Search Results

Estyn allan yn Hwlffordd

Collections - Postiwyd 17-12-2018

Y mis hwn mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi agor y drysau i oriel newydd yn Glan-yr-afon yng nghalon tref Hwlffordd. Yr oriel yw canolbwynt canolfan ddiwylliannol a gelfyddydol o ansawdd uchel, gan gynnwys Llyfrgell fodern, ardal plant, gwybodaeth i dwristiaid, siop goffi a hyd yn oed ardal gemau i oedolion ifanc. Nôd yr oriel yw estyn allan y tu hwnt i Aberystwyth a galluogi’r Llyfrgell i rannu trysorau gyda phobl leol ac ymwelwyr â’r ardal. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae ein tîm wedi bod yn gweithio ar y cyd â Chyngor Sir Penfro ar y prosiect. Bydd dwy arddangosfa unigryw newydd ynarddangos eitemau amrywiol o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Stori Sir Benfro a Kyffin Williams: Tir a Môr.

Stori Sir Benfro 

Gall ymwelwyr ddisgwyl gweld casgliad cyfoethog ac amrywiol o eitemau a ddewiswyd yn arbennig gan ein curadur i gynrychioli hanes, diwylliant a thirwedd Sir Benfro. Rhai o’n ffefrynnau yw llythyr gwreiddiol oddi wrth ‘Rebecca’ at Ficer Penbryn yn ystod Terfysgoedd Rebecca a darlun Vase of Flowers gan Gwen John, a gafodd ei geni yn Hwlffordd, sydd yn baentiad o harddwch cynnil ond hefyd â chyfansoddiad cryf.  Mae eitemau unigryw eraill yn cynnwys llawysgrif o sonedau a gyfansoddwyd gan T.E. Nicholas (Niclasy Glais) yn 1940 tra yn y carchar – wedi’u hysgrifennu ar bapur t? bach y carchar! Ar wahân i’r holl eitemau ffisegol, gallwch hefyd bori delweddau o fapiau, ffotograffau, llawysgrifau a phaentiadau o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. O’r llyfr Cymraeg cynharaf i baentiad olew nodedig J. M W. Turner o Gastell Dolbadarn, yn ogystal ag eitemau sy’n ymwneud â Sir Benfro, o brintiadau topograffig i ffotograffau a gweithiau celf.

Kyffin Williams: Tir a Môr 

Pa ffordd well o ddod â dathliadau’r canmlwyddiant a ‘Blwyddyn y Môr’ i ben nag ag arddangosfa sy’n cynnwys casgliad gwych o baentiadau a lluniadau gan artistiaid mwyaf adnabyddus ac amlycaf Cymru o’r ugeinfed ganrif.

Rhai o waith mwyaf eiconig Kyffin yw’r paentiadau olew o dirweddau Cymru, ac mae’r arddangosfa hon yn tynnu sylw at rai o’r gorau yn y genre hwn. Edrychwch am y Penygyrwyd – mae palet tywyll, cryf yr arlunydd yn dod â mynyddoedd dramatig Eryri i Hwlffordd. Mewn cyferbyniad, mae detholiad o ddarluniau’r Wladfa yn dilyn ei ymweliad â De America yn yr 1960au, yn dangos Kyffin ar ei hapusaf, lle mae’r palet lliw yn llawer ysgafnach ac yn adlewyrchu ei hwyliau ar y pryd. Mae detholiad o’i forluniau gorau yn cael eu harddangos. Mae’r paentiad grymus Ton yn torri ar y Creigiau yn dangos sut mae’r paent wedi dod yn estyniad o emosiynau’r artist. Mae morluniau Kyffin yn amlygu ei dechneg y mae’n fwyaf adnabyddus amdani; arddull a nodweddir gan impasto trwchus, gyda’r paent olew wedi’i daenu bron yn gyfan gwbl â chyllell balet.

Ar y ffordd allan o’r oriel ni allwch fethu â sylwi ar y dawelwch cynnes Machlud, Ynys Môn – un o’r darluniau mwyaf myfyriol, a honnir mai hwn yw un o’r olaf a greodd yr artist cyn ei farwolaeth yn 2006.

Byddai’n hawdd iawn parhau i ganu canmoliaeth yr adeilad newydd gwych hwn, ond peidiwch â chymryd ein gair amdano – ewch i weld eich hun!

Mae Glan-yr-afon ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (10 am-5pm) a dydd Mawrth (10am-7pm).

Jaimie Thomas

Swyddog Arddangosfeydd

Dyfroedd Cymru, Dyfroedd y Byd

#CaruMapiau / Collections - Postiwyd 07-12-2018

Yn y Blog hwn, yr olaf ar y thema ‘Blwyddyn y Môr’, rydym yn bwrw golwg dros gasgliad y Llyfrgell o siartiau morol sy’n dyddio o 1800.

Prif bwrpas siartiau yw hwyluso mordwyo a dylent gynnwys gwybodaeth glir, gywir a chyfoes a fyddai’n helpu i gynllunio, amlinellu a chanfod cwrs diogel.  Mae siartiau hefyd yn rhoi gwybodaeth i ymchwilwyr am yr amgylchedd morol ac arfordirol, boed naturiol neu o wneuthuriad dyn, fel yr oedd yn y gorffennol ac fel y mae heddiw.

O ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, y Prydeinwyr oedd yn arwain y ffordd fel gwneuthurwyr siartiau.  Dros amser, o ganlyniad i ddatblygiadau technolegol cafodd gwell siartiau eu cynhyrchu a oedd yn datgelu diofalwch a chamgymeriadau cynharach. Mae’r siart a ddangosir yma er enghraifft, sef siart Sir Benfro 1812 yn nodi cywiriadau i arolwg blaenorol Lewis Morris tra bod siart 1857-1859 yn gofnod manwl ac astrus o’r môr a’r arfordir fel ei gilydd.

O dipyn i beth, disodlwyd mentrau preifat Prydeinig gan waith Swyddfa Hydrograffeg y Morlys, yr UKHO, a gafodd ei sefydlu yn 1795 i ateb gofynion y Llynges Frenhinol yn anad dim.  Mae’r UKHO yn dal yn un o sefydliadau hydrograffeg bwysicaf y byd a’i siartiau’n cael eu cyflenwi’n helaeth i lyngesau, llongau masnach a’r cyhoedd.

Mae mwy na 15,750 o siartiau electronig UKHO ar gael ar hyn o bryd er mai dim ond copïau o’u 3,500 argraffiad dalen y mae’r Llyfrgell yn eu derbyn trwy adnau cyfreithiol.  Mae 12,000 o siartiau modern y Llyfrgell yn cwmpasu lleoliadau ledled y byd ac fe’u derbynnir yn bennaf oddi wrth yr UKHO, ynghyd â’u rhifynnau cysylltiedig gan gynnwys Notices to Mariners a’r Llyfrau Peilot.

O blith y casgliadau atodol y mae siartiau Fflyd y Morlys a oedd ond ar gael yn wreiddiol i’r Llynges Frenhinol, a rhai cyhoeddiadau diweddar o Awstralia, Seland Newydd, Unol Daleithiau’r America, Canada, Yr Ariannin ac ynysoedd y Philippines.

Er yn llai niferus, ceir siartiau a luniwyd yn wreiddiol gan gyhoeddwyr masnachol Prydeinig ac mae eu siartiau hwy o ddyfroedd y famwlad a thramor yn anelu at y byd hamdden a physgotwyr. Gellir cael mynediad i’r casgliad trwy gatalog ar-lein y Llyfrgell a chatalog yr UKHO.

Mae casglwyr mapiau byth a hefyd yn datgan nad yw siartiau modern mor esthetig ddeniadol â’u rhagflaenwyr hynafol lle’r oedd angenfilod a môr-forynion yn ymddangos yn rheolaidd. Serch hynny, y siartiau cyfoes sy’n cynnwys yr wybodaeth fwyaf perthnasol, cywir a diamwys am yr amgylchedd morol.  Maent yn hollbwysig i  warchod bywydau ar y môr ac mae angen talu sylw iddynt wrth hwylio’r moroedd. Defnyddiwch yr wybodaeth hon, sy’n ffrwyth profiad, yn ddoeth a pheidiwch byth ag anghofio’r dyfyniad morwrol ‘Gall gwrthdrawiad ar y môr ddifetha eich diwrnod cyfan’.

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

Cofnodion Llongau Aberystwyth

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 19-09-2018

Creu data agored cysylltiedig ar gyfer cofrestri llongau Fictorianaidd

Mae gwirfoddolwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn trawsgrifio cofnodion llongau o’r 19eg ganrif ar gyfer Aberystwyth, ac mae’r rhain bellach yn cael eu rhannu’n agored gan Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell ar Wikidata.

 

Am y tro cyntaf mae’n bosib gweld a chwestiynu’r cofnod hanesyddol cyfoethog hwn er mwyn i ni gael cipolwg ar fywyd yn Aberystwyth yn y 19eg ganrif.

 

Yn y 18fed a’r 19eg Ganrif, nid oedd yn hawdd cyrraedd Gorllewin Cymru. Cyn dyfodiad y trên a dyfeisio tarmac, y ffordd orau o gael nwyddau i mewn ac allan o Orllewin Cymru oedd ar longau. Roedd y llongau’n ddiwydiant ffyniannus yn nhrefi a phentrefi ar hyd arfordir Gorllewin Cymru ac nid oedd Aberystwyth yn eithriad. Mae cofnodion am fwy na 500 o longau a gofrestrwyd yn Aberystwyth yn goroesi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifdy Sir Ceredigion.

 

Harbwr Aberystwyth gan Alfred Worthington

 

Dechreuodd gwirfoddolwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol drawsgrifio cofnodion llongau Aberystwyth yn 2012. Roedd y data a ddetholwyd ganddynt yn cynnwys gwybodaeth am y llongau, eu criw a’r teithiau a ymgymerwyd ganddynt.

 

Yn 2016 dechreuodd y Llyfrgell archwilio’r posibilrwydd o gyfoethogi rhai elfennau o’r data gan ddefnyddio Wikidata fel llwyfan i’w rannu. Os nad ydych chi’n gyfarwydd â Wikidata, mae’n rhan o’r teulu o wefannau Wikimedia, sy’n cynnwys Wikipedia, ac mae’n gronfa ddata enfawr o ddata agored, am ddim. Nid yw Wikidata yn chwech oed eto ond mae eisoes yn cynnwys 50 miliwn o eitemau data am bob math o bynciau, a ychwanegwyd gan wirfoddolwyr a sefydliadau sy’n dymuno rhannu eu data gyda’r byd. Cydweithiodd Wicimediwr y Llyfrgell gydag Archifdy Sir Ceredigion, sy’n dal gwybodaeth ychwanegol am y llongau, er mwyn creu data cysylltiedig am y llongau eu hunain. Roedd y data hwn yn cynnwys manylion megis math a maint pob llong, dyddiad a lleoliad yr adeiladwaith ac, lle y gwyddys, eu tynged.

 

O hyn, roeddem yn gallu dechrau cloddio yn y data, a chreu darluniau dadlennol. Os ydych chi am weld yr enwau mwyaf poblogaidd ar gyfer llongau a gofrestrwyd yn Aberystwyth, er enghraifft, gallwn adfer a chyflwyno’r wybodaeth hon yn hawdd. Dangosodd map o leoliadau adeiladu’r llongau rhai ffeithiau diddorol hefyd. Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, adeiladwyd llawer o’r llongau yn lleol yn Aberystwyth, Borth ac Aberdyfi, er enghraifft, ond mae’r data hefyd yn dangos bod dwsinau o longau wedi’u hadeiladu yng Nghanada. Darganfyddwyd, trwy ychydig ymchwil, fod llywodraeth y dydd yn mor bryderus am ymosodiad Ffrengig eu bod wedi sefydlu iardiau adeiladu llongau yn fwriadol mewn tiroedd mwy diogel, fel Ynys Tywysog Edward oddi ar Arfordir Canada, er mwyn diogelu’r gallu i symud nwyddau o gwmpas y Deyrnas Unedig.

 

Map Geiriau o’r enwau llongau mwyaf poblogaeth

 

Chwith; llongau adeiladwyd yng Nghanada. Dde; llongau adeiladwyd yn Aberystwyth ac Aberdyfi

Roeddem hefyd yn gallu plotio’r holl longddrylliadau a grybwyllir yn y cofnodion. Mae hyn nid yn unig yn tanlinellu’r peryglon o hwylio yn y 19eg ganrif, ond mae’n dangos sut mae llongau o bentrefi bach Gorllewin Cymru wedi teithio’r byd. O India, Tsieina ac Affrica i Dde America a hyd yn oed y Polyn Deheuol, roedd morwyr Cymru wedi teithio’r byd hysbys.

 

 

Lleoliad llongddrylliadau a gofnodwyd yn y cofnodion llongau

 

Ar ôl y gwaith trawsgrifio cychwynnol, roedd llawer o’r gwirfoddolwyr a oedd wedi gweithio ar y casgliad yn awyddus i wneud mwy, i gasglu mwy o wybodaeth am y llongau, eu criw a’u perchnogion, felly yn 2017 gosodwyd cyfres o dasgau newydd. Dechreuodd gwirfoddolwyr chwilio am ffotograffau a phaentiadau o’r llongau, ymchwilio i dynged mwy o’r llongau, cofnodi perchnogion pob llong a dechrau’r dasg enfawr o ymchwilio i fywydau meistr pob llong a enwir yn y cofnodion.

 

Er y bydd y dasg o nodi’r holl feistri llongau yn cymryd peth amser eto, mae’r cyntaf o’r tasgau bellach wedi’i gwblhau. Mae data am berchnogion pob llong yn bodoli yn y cofnodion llongau gwreiddiol, ond nid oedd hyn o fewn sgôp y prosiect gwreiddiol, felly rydym ni’n ddiolchgar iawn i ddau o’r gwirfoddolwyr a oedd yn gweithio ar y prosiect gwreiddiol, Lilian a Myfanwy am fynd yn ôl drwy’r cofnodion, a ffynonellau eraill megis y ‘Crew List Index Project’ a thynnu’r data allan. Mae llawer o’r data bellach wedi’i ymgorffori gyda gweddill y data ar gyfer y llongau ar Wikidata. Ar wahân i ddarparu ffordd hawdd i chwilio ac archwilio’r data a gedwir yn y casgliad, mae’r Wikidata yn ein galluogi i holi a darlunio’r data mewn ffyrdd newydd, sy’n ein helpu i ddeall yn well beth mae’r cofnodion yma’n ei ddweud wrthym.

 

Mae’r data newydd nawr yn golygu, ar gyfer llawer o longau, y gallwn siartio eu perchnogaeth trwy gydol eu bywyd ar y moroedd. Rydym hefyd wedi gallu creu eitemau data ar gyfer pob un o berchnogion y llongau, boed yn unigolion neu gwmnïau llongau sefydledig. Gwyddomy lleoliad lle seliwyd y cwmnïau, a lle roedd unigolion yn byw, ac rydym yn gwybod, o’u henwau prun ai oeddent yn ddynion neu’n fenywod.

 

Er enghraifft, allan o’r 630 o berchnogion a nodwyd, mae 47 yn fenywod. Byddai angen mwy o ymchwil, ond ar yr olwg gyntaf, mae’n edrych fel bod y rhan fwyaf o’r 47 wedi cymryd perchnogaeth yn dilyn marwolaeth eu gw?r.

