Papurau Newydd Cymru Ar-lein – 27 cyhoeddiad newydd
Dim Categori - Postiwyd 06-02-2014
Mae yna gyffro mawr heddiw wrth i ni ryddhau 27 cyhoeddiad newydd (200,000 tudalen) o gasgliad cyfoethog y Llyfrgell ar adnodd newydd Papurau Newydd Cymru Ar-lein.
Teithiwch yn ôl i’r gorffennol o gynhesrwydd eich cartref neu swyddfa i ddarganfod miliynau o erthyglau a gyhoeddwyd cyn 1919, a hynny yn rhad ac am ddim.
Erbyn hyn mae’r adnodd yn caniatáu i chi chwilio a darllen dros 630,000 o dudalennau o bron i 100 o gyhoeddiadau gwahanol o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol, a bydd yn tyfu i dros 1 miliwn o dudalennau wrth i fwy o gyhoeddiadau gael eu hychwanegu yn ystod 2014.
Ymhlith y teitlau diweddaraf ceir Y Negesydd, Caernarvon and Denbigh Herald, Glamorgan Gazette, Carmarthen Journal, Welshman a’r Rhondda Leader, heb anghofio Y Drych, papur newydd wythnosol y Cymry yn yr Unol Daliaethau.
Mae’r adnodd hefyd bellach yn cynnwys rhai cyhoeddiadau cafodd eu digido ar gyfer prosiect Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Profiad Cymreig.
Drwy bori’r adnodd mae modd darganfod gwybodaeth unigryw ar amryw o bynciau gan gynnwys hanes teulu, hanes lleol a llawer mwy nad oedd modd eu darganfod ar wahân i’r ymchwilydd bori trwy flynyddoedd o gyfrolau trwm â llaw.
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English