Pen-blwydd Hapus Dylan!
Arddangosfeydd - Postiwyd 27-10-2014
Heddiw rydyn ni’n dathlu pen-blwydd Dylan Thomas yn gan mlwydd oed. Tybed pa fath o anrhegion y byddai wedi’u derbyn heddiw… iPad? Tocyn anrheg Amazon? Neu efallai gwydr peint personoledig?
Ar ei ben-blwydd yn dair ar hugain, prynodd sigaréts, cwrw a chrys gwyrdd llachar i’w hun gan ddefnyddio’r arian pen-blwydd a gafodd oddi wrth ei ffrind Keidrych Rhys. Mae’n debygol iawn iddo gael peint pen-blwydd wrth ddathlu troi’n dri deg a phump, ond anrheg digon gwahanol a roddodd i’w hun ar yr achlysur hwn, sef y gerdd ‘Poem on His Birthday’.
Beth am ddathlu pen-blwydd Dylan heddiw felly gydag ymweliad i’r arddangosfa yma yn y Llyfrgell, lle gallwch wrando ar y dyn ei hun yn adrodd y gerdd yn Nhafarn y Beirdd. Neu beth am fynd at y wefan i ddarllen pytiau o’r gerdd yn llawysgrifen Dylan ei hun?
Sut bynnag fyddwch chi’n dathlu, ymunwch gyda ni drwy ddefnyddio #DylanThomas
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English