 

Mae’r cofnodion yn dangos sut yr oedd y llongau’n newid dwylo’n rheolaidd. Os y cymerwn ni’r ‘Volunteer’ (enw addas), gallwn lunio siart sy’n dangos ei holl berchnogion, y llongau eraill y mae’r bobl hynny berchen, a pherchenogion eraill y llongau hynny – sydd yn peintio darlun cymhleth o’r busnes perchnogaeth llongau yng Ngorllewin Cymru. A dylid nodi, mewn sawl achos, mai prif gyfranddalwyr neu berchennog/rheolwr penodedig yw’r 630 o berchenogion a nodir. Roedd gan lawer o’r llongau hyn gyfranddalwyr lluosog, gan olygu bod gan nifer o bobol o gefndir gwahanol, y gallu i fforddio buddsoddi yn y fasnach longau prysur.

 

 

Perchnogion y  ‘Volunteer’ efo llongau a perchnogion cysylltiedig

 

Gallwn hefyd weld pwy oedd y unigolion pwysig yn Aberystwyth trwy chwilio’r data am berchnogion llongau yn ôl y nifer y llongau yr oeddent yn berchen. Daeth Thomas Jones, gwneuthurwr llongau Aberystwyth i’r blaen, yn berchen fwy na 20 o longau o un adeg i’r llall.

 

Perchnogion llongau yn ol  nifer o llongau

 

Llinell amser o longau sydd yn berchen i Thomas Jones

Mae Wikidata, fel Wikipedia, yn llwyfan y gall unrhyw un ei olygu felly nawr gall unrhyw un helpu i wella’r data. Os ydynt yn gweld camgymeriadau, neu os oes ganddynt wybodaeth ychwanegol, gellir ei ychwanegu’n hawdd i Wikidata. Mae ein gwirfoddolwyr yn dal i weithio’n galed i gasglu rhagor o ddata, felly bydd y data sy’n gysylltiedig â chofnodion Llongau Aberystwyth yn parhau i dyfu dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Mae pawb yn rhydd i archwilio ac ailddefnyddio’r data, felly ar gyfer y rhai yn eich plith sy’n dechnegol, mae croeso i chi hacio, creu, mashio ac ail-weithio ein data, a sicrhewch eich bod yn rhannu’r canlyniadau gyda ni!

 

 

Jason Evans

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , , , ,

Datgelu’r Gwrthrychau: Cyhoeddiadau Gwleidyddol

Casgliadau / Digido - Postiwyd 24-08-2018

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, cyhoeddiadau gwleidyddol sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.

 

Richard Price – A Discourse on the Love of our Country (1789)

Roedd Richard Price yn weinidog, athronydd ac yn gyfrifydd yswiriant. Caiff ei gofio’n bennaf fel traddodwr y bregeth enwog ‘A Discourse on the Love of our Country’ (1789); sef mynegiant o gefnogaeth tuag at egwyddorion y Chwyldro Ffrengig. Fe sbardunwyd pamffled gwleidyddol enwog Edmund Burke: ‘Reflections on the Revolution in France’ gan eiriau Price. Ystyrir y cyhoeddiad yn glasur erbyn heddiw. Wedi marwolaeth Richard Price ym 1791 fe gynhaliwyd cyfnod galaru swyddogol ym Mharis i’w anrhydeddu.

David Williams – Letters on Political Liberty, and the principles of the English and Irish projects of reform (1789)

Pamffledwr gwleidyddol oedd David Williams. Yn ei gyhoeddiad ‘Letters on Political Liberty’ y mae Williams yn cefnogi ac yn amddiffyn rhai o syniadau radicalaidd ymsefydlwyr Americanaidd, yn bennaf oll ynghylch diwygio ac ad-drefnu gwleidyddol. Cyfeiria hefyd at ei ddamcaniaeth bersonol am rôl seneddwyr gwleidyddol. Yn ei dyb, fe ddylai deiliaid y fath swyddi ymddwyn fel ymddiriedolwyr a gwarcheidwaid hawliau dynol. Magodd David Williams enwogrwydd yn Ffrainc. Dosbarthwyd ei gyhoeddiad ‘Letters on Political Liberty’ yn eang yno wedi iddo gael ei gyfieithu i’r Ffrangeg. Fe werthfawrogwyd y gwaith yn arbennig gan arweinwyr y Chwyldro a dyfarnwyd dinasyddiaeth Ffrengig i Williams.

John Jones (Jac Glan-y-gors) – Seren tan gwmmwl, neu ychydig sylw ar frenhinoedd, escobion, arglwyddi, &c. a llywodraeth Lloegr yn gyffredin. Wedi ei ysgrifennu er mwyn y Cymru uniaith (1795)

Cofir am Jac Glan-y-gors fel awdur dychanol; yr oedd hefyd yn geidwad tafarn nodedig. Yn ei bamffled ‘Seren tan gwmmwl’ trafoda’r awdur syniadau Thomas Paine drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gyflwyno ei ddamcaniaethau i gynulleidfa newydd. Yr oedd yn rhannu’r un egwyddorion a Paine ynghylch rhyfel, y frenhiniaeth, yr Eglwys Sefydledig, a hawliau dynol. Caiff y rhain oll eu trafod yn ‘Seren tan gwmmwl’. Yr oedd Jac Glan-y-gors yn aelod blaenllaw o gymdeithas Cymry Llundain ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a chydsefydlodd Cymdeithas y Cymreigyddion.

Unofficial Reform Committee – The Miners’ Next Step: being a suggested scheme for the reorganization of the Federation (1912)

Maniffesto ar ffurf pamffled yw ‘The Miners’ Next Step’ a ffurfiwyd ei gynnwys gan Bwyllgor Diwygio answyddogol. Daethpwyd a’r pwyllgor ynghyd gan Noah Ablett (glöwr ac arweinydd Undeb Llafur), yn ogystal ag A. J. Cook, Henry Mainwaring ac eraill. Maniffesto syndicalaidd ydyw, a rhoddwyd cryn gyhoeddusrwydd i’w gynnwys. Drwy ‘The Miners’ Next Step’ y mae’r pwyllgor yn ymgyrchu dros ddiwygiadau ym mherchnogaeth, rheolaeth a threfniant y pyllau glo, ceir cyfeiriad hefyd at greu undeb diwydiannol unigol a chynhwysfawr. Yn ogystal, cyflwynir y syniad y dylai’r diwydiant gael ei reoli a’i berchnogi gan weithwyr. Ysgogodd ‘The Miners’ Next Step’ trafodaethau dwys o fewn y maes diwydiannol ac mae’n hysbys heddiw am ei syniadau Syndicalaidd a Marcsaidd.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: ,

Datgelu’r Gwrthrychau: Llenyddiaeth Gymreig tu hwnt i Gymru

Digido - Postiwyd 20-07-2018

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, llenyddiaeth Gymreig y hwnt i Gymru sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido yn sgil y prosiect.

 

Ellis Pugh – Annerch i’r Cymry iw galw oddiwrth y llawer o bethau at yr un peth angenrheidiol er mwyn cadwedigaeth eu heneidiau (1721)

Ymfudwr a Chrynwr nodedig oedd Ellis Pugh, a ddaeth yn aelod o Eglwys y Cyfeillion (Friends Church) yn ddeunaw oed. Ym 1686 teithiodd yntau, ynghyd â’i deulu a llawer o Gymry eraill, i Bensylfania. Erbyn haf 1686, yr oedd Pugh wedi ymsefydlu yn yr Amerig fel amaethwr a gweinidog. Ar ei ôl, fe adawodd Ellis Pugh waith swmpus ar ffurf llawysgrif, o dan y teitl ‘Annerch ir Cymru’. Cyhoeddwyd y gwaith yn ddiweddarach ym Mhensylfania ym 1721, a chaiff ei gydnabod fel y llyfr Cymraeg cyntaf i’w gyhoeddi yng Ngogledd America. Yn ddigon tebyg i’r sefyllfa yng Nghymru, defnyddiwyd y diwydiant argraffu i ledaenu gwerthoedd a chredoau crefyddol.

Owain Myfyr, William Owen Pughe ac Iolo Morganwg – The Myvyrian archaiology of Wales: collected out of ancient manuscripts (1801-7)

Yn y cyhoeddiadau arwyddocaol hyn ceir cofnod o farddoniaeth Cymraeg a Chymreig cynnar, Brutiau, a Chroniclau. Fe’i cyhoeddwyd mewn tair cyfrol, dau ym 1801, a’r naill ym 1807. Yn ôl rhai ysgolheigion, symbyla hwy ddiwedd cyfnod y llawysgrif yng Nghymru. Owain Myfyr a William Owen Pughe oedd yn bennaf gyfrifol am dynnu’r cyhoeddiadau ynghyd, ond fe’u cynorthwywyd hefyd gan Iolo Morganwg wrth lunio’u cynnwys. Enwyd y cyfrolau serch hynny ar ôl Owain Myfyr, wedi iddo gyfrannu’n hael iawn yn ariannol i’r fenter; mae’n debyg rhwng pedwar a phum mil o bunnoedd. Teithio ar hyd a lled llyfrgelloedd Cymru a wnaeth Iolo Morganwg er mwyn darganfod ystod o ddeunydd i’w cynnwys, a strwythuro’r ffynonellau hynny a wnaeth William Owen Pughe, er mwyn eu paratoi ar gyfer y wasg. Nid oedd y fenter yn hollol lwyddiannus, a chafwyd cryn broblemau wrth drawsysgrifio’r gwaith. Yn ogystal, ni wnaeth yr amheuon cynyddol ynghylch dibynadwyedd gwaith Iolo Morganwg unrhyw gyfiawnder â gwerthiant diweddarach y cyfrolau.

Iolo Morganwg – Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829)

Roedd Edward Williams (Iolo Morganwg) yn fardd, awdur a hynafiaethydd nodedig. Bu’n aelod brwd o gymdeithasau Cymry-Llundain ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ac fe effeithiwyd ef yn fawr gan ddatblygiadau diwylliannol a hynafiaethol y cyfnod. Ym 1792, cynhaliodd Iolo gyfarfod cyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn Llundain. Yn ystod yr achlysur hwnnw, cyflwynodd ffurf o dderwyddiaeth, ond fe ddarganfuwyd yn ddiweddarach nad oedd gan y fath gynulliad wreiddiau hanesyddol. Y mae Iolo ymhlith rhai o ffigyrau hanesyddol a llenyddol mwyaf dadleuol Cymru. Fe gyhoeddwyd y gyfrol ‘Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain’ ym 1829, tair blynedd wedi marwolaeth yr awdur. Thesis unigryw ydyw ar darddiad y grefft farddonol Cymraeg ac fe arddangosa’r awdur ei afael gadarn ar y pwnc yn y gyfrol. Serch hynny, y mae dychymyg neilltuol Iolo i’w weld yn glir yn ‘Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain’. Gwrthoda’r safonau a ffurfiwyd gan Dafydd ab Edmwnd yn y bymthegfed ganrif, gan gynnig yn eu lle hen fesurau caeth, yn ogystal â rhai newydd. Cefnogodd Iolo ei ddamcaniaethau â ffug enghreifftiau. Yr oedd y rhain yn deillio o waith beirdd hynafol Morgannwg, ac yn nhyb Iolo, yn brawf o ragoriaeth ac awdurdod llenyddol beirdd ei ardal enedigol.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: ,

Datgelu’r Gwrthrychau: Baledi

Casgliadau / Collections / Digido - Postiwyd 13-07-2018

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, baledi sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu cyfrannu yn sgil y prosiect.

Yn ystod y ddeunawfed ganrif, a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, argraffwyd baledi ar raddfa eang iawn gan y gweisg newydd yng Nghymru. Fe’i gwerthwyd i’r cyhoedd yn aml mewn ffeiri a marchnadoedd, lle y canwyd hwy gan eu gwerthwyr. Roedd cynnwys y faled Gymreig yn medru amrywio. Ymdriniodd rhai â themâu crefyddol a moesol; adroddodd eraill newyddion cyfoes, megis troseddau lleol a chenedlaethol, terfysgoedd neu ddamweiniau diwydiannol; bu hanesion a chwedloniaeth yn destunau poblogaidd ar gyfer baledi hefyd.

Chwaraeodd y faled rhan flaenllaw ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd baledi’n cael eu hargraffu ledled Cymru: mewn 96 o drefi a phentrefi. Prynwyd hwy yn eu miloedd, yn aml iawn gan haenau is y gymdeithas. Denwyd a recriwtiwyd darllenwyr Cymraeg newydd gan faledi oherwydd natur boblogaidd eu cynnwys.

 

Alban Thomas, ‘Cân o senn iw hên feistr Tobacco’, 1718

‘Cân o senn iw hên feistr Tobacco’ oedd y faled cyntaf i’w chyhoeddi gan wasg swyddogol yng Nghymru. Fe’i cyhoeddwyd gan Wasg Isaac Carter yn Nhrefhedyn ym 1718. Trafoda’r faled natur anfoesol tybaco.

Lewis Davies, ‘Pennillion a wnaeth Lewis Davies o Lanrwst, i ffarwelio a’i wlad wrth gychwyn i America’, 18??

Ffarwelio â’i gyd-wladwyr a wna Lewis Llanrwst Davies yn y faled hon, wrth iddo gychwyn ar ei daith i’r Amerig.

Ywain Meirion, ‘Rhyfel-gan, am wrthryfel yr India, a gorchfygu y gelynion, a meddiannau Delhi’, 18??

Cân rhyfel yw’r faled hon. Trafoda Ywain Meirion ymosodiad y Prydeinwyr ar India, wrth iddynt drechu’r ‘gelyn’ gan feddiannu Delhi.

Di-enw, ‘Ymweliad y cholera, ynghyd â galwad ar bawb i ymofyn am gymod â Duw cyn eu symud i’r byd tragwyddol’, 18??

Mae’r faled hon yn cyflwyno dau rybudd i’w darllenwyr ynghylch epidemig y colera yng Nghymru. Fe drafodir perygl y clefyd ei hun ar yr un llaw, ond gelwir hefyd ar bob dioddefwr i gymodi â Duw cyn iddynt symud i’r byd tragwyddol.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: ,

Cofio “Cymry 1818”

Casgliadau / Digido / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 25-06-2018

Ar ddechrau haf 1818 roedd criw o Gardis mentrus o ardal Cilcennin ar fin cwblhau taith eithriadol o hir a thrafferthus.  Mae’n annhebygol bod yr un ohonyn nhw wedi crwydro fawr pellach na’u milltir sgwâr cyn hynny, ond roedd yr ysfa i adael bro eu mebyd i geisio bywyd gwell wedi eu hysgogi i deithio dros dair mil o filltiroedd o berfeddion Ceredigion i Ogledd America.

Ymuno â Chymry a oedd eisoes wedi ymsefydlu yn Paddy’s Run yng ngorllewin Ohio oedd eu bwriad – a phwy fyddai’n gweld bai arnynt? Roedd yno diroedd gwastad a ffrwythlon a digonedd o gyfleoedd i ymfudwyr glew a oedd yn barod i fentro.  Yng nghefn gwlad Cymru, roedd cymunedau’n dioddef gorthrwm a thlodi yn sgil twf yn y boblogaeth, trethi a rhenti uchel a chyfres o gynaeafau gwael yn 1815 a 1816. ‘Does dim rhyfedd felly bod John Jones Tirbach, tafarnwr “Y Ship” ym mhentref Pennant, wedi llwyddo i ddwyn perswâd ar chwe theulu estynedig o’r ardal i godi pac a’i morio hi am America.

 

Ar 1 Ebrill 1818 aeth mintai o tua 36 o ymfudwyr ar gwch o harbwr Aberaeron i Lerpwl ac yna, ar ôl cael hyd i long addas, dyma fentro ar draws yr Iwerydd. Ar ôl mordaith o bron i ddeufis – a cholli merch fach ar y môr – glaniodd y Cymry yn Chesapeake Bay gan fynd yn eu blaenau wedyn mewn wagenni i Pittsburgh ac yna ar gychod fflat i lawr afon Ohio.  Croniclwyd hanes eu taith ynghyd â rhai o’r profiadau cyntaf gawson nhw yn eu cartref newydd gan Virgil H Evans, yn The Family Tree of John Jones Tirbach.

Daeth trobwynt yn hanes y criw ar ôl iddyn nhw lanio yn nhref Gallipolis yn ne ddwyrain Ohio. Penderfynwyd rhoi’r gorau i’r holl deithio blinedig ac yn hytrach na bwrw am gymuned Gymreig Paddy’s Run, ymgartrefodd y Cymry yn y fan a’r lle.  Yn ddiweddarach, daeth y fintai hon yn adnabyddus fel “Cymru 1818” a sefydlwyr y gymuned Gymreig enwog yn siroedd Jackson a  Gallia yn ne ddwyrain y Ohio.

 

Ychydig iawn o Gymry a’u dilynodd am nifer o flynyddoedd ond yn y tridegau dechreuodd yr ymfudo o’r newydd, gyda theulu fan hyn a theulu fan draw yn codi pac ac ymuno â’u cymdogion gynt yn Jackson a Gallia.  Erbyn 1850 roedd tua 3,000 o Gardis wedi croesi’r Iwerydd er mwyn dechrau bywyd newydd yn ardal Tyn Rhos, Moriah, Nebo, Centerville, Peniel, Oak Hill a Horeb.  Aethant  â’u diwylliant, eu traddodiadau a’u crefydd gyda nhw ac yn ôl un adroddiad yn Y Cenhadwr Americanaidd, nid oedd Jackson a Gallia yn ddim ond Sir Aberteifi ar raddfa fawr!

Ddwy ganrif yn ddiweddarach, mae’r cof am yr ymfudwyr hyn yn fyw o hyd ar bob ochr i’r Iwerydd ac mae’r cysylltiadau rhwng de ddwyrain Ohio a Cheredigion yn parhau.  Trwy ymdrechion Canolfan Madog ym Mhrifysgol Rio Grande, cymwynaswyr megis Evan a Bet Davis a threfnwyr dathliadau Cymru-Ohio 2018 yn ardal Aberaeron, cynhelir fflam y berthynas rhwng Cymru ac Ohio.  Gweledigaeth a haelioni Evan a Bet Davis fu’n gyfrifol hefyd am sicrhau bod stori’r ymfudo o Gymru i Ohio ar gof a chadw at y dyfodol.  Mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, crëwyd Gwefan Cymru-Ohio i gofnodi’r holl hanes a sicrhau parhad y berthynas yn y byd modern.

 

Menna Morgan

Mynediad Digidol

Deg Arwr Cartograffeg Cymru

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 17-05-2018

Yfory, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cynnal trydydd Symposiwm Map Cymru – Carto Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ein thema eleni yw Siartio’r Moroedd, ond ar gyfer y blog hir hwn rwyf wedi penderfynu cymryd golwg ar rai o’r enwau mawr yng nghartograffeg Cymru a’u llwyddiannau.

1) Humphrey Llwyd Cambriae Typus, 1573
Humphrey Llwyd yw tad cartograffeg Cymru a chynhyrchodd y map printiedig cyntaf o Gymru’n benodol

2) Robert JohnsonArolwg maenorau Crughywel a Tret?r, 1587
Arolwg Robert Johnson o faenorau Crughywel a Tretower yw’r enghraifft gynharaf y gwyddom amdani o arolwg ystad a grëwyd gyda mapiau yn rhan greiddiol o’r arolwg

3) George Owen Penbrochiæ comitatus, 1602
Mae map George Owen o Sir Benfro yn cynnwys nifer o nodweddion blaengar megis darluniad o ffyrdd a grid alffaniwmerig gyda mynegai enwau lleoedd yn cynnwys cyfeirnodau

4) Gabriel Thomas – Pennsylvania and West Jersey, 1698
Roedd Gabriel Thomas yn Gymro a ymgartrefodd ym Mhensylfania ac a ysgrifennodd lyfr am y drefedigaeth, ac roedd y gyfrol hon yn cynnwys map cynnar o’r drefedigaeth wedi’i gynhyrchu gan y gwerthwr mapiau o Lundain, Philip Lea.

5) Thomas Taylor The Principality of Wales exactly described, 1718
Cynhyrchodd Thomas Taylor yr atlas cyhoeddedig cyntaf yn benodol o Gymru

6) Emanuel Bowen – A New and Accurate Map of South Wales, 1729
Map Emanuel Bowen o Dde Cymru oedd y map mwyaf manwl oedd i’w gael o Dde Cymru pan gyhoeddwyd ef, ac am genhedlaeth wedi hynny.

7) Lewis Morris – Plans of harbours, bars, bays and roads in St. George’s Channel, 1748
Roedd Lewis Morris yn bolymath; yn wreiddiol o Ynys Môn, fe gynhyrchodd gyfres o siartiau manwl o arfordir Cymru er mwyn gwella diogelwch i longau oedd yn hwylio o amgylch arfordir Cymru. Ychwanegwyd at ei waith yn ddiweddarach gan ei fab, William

8) Lewis Evans – A map of the middle British colonies in North America, 1755
Roedd Lewis Evans yn Gymro arall oedd yn gweithio yn America; y mae ei fap o’r gwladfeydd Prydeinig ymysg y pwysicaf a’r mwyaf dylanwadol o fapiau’r cyfnod, ac roedd yn dal i gael ei atgynhyrchu ar adeg Rhyfel Annibyniaeth America.

9) John Evans – Map of North Wales, 1795
Gwnaeth map John Evans yr un peth i Ogledd Cymru ag y gwnaeth map Bowen i Dde Cymru, h.y. darparu portread manwl a safonol o’r ardal.

10) Robert Roberts Darluniad y Ddaear, 1805
Roedd Robert Roberts yn Ddaearyddwr o Gaergybi; cynhyrchodd rai o’r mapiau cyntaf i gael eu cyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Cyhoeddwyd y map hwn o’r byd yn wreiddiol yn Y Geiriadur Ysgrythyrol gan Y Parch. Thomas Charles, ac fe’i hailargraffwyd nifer o weithiau ynddo, ac mewn cyhoeddiadau eraill

Huw Thomas
Curadur Mapiau

Merched Cerddorol Cymru

Casgliadau / Cerddoriaeth - Postiwyd 06-03-2018

Gan fod mis Mawrth yn Fis Hanes Merched a Dydd Iau 8fed Mawrth yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched mae’n gyfle i dynnu sylw at rai o archifau’r merched yng Nghymru sydd wedi serennu fel cyfansoddwyr, cerddorion a pherfformwyr.

Eleni byddwn yn dathlu canmlwyddiant geni’r gyfansoddwraig Dilys Elwyn Edwards (1918 – 2012) yn y Llyfrgell Genedlaethol gyda darlith gan Geraint Lewis ar “Dathlu Dilys: Brenhines Ein Cân” ar 11 Gorffennaf. Mae archif Dilys yn y Llyfrgell ac rydym wedi cyhoeddi rhai o’i chyfansoddiadau enwocaf yn ddigidol ar wefan T? Cerdd ‘Darganfod Cerddoriaeth Cymru’.  Ar y wefan honno hefyd ceir gweithiau gan Morfydd Owen (1891-1918) a byddwn yn nodi canmlwyddiant marwolaeth annhymig Morfydd Llwyn Owen yn nes ymlaen eleni mewn cydweithrediad a G?yl Gregynog.

Hefyd yn y Llyfrgell Genedlaethol mae archif Grace Wiliams (1906-77) un o gyfansoddwyr proffesiynol cyntaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif i ennill bri cenedlaethol arwyddocaol. Roedd yn un o ddisgyblion Vaughan Williams ac yn gyfaill i Benjamin Britten, ac mae ei harchif yn cynnwys casgliad helaeth o’i chyfansoddiadau. Ymhlith y cyfansoddwyr mwyaf diweddar rydym yn casglu yn y maes clasurol mae Hilary Tann sydd o Gymru ond bellach yn byw yn America.

Yn y byd gwerin mae nifer o ferched wedi gwneud eu marc, gan gynnwys Phyllis Kinney sydd yn awdurdod pennaf ar ein cerddoriaeth gwerin. Un o’r cyfeiriadau cynnar yw gan Walter Davies at  ‘Enwau Ceingciau adnabyddus i Gwen verch Wiliam, Cantores o Drev Rhiwaedog, o gylch 1550′. Maria Jane Williams (c.1795 – 1873) a gyhoeddodd ‘The Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg’ yn 1844. Y fezzo-soprano Mary Davies (1855-1930) oedd cyd-sylfaenydd a Llywydd cyntaf Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Roedd gwragedd yn weithgar yn Gymdeithas, a cheir yn archif J Lloyd Williams nifer o lawysgrifau a gasglwyd gan Mary Richards Darowen,  Jane Catherine Lloyd, Ruth Lewis a Jennie Williams. Roedd Ruth Herbert Lewis yn arloeswraig – y person cyntaf i gasglu’r caneuon gyda pheiriant ffonograff Edison yng Nghymru, ac roedd Dora Herbert Jones a Grace Gwyneddon Davies hefyd yn weithgar gyda’r Gymdeithas. Yn ddiweddarach yr oedd Eunice Bryn Williams (m. 1991) yn gysylltiedig â gwaith Cymdeithas Alawon Cymru, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, ac eisteddfodau lleol a chenedlaethol, a threfnwyd a chyhoeddwyd llawer o alawon gan E. Olwen. Jones.

O ran perfformwyr mae gennym archifau Leila Meganne y gantores opera,  llythyrau gan Adelina Patti, llyfrau sgrap y gantores Clara Novello Davies,  papurau’r gantores Ceinwen Rowlands ac yn fwyaf diweddar ran gyntaf archif y delynores Llio Rhydderch.

Dyma flas o’r archifau sydd yn y Llyfrgell . Cysylltwch â ni os gwyddoch am archif un o Ferched Cerddorol Cymru  – rydym yn parhau i lenwi bylchau yn ein casgliadau.

 

 

Nia Mai Daniel

Rheolwr Rhaglen			Programme Manager 
Yr Archif Gerddorol Gymreig	The Welsh Music Archive
@CerddLLGC			@MusicNLW

Gwyddonydd Fictoraidd: William Robert Grove

Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 08-01-2018

Ar ddydd Mercher y 10fed o Ionawr bydd Yr Athro Iwan Morus yn rhoi sgwrs awr ginio ar William Robert Grove.

Gwyddonydd o Abertawe oedd Grove a fagwyd yn ystod bwrlwm y chwyldro diwidiannol oes Fictoria. Ganwyd ef yn 1811 i deulu oedd yn flaenllaw yn y byd masnachol a chyhoeddus yn Abertawe. Yn y byd hwn roedd gwerthfawrogiad o bwysigrwydd gwyddoniaeth a’i ddefnydd mewn bywyd beunyddiol yn gyffredin. Roedd rhai o gymdogion Grove yn cynnwys y botanydd Lewis Weston Dillwyn a’r diwydiannwr John Henry Vivian. Daeth y ddau ohonynt yn gymrodyr o’r Gymdeithas Frenhinol, fel y daeth Grove ei hun: tystiolaeth o etifeddiaeth wyddonol Cymru o’r cyfnod.

Astudiodd Grove yng Ngholeg Brasenose, Rhydychen, cyn symud i Lundain i ddechrau gyrfa yn y Gyfraith. Trodd ei ddiddordeb i wyddoniaeth ac yn benodol ar adweithiau cemegol sy’n cynhyrchu trydan. Darganfyddodd y batri asid nitrig (cell Grove) a denodd sylw Faraday. Fe’i hetholwyd yn gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol yn 1840 a phenodwyd ef yn Athro yn Sefydliad Llundain flwyddyn yn ddiweddarach.

Gweledigaeth Grove oedd y gallai’r batris yma gael eu defnyddio yn y dyfodol i bweri cerbydau trafnidiaeth. Daeth hyn yn wir pan defnyddiodd y peirianydd Almaenig, Moritz Hermann von Jacobi, gyfres o fatris Grove i bweru cwch modur electromagnetig ar yr afon Neva yn Sant Petersburg. Hefyd defnyddiwyd y dechnoleg gan y diwydiant telegraff yn America.

Wrth i Grove arbrofi ymhellach datblygodd y batri nwy drwy osod tiwbiau o Ocsigen a Hydrogen bob yn ail mewn asid sylffwrig gwanedig a’i cysylltu gyda ffoil Plantina, batri felly oedd yn troi Ocsigen a Hydrogen mewn i drydan a d?r. Hwn oedd rhagflaenydd y gell danwydd modern. Hefyd  cyflwynodd syniadau cynnar ar gadwraeth ynni.

Erbyn marwolaeth Grove yn 1896 rhagwelwyd dyfodol gan rai lle byddai trydan yn holl-bwerus. Er na wireddwyd y freuddwyd gyflawn (daeth glo a nwy i’r amlwg) mae technoleg batris wedi datblygu’n aruthrol, ac yn gwbl sylfaenol i liaws o agweddau o fywyd cyhoeddus. Os llwyddir i greu technoleg trydanol newydd a glan, bydd y ddyled yn fawr i’r g?r nodedig hwn o Abertawe.

Yn ddiweddarach, dychwelodd Grove i faes y gyfraith, daeth yn Gwnsler y Frenhines ac fe’i penodwyd yn farnwr.

I archebu tocyn i glywed darlith yr Athro Morus dilynwch y linc hon.

Cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru lyfr gan yr Athro Iwan Morus ar William Robert Grove llynedd yn y gyfres ar Wyddonwyr Cymru. Mae modd darllen y gyfrol yn y Llyfrgell drwy ei archebu yma.

 

 

Hywel Lloyd

Llyfrgellydd Cynorthwyol

Cydnabyddir erthygl gan yr Athro Iwan Morus a ymddangosodd ar wefannau The Conversation a Phrifysgol Aberystwyth wrth ysgrifennu’r blog hwn.

 

Tagiau: ,

Rhwydwaith Moderniaid Cymru (MONC)

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 11-09-2017

Bydd ail gynhadledd Rhwydwaith Moderniaid Cymru (MONC) yn digwydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth, ar 12-13 Medi 2017, gyda ‘Gair a Delwedd’ fel thema.

https://modernistnetworkcymru.files.wordpress.com/2017/06/monc-2017-programme-final-welsh.pdf

I gyd fynd â’r gynhadledd mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn arddangos llawysgrifau ac archifau yn ymwneud â rhai o awduron ac artistiaid pwysicaf Cymru o’r ugeinfed ganrif. Mae’r eitemau sydd i’w gweld fel a ganlyn:

  • drafft llawysgrif gan David Jones o ddiwedd Rhan V In Parenthesis, gyda braslun o filwr, [c. 1932-5] (David Jones Papers LP2/6),
  • diagram lliw gan David Jones yn darlunio llinach mytholeg (David Jones Papers LO3/3),
  • llythyrau oddi wrth T. S. Eliot at David Jones (David Jones Papers CT1/2)
  • detholiad o lyfrau nodiadau Ray Howard-Jones, yn dangos cerddi drafft a lluniau (Ray Howard-Jones Papers H2/3),
  • papurau’r bardd R. S. Thomas mewn perthynas â chyhoeddi The Way of It (1977), casgliad darluniedig o’i gerddi (NLW MS 23474C),
  • llythyrau oddi wrth y ffotograffydd ac arlunydd John Piper at y cyfansoddwr Alun Hoddinott (The Alun Hoddinott Archive BA1/23),
  • brasluniau gan yr arlunydd Gwen John (NLW MS 22297B),
  • nodiadau Gwen John ar gelfyddyd (NLW MS 22284B),
  • Birds in Winter’, cerdd darluniedig o waith Berta Ruck, a brynwyd yn ddiweddar gan y Llyfrgell (gweler y Berta Ruck Archive),
  • papurau’r awdur ac arlunydd Brenda Chamberlain (NLW MS 24065E),
  • map braslun gan Dylan Thomas o dref Llareggub, lleoliad Under Milk Wood: A Play for Voices (NLW MS 23949E),
  • llythyr, 16 Mehefin 1953, oddi wrth Thomas at ei gariad Americanaidd Liz Reitell (NLW MS 24091D),
  • a chopi yn llaw Thomas o’i gerdd ‘Ears in the turrets hear’ (NLW MS 23990D).

Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Ystafell Summers yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 12-13 Medi 2017.

Rhys M. Jones
Llyfrgellydd Llawysgrifau Cynorthwyol

Rhaid i mi gael gwell map na hyn

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections - Postiwyd 28-08-2017

Yn ddiweddar, holodd darllenydd ynghylch mapiau hynafiaethol yn dangos penrhyn Baja California fel ynys. Yn wir, mae gennym enghraifft ragorol o fap o’r fath gan Herman Moll, o tua 1711. Yn wreiddiol, deillia’r wedd hon ar Ynys California o gamddealltwriaeth yn yr 16eg ganrif a amlygodd fel mapiau o ynys wedi’i gwahanu’n llwyr oddi wrth y prif dir gan gulfor yn hytrach na’i gwahanu’n rhannol gan gwlff.

Er gwaethaf tystiolaeth i’r gwrthwyneb o alldeithiau cynnar, lledaenwyd y gwall dybryd hwn trwy fapiau nifer o gyhoeddwyr eraill o’r 17eg a’r 18fed ganrif, ac eto roedd mapiau eraill o’r 16eg ganrif ymlaen – yr enwocaf yn eu plith o waith Gerardus Mercator ac Abraham Ortelius – yn dangos penrhyn.

Credir bod “Ynys California” wedi’i chrybwyll am y tro cyntaf yn Las sergas de Esplandián, nofel Sbaeneg rhamantaidd o 1510, a allai fod wedi dylanwadu ar enghreifftiau pellach o ddogfennu’r penrhyn fel ynys. Atgyfnerthwyd y camsyniad hwn yn dilyn taith Juan de Fuca ym 1592 wedi iddo siarteru Ynys Vancouver.

Tua 1620, creodd un o Frodyr Carmel, Antonio de la Ascensión, fap o ynys, o bosib wedi iddo gamddehongli disgrifiadau gan de Fuca ac eraill. Daliwyd y cwch yr oedd wedi anfon ei fap arno i Sbaen gan Iseldirwyr, a buan y cyrhaeddodd ei fap Amsterdam. Gosododd map o’r ynys ym 1622 gan y cyhoeddwr o’r Iseldiroedd, Michiel Colijn, y patrwm ar gyfer sawl map dilynol, a boblogeiddiwyd yn Lloegr i gychwyn, gan ddechrau gyda Henry Briggs ym 1625. I ddechrau, gwrthododd yr Iseldirwyr y cysyniad, yn nhraddodiad Mercator-Ortelius, ond wedi i Visscher a Jansson ei fabwysiadu dylanwadwyd ar lawer o gyhoeddwyr eraill. O ganlyniad, mewn cyfnod na welwyd ynddo unrhyw ddatblygiadau ym maes mapiau yng Ngorllewin America, darluniwyd ‘California’ bron yn ddieithriad fel ynys hyd nes ymhell i mewn i’r 18fed ganrif. Roedd Guillaume Delisle ymhlith y cyntaf i gywiro’r camgymeriad hwn yn gynnar yn y 18fed ganrif. Roedd hefyd yn eithaf cyffyrddus gyda bylchau ar ei fapiau lle nad oedd unrhyw wybodaeth ffeithiol yn bodoli.

O ganlyniad i alldeithiau dros y tir dan arweiniad y cenhadwr Jeswitaidd a’r cartograffydd Eusebio Francisco Kino, lluniwyd ei fap o’r penrhyn ym 1705. Gwylltiodd y map hwn rai o’r cyhoeddwyr, gan gynnwys Moll a ysgrifennodd yn gandryll ym 1711 nad oedd amheuaeth mai ynys oedd California a honnodd ei fod wedi cwrdd â morwyr a oedd wedi hwylio o’i chwmpas!  Ymhlith cenhadon/archwilwyr Jeswitaidd eraill a geisiodd gau pen y mwdwl ar asgwrn y gynnen, roedd Ferdinand Konš?ak a hwyliodd i ben pellaf y Gwlff ym 1746. Yn ei Archddyfarniad Brenhinol ym 1747, datganodd Ferdinand VII “Nid ynys ‘mo California”.

Ond dyma’r peth. Gallai ‘Baja’ ddod yn ynys – serch y gallai gymryd rhyw 15 miliwn o flynyddoedd, petai Ffawt San Andreas yn tra-arglwyddiaethu fel llinell hollt dectonig yr ardal. Mae’r penrhyn ynghyd â darn arfordirol o’r Dalaith Euraidd yn eistedd ar Blât y Pasiffig sy’n drifftio i ffwrdd oddi wrth Blât Gogledd America. Gallai’r tiroedd ddatgysylltu, ac, wrth wneud hynny, creu “Culfor San Andreas”, sy’n golygu ein bod ni’n dychwelyd at “Ynys California”.  Yn wir, mae’n fy atgoffa i o’r hen eiriau digri’ “California here I come, right back where I started from. I really must get a better map”.

 

Gwilym Tawy

Curadur mapiau

Taith sinematig Gymreig drwy bapurau newydd ar-lein y Llyfrgell

Casgliadau / Collections / Gwasanaethau Darllenwyr / Ymchwil - Postiwyd 24-04-2017

Wrth ddarllen y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Empire, darllenais erthygl ar sut collodd “Citizen Kane” allan i “How Green Was My Valley” ar gyfer y wobr ffilm orau yn seremoni’r Oscars 1942. Wrth ddarllen yr erthygl, dechreuais feddwl am ffilmiau Cymreig eraill, a penderfynais chwilio am rhagor o erthyglau diddorol yng nghasgliad papurau newydd ar-lein y Llyfrgell. (*Er mwyn cael mynediad i’r adnoddau hyn o’r tu allan i adeilad y Llyfrgell bydd rhaid defnyddio eich tocyn darllen. Os nad oes gennych docyn darllen gallwch gofrestru ar-lein yn hawdd iawn yma).

 

Dechreuais drwy chwilio am adroddiad i seremoni’r Oscars yn 1942, a darganfyddais hwn yn y Telegraph Historical Archive:

 

The Telegraph Historical Archive, 1855-2000

 

Fel y gwelwch, mae’n wahanol iawn i’r hysteria a welir yn ystod y seremoniau y dyddiau hyn. I fod yn deg, roedd materion pwysicach ganddynt i adrodd amdanynt ar y pryd!

Ar ôl darllen am yr Academi, penderfynais chwilio nesaf am “Hedd Wyn”, y ffilm iaith Gymraeg gyntaf i’w henwebu. Darganfyddais drwy ddarllen yr erthygl hon yn Y Guardian fod bwrdd yr Academi yn hollol anwybodol o fodolaeth yr iaith Gymraeg. Dewiswyd y ffilm, ond dim ond ar ôl anfon geiriadur Cymraeg-Saesneg iddynt fel prawf fod Cymraeg yn bodoli!

ProQuest Historical Newspapers (Guardian & The Observer)

 

 

Gofynnwch i unrhyw un a oedd yn ei arddegau yng Nghymru yn niwedd y 90au i enwi ffilm Gymreig, a dwi’n si?r yr un ateb byddai pawb yn rhoi: Twin Town. Mae siwrne ddinistriol yr efeilliaid Lewis ar draws Abertawe yn parhau i fod yn ffefryn, ond nid oedd pawb yn hoff o’r ffilm. Er syndod i mi, darganfyddais yr erthygl hon yn y Sunday Times lle mae’n rhoi sylw i bobl oedd am wahardd y ffilm gan y teimlont ei fod yn anfoesol.

 

The Sunday Times Digital Archive 1822-2006

 

Daeth “Twin Town” allan yn ystod cyfnod Cool Cymru . Yn aros gyda’r thema honno, yn ddiweddar, mae’r cerddor aml dalentog Gruff Rhys o’r Super Furry Animals wedi ychwanegu ffilmiau i’w ‘repertoire’. Mae ei ffilm ddiweddaraf, “American Interior”, yn olrhain hanes gwas fferm 22 mlwydd oed o Eryri a deithiodd i America yn 1792 i chwilio am lwyth Americanaidd Brodorol chwedlonol o’r enw Madogwys a oedd yn siarad Cymraeg. Mae’n stori ddiddorol tu hwnt, ac roedd yn wych i ddarganfod bod Gruff wedi defnyddio archifau’r Llyfrgell Genedlaethol wrth ymchwilio ar gyfer y ffilm.

Newsbank

 

 

Wrth gwrs, ni allwn i ysgrifennu’r blog yma heb sôn am ffilm “Y Llyfrgell”!

Newsbank

 

 

Fel y gwelwch, mae’r papurau newydd ar-lein yn cynnig ystod eang o wybodaeth i ddefnyddwyr. Hefyd, os ydw i wedi rhoi’r awydd i chi wylio unrhyw un o’r ffilmiau Cymreig gwych yma, cofiwch eu bod nhw ar gael i’w gweld gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, ac hefyd i’w prynu o siop y Llyfrgell.

 

Paul Jackson

Llyfrgellydd Adnau Cyfreithiol, Electronig a Derbyn

Brwydr Abergwaun

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Ymchwil - Postiwyd 20-02-2017

Mae’r 22ain o Chwefror 2017 yn nodi 220 o flynyddoedd ers Brwydr Abergwaun, neu “Goresgyniad Olaf Prydain”, fel y’i gelwir hefyd.  Mae’r map anarferol hwn yn cofnodi cyrch milwrol y Ffrancod o’r 22ain – 24ain o Chwefror 1797 gan ddangos safleoedd, trefniadau milwrol a gweithredoedd y lluoedd gelyniaethus o’r 22ain hyd nes i’r Ffrancod ildio ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.  Cafodd y map, a baratowyd gan dirfesurydd lleol, Thomas Propert, ei gyflwyno i’r Arglwydd Cawdor sef cadlywydd byddin Prydain.

 

 

Cyhoeddwyd map arall llai manwl gan Laurie & Whittle.

 

 

Roedd ymosodiad y Ffrancod a gefnogai Cymdeithas y Gwyddelod Unedig yn cynnwys prif fyddin o 15,000 o ddynion a oedd â’u bryd ar fynd i Iwerddon a dwy fyddin arall dargyfeiriol, llai eu maint, a fwriadai lanio yng Nghymru a gogledd ddwyrain Lloegr.  Rhoddodd y tywydd garw ac ymddygiad afreolus y milwyr derfyn ar y cyfan ar wahân i’r glaniad yng Nghymru, a’r bwriad wedyn oedd ymosod ar Fryste.  Y bwriad yn gyffredinol oedd cychwyn gwrthryfel yn erbyn y Saeson a fyddai’n cyrraedd ei benllanw yn Llundain.

Dan arweiniad y Cyrnol William Tate, Americanwr o dras Wyddelig, glaniodd oddeutu 1,400 o filwyr fin nos ar unigeddau Carregwastad, ger Abergwaun.  Yn fuan iawn, diffygiodd disgyblaeth, ffodd nifer o’r milwyr ‘afreolaidd’ ac aeth eraill ati’n awchus i ysbeilio.  Wynebodd gweddill y milwyr garfan Brydeinig o oddeutu 500 o filwyr-wrth-gefn, milisia, a morwyr, y cyfan wedi’u casglu ynghyd yn frysiog dan arweiniad John Campbell, Barwn 1af Cawdor, capten yn Iwmoniaeth Penfro.  Gan wneud eu harfau eu hunain, aeth llawer o drigolion lleol ati hefyd i arfogi eu hunain gan ymgynnull yn Abergwaun.

Oherwydd diffyg disgyblaeth a milwyr yn ffoi, collwyd pob hyder ac fe gollodd y goresgyniad pob momentwm.  Yn ogystal, profodd y Cymry yn elyniaethus gan fethu â chroesawu’r goresgynwyr fel roeddent wedi’i obeithio, a mwy na hynny, trodd eu siawns o ddianc yn amhosibl gydag ymadawiad llongau rhyfel y Ffrancwyr.  Felly, cyrhaeddodd dau swyddog Ffrengig yn Abergwaun i drafod ildio a chawsant yr wltimatwm fod ganddynt tan 10yb ar y 24ain i wneud hynny.  Diarfogodd y goresgynwyr yn Wdig gerllaw a chawsant eu gorymdeithio ymaith i’r carchar i’w dychwelyd i Ffrainc trwy’r cynllun cyfnewid carcharorion yn 1798.

Yn ôl y chwedl nodedig, Jemima Nicholas oedd arwres y dydd pan ddaliodd hi hyd at ddeuddeg o filwyr Ffrengig gyda dim ond picfforch.  Y goel yw bod y goresgynwyr wedi tybio mai gw?r traed Prydeinig oedd y merched gan fod eu hetiau duon uchel a’u clogynnau cochion wedi peri iddynt gredu bod eu gwrthwynebwyr yn fwy o ran corffolaeth.

 

Gwilym Tawy

Curadur mapiau

Cwrt Pel-llaw, Nelson

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 17-08-2016

Mae Pel-llaw Americanaidd wedi ei gynnwys yn yr Olympics yn Rio, ond a wyddech chi fod yna fersiwn llawer hyn o Pel-llaw yn dal i gael ei chwarae yng Nghwm Rhymni. Yn Nelson mae’r cwrt pel-llaw triochrog hynaf ym Mhrydain. Lle ardderchog i dim Pel-llaw Cymru hyfforddi ar gyfer Gemau Olympaidd y dyfodol.

Handball

Mae Archif ITV Cymru / Wales wedi ei leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Twitter: http://www.twitter.com/agssc
Facebook – ‘Archif Sgrin a Sain Cymru’

 

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog