Blog - Stori Cymru

Postiwyd - 21-06-2019

Arddangosfeydd / Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Stori Cymru

Cerddoriaeth Cymru: Gwerin, Protest a Phop

Fe ddisgrifir Cymru yn aml fel gwlad y gân. Ond ym mha le dechreuodd ein traddodiad cerddorol, a sut y datblygodd?

Mae ein harddangosfa newydd – ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’ yn archwilio traddodiad cerddorol Cymru ar hyd y canrifoedd; o’r crwth i’r Cyrff, drwy ddefnyddio amrywiol eitemau o’r Archif Gerddorol Gymreig a’r Archif Sgrin a Sain.

Dyma Nia Mai Daniel o’r Archif Gerddorol i esbonio ymhellach …

 

 

Gwreiddiau
Er bod Cymru’n cael ei hadnabod fel ‘Gwlad y Gân’, does gennym ni ddim cof arbennig o weithiau cerddorol cynnar. Traddodiad llafar yw’n traddodiad gwerin, gyda thelynorion a baledwyr yn teithio ar hyd a lled y wlad, yn difyrru’r werin mewn marchnadoedd a thafarndai, gan gadw’r alawon ar eu cof.

Erbyn y ddeunawfed ganrif cofnodwyd alawon ar bapur, ac aeth nifer o bobl amlwg ati i gasglu’r rhain yn ddiweddarach; dim ond trwy waith diflino unigolion fel Nansi Richards, J Lloyd Williams a Meredydd Evans yr achubwyd a gofalwyd am ein traddodiad gwerin.

Mae sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906 a’r adfywiad yn y traddodiad gwerin yn yr 1970au, pan bu i ganu gwerin gyd-fyw ochr yn ochr â chanu poblogaidd, hefyd wedi cyfrannu’n fawr at ddiogelu’r traddodiad.

 

Merêd
Roedd Meredydd Evans, neu Merêd, yn ffigwr hollbwysig yn natbylgiad cerddoriaeth yng Nghymru . Treuliodd ei fywyd yn cyfrannu at fywyd a diwylliant Cymru fel casglwr, hanesydd, cerddor, golygydd, cenedlaetholwr ac ymgyrchydd brwd dros yr iaith.

Casglodd Merêd a’i wraig Phyllis Kinney ganeuon a oedd wedi bod mewn perygl o ddiflannu, a chredai nad oedd modd i’r traddodiad dyfu ac addasu heb roi bywyd i’r caneuon hynny a ddarganfyddodd yn y llawysgrifau a’r sgorau hynafol.

Yn ogystal â’i waith fel casglwr, roedd Merêd hefyd yn berfformiwr talentog, a recordiodd ddetholiad pwysig o ganeuon i label Folkway Records yn Efrog Newydd yn 1954. Am ddegawd o 1963 ef oedd pennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru, a gweithiodd yn ddiflino i greu rhaglenni adloniant ysgafn Cymreig hynod boblogaidd.

 

Chwyldro
“Mae’n hen bryd cael mwy o ganu eithafol yng Nghymru heddiw, mwy o sgrechfeydd a drwmiau gwyllt…” oedd geiriau un o aelodau’r grwp roc Cymraeg cyntaf, Y Blew, a ffurfiwyd yn 1967.

Roedd Cymru’r 60au a’r 70au yn wlad a welodd gyffro gwleidyddol yn ogystal â cherddorol. Daeth canu gwerin a phop ysgafn yn boblogaidd iawn, a sefydlwyd y label recordio Cymraeg cyntaf, Sain, ym 1969. Ond yr hyn a wthiodd cerddoriaeth bop Cymraeg yn ei blaen oedd y gân brotest. Yn lle cyfansoddi caneuon serch roedd artistiaid ifainc yn mynd a’u gitârs i’r dafarn a chanu caneuon dychanol a gwleidyddol.

Erbyn yr 1980au daeth to newydd o fandiau a labeli recordio i’r wyneb, rhai a oedd yn creu sŵn gwahanol iawn i’r pop a arferwyd ei glywed ar lwyfannau a thonfeddi radio’r wlad. Roedd bandiau fel Anhrefn, Datblygu, Llwybr Llaethog a’r Cyrff yn arbrofol ac yn chwyldroadol.

 

Gorwelion
Yn ystod yr 1990au roedd llawer o fandiau yn canu caneuon yn yr iaith Gymraeg yn ogystal â chynhyrchu cerddoriaeth yn Saesneg, fel Catatonia, Super Furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci. Cafodd eu cerddoriaeth ei glywed gan gynulleidfa ehangach, a arweiniodd at ddiddordeb cynyddol yn yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ar draws y byd.

Erbyn yr 1990au hwyr a dechrau’r unfed ganrif ar hugain, roedd yr iaith Gymraeg yn cael ei chyfleu trwy sawl arddull gwahanol, o hip hop, reggae a ska ac yn ôl i wreiddiau’r traddodiad gwerin.

Heddiw, mae’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru yn fyw ac yn iach, gyda thoreth gyfoethog o artistiaid talentog yn ysgrifennu, recordio a pherfformio yn y Gymraeg a mwy nag erioed o labeli annibynnol yn gweithio i ryddhau recordiau Cymreig.

 

Mwy o wybodaeth am arddangosfa RECORD: Gwerin, Protest a Phop (22 Mehefin 2019 – 1 Chwefror 2020)

Postiwyd - 07-06-2019

Collections / Stori Cymru

Llenyddiaeth Stryd: Almanaciau Cymraeg

 

Almanaciau oedd hoff ddeunydd darllen siaradwyr uniaith Gymraeg o ddechrau’r 17eg ganrif.

Roedd llenyddiaeth fforddiadwy fel yr almanac yn boblogaidd gyda’r dosbarthiadau is, a oedd yn ffurfio rhan fwyaf poblogaeth Cymru. Rhwng c. 1545 a 1801, gwelwyd cynnydd aruthrol ym mhoblogaeth Cymru – a dweud y gwir, gwelwyd e’n mwy na dyblu. Roedd y mwyafrif o’r rhain yn siaradwyr uniaith Gymraeg.

Ond beth yn union yw almanac, a beth drodd hwn yn gymaint o ffefryn?

Nodwedd ddiffiniol yr almanac yw ei galendr blynyddol, ac yn hynny o beth, mae’n ei hanes yn dyddio’n ôl ymhell cyn y wasg brintiedig. Roedd y Dwyrain agos yn cynhyrchu testun a ystyrir i fod yn almanaciau mor bell yn ôl â 500BC. Fodd bynnag, dim ond ar ôl datblygiad argraffu tyfodd yr almanaciau yn eu poblogrwydd.

Cynhyrchwyd yr almanac cyntaf, yn Ewrop yn 1457. Argraffwyd almanaciau blynyddol yn Lloegr o ddiwedd yr 16eg ganrif, ac mi ddatblygont i fod yn werthwyr arbennig yn ystod y canrifoedd dilynol. Dilynodd yr almanac Cymraeg cyntaf yn fuan wedyn.

 

 

Mae stori’r almanac Cymraeg yn dechrau gyda Thomas Jones (1648-1713), mab i deiliwr o Dre’r Ddôl ger Corwen.

Yn 1679, pan yn 18 mlwydd oed, derbyniodd batent ar gyfer ysgrifennu a chyhoeddi almanac cyfrwng Cymraeg blynyddol. Cyhoeddwyd y rhain yn Llundain, o dan y teitl ‘Newyddion Oddi Wrth y Ser’.

Roedd almanaciau Jones rhwng 20 a 24 dalen o hyd. Roeddent yn cynnwys, ynghyd â chalendr blynyddol arferol, deunydd a luniwyd ar gyfer ei gynulleidfa.

Roedd yr almanaciau cyntaf yn cynnwys:

  • Adroddiadau tywydd a chyfnodau’r lleuad
  • Rhestr o farchnadoedd a ffeiriau
  • Canllawiau seryddol a darlleniadau
  • Gwyliau Cristnogol
  • Tablau’r llanw
  • Canllawiau darllen iaith Gymraeg
  • Enghreifftiau o lenyddiaeth Gymraeg a barddoniaeth
  • Cronoleg o ddigwyddiadau hanesyddol
  • Hysbysebion amrywiol

 

 

Roedd almanaciau Jones yn adnoddau defnyddiol ar gyfer y werin Gymreig, yn arbennig ffermwyr; ystyriwch er enghraifft, eu deunydd yn ymwneud â’r amgylchedd a’r tywydd. Roedd y nodweddion seryddol hefyd yn bwydo eu credoau ofergoelus. Roedd Jones yn adnabyddus fel cefnogwr ysgrifenwyr Cymreig, amatur, ac roedd yn cynnig llwyfan printiedig iddynt trwy ei almanac.

Roedd almanac Thomas Jones yn unigryw tan 1695, pan ddoeth y ddeddf Argraffu (a oedd wedi cyfyngu cyhoeddi llyfrau i Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt) i ben. O hynny ymlaen lledodd y diwydiant argraffu trwy Lloegr a Chymru, gan sbarduno cynnydd yn nifer y teitlau almanaciau Cymraeg. Mi arhosodd eu cynnwys serch hynny, yn agos iawn at fformat gwreiddiol Jones.

Mae’r almanac Cymraeg yn aros ar wahân i’w gefndryd Ewropeaidd. Roedd eu cynnwys yn amrywio o wybodaeth feddygol almanaciau canoloesol Lloegr i ddosraniad gweinyddol Ffrainc; fel yr ymddangosodd yn ‘Royal Almanac’ Ffrainc, a sefydlwyd yn 1683. Cynhwysir ‘Barbanera’ yr Eidal (a gyhoeddwyd gyntaf yn 1762) ar gofrestr Cof y Byd UNESCO, sy’n rhoi argraff glir o werth yr almanac.

Yn sicr nid yw’r almanac Cymraeg yn eithriad. Mae’n adnodd pwysig, nid yn unig yn nhermau hanes llenyddol, brodorol a chymdeithasol, ond hefyd fel gwaith o bwys treftadol arbennig.

Steffani W Davies, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Postiwyd - 26-04-2019

Darganfod Sain / Stori Cymru

Gwarchod Stori Cymru

Mae Datgloi Ein Treftadaeth Sain yn brosiect Cenedlaethol cyffrous, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’i arwain gan y Llyfrgell Brydeinig.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o fod yn un o’r 10 Hwb sy’n cymryd rhan yn y prosiect lle bydd hanner miliwn o recordiadau sain prin ac mewn perygl yn cael eu digido, a 100,000 ar gael ar-lein.

O fis Medi 2018 tan fis Medi 2021 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn digido, catalogio ac asesu hawliau ar gyfer 5,000 o recordiadau sain o Gymru. Byddant yn cynnwys ystod o bynciau o hanes llafar, darlithoedd, tafodiaith, barddoniaeth, sesiynau radio i gerddoriaeth pop a gwerin Cymru.

Byddwn yn diogelu recordiadau sain sydd o dan fygythiad o ddirywiad ffisegol, a’r rhai sydd mewn perygl o’u colli oherwydd nad oes peiriant ar gael i’w chwarae. Mae arbenigwyr yn awgrymu taw 15 mlynedd sydd gennym i achub y casgliadau sain hyn cyn iddynt gael eu colli am byth.

Diolch i Datgloi Ein Treftadaeth Sain, byddwn yn gallu cadw a diogelu rhai o recordiadau sain Cymru gan ddarparu mynediad i’r cyhoedd. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn gweithio gyda rhai o’n partneriaid yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe a Thredegar.

Wrth ddigido’r recordiadau, rydym wedi dadorchuddio rhai cyfweliadau coll ac anghofiedig gan bobl yn hel atgofion am eu plentyndod ar ddiwedd y 1800au ac ar ddechrau’r 1900au, eu dyddiau ysgol, bywyd teuluol, cymunedau, a thafodiaith leol.

Mae Cymru’n wlad gydag amrywiaeth o arferion a thraddodiadau sy’n rhan bwysig o’n diwylliant a’n hanes. Trwy arbed y recordiadau hyn, rydym yn caniatáu i genedlaethau’r dyfodol glywed am ein gorffennol a dysgu am ein hanes.

Mae straeon am arferion lleol o’r 19eg ganrif yn cael eu hadrodd, er enghraifft, ‘Y Fari Lwyd’, arfer gwerin ganoloesol, gyda’r nod o gasglu arian i’r tlawd a’r digartref i wneud iawn am y diffyg cefnogaeth gan y llywodraeth. Enwebwyd person tal i arwain, gan ddal penglog y ceffyl, gyda dau arall y tu ôl i ddal yr offrymau a gasglwyd. Gwelwyd y Fari Lwyd am y tro olaf yng Nghei Newydd yn 1887.

Gellir clywed disgrifiad o’r ‘Ceffyl Pren’. Defnyddiwyd y Ceffyl Pren fel ymarferiad o gyfiawnder cymdeithasol. Y nod oedd cosbi’r troseddwyr yn erbyn cymdeithas pan na fedrai’r gyfraith wneud hynny. Gwnaed y ceffyl o bren a gwellt er mwyn cynrychioli’r euogrwydd. Gwisgwyd cwfl gan y rhai oedd yn cario’r ddelwedd, i guddio eu hunaniaeth, a gorymdeithiwyd trwy fannau cyhoeddus y dref tuag at gartref y tramgwyddwr. Tair wythnos yn ddiweddarach llosgwyd y Ceffyl Pren o flaen tŷ’r tramgwyddwr.

Mae Thomas Williams yn sôn am y ‘gogryddion’ (sievemakers) sy’n symud i mewn i’r gymuned ac yn cael eu defnyddio i brosesu’r gwenith. Mae’n cofio’r traddodiad lle taflwyd chwe cheiniog gyda’r gwenith, a phan ymddangosai’r darn arian roedd hyn yn awgrymu fod y gwenith yn barod. Roedd y rhidyllau wedi’u gwneud o helyg wedi’u hollti, a Mormoniaid oedd y gwneuthurwyr.

Yn ystod y tair blynedd, bydd cyfoeth o hanes, traddodiadau ac etifeddiaeth yn cael eu cadw, a phe na bai modd diogelu’r adroddiadau uniongyrchol hyn mi fyddent wedi eu colli am byth.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Datgloi ein Treftadaeth Sain, cysylltwch â ni ar: uosh@llyfrgell.cymru

 

Alison Smith, Rheolwr Hwb Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain

Postiwyd - 12-04-2019

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Collections / Stori Cymru

Casglu Cyfoes: Celf o’r Casgliad Cenedlaethol

Hel Llwch’ gan Valériane Leblond, 2018 (Hawlfraint: Valériane Leblond)

 

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i gasgliad pwysig o gelf gyfoes Gymreig. O fewn yr arddangosfa ‘Casglu Cyfoes’ (6.4.19 – 21.3.20) sydd newydd agor yma yn y Llyfrgell ceir esiamplau o weithiau sydd wedi dod yn rhan o’n casgliadau yn ddiweddar, o dorlun leino deinamig Paul Peter Piech i waith ciwbaidd Charles Byrd.

 

‘Abstraction’ gan Charles Byrd, 1964 (Hawlfraint: Ystâd Charles Byrd)

 

Rhodd bwysig a ddaeth i feddiant y Llyfrgell yn ddiweddar oedd y Casgliad Roese. sef casgliad gwerthfawr a chynhwysfawr o gelf gyfoes Gymreig. Dyma yw un o’r casgliadau celf gyfoes bwysicaf i ddod yn rhan o gasgliadau’r Llyfrgell, a gwelir eitemau o’r casgliad yn yr arddangosfa hon, gan gynnwys gweithiau gan Charles Byrd, Ernest Zobole, Ceri Richards, Mary Lloyd Jones, Ivor Davies, Glenys Cour, ac Iwan Bala.

 

‘View through a window’ gan Ivor Davies (Hawlfraint: Ivor Davies)

 

Eleni buom hefyd yn ffodus i dderbyn naw darn o waith eiconig yr artist pop Ken Elias o Lyn Nedd i fewn i’n casgliadau.

 

‘Check’ gan Ken Elias, ca.2008-2009 (Hawlfraint: Ken Elias)

 

Mae’r Llyfrgell yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn casglu gweithiau artistiaid sydd yn denu sylw cynyddol yn y maes ar hyn o bryd, fel Seren Morgan Jones sy’n gweithio yn Llundain a Teresa Jenellen ym Machynlleth. Mae’r thema o ferched yn ganolog i’w gwaith. Artist lleol arall y mae ei gwaith i’w gweld o fewn yr arddangosfa ydy Valériane Le Blond ac mae ei paentiadau llawn dychymyg yn llwyddo i bortreadu cefn gwlad Cymru sydd yn gyfarwydd i ni gyd, tra bod tirluniau mynegiadol Sarah Carvell, ac haniaethol Lisa Eurgain Taylor ac Elfyn Lewis yn dangos ysbrydoliaeth ddiderfyn y tirlun Cymreig.

 

‘Blue Gloves, Orange Chair’ gan Seren Morgan Jones, 2016 (Hawlfraint: Seren Morgan Jones)

 

Mae ein casgliad yn tyfu gyda phryniadau cyson a rhoddion oddi wrth gymwynaswyr hael.

 

Morfudd Bevan, Curadur Celf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Postiwyd - 29-03-2019

Casgliadau / Collections / Stori Cymru

Llythyr Pennal: Rôl bwysig Cymru yng ngwleidyddiaeth Ewrop

Dyma gofnod gwâdd fel rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.


Llythyr Pennal yw un o’r dogfennau mwyaf trawiadol a gynhyrchwyd yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol. Rho ddarlun o Gymru hyderus oedd yn chwarae rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth Ewropeaidd dechrau’r bymthegfed ganrif.

Erbyn mis Mawrth 1406, pan ysgrifennwyd y llythyr, roedd Glyndŵr wedi profi llwyddiannau aruthrol. Wedi dechreuadau siomedig ym 1400 ysgubodd y gwrthryfel trwy’r holl wlad gan ennill buddugoliaethau milwrol, cipio nifer o brif gestyll Edward I a denu cefnogaeth gan frenin Ffrainc. Coronwyd Glyndŵr yn dywysog Cymru ac fe gynhaliodd senedd gyda chynrychiolwyr o bob cwr o’r wlad. Roedd wedi llwyddo i greu tywysogaeth Gymreig oedd yn rhydd o reolaeth brenin Lloegr.

Ond roedd y rhod bellach wedi dechrau troi yn erbyn y gwrthryfel. Yn y misoedd cyn ysgrifennu’r llythyr profodd Glyndŵr golledion milwrol, lladdwyd ei frawd, cipiwyd ei fab a dechreuodd rhai rhannau o’r wlad simsanu yn eu cefnogaeth iddo. Rhaid oedd felly adennill y momentwm trwy sicrhau cefnogaeth bellach gan Ffrainc.

Digwyddai’r gwrthryfel yng nghanol digwyddiadau o bwys mawr yn hanes Ewrop. Rhannwyd brenhinoedd Ewrop gan y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr, a rhwygwyd yr Eglwys gan y Sgism Pabol pan etholwyd dau bab mewn gwrthwynebiad i’w gilydd. Cefnogai Ffrainc bab Avignon tra cefnogwyd pab Rhufain gan Loegr. Bwriad y llythyr oedd cadarnhau cynghreiriaeth Cymru a Ffrainc drwy newid teyrngarwch Cymru o bab Rhufain tuag at bab Avignon. Roedd y llythyr felly yn gwneud Cymru yn chwaraewr annibynnol yng ngemau gwleidyddol Ewrop ac yn gosod y genedl yng nghanol digwyddiadau mwyaf y dydd.

Beth welwn hefyd yn y llythyr yw Glyndŵr, fel mewn sawl agwedd arall o’r gwrthryfel, yn dilyn polisi oedd yr un pryd yn draddodiadol ac yn radical.

Roedd cynghreirio â Ffrainc yn gwneud synnwyr gwleidyddol, ond roedd Glyndŵr hefyd yn dilyn ôl troed eraill o brif reolwyr Cymru. Yn y 1160au bodolai gynghreiriaeth rhwng Owain Gwynedd a Louis VII ac ym 1212 gwelir yr un perthynas rhwng Llywelyn Fawr a Philip Augustus. Rai degawdau yn unig cyn Gwrthryfel Glyndŵr cefnogodd brenin Ffrainc ymgais Owain Lawgoch, disgynnydd o dywysogion Gwynedd, i ddod yn dywysog Cymru.

Yr hyn oedd yn newydd am y llythyr oedd y weledigaeth gynhwysfawr a geir ynddi. Wrth gefnogi pab Avignon amlinellodd Glyndŵr ei gynlluniau ar gyfer y wlad:

  • Eglwys Gymreig oedd yn rhydd o awdurdod Caergaint, o dan archesgob Tyddewi;
  • dwy brifysgol, un i’r gogledd a’r llall i’r de, i hyfforddi clerigwyr y dyfodol;
  • clerigwyr i allu siarad Cymraeg, yn lle’r Saeson di-Gymraeg a benodwyd yn aml i swyddi uchaf yr Eglwys;
  • arian yr Eglwys yng Nghymru i aros yng Nghymru yn lle, fel digwyddai’n aml, mynd dros y ffin i Loegr.

Ni gyflawnwyd y weledigaeth yn nyddiau Glyndŵr, ond bellach mae’r Gymru fodern – gyda’i senedd, prifysgolion, sefydliadau cenedlaethol a phwyslais ar bwysigrwydd y Gymraeg – yn ymdebygu i’r weledigaeth a amlinellai Glyndŵr yn Llythyr Pennal.

Dr Rhun Emlyn

Hanesydd yr Oesoedd Canol

Prifysgol Aberystwyth

Postiwyd - 15-03-2019

Stori Cymru

Bywyd a gwaith Cranogwen: O forwr i fardd, a llawer mwy …

Dathlu Cyfraniadau Menywod

Mae mis Mawrth wedi datblygu i fod yn gyfnod allweddol wrth ddathlu cyfraniadau menywod ddoe a heddiw. Er bod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi gwibio heibio eleni eto, mae mis Mawrth yn parhau i ddal statws swyddogol Mis Hanes y Menywod.

O ystyried hynny, nid yw’n syndod mai dynes go arbennig sy’n mynnu sylw yn ein cofnod nesaf fel rhan o ymgyrch Stori Cymru, sef Cranogwen. Fodd bynnag, byddwn ni’n parhau i asesu straeon merched Cymru drwy gydol y gyfres, fel y dylid gwneud wrth gwrs ar draws y flwyddyn!

 

Menyw cyn ei hamser

Roedd Sarah Jane Rees (g. 1839), a chaiff eu hadnabod yn ôl ei henw barddol Cranogwen, yn arloeswraig mewn amryw o feysydd. Yn ferch dal, drawiadol a hyderus, llwyddodd i drechu rhai o gyfyngiadau enwocaf oes Fictoria a dilynodd yrfa amrywiol a llawn.

Nid yw’n syndod bod yr hanesydd, yr Athro Deirdre Beddoe, wedi cyfeirio at Cranogwen fel ‘the most outstanding Welsh women of the nineteenth century’.

 

Meistres y Moroedd

Daeth Cranogwen i’r amlwg yn y lle cyntaf fel morwr.

Magwyd ym mhentref arfordirol Llangrannog, ac wedi iddi brofi cyffro’r bywyd morol drwy lygaid ei thad a oedd hefyd yn gapten llong, penderfynodd mai gyrfa tua’r dec oedd ei thynged!

Er mawr siom i’w rheini, dechreuodd weithio yn y maes morwrol, a hynny ar longau cargo rhwng Cymru a Ffrainc am ddwy flynedd, cyn dychwelyd i Lundain a Lerpwl i astudio.

Aeth Cranogwen ymlaen i ennill cymhwyster meistr yn y maes, a oedd yn caniatáu iddi reoli llongau ledled y byd.

Fodd bynnag, yn 1860 pan oedd yn 21 oed, dychwelodd adre; ac fel merch ifanc addysgedig fe’i penodwyd i rôl pennaeth yr ysgol leol.

 

Cranogwen y bardd

Yr oedd Cranogwen yn medru trin a thrafod yr iaith Gymraeg yr un mor feistrolgar â llyw’r llong!

Hi oedd y merched cyntaf erioed i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn dilyn ei llwyddiant yng ng?yl Aberystwyth 1865 daeth yn enw cyfarwydd dros nos. Lluniodd ei gwaith buddugol o dan yr enw Cranogwen. Roedd ei cherdd ‘Y Fodrwy Briodasol’ yn ymateb digrif a chrafog i dynged y ferch briod o fewn cymdeithas.

 

O fewn pum mlynedd yn unig yr oedd Cranogwen yn fardd cyhoeddedig ac ymddangosodd ei chasgliad poblogaidd ‘Caniadau Cranogwen’ yn 1870.

 

Cylchgrawn Cymraeg i Ferched Cymreig

Caiff Cranogwen ei chofio fel y merched cyntaf i roi cynnig ar lawer o dasgau gwahanol yn y maes llenyddol yng Nghymru.

Ymhlith ei phrif gyflawniadau oedd llwyddiant ‘Y Frythones’; dim ond yr ail gylchgrawn Cymraeg ar gyfer merched, a’r cyntaf i’w olygu gan fenyw.

 

Gweledigaeth Cranogwen fel golygydd a yrrodd natur y cylchgrawn rhwng 1879 a 1889. Roedd yn cynnwys llawer o nodweddion diddorol gan gynnwys straeon byrion a cherddi, ymgyrchoedd, tudalennau problemau a cholofnau ymgynghorol. Fel rheol, byddai pob rhifyn hefyd yn cynnwys erthygl yn canolbwyntio ar fywyd a gwaith menyw uchel ei pharch, a gosodwyd fel esiampl i’r darllenydd.

 

Defnyddiwyd tudalennau’r ‘Frythones’ i hyrwyddo gwaith awduron benywaidd eraill a rhoddodd Cranogwen lwyfan i lawer o awduron i ddatblygu a mynegi eu lleisiau.

 

Ymgyrchydd a Phregethwr Ymroddedig

Yn wir, roedd talentau Cranogwen yn ddi-ddiwedd! Roedd yn siaradwr cyhoeddus effeithiol a theithiodd i America ddwywaith er mwyn annerch cynulleidfaoedd a darlithio ar bynciau amrywiol.

Bu’n ymgyrchydd allweddol ym maes Dirwest. Yn ei thyb, roedd alcohol yn ddinistriol iawn i’r uned deuluol. Yn 1901 sefydlodd Undeb Dirwestol Menywod De Cymru, a oedd wedi lledaenu i gynnwys dros 140 o ganghennau erbyn 1916.

 

Elen Haf Jones
Ysgrifennwyd fel rhan o brosiect Europeana ‘The Rise of Literacy’

Tagiau: , , ,

Postiwyd - 01-03-2019

Casgliadau / Collections / Stori Cymru

Beth wyddom ni am Dewi Sant?

Dyma’r cofnod cyntaf o gyfres newydd, Stori Cymru. Cyfres sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio hanes ac yn ei siapio. Cyhoeddir cofnod bob yn ail ddydd Gwener, a gallwch eu dilyn trwy ddewis categori Stori Cymru ar yr ochr dde.

 

 

Mae hi bellach yn fil o flynyddoedd ers geni Sulien. Bu’n esgob Tyddewi ddwywaith, ond ei brif gyfraniad oedd sefydlu canolfan ddysg yn Llanbadarn Fawr, ar safle sydd bellach yng nghysgod y Llyfrgell Genedlaethol.

Yn Llanbadarn y lluniwyd rhai o’n llawysgrifau cynharaf, a hynny o waith dau o feibion Sulien, sef Ieuan a Rhygyfarch (?1056-99). Mae Sallwyr Rhygyfarch (a luniwyd tua 1079) bellach yng nghadw yn llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn, ond ei waith creadigol enwocaf oedd y Vita Davidis, cofiant Lladin i Ddewi Sant a luniwyd tua 1094 i ddyrchafu statws ac annibyniaeth esgobaeth Tyddewi.

Mae mwyafrif yr hyn a gredir heddiw am Dewi, sant o’r chweched ganrif, yn seiliedig ar adroddiad Rhygyfarch, a luniwyd bum canrif yn ddiweddarach. Yn y Vita y ceir hanes ei addysgu gan Beulin, ei oruchafiaeth tros Boia, sefydlu’r fynachlog yng Nglyn Rhosyn, a’r bregeth yn senedd Llanddewibrefi. Cyfieithwyd a thalfyrrwyd y gwaith hwn i’r Gymraeg yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg gan fynach anhysbys. Ymysg y fersiynau cynharaf o Fuchedd Dewi y mae’r testun hwn yn Llyfr Coch Talgarth (llawysgrif Llanstephan 27), a ysgrifennwyd gan Hywel Fychan tua 1400 ar gyfer ei noddwr, yr uchelwr Rhys ap Thomas.

Bydd cenedlaethau o blant Cymru’n gallu ail-adrodd geiriau olaf y sant, a lefarwyd cyn ei farw ar y cyntaf o Fawrth: ‘Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i.’

Yn rhyfedd iawn, nid yw’r gair ‘bychain’ yn ymddangos yng ngwaith Lladin Rhygyfarch, a rhaid llongyfarch y cyfieithydd Cymraeg diweddarach ar lunio brawddeg gofiadwy!

Maredudd ap Huw

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog