Gweithiau eiconig gan artist lleol yn rhodd i’r Llyfrgell Genedlethol
#CaruCelf / Arddangosfeydd / Casgliadau - Postiwyd 26-07-2021
Rydym yn hynod falch yn y Llyfrgell Genedlaethol o fod wedi derbyn rhodd hael i’n casgliadau o dri gwaith eiconig gan yr artist blaenllaw Mary Lloyd Jones o Aberystwyth. Adwaenir yr artist am ei thirluniau deinamig, lliwgar, mynegiadol ac haniaethol yn seiliedig ar dirlun a diwylliant Cymru. Ganed yr artist ym Mhontarfynach yn 1934 a hyfforddodd yng Ngholeg Celf Caerdydd yn yr 1950au, cyn dychwelyd i Geredigion i fyw. Dyma’r ardal sydd wedi cael cryn ddylanwad ar ei gwaith fel y gwelir yn y tirlun pwerus ‘Ponterwyd/Gaia’ a oedd yn rhan o’r rhodd hael diweddar i’r Llyfrgell. Nododd yr artist
‘Y byd naturiol yw testun fy ngwaith, cymylau, cysgodion creigiau, creithiau, patrymau caeau ac anialwch corsydd mawnoglyd’.
Trwy gydol yr haf, rydym yn hynod falch o ddatgan y bydd modd gweld y gwaith yma’n cael ei arddangos yn Oriel Gregynog y Llyfrgell Genedlaethol.
Crëwyd y gweithiau olew tri darn trawiadol ‘Barclodiad y Gawres’ a ‘Bryn Celli Ddu’, a oedd hefyd yn rhan o’r rhodd, ar gyfer arddangosfa yn oriel eiconig Gregynog y Llyfrgell Genedlaethol yn 2006, ac felly mae’n hynod addas bod y gweithiau yma bellach yn cael eu cartrefu yn y Llyfrgell. Yn y gweithiau hyn mae’r artist yn mynegi ei theimladau am berthyn i ddiwylliant ac iaith leiafrifol.
Mae’r gweithiau tri darn yn seiliedig ar y patrymau cerfiedig a grëwyd gan y Brythoniaid ar gerrig cynhanesyddol ‘Barclodiad y Gawres’ a ‘Bryn Celli Ddu’ ar Ynys Môn, ac felly lle gwelir gwreiddiau’r iaith Gymraeg. Bu’r artist yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol yn aml wrth baratoi ar gyfer y gweithiau, gan ymchwilio i waith yr ysgolhaig Syr John Rhys a gasglodd enghreifftiau o gerfiadau Ogham ar garreg, yn ogystal â phapurau Iolo Morgannwg, lle gwelodd ‘Goelbren y Beirdd’ am y tro gyntaf. Teimlodd yr artist felly y byddai’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref hynod addas ar eu cyfer.
Nododd yr artist:
‘Yn y ddau ddarn yma rwyf yn gwneud i liwiau wrthdaro i greu awyrgylch arbennig sy’n cyfleu cyffro hudol y cerfiadau rhyfeddol hyn, a’u perthynas efo’r modd o fyw 4,000 mlynedd yn ôl. Trwy hyn rwyf yn ceisio cyffwrdd â hanes a dirgelwch sy’n perthyn i oes a fu. Mae yna barch uchel yn bodoli at lenyddiaeth Gymreig hynafol, ac mae beirdd yn aml yn cyfleu’r hyn yr hoffwn i ddweud yn fy nghyfansoddiadau. Mae creu pont rhwng y traddodiad barddonol a chelf weledol yn rhan o’r hyn rwyf yn ceisio ei gyflawni’.
Rydym yn hynod ddiolchgar i Mary Lloyd Jones am ei chefnogaeth frwd i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n fraint medru adeiladu ar y casgliad o weithiau’r artist sydd eisoes gennym o fewn y Llyfrgell gyda’r rhodd hynod hael yma o weithiau.
Morfudd Bevan
Curadur Celf