S4C yn dathlu’r 40
Collections / Heb ei gategoreiddio / Sgrin a Sain - Postiwyd 01-11-2022
Un o’r digwyddiadau mwyaf hanesyddol yn hanes y Gymraeg, heb sôn am hanes darlledu yng Nghymru, oedd lansiad S4C ddeugain mlynedd yn ôl. Bydd Archif Ddarlledu Cymru, fydd yn cael ei lansio yn fuan yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn rhoi lle teilwng i dreftadaeth darlledu ein gwlad.
Yn y cyfamser, dyma erthygl gan un o gefnogwyr y prosiect, Dr Elain Price o Brifysgol Abertawe, yn egluro arwyddocad noson honno.
S4C yn dathlu’r 40
Ar y 1af o Dachwedd bydd S4C yn dathlu 40 o flynyddoedd ers y darllediad cyntaf ar y sianel am 6 o’r gloch y nos. Roedd y noson agoriadol hon yn ben-llanw ymgyrchu di-flino gydol yr 1960au a’r 1970au, ac yn ganlyniad i fygythiad ympryd Gwynfor Evans i sicrhau y byddai’r llywodraeth yn gwireddu ei haddewid i greu sianel ar gyfer rhaglenni teledu Cymraeg. Roedd angen dirfawr am sianel er mwyn i’r rhaglenni hynny ddatblygu yn wasanaeth cynhwysfawr a theilwng ar gyfer y gynulleidfa Gymraeg, rhywbeth a oedd yn anos pan yr oedd rhaglenni wedi eu dosbarthu ar draws amserlen dwy sianel. Ond mewn gwirionedd roedd y gwaith caled o baratoi at y noson honno wedi cychwyn ymron ddwy flynedd cyn hynny ym mis Ionawr 1981 pan y penodwyd Awdurdod S4C i ddechrau ar y gwaith o osod seiliau cadarn i’r sianel.
Rhaid cofio mai am gyfnod o dair blynedd yn unig y sefydlwyd S4C yn wreiddiol, gan y gosodwyd arni gyfnod prawf er mwyn dangos y gallai’r cynllun dadleuol o osod rhaglenni Cymraeg ar un sianel weithio. I’r Awdurdod penodwyd Syr Goronwy Daniel, y Parch. Dr. Alwyn Roberts (Cadeirydd Cyngor Darlledu’r BBC), Dr. Glyn Tegai Hughes (y cynrychiolydd Cymreig ar fwrdd Channel 4), yr Athro Huw Morris-Jones (cynrychiolydd Cymru ar yr Awdurdod Darlledu Annibynnol) a D. Ken Jones (gwr busnes a chyn-asgellwr Cymru). Fel y gwelir o’r aelodau yma, roedd cyd-weithio llwyddiannus rhwng y sianel newydd a’r sefydliadau darlledu a fodolai eisoes yn gwbl hanfodol ar gyfer llwyddiant y sianel newydd.
Yn wahanol i Channel 4, a lansiwyd ar yr 2il o Dachwedd 1982, roedd S4C yn wasanaeth a oedd yn derbyn ei raglenni o sawl ffynhonnell, gyda’r 22 awr yr wythnos o gynnwys Cymraeg yn cael ei rannu rhwng tair carfan wahanol. Roedd y BBC yn darparu 10 awr yr wythnos o raglenni trwy arian y drwydded, HTV yn darparu 7 awr a thri chwarter trwy gytundeb masnachol, a gweddill yr oriau yn cael eu llenwi gan y rhaglenni a gynhyrchwyd gan y cynhyrchwyr annibynnol newydd a oedd wedi eu sefydlu ar draws Cymru ers 1981.
Byddai’r noson agoriadol honno’n rhoi cyfle i’r gynulleidfa gael blas ar yr arlwy y cynhyrchwyd ar eu cyfer. Agorwyd y rhaglen groeso gyda delwedd o swyddfeydd y sianel, y logo wedi ei oleuo uwchben y fynedfa a sain ffanffer nodweddiadol o sain electronig yr 1980au wedi ei gymysgu â cherddoriaeth telyn. Yna gwelwn Owen Edwards yn sefyll yn nerbynfa swyddfeydd S4C yng Nghlos Soffia yn croesawu’r gwyliwr trwy nodi: ‘Croeso cynnes iawn, iawn i chi ymuno â ni yma am y tro cyntaf ar aelwyd Sianel Pedwar Cymru. Rŵan, hawdd cynnau tân ar hen aelwyd medde’r gair yntê, ond ein bwriad ni ydi cynnau coelcerth ar aelwyd newydd.’ Pwysleisiodd Owen Edwards y gair ‘aelwyd’ yn ei gyfarchiad, gan y rhoddai argraff gref i’r gynulleidfa o’r naws yr oedd y sianel yn anelu ati, sef creu sianel fyddai’n aelwyd glyd a chysurus, lle teimlai cynulleidfaoedd Cymraeg yn gartrefol, naws y datblygwyd ymhellach yn arddull cyflwyno’r sianel gan Robin Jones, Siân Thomas a Rowena Jones-Thomas.
Fel rhan o’r rhaglen groeso honno cafwyd rhag-flas o’r rhaglenni a oedd i’w darlledu dros y misoedd agoriadol, a chafwyd cyfarchiad Cymraeg a chyflwyniad i’r rhaglenni Saesneg a ddarlledid o amgylch y ddarpariaeth Gymraeg gan Jeremy Isaacs, Prif Weithredwr Channel 4. Daeth un o uchafbwyntiau’r noson agoriadol 4 munud i mewn i’r rhaglen gyntaf, gyda darlledu pennod gyntaf y gyfres animeiddiedig sain gyntaf i’w chynhyrchu yng Nghymru, sef SuperTed a Thrysor yr Incas.
Cadarnhawyd i’r sianel gael noson gyntaf lwyddiannus gan iddi lwyddo i ddenu 12 y cant o’r gynulleidfa bosib yn ystod yr oriau brig, gyda’r rhaglen groeso yn ail i Wales Today a Nationwide ar y BBC yn y ffigurau gwylio a gasglwyd gan BARB. Cafwyd dechrau da felly i’r sianel, a byddai’r dair blynedd nesaf yn llawn llwyddiannau a heriau wrth i’r sianel geisio ymsefydlu ei hun fel rhan annatod o dirlun darlledu Cymru.
Mae Dr Elain Price yn awdur Nid Sianel Gyffredin Mohoni! Hanes Sefydlu S4C (2016, Gwasg Prifysgol Cymru) a Broadcasting for Wales: The Early Years of S4C (2022, Gwasg Prifysgol Cymru) sy’n croniclo llwyddiannau a heriau cyfnod prawf S4C yn ystod ei chyfnod prawf rhwng 1981 ac 1985.