Blog

Rhannu’r Mabinogi

Collections - Postiwyd 05-03-2020

Heddiw rydyn ni’n dathlu Diwrnod y Llyfr a lansiad yr ymgyrch ‘Rhannu Stori’. Mae gan Gymru draddodiad hir o rannu storïau, a’r gwaddol mwyaf enwog o hyn mae’n siŵr yw’r casgliad rhyddiaith Gymraeg canoloesol a adnabyddir fel y Mabinogi – a pha storïau gwell sydd yna i’w rhannu na’r rhain?

 

Cymysgedd cyfareddol o straeon dramatig a dirgel am hudoliaeth, trasiedi, rhamant, ffantasi, hiwmor, brad, gwrthdaro, cyfiawnder, antur, moesoldeb, natur ddynol a’r Arallfyd yw’r rhain, sy’n cyfuno elfennau o lên werin, mytholeg, ffughanes, chwedlau ac athroniaeth, gydag ambell i sylwad ar faterion cyfoes yr Oesoedd Canol.

 

Mae yna un stori ar ddeg i gyd, gan gynnwys y rhyddiaith gynharaf ym Mhrydain. Ystyrir bod y pedair cyntaf – ‘Pwyll Pendefig Dyfed’, ‘Branwen ferch Llŷr’, ‘Manawydan fab Llŷr’ a ‘Math fab Mathonwy’, a adnabyddir ar y cyd fel y Pedair Cainc – yn gysylltiedig â’i gilydd, er yn eithaf amwys i olwg llygaid modern. Fe’u hysgrifennwyd i lawr am y tro cyntaf rhwng 1060 a 1200 yn ôl pob tebyg, yn gyfamserol ag ymosodiadau ar Gymru o Loegr a dinistrio penarglwyddiaethau gwleidyddol cryfion cynhenid Cymreig, ond mae llawer o’r storïau eu hunain yn hŷn o lawer, wedi iddynt gael eu hadrodd, eu hailadrodd a’u haddasu dros ganrifoedd.

 

Un arall o’r storïau hynaf yw ‘Culhwch ac Olwen’, sy’n cyflwyno Brenin Arthur gwahanol iawn i’r hyn a geir yn y rhamantau a ffug-hanesion Eingl-Ffrengig a wnaethpwyd yn boblogaidd gan Sieffre o Fynwy a Chrétien de Troyes yn y ddeuddegfed ganrif, tra bod ‘Breuddwyd Macsen Wledig’ yn adleisio gwaith Sieffre ond yn cynnwys llawer o elfennau gwahanol hefyd. Fodd bynnag, dylanwadwyd yn gryf ar rai o’r storïau eraill gan ramantau Eingl-Ffrengig, yn arbennig ‘Breuddwyd Rhonabwy’, yr ymddengys iddi fod yn greadigaeth lenyddol pur. Mewn sawl ffordd, gellir gweld y storïau fel cynnyrch y byd ôl-drefedigaethol lle y cawsant eu hysgrifennu i lawr am y tro cyntaf.

 

Eto mae hanesion y Mabinogi yn llawer mwy dyledus i’r traddodiad llafar Cymreig y tyfon nhw allan ohono, yn ogystal â dawn hanesiol y bobl a’u hysgrifennodd i lawr. Mae’r technegau adrodd a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o’r storïau – yr ailadrodd, yr ymddiddan helaeth a’r penodau cofiadwy ar wahân – yn awgrymu iddynt gael eu cyfansoddi er mwyn cael eu perfformio a’u clywed, yn hytrach na’u darllen, ond ni wyddom lawer am bwy a’u cyfansoddodd na phwy fyddai wedi eu hadrodd. Roedd beirdd y tywysogion a’r uchelwyr yn adnabod llawer o hanesion traddodiadol ac yn disgwyl y byddai eu cynulleidfaoedd yn deall y cyfeiriadau atynt, a dywed y storïau eu hunain yr oedd disgwyl i bencerdd adrodd stori wrth iddo dderbyn lletygarwch, a bod pobl eraill yn adrodd straeon hefyd. Mae hi’n gyffredin hyd heddiw mewn cymunedau traddodiadol i rannu straeon o bob math wrth ymgasglu yn gymdeithasol. Gellir meddwl am y Mabinogi, felly, fel mynegiant o gof torfol y gymdeithas a’i cynhyrchodd.

 

Mae’r llawysgrifau cynharaf sy’n cynnwys darnau o’r storïau ac sydd wedi goroesi hyd heddiw yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg, ond y casgliad mawr cynharaf – ac un o drysorau mawrion y Llyfrgell – yw Llyfr Gwyn Rhydderch, sy’n cynnwys deg o’r un stori ar ddeg. Fe’i hysgrifennwyd tua 1350 gan fynachod Ystrad Fflur yn ôl pob tebyg; camgymeriad gan ysgrifydd canoloesol a arweiniodd at adnabod y casgliad fel y Mabinogion erbyn y ddeunawfed ganrif. Rhannwyd y Llyfr Gwyn yn ddwy gyfrol (Llawysgrifau Peniarth 4 a 5 erbyn hyn) cyn 1658, gyda storïau’r Mabinogi ym Mheniarth 4, tra bod yr unfed stori ar ddeg, sef ‘Breuddwyd Rhonabwy’, ond yn ymddangos ond yn Llyfr Coch Hergest, llawysgrif ddiweddarach sydd erbyn hyn yn Rhydychen (Llawysgrif Coleg yr Iesu 111).

Gwnaeth ysgolheigion yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg dipyn o ddefnydd o’r Llyfr Gwyn, ond ymddengys nad oedd llawer o wybodaeth am y storïau yn y byd tu hwnt i astudiaethau llawysgrifol. Nid oes tystiolaeth i adroddwyr straeon enwog fel Thomas Edwards (Twm o’r Nant, 1739-1810), er enghraifft, adrodd yr un hanesyn o’r Mabinogi. Ond daeth tro ar fyd pan gyhoeddodd William Owen Pughe storïau’r ‘Mabinogion’ yn Saesneg rhwng 1795 a 1829, ac aethant yn fyd-enwog pan gyhoeddodd yr Arglwyddes Charlotte Guest y casgliad llawn cyntaf rhwng 1838 a 1877, yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg. Atgyfodwyd diddordeb yr ysgolheigion, ac erbyn yr ugeinfed ganrif yr oedd y Mabinogi wedi ennill ei le mewn ymwybyddiaeth ddiwylliannol yr oes, gan ysbrydoli gwaith creadigol ar bob ffurf a chyfrwng yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd: nofelau, cerddi, dramâu, celf weledol, adrodd straeon, operâu, cerddoriaeth bop a gwerin, ffilmiau, a llyfrau plant, ac yn cynnwys gwaith gan unigolion blaenllaw megis Saunders Lewis, Alan Garner, Anthony Conran, Gwyneth Lewis, Margaret Jones, Geraint Jarman, Robin Williamson a Michael Harvey, ymhlith llawer o eraill. Mae’r Llyfrgell yn gartref i hyn i gyd.

Fel y chwedlau Arthuraidd, mae hanesion y Mabinogi yn ganoloesol ond eto’n ddiamser. Maen nhw wedi cael eu hail-ddychmygu dros amser gan genedlaethau gwahanol wrth iddynt ymdrechu i ddatguddio eu hanes eu hunain, i wneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas, ac i edrych i mewn i ddyfodol ansicr. Maen nhw mor berthnasol heddiw ag erioed.

 

Felly beth am ddarllen storïau’r Mabinogi ar Ddiwrnod y Llyfr? Gwrandewch arnynt. Perfformiwch nhw. Rhannwch nhw. Straeon i’w clywed yw’r rhain. Ac felly y terfyna’r gangen yma o flog y Llyfrgell.

 

Dr David Moore (Archifydd)

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog