Search Results

Cynhadledd BISA 2012 – Norwich

Casgliadau - Postiwyd 14-06-2012

Dros y blynyddoedd dwi wedi bod yn cyfarthrebu gyda rhai o’r archifau sain, llyfrgelloedd Genedlaethol ym Mhrydain ag Iwerddon, fel rhan o’m cwrs coleg (2007 – 2008) ac yn gysylltiedig a phroblemau a materion sydd yn codi yn sgîl casglu cerddoriaeth.

Gofynnodd Dafydd Pritchard, rheolwr AGSSC, a hoffwn i fynychu gynhadledd/diwrnod hyfforddiant BISA 2012 yn Norwich. Fe wnes i dderbyn y cynnig i fynd gyda Dafydd a chyd-weithiwr arall, Rhodri Shore, wnaethom drefniadau i fynychu y gynhadledd yn Ganolfan Archifol Norwich o Fai 18 i 19, 2012.

Treuliwyd mwyafrif o dydd Iau  y 17eg o Fai yn teithio ar drên o Aberystwyth i Norwich, gan gyrraedd Norwich yn hwyr yn y prynhawn. Ar ol cael gafael yn y gwesty, siecio i fewn, cael gorffwys; edrychais allan or ffenest i weld llong milwrol yn fy nghwynebu …

Fe wnaethom ni ein ffordd i gwrdd a rhai o aelodau bwyllgor BISA mewn tafarn cyfagos. Un effaith ffafriol mewn cynhadleddau fel hyn yw mae’n siawns i gwrdd a pobol wyneb yn wyneb yr ydech wedi cyfarthrebu gyda eisoes. Yn y dafarn cefais fy nghyflwyno i Jonathan Draper, Will Prentice a Simon Rooks o bwyllgor BISA. Ar ol i bobol eraill ymuno a ni, wnaethom fynd i lle bwyta gyfagos i gwrdd a aelodau eraill o’r pwyllgor. Ar ôl y pryd, roedd y pwyllgor eisiau cyfarfod, wnaethom Rhodri a mi fynd i gyngerdd cyfagos am noson acwstic.

Ar ol frecwast llawn ar fore Gwener, cerddom ni draw i’r Archifdi Norwich gan ddilyn yr afon, cawson wybod fod yr Archifdy tu ol i adeilad a oedd yn edrych fel rhwybeth o’r 1960au Dwyrain Almaen ac fod yna awyren RAF yn gwarchod tu allan ….

Rhaglen y diwrnod oedd cyflwyniad, chwech gyflwyniad ac cyfarfod flynyddol BISA

Dr John Alban, pennaeth Archifdy Norwich,  dechreuodd y gynhadledd gan gyflwyno hanes a waith yr Archifdy.

Furfwyd yr Archifdy ar ol tân a losgodd y safle yn 1994, gyda’r Archif Ffilm Dwyrain Anglia a Archif Sain Norfolk yn cael lleolu yn yr un adeilad.

Jonathan Draper, archifydd h?n yn yr Archifdy, wnaeth y cyflwyniad cyntaf. Gan ddefnyddio clipiau sain a powerpoint wnaeth Jonathan ddangos cyfoeth sain yr archifdy aelodau o’r awyrly America yn yr Ail Rhyfel Byd  yn yr ardal, diwydiant cynhrychu esgidau lleol i ymchwil ddogfennol i fewn i ddylanwad Islam  yn Norfolk. Disgrifiodd am polisi digideiddio yr archif ac y dair lefel o catalogio sef:- casgliad , esgerbwd ac y ddefnydd o wirfoddolwyr.

Cafodd yr ail gyflwyniad ei wneud gan Richard Ranft o’r Llyfrgell Brydeinig, yn son am brosiect digideiddio clipiau sain a’i gyhoeddi ar lein. Mae 55,000 o draciau wedi cael ei wneud yn bresennol ac soniodd am yr problemau ac hefyd edrych yn ôl ar y ddwy rhan o’r brosiect – 1) 2004 – 2007 gynhyrchwyd gan Memnon ac y 2) 2007 – 2012 gynhyrchwyd yn fewnol. Esiamplau sain dangoswyd yn cynnwys y dialects o fewn Lloegr ac linguaphone J.R.R. Tolkien. Roedd hawliau moesol, hawlfraint, mynediad daeryddol ac gwella’r sain i gyd yn  achosi problemau meddau.

Daeth y bore i dderfyn gyda cyfarfod flynyddol BISA. Dau bwynt yn codi y cronfa ddata BISA ac arwyddbost i wahanol casgliadau o fewn BISA.

Cinio ysgafn mewnol oedd y cinio, cael cyfle i sgwrsio gyda’r wahanol aelodau.gan gynnwysYnys Manaw, Tobar an Dualchais a RTÉ .

Cyflwyniad personol am ei chasgliad cerddoariaeth oedd gan Delaina Sepko, yn trafod sut i ddosbarthu ei chasgliad yn ôl genres a y term “cerddoriaeth poblogaidd”. Gan ddefnyddioesiamplau o artistiaid rap Americanaidd a’u cymharu a’r rheolau Rules for Archival Description gan  Lyfrgell Genedlaethol Canada. Esboniodd gan ddefnyddio labeli genres mae fframwaith yn cael ei grei i lleoli pethau yn well.

Mr Richard Deswarte, curadur y UK Data Archive cyflwynodd y pendwerydd sesiwn. Dwi’n cyfadde yr oeddwn ddim yn gwybod am fodolaeth yr Archif yma. Y mae wedi bod mewn bodolaeth ers 1967 ac yn cael ei arianu gan fudiadau Llywodraethol. Prif bwrpas yr Archif yma iw chadw ac gwasanaethu data ystadegol a rhifol. Y prif defnyddwyr yw ymchwilwyr yn defnyddio y ffynhonellau qualidata a y wasnaeth data hanesyddol sydd yn gartref i 650 o chasgliadau ddata. Ymddiheiriodd Mr Deswarte am y lliafrif o eitemau sain o 50. Mae’r archif wedi ei leoli yn Prifysgol Essex ond yn cael ei ddefnyddio gan ymchwilwyr yn Genedlaethol ac rhyngwladol gan ddefnyddio sustem cyfrif cyfrinair.

Un cyflwyniad yr oeddwn yn edrych ymlaen i glywed oedd yn am waith y British Antartic Survey. Roddodd Joanna Rae arolwg o’r ddwy brif casgliad sain a) hanes llafar ac b) casgliad data clywedol “whistler”. Cafodd ddau glip sain ei chwarae un o aer yn ffrwydro mewn iâ ac llongwr ar long RSS Bransfield yn amser y frwydr am y Falklands. Esnoniodd fod waith digideiddio cyfyng yn cael ei wneud. Roedd sialens a ffactoriau sydd yn effeithio’r wasanaeth yn cael ei rhestri.

Y cyflwyniad olaf  y dydd, ar ail gan Richard Ranft, yn son am y wasnaeth chwilio dros Ewrop Europeana. Cafodd y wasanaeth ei lawnsio yn 2008 yn dilyn polisi 2005 European Digital Resource Initiative. Yn bresennol mae’r wasanaeth yn rhoi mynediad I 23 miliwn o eitemau digiol o 33 wlad mewn 29 o ieithoedd. Yn anffodus dim ond 2% sydd clywedol ac dim ond 1% weledol. Rhestordd Richard cryfderon a gwendidau y peiriant chwilio:- profiad y defnyddiwr, data wedi ei integreiddio (cryfderon) tra fod angysondeb metadata, wahanol safonau digieidio (gwendidau). Ym Mhrydain mae pum mudiad yn rheoli mewnlifo i’r sustem.

Dyma oedd diwedd y diwrnod furfiol, trefnwyd I ni gyd gwrdd mewn dafarn lleol arall am trafodaeth anfurfiol, rhwydweithio a bwyd.

Roedd natur yr ail fore yn llau ffurfiol . Cyflwynodd Janis McAnallen, o’r BBC, strwythr wybodaeth metadata o fewn y BBC. Cynhyrchwyd hyn gan greu rhestrau taxonomy o’r holl wybodaeth sydd yn llifo trwy’r sustemau rheolu y mudiad. Gan ddefnyddio y archif ddigidol Fabric ac gwneud arolwg effeithrolrwydd draws adranol am ddata cyffredin creuwyd rhestri taxonomy. Yr esiampl cyflwynwyd oedd yr icon Doctor Who  o fewn Brand – cyfres – rhaglen – fersiwn. Y perthynas agos a pell yn cael ei nodi fel pethau bositif or broses a tagiau sydd yn cael ei rheoli sydd yn cael ei ffafrio. Ar ol hyn, bach o waith meddwl ar ein rhan ni – cafodd y grwp ei rhannu yn ddau a gofynwyd i ni leoli rhestri o gardiau ag enwau arnynt i fewn i t?, dynol rhyw, anifeiliad, rhyfel.

I orffen y gynhadledd, cyflwyniad cyflwym am y Archif Ffilm a thaith o amgylch yr Archifdy. Cafwyd olwg yn storfeydd, y ystafelloedd cadwraethol ac y manau i’r defnyddwyr/darllenwyr.

Edrych yn ôl ar y gynhadledd yn Norfolk. Roedd ef ddefnyddiol  ar ddwy lefel:-

1)      Y wahanol cyflwyniadau – o’r ffurfiol i’r anfurfiol. Llawer o wybodaeth defnyddiol a wybodus.

2)      I drafod pwnciau llosg gyda aelodau eraill o’r gynhadledd yn ffurfiol ac ymestyn a rhai ohonynt yn anfurfiol dros fwyd mewn lleoliadau o amgylch Norwich.

Mae’r gynhadledd wedi rhoi hyder ein bod ni (Archif Sgrin a Sain/Llyfrgell Genedlaethol) ddim ar ben ein hun yn yr ystyr fod yna fudiadau bach a chenedlaethol eraill yn gwynebu yr un problemau a phynciau llosg a ni. Byddaf yn  defnyddio y cysylltiadau, wybodaeth a’r safloedd we nodwyd I gyfoethogi fy nghwaith yn y dyfodol.

Bron yn amser Alec Templeton!

Dim Categori - Postiwyd 28-02-2012

Alec TempletonNos Wener, byddwn yn croesawu Dr Rhian Davies, Cyfarwyddwr Artistig Gwyl Gregynog a’r pianydd gwych, Simon Crawford-Phillips i’r Drwm. Byddant yn cyflwyno noson i ddathlu cerddoriaeth a bywyd un o’r cerddorion mwyaf llwyddiannus y byd a gynhyrchwyd erioed gan Gymru, ond eto un o’r rhai lleiaf adnabyddus, sef y cyfansoddwr-pianydd dall, Alec Templeton (1909-63).

Er i Alec Templeton gael ei enw ger Caerdydd, symudodd i America yn ystod y 1930au, a daeth yn adnabyddus fel perfformiwr, a mewn dim, roedd yn cyflwyno rhaglen ei hun, It’s Alec Templeton Time! a daeth yn enw cyfarwydd yn America. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, ehangodd ei yrfa i gyfansoddi ar gyfer Broadway a’r diwydiant ffilmac fe’i anrhydeddwyd â seren ar y Walk of Fame yn Hollywood.

Bydd y stori yn cael ei adrodd gan Rhian Davies, a bydd yn cynnwys enghreifftiau o gyfansoddiadau clasurol, jazz a blues Alec Templeton a’r rhein wedi’u chwarae’n fyw gan Simon Crawford-Phillips, yn ogystal â recordiadau archif o berfformiadau Alec Templeton ei hun.

Rydym bellach wedi derbyn rhai o recordiadau Templeton a ffilmiau ohono, ac fe gaiff rhai ohonynt eu hymgorffori yn y perfformiad hwn.

Mae tocynnau ar gael am £7 o Siop y Llyfrgell neu trwy alw 01970 632 548.

Eisteddfota

Digido - Postiwyd 17-02-2012

Un o ddigwyddiadau mawr y calendr ysgol pan oeddwn i’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan oedd yr Eisteddfod. Dydw i ddim yn hoff o gystadlu o gwbl ond rywsut, bob tro y deuai’r amser i baratoi ar gyfer yr Eisteddfod, roedd y cythraul cystadlu yn cydio ynof bob tro!

Ar hyn o bryd rydw i a rhai o’m cydweithwyr yn paratoi detholiad o raglenni Eisteddfod i’w cyflwyno ar y we.  Mae’r deunydd yn anarferol oherwydd ‘dyw’r  copïau gwreiddiol ddim yma yn y Llyfrgell Genedlaethol – maen nhw’n rhan o gasgliad yr Amgueddfa Gymreig yn Oak Hill, yn ne ddwyrain Ohio.  Cawson nhw eu digido allan yn Ohio fel rhan o broject Cymru-Ohio ac maen nhw’n brawf o awydd y Cymry i ddathlu eu diwylliant mewn gwlad arall.

Eisteddfod Gomer, 1895 (WOP02070)

Mae’n debyg mai yn Youngstown y cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yn Ohio a hynny yn 1860 ac o fewn deng mlynedd roedd Eisteddfodau yn Jackson, Oak Hill a Gomer. Yn fuan daeth yr Eisteddfod yn rhan bwysig o fywyd cymdeithasol a diwylliannol Cymry Ohio ac fe ddechreuwyd cynnal Eisteddfodau mawr

a mân ar draws y dalaith fel y rhai yn Lima, Delphos, Van Wert, Warren, Cincinnati a Cleveland. Roedd pobl yn arfer dod at ei gilydd o bob rhan o’r dalaith. Mae sôn, er enghraifft,  bod yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn Gomer ym 1895 wedi denu cynulleidfa o 3,000 o bobl!

Fel rheol deuai’r Cymry at ei gilydd i gystadlu adeg y Nadolig neu ddydd Calan ond wrth gwrs bydden nhw wedi bod yn paratoi ymhell cyn hynny! Yn y blynyddoedd cynnar, y prif gystadlaethau oedd ysgrifennu traethodau a barddoniaeth yn Gymraeg ond yn ddiweddarach daeth y cystadlaethau cerddorol yn fwyfwy poblogaidd.

Eisteddfod Jackson, 1924 (WOP00807)

Cynhaliwyd Eisteddfod flynyddol Cymdeithas Eisteddfod de Ohio yn nhre Jackson ac oherwydd hynny daeth hi’n adnabyddus fel ‘Eisteddfod Jackson’. Roedd hi’n boblogaidd tu hwnt a chan fod cymaint o bobl yn ei mynychu fe fu’n rhaid codi adeilad arbennig i’w chynnal yn y dre! Roedd cystadleuwyr yn dod o bell i’r adeilad newydd i ganu a pherfformio a pharhaodd yr arfer hwnnw tan i’r Eisteddfod olaf gael ei chynnal yno yn 1940.

Er bod poblogrwydd yr Eisteddfod wedi gwanhau yn y dalaith erbyn canol yr ugeinfed ganrif mae un traddodiad yn parhau o hyd yn y de ddwyrain. Mae Eisteddfod ysgol flynyddol Jackson, a sefydlwyd yn 1924, yn cael ei chynnal o hyd a dyna’r unig eisteddfod o’r fath yn America erbyn heddiw.

Bydd modd pori drwy ddetholiad o raglenni Eisteddfod o gasgliad Amgueddfa Gymreig Oak Hill ar wefan Cymru-Ohio o fis Ebrill ymlaen.

Ymddeoliad Hapus

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 10-05-2011

Doeddech chi ddim yno bythefnos yn ôl, pan gynhaliwyd seremoni ddistaw a chyfrinachol i ddathlu ymddeoliad un o weision prysuraf y Llyfrgell erioed. Bu’n gweithio i’r Llyfrgell ers mis Mawrth 2006, gan arbenigo mewn catalogio Llyfrau, ond gan weithio gyda phob math o ddeunyddiau eraill hefyd. Bu’n gyfrifol am ychwanegu dros filiwn o gofnodion disgrifiadol ei hun, a chadw trac o bedair miliwn arall. Nid oes unrhyw un wedi ymweld a’r Llyfrgell yn gorfforol nac ar y we nad yw wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol a’r cyfaill hwn.

Ei enw yw Seiont, enw adnabyddus i’r staff ac yn gysylltiedig a chyfrifoldeb a phrysurdeb di-dorr am flynyddoedd, yn wir, aeth am 966 o ddyddiau heb gael eiliad o orffwys.  Fe’i  ganwyd yn yr Almaen yn 2005 ond roedd yn dod o dras cymysg, a’r rhan fwyaf o’i deulu’n Americaniaid.

Mae’n siwr ei fod wedi gwawrio arnoch,  hyd yn oed y rhai sydd heb edrych ar y llun isod, nad son am berson ydw i ond am gyfrifiadur, un pwysig iawn – brenin ein gweinyddion am tua phum mlynedd.  Dyma ychydig mwy o wybodaeth amdano: mae’r cyfrifiadur yma yn un o fath Sunfire V40z ac yn cynnwys pedair prosesydd Opteron 852 sy’n rhedeg ar gyflymder o 2.6GHz, gyda 20 GB o RAM a system weithredu Redhat Linux.  Oce, llai diddorol na gwisg briodasol Kate Middleton i’r rhan fwyaf ohonnoch efallai, ond i fi mae hyn yn bwysig.

Y broblem fwyaf a gafwyd yn ystod ei gyfnod hir didorr diweddaraf oedd ei fod yn y lle anghywir. Roedd yr ystafell o’i gwmpas yn newid, raciau’n symud, llawr newydd yn cael ei roi lawr, ceblau trydannol newydd yn cael eu gosod, ond fe arhosodd Seiont yn yr un lle, yn parhau a’i wasanaeth bob dydd, yn gwrthod symud, ac yn mynnu bod pobl fel ni yn yr isadran cyfrifiaduron yn cydnabod ein sefyllfa darostyngedig iddo.

Tua diwedd ei yrfa fe gafodd bwl o salwch, ac fe gafodd ei frawd Teifi bwl gwaeth. Daeth yr arbrenigwyr i’r casgliad ei bod yn well i Seiont roi’r gorau iddi cyn i’r straen fynd yn ormod, rhag iddo ddioddef poen yn ystod diwedd ei oes. Os cofiwch chi ddarllennwyr am fwlch yn y gwasanaeth rhyw fis yn ôl, dyna oedd yr esboniad.

Ond wedi ei ymddeoliad, fel y gwelwn gyda rhai o aelodau o staff, bydd cyfraniad ganddo o hyd, bydd ar gael i bwrpasau ymgynghori, a dwi wedi bod yn ymgynghori llawer ag ef dros y dyddiau diwethaf, yn methu rhoi llonydd iddo.  Er hynny dwi’n ddiolchgar iddo am lenwi ei gerdyn donor, rydym yn gallu mynd ato i gael darnau sbar i weinyddion eraill os bydd angen.

Mae ei olynydd wedi setlo i mewn yn hapus mewn lleoliad hwylus, yn cymryd ei gyfrifoldebau o ddifri, ond a’i holl dasgau wedi eu trefnu’n ofalus iddo.  Mae’r gwaith yn cynyddu o leiaf yr un mor gyflym ag y mae pwer y peiriannau sy’n ei wneud yn cynyddu.  Efallai bod peiriannau, a’r staff sy’n eu cynnal, yn gaethweision i ddymuniadau darllenwyr a phorwyr y we, efallai nad oes ots gan y rhan fwyaf o bobl pwy sy’n gwneud beth, ond i’r gweithwyr sydd wrthi yn y cefn, mae gennyn ni deimladau, ac rydyn ni’n cael ambell i seremoni fach sentimental nawr ac yn y man.

Aquabrowser – dull hawdd o chwilio catalog cyflawn y Llyfrgell

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 11-02-2011

Gyda thros 5 miliwn o gyfrolau printiedig, 1 miliwn o ffotograffau, 4 miliwn dogfen archifol, 40,000 o gyfrolau llawysgrif, 60,000 o ddarluniau a 4,000 o weithiau celf mewn ffrâm yng nghasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, anodd iawn yw cael sustem sydd yn medru dygymod a chwilio’r cyfan yn hawdd ac yn effeithiol mewn un lle.

Aquabrowser yw’r catalog newydd sydd yn ceisio gwneud hyn.

Mae Aquabrowser yn rhif un y byd ar gyfer chwilio catalogau llyfrgell.  Trwy ddefnyddio Aquabrowser, mae llyfrgelloedd yn medru cynnig profiad cyffelyb i’w gilydd i chwilio catalogau.  Gellir gweld Aquabrowser mewn llyfrgelloedd ar draws y byd, gan gynnwys Unol Daleithiau America, yr Almaen, Sbaen, yr Eidal a 80% o holl lyfrgelloedd cyhoeddus yr Iseldiroedd.  Erbyn hyn, mae bron i 2,000 o lyfrgelloedd a 60 miliwn o bobl yn defnyddio Aquabrowser i chwilio catalogau llyfrgelloedd.

Chwilio
Medrwch chwilio wrth deipio eich ymholiad yn y blwch testun a chlicio ‘Chwilio’.  Bydd eich canlyniadau wedi eu graddio yn ôl perthnasedd, ac mae modd clicio ar ganlyniad i weld pob canlyniad yn llawn gyda’r wybodaeth sydd yn cael ei ddal.

Termau chwiliad
Yr allwedd i ganfod y wybodaeth rydych yn chwilio amdani yw dewis y term chwiliad cywir.  Y ffordd orau i ganfod y wybodaeth yw dechrau gyda’r hyn sydd yn amlwg.  Mae defnyddio termau lluosog yn medru canolbwyntio’r chwilio, ac wrth gwrs cynnig llai o ganlyniadau.

Cwmwl geiriau
Os nad ydych yn gallu meddwl am y gair cywir, gall defnyddio’r cwmwl geiriau eich helpu.  Nid yw dod o hyd i’r term cywir bob amser yn syml, mae Aquabrowser yn cynnig awgrymiadau, amrywiadau sillafu a chyfieithiadau yn y cwmwl geiriau fel eich bod yn medru dewis y chwiliad mwyaf addas ar eich pwnc penodol.

Beth am drio Aquabrowser i chwilio casgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol, a chofiwch adael i ni wybod eich barn!

Dewch i holi

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 07-01-2011

Mae ateb ymholiadau fel rhan o fy swydd yn hynod o ddiddorol, ac yn sicr heb fod yn ddiflas nac yn undonog. Mae’r gwasanaeth ymholiadau a gynigir gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyfle gwych i’r ymholydd ddarganfod yr atebion i’w cwestiynau, boed yn rhywbeth sydd yn ymwneud â chasgliadau amrywiol y Llyfrgell neu yn gymorth gyda’i hymchwil teulu. Enghraifft dda o hyn yw pan lwyddwyd i ddod o hyd i gofnodion bedydd a phriodasau’r teulu cyfan o fewn un gyfrol o’r adysgrifau’r esgob – ond yn anaml iawn y mae modd ateb ymholiadau mor rhwydd a hynna!

I’r rhai sydd yn bwriadu dod i ddarllen, neu’r rhai na fedrir ymweld â’r Llyfrgell, gallwn gadarnhau ein daliadau, gan ddarparu manylion am gynnwys llawysgrifau ac archifau penodol, yn ogystal â’n casgliad o ddeunydd printiedig, ffotograffau a darluniau. Enghraifft dda o ymholiad a dderbyniwyd yn ddiweddar oedd yr angen i leoli ffermdy yr arferai cyndeidiau’r ymholydd fyw ynddo ganrifoedd yn ôl cyn i’r teulu ymfudo i America. Llwyddwyd i wneud hyn drwy chwilio drwy’r mapiau degwm a’r mapiau Arolwg Ordnans, gan ddarparu’r ateb cyn eu hymweliad â Chymru.

Gyda mathau eraill o ymholiadau a ddaw i’r adran, bydd angen dod o hyd i erthyglau papurau newydd sydd yn drysor o wybodaeth am hanes y cyfnod, boed yn lleol, teuluol neu rywbeth llawer mwy amrywiol, megis storïau am helyntion Merched Beca er enghraifft.

Yr ydym hefyd yn medru darparu copïau o eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell, fel gall yr ymholydd wneud fwy o ymchwil trwyadl ei hunain yn dilyn ein harweiniad.

Y mae’n syndod felly, beth a pha wybodaeth sydd yn cuddio y tu ôl i gloriau ac yn eistedd mewn cell yn disgwyl cael eu darganfod. Cewch enghraifft o hynny gennyf yr wythnos nesaf.

Rhianydd Davies, Isadran Gwasanaethau i Ddarllenwyr

Priodas unigryw

Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 04-10-2010

Ar bnawn Sadwrn, Medi’r 4ydd, cynhaliwyd y briodas gyntaf erioed yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Priododd Elin Jones, merch leol â Sean Garrel, o Unol Dalaethau America.

Roedd y tywydd yn bell o fod yn berffaith yn ystod y bore ond erbyn cyrhaeddodd y briodferch roedd yr haul yn gwenu’n braf. Roedd y briodferch, y priodfab a’r gwesteion i gyd yn edrych yn hyfryd.

Aeth y ddau a’u gwesteion i fyny ar y trên bach i Bontarfynach a chynhaliwyd y wledd yng ngwesty’r Hafod.  Cafodd pawb ddiwrnod bendigedig ac roedd hi’n siwr o fod yn brofiad newydd i sawl un.

Dymuniadau gorau i’r ddau am ddyfodol hapus gyda’i gilydd.

Gyda llaw, os ydych chi’n ystyried cymryd y cam mawr, ond heb ddewis lle eto, ystyriwch briodi yn y Llyfrgell Genedlaethol, un o Lyfrgelloedd mawr y byd. Mae’n leoliad unigryw, gyda golygfeydd prydferth dros dref Aberystwyth.
Cysylltwch gyda Brian Richards ar 01970 632 849 neu brian.richards@llgc.org.uk am fwy o wybodaeth.

Angharad Medi Jones
Adran Gwasanaethau Cyhoeddus

Gwlad yr Addewid

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 23-09-2010

Fe es i i’r theatr neithiwr i weld perfformiad y Cwmni Theatr Cenedlaethol o ‘Gwlad yr Addewid’, sef cyfieithiad, neu addasiad, gan Sharon Morgan o ‘House of America’. Pe bawn i ddim wedi fy llusgo fy hun yno, mae’n ddigon posib y byddwn wedi treulio’r noson yn gwylio rhyw gêm bêl-droed ddibwys iawn ar y teledu. Heb fynd ati i gymysgu delweddau’n ormodol, mae’n debyg y gallwn i ddweud i’r ddrama hefyd fod yn gêm o ddau hanner! Ac un hanner yn tipyn fwy difyr na’r llall!

Ond mae’r croesbeillio diwylliannol yn nghyd-destun ffurfiau gwahanol yn rhywbeth difyr tu hwnt. Mae modd gweld y ffilm ‘House of America‘ yng nghasgliadau’r Archif wrth gwrs. Gobeithio fod y Cwmni Theatr yn ddigon hirben hefyd i gadw cofnod fideo o’u holl gynyrchiadau – bydd hwnnw’n adnodd difyr a phwysig maes o law.

Enghraifft arall ddifyr a llwyddiannus oedd y ffilm Dal: Yma/Nawr. Yn hon fe gymerir nifer o gerddi Cymraeg o ddyddiau Aneirin a’r Gododdin, ymlaen at Ddafydd ap Gwilym – lle cawn Mathew Rhys ac Ioan Gruffudd yn darllen, neu berfformio, un o gywyddau serch y bardd o ogledd Ceredigion – hyd at ein cyfnod ni gyda beirdd fel y diweddar, ysywaeth, Dic Jones a Gerallt Lloyd Owen yn darllen eu gwaith, gan greu cyflwyniad sinematig pwerus, ac, ar adegau, telynegol ohonyn nhw. Mae hi’n ffilm hyfryd iawn.

Byddai’n braf meddwl – pan fydd y sefyllfa economaidd sydd ohoni’n fwy addawol – y gallen ni fel Archif gyd-weithio’n greadigol fel hyn gan ddwyn bywyd newydd i’n casgliadau. Wedi’r cyfan nid stôr o wybodaeth at ddibenion ymchwil yn unig sydd yma ond sbardun i’r dychymyg a’r broses greadigol.

Dafydd Pritchard

Supertramp

Casgliadau - Postiwyd

Wythnos nesaf (26 Medi 2010) byddwn yn nodi 70 mlynedd ers marwolaeth W. H. Davies (1871-1940), y bardd grwydryn o Gasnewydd.

Un o’i gerddi enwocaf yw ‘Leisure’, sy’n cychwyn

“What is this life if, full of care,
We have no time to stand and stare”

 

Mae copi o’r gerdd hon yn llawysgrifen W. H. Davies ei hun, wedi dyddio 8fed o Fai 1914, ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Yma hefyd ceir tua 30 o gerddi eraill yn llawysgrifen W. H. Davies, rhai ohonynt sydd heb eu cyhoeddi. e.e.  ‘A Boy’s Sorrow’ sy’n sôn am ymateb bachgen ifanc i’r amgylchiadau sy’n dilyn marwolaeth cymydog.

Pan yn 22 oed, teithiodd i Efrog Newydd, gan gyrraedd yr Unol Daleithiau gyda dim ond ychydig o ddoleri yn ei boced. Wedi hynny dechreuodd fyw fel trempyn, bywyd a ddisgrifir ganddo yn ei hunangofiant Autobiography of a Super-Tramp (1908) – gan deithio miloedd o filltiroedd ar draws America yn cardota, ond hefyd yn gwneud gwaith achlysurol a theithio’n anghyfreithlon ar y trenau cludo nwyddau. Ar y ffordd i gloddfeydd aur yn y Klondike, cwympodd o dan drên gan dorri ei droed dde, ac yn dilyn hyn cafodd dorri ei goes i ffwrdd o dan y ben-glin.

Am grynodeb o holl lawysgrifau a llythyrau W. H. Davies sydd gennym yn y Llyfrgell ewch i dudalen newydd W. H. Davies ar ein gwefan.

Drysau Agored

Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 10-08-2010

Yn ddiweddar fe gyfeiriais at y teithiau tywys wythnosol rydym yn eu cynnal yn y Llyfrgell  – pob bore dydd Llun 11.00 a.m. a phob prynhawn dydd Mercher am 2.15 p.m.

Yn ogystal â rhain, rydym yn cynnig teithiau arbennig ar gyfer grwpiau a chymdeithasau, ac mae rhain hefyd yn profi’n hynod o boblogaidd.  Y ddau’n rhoi cyfle gwych i chi weld rhai o’n trysorau cenedlaethol, yn ogystal â chyfle i ymweld tu ôl i lenni’r Llyfrgell.

Mae’r tywyswyr, Emyr, Sion a finnau, wedi bod wrthi’n brysur eleni yn tywys cannoedd o ymwelwyr o gwmpas y Llyfrgell gan esbonio hanes sefydlu’r Llyfrgell, hanes yr adeilad, ei chasgliadau a’r arddangosfeydd sy’n cael eu cynnal, gan gynnwys y saith arddangosfa bresennol:

Cam Wrth Gam – Olrhain eich hanes teulu yn y Llyfrgell.
Awduron Cymru – Arddangosfa sy’n dathlu gwaith Brenda Chamberlain a Caradog Prichard.
Cofio Tryweryn – Golwg bersonol ar ddigwyddiadau Tryweryn trwy lygaid yr artist Claudia Williams.
Joan Baker: Ôl Syllol. Arddangosfa sy’n edrych yn ôl ar yrfa 65 mlynedd yr artist o Gaerdydd.
Curwen: Celf, Geiriau a Cherddoriaeth mewn Print – cyfle i ddathlu cyfraniad Gwasg a Stiwdio Curwen.
Derbyniadau Diweddar – gan gynnwys gweithiau gan Dylan Thomas, Jan Morris, Augustus John a Donald McIntyre.
Hengwrt – llun gan Pablo Picasso, ac enghreifftiau o drysorau’r Llyfrgell, gan gynnwys yr Hengwrt Chaucer.

Rhywbeth felly o ddiddordeb i bawb – ac wrth gwrs MYNEDIAD AM DDIM

Ymwelwyr diweddar yn mwynhau taith o'r Llyfrgell

Ymwelwyr diweddar yn mwynhau taith o'r Llyfrgell

Rydym yn croesawu bobl o Gymru ac o bob cwr o’r byd ar ein teithiau wythnosol, ac yn ychwanegol i hyn dros y tymor diwethaf, rydym wedi croesawu grwpiau o Unol Daleithiau America, Patagonia, Siapan, Canada, Ffrainc, Yr Almaen, Yr Eidal, Sbaen, Norwy a’r Ffindir – heb anghofio yr ymwelwyr lliwgar Sami.

A ninnau ar drothwy tymor yr Hydref, mae nifer cynyddol o gymdeithasau eisoes wedi archebu teithiau gyda ni. Am wybodaeth pellach cysylltwch ag Angharad Jones, 01970 632 801 neu gwas-ymwelwyr@llgc.org.uk
Cofiwch lenwi eich ffurflen i archebu taith dywys a’i dychwelyd atom i gadarnhau’r ymweliad.
Gobeithio byddwch yn cymryd mantais o’r adnodd yma yn y Llyfrgell, ac y cawn y pleser o’ch cwmni yn y dyfodol agos.

H.M. Stanley: Cymro tybed?

Casgliadau - Postiwyd 28-07-2010

Cafodd y newyddiadurwr a’r teithiwr Syr Henry Morton Stanley drwydded i anfarwoldeb ar sail ei grwydradau yn Affrica, a’i gamp o ‘ddarganfod’ David Livingstone yn Ujiji ym 1871. Y cyfarfyddiad hwn a roddodd fod i’r ymadrodd Saesneg poblogaidd, “Dr Livingstone, I presume?”

Rhyw bum mis ar ôl iddo adael Livingstone, ac yn fuan ar ôl iddo gyrraedd Llundain yn arwr ar ddechrau Awst 1872, dechreuwyd amau cymeriad Stanley: honnwyd mewn papur newydd Cymreig nad Americanwr mohono (fel y tybid), ond Cymro o’r enw Rowlands. Seilid hyn ar dystiolaeth Cymro a honnai i Stanley ganu caneuon Cymraeg yn ei gwmni yn Affrica!

Gwadodd Stanley hyn yn ffyrnig, ac mewn llythyr a ysgrifennodd at Charles Ollivant, Sale, sir Gaer, ar 22 Awst 1872 – llythyr a gyhoeddwyd wedyn mewn nifer o bapurau newydd – taranodd:

“I say I am an American & can prove it – by over ten thousand friends in the United States … I never knew a man named Evans, nor have I never sung a Welsh song not knowing anything of the language. My name is neither Thomas, Rowlands, Smith, Jones, nor Robinson, but plain Henry M. Stanley …”

Prynwyd y llythyr gwreiddiol hwn gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru mewn arwerthiant yng Ngorffennaf 2009 (bellach llsgr. NLW 23981E, f. 19).

Ymhen rhai blynyddoedd – ac yn groes i’r graen – daeth H.M. Stanley i gydnabod iddo gael ei eni yn Ninbych ym 1841, lle bedyddiwyd ef yn John Rowlands, mab llwyn a pherth i ffermwr lleol. Treuliodd naw mlynedd o’i blentyndod tlawd yn nhloty Llanelwy, cyn iddo droi ei gefn ar Gymru a theithio i America yn Rhagfyr 1858, yn 17 oed. Yno, mabwysiadodd gymeriad ac enw newydd.

Parhaodd Stanley i fynegi atgasedd tuag at Gymru hyd ei farw ym 1904.

Maredudd ap Huw

Gŵyl y Gelli

Digido - Postiwyd 03-06-2010

Yr wythnos hon mae llawer o lygaid ffyddloniaid y byd llenyddol wedi’u troi tuag at y Gelli Gandryll oherwydd fod yr ?yl flynyddol, the Guardian Hay Festival Wales, yn cael ei chynnal yno. Mae’r ?yl yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn ac yn gyfle i lenorion a gweithwyr eraill ym maes y celfyddydau gwrdd â’u cyhoedd.

Bu’r Llyfrgell Genedlaethol, ynghyd â sefydliadau Cymreig eraill, yn cynnal stondin ar faes yr ?yl am sawl blwyddyn. Ond eleni, am y tro cyntaf, roedd y Llyfrgell wedi cyd-weithio gyda’r ?yl i gynnig sesiynau yn trafod rhai o drysorau’r Llyfrgell fel rhan o raglen swyddogol yr ?yl. Yn nes ymlaen bydd trip o’r ?yl yn dod lan i Aberystwyth i ymweld â’r Llyfrgell a bydd yr Athro Sioned Davies, Prifysgol Caerdydd, yn sgwrsio am y Mabinogi ac am Lyfr Gwyn Rhydderch ar faes yr ?yl.

Ddydd Mawrth diwethaf fy nhro i oedd hi i gyflwyno un o’n trysorau i gynulleidfa G?yl y Gelli. Un ohonynt yw nifer o gyfrolau ac atgynhyrchiadau o waith y ffotograffydd Edward S Curtis yn cofnodi bywyd Indiaid gogledd America. Rhwng 1907 a 1930 bu’n gyfrifol am lywio trwy’r wasg ugain o gyfrolau sylweddol yn llawn ffotograffau trawiadol yn disgrifio pob agwedd ar fywydau cenhedloedd gorllewin y Taleithiau Unedig. Dwi’n falch i ddweud fod gan pobl y Gelli ddiddordeb i ddysgu mwy gan i ryw 150 ohonynt ddod i wrando ar sgwrs.

Mae’r cyfrolau yn bethau eithaf prin, yn arbennig felly yn Ynysoedd Prydain, ac  mae’r ffaith fod gan y Llyfrgell nifer ohonynt yn beth reit drawiadol. Daeth y cyfrolau i’r Llyfrgell fel rhodd oddi wrth Henry Blackwell, Cymro a oedd yn byw yn Efrog Newydd, ac yn gyfrifol am rwymo rhai o’r cyfrolau.

Bu llawer o ddadlau dros y blynyddoedd am agwedd Curtis a’i dîm tuag at yr Indiaid, ond nid oes dadl fod y ffotograffau eu hunain yn bethau prydferth iawn. Mae troi’r tudalennau o ffotograff i ffotograff yn brofiad gwefreiddiol. Dyma un o fy hoff ffotograffau i – menywod ifanc o genedl yr Hopi yn edrych i lawr o doeon eu cartrefi ar seremoni yn digwydd ar sgwâr y pentref. (Northwestern University Library, Edward S. Curtis’s ‘The North American Indian’: the Photographic Images, 2001)

Os am wybod mwy am waith Edward S Curtis ceir adran arbennig o ddifyr amdano ar wefan Llyfrgell y Gyngres, Washington D.C.

LYN LÉWIS DAFIS

Dangosiad ‘The Life Story of David Lloyd George’ 04/12/09

Collections - Postiwyd 01-02-2010

Bocs Ffilmiau

Bocs Ffilmiau

Dyma’r bocs a addaswyd ar gyfer cludo y ffilm ’The Life Story of David Lloyd George’ i Brifysgol Yale, UDA. Am bod y ffilm dros 2.5 awr o hyd mi oedd angen bocs digon o faint i gynnwys yr 8 x 16” can ac i’w gadw’n saff wrth iddo teithio’n agos i 3739 o filltiroedd / 6017 km. Roedd yn cael ei daflunio yng nghynhadledd ‘After the Great War; European Film in 1919’. Hon oedd premiere y ffilm yng Ngogledd America.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog