Blog

‘Repertory’ Rhyfeddol Daniel Huws

Casgliadau - Postiwyd 04-07-2022

 

Rhwng 20 a 22 Mehefin 2022, lansiwyd cyfrol ryfeddol yn swyddogol – ‘A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, c.800-c.1800’ gan Daniel Huws. Fel yr astudiaeth fwyaf cynhwysfawr ac arwyddocaol o lawysgrifau Cymreig ers dros ganrif, dathlwyd y gyfrol gyda chynhadledd dros dri diwrnod a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ‘Welsh Manuscripts c.800-c.1800’.

Daeth Daniel Huws i weithio yn LlGC yn 1961 fel archifydd, a datblygodd ddiddordeb mawr mewn llawysgrifau ac ysgrifenyddion canoloesol. Ymddeolodd yn 1992 a dechreuodd weithio ar y Repertory yn 1996, gyda’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Nawr, wrth i Daniel ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed, mae’r magnum opus wedi’i gyhoeddi o’r diwedd. Ar hyd y daith gwelodd y gwaith fewnbwn sawl ysgolheigion ac arbenigwyr llawysgrifau Cymreig, gan gynnwys Curadur Llawysgrifau LlGC, Dr Maredudd ap Huw, a’r Athro Ann Parry Owen o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd; ond nid lleiaf Gruffudd Antur, a gyfrannodd yn sylweddol at y gyfrol.

 

 

Chwith-Dde: Maredudd ap Huw; Ann Parry Owen; Gruffudd Antur

 

Yn ystod y seremoni agoriadol, lle cyflwynwyd copi o’r Repertory i’r Prif Weinidog Mark Drakeford, soniodd Daniel fod mewnbwn Gruffudd wedi profi’n amhrisiadwy i’r pwynt lle daeth yn brentis a chydawdur Daniel, gan nodi hyd yn oed mai llysenw Gruffudd bellach yw ‘Daniel bach’! Cafwyd areithiau hefyd yn cydnabod camp ryfeddol Daniel a Gruffudd gan Brif Weithredwr a Llyfrgellydd LlGC, Pedr ap Llwyd; Elin Haf Gruffudd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd; a Llywydd y Llyfrgell, Ashok Ahir.

 

 

Cyflwyno copi o’r Repertory i’r Prif Weinidog Mark Drakeford

 

Bydd y Repertory yn amhrisiadwy i’r astudiaeth o lawysgrifau Cymraeg a llawysgrifau sy’n gysylltiedig â Chymru, a’u tarddiad, eu hanes, eu lluniad, a’u cynnwys. Mae Daniel wedi amcangyfrif bod y gyfrol yn cynnwys manylion 3,000-4,000 o lawysgrifau, nifer ohonynt wrth gwrs wedi cael sylw a thrafodaeth drwy gydol y tri diwrnod y gynhadledd. Anogodd papurau amrywiaeth eang o drafodaeth, gyda phynciau’n amrywio o balaeograffeg a chodicoleg, i ieithyddiaeth a digideiddio; ac yn cynnwys cyfraith Gymraeg yr Oesoedd Canol, croniclau, barddoniaeth, amrywiaethau, achau, gramadegau, swynion, llyfrau salmau, cronolegau, llythyrau, a rhestrau o enwau lleoedd. Rhoddodd ein tri prif siaradwr darlithoedd ysgogol a diddorol, gyda Ceridwen Lloyd-Morgan yn trafod delweddau crefyddol canoloesol; Bernard Meehan yn siarad am y Llyfrau Salmau Gwyddelig canoloesol; a Paul Russell yn sôn am weithiau Gerallt Gymro.

 

 

Ceridwen Lloyd-Morgan (yn y llun gyda Maredudd ap Huw) yn siarad am ‘Delweddau Crefyddol mewn Llawysgrifau Canoloesol Cymraeg’

 

 

 

Bernard Meehan yn siarad am Llyfrau Salmau Gwyddelig Canoloesol

 

 

 

Paul Russell yn rhoi’r ddarlith olaf ar lawysgrifau Gerallt Gymro

 

 

Daeth y gynhadledd i ben gyda chyflwyniad o Fedal y Cymmrodorion i Daniel Huws, anrhydedd uchel mor haeddiannol.

 

 

Seremoni medal y Cymmrodorion

 

Mae’r Repertory wedi agor lan y maes o astudiaethau llawysgrifau Cymreig fel erioed o’r blaen, gan ddarparu ffynhonnell ddigynsail i ymchwilwyr. Yng ngeiriau ein brif siaradwr olaf Paul Russell: nid y diwedd yw’r Repertory, ond y dechrau!

 

 

Daniel Huws gyda chopi o’i Repertory

 

Lucie Hobson

Archifydd Cynorthwyol

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog