Blog

Salem – Symbol o Hunaniaeth Gymreig

Collections - Postiwyd 23-07-2020

Diogelu ail fersiwn ‘Salem’

Mis Hydref y llynedd bu’r Llyfrgell yn hynod falch o’i llwyddiant wrth ddiogelu gwaith eiconig ‘Salem’ o 1909 gan Sidney Curnow Vosper (1866-1942) ar gyfer y genedl. Mae’r gwaith mewn dyfrlliw yn darlunio’r olygfa o oedfa yng Nghapel Salem, Cefncymerau, Llanbedr ger Harlech, gyda’r cymeriad Siân Owen yn ei gwisg draddodiadol Gymreig yn dal llyfr emynau yn ganolog i’r llun. Ar hyd y degawdau daeth ‘Salem’ yn symbol eiconig o hunaniaeth Gymreig a’r traddodiad anghydffurfiol yng Nghymru.

Cartrefi Cymru a’r Cof Gwerinol

Creodd Vosper ddau fersiwn o ‘Salem’ yn ystod ei oes. Cafodd y cyntaf ei greu ym 1908, a’i arddangos yn Llundain lle fe’i prynwyd gan y diwydiannwr William Hesketh Lever a’i defnyddiodd er mwyn hyrwyddo gwerthiant ei gynnyrch ‘Sunlight Soap’. Yn sgil hyn daeth y ddelwedd yn un eiconig ar draws Prydain. Fel y nododd yr hanesydd celf Peter Lord yn ei lyfr ‘The Tradition’ yn 2016: ‘In the wake of a nationwide religious revival in 1904, the picture itself and its associated mythology entered Welsh homes and folk memory’. Un o’r rhesymau eraill hefyd dros lwyddiant y llun oedd na chynhyrchwyd ond ychydig iawn o ddelweddau Cymreig cyn y Rhyfel Byd fel printiau lliw rhad a deniadol. Ym 1937 prynodd Ifan ab Owen Edwards printiau o’r darlun er mwyn eu gwerthu yn adrannau’r Urdd. Atgynhyrchwyd y darlun hefyd ar gyfer ei ddefnydd yng nghalendr ‘Cymru Fydd’ ym 1950, 1956 a 1957. Fe fanteisiodd nifer o Gymry ar hyn drwy ei dorri allan o’r cylchgrawn a’u fframio ar gyfer eu cartrefi. Fe grëwyd yr ail fersiwn o ‘Salem’, a brynwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol, sydd ond ychydig yn wahanol i’r gwreiddiol ar gyfer Frank Treharne James, cyfreithiwr o Ferthyr, a brawd-yng-nghyfraith yr artist yn 1909.

Cyferbyniadau

Fel y dywed Peter Lord mae yna wrthgyferbyniad cryf o fewn y llun rhwng symlrwydd yr adeilad, gostyngeiddrwydd yr oedfa a siôl chwaethus y prif gymeriad. Credai nifer eu bod yn medru gweld delwedd o’r diafol ym mhlyg siôl Siân Owen, a greodd dipyn o gynnwrf ynglŷn ag ystyr y llun. Tybier rhai bod y ddelwedd o’r diafol yn rhybudd i bobl yn erbyn pechod balchder, a bod Siân Owen yn euog o’r fath pechu drwy wisgo ei siôl Baisli gorau i fynychu’r gwasanaeth. Tybier hefyd fod Siân Owen yn cynrychioli’r ffigwr o’r ‘Fam’ yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adnabyddwyd Siân Owen yn lleol fel Siân Owen, Tŷ’n y Fawnog . Roedd hi dros 70 mlwydd oed pan grëwyd y paentiad, ac yn dorcalonnus rhai blynyddoedd wedi i Vosper beintio’r llun fe gollodd hi dau o’i wyrion yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhoddai hyn ystyr hyd yn oed yn ddwysach i’w symbolaeth hi fel Mam Gymreig, wrth ystyried y miloedd o famau yng Nghymru a gollodd meibion ar faes y frwydr yn ystod y Rhyfeloedd Byd.

Cymeriadau lleol

Cymeriadau lleol a bortreadir yn y llun ac fe wnaethant eistedd ar gyfer yr artist o fewn y capel. Eithriad i hyn oedd y ddelw teiliwr a enwodd yn Leusa Jones a roddodd i eistedd yn y sêt blaen. Mae’n ddiddorol i nodi mai wyneb Siân Owen a benderfynodd ei roi ar gyfer wyneb Leusa Jones hefyd. Mae’n annhebygol fod yr het dal Gymreig yn boblogaidd yn 1908, ac felly fel dywed Tal Williams yn ei lyfr ar Salem yn 2010 nid oedd gan un o’r gwragedd a bortreadir o fewn y llun ei het ei hun. Benthyciwyd felly’r un het a wisgir gan Siân Owen, Laura Williams, Mary Rowlands a Leusa Jones y ddelw teiliwr, gan Elin Edwards, Tŷ’r Capel, nain y Parch. Evan Rowlands. Mrs Williams, gwraig Ficer Harlech, a roddodd fenthyg y siôl i Siân Owen. Rhoddodd yr artist bocs ‘Quaker Oats’ i Evan Lloyd y bachgen bach 6 mlwydd oed i’w ddal a eisteddai gyda’i fodryb Mary Rowlands. Ofnai Vosper y byddai’r bachgen bach yn dechrau troi tudalennau’r llyfr pe bai ganddo lyfr emynau iawn i’w ddal, fel yr hyn a’i portreadir ef yn dal yn y llun gorffenedig. Wiliam Siôn a Rhobet Williams, Cae’r Meddyg ydy enwau’r ddau ddyn o fewn yr olygfa.

Mynegiant o deyrngarwch at Gymru

Ysbrydolwyd yr artist dyfrlliw Vosper i greu gweithiau wedi eu selio ar ddiwylliant Llydaweg a Chymreig yn ystod ei oes, ond heb os ‘Salem’ yw ei waith mwyaf adnabyddus heddiw. Fel y nododd Peter Lord: ‘Yn y pen draw, mater o fynegi teyrngarwch a pherthyn i Gymru yw poblogeiddrwydd Salem’.

Morfudd Bevan
Curadur Celf Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog