Blog

Rhaid i mi gael gwell map na hyn

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections - Postiwyd 28-08-2017

Yn ddiweddar, holodd darllenydd ynghylch mapiau hynafiaethol yn dangos penrhyn Baja California fel ynys. Yn wir, mae gennym enghraifft ragorol o fap o’r fath gan Herman Moll, o tua 1711. Yn wreiddiol, deillia’r wedd hon ar Ynys California o gamddealltwriaeth yn yr 16eg ganrif a amlygodd fel mapiau o ynys wedi’i gwahanu’n llwyr oddi wrth y prif dir gan gulfor yn hytrach na’i gwahanu’n rhannol gan gwlff.

Er gwaethaf tystiolaeth i’r gwrthwyneb o alldeithiau cynnar, lledaenwyd y gwall dybryd hwn trwy fapiau nifer o gyhoeddwyr eraill o’r 17eg a’r 18fed ganrif, ac eto roedd mapiau eraill o’r 16eg ganrif ymlaen – yr enwocaf yn eu plith o waith Gerardus Mercator ac Abraham Ortelius – yn dangos penrhyn.

Credir bod “Ynys California” wedi’i chrybwyll am y tro cyntaf yn Las sergas de Esplandián, nofel Sbaeneg rhamantaidd o 1510, a allai fod wedi dylanwadu ar enghreifftiau pellach o ddogfennu’r penrhyn fel ynys. Atgyfnerthwyd y camsyniad hwn yn dilyn taith Juan de Fuca ym 1592 wedi iddo siarteru Ynys Vancouver.

Tua 1620, creodd un o Frodyr Carmel, Antonio de la Ascensión, fap o ynys, o bosib wedi iddo gamddehongli disgrifiadau gan de Fuca ac eraill. Daliwyd y cwch yr oedd wedi anfon ei fap arno i Sbaen gan Iseldirwyr, a buan y cyrhaeddodd ei fap Amsterdam. Gosododd map o’r ynys ym 1622 gan y cyhoeddwr o’r Iseldiroedd, Michiel Colijn, y patrwm ar gyfer sawl map dilynol, a boblogeiddiwyd yn Lloegr i gychwyn, gan ddechrau gyda Henry Briggs ym 1625. I ddechrau, gwrthododd yr Iseldirwyr y cysyniad, yn nhraddodiad Mercator-Ortelius, ond wedi i Visscher a Jansson ei fabwysiadu dylanwadwyd ar lawer o gyhoeddwyr eraill. O ganlyniad, mewn cyfnod na welwyd ynddo unrhyw ddatblygiadau ym maes mapiau yng Ngorllewin America, darluniwyd ‘California’ bron yn ddieithriad fel ynys hyd nes ymhell i mewn i’r 18fed ganrif. Roedd Guillaume Delisle ymhlith y cyntaf i gywiro’r camgymeriad hwn yn gynnar yn y 18fed ganrif. Roedd hefyd yn eithaf cyffyrddus gyda bylchau ar ei fapiau lle nad oedd unrhyw wybodaeth ffeithiol yn bodoli.

O ganlyniad i alldeithiau dros y tir dan arweiniad y cenhadwr Jeswitaidd a’r cartograffydd Eusebio Francisco Kino, lluniwyd ei fap o’r penrhyn ym 1705. Gwylltiodd y map hwn rai o’r cyhoeddwyr, gan gynnwys Moll a ysgrifennodd yn gandryll ym 1711 nad oedd amheuaeth mai ynys oedd California a honnodd ei fod wedi cwrdd â morwyr a oedd wedi hwylio o’i chwmpas!  Ymhlith cenhadon/archwilwyr Jeswitaidd eraill a geisiodd gau pen y mwdwl ar asgwrn y gynnen, roedd Ferdinand Konš?ak a hwyliodd i ben pellaf y Gwlff ym 1746. Yn ei Archddyfarniad Brenhinol ym 1747, datganodd Ferdinand VII “Nid ynys ‘mo California”.

Ond dyma’r peth. Gallai ‘Baja’ ddod yn ynys – serch y gallai gymryd rhyw 15 miliwn o flynyddoedd, petai Ffawt San Andreas yn tra-arglwyddiaethu fel llinell hollt dectonig yr ardal. Mae’r penrhyn ynghyd â darn arfordirol o’r Dalaith Euraidd yn eistedd ar Blât y Pasiffig sy’n drifftio i ffwrdd oddi wrth Blât Gogledd America. Gallai’r tiroedd ddatgysylltu, ac, wrth wneud hynny, creu “Culfor San Andreas”, sy’n golygu ein bod ni’n dychwelyd at “Ynys California”.  Yn wir, mae’n fy atgoffa i o’r hen eiriau digri’ “California here I come, right back where I started from. I really must get a better map”.

 

Gwilym Tawy

Curadur mapiau

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog