Blog

Y Plygain yng Nghymru

Collections / Stori Cymru - Postiwyd 20-12-2019

Unwaith mae’r hydref drosodd a phawb yn dechrau cwyno ei bod hi’n oer, dyna’r amser i fynd am drip i sir Drefaldwyn. Pam? Wel, i ganu’r hen garolau plygain – nid mewn cyngerdd nac eisteddfod, ond fel rhan o wasanaeth naturiol y gymdeithas mewn eglwys a chapel, drwy’r Adfent ac ymlaen tan Ŵyl Fair y Canhwyllau ar 2 Chwefror.

Mae’n debyg mai o’r Lladin pullicantio ‘caniad y ceiliog’ y daw’r gair plygain. Cynhelid y gwasanaeth yn wreiddiol am 3 a.m., cyn ei symud i 4, yna 5, yna 6 o’r gloch ar fore’r Nadolig. Un o wasanaethau’r Eglwys Gatholig oedd y plygain tan y Diwygiad Protestannaidd pan fabwysiadwyd ef gan yr Anglicaniaid, ac yna’n ddiweddarach gan yr Anghydffurfwyr. Erbyn heddiw, gyda’r nos y cynhelir y gwasanaeth, gan mwyaf.

Mae’r gwasanaeth yn agor gyda’r Hwyrol Weddi (mewn eglwys) neu wasanaeth byr (mewn capel). Yna daw’r datganiad ‘Mae’r plygain yn awr yn agored’, sef yn agored i unrhyw un gyflwyno carol blygain. Plant sy’n agor, wedyn pobol ifanc, wedyn parti’r eglwys neu’r ardal, ac yna’r bobl sydd wedi teithio yno o bell; os oes mwy nag un parti lleol bydd un o’r rheini yn cloi. Does byth raglen. Mae’r carolwyr, yn unigolion a phartïon, yn gwneud eu ffordd drwy’r gynulleidfa niferus i lawr i’r gangell neu’r sêt fawr, taro nodyn â seinfforch, a chanu’n ddi-lol. Y carolwyr sy’n penderfynu trefn y noson er mwyn osgoi cael dau unawdydd yn dilyn ei gilydd, neu ddwy ddeuawd, i gael amrywiaeth yn nhrefn yr eitemau.

Mae pawb yn canu’n anffurfiol, heb arweinydd. Rhaid cofio ym mha drefn y canodd pawb er mwyn dilyn yr un drefn yn ail hanner y noson (sef yn yr ail gylch), a chofio pa garolau a ganwyd, i osgoi ailganu. Ar y diwedd mae’r dynion sydd eisoes wedi cyflwyno carol yn cael eu galw ymlaen i gydganu ‘Carol y Swper’. Ar eu gorau, maen nhw’n wefreiddiol.

Mae plygain gyntaf y tymor yn hudolus, wrth i’r cantorion ailgyfarfod ar ôl prysurdeb y flwyddyn. Mae cyfeillgarwch dwfn ymhlith y carolwyr ac mae’r swper ar ôl y gwasanaeth yn elfen bwysig ar y noson.

Rhaid diolch i drigolion sir Drefaldwyn a’r rhannau hynny o Wynedd sy’n ffinio â sir Drefaldwyn – Mallwyd, a Llanymawddwy yn enwedig – am gynnal y traddodiad yn ddi-feth dros y canrifoedd. Dyma gadarnle’r plygain hyd heddiw. Er hynny, cenid yr hen garolau ledled Cymru ar un cyfnod, ac mae’r traddodiad yn agor unwaith eto i gynnwys rhannau helaeth o’r wlad.

Yn draddodiadol roedd y partïon yn aelodau o’r un teulu, er enghraifft Parti Bronheulog, ac yn ymarfer gartref ar yr aelwyd. Mae gan y carolwyr lyfr o garolau teuluol, a dim ond y teulu sy’n cael eu canu.

Parti Bronheulog yn canu’r garol Plygain ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’

Gan fod cymaint heddiw yn symud o’u cynefin i fyw, mae nifer o’r partïon cyfoes yn bartïon newydd a’r rheini’n seiliedig ar gyfeillgarwch yn hytrach na llinach a gwaed.

Mae’n bosib mai cwndidwyr Morgannwg yn yr unfed ganrif ar bymtheg a ddechreuodd ganu carolau yn y gwasanaethau plygain. Lledodd yr arfer drwy Gymru gan ddod â phregeth ar gân i’r plwyfolion a honno’n ymdrin ag athrawiaeth yr Iawn ac â threfn yr Iachawdwriaeth yng Nghrist, yn ogystal â sôn am ei enedigaeth, ei farwolaeth, a’i atgyfodiad. Mae’r hen garolau yn aml yn ymestyn dros ugain a rhagor o benillion, ac yn drwm o ddiwinyddiaeth achubol. Ond erbyn yr ugeinfed ganrif a fflam y Diwygiad Mawr wedi tawelu, nid yw cynnwys y carolau yn gyson gryf yn yr un ffordd.

Cenid llawer o’r carolau ar alawon poblogaidd y dydd, a’r mesurau Cymreig hynny’n cynnwys ‘Ffarwel Ned Puw’, ‘Clychau Rhiwabon’ a ‘Difyrrwch Gwŷr Caernarfon’. Nid dim ond mesurau Cymreig oedd yn boblogaidd, ond mesurau o Loegr hefyd, a’r rheini’n cynnwys ‘Charity Mistress’, ‘Let Mary Live Long’ ac ambell alaw faled. Un arall y mae llawer iawn o ganu arni yn y plygeiniau yw’r alaw ‘Annie Lisle’, alaw faled o America a ysgrifennwyd yn 1857 gan H. S. Thompson, Boston, Massachusetts.

Geiriau cryf, alawon hyfryd, cwmni ffrindiau, a swper blasus. Beth mwy sydd ei angen ar neb ar noson oer o aeaf?

Dr Rhiannon Ifans

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog