Blog

Postiwyd - 01-07-2019

Arddangosfeydd / Casgliadau

50 mlynedd ers yr Arwisgo

Yn union 50 mlynedd yn ôl, ar 1af Gorffennaf 1969, cafodd Tywysog Siarl ei arwisgo fel Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon. Roedd yr arwisgo yn ddigwyddiad dadleuol iawn, gan arwain at brostestiadau mawr yn ei erbyn.  Yn yr un modd, roedd tipyn yn cefnogi’r arwisgiad, yn arbennig Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, George Thomas.

 

 

Mae Rhodri Evans wedi bod yn ymchwilio’r ymateb radicalaidd i’r arwisgo ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yr wythnos hon fydd arddangosfa ar yr ymateb radicalaidd yn cael ei gynnal yn Ystafell Summers.

 

Bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan ddydd Gwener 5ed Gorffennaf ac yn cynnwys deunydd o gasgliadau print, archifol a sgrin a sain y Llyfrgell. Dewch yn llu!

 

 

Rob Phillips
Archif Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Archif Wleidyddol Gymreig

 

Postiwyd - 28-06-2019

Collections

Cytundeb Versailles: yng ngeiriau’r rhai oedd yno

Digwyddodd arwyddo cyntaf Cytundeb Versailles 100 mlynedd yn ôl i heddiw, yn yr ‘Hall of Mirrors’ yn Versailles, ger Paris. Er fod ymladd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi dod i ben gydag arwyddo’r cadoediad ar 11 Tachwedd 1918, fe gymerodd 6 mis o drafodaethau yng Nghynhadledd Heddwch Paris i gytuno ar Gytundeb Versailles. Roedd y cytundeb yn amlinellu telerau’r heddwch rhwng yr Almaen a’r Pwerau Cynghreiriol.

Yn y fideo hwn, dysgwch fwy am y Gynhadledd Heddwch a’r trafodaethau a ffurfiodd Gytundeb Versailles, gyda’n harbenigwr, Rob Phillips, fydd yn eich tywys trwy’r dogfennau gwreiddiol sy’n taflu goleuni ar denysiynnau’r trafodaethau.

Roedd Prif Weinidog Prydain, David Lloyd George yn un o’r ‘Big Three’ a lywiodd Cytundeb Versailles, a gallwch ddysgu mwy amdano yn ein harddangosfa ddigidol, David Lloyd George.

Gallwch hefyd ddarllen llythyrau ei ysgrifennydd personol ar y pryd, Frances Stevenson, a ddanfonwyd o Baris at ei theulu. Maent yn cynnig cipolwg ar ddigwyddiadau’r Gynhadledd, ond hefyd i feddyliau David Lloyd George ei hun. Mae’n ysgrifennu fod y Prif Weinidog yn meddwl fod y Cytundeb yn ddogfen ofnadwy, ‘terrible document’, roedd ef wrth gwrs yn teimlo’n gryf na ddylid cosbi’r Almaen yn eithafol.

Postiwyd - 21-06-2019

Arddangosfeydd / Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Stori Cymru

Cerddoriaeth Cymru: Gwerin, Protest a Phop

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio ei hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

Fe ddisgrifir Cymru yn aml fel gwlad y gân. Ond ym mha le dechreuodd ein traddodiad cerddorol, a sut y datblygodd?

Mae ein harddangosfa newydd – ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’ yn archwilio traddodiad cerddorol Cymru ar hyd y canrifoedd; o’r crwth i’r Cyrff, drwy ddefnyddio amrywiol eitemau o’r Archif Gerddorol Gymreig a’r Archif Sgrin a Sain.

Dyma Nia Mai Daniel o’r Archif Gerddorol i esbonio ymhellach …

 

 

Gwreiddiau
Er bod Cymru’n cael ei hadnabod fel ‘Gwlad y Gân’, does gennym ni ddim cof arbennig o weithiau cerddorol cynnar. Traddodiad llafar yw’n traddodiad gwerin, gyda thelynorion a baledwyr yn teithio ar hyd a lled y wlad, yn difyrru’r werin mewn marchnadoedd a thafarndai, gan gadw’r alawon ar eu cof.

Erbyn y ddeunawfed ganrif cofnodwyd alawon ar bapur, ac aeth nifer o bobl amlwg ati i gasglu’r rhain yn ddiweddarach; dim ond trwy waith diflino unigolion fel Nansi Richards, J Lloyd Williams a Meredydd Evans yr achubwyd a gofalwyd am ein traddodiad gwerin.

Mae sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906 a’r adfywiad yn y traddodiad gwerin yn yr 1970au, pan bu i ganu gwerin gyd-fyw ochr yn ochr â chanu poblogaidd, hefyd wedi cyfrannu’n fawr at ddiogelu’r traddodiad.

 

Merêd
Roedd Meredydd Evans, neu Merêd, yn ffigwr hollbwysig yn natbylgiad cerddoriaeth yng Nghymru . Treuliodd ei fywyd yn cyfrannu at fywyd a diwylliant Cymru fel casglwr, hanesydd, cerddor, golygydd, cenedlaetholwr ac ymgyrchydd brwd dros yr iaith.

Casglodd Merêd a’i wraig Phyllis Kinney ganeuon a oedd wedi bod mewn perygl o ddiflannu, a chredai nad oedd modd i’r traddodiad dyfu ac addasu heb roi bywyd i’r caneuon hynny a ddarganfyddodd yn y llawysgrifau a’r sgorau hynafol.

Yn ogystal â’i waith fel casglwr, roedd Merêd hefyd yn berfformiwr talentog, a recordiodd ddetholiad pwysig o ganeuon i label Folkway Records yn Efrog Newydd yn 1954. Am ddegawd o 1963 ef oedd pennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru, a gweithiodd yn ddiflino i greu rhaglenni adloniant ysgafn Cymreig hynod boblogaidd.

 

Chwyldro
“Mae’n hen bryd cael mwy o ganu eithafol yng Nghymru heddiw, mwy o sgrechfeydd a drwmiau gwyllt…” oedd geiriau un o aelodau’r grwp roc Cymraeg cyntaf, Y Blew, a ffurfiwyd yn 1967.

Roedd Cymru’r 60au a’r 70au yn wlad a welodd gyffro gwleidyddol yn ogystal â cherddorol. Daeth canu gwerin a phop ysgafn yn boblogaidd iawn, a sefydlwyd y label recordio Cymraeg cyntaf, Sain, ym 1969. Ond yr hyn a wthiodd cerddoriaeth bop Cymraeg yn ei blaen oedd y gân brotest. Yn lle cyfansoddi caneuon serch roedd artistiaid ifainc yn mynd a’u gitârs i’r dafarn a chanu caneuon dychanol a gwleidyddol.

Erbyn yr 1980au daeth to newydd o fandiau a labeli recordio i’r wyneb, rhai a oedd yn creu sŵn gwahanol iawn i’r pop a arferwyd ei glywed ar lwyfannau a thonfeddi radio’r wlad. Roedd bandiau fel Anhrefn, Datblygu, Llwybr Llaethog a’r Cyrff yn arbrofol ac yn chwyldroadol.

 

Gorwelion
Yn ystod yr 1990au roedd llawer o fandiau yn canu caneuon yn yr iaith Gymraeg yn ogystal â chynhyrchu cerddoriaeth yn Saesneg, fel Catatonia, Super Furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci. Cafodd eu cerddoriaeth ei glywed gan gynulleidfa ehangach, a arweiniodd at ddiddordeb cynyddol yn yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ar draws y byd.

Erbyn yr 1990au hwyr a dechrau’r unfed ganrif ar hugain, roedd yr iaith Gymraeg yn cael ei chyfleu trwy sawl arddull gwahanol, o hip hop, reggae a ska ac yn ôl i wreiddiau’r traddodiad gwerin.

Heddiw, mae’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru yn fyw ac yn iach, gyda thoreth gyfoethog o artistiaid talentog yn ysgrifennu, recordio a pherfformio yn y Gymraeg a mwy nag erioed o labeli annibynnol yn gweithio i ryddhau recordiau Cymreig.

 

Mwy o wybodaeth am arddangosfa RECORD: Gwerin, Protest a Phop (22 Mehefin 2019 – 1 Chwefror 2020)

Postiwyd - 11-06-2019

Casgliadau / Cerddoriaeth

Mansel Thomas: cerddor o fri

Wythnos hon, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn coffau 110 mlynedd ers genedigaeth Mansel Thomas, un o gyfansoddwyr a cherddorion campus Cymru. Cafodd ei eni ar 12 Mehefin 1909 yn y Rhondda a wnaeth ei farc fel cerddor dylanwadol. Gweithiodd i’r BBC am ddeng mlynedd ar hugain gyda Cherddorfa Gymreig y BBC, oedd newydd ei ffurfio ar y pryd, ac yna fel Pennaeth Cerddoriaeth BBC Cymru. Mae’r dyddiad a fyddai wedi bod yn benblwydd arno yn gyfle i ni ddathlu ei fywyd a’i gyfraniad nodedig i gerddoriaeth yng Nghymru.

 

 

Bydd arddangosfa fechan o’i waith o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol wedi’i osod yn Ystafell Summers i gyd-fynd â sgwrs gan Terence Gilmore-James ar y dyn ei hun ar 12 Mehefin 2019. Dyma cip ar yr eitemau bydd ar ddangos:

 

  • Llyfr gwaith cerddoriaeth a luniwyd yn ystod y cyfnod 1918-1925, gyda’r darnau cynharaf wedi’u copïo gyda chymorth ei dad, Theophilus Thomas. (Mansel Thomas Music Manuscripts, J1/1)

 

  • Cyfrol sy’n cynnwys sgôr lawn o’r gantawd ‘God is our hope and strength’ gyda geiriau o Salm 46, a gyflwynwyd fel rhan o’i radd B.Mus. o Brifysgol Durham, [1930]. (Mansel Thomas Music Manuscripts, J1/60)

 

  • Cyfansoddiad buddugol ‘Chwech o ganeuon unsain’ gyda chyfeiliant syml cyfaddas i ysgolion babanod yn Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru Aberafan-Port Talbot, 1932. (Eisteddfod Genedlaethol Cymru – cyfansoddiadau a beirniadaethau, 1932/39)

 

  • Sgôr llawysgrif ‘To Daffodils (Cennin Aur)’ cyfansoddwyd yng nghanol/diwedd y 1920au yn arbennig ar gyfer Côr Meibion Pendyrus a oedd newydd ei ffurfio. (Mansel Thomas Music Manuscripts, M1/1)

 

  • Sgôr lleisiol o’r anthem ‘Blest are the pure in heart’, a gyfansoddwyd gan Mansel Thomas ar gyfer y côr ac organ ar gyfer Terence a Grace ar achlysur eu priodas, 1965. (Mansel Thomas Music Manuscripts, P2/14)

 

  • Sgôr cerddorfa ‘God bless the Prince of Wales’ gan Brinley Richards, wedi’i addasu a’i drefnu ar gyfer cerddorfa gan Mansel Thomas ar gyfer Arwisgiad EUB Tywysog Cymru yng Nghaernarfon, Gorffennaf 1969. (Mansel Thomas Music Manuscripts, M4/2i)

 

  • Brasluniau rhagarweiniol o sgôr lleisiol o ‘Requiem’ gan Mansel Thomas. Hefyd, rhai llythyrau oddi wrth Megan Thomas, gwraig y cyfansoddwr, at Ian Parrott, yn trafod argraffu’r symudiad cyntaf. (Mansel Thomas Music Manuscripts, P2/18; UW Aberystwyth Department of Music Archives, 18/2)

 

  • Sgôr lleisiol o ‘Mass for mixed voices’ mewn pum symudiad a threfniant ar gyfer unawd lleisiol a cherddorfa linynnol o ‘Wrth fynd efo Deio i Dowyn’, 1943. (Mansel Thomas Music Manuscripts, P2/17; T2/11.)

 

Mae llawysgrifau cerddorol Mansel Thomas wedi cael ei gatalogio yn ddiweddar fel rhan o Raglen Yr Archif Gerddorol Gymreig. Gallwch weld y disgrifiadau o’r archif fan hyn. Darllenwch fwy am fywyd y cerddor ar flog y Llyfrgell (Cymraeg yn unig).

 

Robert Evans
Swyddog Prosiect yr Archif Gerddorol Gymreig

Postiwyd - 07-06-2019

Collections / Stori Cymru

Llenyddiaeth Stryd: Almanaciau Cymraeg

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio ei hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

 

Almanaciau oedd hoff ddeunydd darllen siaradwyr uniaith Gymraeg o ddechrau’r 17eg ganrif.

Roedd llenyddiaeth fforddiadwy fel yr almanac yn boblogaidd gyda’r dosbarthiadau is, a oedd yn ffurfio rhan fwyaf poblogaeth Cymru. Rhwng c. 1545 a 1801, gwelwyd cynnydd aruthrol ym mhoblogaeth Cymru – a dweud y gwir, gwelwyd e’n mwy na dyblu. Roedd y mwyafrif o’r rhain yn siaradwyr uniaith Gymraeg.

Ond beth yn union yw almanac, a beth drodd hwn yn gymaint o ffefryn?

Nodwedd ddiffiniol yr almanac yw ei galendr blynyddol, ac yn hynny o beth, mae’n ei hanes yn dyddio’n ôl ymhell cyn y wasg brintiedig. Roedd y Dwyrain agos yn cynhyrchu testun a ystyrir i fod yn almanaciau mor bell yn ôl â 500BC. Fodd bynnag, dim ond ar ôl datblygiad argraffu tyfodd yr almanaciau yn eu poblogrwydd.

Cynhyrchwyd yr almanac cyntaf, yn Ewrop yn 1457. Argraffwyd almanaciau blynyddol yn Lloegr o ddiwedd yr 16eg ganrif, ac mi ddatblygont i fod yn werthwyr arbennig yn ystod y canrifoedd dilynol. Dilynodd yr almanac Cymraeg cyntaf yn fuan wedyn.

 

 

Mae stori’r almanac Cymraeg yn dechrau gyda Thomas Jones (1648-1713), mab i deiliwr o Dre’r Ddôl ger Corwen.

Yn 1679, pan yn 18 mlwydd oed, derbyniodd batent ar gyfer ysgrifennu a chyhoeddi almanac cyfrwng Cymraeg blynyddol. Cyhoeddwyd y rhain yn Llundain, o dan y teitl ‘Newyddion Oddi Wrth y Ser’.

Roedd almanaciau Jones rhwng 20 a 24 dalen o hyd. Roeddent yn cynnwys, ynghyd â chalendr blynyddol arferol, deunydd a luniwyd ar gyfer ei gynulleidfa.

Roedd yr almanaciau cyntaf yn cynnwys:

  • Adroddiadau tywydd a chyfnodau’r lleuad
  • Rhestr o farchnadoedd a ffeiriau
  • Canllawiau seryddol a darlleniadau
  • Gwyliau Cristnogol
  • Tablau’r llanw
  • Canllawiau darllen iaith Gymraeg
  • Enghreifftiau o lenyddiaeth Gymraeg a barddoniaeth
  • Cronoleg o ddigwyddiadau hanesyddol
  • Hysbysebion amrywiol

 

 

Roedd almanaciau Jones yn adnoddau defnyddiol ar gyfer y werin Gymreig, yn arbennig ffermwyr; ystyriwch er enghraifft, eu deunydd yn ymwneud â’r amgylchedd a’r tywydd. Roedd y nodweddion seryddol hefyd yn bwydo eu credoau ofergoelus. Roedd Jones yn adnabyddus fel cefnogwr ysgrifenwyr Cymreig, amatur, ac roedd yn cynnig llwyfan printiedig iddynt trwy ei almanac.

Roedd almanac Thomas Jones yn unigryw tan 1695, pan ddoeth y ddeddf Argraffu (a oedd wedi cyfyngu cyhoeddi llyfrau i Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt) i ben. O hynny ymlaen lledodd y diwydiant argraffu trwy Lloegr a Chymru, gan sbarduno cynnydd yn nifer y teitlau almanaciau Cymraeg. Mi arhosodd eu cynnwys serch hynny, yn agos iawn at fformat gwreiddiol Jones.

Mae’r almanac Cymraeg yn aros ar wahân i’w gefndryd Ewropeaidd. Roedd eu cynnwys yn amrywio o wybodaeth feddygol almanaciau canoloesol Lloegr i ddosraniad gweinyddol Ffrainc; fel yr ymddangosodd yn ‘Royal Almanac’ Ffrainc, a sefydlwyd yn 1683. Cynhwysir ‘Barbanera’ yr Eidal (a gyhoeddwyd gyntaf yn 1762) ar gofrestr Cof y Byd UNESCO, sy’n rhoi argraff glir o werth yr almanac.

Yn sicr nid yw’r almanac Cymraeg yn eithriad. Mae’n adnodd pwysig, nid yn unig yn nhermau hanes llenyddol, brodorol a chymdeithasol, ond hefyd fel gwaith o bwys treftadol arbennig.

Steffani W Davies, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Postiwyd - 06-06-2019

Casgliadau

D-Day 75: Cofio glaniadau Normandi

Saith deg pump o flynyddoedd yn ôl, ar ddydd Mawrth y 6ed o Fehefin 1944, glaniodd y lluoedd Cynghreiriol ar draethau Normandi fel rhan o’r ymgyrch morwrol, tir ac awyr mwyaf yn hanes. Marciodd D-Day gychwyn ar ymgyrch hir, wedi’i enwi’n ‘Operation Overlord, i ryddhau gogledd-orllewin Ewrop o feddiant y Natsïaid.

 

Ymosododd degau o filoedd o filwyr, yn bennaf o’r DU, yr UD a Chanada, ar fyddinoedd yr Almaen ar bum traeth ar arfordir gogledd Ffrainc: Utah, Omaha, Gold, Juno a Sword. Yn oriau man y bore hwnnw, glaniodd miloedd o awyr filwyr tu ôl i linellau’r gelyn cyn i’r milwyr traed a’r adrannau arfog ddechrau glanio ar y traethau. Cefnogwyd hwy gan bron i 7,000 o longau milwrol.

 

Cychwynnodd y gwaith o gynllunio Operation Overlord misoedd lawer cyn yr ymosodiad. Roedd dros ddwy filiwn o filwyr o dros 12 gwlad wedi cyrraedd ym Mhrydain erbyn 1944 fel rhan o’r paratoadau. Roedd hyn yn cynnwys bataliwn o filwyr Americanaidd oedd yn aros yng ngwersyll Island Farm ym Mhen-y-bont. Cafodd y cytiau eu hadeiladu’r wreiddiol ar gyfer gweithwyr yn y ffatri arfau cyfagos ond yr oedd yn wag hyd nes dyfodiad yr Americanwyr yn Hydref 1943. Dywedir bod y Cadfridog Dwight D. Eisenhower ei hun wedi ymweld â’r gwersyll yn Ebrill 1944 I gyfarch y milwyr cyn iddynt adael i Ffrainc. Yn hwyrach yn y Rhyfel, defnyddiwyd Island Farm fel gwersyll carcharorion rhyfel ar gyfer swyddogion yr Almaen. Darllenwch fwy am hanes y gwersyll ar Gasgliad y Werin Cymru.

 

 

Ymunodd Leslie Illingworth (1902-1979), y cartwnydd gwleidyddol Cymreig, â’r Daily Mail  yn 1939 ac mae canran uchel o’i waith cynnar a gedwir yma yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ymwneud â thestun yr Ail Ryfel Byd. Mae ei ddarluniad o’r glaniadau yn Normandi, sy’n ddyddiedig y 9fed o Fehefin 1944, yn gal war steil Tapestri Bayeux. Mae’n dangos y Cynghreiriaid yn ymosod ar yr Almaenwyr ar y traethau. Uwch eu pennau mae Churchill, Montgomery ac Eisenhower, ac ar yr ochr mae Hitler, ynghyd â’i gadfridogion arall, yn edrych ymlaen yn ofidus.

 

Erbyn diwedd D-Day, roedd y Cynghreiriaid wedi sefydlu troedle bychan yn Ffrainc. Fe wnaeth hyn arwain at ryddhau Paris ac, yn y pendraw, buddugoliaeth dros y Natsïaid. Cafodd dros 150,000 o filwyr Cynghreiriol eu danfon i arfordir Normandi ar y diwrnod hwnnw, gyda 10,000 o gerbydau milwrol. Bu farw tua 4,400 o’r dynion yma ac anafwyd 10,000 arall.

 

“At dawn’s first light on 6th June our longest day began.” (NLW Facs 1028)

Postiwyd - 03-06-2019

Casgliadau

Emyr Humphreys yn 100

Yn ddiweddar, dathlodd Emyr Humphreys, un o nofelwyr enwocaf a mwyaf blaengar Cymru, ei ben-blwydd yn gant oed. Mae ei ddylanwad ar lenyddiaeth Gymreig wedi bod yn sylweddol. Yn wir, cafodd ei ddisgrifio gan y bardd R. S. Thomas fel ‘the supreme interpreter of Welsh life’.

Ganwyd Emyr Humphreys yn Nhrelawnyd ger Prestatyn, Sir y Fflint. Mynychodd Ysgol Uwchradd Rhyl cyn symud ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol a bu’n gweithio ar fferm cyn cael ei ddanfon i’r Dwyrain Canol a’r Eidal yn weithiwr cymorth yn 1944 ac 1946. Wedi’r rhyfel bu’n gweithio fel athro, cynhyrchydd gyda’r BBC ac, yn hwyrach, fel darlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor cyn gadael i ganolbwyntio ar ei ysgrifennu yn 1972.

 

 

Mae Emyr Humphreys wedi cyhoeddi dros ugain o nofelau ac wedi ennill sawl gwobr am ei waith, gan gynnwys Gwobr Maugham Somerset am Hear and Forgive yn 1953, a Gwobr Hawthornden am A Toy Epic yn 1958. Enillodd hefyd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 1992 am Bonds of Attachment, ac eto yn 1999 am The Gift of a Daughter. Yn ogystal, enillodd wobr gyntaf Siân Phillips am ei gyfraniad i radio a theledu yng Nghymru yn 2004. Ynghyd â rhyddiaith, mae’r awdur hefyd wedi troi ei law at farddoni ac ysgrifennu ffeithiol, yn cynnwys The Taliesin Tradition (1983) sy’n edrych ar hunaniaeth Cymru drwy lenyddiaeth a hanes Cymreig.

Cafodd ei archif gynhwysfawr ei brynu gan y Llyfrgell Genedlaethol yn 1994 a gellid pori’r cynnwys drwy’r Catalog Archifau a Llawysgrifau. Yn bennaf, mae’n cynnwys ei ohebiaeth bersonol a phroffesiynol, a chopïau teipysgrif a llawysgrif o’i weithiau cyhoeddedig ac heb eu cyhoeddi. Mae’r archif yn un swmpus – 79 bocs i gyd – sy’n destament i’w yrfa faith yn ysgrifennu a barddoni am fywyd yng Nghymru.       

Hoffai’r Llyfrgell Genedlaethol dymuno’n dda iddo ar yr achlysur arbennig hwn.

Postiwyd - 20-05-2019

Casgliadau

Hansard yn troi yn ei fedd?

Roedd amser yn brin rhwng y refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru ar 18fed Medi 1997 a chyfarfod cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12fed Mai 1999 i sefydlu’r Cynulliad. Cafodd y ddeddf i sefydlu’r Cynulliad gydsyniad brenhinol ar 31ain Gorffennaf 1998, llai na blwyddyn cyn yr etholiadau cyntaf.

Ymhlith y trefniadau di-ri, oedd cynllunio ar gyfer cofnodi a chyhoeddi trafodion a phenderfyniadau’r Cynulliad. Nid oes llawlyfr am sefydlu senedd, felly dilyn arfer da yn seneddau eraill oedd yw’r amlwg. Efelychu Hansard, fel sydd wedi digwydd yn nifer o seneddau ar draws y Gymanwlad, oedd yr ateb. Roedd Senedd y Deyrnas Gyfunol wedi awdurdodi cofnodi’r trafodion mewn cyfrolau rhwymedig dim ond ers 1909, er bod unigolion fel William Cobbett (1763-1835) a Thomas Curson Hansard (1776-1833) wedi bod yn eu cyhoeddi yn answyddogol ers dros ganrif cyn hynny. Penderfynodd Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon ddilyn yr un drefn.

 

 

Cafodd gyfrol gyntaf Y Cofnod Swyddogol o drafodion y Cynulliad Cenedlaethol ei argraffu ac mae’n cofnodi geiriau cyntaf a draddodwyd yn y Cynulliad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Michael, ar 12fed Mai 1999:

Bore da, bawb. Dyma ddiwrnod hanesyddol i bawb yng Nghymru. Wedi ethol ein Cynulliad am y tro cyntaf erioed, yr ydym yn cyfarfod yn swyddogol am y tro cyntaf. Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac fel Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth, fe’ch croesawaf yma heddiw.

 

 

Fel senedd newydd, bwriad y Cynulliad Cenedlaethol oedd manteisio ar y dechnoleg newydd i fod yn dryloyw. O’r dechrau roedd gwefan i’r Cynulliad, ac roedd y Cofnod Swyddogol yn cael ei gyhoeddi yno. Daeth y fersiwn print i ben ar ôl ychydig mwy a flwyddyn ac ar ôl mis Hydref 2000, dim ond ar y we cafodd y Cofnod ei gyhoeddi o hyn ymlaen.

Cafodd trafodion y Cynulliad eu ffilmio o’r dechrau; rhwng 1999 a 2007 cawsant eu darlledu ar S4C2 ac ers 2007 mae nhw ar gael ar wefan www.senedd.tv. Mae cysylltiadau gyda’r cofnod ysgrifenedig fel bod modd gwylio’r darn priodol a gweld y cofnod, yr agenda a’r papurau perthnasol hefyd. Mae hyn yn agor trafodion y Cynulliad i gynulleidfa llawer ehangach na’r cyfrolau rhwymedig traddodiadol.

 

 

Roedd Y Cofnod Swyddogol yn ddwyieithog o’r dechrau, gyda’r geiriau cyntaf a gofnodwyd yn y Gymraeg ynghyd a chyfieithiad i’r Saesneg. Mae’r drefn yn parhau hyd heddiw, gyda ffeiliau clyweledol ar Senedd TV yn rhoi’r opsiwn o wrando yn yr iaith wreiddiol neu gyda chyfieithiad ar y pryd i’r Saesneg.

Ugain mlynedd ers cyfarfod cyntaf  Cynulliad Cenedlaethol Cymru mae’n anodd meddwl bod hyn i gyd y chwyldroadol. Dim ond yn 1989 cafodd ganiatâd i ffilmio a darlledu trafodion Senedd y DU am y tro cyntaf, a dim ond ers 1997 mae trafodion Senedd y DG ar gael ar y we. Mae’r Cynulliad yn parhau i wneud addasiadau i wella mynediad i’r Cofnod. Erbyn hyn mae’r cofnod yn llawer mwy rhyngweithiol, gyda’r gallu i fynd yn uniongyrchol i ddarn penodol o fusnes, dolenni o’r Cofnod i wybodaeth am yr AC sy’n siarad a ffwythiannau i alluogi copio a rhannu darnau o’r Cofnod ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae Senedd TV yn darparu gwasanaeth tebyg gyda modd dethol clipiau penodol a’u rhannu. Mae’r gwasanaeth presennol yn fyd gwahanol hyd yn oed i’r Cofnod PDF ar lein y cyfarfodydd cynnar.

Buasai’r drefn ar lein a ffeiliau clyweledol i gyd yn ddieithr i Hansard ond beth fuasai wedi meddwl tybed? Troi yn ei fedd? Go brin! Ei nôd oedd gwneud trafodion seneddol ar gael i’r bobl. Dwi’n siŵr buasai’n bles iawn fod y gwaith hynny’n parhau a bod y rhai a ddaeth ar ei ôl dal yn chwilio am ffyrdd newydd i wneud y trafodion ar gael i fwy o bobl.

Rob Phillips
Archif Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Archif Wleidyddol Gymreig

Cynnwys Perthnasol

Postiwyd - 16-05-2019

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Wikimedia a’r sector diwylliant – Astudiaeth effaith newydd

Ym mis Rhagfyr 2017 dechreuodd Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell weithio ar brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru i wella ansawdd gwybodaeth am bobl sy’n gysylltiedig â Chymru ar y Wicipedia Cymraeg.

Cynlluniwyd y prosiect gan ddefnyddio’r ‘Impact Playbook’ newydd gan Europeana gyda’r nod o archwilio a dogfennu’r newidiadau (neu impacts), i wahanol grwpiau rhandaliad o gyflwyno ystod o weithgareddau Wikimedia yn seiliedig ar gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae adroddiad effaith llawn ar gyfer y prosiect bellach wedi’i gyhoeddi.

Mae’r Playbook yn gweithio trwy greu llwybrau newid sydd wedi’u diffinio’n glir yn ystod y broses gynllunio gyda chanlyniadau mesuradwy, gan sicrhau y gellir asesu a mesur ystod eang o ganlyniadau ac effeithiau dymunol ar ddiwedd y prosiect.

Dyma’r tro cyntaf i brosiect sy’n canolbwyntio ar weithgareddau Wikipedia gael ei asesu fel hyn, felly roedd hwn yn gyfle gwych i archwilio a dogfennu effaith gweithio gyda Wikimedia yn y sector diwylliant.

Canolbwyntiodd y prosiect ar ryddhau 4,862 o bortreadau o Gymru i Comin Wikimedia gyda phwyslais ar wella mynediad at gynnwys Cymraeg a darparu cyfleoedd i’r cyhoedd ymgysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Crëwyd Wikidata dwyieithog ar gyfer pob portread. Defnyddiwyd y data hwn i helpu i greu bron i 1,500 o erthyglau newydd ar y Wicipedia Cymraeg, gan ddefnyddio 25% o’r delweddau. Cynhyrchodd y delweddau 1.6 miliwn hit mewn 55 o ieithoedd o fewn mis, gan gynyddu mynediad at wybodaeth am bobl Cymru yn fawr.

 

 

Trwy weithio gyda Menter Iaith Môn, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau mewn ysgolion gan amlygu sut y gall dysgu gyda Wikipedia gyfrannu’n gadarnhaol at dargedau ysgolion ar gyfer yr iaith Gymraeg a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Dangosodd digwyddiad Hacathon y gwerth o ddata agored i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a chofnodwyd nifer o achosion defnydd.

Mae’r prosiect yn dangos sut y gall gweithio gyda Wikimedia helpu sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol i adeiladu a chefnogi cymunedau newydd a chyflawni canlyniadau sy’n cyd-fynd â’u gwerthoedd craidd wrth gynyddu mynediad i’w casgliadau digidol a’u defnydd ohonynt.

Jason Evans

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , ,

<- Cofnodion Hŷn Cofnodion Newydd ->

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog