Tag Archives: Adnau Cyfreithiol

Asesu cywirdeb gwaith tagio delweddau gan wirfoddolwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Collections / Research - Postiwyd 29-05-2023

Dros y ddegawd ddiwethaf mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi datblygu rhaglen wirfoddoli sydd wedi ennil sawl gwobr, gyda channoedd o wirfoddolwyr yn gweithio i gyfoethogi data a’n dealltwriaeth o’n casgliadau trwy amrywiaeth o dasgau, o drawsgrifio a mynegeio i dagio ffotograffau.

 

Mae gan y llyfrgell hefyd bartneriaeth hirsefydlog gyda Wikimedia, y sefydliad y tu ôl i Wikipedia a Wikidata – cronfa ddata agored gysylltiedig enfawr o bobl, lleoedd a phob math o bethau. Yn ystod y cyfyngiadau Covid fe wnaethom dreialu’r defnydd o Wikidata a safon delweddu IIIF i ychwanegu tagiau disgrifiadol at ddelweddau gan ddefnyddio meddalwedd ffynhonnell agored a ddatblygwyd gan gymuned Wiki, cyn ymgorffori’r broses hon yn ein llwyfan torfoli digidol.

Enghraifft o ddelwedd wedi’i thagio gan wirfoddolwyr o bell yn ystod y cyfnod cloi

 

Tra bod y defnydd o technoleg IIIF wedi ei hen sefydlu yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae defnyddio Wikidata i ddisgrifio ein casgliadau dal yn fwy arbrofol. Y prif fanteision a welwn o’r dull hwn yw amlieithrwydd a data cyfoethog.

 

Mae Wikidata yn galluogi defnyddwyr i ychwanegu labeli at eitemau data mewn nifer o ieithoedd. Er enghraifft, dim ond un eitem sydd yn y set ddata ar gyfer ‘coeden’, gyda dynodwr unigryw, ond mae modd labelu a’i ddisgrifio’r data mewn cannoedd o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg. Mae hyn yn golygu y gall ein gwirfoddolwyr weithio yn Gymraeg neu Saesneg a gallwn gasglu a chyflwyno’r data hwnnw mewn unrhyw iaith a ddewiswn. Mae hefyd yn rhoi mynediad i ni at amrywiaeth gyfoethog o ddata ychwanegol am y lleoedd, y bobl a’r pethau sydd wedi’u tagio yn ein casgliadau.

Cafodd tagio delweddau gan ddefnyddio Wikidata ei integreiddio i’n llwyfan torfoli

 

Er bod defnyddio geirfa benodol fel Wikidata yn golygu y gallwn greu data strwythuredig, yn hytrach na llinynnau o destun  rhydd lle gallai gwirfoddolwyr gwahanol ddisgrifio un eitem mewn nifer o wahanol ffyrdd, mae yna heriau o hyd gyda’n methodoleg.

 

Mae Wikidata yn cynnwys 100 miliwn o eitemau ddata ar bob math o bethau ac mae llawer o hyn yn amherthnasol i’n defnyddwyr, sy’n golygu bod risg o dagio’r peth anghywir. Gall hyn fod yn ddamweiniol. Er enghraifft, mewn un ddelwedd roedd bachgen i’w weld yn penlinio a defnyddiodd ein gwirfoddolwyr yr eitem Wikidata ar gyfer ‘Kneeling Boy’ i dagio’r ddelwedd. Fodd bynnag ‘Kneeling Boy’ oedd teitl paentiad mewn gwirionedd. Ac felly defnyddiwyd y tag anghywir.

 

Efallai hefyd fod tagiau’n cael eu cymhwyso’n ddidwyll, ond mae natur gymhleth ontoleg Wikidata yn golygu bod y tag anghywir wedi’i gymhwyso, megis defnyddio ‘gwryw’ (rhyw) yn lle ‘dyn’ (dyn dynol) i dagio dyn mewn ffotograff.

 

Nod y prosiect tagio lluniau yw ychwanegu tagiau at gasgliad mawr o albymau ffotograffiau o’r 19eg ganrif, gan ddarparu data manylach na’r hyn a gedwir ar ein catalog. Dros y 12 mis diwethaf mae dros 100 o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan yn y dasg tagio ar ein llwyfan torfoli a threuliwyd cyfanswm o 900 awr ar y platfform. Y gwirfoddolwyr mwyaf gweithgar yw’r rhai sy’n rhan o dîm gwirfoddolwyr mewnol y llyfrgell er bod y prosiect yn agored i unrhyw un gymryd rhan.

 

Mae mwy nag 20,000 o dagiau wedi’u hychwanegu at y casgliad ffotograffau hyd yma.

 

Rhai o’r pethau cafodd eu tagio’n amlaf yng nghasgliad ffotograffau’r 19eg ganrif

 

Felly, pan holodd Myfyriwr Meistr Gwyddor Llyfrgell a Gwybodaeth ym Mhrifysgol Maryland am leoliad maes, gwelsom gyfle gwych i adolygu safon y tagio gan ein gwirfoddolwyr hyd yn hyn. Roedd Amelia Eldridge, ein Myfyriwr Meistr, wedi ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol tra ar ymweliad â Chymru fel rhan o breswyliad artist yn 2020. Teimlai y byddai lleoliad maes gyda’r Llyfrgell yn ffordd anhygoel o gyfuno ei diddordeb yn niwylliant Cymru gyda gofyniad graddio.

 

Aeth Amelia ati i adolygu sampl ar hap o dros 3000 o dagiau. Roedd hi’n edrych am ddefnydd anghywir o dagiau ac absenoldeb tagiau defnyddiol, lle efallai mae gwirfoddolwyr wedi colli’r cyfle i ychwanegu data defnyddiol.

 

O’r 3315 o dagiau a adolygwyd roedd 191 wedi’u marcio’n anghywir sy’n gyfradd fethiant o 5% yn unig. Ychwanegwyd 671 o dagiau newydd at albymau a ystyriwyd yn ‘gyflawn’ (cynnydd o 20%) sy’n awgrymu bod gwirfoddolwyr weithiau’n colli cyfleoedd i dagio rhai pethau.

   

Dyma Amelia yn esbonio mwy; 

 

“Y tag coll a ychwanegwyd amlaf oedd “capsiwn” – llinellau o destun a ddefnyddir i esbonio neu ymhelaethu ar ddarlun, ffigwr, tabl neu ffotograff. Ychwanegwyd 155 o dagiau. Ychwanegais y tag hwn pan fod gan ddelwedd/ddarluniad gapsiwn disgrifiadol yn y ffotograff neu’r darluniad ei hun, yn hytrach nag wedi ei ysgrifennu mewn graffit oddi tano. Yr ail dag amlaf i gael ei ychwanegu oedd “ffasiynau Fictorianaidd”; ffasiynau a thueddiadau yn y diwylliant Prydeinig yn ystod y cyfnod Fictorianaidd, gyda 45 tag wedi eu hychwanegu. Ychwanegais y tag hwn i ffotograffau mewn arddull portread, ble ymddangosai i mi fod y ffasiynau a wisgir gan y bobl yn bwysig i ddisgrifiad y ddelwedd.

Ni ychwanegais hyn i ddelweddau ble roedd pobl yn amlwg yn gwisgo “ffasiynau Fictorianaidd” ond nad oeddent mewn arddull portread. Fodd bynnag, ni fyddwn yn marcio hyn yn anghywir os oedd gwirfoddolwr arall yn gwneud. Dyma enghraifft o ‘ogwydd tagiwr’, pan fyddwn yn gweld gyda diddordeb sut fyddai pobl gwahanol yn disgrifio ffotograff. Yn y rhan fwyaf o achosion ni dagiais y gwahaniaethau hyn fel rhai anghywir, yn hytrach gwnaethant i mi hunan fyfyrio.”

 

Un o’r delweddau a dagiwyd gan Amelia fel ‘ffasiynau Fictorianaidd’

 

Mae’r ‘gogwydd tagiwr’ a arsylwyd yn ein hatgoffa bod torfoli data disgrifiadol, beth bynnag fo’r fethodoleg, yn debygol o ddioddef o ddiffyg cysondeb gan y bydd pobl yn tueddu i dagio’r pethau sydd o ddiddordeb personol, neu’r pethau maen nhw’n sylwi arnynt yn fwy amlwg wrth archwilio delwedd. Fodd bynnag, mae’r gallu i weld tagiau a ychwanegir gan eraill ar y llwyfan yn caniatáu i ddefnyddwyr fyfyrio ar eu tagio eu hunain.

 

Pan ddaeth hi at y defnydd anghywir o dagiau roedd patrwm clir, fel yr eglura Amelia;

 

“Mi wnes farcio rhai tagiau fel rhai anghywir. Roedd y tri pennaf yn ymwneud a rhywedd. Y tag a farciwyd yn anghywir amlaf oedd ‘dyn’ (oedolyn gwryw dynol) gyda 74 o dagiau wedi eu marcio yn anghywir. Byddwn yn marcio’r tag hwn fel un anghywir pan fyddai dynion lluosog yn cael eu tagio fel un dyn. Teimlwn mai’r tag cywir ar gyfer y delweddau hyn, gan eu bod yn dangos nifer o ddynion, oedd ‘grwp o ddynion’. Yn ail roedd ‘gwryw’, sydd wedi ei fwriadu i ddisgrifio “rhyw neu rhywedd”. Marciwyd 45 o dagiau o’r math hwn. Byddwn yn cywiro hyn i naill ai ‘dyn’ neu ‘grwp o ddynion’ yn ddibynnol ar faint o bobl oedd yn cyflwyno fel gwryw oedd yn y llun. Y trydydd tag mwyaf aml i gael ei gywiro oedd ‘gwraig’ gydag 18 o dagiau anghywir. Byddwn yn cywiro’r tag hwn os byddai, fel gyda’r dynion, nifer o bobl yn cyflwyno fel menywod wedi eu tagio fel un yn unig. Byddwn yn eu newid i ‘grwp o wragedd’. Defnyddiwyd ‘benyw’ yn anghywir i ddisgrifio person benywaidd, ond ddwywaith yn unig. Defnyddiwyd ‘benyw’ a ‘gwryw’ mewn albymau cynnar a werthusais, ac mae’n ymddangos i’r gwirfoddolwyr gywiro eu hunain yn eithaf cyflym.”

 

Mae’r ffaith bod cymaint o’r tagiau anghywir yn deillio o gamddealltwriaeth onest o’r data yn awgrymu y gallai darparu mwy o arweiniad ac adnoddau hyfforddi leihau’r gyfradd gwallau yn sylweddol heb gormod o adnoddau.

 

Roedd rhai problemau hefyd yn ymwneud ag ethnigrwydd, lle cafodd unigolion eu tagio fel Eidaleg, Tsieineaidd neu Americanaidd Brodorol. Fel yr oedd Amelia yn awyddus i bwysleisio, “ni allwn gymryd hunaniaeth yn ganiataol”. Mae gan Wikidata eitemau data ar gyfer nodi preswylfa person neu grwp o bobl i defnyddio yn lle ethnigrwydd ac mae Amelia yn awgrymu y byddai defnyddio’r eitemau hyn yn llai problemus, er bod cymryd yn ganiataol bod pobl mewn ffotograff a dynnwyd yn yr Eidal yn bendant yn byw yn yr Eidal  dal yn anodd datgan efo unrhyw awdurdod. Er enghraifft, mae Amelia yn awgrymu, pan gafodd “brodorion Gwreiddiol America yn UDA’ eu tagio o fewn delwedd, y gallai ei newid i ‘pobloedd brodorol yr Amerig’ fod yn fwy cynhwysol a chywir.” Eto, gallai darparu arweiniad clir i wirfoddolwyr helpu i leihau enghreifftiau o’r broblem hon.

 

Delwedd wedi’i thagio’n anghywir efo ‘ethnigrwydd’

 

Gofynnais i Amelia beth fyddai ei hargymhellion ar gyfer lleihau nifer y gwallau.

 

“Fy nheimlad i yw fod nifer o’r tagiau a farciwyd fel rhai anghywir yn rhai y gellid eu hosgoi drwy hyfforddi’r gwirfoddolwyr i beidio eu hychwanegu. Er enghraifft – osgoi tagio ethnigrwydd, neu’r tag rhywedd wrth ddisgrifio gwryw neu fenyw. Byddwn yn betrus o gael set benodol o dagiau â geirfa rhag ddiffiniedig, am na fyddwn am gyfyngu’r gwirfoddolwyr. Fel y soniais, rhywbeth diddorol i mi am y prosiect oedd gweld sut mae gwahanol ymagweddau i ddisgrifio delwedd. Hefyd, fel y soniais hefyd, ar y cyfryw mae’r gwirfoddolwyr yn barod yn gwneud gwaith da yn dehongli a thagio beth sydd yn yr albymau ffotograffau. Awgrym arall – a ddylai’r gwirfoddolwyr ddysgu am gefndir yr albymau ffotograffau cyn dechrau eu gwaith tagio? Efallai cael sgwrs fer gyda’r curadur sydd yn gyfrifol amdanynt? Neu fideo wedi ei recordio ymlaen llaw i weithiwr o bell? Rwy’n credu byddai rhai yn gweld hyn yn ddiddorol, a byddai’n rhoi cyfle i weld ochr arall o’r llyfrgell (curadurol).”

 

Bydd gwaith Amelia i adolygu’r albymau sydd wedi’u tagio ac i nodi patrymau yn ymddygiad defnyddwyr yn hynod werthfawr wrth i ni geisio datblygu a tyfu ein cyfleoedd torfoli. Bydd ei phersbectif fel rhywun sydd hefyd wedi cyfrannu at y tagio fel gwirfoddolwr yn ein helpu i wella ein gwasanaeth wrth i ni symud ymlaen. Y casgliad llethol yma, yw bod y gwirfoddolwyr, mewn gwirionedd, wedi gwneud gwaith gwych yn tagio’r albymau gyda chywirdeb trawiadol. Mae awgrymiadau Amelia ar gyfer adnoddau hyfforddi ac i ofyn i guraduron roi rhywfaint o hanes a chyd-destun ar gyfer y casgliadau sy’n cael eu tagio yn hynod ddefnyddiol ac yn rhywbeth rwy’n gobeithio y gallwn ei ddatblygu ar gyfer ein prosiect tagio nesaf.

 

Amelia yn cyflwyno ei chanfyddiadau i staff LlGC gyda Jason Evans, ei goruchwyliwr yn LlGC.

 

Felly can diolch i Amelia am y gwaith hwn. Dymunwn y gorau iddi gyda’i gradd meistr a gobeithio y cafodd gymaint allan o’i lleoliad maes ag y gwnaethom ni!

Tagiau: , , , , , ,

Gŵyl y Gelli

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd

Mae Gŵyl y Gelli yn cychwyn yr wythnos hon, ac roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n edrych i mewn i sut y bu i dref fechan dawel ym Mhowys gynnal un o ŵyliau llenyddol mwyaf y byd.

Yn ôl yn y 60au, agorodd gŵr busnes lleol, Richard Booth, siop lyfrau ail law yn y Gelli Gandryll, penderfyniad a fyddai’n newid hanes y dref am byth. Ymhen ychydig flynyddoedd, roedd ganddo chwe siop lyfrau, ac roedd eu poblogrwydd yn denu hyd yn oed mwy o lyfrwerthwyr i’r dref. Oherwydd y nifer o siopau llyfrau, cafodd Y Gelli ei labelu fel “Y Dref Llyfrau”. Roedd Booth yn adnabyddus am ei hynodrwydd, fel y gwelir pan fe ddatganwyd annibyniaeth i’r dref, a’i alw’n hun yn Frenin arni. Mae’r erthygl hon o 1983 o’r Daily Telegraph yn dangos enghraifft i ni o’i weithgareddau gwleidyddol, ac mae ei gofnod yn The Oxford Dictionary of National Biography yn rhoi cipolwg pellach ar ei fywyd:

‘Horsepower manifesto by eccentric bookman’ – The Daily Telegraph, 23 Mai 1983 (The Telegraph Historical Archive). Booth, Richard George William Pitt, 1938-2019 (The Oxford Dictionary of National Biography).

 

 

Syniad Peter Florence, actor lleol, oedd i gael gŵyl yn y dref, ac yn ôl y sôn, fe ddefnyddiodd ei enillion o gêm o bocer i gynnal yr ŵyl gyntaf yn 1988. Llwyddodd i berswadio’r dramodydd Arthur Miller i fod yn bresennol, ac fel y mae’r erthygl hon yn y World Literature Journal yn nodi, credai Miller i ddechrau mai brechdan oedd “Hay-on-Wye”!

‘Outposts: Literary Landmarks & Events’ – World Literary Journal, 2006 (JSTOR)

 

 

Bu’r ŵyl gyntaf yn llwyddiant mawr, ac o ganlyniad, penderfynodd y Sunday Times i noddi’r digwyddiad yn ei hail flwyddyn. Fel y dengys y cyhoeddiad hwn yn y papur newydd, roedden nhw’n falch o noddi’r ŵyl hon oedd, yn ôl nhw, mewn “siop lyfrau byw”. Llwyddodd y digwyddiad i ddenu rhestr o awduron enwog, gan gynnwys Ruth Rendell, John Mortimer, Ian McEwan a Benjamin Zephaniah.

Book yourself a Festival – The Sunday Times, 12 March 1989 (Sunday Times Digital Archive)

 

 

Dros y blynyddoedd, mae’r ŵyl wedi denu rhai o enwau mwyaf yn y byd llenyddiaeth, ac wrth iddi dyfu, gwahoddwyd enwogion o feysydd eraill i gymryd rhan. Bu cryn gyffro pan fynychodd Bill Clinton yn 2001, gan frandio’r ŵyl fel “Woodstock of the mind”. Fodd bynnag, fel y dengys yr erthygl hon ar y pryd, roedd rhai yn poeni bod yr enwogion hyn yn tynnu sylw oddi wrth awduron.

Making Hay – The Guardian, 31 May 2001 (ProQuest Historical Newspapers (Guardian & The Observer)

 

 

Yn ffodus, nid felly y bu, ac mae’r ŵyl wedi parhau i hyrwyddo awduron a’u gweithiau. Bellach yn ei 35ain flwyddyn, mae’n cyfrannu at nifer o brosiectau addysgol ac amgylcheddol, yn ogystal â chynnal gŵyliau yn Ewrop a De America. Dyma gipolwg cyflym ar yr hyn y gellir ei ddisgwyl yng ngŵyl eleni.

Are you Ready for Hay?‘ – Western Mail, 29 April 2002 (Newsbank)

 

 

Os na allwch chi gyrraedd yr ŵyl eleni, beth am ymweld â’r Llyfrgell, a darllen profiad Ellen Wiles o’r ŵyl, yn “The Hay Festival: The Remote Welsh Field That Stages the Global Publishing Industry”, sydd ar gael yn ein hystafell ddarllen trwy adnau cyfreithiol electronig.

 

Paul Jackson,

Llyfrgellydd Adnau Cyfreithiol, Electronig a Derbyn

Teyrnged i Graham Thomas

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 25-05-2023

 

Ganwyd Graham Charles Gordon Thomas yng Nghaerdydd ym 1941. Ar ôl ysgol a graddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg y Drindod Dulyn. Treuliodd Graham nifer o flynyddoedd yn Nulyn, fel myfyriwr MA o dan nawdd Adran yr Iaith Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Roedd yn ymchwilio’r testun ‘Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain’ (‘The Thirteen Treasures of the British Isles’), sef cyfres o eitemau yn nhraddodiad Cymreig diwedd yr oesoedd canol. Roedd hynny’n golygu gwneud llawer o waith ymchwil ar lên gwerin a threuliodd y rhan fwyaf o’i amser yng Nghomisiwn Llên Gwerin Iwerddon. Casglodd Graham llawer o anecdotau yn ystod ei amser yn Iwerddon yn y 1960au, lawer o anecdotau iddo, llawer ohonynt yn ymwneud â lleianod. Yn ddiweddarach astudiodd yma yn Aberystwyth yn y Coleg Llyfrgellyddiaeth cyn cychwyn ar ei swydd gyntaf yn Llyfrgell Prifysgol Lerpwl. Bu’n gweithio mewn adran lle cedwid y cyfnodolion meddygol. Roedd meddygon o rai o ysbytai Lerpwl yn arfer ei alw i ofyn iddo edrych ar y cyfnodolion i weld beth oedd y ‘dosau’ priodol o rai o’r cyffuriau i’w rhoi i’w cleifion! Roedd hyn yn beryglus iawn, gan nad oedd golwg Graham yn ôl ei gyfaddefiad ei hun yn dda o gwbl ar y pryd. Yn ddiweddarach bu’n gweithio i’r Bwrdd Gwybodau Celtaidd cyn ymuno â Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel Cynorthwy-ydd Ymchwil ym 1974.

Roedd cyfraniad ysgolheigaidd Graham yn arwyddocaol iawn. Bu ei waith mawr (y bu’n gweithio arno ers tua 1974) o fynegeio’r holl destunau rhyddiaith Cymraeg mewn llawysgrifau yn brosiect enfawr. Yr oedd y gwaith a gyflawnodd arno yn hynod o fanwl. Teg fyddai dweud fod Graham yn gwybod mwy am ryddiaith Gymraeg y llawysgrifau na neb arall, erioed. Mae ei waith yn parhau trwy Geiriadur Prifysgol Cymru.

Ymddeolodd fel Archifydd Cynorthwyol yn 2001 ar ôl ysgrifennu nifer o erthyglau i gylchgronau academaidd ar siarteri a llawysgrifau canoloesol eraill. Cyhoeddodd ei magnum opus ar ‘The Charters of the Abbey of Ystrad Marchell ym 1997. Wedi ymddeol yn 2001 parhaodd i ysgrifennu ac yn 2014 cyhoeddodd gyfieithiad o Bewnans Ke, drama yn y Gernyweg o tua 1500 am fywyd St Kea.

Roedd Graham yn ddysgedig, yn wybodus ac yn gydweithiwr ysbrydoledig. Ar ôl ymddeol parhaodd i weithio ar ei fynegai rhyddiaith a phrosiectau academaidd eraill, yn aml i gyfeiliant Handel. Roeddwn yn ffodus i gwrdd â Graham ym 1992 pan ddechreuais weithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a daethom yn gyfeillion, ac fel llawer o rai eraill mi wnes i’n elwa’n fawr o’i wybodaeth ac yn enwedig ei frwdfrydedd dros gasgliadau’r Llyfrgell.

 

W. Troughton

Curadur Casgliad Ffotograffig

Y Coroniad

Casgliadau / Collections - Postiwyd 05-05-2023

Mae Coroniad y Brenin Siarl III yn gyfle i weld sut mae achlysuron tebyg wedi cael eu nodi yn y gorffennol a sut mae hynny’n cael ei adlewyrchu yng nghasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol.

Yn y bôn seremoni Cristnogol yw’r Coroni, ac roedd yn arfer i argraffu’r pregethau a draddodwyd fel rhan o’r gwasanaeth.  Mae sawl enghraifft o’r rhain yng nghasgliad Eglwys Gadeiriol Llandaf, a brynwyd gan y Llyfrgell yn 1984, gan gynnwys y bregeth hon gan William Talbot, Esgob Rhydychen, ar gyfer gwasanaeth coroni Siôr I yn 1714.

 

 

Yn 1820 ysgrifennodd William Owen Pughe, geiriadurwr, gramadegydd, golygydd, hynafiaethydd a bardd o Sir Feirionnydd, gerdd o dan ei enw barddol Idrison ar gyfer coroni Siôr IV.

 

 

Mae cerddoriaeth hefyd yn elfen bwysig o’r seremoni a darnau newydd yn cael eu cyfansoddi ar gyfer pob coroniad.  Mae ein casgliadau cerddorol yn cynnwys emyn gan y Parch. W. Morgan ac anthem gan Syr John Goss, y ddau gyda geiriau Cymraeg, a gyhoeddwyd ar gyfer coroni Siôr V yn 1911.  Ond yn y Drenewydd y flwyddyn honno roedd rhaid gohirio’r ŵyl chwaraeon a cherddoriaeth flynyddol oherwydd dathliadau’r coroniad.

 

 

Adeg coroni Siôr VI yn 1937 traddodwyd pregeth yn eglwys Drenewydd Gelli-farch yn Sir Fynwy gan y Parch. Arthur Morgan gyda’r teitl “The meaning of the Coronation” a’i chyhoeddi wedyn.  Roedd naws ysgafnach i’r dathliadau yng Nghei Connah, oedd yn cynnwys gêmau pêl-droed a phêl-rwyd, sioe tân gwyllt, a dosbarthu siocledi i blant ysgol gynradd.

 

 

Yn 1953 cynhaliwyd gwasanaethau yng nghapeli Penygroes, Sir Gaerfyrddin, a chymanfa ganu yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, i ddathlu coroni Elizabeth II.  Nododd Cyngor Maesteg yr achlysur gan gyhoeddi argraffiad arbennig o’r arweinlyfr swyddogol.

 

 

Dim ond enghreifftiau yw’r rhain o ddigwyddiadau a gynhaliwyd trwy gydol Cymru a’r Deyrnas Unedig.  Tybed pa gyhoeddiadau fydd yn cyrraedd ein casgliadau ar ôl y dathliadau eleni.

Timothy Cutts

Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Darganfod Aberystwyth Canoloesol

Casgliadau - Postiwyd 03-05-2023

 

Dros y misoedd diwethaf mae nifer o sefydliadau lleol gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifdy Ceredigion, Amgueddfa Ceredigion, Prifysgol Aberystwyth a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi dod at ei gilydd i ddathlu byd Aberystwyth yr Oesoedd Canol. Yn ogystal â’i daliadau niferus yn ymwneud ag Aberystwyth a’r Oesoedd Canol, mae’r Llyfrgell ei hun wrth gwrs wedi’i lleoli yma ers dros 100 mlynedd ar ôl ei sefydlu ym 1906.

Mae’r prosiect ‘Darganfod Aberystwyth Canoloesol’ wedi bod yn llwyddiant mawr, gyda sgyrsiau, teithiau tywys o amgylch y dref, a gweithgareddau i gyd wedi’u cynllunio i’n helpu i ddeall sut beth oedd bywyd yn Aberystwyth ganrifoedd yn ôl. Ar 20 Ebrill daeth y rhaglen o ddigwyddiadau i ben gyda digwyddiad ‘Darganfod Aberystwyth Ganoloesol mewn Llawysgrifau’, ynghyd ag arddangosfa dros dro o lawysgrifau o gasgliadau’r Llyfrgell.

 

 

Bu’r digwyddiad yn boblogaidd iawn gyda sgyrsiau a chyflwyniadau gwych gan staff y Llyfrgell a Phrifysgol Aberystwyth. Aeth un o’n harchifyddion, Dr David Moore â ni ar daith rithwir trwy gasgliadau’r Llyfrgell yn cynnwys llawysgrifau a dogfennau canoloesol yn ymwneud ag Aberystwyth, a chafwyd cyflwyniadau hynod ddiddorol gan Dr Rhun Emlyn a Dr Louisa Taylor, darlithwyr o adran Hanes y Brifysgol, o ganlyniadau eu hymchwil diweddar mewn i fywyd yn Aberystwyth yn y ganoloesau ac ar ddogfennau a sêliau Casgliad Ystâd Gogerddan. Daeth y digwyddiad i ben gyda darlleniad barddoniaeth o waith un o feirdd canoloesol mwyaf adnabyddus Aberystwyth, Dafydd ap Gwilym, a berfformiwyd gan Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol. Daeth Eurig â dwy o gerddi enwocaf Dafydd yn fyw – ‘Merched Llanbadarn’ a ‘Dewis Un o Bedair’.

 

 

Roedd yr arddangosfa a oedd yn cyd-fynd yn cynnwys detholiad o eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell, ac y mae pob un ohonynt wedi’u disgrifio yn ein catalog ac ar gael i’w gweld naill ai’n ddigidol neu yn ein Hystafell Ddarllen. Beth am gael cipolwg eich hun – pwy a ŵyr beth allech chi ei ddarganfod am Aberystwyth ganoloesol?

 

 

Roedd yr eitemau yn yr arddangosfa yn cynnwys:

Peniarth MS 540: De natura rerum Bede (12fedG, Llanbadarn Fawr)

Peniarth MS 20: Brut y Tywysogion: Brwydr Aberystwyth 1116 (c.1330, Ystrad Fflur)

NLW MS 9429E: Siarter Bwrdeistref Aberystwyth (1277 (copi))

Peniarth MS 28: Cyfreithiau Hywel Dda (13egG, Deheubarth)

Cofnodion Ystâd Gogerddan, cyfres GAB: Gweithredoedd Bwrdeisiaid Aberystwyth (14egG, Llanbadarn & Aberystwyth)

Peniarth MS 22: Brut y Brenhinedd gan Dafydd ap Maredudd Glais (1444, Aberystwyth)

Peniarth MS 54i: Dafydd ap Gwilym: Merched Llanbadarn (cyfansoddwyd yn y 14egG, plwyf Llanbadarn/Brogynin)

Peniarth MS 49: Dafydd ap Gwilym: Dewis Un o Bedair (cyfansoddwyd yn y 14egG, plwyf Llanbadarn/Brogynin)

 

Lucie Hobson

Archifydd Cynorthwyol

 

Y Cymry a’r marathon

Casgliadau / Collections - Postiwyd 17-04-2023

Mae rhedeg pellter hir wedi bod yn gysylltiedig ers tro byd fel rhan o lên gwerin Cymru, gyda enwau fel Guto Nyth Bran yn enwog am gampau rhedeg epig. Wedi dweud hynny, nid yn unig y daeth statws enwog rhedwyr Cymru i ben o fewn y chwedlau hynny, oherwydd yn fwy diweddar, mae nifer o unigolion Cymreig hefyd wedi ennill cydnabyddiaeth am eu gallu rhedeg ac wedi dod yn rhan o Oriel Anfarwolion Marathon.

 

 

Arwyr Marathon Cymru

Steve Jones

Ganed Tredegar, a enillodd sawl majors rhwng 1983 a 1993. Daeth ei ogoniant coronog yn Chicago yn 1983 lle torrodd record y byd gydag amser o 02:08:05.

Tanni Grey Thompson

Olympiad a enillodd nid yn unig sawl medal aur mewn 4 Gemau Olympaidd ar wahân ar wahanol bellteroedd, ond a enillodd hefyd 7 marathon yn Llundain rhwng 1992 a 2002.

Angharad Mair

Enillydd marathon Reykjavik yn 1996 a wedi cystadlu mewn sawl ras dros y byd hefyd.

 

Nid yn unig y mae rhedwyr Cymru wedi cael sylw ledled y byd rhedeg, ond mae rhai rasys marathon gwirioneddol epig bellach yn rhan o galendr y rhedwyr. Tlysau’r goron yw Marathon Eryri, sy’n croesi’r golygfeydd rhyfeddol rhwng Llanberis a Beddgelert. Gellir ail-wylio uchafbwyntiau rasys diweddar yn y Llyfrgell Genedlaethol, wrth iddynt gael eu darlledu i ddechrau ar S4C.

Detholiad bach o farathonau eraill o bob rhan o Gymru:

Marathon Mawr Cymru (Llanelli)

Marathon Cymru Casnewydd

Marathon Cymru (Sir Benfro)

Dyn yn erbyn Ceffyl (Llanwrtyd Wells)

 

Llyfrau

Turner, J. Guto Nyth Brân: bachgen cyflyma’r byd, 2012

Grey-Thompson, T. Aim high, 2012

Norris, V. In the long run, 2012

Neal, C. The world marathon book: a celebration of the world’s most inspiring races, 2018

Pfitzinger, P. Advanced marathoning, 2009

 

Erthyglau

Edwards. A, ‘Wedi rhedeg y ras i’r pen’, Cristion, Rhif. 178 (Mai / Mehefin 2013), p. 4-5

Dafydd, L. Rhedeg ras galetaf Ewrop . . . y merched a marathon Eryri, Golwg, Cyf. 22, rhif 8 (22 Hydref 2009), p. 34-35

Jones, R. A. 4:46:36 – marathon yn y meddwl, Barn, 544 (Mai 2008), p. 26-27

 

Ian Evans

Rheolwr Cynllun Catalogio ar y Cyd

Tagiau: ,

Adnau Cyfreithiol, Print a Mwy

Casgliadau / Collections / Gwasanaethau Darllenwyr - Postiwyd 05-04-2023

Dyma ddetholiad o rai o’r miloedd ar filoedd o lyfrau sydd yn cyrraedd y Llyfgell Genedlaethol o dan Adnau Cyfreithiol bob blwyddyn. Fel un o lyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon rydym yn derbyn bron pob llyfr a chyfnodolyn sydd yn cael eu cyhoeddi yn Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon – yn ogystal â Chymru. Mae’n anodd weithiau i bobl amgyffred hyd a lled ein casgliad adnau cyfreithiol. Felly os oes diddordeb gennych yn fforest law yr Amazon neu ddirgelion y meddwl dynol, am weld y rhifyn diweddara o Barn neu Four Four Two, am ddeall sut mae adweithydd ffiwson yn debyg o weithio, neu am bori yn nofelau eich hoff awdur, tarwch mewn i’n Stafell Ddarllen gyda’ch tocyn darllen. Mae gennym bron bopeth am byth.

Ar y 6ed o Ebrill eleni rydym ni ynghyd â’r pum llyfrgell adnau cyfreithiol arall yn dathlu Adnau Cyfreithiol Di-brint neu Electronig. Deng mlynedd yn ôl fe gawsom ni, y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn, Llyfrgell y Bodley, Rhydychen a Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt yr hawl i dderbyn cyhoeddiadau electronig yn ogystal â rhai print. Nid newid fformat yn unig o fod yn llyfr yn eich llaw i fod yn destun ar sgrîn yw ystyr hynny. Mae’r newid i gyhoeddiadau electronig hefyd wedi cynyddu maint y wybodaeth sydd gennym ar eich cyfer.

Erbyn heddiw mae pawb yn gyfarwydd ag e-lyfrau ac e-gyfnodolion ac mae cannoedd ar filoedd o’r rhain bellach ar gael yn Stafell Ddarllen y Llyfrgell Genedlaethol ond nid pawb sy’n sylweddoli bod byd ‘cyhoeddi’ yn cynnwys holl wefannau parth gwe y Deyrnas Gyfunol. Dychmygwch faint o’r deunydd hwn sydd yn diflannu bob blwyddyn am byth wrth i dudalennau gwefannau gael eu huwchraddio. Gwaith UKWA, Archif We y Deyrnas Gyfunol yw gwneud yn siŵr bod cynnwys BBC Cymru Fyw, Diverse Cymru neu wefan Gymdeithas Pêl-droed Cymru a miloedd o wefannau eraill, mawr a mân, ar draws Cymru a’r Deyrnas Gyfunol, yn cael eu cadw yn ddiogel at y dyfodol.

Gallwch chwilio’r catalog ar ein gwefan: https://www.llyfrgell.cymru/

Robert Lacey
Pennaeth Datblygu Casgliadau

Tagiau:

Idris Davies: Cymro, glöwr, a bardd rhyfeddol

Casgliadau - Postiwyd 03-04-2023

Mae Ebrill 6ed, 2023 yn nodi 70 mlynedd ers marwolaeth y bardd Idris Davies yn 1953. Daeth yn fardd hynod o fedrus, ac mae ei waith yn adnabyddus am ei onestrwydd swrth o gyfnod o galedi a newid yn Rhymni, De Cymru rhwng y ddau Ryfel Byd. Er mai dyma’r thema y mae’n fwyaf adnabyddus, trafododd Davies ryfel, gwleidyddiaeth, a ffydd yn ei weithiau, gyda Dylan Thomas a T.S. Eliot ymhlith ei edmygwyr.

Ganwyd ar 6 Ionawr 1905 yn Rhymni, yn fab i löwr, Evan, a’i wraig Elizabeth Ann. Fel nifer o fechgyn ifanc eraill, gadawodd Davies yr ysgol yn 14 oed i weithio fel glöwr ym Mhyllau Maerdy Abertyswg a Rhymni, fel ei dad. Daw amodau clawstroffobig a llethol y pyllau yn fyw yn nodiadau a chofiannau Davies, gan gynnwys disgrifio sut y collodd ran o’i fys canol mewn damwain mewn agwedd bron ddatgysylltiedig.

 

 

NLW MS 10811D, barddoniaeth Idris Davies (1920au-?1953)

 

Daeth Davies yn gyfarwydd efo’r peryglon a helynt a wynebai’r dynion o ddydd i ddydd yn y pyllau, ac roedd mwy o galedi i ddod. Taniodd y Streic Gyffredinol 1926 a chyfnod hir o ddiweithdra ei ddicter dwfn o’r ymdriniaeth annheg a chaled o’r glowyr, a deimlir yn frwd drwy gydol ei farddoniaeth. Yn wir, y dicter a’r dirmyg hwn a ddaeth yn un o brif rinweddau Davies yn ei farddoniaeth.

Ac eto, trwy gydol y cynrychioliad barddonol galed hwn o fywyd De Cymru yn y 20fed ganrif gynnar daeth hefyd ymdeimlad cryf o falchder yn y Rhymni fel ei fro, ac yn wir o Gymru fel ei famwlad. Defnyddiodd gerddi megis Gwalia Deserta (NLW 22399C) fel awdl i’r werin nid yn unig i amlygu’r dioddef fe brofasant bobl De Cymru, ond hefyd eu gobeithion yn effeithiol di-ri.

 

 

NLW MS 10811D, barddoniaeth Idris Davies (1920au-?1953)

 

Mae gwaith Idris Davies yn dal i sefyll fel tyst i un arall eto o feirdd mawr Gymru, er mae’n deg dweud nad yw bob amser wedi derbyn y clod yr oedd yn ei haeddu, yn enwedig yn ystod ei oes. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ffodus i gadw llawer o’i nodiadau, dyddiaduron, a gweithiau; rhoddir ei nodiadau a dyddiaduron (NLW MS 22402B, NLW MS 22414C) cipolwg unigryw o feddylfryd Davies, ac yn portreadu agwedd hynod feddylgar ac ar adegau sensitif at fywyd. Ffurfiodd ei flynyddoedd a’i ddioddefaint fel glöwr ei gariad dwfn a’i werthfawrogiad o symlrwydd ei hun, yn enwedig awyr iach a golau’r haul. Teimlir hyn yn frwd yn ei fyfyrdod tyner ar farwolaeth, Request:

‘Scatter my dust on the moorland

Where I dreamed my boyhood’s dreams,

Where the reeds are, and the curlews,

And the quiet springs and streams.’

 

Gellir pori eitemau Idris Davies a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yma ar ein Catalog Archifau a Llawysgrifau. 

 

Llyfryddiaeth:

Jenkins, Islwyn (1986), Idris Davies of Rhymney: a personal memoir / by Islwyn Jenkins. Llandysul: Gomer.

Jenkins, I. & Black, C. (1990) Idris Davies: Bardd Cwm Rhymni = Idris Davies : Rhymney valley poet. Cardiff: HTV Cymru Wales Community Education Department.

Islwyn Jenkins, 2001, DAVIES, IDRIS (1905 – 1953), glöwr, ysgolfeistr a bardd Eingl-Gymreig.

 

Ceri Evans

Archifydd dan Hyfforddiant

Adnoddau Digidol Newydd ar gyfer 2023

Collections - Postiwyd 31-03-2023

Mae ein gwaith digido wedi parhau tu ôl i’r llen ac mae nifer o eitemau a chasgliadau newydd bellach ar gael yn ddigidol i’w pori o gartref ar wefan y Llyfrgell a/neu y catalog:

Llawysgrifau

Casgliad Peniarth

Llawysgrifau

Archifau

Effemera Gwleidyddol

Digidwyd yr holl eitemau yng nghasgliad Archif Wleiddyddol Cymru yn ymwneud ag ymgyrchoedd refferendwm datganoli Cymru yn 1979 ac 1997.:

Rhodri Morgan letters

Rhwng 1961 a 1963, bu Rhodri Morgan, a fyddai yn ddiweddarach yn Brif Weinidog Cymru, yn astudio ym Mhrifysgol Harvard yn Unol Daleithiau America. Tra’r oedd yno, ysgrifennodd gyfres o 88 llythyr at ei deulu yn Abertawe yn disgrifio ei brofiadau, y newyddion, a’i farn ar faterion pwysig y dydd. Mae’r llythyron yn dangos Rhodri Morgan yn datblygu ei syniadaeth wleidyddol a’r profiadau oedd wedi dylanwadu arno.

  • Letters from Rhodri Morgan, 1961-1963 (Papurau Prys Morgan: File 25)
  • Letters from Rhodri Morgan, 1961-1963 (Papurau Prys Morgan: File 26)
  • Letters from Rhodri Morgan, 1961-1963 (Papurau Prys Morgan: File 27)

Lord Ogmore Papers

Teipysgrif o ‘The dedication of a prince’ gan yr Arglwydd Ogmore yn rhoi hanes arwisgo’r Tywysog Charles yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969. Roedd Arglwydd Ogmore yn aelod o bwyllgor trefnu’r arwisgo ac mae’r deipysgrif yn cynnwys 12 pennod yn sôn am agweddau gwahanol y digwyddiad gan gynnwys gwaith y pwyllgor trefnu, paratoadau ac ymarferion, gwrthwynebiad, disgrifiad o’r diwrnod a digwyddiadau wedyn.

Calvinistic Methodist Archive

Deunydd Print

Rhyddhawyd dros 800 eitem o’r casgliad print trwy’r prif gatalog, gan gynnwys gweithiau fel Libri Walliae (Cyfrol I, Cyfrol II a’r Atodiad) a detholiad o eitemau printiedig cynnar a brynwyd gan neu a roddwyd i’r Llyfrgell yn ddiweddar:

Cofiannau

Ychwanegwyd fersiynau digidol o nifer o gofiannau i’r catalog hefyd. Mae’r detholiad yn cynnwys teitlau megis:

Mapiau a Deunydd Graffigol

Casgliadau Ffotograffig

LLYFRAU FFOTO 6803 X ‘Souvenirs of Adelina Patti

Roedd Adelina Patti (1843-1919) yn un o sêr mwyaf y byd opera yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r albwm yn enghraifft gwych o Victoriana clasurol wedi’i addurno’n gywrain, yn cynnwys casgliad o ffotograffau’n dogfennu gyrfa Adelina Patti gan ffotograffwyr blaenllaw’r dydd ym Mharis a Llundain, yn dangos y soprano mewn amrywiol operâu ar frig ei gyrfa yn ystod y 1860au.

Don Griffiths – Casgliad 1964

Roedd Don Griffiths yn ffotograffydd proffesiynol yn y Drenewydd a gyflogwyd gan y Montgomeryshire Express a chyhoeddiadau cysylltiedig. Roedd yn tynnu lluniau o Rhyl i Aberhonddu rhwng y 1960au a’r 1990au. Mae llawer o’r eitemau o gryn ddiddordeb yn lleol ac yn ehangach gan eu bod yn cynrychioli ciplun o fywyd yng nghymunedau Sir Drefaldwyn yn ystod cyfnod o newid cymdeithasol a thechnegol. Mae’r casgliad yn cynnwys ffotograffau o bersonoliaethau lleol (e.e. Rhiannon Jones, Cwmtrefarlo & Trixie), digwyddiadau cymdeithasol (e.e. Newtown Carnival; Llanidloes “Miss Valentine”; Welshpool Pantomime; Christmas Cavalcade, Newtown; Twist & Shout), crefyddol (e.e. Llanidloes Methodist Church Party; Montgomery Church Sunday School Party), diwylliannol (e.e. Gorsedd Stones Reach Newtown; Caersws Amateur Operatic Society; Kerry Male Voice Choir), digwyddiadau cenedlaethol (e.e. Royal Welsh Show; General Election 1964), damweiniau ffordd (e.e. Overturned Lorry nr Llangurig; Motor Accident, Buttington Bridge), ysgolion (e.e. Gungrog Infants School; Llanfair School Eisteddfod; Machynlleth School Fire), chwaraeon (e.e. Unidentified Soccer Team), busnesau lleol (e.e. Wynnstay Egg Production; Welshpool Horse Mart). Mae’r gwaith yn ei gyfanrwydd yn rhoi trosolwg o fywyd yn y Drenewydd, y Trallwng, Llanidloes a’r ardaloedd cyfagos yn ystod canol y 1960au. Allbwn 1964 yw’r casgliad yma o tua 3500 o negyddion.

Casgliad Guy Hughes

Casgliad o 315 o negyddion plât cyfan du a gwyn gan y ffotograffydd Guy Hughes o Bwllheli yn dyddio o 1909 i ca. 1935. Mae’r pynciau’n cynnwys digwyddiadau cymdeithasol (e.e. Roller Skate Carnival, Llanbedrog; May Queen, 1913; Group In Fancy Dress outside Plas Glyn-y-Weddw), busnesau lleol, yn enwedig mwyngloddiau a chwareli, banciau a gwestai (e.e. Crosville Motor Services Leyland Bus; Nanhoron Arms Hotel; Caernarfon Brickworks; Quarry Buildings and Terrace of Houses) a digwyddiadau lleol (e.e. Amateur Dramatics; Large Wedding Group; Children in Pierrot Costumes; Newly built Council Houses, Ffordd y Maer, Pwllheli ac agor gorsaf reilffordd newydd Pwllheli yn 1909).

Casgliad John Peris Jones

97 negydd gwydr, y mwyafrif yn olygfeydd o Lanrhaeadr-ym-Mochnant a’r ardal yn ystod degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif (e.e. Old Market Hall, Llanrhaiadr-ym-Mochnant, demolished 1901; Market Hall, Llanrhaiadr. [c.1905]; Vyrnwy Hotel & Lake; Tafarn Llaw / Hand Hotel, Llanrhaiadr-ym-Mochnant] [c.1905]). Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys rhai portreadau o bobl a grwpiau o bobl (e.e. T. Lloyd the Harpist [c.1905]; A.B. Lewis Grocer & Provision Dealer [c.1905]; Two ladies in costumes [c.1905] a Montgomeryshire Yeomanry marching from camp at Llanfyllin. [no.2] [c.1910]).

Sleidiau Hywel Harries

Casgliad o 371 o sleidiau 35mm, y mwyafrif yn ffotograffau cofnod o weithiau celf y diweddar arlunydd, athro a chartwnydd Hywel Harries (1921-1990). Mae ei olygfeydd o Gymru drefol a gwledig (e.e. Pencader; Graig, Pontypridd; North Parade & Seilo, Aberystwyth; Cardiganshire Village; Cae’r Gog, Aberystwyth; Talybont, Ceredigion) yn parhau i fod yn boblogaidd, yn arbennig ei olygfeydd mwy argraffiadol o ddociau De Cymru (e.e. Dockside cranes; Docks; Ship in dock; Docks, Port Talbot). Peintiodd hefyd nifer fechan o bortreadau (e.e. E.D. Jones, Librarian; T. H. Parry-Williams; E. G. Bowen). Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys nifer fach o ffotograffau cyfeiriol o bobl a lleoedd.

Mapiau

Y Bywgraffiadur Cymreig

Cyhoeddwyd 21 erthygl newydd ar y wefan:

Cofiwch ddilyn cyfrifon Trydar Y Bywgraffiadur: @Bywgraffiadur

Morfudd Nia Jones (Swyddog Cynnwys Digidol)

Bywgraffiadau ffug, awduron benywaidd Cymreig a Gwasg Minerva

Casgliadau / Collections / Digido - Postiwyd 13-03-2023

Ymhlith y cofiannau Cymraeg a ddigidwyd yn ddiweddar gan y Llyfrgell Genedlaethol y mae cofiant 1817 i blentyn amddifad Cymreig. The Life, Adventures and Vicissitudes, of Mary Charlton, the Welsh Orphan, Written by Herself and Dedicated to Her Own Sex, Whom She Hopes Will Honor Her Little Narrative, with a Candid Perusal (Rochester, 1817) yw cofiant bywyd cynnar yr awdur poblogaidd Mary Charlton o ddiwedd y 18fed/dechrau’r 19eg ganrif. Mae’r bywgraffiad yn ymdrin â phlentyndod Charlton, colli ei rhieni, ei hymgais i ddianc â’i chariad cyntaf, cael ei thwyllo i briodas anhapus, dychwelyd a cholli ei chariad cyntaf, a chanfod hapusrwydd mewn bywyd teuluol dosbarth canol confensiynol.

Mae’n ramant rhannol drasig, rhannol am fuddugoliaeth merched ifanc yn erbyn twyll ac adfyd, a rhannol yn stori am foesoldeb sy’n rhybuddio yn erbyn peryglon rhedeg i ffwrdd i briodi. Mae’n debyg mai ffuglen yw’r cofiant. Yn wir, y consensws heddiw yw taw nid Mary Charlton oedd yr awdures mewn gwirionedd. Bellach yn angof i raddau helaeth, roedd Mary Charlton yn awdur adnabyddus yn ei dydd, yn ddigon adnabyddus i gyhoeddwr ac awdur dienw gyhoeddi cofiant ffug er mwyn elwa o’i henw.

 


 

Roedd Mary Charlton, yn nofelydd, yn fardd ac yn gyfieithydd a gyhoeddodd deuddeg o weithiau gyda Gwasg Minerva rhwng 1794 a 1813. Roedd Charlton hefyd yn ymddangos ar restr 1798 y Wasg Minerva o awduron nodedig, arwydd o boblogrwydd ei nofelau ymhlith y cyhoedd. Tra fod y cofiant ffug a gyhoeddwyd yn 1817 yn gosod ei tharddiad yn ardal y Fenni, mewn gwirionedd ychydig iawn sy’n hysbys am fywyd Charlton, er y gall ei nofel Rosella (1799) sy’n cynnwys taith estynedig o amgylch Cymru, ddynodi gwreiddiau Cymreig. Fodd bynnag, mae’r un mor debygol y gellir priodoli’r lleoliad Cymreig hwn i adfywiad Celtaidd y cyfnod.

Roedd Gwasg Minerva yn dŷ cyhoeddi poblogaidd o ddiwedd y 18fed ganrif/dechrau’r 19eg ganrif, a sefydlwyd ym 1790 gan William Lane. Adnabyddwyd am gyhoeddi ffuglen rhad, boblogaidd, yn enwedig nofelau gothig. Gwnaeth ddefnydd mawr o’r llyfrgelloedd gylchynol wrth ddosbarthu ei gweithiau i’r cyhoedd. Roedd y nofelau gothig a gyhoeddwyd gan Wasg Minerva hefyd yn rhoi enw llai na pharchus iddynt, yn enwedig fel cyhoeddwr nifer o’r ‘nofelau erchyll’ y cyfeirir atynt yn Northanger Abbey gan Jane Austen.

Er nad oes modd gwirio cysylltiadau Cymreig Mary Charlton, roedd gan ddau awdur arall o Wasg Minerva gysylltiadau Cymreig pendant. Y gyntaf oedd Anna Maria Bennett (1750?-1808), sydd fwyaf adnabyddus am ei nofel The Beggar Girl (1797), gwaith yr oedd Samuel Coleridge yn arbennig o werthfawrogol ohono. Ganed Bennett tua 1750 ym Merthyr Tudful, a cyhoeddodd Wasg Minerva bum nofel gyda hi, rhwng 1785 a 1806. Roedd gan ddwy ohonynt, Anna: or Memoirs of a Welch Heiress (1785) ac Ellen, Iarlles Castle Howel (1794), leoliadau Cymreig.

Ail awdur Minerva â chysylltiadau Cymreig oedd Ann Hatton (1764-1838), a oedd yn fwy adnabyddus fel Ann of Swansea, awdur Cambrian Pictures (1810). Wedi’i geni yng Nghaerwrangon i deulu actio Kimble, bu’n rhaid i Ann ddilyn proffesiwn gwahanol oherwydd anabledd. Bu Ann fyw bywyd diddorol ac weithiau cythryblus, a oedd yn cynnwys priodas fawr, ymgais i ladd ei hun o flaen Abaty Westminster, a modelu a darlithio yn Nheml Iechyd a Hymen drwg-enwog Dr James Graham yn Pall Mall. Ar ôl profi cyfnodau o dlodi, cafodd Ann gyflog o £90 y flwyddyn gan ei brodyr a chwiorydd enwocach, sef yr actorion Sarah Siddons a John Phillip Kimble, ar yr amod nad oedd i fyw’n agosach na 150 milltir o Lundain. Roedd hyn yn rhannol oherwydd gwrthwynebiad ei chwaer at duedd Ann i ddefnyddio enw ei chwaer wrth apelio am gymorth ariannol, ac hefyd er mwyn cadw enw ei chwaer allan o bapurau newydd Llundain. Ailbriododd Ann ac ar ôl cyfnod yn yr Unol Daleithiau, lle bu’n troi mewn cylchoedd gwleidyddol radical, a dychwelodd i’r DU, gan ymgartrefu yn Abertawe ym 1799. Roedd mabwysiadu’r llysenw Ann of Swansea fel awdur, yn tystio i’w hunaniaeth â’i chartref newydd.

Yn eu dydd roedd gweithiau y tair awdur benywaidd yma yn gwerthu’n dda iawn. Er hynny, y tu allan i’r canon llenyddol, mae’r nofelau poblogaidd a gyhoeddwyd gan yr awduron benywaidd hyn, a chan Wasg Minerva yn gyffredinol, yn rhoi adlewyrchiad inni o chwaeth boblogaidd eu dydd. Dyma’r gweithiau a ddarllennwyd gan y cyhoedd yn eu llu. Gellir dweud yr un peth am y nofelau poblogaidd, nofelau arswyd, a ffurfiau eraill o lenyddiaeth boblogaidd rad a gyhoeddwyd drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

 

Dr Douglas Jones

Rheolwr Prosiect-Casgliadau Cyhoeddus

 

Darllen ymhellach

Aaron, Jane – ‘The Rise and Fall of the ‘Noble Savage’ in Ann of Swansea’s Welsh Fictions’ in Romantic Textualities: Literature and Print Culture 1780-1840, 22, 2017, pp.78-88.

Blakey, Dorothy – The Minerva Press 1790-1820, London, 1934.

‘Charlton, Mary’ in Janet Todd (Ed.) – A Dictionary of British and American Women Writers 1660-1800, London, 1987, p. 83.

‘Charlton, Mary’ in Virginia Blain, Patricia Clements and Isobel Grundy – The Feminist Companion to Literature in English, London, 1990, pp 197-198.

Henderson, Jim – ‘Ann of Swansea: A Life on the Edge’ in The National Library of Wales Journal, XXXIV (1), 2006.

The Life, Adventures and Vicissitudes, of Mary Charlton, the Welsh Orphan, Written by Herself and Dedicated to Her Own Sex, Whom She Hopes Will Honor Her Little Narrative, with a Candid Perusal, Rochester, 1817.

Rhydderch, Francesca – ‘Dual Nationality, Divided Identity: Ambivalent Narratives of Britishness in the Welsh Novels of Anna Maria Bennett’ in Welsh Writing in English, 3, 1997, pp. 1-17.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog