Blog

Postiwyd - 26-08-2014

Arddangosfeydd

Sied Enwocaf Cymru

‘..the heaven of my hut’

Bydd union gopi o sied enwog Dylan Thomas i’w gweld yn y Llyfrgell o ddydd Iau yr 28ain Awst hyd Sadwrn y 30ain.

Mae’r sied – sydd yn cynnwys lluniau wedi eu cyrlio ar y waliau, fferins ar y ddesg a siaced y bardd yn hongian ar gefn ei gadair – ar daith fel rhan o gynllun Dylan Thomas 100, dathliad blwyddyn gyfan i gofnodi canmlwyddiant geni’r bardd mawr o Gymru.

Mae’r sied wreiddiol i’w gweld ger ei gartref, y Boathouse, yn nhref Talacharn, Sir Gâr, lle bu Thomas yn ysgrifennu rhai o’i weithiau enwocaf, gan gynnwys y gerdd Do Not Go Gentle into That Good Night a’r ddrama i leisiau ‘Dan y Wenallt’ (Under Milk Wood). Lleolir y sied deithiol ger ddrws blaen y Llyfrgell yn edrych dros hyfrytwch Bae Ceredigion.

Tra yn y sied, bydd cyfle i chi greu eich gair newydd eich hun, mewn arddull Dylan-aidd, i’w ychwanegu at Eiriadur Dylan. I gwblhau’ch ymweliad gallwch ymweld â’r Llyfrgell, sydd yn gartref i’r arddangosfa fwyaf erioed o weithiau prin y bardd.

Tynwyd lluniau o’r sied gan y ffotograffydd Geoff Charles yn 1955, a credir mae’r lluniau hyn – sydd yn rhan o gasgliadau’r Llyfrgell – yw’r rhai olaf a dynwyd o fan gwaith Dylan cyn ei

Geoff Charles, Sied Ysgrifennu, Dylan Thomas Writing Shed ©LLGC / NLW

Geoff Charles, Sied Ysgrifennu, Dylan Thomas Writing Shed ©LLGC / NLW

farwolaeth.

Mae’r sied ar agor rhwng 9 y bore a 5 y p’nawn, o ddydd Iau’r 28ain tan ddydd Sadwrn y 30ain, gyda mynediad yn rhad ac am ddim.

 

Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gaerfyrddin.

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog