonynt yn byw yng nghysgod y ddau Ryfel Byd ac yn cyfrannu’n uniongyrchol at ymdrech y rhyfel. Yn ail, roedd llawer yn byw yn Tiger Bay cyn ac ar ôl ei ailddatblygiad yn yr 1960au, ac felly’n darparu mewnwelediad unigryw i sut y gallai’r hyn a elwir yn ‘gliriadau slym’ y cyfnod effeithio ar gymunedau.

 

Western Mail & Echo, “Golygfa Butetown o’r awyr,” Archif Cyfnewid Treftadaeth a Diwylliant, a gyrchwyd ar Ebrill 21, 2021, https://www.hcearchive.org.uk/items/show/6472. Trwydded Archifau Creadigol, c. Western Mail & Echo

 

Ymhlith y pynciau diddorol eraill a godwyd yn ystod y cyfweliadau mae: natur cysylltiadau hiliol yn yr ugeinfed ganrif mewn rhan arbennig, amlddiwylliannol o Brydain; maint a natur cadwraeth grefyddol; rolau rhyw; gwerthoedd cymdeithasol; amodau gwaith a diwydiant. Treuliodd rhai a gyfwelwyd fwy o’u bywyd nag eraill yn Tiger Bay. Mae’r rhai sydd â chysylltiad â’r gymuned yn dal i ddarparu straeon hynod ddiddorol a allai fel arall fod wedi’u colli. Mae hyn wir yn dod â gwerth hanesion llafar fel cyfrwng i mi. Er bod archifwyr yn draddodiadol wedi canolbwyntio ar dystiolaeth ddogfennol, mae’r recordiadau hyn yn helpu i dynnu sylw at y mewnwelediad y gall hanesion llafar eu cynnig i fywydau unigryw a allai fel arall fod heb eu cofnodi.

Ar y cyfan, mae’r grŵp yn gweld hwn yn weithgaredd diddorol a gwerth chweil iawn. Byddwn yn ôl mewn cysylltiad maes o law, gyda phrofiadau aelodau eraill y grŵp gyda’r gyfres ddilynol o recordiadau.

 

Gan Ewan Macleod, MA Rheoli Archifau a Chofnodion, Prifysgol Cymru Aberystwyth

Iaith, Llenyddiaeth, a Chwilio am Raeadr Derwennydd: Cofnodion Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

Casgliadau - Postiwyd 03-05-2021

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ddiweddar wedi cael y pleser o dderbyn cofnodion ein cymdogion, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Un o’r sefydliadau academaidd blaenorol ym maes astudiaethau Celtaidd, mae ymchwil y Ganolfan yn cwmpasu’r llenyddiaeth a’r ieithoedd Celtaidd i gyd, yn cynnwys y Gymraeg, Gwyddeleg, Manaweg, Llydaweg, Cernyweg, a Gaeleg yr Alban, ymysg eraill.

Mae’r cofnodion yn dechrau yn swyddogol yn y 70au, gyda sefydlu’r Ysgol Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru yn 1971 gydag adrannau Y Gymraeg, Gwyddeleg, a Hanes Cymru. Mae’r papurau cynnar yma (Cyfres D1 yn y catalog) yn cyfleu rhai o’r syniadau tu ôl sefydlu’r Ysgol Astudiaethau Celtaidd, yn ogystal â rhai o’r problemau ymarferol fel chwilio am adeilad addas fel cartref i’r Ysgol. Gallwn glywed hefyd rhai o leisiau myfyrwyr cyntaf yr Ysgol, trwy lythyrau gan ddarpar fyfyrwyr yn gwneud ymholiadau am astudio yn yr Ysgol newydd.

Yn 1976, lansiodd athrawon yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd gronfa apêl er cof am y llenor Thomas Parry-Williams gyda’r bwriad o sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Mae cofnodion y Ganolfan (Cyfres A1) yn dangos ymdrech a datblygiad yr Apêl trwy ohebiaeth yr Athrawon a manylion rhoddion, ac yn cofnodi llwyddiant yr Apêl ac agoriad swyddogol y Ganolfan yn 1979 (Ffeil D1/2). Mae’r dogfennau yn dangos y Ganolfan yn mynd o nerth i nerth, gyda mwy o staff yn ymuno yn yr 80au, ac agor yr adeilad newydd ar bwys y Llyfrgell Genedlaethol yn 1993  (Ffeil D2/2 a Chyfres D3).

Rhan fawr o’r casgliad yw’r cofnodion cyfarfodydd (Grŵp P), sy’n cofnodi gwaith y Ganolfan o ddydd i ddydd yn ogystal â thrafod gweithgareddau fel cyhoeddiad ac ymchwil. Mae ehangder ag amrywiaeth gwaith y Ganolfan yn amlwg o gofnodion a phapurau seminarau a fforymau (Cyfresau G1 a G2), sy’n hyrwyddo pynciau fel ‘Gweithiau Beirdd y Tywysogion’ (G2/1), ‘Traddodiad Barddol yr Alban’ (G2/5), ‘Tafodieithoedd’ (G2/9), ‘Archaeoleg’ (G2/11), a ‘Llysiau a Meddygaeth’ (G2/16) ymysg eraill. Fel rhywun sydd â ddiddordeb yn astudiaethau Celtaidd fy hunan, rwy’n meddwl mai’r dogfennau mwyaf diddorol yn y casgliad yw’r rhai sy’n cyfleu’r broses ymchwilio. Un o fy ffefrynnau yw’r casgliad o lythyrau (Ffeil C1/3) sy’n trafod ymchwil un o gyn-gyfarwyddwyr y Ganolfan, R. Geraint Gruffydd, ar gyfer ei ddarn ‘Where Was Rhaeadr Derwennydd?’ a gyhoeddwyd yn 1990. Mae’r ffeil yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gruffydd at bob Bwrdd Dŵr rhanbarthol yn Lloegr yn gofyn am leoliad y Rhaeadr enwog sy’n cael ei henwi yn y gerdd gynnar ‘Canu Aneurin’ – gydag amrywiaeth o atebion diddorol o weithwyr y Byrddau Dŵr!

Ond efallai un o’r pethau pwysicaf am gofnodion y Ganolfan yw’r papurau sydd wedi cael eu hysgrifennu yn yr ieithoedd Celtaidd. Heblaw’r Gymraeg, mae’r casgliad yn cynnwys dogfennau a llythyrau yn y Wyddeleg, Llydaweg, a Gaeleg yr Alban. Mae’n braf iawn i weld yr ieithoedd yma yn cael eu defnyddio, ac mae’n pwysleisio gwaith y Ganolfan i ymchwilio a hyrwyddo hanes a llenyddiaeth Geltaidd er mwyn cadw’r ieithoedd yma yn fyw ac i helpu sicrhau eu dyfodol.

Catalog: https://archives.library.wales/index.php/cofnodion-canolfan-uwchefrydiau-cymreig-a-cheltaidd-prifysgol-cymru-2

 

Lucie Hobson
Archifydd Cynorthwyol

Tagiau: ,

Y Llyfr Addysgol Cyntaf o’r Môr Tawel

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 26-04-2021

Tra’n gweithio o adref, mae staff Isadran Datblygu Casgliadau wedi parhau i ychwanegu at gasgliadau’r Llyfrgell.  Un o’r llyfrau mwyaf anarferol a brynwyd yn ddiweddar yw Aritemeti: oia te haapaoraaotetaio e te faa au raa o te numera.  Er gwaethaf ei deitl hir, llyfr bach o 16 tudalen yw hwn, wedi’i rwymo mewn cloriau lledr brith.

 

 

Mae’n debyg taw hwn yw’r testun addysgol cyntaf i’w gyhoeddi yn y Môr Tawel.  Fe’i argraffwyd gan wasg y Windward Mission yn Tahiti yn 1822.  Yr awdur oedd John Davies o Lanfihangel-yng-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn (1772-1855), a wasanaethodd fel cenhadwr o dan Gymdeithas Genhadol Llundain yn Ynysoedd Môr y Deau am 54 mlynedd.  Mae ei weithiau eraill yn cynnwys gramadeg a geiriadur o iaith Tahiti a chyfieithiadau o Taith y pererin, rhannau helaeth o’r Testament Newydd a’r Salmau, a chatecism Westminster.

Mae’r llyfr yn destun mathemategol sylfaenol sy’n rhestru’r rhifau yn Tahitïeg ac yn dysgu sut i adio, tynnu ymaith, lluosi a rhannu.  Ar y diwedd ceir rhestr o ddigwyddiadau pwysig yn Tahiti o 1606 hyd at 1822.  Mae’r testun yn seiliedig ar argraffiad cynharach a gyhoeddwyd ar ynys Huahine yn yr Ynysoedd Cyferwyntol yn 1819.  Symudwyd gwasg y Windward Mission i Wilk’s Harbour, Papeete, yn Ebrill 1818, a hwn yw un o’r llyfrau cyntaf i’w argraffu yno.  Mae’r Llyfrgell eisoes yn berchen ar gopi o Efengyl Mathew yn Tahitïeg a argraffwyd gan y wasg yn 1820.

Mae’r llyfr bach hwn yn dystiolaeth o ddylanwad cenhadwyr o Gymru ar ochr arall y byd.

 

Timothy Cutts

Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Casglu’r Etholiad

Casgliadau - Postiwyd 19-04-2021

Pan fydd etholwyr Cymru yn etholiad Senedd Cymru newydd ar Mai 6ed daw cyfnod ymgyrchu gwleidyddol brwd i ben. Tra bod y gwleidyddion ym ymgyrchu mae’r Archif Wleidyddol Gymreig yn gweithio i sicrhau bod cofnod o’r ymgyrch ar gael ar gyfer ymchwilwyr y dyfodol. Bydd staff y Llyfrgell Genedlaethol yn recordio darllediadau gwleidyddol a dadleuon yr arweinwyr oddi ar y teledu a chymryd copiau archif o wefannau a ffrydiau Trydar y brif pleidiau ac ymgeiswyr unigol.

Er gwaethaf cyfyngiadau Covid-19 a thŵf ymgyrchu ar-lein mae’r daflen etholiad, neu anerchiad etholiad dal yn un o’r dullau cyfathrebu pwysigaf a bydd etholwyr ar draws Cymru yn derbyn llawer ohonynt yn ystod yr ymgyrch. Mae gan y Llyfrgell gasgliad mawr (bron i 200 o focsys) o anerchiadau etholiad ac effemera ymgyrchu arall ac mae’n hynod diddorol. Er bod rhai deunydd o 1837 mae’r rhan fwyaf o’r casgliad yn dod o’r 20fed ganrif ac ers 1983 mae’r Archif Wleidyddol Gymreig wedi cael cefnogaeth nifer o pobl ar draws Cymru sy’n casglu’r deunydd mae’n nhw’n ei derbyn ar ein rhan fel bod gyda ni deunydd o bob plaid a phob etholaeth.

Mae’r rhwydwaith casglu wrthi ar hyn o bryd fel bod ymgeiswyr a’u haddweidion etholiad Senedd Cymru 2021 ar gôf a chadw fel rhan o’r casgliad ac rwy’n edrych ymlaen at roi trefn arnynt a’u catalogio dros yr hâf. Ond nid yw ein cefnogwyr yn gallu casglu popeth – ac felly buaswn yn gwerthfawrogi unrhyw ddeunydd ymgyrchu ychwanegol, yn arbennig ar gyfer ymgeiswyr annibynnol, ymgeiswyr pleidiadu llai neu yn etholaethau Alyn a Glannau Dyfrdwy, Blaenau Gwent, Gogledd Caerdydd, De Clwyd, neu Ynys Môn. Gallwch eu hanfon at Yr Archif Wleidyddol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3BU. Llawer gwell iddynt fynd i’r casgliad effemera na’r bin ailgylchu!

Rob Phillips
Yr Archif Wleidyddol Gymreig

Tagiau: , ,

Archifau Mewn Perygl

Casgliadau / Collections - Postiwyd 06-04-2021

Yn ddiweddar, dyfarnwyd i Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru grant o £50,000 o Gronfa Archifau Covid-19 gan yr Archifdy Gwladol. Bydd y dyfarniad hael hwn yn caniatáu inni gyflogi Swyddog Cofnodion mewn Perygl i Gymru i arwain ar ddatblygu strategaeth genedlaethol i nodi cofnodion sydd mewn perygl oherwydd pandemig Covid-19.

Mae gan bandemig Covid-19 nifer o oblygiadau ar gyfer sut mae busnesau, elusennau a sefydliadau cymunedol eraill yn gallu parhau, gyda llawer yn cau heb fawr o rybudd. Mae gan y cofnodion a grëwyd gan y cyrff hyn werth hanesyddol, nid yn unig i’r busnesau eu hunain, ond hefyd y dystiolaeth y maent yn ei darparu o gyfraniad y busnesau at fywyd y gymuned leol ac i hanes Cymru. Mae llawer o’r sefydliadau hyn yn chware rhan hanfodol yn ein cymunedau, ac mae eu cofnodion yn rhan annatod o hanes lleol a chenedlaethol. Dyma le mae pobl yn byw eu bywydau, yn gweithio, yn siopa, yn cwrdd â’u ffrindiau ac yn dod at ei gilydd fel cymuned, a bydd eu cofnodion yn dweud mwy wrthym am sut roedd pobl yng Nghymru yn byw o ddydd i ddydd.

Dros y flwyddyn i ddod, wrth i’r wlad ddod allan o’r pandemig, bydd nifer cynyddol o’r mathau hyn o sefydliadau lleol yn wynebu cau, neu efallai na fyddant yn gallu parhau i ofalu am eu hasedau hanesyddol. Mae’n hanfodol bod dull effeithiol o sicrhau bod unrhyw archifau a chofnodion bregus yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rôl y Swyddog Cofnodion mewn Perygl fydd arolygu’r dull o gadw cofnodion cyfredol yng Nghymru, sicrhau bod cofnodion mewn perygl yn cael eu nodi, a datblygu’r fframwaith ar gyfer Strategaeth Genedlaethol Cofnodion mewn Perygl i Gymru.

Tagiau: ,

LLGC ar Google Arts & Culture

Casgliadau / Collections - Postiwyd 22-03-2021

Ddechrau fis Mawrth lansiwyd presenoldeb Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar lwyfan diwylliannol Google Arts & Culture. Rhyddhawyd nifer helaeth o gasgliadau digidol unigryw y Llyfrgell ar wefan ac ap Google Arts & Culture gan ddod â diwylliant Cymru i sylw’r byd.

Y Llyfrgell Genedlaethol yw’r sefydliad diwylliannol cenedlaethol cyntaf o Gymru i rannu cynnwys ar wefan Google Arts & Culture ac mae’n ymuno gyda thros 2000 o bartneriaid eraill o bob cwr o’r byd sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod celf a diwylliant ar gael i bawb ble bynnag y bônt. Am y tro cyntaf, mae’n casgliadau’n eistedd ochr yn ochr â chynnwys diwylliannol o bob cwr o’r byd.

Ar hyn o bryd mae 190 o eitemau’r Llyfrgell ar gael mewn oriel ar-lein ar wefan ac app Google Arts & Culture. Yn eu plith mae ffotograffau gan ffotograffwyr cynnar eiconig fel Mary Dillwyn, gweithiau celf gan un o hoff artistiaid Cymru, Kyffin Williams, a thrysorau megis map o Gymru gan John Speed.

Trwy rannu delweddau cydraniad uchel mae Google Arts & Culture yn galluogi cynulleidfaoedd i archwilio eitemau drostynt eu hunain gan edrych mewn manylder ar wrthrychau ac i ddysgu amdanynt trwy amrywiaeth o gyfryngau gweledol a chlyweledol. Mae’n bosib edrych ar lawysgrif cerddoriaeth ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ tra’n gwrando ar y recordiad cyntaf o’r anthem er enghraifft, yn ogystal ag edrych ar baentiadau o rai o’n cestyll eiconig ochr yn ochr â delweddau ‘street view’ Google ohonynt.

Dyma’r tro cyntaf hefyd Google Arts & Culture gynnwys yr iaith Gymraeg ar ei blatfform digidol.  Er mwyn gweld y cynnwys yn y Gymraeg bydd rhaid i chi newid eich gosodiadau iaith ar Google a cheir cyfarwyddiadau ar wefan y Llyfrgell ar sut i wneud hyn.

Mae’r Llyfrgell yn bwriadu ychwanegu mwy o eitemau a churadu rhagor o straeon digidol dros y misoedd nesaf.

 

Mynediad Digidol

Tagiau: , , , ,

Codi llwch eich archif

Darganfod Sain - Postiwyd 19-03-2021

“O 2016 ymlaen, derbynnir yn eang o fewn y gymuned archifol glywedol fod gennym rhwng 10 a 15 mlynedd i ddiogelu’n ddigidol yr holl gynnwys clywedol sydd ar gludwyr a gedwir ar gyfryngau magnetig” Cymdeithas Ryngwladol Archifau Sain a Chlywedol (IASA)

Mae casgliadau sain dan fygythiad o gael eu colli am byth oherwydd dirywiad corfforol, ac wrth i’r modd o chwarae’r seiniau beidio cael eu cynhyrchu. Mewn ymateb i hyn, ymunodd 10 hwb ledled y DU â’r prosiect a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ac a arweiniwyd gan y Llyfrgell Brydeinig – Datgloi Ein Treftadaeth Sain.

 

 

Nod y prosiect uchelgeisiol yma yw diogelu recordiadau sydd mewn perygl, sefydlu rhwydwaith o ganolfannau sain ledled y DU ac ennyn diddordeb mwy o bobl mewn recordiadau sain. Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn digido a chatalogio recordiadau sain o’n casgliadau ein hunain yn ogystal â’r rhai a gedwir mewn sefydliadau amrywiol yng Nghymru.

 

 

Nid archifau ac amgueddfeydd yn unig sy’n wynebu risg o golli eu casgliadau sain, ond hefyd casgliadau preifat personol. Ydych chi’n gwybod sut y gallech helpu i ddiogelu eich recordiadau eich hun gartref? Oes gennych chi recordiad gwerthfawr gartref yr hoffech chi wybod mwy amdano?

 

 

Ar ddydd Iau 1af Ebrill 2021, bydd Rhodri Shore, ein Peiriannydd Cadwraeth Sain ar gael ar-lein mewn sesiynau un i un i drafod, cynnig cyngor ac arweiniad ar sut y gallech edrych ar ôl eich casgliadau sain personol.
Byddwn yn cynnig cyfle prin i chi ddethol eitemau sain o’ch cartref, a gofyn unrhyw beth am eich casgliad personol eich hun. Mynnwch gyngor ar adnabod y fformat, cyflwr, sut i’w storio gartref a sut i ofalu a diogelu eich casgliadau gwerthfawr.

 

 

Yn ystod eich slot hanner awr bydd cyfle i drafod eich eitemau sain personol yn ogystal â chlywed am yr heriau a wynebwyd gennym wrth weithio gyda recordiadau sain bregus ar gyfer Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain (DETS).

 

 

Efallai bod gennych hen gasét, rîl sain, DAT, Minidisc neu Silindr Cwyr y mae angen cyngor arnoch chi? Beth bynnag yw’r fformat, gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu lle ymlaen llaw ar gyfer sgwrs gyfeillgar. digwyddiadau.llyfrgell.cymru

 

 

 

Llythyrau David Jones, yr artist, yr ysgrythwr a’r bardd

Casgliadau / Collections / Derbynion newydd - Postiwyd 15-03-2021

Ar 19 Awst 2020, a gyda cefnogaeth hael gan Gyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol, prynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn arwerthiant grŵp sylweddol o lythyrau’r artist, ysgythrwr a’r bardd David Jones (1895-1974) i’w gyfaill Valerie Wynne-Williams (gynt Price).

Roedd Jones yn ei chwedegau cynnar a Price bron deugain yn iau nac ef pan bu’r ddau gyfarfod am y tro cyntaf yn 1958. Er bod eu perthynas yn llwyr blatonig, roedd Jones yn amlwg wedi gwirioni â Valerie ac mae’r llythyrau yn sicr, yn rhannol, yn rai caru. Mae’n cyfeirio ati drwyddi draw fel ‘Elri’, weithiau’n addurno ei henw â blodau neu adar. Parhaodd hyn ymhell ar ôl i Valerie briodi Michael Wynne-Williams yn gynnar yn 1960.

 

 

Mae’r llythyrau yn ymwneud â’i diddordebau arferol megis dirywiad ei iechyd, ei amgylchiadau byw mewn amryw o dai yn Harrow-on-the-Hill a Harrow, a’i frwydrau gyda’i gelf, ond hefyd ei ddiddordeb dwys yng Nghymru, yr iaith Gymraeg a hanes Cymru. Yn hynny o beth, roedd Valerie yn ohebydd delfrydol; roedd yn rhugl yn y Gymraeg ac yn gefnogwr brwd o, a’n hwyrach yn ymgeisydd seneddol dros, Blaid Cymru.

Rhwng y ddau ohonynt, roedd David a Valerie yn adnabod nifer o amlygion gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru ac yn y llythyrau mae unigolion megis Saunders Lewis, Gwynfor Evans, Aneirin Talfan-Davies a Keidrych Rhys yn cilwthio am le gyda cyfeillion eraill Jones, gan gynnwys T. S. Eliot, Stephen Spender a Harman Grisewood.

Mae’r llythyrau yn cynnwys sawl darluniad, gan gynnwys moch, merlod a chath yn cysgu, portread o fenyw prydferth, a’r olygfa (wedi’i sgetsio o gof) o Gôr y Cewri o’i babell ar wastatir Gaersallog yn 1915. Mae sawl esiampl o’i arysgrifau nodweddiadol, gan fwyaf yn y Gymraeg. Y mwyaf trawiadol yw fersiwn o’i arysgrifiad yn coffau marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yn 1282.

Nid yw’r llythyrau wedi’u cyhoeddi ond defnyddiwyd hwy ym mywgraffiad diweddar Thomas Dilworth, David Jones: Engraver, Soldier, Painter, Poet (Llundain, 2017).

Mae’r Llyfrgell nid yn unig yn gartref i lyfrgell personol David Jones, ond hefyd i’w brif archif sy’n cynnwys papurau personol, gohebiaeth a gweithiau llenyddol a chelf. Mae ei lythyrau i Valerie Wynne-Williams yn ychwanegiad sylweddol arall i ddaliadau’r Llyfrgell, ac yn ychwanegu at y chwe deg o lythyrau oddi wrthi at Jones, a llond llaw o lythyrau drafft gan Jones mewn ymateb, sydd eisoes yn yr archif. Dyma hefyd yr ail grŵp o bapurau David Jones i ni brynu yn ddiweddar gyda cefnogaeth Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol, yn dilyn ein pryniad mewn arwerthiant o’i lythyrau at Morag Owen yn Nhachwedd 2019.

Mae’r Llyfrgell yn parhau yn awyddus i ychwanegu deunydd pellach o ohebiaeth David Jones, yn enwedig y rheiny sy’n ychwanegu at y llythyrau sydd eisoes yn yr archif. Mae diddordeb arbennig gyda ni mewn gohebiaeth sy’n adlewyrchu ei ddiddordeb yng Nghymru a materion Cymreig, nodweddion diddorol ei lythyrau at Valerie a Morag.

Mae’r llythyrau yma bellach wedi’u catalogio (cyfeirnod NLW MS 24167E) ac ar gael i’w gweld yn ystafell ddarllen y Llyfrgell.

Rhys M. Jones
Llyfrgellydd Llawysgrifau Cynorthwyol

Augusta Hall a’r wisg draddodiadol Gymreig

Casgliadau - Postiwyd 01-03-2021

A hithau’n Ddydd Gŵyl Dewi, rwy’n siwr bydd nifer ohonoch – hen ac ifanc – wedi gwisgo ar gyfer yr achlysur, naill ai mewn crys rygbi neu phêl-droed Cymru, neu ar drywydd mwy traddodiadol mewn cap brethyn a gwasgod, neu’r het dal, ffedog a siôl sy’n nodweddiadol o’n gwisg genedlaethol. Ond beth yw’r hanes tu ôl y wisg yma?

Cysylltir y wisg yn bennaf ag Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer (neu ‘Gwenynen Gwent’), un o noddwyr pwysicaf diwylliant gwerin yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig ym meysydd cerddoriaeth a dawns. Cafodd ei geni yn Sir Fynwy yn 1802 ac yr oedd yn aelod blaenllaw o gymdeithas Cymreigyddion y Fenni, ynghyd â’i chyfaill Thomas Price (Carnhuanawc).

Ond adnabyddir hi’n bennaf am ei ddelwedd o’r wisg draddodiadol Gymreig. Yn ei thraethawd buddugol yn Eisteddfod 1834 yng Nghaerdydd, ‘The Advantages resulting from the Preservation of the Welsh Language and National Costumes of Wales’, dadleuodd y dylai merched Cymru wisgo dillad traddodiadol o wlanen Gymreig, yn hytrach na’r cotwm rhad oedd yn cynyddu mewn poblogrwydd ar y pryd. Mae’n debyg iddi hefyd gomisiynu cyfres o ddyfrlliwiau o wisgoedd merched o wahanol rannu o Gymru, gan gynnwys Sir Geredigion a Sir Benfro, yn y gyfrol Dull-wisgoedd Cymreig gan A. Cadwaladr (1830) [NLW Drawing vol. 299].

 

Ceisiodd hybu ei ddelwedd o’r wisg, oedd yn cynnwys yr het, pais a phetgwn nodweddiadol, ymhlith ei chylch a thu hwnt ond heb ryw lawer o lwc. Heblaw am orfodi ei morwynion ym Mhlas Llanofer i wisgo’r wisg wrth eu gwaith a dwyn perswad ar rai o’i chyfeillion agosaf, mae’n debyg nad oedd ei hymdrechion yn llwyddiannus ar raddfa ehangach. Yn wir, dadleuol yw’r tystiolaeth mai hi wnaeth ‘ddyfeisio’r’ wisg Gymreig. Er hyn, mae ei fersiwn hi o’r wisg a’i rôl canfyddedig yn ei phoblogrwydd yn ran annatod o ddatblygiad stori’r wisg Gymreig a sut caiff ei hadnabod heddiw.

Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chwi oll. Gan obeithio cewch gyfle i fwynhau powlen o gawl ac ambell bicen ar y maen.

Darllen pellach:

Michael Freeman, ‘Lady Llanover and the Welsh Costume Prints‘, The National Library of Wales Journal, vol. XXXIV, no. 2 (2007), pp. 235-252

 

Y Pryse cywir? Newid cyfenwau’r teulu Pryse, Gogerddan

Casgliadau / Collections - Postiwyd 17-02-2021

Soniodd y diweddar Fred Wedlock mewn cân werin digri, ‘There’s a bit where it changes every chorus; never mind, just guess’. Gellid dweud yr un peth am deulu’r Pryse, Gogerddan, a newidiodd eu cyfenw â phob cenhedlaeth yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae modd olrhain y dryswch yn ôl at dri aelod o’r teulu:

  • Pryse Pryse (1774-1849)
  • Pryse Loveden (1815-1855)
  • Sir Pryse Pryse (1838-1906)

Dyma yw sut oedd y tri unigolyn yma yn cael eu hadnabod ar adeg eu marwolaethau. Mae’r newid cyfenw yn ystod eu bywydau wedi drysu sawl ysgolhaig. Bwriad y blog yma yw ceisio datgysylltu’r tri unwaith ac am byth, a hynny gyda cymorth y portreadau teuluol.

Pryse Pryse (1774-1849)

Dechreuodd Pryse Pryse (1774-1849) ei fywyd fel Pryse Loveden. Roedd yn fab i Edward Loveden Loveden o Buscot Park a’i wraig, Margaret Pryse o Ogerddan. Ar etifeddu’r stâd yn dilwyn marwolaeth ei fam yn 1798, penderfynodd Pryse Loveden fabwysiadu cyfenw ac arfbais teulu’r Pryse. Roedd hyn yn unol â dymuniadau ei dad-cu, Lewis Pryse (m. 1779). Mae’r portread cyntaf yma yn dangos Pryse Pryse fel dyn ifanc, yn gwisgo ffasiynau’r ddeunawfed ganrif hwyr.

Mae’r ail bortread yn cynrychioli Pryse Pryse fel dyn dipyn hŷn (52 mlwydd oed). Mae John Steegman yn dyddio’r portread i Mawrth 1826 o argraffiad y Morning Chronicle, sef y papur newydd mae Pryse yn ei ddal.

 

 

Pryse Loveden (1815-1855)

Cafodd Pryse Loveden (1815-1855) ei fedyddio yn Pryse Pryse. Ef oedd mab cyntaf Pryse Pryse yr hynaf a’i ail wraig, Jane Cavallier. Fel etifedd Gogerddan a Buscot Park, stâd ei dad-cu, roedd hawl gan y Pryse Pryse ifengach i gymryd y cyfenw Loveden ar ôl marwolaeth ei dad yn 1849.

Mae’r portread cyntaf yn dangos Pryse Loveden fel dyn ifanc mewn dillad Fictorianaidd cynnar. Mae Steegman a chatalog y Llyfrgell Genedlaethol yn dyddio’r portread i 1838.

Mae’r ail, sy’n dwyn y teitl ‘Gentleman in Black Coat’ gan J. Langton Barnard, 1856, yng nghatalog y Llyfrgell, mae Pryse Loveden yn ddym canol oed Yn wir, mae dyddiad y portread ychydig ar ôl ei farwolaeth felly mae’n bosibl mai portread galar ydyw.

 

 

Syr Pryse Pryse (1838-1906)

Pryse Loveden oedd enw gwreiddiol Syr Pryse Pryse (1838-1906). ar ôl ei dad. Ei fam oedd Margaretta Jane Rice o Lwyn-y-brain, Sir Gaerfyrddin. Roedd y Pryse Loveden yma dal yn fachgen ifanc dan oed pan bu farw ei dad heb wneud ewyllys yn 1855. Drwy grant gan Goleg Brenhinol yr Arfau yn 1863, roedd hawl ganddo i ddefnyddio cyfenw ac arfbais teulu’r Pryse ac, ar ôl hynny, cafodd ei adnabod fel Pryse Pryse. Daeth i fod yn Syr Pryse Pryse, Barwnig cyntaf o’r ail greadigaeth yn 1866. Mae’r portread ffotograffig yma yn dangos Syr Pryse Pryse yn 1868.

Mae’r ail bortread yn un o bâr gan Julius Hare sy’n dangos Syr Pryse Pryse a’r Foneddiges Pryse, tua 1901. Cyfrannodd tenantiaid Gogerddan tuag at gost y portreadau yma.

 

 

Enwodd Syr Pryse ei fab hynaf yn Pryse Pryse Pryse, ond bu farw yn ifanc o glwyf heintus o ganlyniad i frathiad gan lwynog yn 1900. Dylai enw mor ddiamwys rhoi’r diwedd i’r dryswch. Byddech yn meddwl hynny, ond cewch gip ar y cofnod ar gyfer Gogerddan yn Francis Jones Historic Cardiganshire Homes and their Families…!

 

Cyfeiriadau

John Steegman, A Survey of Portraits in Welsh Houses, Volume II: South Wales (Cardiff : National Museum of Wales, 1962)

David T.R. Lewis, The Families of Gogerddan in Cardiganshire and Aberglasney in Carmarthenshire (David T.R Lewis/Y Lolfa, 2020)

Francis Jones, Historic Cardiganshire Homes and their Families (Brawdy Books, 2000)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Gogerddan Estate Records, cyfres GQA1

 

Hilary Peters
Archifydd Cynorthwyol

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog