Blog

Robert Recorde a’r Whetstone of Witte

Collections - Postiwyd 31-05-2021

Daeth Robert Recorde yn enwog fel y mathemategydd cyntaf i ddefnyddio’r symbol “=” mewn llyfr a gyhoeddwyd yn Saesneg, The Whetstone of Witte. Mae’r Llyfrgell yn bwriadu arddangos y llyfr hwn ar-lein yn fuan.

Ganwyd Robert Recorde yn Ninbych-y-Pysgod yn 1512. Roedd ei fam yn hannu o Fachynlleth. Yn Ninbych-y-Pysgod gwelwyd ei ddiddordeb mewn mathemateg yn datblygu gyntaf. Cydnabyddwyd hyn gan Gymdeithas Fathemategol Llundain yn 2015 pan gomisynwyd arddangosfa yn ei dref enedigol i gyd-fynd â dathliad 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Gymdeithas.

Lladin oedd iaith y mwyafrif o lyfrau gwyddonol yr unfed ganrif ar bymtheg ond credai Recorde y dylid rhoi addysg fathemategol i bobl na allent ddeall Lladin na Groeg. Ef oedd un o’r awduron cyntaf i ysgrifennu llyfrau mathemategol yn Saesneg.

Gwelir yr hafaliad cyntaf gyda’r defnydd o’r symbol “=” yn yr eglureb ar dudalen 236 o gopi digidol y Llyfrgell o The Whetstone of Witte. Gellid fod wedi mabwysiadu symbolau eraill a ddefnyddiwyd gan fathemategwyr y cyfnod yn Ewrop ac aeth bron canrif heibio cyn i’r ddwy linell gyfochrog gael eu derbyn fel symbol o hafaliad. Defnyddiwyd y symbol mewn gweithiau dylanwadol fel Trigonometic gan Richard Norwood. Yn raddol, lledodd y defnydd o’r symbol hafaliad o Loegr i Ewrop ac i weddill y byd. Er mwyn egluro pam y defnyddiai dwy linell gyfochrog ysgrifennodd Recorde: Er mwyn osgoi ail-ddweud y geiriau “mae’n hafal i” fe ddefnyddiaf bâr o linellau cyfochrog = o’r un hyd, gan fod y rhain yn hafal.

Roedd Recorde ymhlith y mathemategwyr cyntaf i ddefnyddio’r ffurfiau o rifau sy’n gyfarwydd i ni heddiw (1, 2, 3 ayyb). Yn un o’i lyfrau eraill, o’r enw The Groundes of Artes, mae Recorde yn cymharu’r rhifau hyn â’r rhifau Rhufeinig (i, ii, iii) a ddefnyddiwyd gan amlaf yn llyfrau’r cyfnod. Mae’r ffurfiau o rifau a ddefnyddir heddiw yn deillio o rifau Hindŵ neu Arabaidd o tua 600 O.C. Syndod i ni yw fod Recorde wedi gorfod cyflwyno’r rhifau hyn i’w ddarllenwyr di-brofiad. Arfer newydd oedd ysgrifennu mathemateg a rhifyddeg yn Saesneg. Roedd Recorde yn ffigwr blaenllaw wrth gyflwyno’r arfer i bobl Prydain.

 

 

Bu Recorde yn Gymrawd yng Ngholeg All Souls, Rhydychen ar ôl iddo raddio mewn mathemateg. Wedyn astudiodd Feddygaeth yng Nghaergrawnt. Roedd hefyd yn Feddyg Brenhinol ac fe’i apwyntiwyd yn Bennaeth y Bathdy Brenhinol. Tra’n gweithio yn y Bathdy roedd yn atebol i Iarll Penfro. Cyhuddodd Recorde yr Iarll o ddwyn peth o elw’r bathdy. Erlyniwyd ef am enllib am wneud y fath gyhuddiad a chafodd ddirwy o fil o bunnoedd. ‘Doedd ganddo mo’r modd i dalu’r ddirwy ac fe’i carcharwyd fel methdalwr. Cafodd ei daro’n wael yn y carchar a bu farw yn 1558. Pan esgynnodd Elizabeth I i’r orsedd ail-agorwyd yr achos a chafwyd enw Recorde yn ddi-euog. Rhoddwyd tir i’r teulu yn Ninbych-y-Pysgod fel iawndal.

Ysgrifennodd Recorde ei lyfrau Mathemateg yn Saesneg er mwyn i’r bobl eu deall. Roedd ymhlith y cyntaf i gyflwyno y rhifau yn y ffurf yr ydym yn eu hadnabod heddiw. Cofiwn amdano yn arbennig am iddo gyflwyno’r symbol llinellau cyfochrog i ddynodi hafaliad. Felly gwnaeth y Cymro Robert Recorde gyfraniad unigryw i fathemateg yr unfed ganrif ar bymtheg.

 

Llyfryddiaeth

Roberts, G. (2016) Robert Recorde: Tudor Scholar and Mathematician, Cardiff: University of Wales Press.

Roberts, G. Ff. (2020) Cyfri’n Cewri: Hanes mawrion ein mathemateg, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

 

 

Hywel Lloyd,

Llyfrgellydd Cynorthwyol.

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog