Search Results

Cofio cyfraniad Cranogwen

Casgliadau - Postiwyd 27-06-2016

Yn Chwefor 1989 rhoddwyd caniatâd i’r Llyfrgell wneud llungopïau o ddwy gerdd gan Cranogwen neu Sarah Jane Rees, ei henw genedigol. Miss Maggie Eurona Jones, Llangrannog, oedd perchennog y cerddi a gyfansoddwyd ar adeg ei bedydd a’i phen-blwydd cyntaf, [1905] (NLW Facs 675). Yn ddiddorol iawn eleni derbyniwyd rhodd yn cynnwys y cerddi gwreiddiol hyn (NLW ex 2935) ac yn amserol gan ei bod yn ganmlwyddiant marwolaeth Cranogwen ar 27 Mehefin. Nai i Maggie Eurona oedd y rhoddwr.

Ganwyd Sarah Jane Rees yn 1839 ger Llangrannog. Yr oedd ei rhieni wedi gobeithio y byddai’n gwneud gyrfa fel gwniadwraig ar ôl gadael ysgol ond roedd y môr yn ei gwaed a threuliodd ddwy flynedd yn hwylio gyda’i thad y Capten John Rees. Enillodd dystysgrif ‘Master Mariner’ mewn ysgol forwrol yn Llundain. Dychwelodd i Langrannog a dysgu yn ei hen ysgol ym Mhontgarreg rhwng 1860 a 1866. Yn 1866 penderfynodd newid cyfeiriad a mynd i ddarlithio a phregethu gan ymweld ag America yn 1869 a 1888.

Cafodd Cranogwen lwyddiant mawr yn cystadlu mewn eisteddfodau yn barddoni ac enillodd nifer o wobrau. Cyhoeddwyd ei chyfrol Caniadau Cranogwen yn 1870. Hi oedd y ferch gyntaf i olygu cylchgrawn Cymraeg ar gyfer merched sef Y Frythones, 1879-1889. Yr oedd dirwest yn bwysig iawn iddi ac yn 1901 sefydlodd Undeb Dirwestol Merched y De.

Bu farw yn nh? ei nith yng Nghilfynydd ar 27 Mehefin 1916. Cynhaliwyd ei hangladd yn Eglwys Sant Crannog yn Llangrannog. Yn 1922 agorwyd Llety Cranogwen ar gyfer merched ifanc anffodus er cof amdani. Felly cofiwn am ei chyfraniad nodedig ac i ddyfynnu’r hanesydd merched Deirdre Beddoe: ‘Cranogwen was, without doubt, the most outstanding Welsh woman of the nineteenth century’.

Ann Francis Evans

Benjamin West, ‘Dr Richard Price’

Casgliadau / Digido - Postiwyd 16-06-2016

Ganwyd Benjamin West yn Springfield, Pennsylvania yn 1738, ac roedd yn arlunydd hanes mynegiannol grymus. Roedd West yn hyderus iawn pan oedd yn ifanc a theimlai mai dyn a ragdynghedwyd i enwogrwydd ydoedd. Cychwynnodd fel peintiwr portread hunanddysgedig yn Pennsylvania ond cafodd ei gomisiynu’n fuan i ddarlunio golygfeydd hanesyddol. Gyda chymorth y Gweinidog Anglicanaidd, y Parchedig William Smith, teithiodd i’r Eidal lle cafodd ei groesawu fel artist dan nawdd ac o ganlyniad medrodd deithio i Lundain a dod yn arlunydd hanesyddol i’r Brenin Siôr III ym 1772. Daeth yn adnabyddus yn Llundain fel y ‘Raphael Americanaidd’. Daeth yn fwyaf adnabyddus am ei beintiadau hanesyddol yn y traddodiad neo-glasurol. Daeth yn ail lywydd yr Academi Frenhinol ym 1792 ar ôl chwarae rôl allweddol i sicrhau nawdd ar gyfer yr Academi. Mae ei waith enwocaf ‘The Death of General Wolfe’ o 1770 yn torri tir newydd gan iddo beintio hanes a oedd yn cynnwys elfennau o Ramantiaeth a Realaeth. Trwy’r gwaith hwn, llwyddodd yn ddod i ben ag adfywio diddordeb yn y genre a ddaeth yn adnabyddus fel peintio hanes modern. Cafodd ei gomisiynu’n ddiweddarach i greu gwaith ar gyfer Castell Windsor a Chapel Sant Siôr a arweiniodd at gomisiynau pellach yn y gymuned grefyddol, a daeth yn adnabyddus fel prif beintiwr pynciau crefyddol yn Lloegr.

Mae’n amlwg felly paham y dewiswyd West i beintio’r portread hwn o Dr Richard Price. Roedd Dr Richard Price yn athronydd moesol, yn bregethwr ac yn fathemategydd Cymreig. Roedd hefyd yn anghydffurfiwr â diddordeb dwfn mewn gwleidyddiaeth. Cafodd ei eni yn Llangeinwyr, Morgannwg, De Cymru ond bu’n byw a gweithio am y rhan fwyaf o’i oes yn Llundain. Dangosir Dr. Richard Price yn ei stydi, yn darllen llythyr o 1784 oddi wrth Benjamin Frankin a oedd yn gyfaill agos i Price am flynyddoedd lawer. Ysgrifennodd Price yn ei ddyddiadur llaw-fer am eistedd i’r portread hwn ac mae’r dyddiadur yn rhan o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru (NLW MS 20721A). Dyma’r unig bortread swyddogol o’r athronydd moesol hynod bwysig yma, er bod dau fersiwn arall yn bodoli.

Mae’r llun yma’n rhan o Europeana 280, lle bu 28 o Weinidogion Diwylliant Ewropeaidd yn cydweithio gyda’u sefydliadau diwylliannol cenedlaethol i ddewis o leiaf 10 darlun sy’n cynrychioli cyfraniad eu gwlad i hanes celf Ewrop.

Am fwy o wybodaeth gweler yr Oriel Ddigidol

Anthem i’r Wladfa?

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 18-06-2015

Darganfyddwyd y cân ar diwedd hen pamffled o 1875

Darganfyddwyd y cân ar diwedd hen pamffled o 1875

Mae eleni’n nodi 150 mlynedd ers i’r Gymru hwylio i Batagonia yn Ne America i chwilio am fywyd gwell. I ddathlu sefydliad Y Wladfa mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi curadu arddangosfa o’r enw ‘Gwladfa’ sy’n cynnwys archifau, llawysgrifau, ffotograffau a gweithiau celf o gasgliadau’r Llyfrgell. Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys Beibl Cymraeg a gludwyd i Batagonia ar fwrdd y Mimosa ym 1865. Fel Wicipediwr Preswyl yn y Llyfrgell rwyf wedi bod yn gweithio ar ddigwyddiad ‘Golygathon’ i wella cynnwys Wicipedia sy’n ymwneud â’r Wladfa, a hefyd , ar y cyd â Chasgliad y Werin Cymru, i wahodd y cyhoedd i rannu hen ddogfennau a lluniau yn ymwneud â’r Wladfa.

Wrth i mi gasglu deunydd ymchwil yn barod ar gyfer y digwyddiad, deuthum ar draws hen bamffled o’r enw ‘Adroddiad y Parch. D. S. Davies am Sefyllfa y Wladfa Gymreig’ ble mae’r awdur yn adrodd ar gyflwr amaethyddiaeth, y bywyd gwyllt, anifeiliaid, crefydd, a phob agwedd o fywyd yn y Wladfa. Mae’r pamffled, dyddiedig 1875 yn ddarn clir o bropaganda gyda’r nod o annog rhagor o bobl i ymfudo. Ar ddiwedd yr adroddiad, dan y teitl “Gwlad Newydd y Cymry” mae yna gân, a briodolir i ?r o’r enw Lewis Evans, bardd, telynor, ac un o’r ymsefydlwyrCymreig cyntaf i ymfudo i Batagonia. Yr wyf yn adnabod y gân ar unwaith. Wedi ei seilio ar gân boblogaidd Evan James sef “Hen Wlad Fy Nhadau”, mae fersiwn Y Wladfa yn dechrau ‘Y Mae Patagonia yn anwyl I mi’ ac yn cloi gyda ‘O! bydded I’r Wladfa barhau’. Mae’r darn yn disgrifio harddwch yr afon Camwy a’r ‘Andes wen fawr’.

Mae’r darn yn cael ei gyflwyno yn yr adroddiad fel cân ar gyfer cenedl Gymreig newydd – anthem “Genedlaethol”. Ac mae hyn yn 1875, 30 mlynedd cyn i’r cyfansoddiad gwreiddiol gael ei chanu cyn gêm bêl-droed neu rygbi rhyngwladol. Erbyn 1875 roedd “Hen Wlad Fy Nhadau” yn gân boblogaidd yn eisteddfodau a digwyddiadau cymdeithasol eraill, ond mae’r darganfyddiad yma yn awgrymu fod rhai yn barod yn gweld y gân fel anthem “genedlaethol”. Hyd yn hyn ni allaf ddod o hyd i gyfeiriad arall i’r anthem ac mae’n ymddangos ei fod wedi ei golli mewn hanes ers dros 100 mlynedd, hyd nes ei ailddarganfod yn ddiweddar. Yn Amlwg ni fu i’r darn gwladgarol erioed lwyddo ym Mhatagonia, ble mae’r gymuned Gymraeg dal yn canu “Hen Wlad Fy Nhadau”.

Mae’r darganfyddiad yn rhoi i ni gipolwg diddorol i mewn i fywydau’r ymsefydlwyr cynnar arloesol. Mae’r gân yn portreadu pobl yn dathlu sylfaen cenedl wirioneddol Gymreig, yn rhydd o’r ormes hanesyddol o’u traddodiad, iaith a diwylliant.

 

Jason Evans

Tagiau: , , ,

I Batagonia – 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa

Arddangosfeydd / Casgliadau / Collections - Postiwyd 20-05-2015

Gosod carreg sylfaen adeilad Cymdeithas Dewi Sant, Trelew 1910

Yr wythnos hon bydd arddangosfa yn agor yn y Llyfrgell Genedlaethol i gofnodi 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn Ne America. Ar 28 Mai, hwyliodd grwp o tua 150 o ymfudwyr am Batagonia ar fwrdd cliper te o’r enw Mimosa gyda’r amcan o sefydlu cymuned hunanlywodraethol ble byddai iaith a diwylliant y Cymry yn ffynnu. Mae eu hanes yn rhyfeddol ac wedi bod yn destun edmygedd, ysbrydoliaeth ac ambell i ddadl ymhlith y Cymry ers cenedlaethau.

 

Yr Arddangosfa

Mae’r hanes hwn yn cael ei gyflwyno yn yr arddangosfa ‘Gwladfa’ sy’n agor yn y Llyfrgell ar 23 Mai. Bydd yr eitemau sy’n cael eu harddangos yn cynnwys archifau, llawysgrifau, ffotograffau a gweithiau celf o gasgliadau’r Llyfrgell. Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys Beibl Cymraeg a gludwyd i Batagonia ar fwrdd y Mimosa ym 1865 ac sydd ar fenthyciad tymor byr yn y Llyfrgell am gyfnod yr arddangosfa yn unig.

Golygathon a Dewch-da-chi

Ar 19 Mehefin, bydd y Llyfrgell hefyd yn leoliad ar gyfer digwyddiad golygathon a dewch-da-chi, ble gall cyfranogwyr ddod â delweddau neu ddogfennau sy’n ymwneud â’r Cymry ym Mhatagonia ac/neu ychwanegu a gwella gwybodaeth am y Wladfa ar Wikipedia a Chasgliad y Werin. Bydd arbenigwyr wrth law i ddarparu deunydd cynradd ac i gynorthwyo gyda golygu ac ychwanegu delweddau i’r gwefannau hyn. Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, pwyswch yma.

Adnoddau LlGC ar y Cymry ym Mhatagonia

Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd rai adnoddau arlein i’ch helpu i ddarganfod mwy am hanes y Cymry ym Mhatagonia.

Os nad oeddech yn ymwybodol o’r cysylltiad hwn rhwng Cymru a Phatagonia ac ddim yn mynd i allu dod i’r arddangosfa yn y Llyfrgell, mae hanes y Wladfa wedi ei gyflwyno trwy gyfres o erthyglau ar Glaniad, gwefan deirieithog a gafodd ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac a lansiwyd yn 2007.

Ceir rhestr faith o lyfrau ac erthyglau perthnasol ar wefan y Llyfrgell. Mae rhifynnau o’r Drafod, cyfnodolyn Cymraeg ei iaith a gyhoeddwyd ym Mhatagonia, ar gyfer y cyfnod rhwng 1913 a 1919 hefyd i’w ganfod yn yr adnodd Papurau Newydd Cymru Ar-lein . Mae hefyd gyfoeth o archifau a llawysgrifau yng nghasgliadau’r Llyfrgell.

Mae nifer o ddogennau archifol (o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol, Prifysgol Bangor ac amgueddfeydd Gaiman a Threfelin ym Mhatagonia) wedi eu digido ac i’w canfod ar wefan Glaniad a Chasgliad y Werin Cymru.

Status Quo, 1976

Dim Categori - Postiwyd 17-04-2015

Yng nghanol y saithdegau cynhaliwyd nifer o gyngherddhau pop yng Nghastell Caerdydd , gan gynnwys Status Quo, yn mid Gorffennaf 1976. Yn y clip yma mae Rick a Francis yn trafod llwyddiant y band a theithiau posib i America yn y dyfodol. 

quo_cardiff

Mae Archif ITV Cymru / Wales wedi ei leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cymraeg: http://www.twitter.com/agssc
Facebook – ‘Archif Sgrin a Sain Cymru’

 

 

Cofio Joseph Parry

Casgliadau / Digido / Gwasanaethau Darllenwyr - Postiwyd 20-02-2015

Joseph ParryAr ddydd Sadwrn, 21 Chwefror 1903 cynhaliwyd angladd Dr Joseph Parry, y ‘bachgen bach o Ferthyr’. Amcangyfrifid i oddeutu 7000 o alarwyr ddod ynghyd i’r gwasanaeth a gynhaliwyd yng nghapel Cynulleidfaol Christ Church ym Mhenarth cyn symud ymlaen i fynwent Sant Augustine. Yn ôl anerchiad a draddodwyd yn y gwasanaeth gan y Parchedig H. Elvet Lewis, Llundain, dywedodd nad oedd yn bosibl claddu cerddor am fod caniadau cerddor yn ei ddal yn fyw, a byddai i’r gerddoriaeth a gyfansoddodd Joseph Parry nid yn unig fyw yng nghof y genhedlaeth honno, ond arwain i fyny at feddyliau uwch a melysach mewn cenedlaethau i ddod.

 

Ganed ym Merthyr Tudful yn 1841 ac ar ôl treulio cyfran o’i blentyndod yn gweithio mewn pwll glo ac yng ngwaith haearn Cyfarthfa, ymfudodd gyda’i deulu yn 13 oed i Danville, Pensylfania lle bu’n gweithio mewn melin haearn. Dychwelodd i Brydain gan astudio yn y Royal Academy of Music ac ef oedd y Cymro cyntaf i dderbyn gradd Mus.Bac. o Brifysgol Caergrawnt. Fe’i penodwyd yn 1874 yn Athro Cerddoriaeth cyntaf Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn ddiweddarach bu’n gweithio yn Abertawe a Chaerdydd.

 

Roedd yn gyfansoddwr toreithiog, a’i gynnyrch yn cynnwys caneuon, cytganau, anthemau, tonau, gweithiau offerynnol, oratorïau ac operâu, gyda Blodwen yn un ohonynt, sef yr opera gyntaf yn y Gymraeg. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i ddegau o lawysgrifau cerddoriaeth Joseph Parry ac mae gwaith yn cymryd lle ar hyn o bryd i baratoi detholiad bychan o’r sgoriau cerddorol hyn ar gyfer eu delweddu maes o law’r flwyddyn hon.

 

Fodd bynnag, os nad ydych yn medru aros tan hynny i weld fersiynau digidol o ambell i sgôr nodiant yn llaw Pencerdd America ac yn dymuno cael blas ar fywyd y cerddor, gellir cymryd mantais ar ambell i adnodd sy’n bodoli eisoes ar-lein gan y Llyfrgell. Gellir darllen ei gofnod bywgraffyddol ar wefan Y Bywgraffiadur Cymreig neu mi allwch ddarllen cannoedd o erthyglau sy’n cyfeirio ato trwy chwilio ar wefan Papurau Newydd Cymru Arlein. Er enghraifft, wrth chwilio am ‘Joseph Parry’ a chyfyngu eich dyddiadau i 1903 gellir dod ar draws nifer o erthyglau sy’n adrodd hanes ei farwolaeth a’i gladdedigaeth 112 o flynyddoedd yn ôl.

 

Wrth chwilio amdano ar gatalog e-Adnoddau’r Llyfrgell sy’n cynnwys eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell sydd eisoes wedi’u digido, gellir darganfod ambell i ffotograff ohono gan John Thomas. Ac ar wefan Casglu’r Tlysau (rhan o Casgliad y Werin Cymru bellach) gellir bodio trwy daflen angladd Joseph Parry er mwyn cael gweld pa emynau a ganwyd yn y gwasanaeth.

 

Os nad yw hyn yn eich digoni, cofiwch y gellir dod yma i ddarllen y llawysgrifau a’r llythyrau yn Ystafell Ddarllen y De, dim ond i chi wneud cais am docyn darllen cyn hynny. Gellir darllen drafft o hunangofiant Joseph Parry yn ei law ei hun trwy archebu NLW MS 9661D fel man cychwyn!

 

D. Rhys Davies

“…innumerable exercise books full of poems…”

Arddangosfeydd / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 08-09-2014

Ar ôl teithio draw i Gymru ym mis Ionawr eleni, a threulio pum mis yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe, mae Llyfrau Nodiadau Dylan wedi dychwelyd yma i’r Llyfrgell ac i’r arddangosfa ‘Dod â Dylan Adref’.

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys y pedwar Llyfr Nodiadau barddoniaeth a ysgrifennodd Dylan yn ei arddegau, rhwng 1930 a 1934. Gwerthodd nhw i Brifysgol Buffalo yn yr 1940au am swm bach iawn o arian, a dyma’u trip cyntaf yn ôl i Gymru ers hynny.

Gyda’r Llyfrau Nodiadau mae darnau o lythyrau rhwng y bardd a Pamela Hansofrd Johnson, sy’n bwrw golwg ar y broses farddoni, ynghyd â llawysgrifau o’r gerdd ‘Ballad of the Long-Legged Bait’.

 

Dylan Thomas, Llyfr Nodiadau 1932 Notebook © David Highams Associates

Dylan Thomas, Llyfr Nodiadau 1932 Notebook
© David Higham Associates

Dylan Thomas, Hunan Bortread / Self Portrait © David Highams Associates

Dylan Thomas, Hunan Bortread / Self Portrait
© David Higham Associates

Dylan Thomas, Llyfr Nodiadau 1930 Notebook © David Highams Associates

Dylan Thomas, Llyfr Nodiadau 1930 Notebook
© David Higham Associates

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Bydd arddangosfa ‘Dylan’ yn Oriel Gregynog hefyd yn cael ei hailwampio, gydag eitemau newydd o gasgliadau’r Llyfrgell yn cael eu harddangos. Bydd mwy o lythyrau nad ydynt wedi eu cyhoeddi o’r blaen i’w gweld, yn cynnwys un gan Dylan at ei feistres yn America, Elizabeth Reitell.    Bydd hefyd llawysgrifau o rhai o gerddi enwocaf Dylan i’w gweld yn Nhafarn y Beirdd, megis ‘A Refusal to Mourn the Death, by Fire, of a Child in London’ ac ‘Into Her Lying Down Head’.

Hyd yn oed os ydych wedi ymweld â’r arddangosfa o’r blaen, mae’n werth galw heibio eto unwaith eto i weld Llyfrau Nodiadau Dylan a’r eitemau newydd sydd i’w gweld yn yr Oriel o 13eg Medi.  Edrychwn ymlaen i’ch gweld!

LIGHTS OUT

Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 30-07-2014

server

Ffotograff o archif D.C. Harries yn cymru1914.org ‘A private in the Welsh Regiment’ a ddefnyddir gan Bedwyr Williams yn Traw http://cymru1914.org/en/view/photographs/3891065

Comisiynwyd pedwar artist rhyngwladol gan 14-18-NOW i greu gweithiau celf cyhoeddus trawiadaol yn yr Alban, Cymru, Gogledd yr Iwerddon a Lloegr fel rhan o LIGHTS OUT, prosiect sydd yn gwahodd pawb yn y Deyrnas Unedig i ddiffodd eu goleuadau rhwng rhwng 10 ag 11 yr hwyr ar y 4ydd o Awst i gofnodi canmlwyddiant cychwyn y Rhyfel Mawr.

Bydd yr arddangosfa a grewyd ar gyfer Cymru fel rhan o’r digwyddiad unigryw hwn yn cynnwys delweddau o recriwtiaid anhysbys a chonsgriptwyr o Gymru o’r archif ddigidol  cymru1914.org  – adnodd a ddatblygwyd gan archifau a chasgliadau arbennig Cymru.

Crewyd yr arddangosfa gan yr artist Bedwyr Williams. Mae’n  ddarn o waith pwerus ar ffurf fideo graddfa fawr ac arddangosfa sain, i’w gyflwyno ar safle Porth Coffa Gogledd Cymru, Bangor. Ger y Porth taflunir delweddau ar waliau enfawr adeilad Pontio, sef canolfan Gelfyddydau ac Arloesedd newydd sbon Prifysgol Bangor.

Gan ddefnyddio ffotograffau o’r archif ddigidol cymru1914.org, mae Bedwyr wedi creu cyfres o ddelweddau o filwyr a phersonel sifil a gafodd eu heffeithio gan y Rhyfel Mawr. Gan hepgor unrhyw gyfeiriadaeth at lifrau a rheng, mae’r lluniau agos o wynebau yn datgelu rywbeth am bersonoliaeth yr unigolyn a’u haberth personol mewn rhyfel lle bu fesur marwolaeth fesul miliwn. Traw yw teitl y darn; teitl addas gyda thrac sain wedi’i seilio ar s?n cloc yn taro, yn araf. – s?n fydd i’w glywed, a’i deimlo,  ar hyd a lled y ddinas. Mae Bedwyr Williams yn un o artistiaid gweledol amlycaf Cymru. Mae’n byw ac yn gweithio yng ngogledd Cymru ac yn creu gwaith mewn sawl dull, gan gynnwys arddangosfeydd, perfformiadau, darluniau, cerfluniau ac, yn fwy fwy, ffilm. Yn 2013 bu iddo gynrychioli Cymru ym Mienalle Fenis.

Casgliad negyddion plat gwydr D.C. Harries yn LlGC

Mae’r delweddau a ddefnyddir yn Traw yn dod o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru o  negyddion plat gwydr D.C. Harries. Mae’r Llyfrgell wedi digido tua 200 o ddelweddau o’r casgliad hwn. Tybiwyd fod rhain yn ddelweddau o’r sawl a recriwtiwyd neu gonscriptwyd o ardaloedd Llandeilo neu Rhydaman, lleoliad stiwdio ffotograffiaeth D.C. Harries. Mae’r rhan helaeth ohonynt yn ddelweddau o unigolion, ond ceir hefyd luniau o grwpiau a theuluoedd. 1914-18 yw’r dyddiadau a nodwyd ar gyfer y rhan fwyaf o’r delweddau, er y gellid dyddio rhai yn fwy manwl oherwydd y Ceibrau Gwasanaeth Tramor a wisgwyd gan rai, ar eu breichiau de o fis Rhagfyr 1917 ymlaen, neu’r streipiau clwyf, a welwyd o fis Gorffennaf 2016 ymlaen. Fodd bynnag, maent oll yn anhysbys.
Defnyddir y math hyn o ffotograffau portread a dynwyd mewn stiwdio, yn ystod cyfnod Rhyfel Cartref America, pryd y dyfeisiwyd ffotograffau.  Cyfnod Y Rhyfel Mawr oedd oes aur olaf y math yma o lun.

Dolenni Defnyddiol:
D.C. Harries a’i waith
Casgliad D C Harries
Ffotograffiaeth potread yn ystod Rhyfel Cartref America

Lawnsiwyd yr archif ddigidol  cymru1914.org  ym mis Tachwedd 2013. Fe’i noddwyd gan Jisc ac mae’n bartneriaeth rhwng archifau a chasgliadau arbennig Cymru. Mae’n dod â chasgliadau ynghyd o Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Prifysgol Bangor; Prifysgol Caerdydd; Prifysgol Aberystwyth; Prifysgol Abertawe; Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant; Archifau lleol Conwy, Fflint;  Morgannwg a Gwent; Archifau BBC Cymru Wales, a deunydd cymunedol a grewyd drwy Casgliad y Werin Cymru. Mae’r archif yn datguddio hanesion cudd y Cymry o’r Rhyfel Mawr gan ddod a thros 200,000 o dudalennau o archifau hanesyddol, llawysgrifau, papurau newydd a ffotograffau ynghyd.  Mae’r archif ddigidol hon ar gael i’w defnyddio, a’i hail ddefnyddio, yn rhad ac am ddim – ar gyfer ymchwil, dysgu a phob agwedd ar gofio. Mae’r delweddau a welir yn cymru1914 ond yn sampl bychan iawn o’r 2,000 o bortreadau’r Rhyfel Mawr a geir yn archif D.C. Harries. Yn 2015, bydd y prosiect yn anelu at ddigido llawer mwy o ddeunyddiau, gan wahodd cymunedau i adnabod y sawl sydd yn y lluniau er mwyn cofnodi a chofio eu hanes o’r diwedd.

LIGHTS OUT
Disgwylir i filiynnau o bobol gymryd rhan yn LIGHTS OUT ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Mae cannoedd o awdurdodau lleol, adeiladau eiconig, sefydliadau cenedlaethol, cynghorau plwyf ac addoldai eisoes wedi addo eu cefnogaeth.
Trefnir LIGHTS OUT gan 14-18 NOW, y rhaglen diwylliannol swyddogol ar gyfer Cofio’r Rhyfel Mawr.

Lights Out

Datganiad i’r Wasg

Bedwyr Williams

#LightsOut

Dod â Dylan i’r Famwlad

Dim Categori - Postiwyd 25-04-2014

Yn gynnar un bore ym mis Chwefror deffrais mewn gwesty yn Buffalo, Efrog Newydd a chymryd golwg drwy’r ffenestr.  Eira.  Lot o eira!  A dweud y gwir roedd hi wedi bod yn bwrw eira’n

Niagra Falls, Chwefror / February 2014

Niagra Falls, Chwefror / February 2014

ddi-baid ers i mi gyrraedd ac yr oeddwn i’n profi’r hyn yr oedd yr ardalwyr yn ei alw’n ‘Polar Vortex’ o lygad y ffynnon… neu o lygad y fortecs i fod yn fanwl gywir!  Gallai’r amseru ddim fod wedi bod yn waeth, ond heddiw oedd y diwrnod yr oeddem ni wedi bod yn cynllunio tuag ato ers misoedd.  Roedd rhaid canolbwyntio ar y dasg o’m blaen.

Heddiw roeddwn i am hebrwng pecyn pwysig iawn ar draws yr Iwerydd, a hynny o dan len cyfrinach.

Heb yn wybod i neb heblaw am ambell gydweithiwr allweddol, roedd rhai o lyfrau nodiadau, llythyrau a ffotograffau mwyaf prin a phwysig Dylan Thomas yn dychwelyd i Gymru o’r Poetry Collection yn Llyfrgell Prifysgol Buffalo am y tro cyntaf i gael eu harddangos yma.  Roeddwn i wedi derbyn y dasg o sicrhau a threfnu’r benthyciad, felly roedd hi’n gwneud synnwyr i mi orffen y dasg trwy dywys yr eitemau yn ôl gofynion arbennig y benthycwyr.

Dylan Thomas, Llyfr Nodiadau 1930 Notebook © Atgynhyrchiadau digidol o lawysgrifau wedi'u defnyddio gyda chaniatâd David Highams Associates ar ran Ymddiriedolwyr Hawlfraint Dylan Thomas

Dylan Thomas, Llyfr Nodiadau 1930 Notebook
© Atgynhyrchiadau digidol o lawysgrifau wedi’u defnyddio gyda chaniatâd David Highams Associates ar ran Ymddiriedolwyr Hawlfraint Dylan Thomas

Dyddiadur Tywyswraig

Fel soniodd Dylan yn ‘A Visit to America’, “…in planes and trains and boiling hotel ovens, many of these attempt to keep journals and diaries”, felly dyma fy hanes byr i o daith ddigon epig.

Mae’r curaduron ym Mhrifysgol Buffalo, sydd hefyd yn gofalu am gyfran helaeth o ddeunydd James Joyce, yn ymfalchïo yn eu casgliad Dylan Thomas, ac wedi bod mor hael yn caniatáu i ni fenthyg yr eitemau hyn.  A dweud y gwir, mae Dylan yn cael ei debygu i Robert Frost neu James Joyce draw yno yn yr ystyr bod eu henwau yn rhagori ar eu gwaith i raddau.  Mae trefnu ‘taith y llyfrau nodiadau’ wedi bod yn dipyn o daith yn ei hun, felly wrth i mi gyrraedd y Brifysgol roeddwn wrth fy modd yn cael cwrdd â’r wynebau tu ôl i’r e-byst dirifedi, ac wrth gwrs cael gweld yr eitemau y byddai yn fy ngofal.  Edrychwyd trwy’r eitemau’n ofalus gan nodi eu cyflwr cyn eu pacio.  Roedd hi’n anodd peidio cael fy nhynnu oddi wrth fy ngwaith gan gynnwys a rhin y casgliad!

Fel tywyswraig, mae hyfforddiant a phrofiad yn bwysig iawn ar dripiau fel hyn, ond er y cynllunio gofalus, mae’n ddoeth disgwyl yr annisgwyl.

“Maam, I’m afraid that case cannot stay and will have to go in the hold.”

Dylan Thomas, Hunan Bortread / Self Portrait © Atgynhyrchiadau digidol o lawysgrifau wedi'u defnyddio gyda chaniatâd David Highams Associates ar ran Ymddiriedolwyr Hawlfraint Dylan Thomas

Dylan Thomas, Hunan Bortread / Self Portrait
© Atgynhyrchiadau digidol o lawysgrifau wedi’u defnyddio gyda chaniatâd David Highams Associates ar ran Ymddiriedolwyr Hawlfraint Dylan Thomas

Rwy’n dechrau ar ran gyntaf y daith rhwng Buffalo a JFK cyn teithio i Heathrow, ac yna i Aberystwyth.  Mae’r awyren yn gyfyng a dweud y lleiaf, ac er bod sedd ychwanegol wedi’i neilltuo i’r pecyn-llaw roedd y pecyn yn rhy fawr.  Er natur y benthyciad, nid yw nifer yr eitemau a’r pecyn o reidrwydd yn golygu pecyn-llaw – roedd pwysau a maint y casyn yn gofyn am nerth corfforol a thipyn o gryfder.  A dweud y gwir, roedd rhaid trefnu tripiau i’r t? bach gyda chywirdeb milwrol!  Esboniais yn gynnil yr amgylchiadau a diolch i’r stiwardes a oedd erbyn hynny wedi dechrau symud y siwtiau drud a’r cesys lledr o’r cwpwrdd er mwyn gwneud lle i’m casyn i.  Wnes i ddim mentro edrych ar y dynion a’r menywod busnes pwdlyd yn y seddi tu ôl i mi!

Mae gan staff y cwmnïoedd awyrennau a’r staff diogelwch awdurdod llawn, ac maent yn dueddol o lynnu’n dyn wrth y rheolau yn yr Unol Dalaethiau; mae natur ddymunol ond cadarn yn hanfodol wrth ddibynnu ar eich dawn darbwyllo ar dripiau fel hyn – haws dweud na gwneud.

Does Unman yn debyg i Adref

Felly, 36 awr yn ddiweddarach ar ôl newidiadau i’r daith awyren, trafod telerau gyda staff diogelwch y maes awyr ar ddwy ochr i’r Iwerydd, a thaith yr un mor epig yn ôl i Aberystwyth heb lawer o gwsg, fues i erioed mor falch o weld Bae Ceredigion.  Fel y dywedodd Dylan am Dalacharn, “…in this timeless mild, beguiling island of a town…here we just are, and there is nowhere like it anywhere at all.”

Gwybodaeth bellach am y llyfrau nodiadau a’r arddangosfa.

Jaimie Thomas

Martin John Ridley (1861-1936)

Digido - Postiwyd 07-04-2014

 

Bydd 857 o negyddion gwydr gan y ffotograffydd masnachol a chyhoeddwr cardiau post Martin John Ridley o Bournemouth  yn mynd yn fyw ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol yn fuan. Trwy gyfrwng y casgliad o negyddion gwydr yma llwyddodd Ridley i ddogfennu nifer o ardaloedd pwysig yn Ne Cymru yn ystod degawdau olaf y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Ceir lluniau ganddo o Barc y Rhath a Phier Penarth i Eglwys Gadeiriol Llandaf a Chastell Caerdydd, ond yr hyn sydd yn dal y llygad yw ei ffotograffau dogfennol o fywyd bob dydd ar strydoedd yr ardaloedd diwydiannol hyn.  Yn ôl curadur casgliad ffotograffig y Llyfrgell Genedlaethol, William Troughton ‘There is no escaping the gritty realism in his photography’.

 

Cardiau Post

Roedd cardiau post yn ffenomena enfawr  yn ystod cyfnod Ridley ac fe wnaethant barhau yn boblogaidd iawn tan 1918. Ym 1909 dosbarthodd y Swyddfa Bost 866 miliwn o gardiau post. Rhaid cofio hefyd  i nifer fawr o gardiau post gael eu prynu a’u cadw fel cofroddion ac felly ni chawsant byth eu postio.

 

 

'Stryd yr Eglwys, Abertyleri', Martin John Ridley, [ca. 1905], (rid01848) Rhif catalog: vtls006075550

‘Stryd yr Eglwys, Abertyleri’, Martin John Ridley, [ca. 1905],
(rid01848) Rhif catalog: vtls006075550

Dyma lun o Stryd yr Eglwys yn Abertyleri gan Ridley o tua 1905. Gwelir ar flaen y ffotograff y rhif 5998, a olyga fod y ffotograff wedi ei gynhyrchu ar gyfer cael ei werthu fel  cerdyn llun (picture postcard). Mae naws naturiol a dogfennol y ffotograff yma yn nodweddiadol  iawn o waith Ridley. Mae’r gwaith hefyd mewn gwrthgyferbyniad llwyr â nifer o gardiau post ffurfiol y cyfnod  lle yn aml roedd y bobl yn sefyll yn llonydd o flaen y camera.  Mae hyn yn rhywbeth i’w ganmol gan gofio taw nôd Ridley oedd gwneud arian o’r golygfeydd yma. Yn hytrach na phortreadu rhyw ddelwedd ffug o’r ardal, roedd yn portreadu realiti bywyd  ardaloedd diwydiannol y De. Tirluniau diwydiannol, trefol a dinesig De Cymru oedd un o’i hoff bynciau. Yn ystod yr Oes Edwardaidd roedd y pyllau glo, y gweithfeydd haearn a’r gweithfeydd tunplat yn denu miloedd o ddynion ifanc a’u teuluoedd i’r De ac yn ei gwneud yn ardal bwysig a diddorol iawn i’w dogfennu.

 

Disgrifiodd y ffotograffydd enwog Americanaidd Walker Evans y math yma o waith ffotograffig fel ffotograffiaeth werinol ‘folk photography’.  Dywedodd: ‘The very essence of daily city and town life got itself recorded quite inadvertently on the penny picture postcards of the early 20th century.… Those honest direct little pictures have a quality today that is more than mere social history.… The picture postcard is folk document’. Rhaid cofio hefyd taw tasg anodd iawn i ffotograffydd oedd cymryd ffotograff heb dynnu sylw ato’i hun wrth ddefnyddio camera ‘plât llawn’ ar drybedd. Er hyn llwyddodd Ridley i ddogfennu bywyd y gymdeithas yn Ne Cymru mewn modd naturiol iawn.

 

Bydd y negyddion gwydr yma yn mynd yn fyw ar wefan y Llyfrgell yn fuan.

 

 

Morfudd Bevan-Williams

John Petts: Dyluniadau Ffenest Gwydr Lliw

Arddangosfeydd - Postiwyd 27-11-2013

14 Medi – 14 Rhagfyr 2013

“An idea doesn’t exist unless you do something about it” John Petts

_DSC5616
Hanner can mlynedd yn ôl ar 15 Medi 1963, plannodd y gr?p eithafol y Ku Klux Klan fom yn Eglwys Fedyddwyr 16th Street Birmingham yn Alabama, gan ladd pedair merch ddu a oedd yn mynychu’r Ysgol Sul yno.

Cyffyrddodd y weithred hon o derfysgaeth â chalonnau’r Cymry, yn enwedig yr artist John Petts a oedd ar y pryd yn byw yn Llansteffan.  Cynigiodd ei wasanaeth drwy ddylunio ffenest gwydr lliw newydd ar gyfer yr eglwys, a gyda chymorth y Western Mail lansiodd ymgyrch i godi arian ar gyfer yr apêl.  Dwysaodd yr ymgyrch wrth i’r arian lifo i mewn oddi wrth y werin a’r miloedd, gyda’r Western Mail yn cyhoeddi delweddau o resi o bobl Gymreig o bob tras yn aros i roi’r hyn oedd ganddyn nhw tuag at yr achos.

Ymwelodd Petts â’r eglwys gan weithio ar y dyluniad dros gyfnod o flwyddyn.  Dyma’r astudiaethau a’r dyluniad terfynol gan Petts, yn darlunio Crist croenddu gyda’i freichiau ar led, a oedd yn cael ei ystyried ar y pryd yn ddadleuol.  Yn 1965, gosodwyd y ffenest yn ei lle, wedi’i chyflwyno gyda’r geiriau ‘Given by the people of Wales’.

Heddiw, mae’r ffenest yn cael ei hadnabod fel y ‘Wales Window’ ac y mae’n symbol eiconig o’r mudiad hawliau sifil Americanaidd.

Llawysgrif Boston Ar-lein

Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 29-08-2013

Y llynedd, llwyddodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth i brynu Llawysgrif Boston o Gyfraith Hywel Dda yn Sotheby’s, Llundain. Bellach, mae’r Llyfrgell wedi cyhoeddi cynnwys y gyfrol hon – sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg – ar ei gwefan.

Ychydig iawn o bobl a gafodd y cyfle i weld y llawysgrif hon pan oedd ym meddiant Cymdeithas Hanesyddol Massachusetts yn yr Unol Daleithiau. Roedd ei chyflwr wedi dirywio ers y 18fed ganrif, a phan benderfynodd ei pherchnogion Americanaidd ei gwerthu, roedd perygl y byddai’n cael ei phrynu gan gasglwr preifat, neu ei thorri’n ddarnau ar gyfer casglwyr.

Gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ynghyd â Chyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, llwyddodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru i brynu’r llawysgrif werthfawr hon mewn arwerthiant yng Ngorffennaf 2012 am £541,250. Nawr, ddeng mis yn ddiweddarach, ac yn dilyn cyfnod llafurus a gofalus o ddadrwymo a thrwsio, mae holl dudalennau’r llawysgrif wedi eu cyhoeddi ar-lein ar wefan y Llyfrgell, ar gyfer cynulleidfa newydd.

Meddai Llyfrgellydd Llawysgrifau’r Llyfrgell, Dr Maredudd ap Huw:
‘Yn raddol, yn ystod misoedd o astudio gofalus, mae stori’r llawysgrif wedi dod i’r amlwg. Gellir gweld sut yr ychwanegwyd ati, a’i haddasu yn ystod y cyfnod canoloesol, wrth iddi gael ei defnyddio wrth weinyddu cyfraith. Mae gwell gobaith o hyn allan i fyfyrwyr astudio cynnwys y gyfrol a’i hanes.’

Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y broses o drwsio a diogelu’r gyfrol, dywedodd Aled Gruffydd Jones, Llyfrgellydd a Phrif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘Rydym bellach, trwy dechnegau traddodiadol a modern, wedi sicrhau parhad hir-dymor y llawysgrif werthfawr hon. Llawenhawn y bydd modd i ymwelwyr â’n gwefan ei mwynhau, a gwerthfawrogi un o drysorau anghofiedig Cymru.’

I gyd-fynd â’r delweddau digidol, ceir cyflwyniad i gefndir y llawysgrif, ac mae disgrifiad manwl o’r gyfrol hefyd ar gael ar gatalog ar-lein y Llyfrgell. Yn ystod yr haf hwn, bydd y Llyfrgell yn creu ffacsimilïau o’r gyfrol i’w defnyddio mewn gwaith hyrwyddo ac addysg.

Bydd Llawysgrif Boston ar ei newydd wedd, wedi ei thrwsio a’i hail-rwymo, yn ymddangos am y tro cyntaf yn arddangosfa’r 4 Llyfr: Eiconau Cymraeg Ynghyd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 12 Hydref.

Awduron Cymru: The Oxford Book of Welsh Verse a John Cowper Powys

Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 08-07-2013

Haf 2013 – Chwefror 2014

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yn arddangos gwaith John Cowper Powys a The Oxford Book of Welsh Verse mewn arddangosfa arbennig dros y misoedd nesaf.

Cawn gipolwg ar hanes cyhoeddi The Oxford Book of Welsh Verse a gyhoeddwyd hanner can mlynedd yn ôl, ynghyd â’r ymateb amrywiol a gafodd blodeugerdd nodedig Syr Thomas Parry; blodeugerdd sydd yn dal i gael ei defnyddio mewn ysgolion a phrifysgolion ar draws Cymru.

Bydd yr arddangosfa arbennig hon yn dangos llawysgrifau gwreiddiol rhai o’r cerddi sy’n ymddangos yn The Oxford Book of Welsh Verse, llythyron yn dangos y berthynas rhwng Syr Thomas Parry â nifer o Gymry blaenllaw’r dydd, adolygiadau o’r gyfrol a pheth o hanes blodeugerddi eraill yn yr iaith Gymraeg.

Bydd yr arddangosfa hefyd yn canolbwyntio ar waith John Cowper Powys. Yn awdur  nofelau, barddoniaeth, gweithiau athronyddol a thraethodau, cyhoeddodd John Cowper Powys dros hanner cant o weithiau llenyddol yn ystod ei fywyd, ond cafodd ei ddisgrifio fel ffurf o Marmite llenyddol yn sgil ei ddychymyg a’i arddull ryfedd.

Cawn ein cyflwyno i rai o lawysgrifau cynharaf nofelau enwocaf John Cowper Powys, Wolf Solent ac A Glastonbury Romance, a hefyd yn datgelu agweddau o’i fywyd personol trwy lythyron i’w gymar bywyd Phyllis Playter a llenorion megis E.E. Cummings a Henry Miller, ynghyd â’r dyddiaduron a gadwodd tra yn America a Gogledd Cymru.

Dylanwadodd y cysylltiad â Chymru a oedd ganddo trwy deulu ei Dad a thrwy ei gyfnod yng Ngogledd Cymru yn drwm arno, ac yn yr arddangosfa hon gellir gweld sut y bu i hanes a chwedloniaeth Cymru effeithio ar ei waith llenyddol.

Yn 1962 y cyhoeddwyd The Oxford Book of Welsh Verse, ond yn 1963 y cafwyd yr ymateb llymaf iddo. Yn ei gyflwyniad yn y Drwm ar y 17eg o Orffennaf bydd yr Athro Derec Llwyd Morgan yn egluro pwy a berswadiodd Gwasg Clarendon i’w gyhoeddi, beth oedd egwyddorion y golygydd wrth ddewis y farddoniaeth, pwy a’i cynorthwyodd, a sut ymateb a fu iddo. Ceir golwg newydd yma ar berthynas Thomas Parry a nifer o Gymry blaenllaw’r dydd, T.IFor Rees, Saunders Lewis a Gwenallt yn eu plith.
Yn dilyn ei ddarlith, bydd yr Athro Morgan yn lansio ei lyfr newydd Y Brenhinbren  a gyhoeddwyd gan Gwasg Gomer. Llyfr a fydd yn trafod bywyd a gwaith Thomas Parry.


Ailrwymo Llawysgrif Boston

Casgliadau - Postiwyd 17-06-2013

Dilwyn yn pwythoErs mis Medi 2012, bu’r cyfrifoldeb am y gwaith arbenigol o drin ac ailrwymo Llawysgrif Boston (c. 1350) yn pwyso ar ysgwyddau ambell aelod o staff yr Uned Gadwraeth. Mae’n cymryd blynyddoedd o brofiad i feithrin y dalent a’r hyder i ddadrwymo a thrwsio llawysgrif ganoloesol werthfawr ac unigryw fel hon. Dyma’r gallu prin sydd ym meddiant rhai o aelodau staff yr uned, a llwyddodd Elgar Pugh a Dilwyn Williams i ymdopi â’r gwaith yn ardderchog – a hynny dan bwysau ychwanegol sylw’r cyfryngau ac ymwelwyr dirifedi!

Naddu'r clawrAdroddwyd mewn blogiau blaenorol (Torri Cyfraith Hywel a blog Paul Russell) am hynt a helynt y llawysgrif dros y canrifoedd, ac am y rhesymau dros ei thrin a’i hailrwymo. Mae’n rhaid pwysleisio mai dim ond deunyddiau o ansawdd cadwraethol ynghyd â thechnegau cydnabyddedig a ddefnyddiwyd drwy gydol y prosiect. Nid oes lle yma i fanylu a rhestru’r holl brosesau, ond yn fras, bu’n rhaid datgysylltu’r llawysgrif o’i rhwymiad anaddas Americanaidd (c. 1840), gwastatáu, trwsio ac atgyfnerthu pob tudalen (71 o ddail memrwn) gyda memrwn newydd a chroen stumog ychen (goldbeaters’ skin). Cyn hyn, roedd y llawysgrif yn rhy fregus i’w thrin a’i thrafod, ac mewn rhwymiad a oedd yn rhy dynn i’w sganio.

Boston newyddAr ôl cael eu digido, dychwelwyd y dail i’r Uned Gadwraeth er mwyn gwnïo’r cydiadau ynghyd ar gordiau lliain. Roedd sgiliau gwaith coed yn hanfodol wrth baratoi’r byrddau derw. Plethwyd y cordiau lliain drwy dyllau yn y byrddau er mwyn cysylltu’r llawysgrif â’r cloriau pren cyn gorchuddio’r meingefn â chroen mochyn.

Mae’r gwaith cadwraeth bellach wedi’i gwblhau – pob deilen fregus wedi’u hatgyfnerthu, a’r rhwymiad newydd (mewn arddull ganoloesol) yn gydnaws â’r llawysgrif. Yn ogystal, cynhyrchwyd dau gopi ffacsimili ar gyfer addysgu ac arddangos.

Maimeingefn

Cedwir y llawysgrif bellach yn ddiogel mewn blwch a chell arbennig yng nghrombil y Llyfrgell Genedlaethol.
Er gwaetha’r cyfrifoldeb (pob tudalen yn werth dros £6000!) bu’n fraint cael bod yn gysylltiedig â’r prosiect hwn, a bu’n gyfle i brofi unwaith eto bwysigrwydd gwaith cadwraeth traddodiadol yn yr oes ddigidol.
Diolch arbennig i Dilwyn ac Elgar am eu gwaith hynod grefftus ac arbenigol.

Iwan Bryn James

Delweddau mewn llawysgrifau Canoloesol

Casgliadau - Postiwyd 14-06-2012

Yr wythnos hon, dathlwyd cyhoeddi un o’r astudiaethau pwysicaf diweddar o lawysgrifau Cymru, a hynny gyda darlith gyhoeddus yn y Drwm.
Ers rhai blynyddoedd, bu’r Dr Ceridwen Lloyd-Morgan yn llunio cyfrol ar lawysgrifau Cymru, a llawysgrifau Cymraeg, ar gyfer y gyfres ryngwladol bwysig ‘An index of images in English manuscripts from the time of Chaucer to Henry VIII’. Eisoes cyhoeddwyd yn y gyfres werthfawr hon gyfrolau ar gasgliadau llyfrgelloedd Rhydychen, Caergrawnt, y Llyfrgell Brydeinig a Gogledd America, a thro llawysgrifau Cymru yw hi bellach i gael sylw ysgolheigaidd. Mae’r gyfrol ar gael oddi wrth y cyhoeddwyr Brepols yng ngwlad Belg.
Er mai ‘English manuscripts’ sydd yn nheitl y gyfres, ychwanegodd Ceridwen lawysgrifau Cymraeg a Chymreig at ei maes llafur, a cheir yn y gyfrol restru delweddau mewn cryn nifer o lawysgrifau o’r cyfnod c. 1380-c. 1509 sydd bellach yng Nghymru a’r tu hwnt. Yn eu plith mae llawysgrifau yn Llyfrgell Caerdydd (9), Prifysgol Bangor (1), ac Archifdy Penarlâg (1), ynghyd ag enghreifftiau yng ngholeg Corpus Christi Caergrawnt (1), y Llyfrgell Brydeinig (7), Llyfrgell Bodley Rhydychen (7), Ysgol Amwythig (1), a Philadelphia (1). Gwelwyd nifer o enghreifftiau o’r delweddau hyn yn y cyflwyniad, nifer ohonynt yn cael eu hatgynhyrchu mewn du-a-gwyn yn y gyfrol.

Bucephalus, ceffyl Alecsander (Peniarth MS 481, f. 34v)

Yn naturiol, mae’r rhelyw o’r llawysgrifau a restrir yn y gyfrol yma yn y Llyfrgell Genedlaethol (99 i gyd), a gellir gweld nifer ohonynt ar ein Drych Digidol, gan gynnwys Llawysgrif Feddygol Mostyn (NLW MS 3026C), Llyfr Oriau De Grey (NLW MS 15537C), a Brwydrau Alecsander Fawr (Peniarth MS 481).
O hyn ymlaen, cyfrol Ceridwen Lloyd-Morgan fydd y man cychwyn ar gyfer astudio delweddau’r cyfnod hwn o Gymru, a gobeithiwn y bydd yn esgor ar lawer o astudiaethau pellach ar arddull, y defnydd o inc, a pherthynas delwedd â thestun.
Maredudd ap Huw

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog