Blog - Sgrin a Sain

Postiwyd - 15-05-2019

Casgliadau / Heb ei gategoreiddio / Sgrin a Sain

Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol

Gan fod Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol yn digwydd ar draws y byd heddiw – 15fed Mai – mae Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn awyddus i dynnu eich sylw at ffilm fer sydd ar gael ar y BFI Player dan y teitl ‘Defending This Country Only Means Attacking Another’. Daw’r teitl o blacard yr Undeb Llw Heddwch a welir yn y ffilm gan Mr J. Fred Phillips, a redai sinema ym Mrynmawr o 1923 hyd 1958. Roedd yn gapten Clwb Golff Sir Fynwy yn Y Fenni, ac roedd yn ŵr i Pollto Williams, a chwaraeodd mewn sawl rownd derfynol cystadlaethau cenedlaethol golff merched yn Llandrindod. Mae placardiau eraill yn nodi credoau’r Undeb: ‘Nid yw Llofruddiaeth Dorfol yn Amddiffyn Rhyddid’ a ‘Mae Heddwch yn Annatod – Rydym yn Ceisio Heddwch ar y Ddaear, Ewyllys Da i BAWB’. Mae placardiau a wnaed â llaw yn dangos tasgiad gwaed ynghyd â’r geiriau ‘Arfau Rhyfel Glyn Ebwy’ yn awgrymu y gallai hon fod yn brotest yn erbyn agor neu weithredu ffatri arfau rhyfel yn yr ardal. Yn ystod yr 1930au bu Cymdeithas y Cyfeillion yn gyfrifol am sefydlu prosiectau i bobl ddi-waith yn ardal Brynmawr (e.e. gwneud esgidiau a chelfi – gweler hefyd y ffilm ‘Eastern Valley’ ar y BFI Player), ond aeth llawer ohonynt i weithio yn ffatrïoedd arfau Glyn Ebwy yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Neu, o gofio i’r  Undeb fynd ar ymgyrch heddwch o Gaerliwelydd i Lundain yn 1938, tybed ai ymweliad yr ymgyrch honno â Glyn Ebwy a welir yma?

 

Cliciwch yma i wylio’r ffilm: Defending This Country Only Means Attacking Another (1938)

 

 

Sefydlwyd yr Undeb Llw Heddwch yn 1934 gan y Canon Dick Sheppard a fu’n gaplan yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ysgrifennodd lythyr i’r papurau newydd at ddynion (gan fod merched yn gweithredu yn y mudiad heddwch y  barod) yn gofyn iddynt arwyddo llw os oeddent yn gwrthwynebu yr hyn a ymddangosai fel cyffroi rhyfel arall: ‘Rwy’n ymwrthod â rhyfel, ac ni fyddaf yn cefnogi na goddef un arall.’ Roedd wrth ei fodd gyda’r ymateb. Roedd y mudiad yn cynnwys merched ers 1936. Heddiw, yr Undeb Llw Heddwch sy’n cyflenwi’r Pabïau Gwyn a wisgir ar Ddydd y Coffa. Gwisgwyd pabïau o’r fath am y tro cyntaf ar anogiad Urdd Cydweithredol y Merched ar Ddydd y Cadoediad, 1933 (newidiodd Dydd y Cadoediad yn Ddydd y Coffa yn dilyn yr Ail Ryfel Byd). Roedd llawer o’r merched wedi colli eu ceraint yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn anobeithio wrth weld paratoadau at ryfel pellach. Teimlwyd hefyd y dylai’r coffa gynnwys y rhai a ddioddefodd yn y rhyfel y tu allan i’r gwasanaethau milwrol. Mae’r llw heddiw fel a ganlyn: ‘Mae rhyfel yn drosedd yn erbyn dynoliaeth. Rwy’n ymwrthod â rhyfel, ac felly yn benderfynol o beidio a chefnogi rhyfel o unrhyw fath. Rwyf hefyd yn benderfynol o weithio i gael gwared o bob achos dechrau rhyfel’.

 

Mary Moylett, Catalogydd (Ffilm) Archif Sgrin a Sain

Postiwyd - 27-03-2019

Casgliadau / Darganfod Sain / Sgrin a Sain

Datgloi Ein Treftadaeth Sain Cyfle Gwirfoddoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Y Prosiect

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o’r 10 Hwb ar draws y DU sy’n cymryd rhan yn y prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac a arweinir gan y Llyfrgell Brydeinig.

Bydd y Llyfrgell Brydeinig a’r 10 Hwb yn digido hanner miliwn o recordiadau sain prin ac mewn perygl, ac yn sicrhau bod 100,000 ohonynt  ar gael ar-lein. O fis Medi 2018 tan fis Medi 2021 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn digido, catalogio ac asesu hawliau ar gyfer 5,000 o recordiadau sain o Gymru. Byddant yn cynnwys nifer o bynciau megis hanes llafar, darlithoedd, tafodiaith a cherddoriaeth Gymraeg pop a gwerin. Y nod yw trawsnewid mynediad at gasgliadau sain yng Nghymru gan eu rhoi ar-lein ac ar safle’r Llyfrgell. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn gweithio gyda rhai o’n partneriaid yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe a Thredegar.

Cyfleoedd 

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr neu fyfyrwyr sydd am gael profiad gwaith i gefnogi’r prosiect. Mae gennym amrywiaeth o weithgareddau ar gael o greu rhestrau, helpu i baratoi gwaith digido a gwaith ymchwil. Darperir hyfforddiant. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am hanes Cymru a recordiadau sain, yn awyddus i ddysgu a datblygu sgiliau newydd beth am ymuno â’r tîm cynnes a chyfeillgar.Os hoffech drafod y prosiect, cysylltwch ag Alison ar uosh@llyfrgell.cymru

 

Postiwyd - 14-02-2019

Digido / ITV Cymru / Wales / Sgrin a Sain

Pobi, Adfer, Achub!

Mae archif HTV Cymru yn gofnod arwyddcaol o ddiwylliant poblogaidd, gwleidyddiaeth a hanes Cymru ar ffilm a fideo, a mae hi’n ffurfio rhan fawr o gasgliad yr Archif Sgrin a Sain. Bydd archif o’r fath faint ac oedran yn cynnwys amrywiaeth o sialensau cadwraethol, yn enwedig wrth adfer deunydd. Y broblem fwyaf cyffredin o lawer gyda hen dâp yw hydrolysis, neu ‘Sticky-shed syndrome’ (SSS). Mae SSS yn digwydd pan fod rhwymiad polyester y tâp yn dirywio oherwydd ei fod wedi amsugno lleithder.

Mae s?n gwichian wrth i’r tâp chwarae a baw mân yn casglu ar y pennau troi tâp yn y peiriant yn arwyddion diamau o SSS. Wrth ei chwarae bydd y llun ar dâp gyda SSS yn dioddef o’r hyn a elwir yn ‘crabbing’ – y llun yn symud yn ôl ac ymlaen o’r naill ochr i’r llall,, a gall parhau i chwarae’r tâp heb ei drin achosi difrod pellach.

Sut felly ydym ni’n adfer pennod goll o ‘Gwesty Gwirion’? Efallai bydd yr ateb yn eich synnu! Y dull arferol yw i bobi’r tâp ar dymheredd isel, megis 130°F i 140 °F (54 i 60 °C), am gyfnodau cymharol hir. A bod yn hollol gywir, nid ‘pobi’ tapiau fyddwn ni, ond defnyddio dadhydradydd bwyd masnachol sy’n tynnu’r holl leithder o’r tâp. Mae hyd yr amser pobi’n dibynnu ar ba mor ddrwg yw’r SSS – rydym wedi canfod bod hyd at wythnos yn ddigon. Rydym wedi cael llwyddiant gyda’r mwyafrif o dapiau i ni eu rhoi drwy’r broses gan achub sawl perl rhag bron cael eu colli. Gallwch weld rhai ohonynt ar sianel YouTube ITV Cymru https://www.youtube.com/channel/UCT2NfMee-YxsGaH852qTx3Q neu eu gweld yn y Llyfrgell.

 

Martin Edwards

Postiwyd - 17-10-2018

Casgliadau / Darganfod Sain / Sgrin a Sain

Datgloi Ein Treftadaeth Sain

Prosiect pum mlynedd yw Datgloi Ein Treftadaeth Sain sy’n cael ei arianu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a’i arwain gan y Llyfrgell Brydeinig. Mae’r prosiect yn rhan o raglen ‘Amddiffyn ein Sain’ sydd â’r bwriad o amddiffyn, cadw a darparu mynediad i recordiadau Sain y Deyrnas Unedig. Sefydlwyd deg Canolfan rhwydweithio Cadwraeth Sain ar draws y Deyrnas Unedig ac yn derbyn nawdd am dair blynedd, i ddelio gyda’r bygythiad sy’n wynebu recordiadau sain. Y sefydliadau yw:

 

  1. Amgueddfa Genedlaethol Gogledd Iwerddon
  2. Archives + Manceinion
  3. Archifdy Norfolk
  4. Llyfrgell Genedlaethol yr Alban
  5. Prifysgol Leicester
  6. The Keep, Brighton
  7. Archifdy ac Amgueddfa Newcastle
  8. Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  9. Archifdy Metropolitan Llundain
  10. Bristol Culture

 

 

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddigido a chadwraeth recordiadau sain prin ac unigryw, y rhai sydd o dan fygythiad o ddirywiad ffisegol, a’r rhai sydd mewn perygl o’u colli oherwydd nad yw’r peiriant chwarae ar gael.

Bydd y Llyfrgell Brydeinig yn arwain y prosiect drwy rannu sgiliau, rhoi cymorth i’r hybiau er mwyn diogelu ein casgliadau sain prin, gan alluogi’r cyhoedd i gael mynediad iddynt.

Erbyn 2021 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido, gofalu a chreu mynediad i recordiadau sain prin ac unigryw allan o gasgliadau eu hunain ac o gasgliadau partneriaid ar draws Cymru.

Defnyddir y recordiadau sain mewn gweithgareddau dysgu ac ymgysylltu, gan godi proffil casgliadau Archifau Sain y Deyrnas Unedig. Erbyn diwedd 2021 bydd mwy o bobl wedi ymrwymo â deunydd sain a bydd gwefan newydd yn galluogi gwrandawyr i wrando ac archwilio detholiad o recordiadau ar lein.

 

Alison Lloyd Smith

Rheolwr Hwb Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain

 

 

 

Postiwyd - 19-10-2017

Collections / Sgrin a Sain

Dathlu Ffilmiau Cartref

Ar 21ain o Hydref bydd y byd yn dathlu Diwrnod Ffimiau Cartref, a ble well i ddechrau darganfod cyfoeth ffilmiau fel hyn nag yn ein casgliad ni yma yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, sy’n dyddio o’r 1920au ymlaen.  Cofnodion personol oedd ffilmiau cartref, ond bellach mae technoleg fodern yn galluogi pawb i’w mwynhau. Yn ddiweddar ‘rydyn ni wedi digido dros saith gant o’r ffilmiau sydd yn ein gofal, ac mae llawer ohonynt i’w gweld am ddim ar y BFI Player yma. Mae bron fel edrych i mewn drwy ffenest rhywun, ond mai lens camera yw’r ffenest.

Ymhlith ein hoff ffilmiau cartref yn y casgliad hwn mae Baby Marred 1955-1959 – ffilm hyfryd yn dangos y babi ar ei phrifiant yng nghwmni ei chwaer gariadus Annes; Branksome, Heathwood Road, Cardiff – ffilm liw ogoneddus o fywyd yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a Tiger Bay and The Rainbow Club – II, sy’n rhoi cipolwg ar hanes cymuned enwocaf Caerdydd, mewn lliw godidog.

Mae’r casgliad yn amrywio o ffilmiau cartref sy’n portreadu pethau personol iawn, i ffilmiau sy’n dathlu’r gymuned ehangach. Mae’n syndod meddwl am y gofal, yr ymdrech a’r gost ag aeth i’w creu, ond yn bwysicaf oll maent yn lluniau sydd yn real ac uniongyrchol iawn, yn aml heb eu golygu.

Mae’r ffilmiau hyn yn rhoi cyfle i ni chwilota, adlewyrchu a (gobeithio) cael ein hysbrydoli. Er bod y dull a’r cyfrwng wedi newid yn syfrdanol dros y blynyddoedd, nid oes pen draw ar ein hawydd i ddal ein bywydau ar gamera a rhannu’r delweddau. Trodd ffilmiau cartref ddoe, a recordiwyd ar Super 8, eu taflunio ar wal y parlwr a’u storio yn yr atig, bellach yn ffilmiau ffôn, sy’n cael eu ‘taflunio’ drwy’r cyfryngau cymdeithasol a’u storio yn y cwmwl. Un dydd efallai bydd gennym ni adran bwrpasol ar gyfer diogelu delweddau Snapchat, Instagram, Trydar a Facebook sydd o ddiddordeb i Gymru a’i diwylliant!

Dros yr haf fe gyfrannodd yr Archif i raglen hyfryd o’r enw ‘Wales’s Home Movies,’ a ddarlledwyd ar BBC Cymru ddydd Sul diwethaf (15fed Hydref). Dangoswyd enghreifftiau lu o ffilmiau teuluol a chymunedol, a chyfweliadau  gyda phobl oedd ynddynt, oll yn rhannu eu hatgofion o’r ffilmio a’r digwyddiadau gafodd eu hanfarwoli. Os na welsoch chi’r rhaglen, neu os hoffech ei gwylio eto, mae ar gael ar iPlayer y BBC yma tan 14eg Tachwedd. Am flas pellach o’n casgliad gallwch ein dilyn ar Facebook, Twitter ac Instagram (bron) yn ddyddiol, ac mae wastad croeso i chi ymweld â ni yn y Llyfrgell Genedlaethol i weld sut ‘rydym yn gofalu am y ffilmiau gwerthfawr hyn, a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

AGSSC

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog