Blog

Pwy fydd yma ‘mhen can mlynedd?

Collections - Postiwyd 13-02-2023

Mae llawer o bethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol mewn bywyd modern – gwylio rhaglenni teledu a gwrando ar raglenni radio a phodlediadau yw rhai ohonyn nhw. Mae’r rhyngrwyd wedi’i gwneud hi’n haws defnyddio llawer o lwyfannau darlledu, gyda’r cyfryngau cymdeithasol yn annog sylwadau a newyddion. Ychydig iawn o bobl yn 1923 fyddai wedi rhagweld y byddai gorsaf radio leol a oedd yn darlledu o gwmpas Caerdydd yn tyfu i fod yn sefydliad cenedlaethol wrth galon bywyd Cymru. Yn 2023, mae’r BBC yng Nghymru yn dathlu ei chanmlwyddiant, a pha well ffordd i nodi’r garreg filltir hanesyddol bwysig hon nag i sefydlu Archif Ddarlledu Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Rhyfeddod y Radio – y BBC yn dechrau darlledu yng Nghymru ar 13 Chwefror 1923

Efallai nad yw pawb yn gwybod bod y BBC wedi dechrau fel cwmni masnachol gyda chefnogaeth Guglielmo Marconi, arloeswr enwog darlledu diwifr. Ni sefydlwyd y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus tan 1927, gyda Siarter Frenhinol i ‘hysbysu, addysgu a diddanu’. Yn y 1920au roedd y dechnoleg yn gyntefig a dim ond ychydig o bobl oedd yn gallu fforddio set ddiwifr oedd yn costio £7 (cymaint â £334 heddiw) a ffi trwydded radio 10 swllt (£23 heddiw). Fodd bynnag, daeth radio’n boblogaidd iawn gyda 2.5m o drwyddedau wedi’u rhoi erbyn 1928 wrth i’r ddarpariaeth ledaenu ar draws y DU. Bu’n rhaid i’r arloeswyr radio cynnar arbrofi er mwyn darganfod beth oedd yn gweithio ac roedd y dewis o raglenni’n gyfyngedig iawn. Fodd bynnag, am 5yh ar 13 Chwefror 1923, pedwar mis yn unig ar ôl lansiad gorsaf Llundain, 2LO, dechreuodd y BBC ddarlledu o Stiwdio 5WA yn 19 Stryd y Castell, Caerdydd.

Am 9.30pm, canodd Mostyn Thomas y gân werin ‘Dafydd y Garreg Wen’. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, roedd yn cofio “Prin ges i unrhyw amser i ymarfer, oedd yn fy ngwneud yn nerfus iawn, oherwydd yn y dyddiau hynny doedd meicroffonau ddim yn bethau hawdd i’w defnyddio… ond roedd yn rhaid i ni fod yn barod, roedd yr amser cychwyn wedi bod yn cael ei hysbysebu yn yr holl bapurau newydd”. Dim ond o fewn radiws o 20 milltir i’r stiwdio yng Nghaerdydd roedd y rhaglenni ar gael, ac yna Abertawe ym mis Rhagfyr 1924.

Yn y 1930au cynyddodd y BBC nifer y trosglwyddyddion, ac o ganlyniad ym 1937 lansiodd wasanaeth radio ar gyfer Cymru gyfan. Derbyniodd gwasanaeth blaenorol De Cymru a Gorllewin Lloegr lawer o gwynion gan wrandawyr yng Nghymru a Lloegr ac ni allai pobl yn y Canolbarth a’r Gogledd wrando o gwbl. Awgrymodd yr hanesydd John Davies fod gwasanaeth radio Cymru gyfan cyntaf y BBC yn foment bwysig wrth i Gymru gael ei chydnabod fel cenedl.

Arweiniodd agor stiwdio Bangor, dan reolaeth y chwedlonol Sam Jones yn 1935, at raglenni Cymraeg newydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan ddefnyddiwyd y radio i gynnal morâl. Daeth talentau cartref fel Triawd y Coleg gyda Meredydd Evans (Pennaeth Adloniant Ysgafn y BBC yng Nghymru yn ddiweddarach) yn sêr cenedlaethol y Noson Lawen. Symudodd Uned Adloniant Ysgafn y BBC o Lundain i Fangor rhwng 1941 a 1943 i osgoi‘r Blitz, gan ddarlledu sioeau poblogaidd gan gynnwys ITMA gyda Tommy Handley, seren radio ar y pryd. Yn y 1950au, darlledwyd rhaglenni plant rhwng 5 a 6 o’r gloch gydag ‘SOS Galw Gari Tryfan’ gan y Parch Idwal Jones yn hynod boblogaidd fel dewis cyffrous Cymraeg tebyg i ‘Dick Barton – special agent’.

Yn 1945 am y tro cyntaf, roedd pobl Cymru’n gallu prynu fersiwn Gymreig o’r Radio Times a oedd yn rhestru rhaglenni’r BBC.

Cystadleuaeth i’r radio

Er i setiau teledu mecanyddol ymddangos gyntaf yn 1929 gydag arbrofion gan John Logie Baird, ni lansiodd y BBC wasanaeth teledu tan 1936, gyda seibiannau rhwng rhaglenni i orffwys llygaid gwylwyr! Caeodd y gwasanaeth hwn yn ystod blynyddoedd y rhyfel ond yn 1946, roedd y teledu’n ôl, er nad ym mhobman. Cymerodd amser i adeiladu’r trosglwyddyddion newydd a denu cynulleidfa a oedd yn fwy cyfarwydd â gwrando ar y radio. Roedd angen i’r teledu ddenu cynulleidfaoedd newydd ac roedd darllediadau allanol byw fel coroni’r Frenhines Elizabeth II yn 1953 yn annog pobl i brynu setiau teledu. Ond ni allai pobl De Cymru wylio’r teledu hyd nes agorwyd trosglwyddydd Gwenfô ar 15 Awst 1952, gan dalu ffi trwydded o £2 (tua £46 heddiw).

Roedd teledu yng Nghymru yn y 1950au yn cael trafferth o ran diffyg gwasanaeth ac roedd yn dibynnu’n bennaf ar raglenni a gynhyrchwyd yn Llundain gan fod y BBC bellach yn cystadlu â theledu masnachol. Dechreuodd sianel fasnachol gyntaf Cymru, Television Wales and the West (TWW) ddarlledu yn 1958 yn Ne-Ddwyrain Cymru gyda sêr adnabyddus Cymru, Donald Houston, Stanley Baker a Harry Secombe yn ymddangos ar y noson agoriadol. Bellach roedd angen i’r BBC yng Nghymru gynhyrchu deunydd teledu oedd yn ddeniadol i gynulleidfa Gymreig.

‘Noswaith Dda, dyma’r newyddion yng Nghymru heddiw’

Ym 1964 y dechreuodd teledu ddod yn boblogaidd pan sefydlwyd BBC Cymru Wales fel gwasanaeth ar wahân – er mai dim ond 12 awr o raglenni ychwanegol a gynhyrchwyd gyda 7 awr yn Gymraeg a 5 awr yn Saesneg.

Roedd y 1960au yn gyfnod o newid cymdeithasol a gwleidyddol yng Nghymru. Roedd gan y BBC gyfrifoldeb i ddarlledu’r newyddion diweddaraf, ond nid oedd rhaglenni newyddion ar gyfer y teledu wedi cael eu darparu yng Nghymru o’r blaen. Dechreuodd ‘Heddiw’ yn 1961 fel rhaglen gylchgrawn a newyddion yn adrodd newyddion cenedlaethol a rhyngwladol yn Gymraeg am y tro cyntaf ar y teledu. Cyflwynwyd y newyddion gan sawl darlledwr enwog gan gynnwys Owen Edwards, Robin Jones a Hywel Gwynfryn. Ym 1962 dechreuodd ‘Wales Today’ gan rannu’r slot gyda Points West ar gyfer De-orllewin Lloegr gan mai dim ond un trosglwyddydd oedd. Dyna pam roedd gwasanaeth newydd BBC Cymru Wales mor bwysig. Pan siaradodd y cyflwynydd Brian Hoey â’r gwylwyr ym mis Hydref 1964, roedd yn siarad â gwylwyr yng Nghymru.

Roedd dod â straeon newyddion i’r sgrin yn anodd iawn yn y 1960au – roedd popeth yn fyw, doedd dim awtociw na chyfrifiaduron, ac roedd y ffilmiau camera yn negatif hyd nes y bydden nhw’n cael eu darlledu’n fyw ar y sgrin. Does ryfedd fod y Radio Times wedi rhybuddio gwylwyr ‘y gallai fod yn flêr o bryd i’w gilydd’! Ac eto dros y blynyddoedd, daeth cyflwynwyr fel Brian Hoey a ddarparodd adroddiadau dirdynnol o drychineb Aberfan yn 1966, David Parry-Jones, Sara Edwards a Jamie Owen yn enwau cyfarwydd. Roedd pobl ledled Cymru bellach yn tiwnio i mewn bob nos am y newyddion ac yn aml yn aros i gael eu diddanu gan raglenni cartref. Roedd teledu yma i aros.

Dr Ywain Tomos
Swyddog Dehongli Archif Ddarlledu Cymru

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog