Blog - Stori Cymru

Postiwyd - 26-04-2019

Darganfod Sain / Stori Cymru

Gwarchod Stori Cymru

Mae Datgloi Ein Treftadaeth Sain yn brosiect Cenedlaethol cyffrous, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’i arwain gan y Llyfrgell Brydeinig.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o fod yn un o’r 10 Hwb sy’n cymryd rhan yn y prosiect lle bydd hanner miliwn o recordiadau sain prin ac mewn perygl yn cael eu digido, a 100,000 ar gael ar-lein.

O fis Medi 2018 tan fis Medi 2021 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn digido, catalogio ac asesu hawliau ar gyfer 5,000 o recordiadau sain o Gymru. Byddant yn cynnwys ystod o bynciau o hanes llafar, darlithoedd, tafodiaith, barddoniaeth, sesiynau radio i gerddoriaeth pop a gwerin Cymru.

Byddwn yn diogelu recordiadau sain sydd o dan fygythiad o ddirywiad ffisegol, a’r rhai sydd mewn perygl o’u colli oherwydd nad oes peiriant ar gael i’w chwarae. Mae arbenigwyr yn awgrymu taw 15 mlynedd sydd gennym i achub y casgliadau sain hyn cyn iddynt gael eu colli am byth.

Diolch i Datgloi Ein Treftadaeth Sain, byddwn yn gallu cadw a diogelu rhai o recordiadau sain Cymru gan ddarparu mynediad i’r cyhoedd. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn gweithio gyda rhai o’n partneriaid yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe a Thredegar.

Wrth ddigido’r recordiadau, rydym wedi dadorchuddio rhai cyfweliadau coll ac anghofiedig gan bobl yn hel atgofion am eu plentyndod ar ddiwedd y 1800au ac ar ddechrau’r 1900au, eu dyddiau ysgol, bywyd teuluol, cymunedau, a thafodiaith leol.

Mae Cymru’n wlad gydag amrywiaeth o arferion a thraddodiadau sy’n rhan bwysig o’n diwylliant a’n hanes. Trwy arbed y recordiadau hyn, rydym yn caniatáu i genedlaethau’r dyfodol glywed am ein gorffennol a dysgu am ein hanes.

Mae straeon am arferion lleol o’r 19eg ganrif yn cael eu hadrodd, er enghraifft, ‘Y Fari Lwyd’, arfer gwerin ganoloesol, gyda’r nod o gasglu arian i’r tlawd a’r digartref i wneud iawn am y diffyg cefnogaeth gan y llywodraeth. Enwebwyd person tal i arwain, gan ddal penglog y ceffyl, gyda dau arall y tu ôl i ddal yr offrymau a gasglwyd. Gwelwyd y Fari Lwyd am y tro olaf yng Nghei Newydd yn 1887.

Gellir clywed disgrifiad o’r ‘Ceffyl Pren’. Defnyddiwyd y Ceffyl Pren fel ymarferiad o gyfiawnder cymdeithasol. Y nod oedd cosbi’r troseddwyr yn erbyn cymdeithas pan na fedrai’r gyfraith wneud hynny. Gwnaed y ceffyl o bren a gwellt er mwyn cynrychioli’r euogrwydd. Gwisgwyd cwfl gan y rhai oedd yn cario’r ddelwedd, i guddio eu hunaniaeth, a gorymdeithiwyd trwy fannau cyhoeddus y dref tuag at gartref y tramgwyddwr. Tair wythnos yn ddiweddarach llosgwyd y Ceffyl Pren o flaen tŷ’r tramgwyddwr.

Mae Thomas Williams yn sôn am y ‘gogryddion’ (sievemakers) sy’n symud i mewn i’r gymuned ac yn cael eu defnyddio i brosesu’r gwenith. Mae’n cofio’r traddodiad lle taflwyd chwe cheiniog gyda’r gwenith, a phan ymddangosai’r darn arian roedd hyn yn awgrymu fod y gwenith yn barod. Roedd y rhidyllau wedi’u gwneud o helyg wedi’u hollti, a Mormoniaid oedd y gwneuthurwyr.

Yn ystod y tair blynedd, bydd cyfoeth o hanes, traddodiadau ac etifeddiaeth yn cael eu cadw, a phe na bai modd diogelu’r adroddiadau uniongyrchol hyn mi fyddent wedi eu colli am byth.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Datgloi ein Treftadaeth Sain, cysylltwch â ni ar: uosh@llyfrgell.cymru

 

Alison Smith, Rheolwr Hwb Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain

Postiwyd - 12-04-2019

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Collections / Stori Cymru

Casglu Cyfoes: Celf o’r Casgliad Cenedlaethol

Hel Llwch’ gan Valériane Leblond, 2018 (Hawlfraint: Valériane Leblond)

 

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i gasgliad pwysig o gelf gyfoes Gymreig. O fewn yr arddangosfa ‘Casglu Cyfoes’ (6.4.19 – 21.3.20) sydd newydd agor yma yn y Llyfrgell ceir esiamplau o weithiau sydd wedi dod yn rhan o’n casgliadau yn ddiweddar, o dorlun leino deinamig Paul Peter Piech i waith ciwbaidd Charles Byrd.

 

‘Abstraction’ gan Charles Byrd, 1964 (Hawlfraint: Ystâd Charles Byrd)

 

Rhodd bwysig a ddaeth i feddiant y Llyfrgell yn ddiweddar oedd y Casgliad Roese. sef casgliad gwerthfawr a chynhwysfawr o gelf gyfoes Gymreig. Dyma yw un o’r casgliadau celf gyfoes bwysicaf i ddod yn rhan o gasgliadau’r Llyfrgell, a gwelir eitemau o’r casgliad yn yr arddangosfa hon, gan gynnwys gweithiau gan Charles Byrd, Ernest Zobole, Ceri Richards, Mary Lloyd Jones, Ivor Davies, Glenys Cour, ac Iwan Bala.

 

‘View through a window’ gan Ivor Davies (Hawlfraint: Ivor Davies)

 

Eleni buom hefyd yn ffodus i dderbyn naw darn o waith eiconig yr artist pop Ken Elias o Lyn Nedd i fewn i’n casgliadau.

 

‘Check’ gan Ken Elias, ca.2008-2009 (Hawlfraint: Ken Elias)

 

Mae’r Llyfrgell yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn casglu gweithiau artistiaid sydd yn denu sylw cynyddol yn y maes ar hyn o bryd, fel Seren Morgan Jones sy’n gweithio yn Llundain a Teresa Jenellen ym Machynlleth. Mae’r thema o ferched yn ganolog i’w gwaith. Artist lleol arall y mae ei gwaith i’w gweld o fewn yr arddangosfa ydy Valériane Le Blond ac mae ei paentiadau llawn dychymyg yn llwyddo i bortreadu cefn gwlad Cymru sydd yn gyfarwydd i ni gyd, tra bod tirluniau mynegiadol Sarah Carvell, ac haniaethol Lisa Eurgain Taylor ac Elfyn Lewis yn dangos ysbrydoliaeth ddiderfyn y tirlun Cymreig.

 

‘Blue Gloves, Orange Chair’ gan Seren Morgan Jones, 2016 (Hawlfraint: Seren Morgan Jones)

 

Mae ein casgliad yn tyfu gyda phryniadau cyson a rhoddion oddi wrth gymwynaswyr hael.

 

Morfudd Bevan, Curadur Celf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Postiwyd - 29-03-2019

Casgliadau / Collections / Stori Cymru

Llythyr Pennal: Rôl bwysig Cymru yng ngwleidyddiaeth Ewrop

Dyma gofnod gwâdd fel rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.


Llythyr Pennal yw un o’r dogfennau mwyaf trawiadol a gynhyrchwyd yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol. Rho ddarlun o Gymru hyderus oedd yn chwarae rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth Ewropeaidd dechrau’r bymthegfed ganrif.

Erbyn mis Mawrth 1406, pan ysgrifennwyd y llythyr, roedd Glyndŵr wedi profi llwyddiannau aruthrol. Wedi dechreuadau siomedig ym 1400 ysgubodd y gwrthryfel trwy’r holl wlad gan ennill buddugoliaethau milwrol, cipio nifer o brif gestyll Edward I a denu cefnogaeth gan frenin Ffrainc. Coronwyd Glyndŵr yn dywysog Cymru ac fe gynhaliodd senedd gyda chynrychiolwyr o bob cwr o’r wlad. Roedd wedi llwyddo i greu tywysogaeth Gymreig oedd yn rhydd o reolaeth brenin Lloegr.

Ond roedd y rhod bellach wedi dechrau troi yn erbyn y gwrthryfel. Yn y misoedd cyn ysgrifennu’r llythyr profodd Glyndŵr golledion milwrol, lladdwyd ei frawd, cipiwyd ei fab a dechreuodd rhai rhannau o’r wlad simsanu yn eu cefnogaeth iddo. Rhaid oedd felly adennill y momentwm trwy sicrhau cefnogaeth bellach gan Ffrainc.

Digwyddai’r gwrthryfel yng nghanol digwyddiadau o bwys mawr yn hanes Ewrop. Rhannwyd brenhinoedd Ewrop gan y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr, a rhwygwyd yr Eglwys gan y Sgism Pabol pan etholwyd dau bab mewn gwrthwynebiad i’w gilydd. Cefnogai Ffrainc bab Avignon tra cefnogwyd pab Rhufain gan Loegr. Bwriad y llythyr oedd cadarnhau cynghreiriaeth Cymru a Ffrainc drwy newid teyrngarwch Cymru o bab Rhufain tuag at bab Avignon. Roedd y llythyr felly yn gwneud Cymru yn chwaraewr annibynnol yng ngemau gwleidyddol Ewrop ac yn gosod y genedl yng nghanol digwyddiadau mwyaf y dydd.

Beth welwn hefyd yn y llythyr yw Glyndŵr, fel mewn sawl agwedd arall o’r gwrthryfel, yn dilyn polisi oedd yr un pryd yn draddodiadol ac yn radical.

Roedd cynghreirio â Ffrainc yn gwneud synnwyr gwleidyddol, ond roedd Glyndŵr hefyd yn dilyn ôl troed eraill o brif reolwyr Cymru. Yn y 1160au bodolai gynghreiriaeth rhwng Owain Gwynedd a Louis VII ac ym 1212 gwelir yr un perthynas rhwng Llywelyn Fawr a Philip Augustus. Rai degawdau yn unig cyn Gwrthryfel Glyndŵr cefnogodd brenin Ffrainc ymgais Owain Lawgoch, disgynnydd o dywysogion Gwynedd, i ddod yn dywysog Cymru.

Yr hyn oedd yn newydd am y llythyr oedd y weledigaeth gynhwysfawr a geir ynddi. Wrth gefnogi pab Avignon amlinellodd Glyndŵr ei gynlluniau ar gyfer y wlad:

  • Eglwys Gymreig oedd yn rhydd o awdurdod Caergaint, o dan archesgob Tyddewi;
  • dwy brifysgol, un i’r gogledd a’r llall i’r de, i hyfforddi clerigwyr y dyfodol;
  • clerigwyr i allu siarad Cymraeg, yn lle’r Saeson di-Gymraeg a benodwyd yn aml i swyddi uchaf yr Eglwys;
  • arian yr Eglwys yng Nghymru i aros yng Nghymru yn lle, fel digwyddai’n aml, mynd dros y ffin i Loegr.

Ni gyflawnwyd y weledigaeth yn nyddiau Glyndŵr, ond bellach mae’r Gymru fodern – gyda’i senedd, prifysgolion, sefydliadau cenedlaethol a phwyslais ar bwysigrwydd y Gymraeg – yn ymdebygu i’r weledigaeth a amlinellai Glyndŵr yn Llythyr Pennal.

Dr Rhun Emlyn

Hanesydd yr Oesoedd Canol

Prifysgol Aberystwyth

Postiwyd - 15-03-2019

Stori Cymru

Bywyd a gwaith Cranogwen: O forwr i fardd, a llawer mwy …

Dathlu Cyfraniadau Menywod

Mae mis Mawrth wedi datblygu i fod yn gyfnod allweddol wrth ddathlu cyfraniadau menywod ddoe a heddiw. Er bod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi gwibio heibio eleni eto, mae mis Mawrth yn parhau i ddal statws swyddogol Mis Hanes y Menywod.

O ystyried hynny, nid yw’n syndod mai dynes go arbennig sy’n mynnu sylw yn ein cofnod nesaf fel rhan o ymgyrch Stori Cymru, sef Cranogwen. Fodd bynnag, byddwn ni’n parhau i asesu straeon merched Cymru drwy gydol y gyfres, fel y dylid gwneud wrth gwrs ar draws y flwyddyn!

 

Menyw cyn ei hamser

Roedd Sarah Jane Rees (g. 1839), a chaiff eu hadnabod yn ôl ei henw barddol Cranogwen, yn arloeswraig mewn amryw o feysydd. Yn ferch dal, drawiadol a hyderus, llwyddodd i drechu rhai o gyfyngiadau enwocaf oes Fictoria a dilynodd yrfa amrywiol a llawn.

Nid yw’n syndod bod yr hanesydd, yr Athro Deirdre Beddoe, wedi cyfeirio at Cranogwen fel ‘the most outstanding Welsh women of the nineteenth century’.

 

Meistres y Moroedd

Daeth Cranogwen i’r amlwg yn y lle cyntaf fel morwr.

Magwyd ym mhentref arfordirol Llangrannog, ac wedi iddi brofi cyffro’r bywyd morol drwy lygaid ei thad a oedd hefyd yn gapten llong, penderfynodd mai gyrfa tua’r dec oedd ei thynged!

Er mawr siom i’w rheini, dechreuodd weithio yn y maes morwrol, a hynny ar longau cargo rhwng Cymru a Ffrainc am ddwy flynedd, cyn dychwelyd i Lundain a Lerpwl i astudio.

Aeth Cranogwen ymlaen i ennill cymhwyster meistr yn y maes, a oedd yn caniatáu iddi reoli llongau ledled y byd.

Fodd bynnag, yn 1860 pan oedd yn 21 oed, dychwelodd adre; ac fel merch ifanc addysgedig fe’i penodwyd i rôl pennaeth yr ysgol leol.

 

Cranogwen y bardd

Yr oedd Cranogwen yn medru trin a thrafod yr iaith Gymraeg yr un mor feistrolgar â llyw’r llong!

Hi oedd y merched cyntaf erioed i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn dilyn ei llwyddiant yng ng?yl Aberystwyth 1865 daeth yn enw cyfarwydd dros nos. Lluniodd ei gwaith buddugol o dan yr enw Cranogwen. Roedd ei cherdd ‘Y Fodrwy Briodasol’ yn ymateb digrif a chrafog i dynged y ferch briod o fewn cymdeithas.

 

O fewn pum mlynedd yn unig yr oedd Cranogwen yn fardd cyhoeddedig ac ymddangosodd ei chasgliad poblogaidd ‘Caniadau Cranogwen’ yn 1870.

 

Cylchgrawn Cymraeg i Ferched Cymreig

Caiff Cranogwen ei chofio fel y merched cyntaf i roi cynnig ar lawer o dasgau gwahanol yn y maes llenyddol yng Nghymru.

Ymhlith ei phrif gyflawniadau oedd llwyddiant ‘Y Frythones’; dim ond yr ail gylchgrawn Cymraeg ar gyfer merched, a’r cyntaf i’w olygu gan fenyw.

 

Gweledigaeth Cranogwen fel golygydd a yrrodd natur y cylchgrawn rhwng 1879 a 1889. Roedd yn cynnwys llawer o nodweddion diddorol gan gynnwys straeon byrion a cherddi, ymgyrchoedd, tudalennau problemau a cholofnau ymgynghorol. Fel rheol, byddai pob rhifyn hefyd yn cynnwys erthygl yn canolbwyntio ar fywyd a gwaith menyw uchel ei pharch, a gosodwyd fel esiampl i’r darllenydd.

 

Defnyddiwyd tudalennau’r ‘Frythones’ i hyrwyddo gwaith awduron benywaidd eraill a rhoddodd Cranogwen lwyfan i lawer o awduron i ddatblygu a mynegi eu lleisiau.

 

Ymgyrchydd a Phregethwr Ymroddedig

Yn wir, roedd talentau Cranogwen yn ddi-ddiwedd! Roedd yn siaradwr cyhoeddus effeithiol a theithiodd i America ddwywaith er mwyn annerch cynulleidfaoedd a darlithio ar bynciau amrywiol.

Bu’n ymgyrchydd allweddol ym maes Dirwest. Yn ei thyb, roedd alcohol yn ddinistriol iawn i’r uned deuluol. Yn 1901 sefydlodd Undeb Dirwestol Menywod De Cymru, a oedd wedi lledaenu i gynnwys dros 140 o ganghennau erbyn 1916.

 

Elen Haf Jones
Ysgrifennwyd fel rhan o brosiect Europeana ‘The Rise of Literacy’

Tagiau: , , ,

Postiwyd - 01-03-2019

Casgliadau / Collections / Stori Cymru

Beth wyddom ni am Dewi Sant?

Dyma’r cofnod cyntaf o gyfres newydd, Stori Cymru. Cyfres sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio hanes ac yn ei siapio. Cyhoeddir cofnod bob yn ail ddydd Gwener, a gallwch eu dilyn trwy ddewis categori Stori Cymru ar yr ochr dde.

 

 

Mae hi bellach yn fil o flynyddoedd ers geni Sulien. Bu’n esgob Tyddewi ddwywaith, ond ei brif gyfraniad oedd sefydlu canolfan ddysg yn Llanbadarn Fawr, ar safle sydd bellach yng nghysgod y Llyfrgell Genedlaethol.

Yn Llanbadarn y lluniwyd rhai o’n llawysgrifau cynharaf, a hynny o waith dau o feibion Sulien, sef Ieuan a Rhygyfarch (?1056-99). Mae Sallwyr Rhygyfarch (a luniwyd tua 1079) bellach yng nghadw yn llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn, ond ei waith creadigol enwocaf oedd y Vita Davidis, cofiant Lladin i Ddewi Sant a luniwyd tua 1094 i ddyrchafu statws ac annibyniaeth esgobaeth Tyddewi.

Mae mwyafrif yr hyn a gredir heddiw am Dewi, sant o’r chweched ganrif, yn seiliedig ar adroddiad Rhygyfarch, a luniwyd bum canrif yn ddiweddarach. Yn y Vita y ceir hanes ei addysgu gan Beulin, ei oruchafiaeth tros Boia, sefydlu’r fynachlog yng Nglyn Rhosyn, a’r bregeth yn senedd Llanddewibrefi. Cyfieithwyd a thalfyrrwyd y gwaith hwn i’r Gymraeg yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg gan fynach anhysbys. Ymysg y fersiynau cynharaf o Fuchedd Dewi y mae’r testun hwn yn Llyfr Coch Talgarth (llawysgrif Llanstephan 27), a ysgrifennwyd gan Hywel Fychan tua 1400 ar gyfer ei noddwr, yr uchelwr Rhys ap Thomas.

Bydd cenedlaethau o blant Cymru’n gallu ail-adrodd geiriau olaf y sant, a lefarwyd cyn ei farw ar y cyntaf o Fawrth: ‘Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i.’

Yn rhyfedd iawn, nid yw’r gair ‘bychain’ yn ymddangos yng ngwaith Lladin Rhygyfarch, a rhaid llongyfarch y cyfieithydd Cymraeg diweddarach ar lunio brawddeg gofiadwy!

Maredudd ap Huw

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog