Ryseitiau ecsotig a moddion gwyrthiol Syr Kenelm Digby
Casgliadau / Derbynion newydd / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 22-08-2022
Roedd Syr Kenelm Digby (1603-1665) yn dod o deulu Catholig Prydeinig a chafwyd ei dad yn euog o deyrnfradwriaeth oherwydd ei gysylltiad â chynllwyn Guto Ffowcyn yn 1605. O ganlyniad fe’i ddefrydwyd i farwolaeth, a cafodd ei grogi yn Ionawr 1606. Cafodd hyn effaith ar fywyd Digby – roedd yn ddrwgdybus o awdurdod ac yn barod i gymryd risg. Enghraifft o hyn oedd pan aeth ar ymgyrch ddirgel fel môr leidr i Fôr y Canoldir er mwyn erlid ac ysbeilio llongau a ddeuai yn agos at ei long ef. Ar ôl dychwelyd o’r antur hwn, daeth cyfnod tywyll arall yn ei fywyd pan fu farw ei wraig, Venetia Stanley, yn ddi-rybudd. Ymatebodd i’r digwyddiad hwn drwy ymroi yn llwyr i wneud arbrofion gwyddonol a lled-wyddonol.
Roedd Digby yn berson chwilfrydig iawn ac ynddo awch am wybodaeth, yn fwy felly na rhan fwyaf o’i gyfnod. Roedd ganddo arbenigedd mewn athroniaeth, gwyddoniaeth, alcemi a choginio. Mae’r llyfrau a nodir yn y blog hwn yn cynnwys ei ddiddordeb mewn ryseitiau coginio a chemeg. Ni recordiwyd gwyddoniaeth mewn dull disgybledig yn y cyfnod hwn, ac er fod Digby yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas Frenhinol roedd ei waith ymchwil yn cwmpasu cemeg a meddygaeth ar yr un llaw, ac alcemi ac astroleg ar y llaw arall.
Mae yna dystiolaeth gref fod copi y Llyfrgell o Feibl Mawr 1539 (“The Great Bible”) yn dod o lyfrgell Syr Kenelm Digby. Cyfeirir at y Beibl mewn nifer o gyfrolau oedd ymhlith llawysgrifau William Watkin Edward Wynne o Beniarth. Mae tystiolaeth fod rhain wedi bod ym meddiant Digby gan gynnwys dyddiadur Digby yn ei lawysgrifen ei hun o’i daith i Fôr y Canoldir (gweler erthygl B. Schofield yng Nghylchgrawn y Llyfrgell Genedlaethol, Cyfrol 1, Rhif 2, 1939). Yn ddiweddar, prynodd y Llyfrgell ddau lyfr o’i waith.
- Mae’r llyfr “The Closet of the eminently Learned Sir Kenelm Digby” yn canolbwyntio ar ryseitiau a ddaeth Digby ar eu traws yn ystod ei deithiau i Ewrop. Dyma ddogfen hanesyddol werthfawr o fwyd a ryseitiau yr ail ganrif ar bymtheg. Fel un a deithiodd yn eang, ysgrifennodd am y bwydydd anarferol a brofodd, ac fe wnai gofnod o’r ryseitiau a’u hanfon at eu ffrindiau ym Mhrydain a gwledydd eraill Ewrop. Mae’r ryseitiau yn cynnwys sut i wneud metheglin, gwin ceirios a seidr. Diddorol nodi mai Digby a ddyfeisiodd y botel win fodern wrth ei wneud o wydr cryf iawn oedd yn liw tywyll, a hynny tua 1633. Cyn hyn, ‘roedd poteli gwin yn denau a gwan. Roedd hyn yn iawn os am storio am gyfnod byr, ond golygai fod y gwin yn ocsideiddio’n gyflym. Golygai dyfeisio’r botel win fodern y gellid defnyddio a marchnata gwin drud, champagne a vintage port.
- Llyfr arall a brynwyd yn ddiweddar gan y Llyfrgell oedd A Choice Collection of rare Chymical secrets and Experiments in Philosophy gan George Hartman. Mae’r llyfr hwn yn amlinellu cymwysterau Digby fel Cemegydd. Dengys hefyd sut y credai y gallai cynhyrchion ei arbrofion gael eu defnyddio fel modd i drin anhwylderau a salwch parhaol, fel gowt, dropsie, y parlys, French-pox, y Pla, y gwahanglwyf, y frech wen a’r frech goch. Dangosir methodoleg a thechneg yr arbrofion drwy gyfrwng diagramau oedd yn nodweddiadol o lyfrau gwyddonol cynnar. Er mai un o brif amcanion Digby oedd dangos grym gwyddoniaeth mecanyddol, mae llawer o gynnwys y llyfr yn ymwneud ag alcemi ac astroleg.
Mae gan y Llyfrgell gopi o A Stain in the Blood – the Remarkable Voyage of Sir Kenelm Digby gan Joe Moshenska (Heinemann, 2016). Noda Moshenska fod ei arwr yn byw rhwng dau gyfnod, sef cyfnod y Dadeni a Shakespeare, a chyfnod byd modern Milton a Newton. Mae’r awdur yn astudio anturiaethau Digby, ei gymeriad cryf a’i ddiddordebau eang. Dyn hynod yn wir.
Llyfryddiaeth
Schofield, B. (1939). ‘Manuscripts of Sir Kenelm Digby’. National Library of Wales Journal 1 (2), 89-90. Ar gael yn: https://journals.library.wales/view/1277425/1277504/50#?xywh=-1848%2C-101%2C6796%2C4471
Moshenska, J. (2916), ‘The adventures of Sir Kenelm Digby: 17th-century pirate, philosopher and foodie’. Ar gael yn: https://www.cam.ac.uk/research/features/the-adventures-of-sir-kenelm-digby-17th-century-pirate-philosopher-and-foodie (Accessed: 18 August 2022)
Moshenska, J. (2016), A stain in the blood: The remarkable voyage of Sir Kenelm Digby, Portsmouth: Heinemann.
Foster, M. (2009). ‘Digby, Sir Kenelm’. Oxford Dictionary of National Biography. Ar gael yn: https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-7629?rskey=JFHNJq&result=2 (Accessed: 18 August 2022)
Digby, K. (1669) The closet of the eminently learned Sir Kenelme Digbie Kt. opened whereby is discovered several ways for making metheglin, sider, chery-wine, &c. : together with excellent directions for cookery, as also for preserving, conserving, candying, &c., London: Printed for H. Brome, at the Star in Little Britain.
Hartman, G. (1682) A Choice Collection of rare Chymical Secrets and experiments in Philosophy as also rare and unheard-of Medicines, Menmstruums and Alkahests; with the true secret of Volatilizing the fixt salt of Tartar Collected and experimented by the Honourable and truly Learned Sir Kenelm Digby, Kt. Chancellour to Her Majesty the Queen-Mother. Hitherto kept secret since his decease, but now published for the good and benefit of the Publick. London : Printed for the Publisher, and are to be sold by the book-sellers of London, and his own house in Hewes Court in Black-Fryers.
Hywel Lloyd,
Llyfrgellydd Cynorthwyol.
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English