Search Results

Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol

Casgliadau / Heb ei gategoreiddio / Sgrin a Sain - Postiwyd 15-05-2019

Gan fod Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol yn digwydd ar draws y byd heddiw – 15fed Mai – mae Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn awyddus i dynnu eich sylw at ffilm fer sydd ar gael ar y BFI Player dan y teitl ‘Defending This Country Only Means Attacking Another’. Daw’r teitl o blacard yr Undeb Llw Heddwch a welir yn y ffilm gan Mr J. Fred Phillips, a redai sinema ym Mrynmawr o 1923 hyd 1958. Roedd yn gapten Clwb Golff Sir Fynwy yn Y Fenni, ac roedd yn ŵr i Pollto Williams, a chwaraeodd mewn sawl rownd derfynol cystadlaethau cenedlaethol golff merched yn Llandrindod. Mae placardiau eraill yn nodi credoau’r Undeb: ‘Nid yw Llofruddiaeth Dorfol yn Amddiffyn Rhyddid’ a ‘Mae Heddwch yn Annatod – Rydym yn Ceisio Heddwch ar y Ddaear, Ewyllys Da i BAWB’. Mae placardiau a wnaed â llaw yn dangos tasgiad gwaed ynghyd â’r geiriau ‘Arfau Rhyfel Glyn Ebwy’ yn awgrymu y gallai hon fod yn brotest yn erbyn agor neu weithredu ffatri arfau rhyfel yn yr ardal. Yn ystod yr 1930au bu Cymdeithas y Cyfeillion yn gyfrifol am sefydlu prosiectau i bobl ddi-waith yn ardal Brynmawr (e.e. gwneud esgidiau a chelfi – gweler hefyd y ffilm ‘Eastern Valley’ ar y BFI Player), ond aeth llawer ohonynt i weithio yn ffatrïoedd arfau Glyn Ebwy yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Neu, o gofio i’r  Undeb fynd ar ymgyrch heddwch o Gaerliwelydd i Lundain yn 1938, tybed ai ymweliad yr ymgyrch honno â Glyn Ebwy a welir yma?

Cliciwch yma i wylio’r ffilm: Defending This Country Only Means Attacking Another (1938)

Sefydlwyd yr Undeb Llw Heddwch yn 1934 gan y Canon Dick Sheppard a fu’n gaplan yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ysgrifennodd lythyr i’r papurau newydd at ddynion (gan fod merched yn gweithredu yn y mudiad heddwch y  barod) yn gofyn iddynt arwyddo llw os oeddent yn gwrthwynebu yr hyn a ymddangosai fel cyffroi rhyfel arall: ‘Rwy’n ymwrthod â rhyfel, ac ni fyddaf yn cefnogi na goddef un arall.’ Roedd wrth ei fodd gyda’r ymateb. Roedd y mudiad yn cynnwys merched ers 1936. Heddiw, yr Undeb Llw Heddwch sy’n cyflenwi’r Pabïau Gwyn a wisgir ar Ddydd y Coffa. Gwisgwyd pabïau o’r fath am y tro cyntaf ar anogiad Urdd Cydweithredol y Merched ar Ddydd y Cadoediad, 1933 (newidiodd Dydd y Cadoediad yn Ddydd y Coffa yn dilyn yr Ail Ryfel Byd). Roedd llawer o’r merched wedi colli eu ceraint yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn anobeithio wrth weld paratoadau at ryfel pellach. Teimlwyd hefyd y dylai’r coffa gynnwys y rhai a ddioddefodd yn y rhyfel y tu allan i’r gwasanaethau milwrol. Mae’r llw heddiw fel a ganlyn: ‘Mae rhyfel yn drosedd yn erbyn dynoliaeth. Rwy’n ymwrthod â rhyfel, ac felly yn benderfynol o beidio a chefnogi rhyfel o unrhyw fath. Rwyf hefyd yn benderfynol o weithio i gael gwared o bob achos dechrau rhyfel’.

Mary Moylett, Catalogydd (Ffilm) Archif Sgrin a Sain

5 Adnodd i Chwilio Hanes Tŷ

Gwasanaethau Darllenwyr - Postiwyd 06-08-2018

Bydd y ffynonellau a rhestrir yma o bosib yn cynnwys tystiolaeth o fodolaeth adeilad ac nid o reidrwydd dyddiad yr adeiladwaith gwreiddiol nac ychwaith newidiadau dilynol. Cofiwch yr ail-adeiladwyd tai yn aml ar safle cyfagos gan ddefnyddio’r un enw neu gall adeiladau dilynol ar yr un safle cael ei hail-enwi neu ail-rifo.

1. Mapiau
Cartref i’r casgliad cartograffeg fwyaf yng Nghymru ac un o’r rhai mwyaf ym Mhrydain, mae gan y Llyfrgell ystod eang o fapiau a chynlluniau – Arolwg Ordnans, mapiau hynafiaethol, mapiau ystâd, catalogau arwerthiant, dyluniadau pensaernïol a mapiau a rhestrau pennu degwm. Ceir copïau digidol o’r mapiau a rhestrau pennu degwm a mapiau mwy modern ar wefan Lleoedd Cymru  Gellir chwilio am y mwyafrif drwy ein catalog

2. Cyfrifiad a Chofrestr 1939
Ceir cyfrifiad bob 10 mlynedd ers 1841, heblaw 1941, gan roi ciplun o bwy oedd yn byw mewn adeilad ar adeg y cyfrifiad. Cyfrifiad 1911 yw’r un diweddaraf sydd ar gael, mae Cofrestr 1939 yn rhoi gwybodaeth am drigolion ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd. Ceir mynediad am ddim i rain o fewn y Llyfrgell trwy Findmypast ag Ancestry.

3. Cofnodion Ystâd
Gall adeilad fod yn haws i’w olrhain os yn rhan o ystâd gan luniwyd cofnodion wrth weinyddu’r ystâd – llyfrau rhent, arolygon, gweithredoedd, morgeisi a phrydlesi. Dylid chwilio’r catalog am wybodaeth ar gyfer daliadau’r Llyfrgell.

4. Gweithiau Print
Ceir manylion pellach am drigolion adeiladau mewn llyfrau hanes lleol, cyfarwyddiaduron, llyfrau tywys a chofrestri etholiadol yn dyddio yn ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan roi cliwiau pwy oedd yn byw ymhle, gellir defnyddio’r wybodaeth ar y cyd â thystiolaeth ddogfennol arall i ddarganfod mwy am y trigolion. Gellir chwilio’r catalog i ddod o hyd i ddaliadau’r Llyfrgell.

5. Papurau Newydd
Mae gan y Llyfrgell gasgliad digidol o bapurau newydd Cymreig ar-lein yn rhad ac am ddim hyd 1919, gall y tudalennau cynnwys mwy o fanylion am drigolion, hanes adeilad ynghyd a hysbysebion a manylion gwerthu eiddo. I ddechrau chwilio ewch i wefan Papurau Newydd Cymru Arlein

Dim ond ychydig o adnoddau yw’r rhain sydd ar gael i’ch helpu i chwilio am hanes t?. Am fwy o wybodaeth cymrwch olwg ar ein taflen Ffynonellau Olrhain Hanes Tai

Beryl Evans
Rheolwr Gwasanaethau Ymchwil ac Ymgysylltu

Helyntion y Tir Newydd

Collections - Postiwyd 04-06-2018

60 o flynyddoedd yn ôl roedd, Talaeth y Tir Newydd (Newfoundland) newydd gynnal y cyntaf o 2 refferendwm a fyddai’n arwain at uno gyda Chanada. Roedd y Tir Newydd wedi cael ymreolaeth yn 1907, ond roedd y llywodraeth yno yn wynebu trafferthion ariannol difrifol, ac yn 1933, penderfynodd y senedd yno i ddiddymu ei hun a phenodwyd comisiwn o 7 o bobl gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i redeg y wlad. Mae’r Tir Newydd felly yn un o nifer fach iawn o wledydd sydd wedi ildio ei annibyniaeth o’u wirfodd. Ond erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd roedd y sefyllfa wedi newid, ac roedd y sefyllfa ariannol wedi gwella. Daeth pwysau cynyddol i adfer ymreolaeth ac felly penodwyd comisiwn arall i ystyried yr opsiynau. Cynhaliwyd refferendwm ar 3ydd Mehefin 1948 gyda’r dewis rhwng ymreolaeth, uno gyda Chanada neu parhau gyda’r trefniadau fel yr oeddynt, ond ni chafodd un o’r opsiynau dros 50% o’r bleidlais. Felly, wythnosau yn ddiweddarach ar 22ain Gorffennaf, cynhaliwyd refferendwm arall gyda’r dewis rhwng y dau opsiwn mwyaf poblogaidd sef ymreolaeth ac uno gyda Chanada. Dewisodd bobl Newfoundland ymuno gyda Chanada o drwch blewyn.

Ond beth mae hyn oll yn ymwneud a Llyfrgell Genedlaethol Cymru?

Ar y pryd roedd Cymro Cymraeg a oedd yn gyn Aelod Seneddol Llafur yn Llywodraethwr y Tir Newydd, ac mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi prynu ei archif yn ddiweddar. Roedd Gordon MacDonald o Sir y Fflint ac yn Aelod Seneddol dros Ince cyn ymddiswyddo i gymryd swydd Rheolwr Tanwydd ac Ynni ar gyfer Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er ei fod e ddim yn enwog iawn yng Nghymru heddiw, mae’r gwrthwyneb yn wir yn y Tir Newydd.

Pan gafodd ei benodi fel Llywodraethwr ym mis Ionawr 1946, roedd statws gyfansoddiadol y wlad yn un o’i brif blaenoriaethau. Mae ei archif yn cynnwys amrywiaeth o ddeunydd gan gynnwys llyfr ymwelwyr cartref swyddogol y Llywodraethwr, dyddiaduron, areithiau (a gafodd eu cyhoeddi fel We Love Thee Newfoundland), gohebiaeth a ffotograffau. Mae’r archif yn cynnwys deunydd ar bob agwedd o’r gweinyddiaeth o streiciau ar y rheilffyrdd i ffeiliau yn ymwneud a thelerau uno a Chanada.

Roedd uno gyda Chanada yn ddadleuol iawn, ac roedd gwrthwynebiad chwyrn gan y rhai oedd yn ffafrio ymreolaeth. Mewn rhai ffeiliau ‘Top Secret’ gwelwn y drafodaeth ar delerau’r cyfuno a rhybuddion am brotestiadau treisgar o ganlyniad y refferendwm.

Yn dilyn y cyfuno yn 1949, dychwelodd MacDonald i’r Deyrnas Unedig a chafodd ei urddo fel Barwn MacDonald o Waeynysgor. Mae ffeiliau yn ei archif am ei yrfa diweddarach fel cynrychiolydd i Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, cadeirydd Cyngor Darlledu Cymru ac yn cynnwys deunydd yn dangos ei ddylanwad a’i berthnasau, gan gynnwys llythyr arall ‘Top Secret’ oddi wrth Clement Attlee am alw etholiad Cyffredinol yn 1951.

Mae Newfoundland wedi bod yn rhan o Ganada ers 59 o flynyddoedd, ond mae’r trafodaeth am sut ddigwyddodd hyn dal yn parhau. Mae cwestiynau wedi cael eu gofyn am ròl Llywodraeth Prydain a’r gweinyddiaeth lleol, a oedd y refferenda yn deg ac a gafodd y pleidleisiau eu cyfrif yn iawn. Bydd Papurau yr Arglwydd MacDonald o Waenysgor yn darparu llawer o mwy o adnoddau i’r rhai sydd a diddordeb yn yr hanes hyn, ond tybed ai ateb neu codi mwy o gwestiynau fydd yr archif yn y pen draw?

Rob Phillips

Tagiau: ,

Cofio’r rhai a wrthododd ymladd

Casgliadau / Collections - Postiwyd 14-05-2018

Nodir Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol yn flynyddol o ledled y byd ar y 15fed o Fai. Cynhelir seremoni fer ger y Carreg Goffa yn Llundain, pan ddarllenir enwau pobl sy’n mynnu cadw’i hawl i wrthod lladd a gosodir blodau gwyn ar y garreg i’w cofio yn flynyddol.

Roedd George Maitland Lloyd Davies yn weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, gwleidydd a heddwchwr, a gysegrodd ei fywyd i’r ddelfryd y credai mor angerddol ynddi — cael cymod rhwng gwlad a gwlad, rhwng dyn a dyn.

Ganwyd ef ar y 30ain o Ebrill 1880 yn Peel Road, Sefton Park, Lerpwl, yn fab i John Davies (1837-1909), a’i wraig Gwen, née Jones (1839-1918), ac yn frawd i’r cerddor  John Glyn Davies (1870 –1953). Bedyddiwyd ef yn G. M. Temple Davies : ef a wnaeth y cyfnewid yn ei enw. Roedd ei dad yn fasnachwr te a’i wreiddiau yn Sir Aberteifi, a’i fam yn ferch i’r pregethwr John Jones, Tal-y-sarn (1796 – 1857). Roedd y teulu yn rhan amlwg o gymdeithas a diwylliant Cymreig a Chymraeg y ddinas ac yn aelodau o gapel MC Princes Road.

Addysgwyd ef yn Lerpwl ac wedi gadael yr ysgol yn 16 oed aeth i weithio yn y Bank of Liverpool, gan gael ei ddyrchafu yn ysgrifennydd y rheolwr. Penodwyd ef yn rheolwr cangen yn Wrecsam yn 1908, a daeth yn swyddog yn yr R.W.F. (y tiriogaethwyr). Yn 1913 gadawodd y banc i fod yn ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth Cynllunio a Thai Cymru a thua’r adeg yma rhoddodd heibio’i swydd filwrol. Ar doriad y rhyfel roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymod a oedd yn hyrwyddo cymod heddychlon rhwng unigolion fel modd i wrthwynebu rhyfel, ac ymhen y flwyddyn ymdaflodd i weithio’n llawn amser (a di-dâl) i’r Gymdeithas.

Priododd Leslie Eleanor Royde-Smith yn Finchley, 5 Chwefror 1916, chwaer y nofelydd Naomi Royde-Smith, a ganwyd iddynt un ferch, Jane Hedd.

Cafodd ei ryddhau o wasanaeth milwrol gorfodol nifer o weithiau fel Gwrthwynebydd Cydwybodol gyda’g amodau y byddai’n gwneud gwaith dyngarol ac amaethyddol ar gyfnodau gwahanol. Bu’n pregethu heddychaeth yn rheolaidd yn y marchnadoedd, a gwnaeth gais i gael eu ryddhau o’r amodau ym 1917. Gwrthodwyd ei gais, ac o ganlyniad gwrthododd yntau dderbyn yr amodau, ac ohewydd ei safiad gorchmynwyd ef i ymuno a’r fyddin. Gwrthododd, a carcharwyd ef lawer gwaith yn ystod 1917-19.

Gwnaeth waith pwysig dros heddwch yn yr ymgyflafareddu a fu rhwng Lloyd George a De Valera rhwng 1920 a 1921, ac ym 1923 etholwyd ef yn aelod seneddol dros Brifysgol Cymru fel heddychwr Cristionogol.

Collodd ei sedd yn yr etholiad dilynol ac yn 1926 ordeiniwyd ef yn weinidog yn Eglwys y Methoditiaid Calfinaidd. Bu’n gofalu am eglwysi Tywyn a Maethlon o 1926-1930, cyn symud i weithio gyda’r di-gartref yn Rhosllannerchrugog and Brynmawr. Ym 1932 symudodd i Faes-yr-Haf, yn y Rhondda, sefydliad a agorwyd gan y Crynwyr i weithio ymhlith dioddefwyr y dirwasgiad ym Mynwy a Morgannwg.  Ym 1937 sefydlodd gymdeithas Heddychwyr Cymru, gan wasanaethu fel llywydd y mudiad.  Bu’n weithgar yn cyhoeddi pamffledi, erthyglau a llythyrau yn annog cymod a heddwch yn y cyfnod yn arwain at gychwyn yr Ail Ryfel Byd. Ysgrifennodd lawer i gylchgronau a phapurau Cymraeg a Saesneg, a chyhoeddodd hanes ei genhadaeth Pererindod Heddwch, a hanes ei deulu, Atgofion Tal-y-sarn. Yn 1950 cyhoeddwyd Pilgrimage of Peace, detholiad o’i ysgrifau.

Symudodd i Ddolwyddelan yn 1946 ac er bod ei iechyd yn fregus daliai i bregethu ac i annerch. Bu farw ar y 16eg o Ragfyr 1949 a’i gladdu yn Nolwyddelan.

Tagiau: , ,

Dathlu Ffilmiau Cartref

Collections / Sgrin a Sain - Postiwyd 19-10-2017

Ar 21ain o Hydref bydd y byd yn dathlu Diwrnod Ffimiau Cartref, a ble well i ddechrau darganfod cyfoeth ffilmiau fel hyn nag yn ein casgliad ni yma yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, sy’n dyddio o’r 1920au ymlaen.  Cofnodion personol oedd ffilmiau cartref, ond bellach mae technoleg fodern yn galluogi pawb i’w mwynhau. Yn ddiweddar ‘rydyn ni wedi digido dros saith gant o’r ffilmiau sydd yn ein gofal, ac mae llawer ohonynt i’w gweld am ddim ar y BFI Player yma. Mae bron fel edrych i mewn drwy ffenest rhywun, ond mai lens camera yw’r ffenest.

Ymhlith ein hoff ffilmiau cartref yn y casgliad hwn mae Baby Marred 1955-1959 – ffilm hyfryd yn dangos y babi ar ei phrifiant yng nghwmni ei chwaer gariadus Annes; Branksome, Heathwood Road, Cardiff – ffilm liw ogoneddus o fywyd yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a Tiger Bay and The Rainbow Club – II, sy’n rhoi cipolwg ar hanes cymuned enwocaf Caerdydd, mewn lliw godidog.

Mae’r casgliad yn amrywio o ffilmiau cartref sy’n portreadu pethau personol iawn, i ffilmiau sy’n dathlu’r gymuned ehangach. Mae’n syndod meddwl am y gofal, yr ymdrech a’r gost ag aeth i’w creu, ond yn bwysicaf oll maent yn lluniau sydd yn real ac uniongyrchol iawn, yn aml heb eu golygu.

Mae’r ffilmiau hyn yn rhoi cyfle i ni chwilota, adlewyrchu a (gobeithio) cael ein hysbrydoli. Er bod y dull a’r cyfrwng wedi newid yn syfrdanol dros y blynyddoedd, nid oes pen draw ar ein hawydd i ddal ein bywydau ar gamera a rhannu’r delweddau. Trodd ffilmiau cartref ddoe, a recordiwyd ar Super 8, eu taflunio ar wal y parlwr a’u storio yn yr atig, bellach yn ffilmiau ffôn, sy’n cael eu ‘taflunio’ drwy’r cyfryngau cymdeithasol a’u storio yn y cwmwl. Un dydd efallai bydd gennym ni adran bwrpasol ar gyfer diogelu delweddau Snapchat, Instagram, Trydar a Facebook sydd o ddiddordeb i Gymru a’i diwylliant!

Dros yr haf fe gyfrannodd yr Archif i raglen hyfryd o’r enw ‘Wales’s Home Movies,’ a ddarlledwyd ar BBC Cymru ddydd Sul diwethaf (15fed Hydref). Dangoswyd enghreifftiau lu o ffilmiau teuluol a chymunedol, a chyfweliadau  gyda phobl oedd ynddynt, oll yn rhannu eu hatgofion o’r ffilmio a’r digwyddiadau gafodd eu hanfarwoli. Os na welsoch chi’r rhaglen, neu os hoffech ei gwylio eto, mae ar gael ar iPlayer y BBC yma tan 14eg Tachwedd. Am flas pellach o’n casgliad gallwch ein dilyn ar Facebook, Twitter ac Instagram (bron) yn ddyddiol, ac mae wastad croeso i chi ymweld â ni yn y Llyfrgell Genedlaethol i weld sut ‘rydym yn gofalu am y ffilmiau gwerthfawr hyn, a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

AGSSC

Codau mewn Cerddoriaeth

Casgliadau / Collections / Gwasanaethau Darllenwyr / Ymchwil - Postiwyd 29-05-2017

Mae defnydd helaeth o godau, symbolau a seiffrau wedi ei wneud gan gerddorion ar hyd y blynyddoedd.

 

Mae’n hysbys bod rhai o weithiau Mozart yn llawn symbolaeth o fyd y Seiri Rhyddion (gweler The Masonic thread in Mozart gan K. Thomson). Mae’r tair cnoc gan aelod newydd ar ddrws y gyfrinfa i’w clywed yn nodau’r ‘Ffliwt Hud’, er enghraifft. Efallai eich bod hefyd wedi sylwi ar y negeseuon mewn Côd Morse yng ngherddoriaeth Barrington Pheloung yn y gyfres deledu enwog, Inspector Morse.

 

Enghraifft arall o’r defnydd o godau ym myd cerddoriaeth yw’r Parsons Code. Os byddwch yn clywed alaw ddieithr ac yn dymuno darganfod ei theitl, troswch ei nodau cyntaf i Gôd Parsons ac efallai y dowch o hyd i’w theitl yn llyfr Parsons, The directory of tunes and musical themes. Mae’r Cymry’n sefyll i ganu *UDDUD DURDU fel arfer.

 

Mae’r e-adnodd, Oxford Music Online*, yn cynnwys yr erthygl, Cryptography, Musical sy’n sôn am ddiddordeb a gallu sawl cerddor ym maes cryptograffeg, e.e. Schumann ac Elgar, ac yn cyfeirio hefyd at y defnydd a wnaed o allu cerddorion i ddatrys codau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

 

Beth neu bwy yw’r ehedydd yn y gân werin Marwnad yr ehedydd? Os cysylltwch â’r Archif Sgrin a Sain, gallwch drefnu clywed recordiad o drafodaeth ddiddorol rhwng Meredydd Evans a Dei Tomos (30 Ebrill) ar y pwnc. Cofier hefyd bod archif gyfoethog Phyllis a Merêd bellach yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol.

 

Cafwyd sawl enghraifft mewn hanes o godau cerddorol yn cael eu defnyddio i wrthsefyll anghyfiawnder a gormes. Cafodd cloch Eglwys Llangyndeyrn ei defnyddio fel dull o gyfathrebu yn y frwydr i atal y pentref rhag cael ei foddi, â’i sain yn arwydd pwerus i’r trigolion i weithredu. (Gweler llyfr diddorol W.M. Rees, Sefyll yn y Bwlch: brwydr Llangyndeyrn 1960-1965).

 

Defnyddiodd y cyn-gaethferch, Harriet Tubman o Maryland, ganeuon côd a chaneuon mapio i drosglwyddo negeseuon cudd i gaethweision eraill pan oedd yn eu cynorthwyo i ddianc. Gweler Songs of the Underground Railroad.

 

Yn y caneuon hyn, gallai Canaan olygu Canada; Jordan olygu Ohio; a station olygu t? diogel. Roedd y gân, Follow the Drinkin’ Gourd, yn cyfeirio at y ‘Sosban’ sef clwstwr o sêr sy’n eich galluogi i ganfod Seren y Gogledd. Y seren hon fyddai’n cyfeirio’r caethweision i daleithiau’r Gogledd, i Ganada ac i ryddid. (Cliciwch ar y map isod a phwyswch “i” am fwy o wybodaeth).

 

Pan oedd yn amser rhybuddio caethwas i fod yn barod i ddianc, y gân a genid oedd Sweet chariot – un o hoff ganeuon Harriet.

 

Am fwy o fanylion, gweler llyfr gafaelgar E. Olwen Jones, Caneuon y caethwas.

 

Heini Davies

Llyfrgellydd Cynorthwyol

 

 

*Gellir cael mynediad i ‘Oxford Music Online’ os oes gennych docyn darllen, neu os nad oes gennych un gallwch gofrestru yma.

Casgliad mapiau o safon rhyngwladol

Casgliadau - Postiwyd 17-11-2016

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i’r Casgliad Mapiau Cenedlaethol Cymreig, sy’n cynnwys miliwn a hanner o fapiau ac atlasau; dyma felly un o’r casgliadau mapiau mwyaf yn y byd.

Wrth gwrs, mae ffocws y casgliad ar ddeunydd yn ymwneud â Chymru, ac Ynysoedd Prydain; ond yr hyn nad yw nifer yn sylweddoli yw fod gennym gasgliad mawr o fapiau tramor o ar draws y byd; dyma sy’n gwneud y Casgliad Mapiau Cenedlaethol mor bwysig, yn arbennig wrth i nifer o gasgliadau mapiau prifysgolion grebachu neu ddiflannu’n llwyr.

Yn oes mapiau Google mae rhagdybiaeth fod mapio manwl un clic i ffwrdd. Mewn gwirionedd, mae mapio topograffig manwl diweddar ar gyfer rhannau mawr o’r byd yn parhau yn brin, ac mae lle o hyd i gasgliadau mapiau papur ddarparu mapio diweddar ynghyd â hanesyddol.

Mae’r casgliad mapiau tramor wedi tyfu yn sgil dwy ffrwd dderbyn, yn gyntaf adnau cyfreithiol. Fel llyfrgell adnau cyfreithiol mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru hawl i dderbyn copi o unrhyw fap neu atlas a gyhoeddwyd yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon; mae hyn yn cynnwys mapiau o wledydd tramor. Mae hyn wedi sicrhau casgliad mawr o fapiau ac atlasau masnachol, fel y map o Seland Newydd gan Philip’s o 1925 sydd yn yr oriel.

Yn ychwanegol at y mapiau masnachol rydym yn derbyn mapiau a luniwyd gan Lywodraeth Prydain a gwledydd eraill, yn arbennig y gwladfeydd Prydeinig a’r tiriogaethau tramor. Mae mwyafrif y deunydd hwn yn dod o’r ‘Directorate of Overseas (gynt ‘Colonial’) Surveys’ a’i olynydd yr Arolwg Ordnans Rhyngwladol. Mae hwn yn ffrwd hynod bwysig o fapio ar gyfer nifer o wledydd yn arbennig yn Affrica a’r Caribî, fel y map o Barbados o 1960 sydd yn yr oriel.

Ein hail brif ffrwd dderbyn yw’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Yn hanesyddol mae llyfrgell fapiau’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dal copïau dyblyg o fapiau cyhoeddedig o ar draws y byd. Wrth i’r mapiau hyn gael eu disodli gan fersiynau mwy diweddar, mae’r hen fersiynau yn cael eu gwaredu i gasgliadau mapiau ar draws y DU, yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae hyn yn ein caniatáu i dderbyn, am ddim, fapiau o wledydd eraill ar raddfeydd manwl, na fyddem yn gallu fforddio eu prynu, fel y map o Los Angeles o 1981 sydd yn yr oriel.

Daeth un swp mawr o ddeunydd wedi’r Ail Ryfel Byd pan waredwyd miliynau o daenlennu o fapiau, nid dim ond mapiau a grëwyd yn y DU, ond hefyd mapiau a grëwyd gan yr ‘US Army Map Service’ a mapiau a gipiwyd wrth yr Almaenwyr. Gellir gweld rhai enghreifftiau yn yr oriel uchod.

Er nad y mapiau tramor yw’r elfen mwyaf adnabyddus o’r Casgliad Mapiau Cenedlaethol, mae’n ffrwd hynod bwysig, nid yn unig o wybodaeth hanesyddol, ond hefyd gwybodaeth am newid amgylcheddol a chymdeithasol yn ein byd, a gall hyd yn oed gynnig y wybodaeth dopograffig mwyaf diweddar ar gyfer rhai ardaloedd.

Mae’n werth cofio yn oes mapio arlein a satnav, fod gan fapiau papur eu defnydd o hyd, a bod y Casgliad Mapiau Cenedlaethol yn adnodd arbennig i bobl Cymru.

Huw Thomas

Curadur mapiau

Cofio canmlwyddiant geni John Elwyn

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 14-11-2016

Ymhen ychydig ddyddiau bydd hi’n gan mlynedd ers geni ‘Arlunydd Dyfed’. Mae nifer wedi ei gydnabod fel arlunydd a bortreadodd fryniau a thirlun gwledig gorllewin Cymru, tra i’w gyfoeswr, Kyffin Williams bortreadu llymder mynyddoedd creigiog gogledd Cymru.

Ganed William John Elwyn Davies ar 20 Tachwedd 1916, yn blentyn ieuengaf David ac Anne Davies, Emlyn Mills, ym mhentref Adpar, ger Castellnewydd Emlyn. Gwëydd oedd galwedigaeth ei dad ac ymddiddorai hefyd mewn llunio penillion, gan gystadlu mewn eisteddfodau lleol.

Emlyn Mills, Tachwedd 2016 (casgliad yr awdur)

Yn ddeunaw oed, astudiodd gelf yng Nghaerfyrddin ac yna ym Mryste, cyn derbyn ysgoloriaeth a threulio’r blynyddoedd cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd yng Ngholeg Celf Brenhinol, Llundain. Mabwysiadodd yr enw John Elwyn wrth arlunio ar gyfer llyfr yn 1941, ac oddi ar hynny, penderfynodd ddefnyddio’r enw’n broffesiynol. Ymgartrefodd yn swydd Hampshire, yn gyntaf fel darlithydd yn Llongborth cyn derbyn swydd yn Ysgol Gelf Caer-wynt.

Er iddo dreulio dros hanner can mlynedd yn Lloegr, bu ei fagwraeth ar lannau’r afon Teifi yn ddylanwad arno fel artist trwy gydol ei fywyd. Treuliodd nifer o’i wyliau haf a’r Pasg adre yn y ffatri wlân, gan gymryd mantais o’r cyfleoedd hynny i’w atgoffa o’r newydd am fro ei febyd, cyn dychwelyd i Loegr i baentio. Yn ystod un o’r gwyliau hynny, dywedodd mewn llythyr at un a fu’n gefnogwr brwd i’w ddatblygiad fel arlunydd, Winifred Coombe-Tennant: “It is strange perhaps but I can paint imaginative compositions better when I am removed from the object of interest.”

Gwir yw’r ddihareb honno wrth feddwl am John Elwyn: gorau Cymro, Cymro oddi cartref. Trwy ei baentiadau, cyfleodd brydferthwch a bywyd cefn gwlad de sir Aberteifi i’r dim. Mae ei weithiau i’w gweld mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru a thu hwnt. Bu farw yn Nhachwedd 1997, a dychwelodd i’w “hên fro” pan gladdwyd ei weddillion yng nghanol dolydd Brongwyn ym mynwent Parcau.

Beddfaen John Elwyn (casgliad yr awdur)

Fel un o’r sefydliadau cyhoeddus lle cedwir ei baentiadau, y mae’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn gartref i archifau John Elwyn a’i dad. Yr archif fwyaf nodedig yw John Elwyn Papers sy’n cynnwys gwerth trigain mlynedd o lythyrau a dderbyniodd oddi wrth unigolion megis Winifred Coombe-Tennant, Alun Hoddinnott, Glyn Jones, John Petts a Kyffin Williams. Yn archifau Winifred Coombe-Tennant a Glyn Jones ceir llythyrau a ysgrifennodd John Elwyn atynt hwy, sy’n cynnig cip ar feddwl a gwaith yr arlunydd hwn y byddwn yn cofio ei ben-blwydd yn gant oed eleni.

D. Rhys Davies
Archifydd Cynorthwyol

Dangosir hunan-bortread John Elwyn yn ardal arddangos Peniarth y Llyfrgell rhwng 14-21 Tachwedd.

Copenhagen a Chymru

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 05-10-2015

Ar ddydd Mercher y 7fed o Hydref cynhelir y ddarlith wyddonol nesaf yn y gyfres sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa Dirgel Ffyrdd Natur: Robert Hooke a gwyddoniaeth gynnar. Teitl y ddarlith yw Copenhagen a Chymru a bydd Yr Athro Gareth Ffowc Roberts a’r Dr Rowland Wynne yn sôn am rôl a dylanwad y ffisegydd enwog Niels Bohr drwy ei waith arloesol yn llunio damcaniaeth y cwantwm. Bydd y ddarlith yn seiliedig ar erthygl a ymddangosodd yn Y Traethodydd gan y ddau yn Ebrill 2014.

 

Niels Bohr Hawlfraint / Copyright: Archif Niels Bohr / Niels Bohr Archive, Copenhagen

Niels Bohr
Hawlfraint / Copyright: Archif Niels Bohr / Niels Bohr Archive, Copenhagen

 

Ysbrydolodd Bohr nifer o wyddonwyr o Gymru, fel Edwin Augustine Owen, William Ewart Williams ac efallai y mwyaf nodedig ohonynt Evan James Williams a ddaeth yn ddiweddarach yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol (a sylfaenwyd wrth gwrs gan Robert Hooke ymhlith eraill). Yn y ddarlith rhoddir braslun o gyfraniad gwyddonol y Cymry yma a natur eu cysylltiad â Bohr.

 

Roedd Bohr a’i gyfaill Werner Heisenberg ar flaen y gâd gyda pobl fel Schrödinger a Dirac yn natblygiad ffiseg cwantwm yng nghyfnod t?f anghygoel y maes yn negawdau cyntaf y ganrif ddiwethaf. Efallai eich bod wedi darllen yn y cyfryngau yn ddiweddar am ddamcaniaeth y cwantwm – pwnc astrus yn athronyddol ac yn wyddonol. Mae’n gwbl sylfaenol i doreth o ddyfeisiadau cyfoes, fel cyfrifiaduron cwantwm, clociau atomig a microsgopau p?erus. Yn fwy sinistr, mae’n allweddol ar gyfer creu arfau niwclear, thema gaiff sylw arbennig yn y ddarlith.

 

Llwyfanwyd y ddrama Copenhagen, sef cyfieithiad Geraint Wyn Davies o ddrama llwyddianus Michael Frayn, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli yn y flwyddyn 2000. Mae’n enghraifft brin o’r byd celfyddydol Cymraeg yn manteisio ar wyddoniaeth i ddweud stori ddiddorol a phwysig i gymdeithas ehangach. Mae’r ddrama yn seiliedig ar ymweliad Heisenberg â chartref Bohr yn Copenhagen. Roedd y ddau wedi bod yn gydweithwyr yng nghyfnod arloesol ffiseg cwantwm. Ond ar ôl dechrau’r Ail Ryfel Byd daeth y cydweithio hwn i ben gyda byddin yr Almaen yn rheoli Denmarc. Dyna’r sefyllfa pan fynychodd Heisenberg gynhadledd yn Copenhagen ac achub ar y cyfle i ymweld â Bohr. Ai sgwrs anffurfiol rhwng hen ffrindiau a gafwyd neu a oedd gan Heisenberg reswm penodol dros ymweld â Bohr? I wybod rhagor dewch i wrando ar y ddarlith yn y Drwm brynhawn Mercher!

 

 

Hywel Lloyd.

Trysorau ymysg y casgliadau: cynlluniau Alyna Hughes

Casgliadau - Postiwyd 18-11-2013

Logo Archifau CYmraegLawnsiwyd yr ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth am archifau, Archwiliwch Eich Archif, ar 14 Tachwedd yma yng Nghymru. Yn y blog yma cawn glywed hanes profiadau archifydd wrth archwilio rhai o’r casgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

Hwyrach fy mod i’n gor-ddweud wrth gymharu gweithio yma’n y Llyfrgell i fod yn gydymaith i Ddoctor arbennig ar ei Dardis.

Ychydig fisoedd yn ôl treuliais beth amser yn gweithio ar amryw gasgliadau yn yr Adran Archifau. Yn ystod y cyfnod hwn, teithiais nôl ugain mlynedd a mynd tu ôl i’r llenni gyda chwmni teledu Teliesyn, cyn teithio ymhellach fyth mewn amser i’r 1920’au gyda’r Newport Playgoers Society. Wedi hynny, teithiais drwy’r 1950’au hwyr hyd ganol yr 1980’au pan euthum ar daith gyda’r Caricature Theatre.

Ond wrth i mi eistedd yng nghwmni’r nofelydd Cledwyn Hughes, cefais fy hun yn annisgwyl mewn sioe ffasiwn o’r 1940’au. Roedd Alyna Hughes, gwraig y nofelydd, yn gynllunydd dillad uchel ei pharch (Alyna City Dress Designer), ac ymddengys fod ei g?r wedi defnyddio llyfr a ddefnyddiwyd ganddi ar un adeg ar gyfer ei ‘chreadigaethau’ fel llyfr lloffion i’w dorion papur newydd.

Mae’r manylder yn y lluniau yma yn anhygoel. Amrywia’r cynlluniau o sgetsys o’r ffrog yn unig, i sgetsys o ferched yn eu gwisgo gyda cholur arnynt. Nodir y defnydd ar gyfer y ffrogiau ac mae cyfeiriadau hyfryd at y lliwiau mae wedi eu defnyddio, rhai fel ‘strawberry pink’. Rhoddodd enwau arbennig fel ‘Anemone’, ‘Red letter day’ a ‘Forget me not’ i’w chreadigaethau. Mae’n ddiddorol hefyd gweld pa rai a werthwyd, a pha rai oedd yn boblogaidd, ac iddi gynhyrchu’r rhain dro ar ôl tro.

Cynlluniwyd y ffrogiau yma adeg yr Ail Ryfel Byd, pan oedd ofn, blinder, ac efallai ychydig o gasineb wedi cydio yn ein gwlad, ac rwy’n meddwl ei fod yn gysur gwybod yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd, fod rhywun yn creu pethau mor hardd.

Rhyfedd meddwl os na fyddai wedi bod mor garedig â gadael i’w g?r ddefnyddio’i llyfr cynllunio fel llyfr lloffion, mae’n bosib na fyddwn i wedi canfod fy hun yn y sioe ffasiwn yma!

Mae gymaint o drysorau i’w cael ymhlith y casgliadau sydd o fewn y muriau hyn, ac weithiau gellir canfod rhywbeth gwerthfawr yng nghanol y trysorau. Ymddengys felly, os nad oes gennych chi Dardis, mae cadair cyfrifiadur sy’n troi yn gwneud y tro! (neu un o’r cadeiriau cyfforddus sydd ddim yn troi yn Ystafell Ddarllen y De yn y Llyfrgell!)

Emma Towner

http://archiveswales.org.uk/fileadmin/arcw/images/Explore_your_archive/Web_bilingual_explored.jpg

Eisteddfodau cenedlaethol Dinbych ddoe a heddiw

Casgliadau - Postiwyd 12-08-2013

Rhaglen Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1860

Rhaglenni Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1860

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf swyddogol yn Aberdâr yn 1861, ond yn 1860 Castell Dinbych oedd lleoliad yr ?yl. Cynigiwyd ‘large amount of prizes’ a’r llywydd oedd neb llai na Syr Watkin Williams Wynn, Wynnstay.

Roedd hyd yn oed cystadleuaeth ar gyfer ‘the best pair of wellington boots’! ‘Nefydd’ a ‘Myvyr Mon’ oedd beirniaid y traethodau ar dderwyddiaeth a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Y Faner.

Beirniadaeth y traethodau ar dderwyddiaeth

Beirniadaeth y traethodau ar dderwyddiaeth, 1860

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf yn Ninbych yn 1882 ar yr un safle mewn ‘commodious wooden pavillion’ ac yr oedd Gladstone ymhlith y llywyddion. Yr ydym yn ffodus iawn fod Rhestr o’r testynau wedi goroesi ac wedi dod yma o lyfrgell y cerddor David Emlyn Evans. Testun yr awdl oedd ‘Dyn’, a’r ‘Arglwydd Garfield’ oedd testun y bryddest goffadwriaethol. Yr oedd lle amlwg hefyd i grefftau Cymreig yn yr eisteddfod hon gyda medal arian am frethyn Cymreig a gwobr ar gyfer cwilt Cymreig.

Yn y National Eisteddfod Association 2nd report, (1882), ceir adroddiad gan Morris T. Williams ar Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1882 sy’n dangos fod trigolion Dinbych yn amharod i groesawu’r eisteddfod nôl i’r dref gan fod “hen atgofion am yr Eisteddfod olaf a fu yn y dref, a cholled ariannol yr Eisteddfod honno yn dychryn llawer un”.

Rhestr testunau Eisteddfod 1882

Rhestr testunau Eisteddfod 1882

Testun y bryddest yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1939 oedd ‘Terfysgoedd Daear’ – testun proffwydol iawn gan gofio i’r Ail Ryfel Byd dorri ymhen y mis. Ond ni chafwyd teilyngdod yng nghystadlaethau’r goron na’r gadair. Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd – a’r olaf gobeithio! Yn ffodus cafwyd teilyngdod yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith gan i John Gwilym Jones ddod i’r brig gyda’i nofel Y dewis. Ond flynyddoedd yn ddiweddarach pan ailymwelodd yr eisteddfod â Sir Ddinbych yn 2001 dyma hanes yn cael ei greu pan enillodd Mererid Hopwood y gadair am ei hawdl ar y testun ‘Dadeni’. Hi yw’r unig ferch i gyflawni’r gamp hon hyd yma.

Mae natur y testunau a osodir yn adlewyrchu’r oes sydd ohoni yn aml iawn er enghraifft un o’r cystadlaethau eleni oedd ysgrifennu blog teithio (gwir neu ddychmygol), ‘Un nos olau leuad’ oedd teitl y delyneg a ‘Bancwyr’ oedd testun y gerdd ddychan. Gydag Eisteddfod Genedlaethol arall wedi dod i ben, ydych chi wedi meddwl beth sy’n digwydd i’r holl gyfansoddiadau buddugol ac anfuddugol hyn – yn farddoniaeth, rhyddiaith, cerddoriaeth, dramâu a gwaith gan ddysgwyr?

Mae’r Llyfrgell wedi diogelu’r cyfansoddiadau er 1922 o Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1887 ymlaen (gyda rhai bylchau). Gall cystadleuwyr Dinbych hawlio eu gwaith o Swyddfa’r Eisteddfod cyn 1 Hydref, neu gallant wneud cais amdanynt wedi iddynt gael eu trosglwyddo i’n gofal drwy gyflwyno’u ffugenw/ffugenwau i ni. Byddwn wedyn yn agor yr amlen dan sêl i sicrhau mai ef/hi yw’r gwir awdur.

Ann F. Evans

Gwenwch!

Digido / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 28-05-2013

Wrth i mi bori drwy wefan y Llyfrgell, y blog a’r Drych Digidol. Un casgliad sydd o hyd yn fy rhyfeddu, yw casgliad Geoff Charles. Dyma gasgliad anhygoel o luniau cyffredin, o bobl gyffredin adeg yr Ail Ryfel Byd, 1939-1945.

Erbyn hyn mae 6000 o luniau ar gael ar -lein i bawb cael gweld, rhan fwyaf ohonynt ar gyfri Flickr y Llyfrgell.
Yn aml byddwn yn tynnu sylw at y casgliad yma drwy drydar ac mae’r ymateb yn ffafriol dros ben, mae’n amlwg iawn, bod pobl yn hoff o luniau! Dyma un o fy ffefrynnau. Mae ddigon posib i chi adnabod rhywun o’r lluniau efallai, cymrwch gip olwg….

Tagiau: , , ,

Eisteddfod Llangollen a W. S. Gwynn Williams

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 07-07-2011

Ydi, mae hi’n wythnos Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen unwaith eto. Mae cystadleuwyr o dros 130 o wledydd o bedwar ban byd yn teithio i Langollen am wythnos. Eleni mae’r Eisteddfod yn dathlu 65 mlynedd – cafwyd yr Eisteddfod gyntaf yn 1947 diolch i frwdfrydedd a dyfalbarhad 3 dyn – Harold Tudor, George Northing a W. S. Gwynn Williams.

W. S. Gwynn Williams, Medi 1961.

W. S. Gwynn Williams, Medi 1961.

Yn ôl yn 1943, cafodd Harold Tudor y syniad o greu g?yl rhyngwladol gerddorol yng Nghymru er mwyn adfer perthnasau a hybu heddwch wedi’r Ail Ryfel Byd. Erbyn diwedd 1945, roedd Tudor wedi crisialu ei syniad o gynnal Eisteddfod Rhyngwladol. Cafodd gefnogaeth brwd gan W. S. Gwynn Williams, cyhoeddwr a chyfansoddwr Cymraeg a George Northing, athro yn Ysgol Dinas Brân a Chadeirydd y Cyngor lleol.
Penodwyd W. S. Gwynn Williams yn Gyfarwyddwr Cerdd i’r ?yl  yn 1947 a mynnodd gynnal yr Eisteddfod yn flynyddol yn Llangollen, sef ei dref enedigol.

Tren yn cludo cystadleuwyr i Eisteddfod Llangollen 1947.

Tren yn cludo cystadleuwyr i Eisteddfod Llangollen 1947.

Crëwyd amryw o bwyllgorau (yn ôl yr hen arfer Cymreig!) a chafwyd blwyddyn o baratoi a threfnu er mwyn gwireddu’r freuddwyd. Ar drothwy’r ?yl, ym Mehefin 1947, cyhoeddwyd streic rheilffordd yn Ffrainc, a bu pryder mawr a fyddai cystadleuwyr yn gallu cyrraedd Llangollen mewn pryd. Doedd dim angen poeni – cyrhaeddodd 40 o gorau o 14 gwlad gwahanol a chafwyd llwyddiant ysgubol. Gweler llun gan Geoff Charles, ffotograffydd gyda phapur Y Cymro ar y pryd, o’r tren yn orsaf Llangollen gyda thyrfaoedd yn cyrraedd i’r Eisteddfod. Tyfodd yr ?yl dros y blynyddoedd i gynnwys cystadlaethau i’r ifanc, dawnsio gwerin a chyngherddau.
Llun arall o Gasgliad Ffotograffau Geoff Charles ceir isod, yn dangos aelodau o Grupo Musical Femininoo Oporto, Portiwgal, ar gwch canal.

Grupo Musical Feminino ar gwch canal, Llangollen 1947.

Grupo Musical Feminino ar gwch canal, Llangollen 1947.

Roedd Gwynn Williams yn gyfrifol am ddewis y darnau prawf a’u dosbarthu i’r cystadleuwyr, ynghyd â goruchwylio rhaglen yr wythnos. Parhaodd yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Cerdd am 30 mlynedd hyd ei ymddeoliad yn 1977. Gweithiodd yn frwd gyda threfnwyr eraill yr ?yl i sicrhau llwyddiant cyson a denu gwledydd newydd i’r ?yl. Rhwng 1947 a 1953 cystadlodd nifer o wledydd am y tro cyntaf: Yr Arianin, Tseina, Yr Almaen a’r Unol Dalaethiau yn 1949, Brasil, Sri Lanka a Thwrci yn 1950, ac India yn 1951.

Mae’r Eisteddfod yn parhau i hybu’r neges o heddwch hyd heddiw. Dywedodd  Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite: “Y neges heddwch yw neges bennaf yr Eisteddfod, ac mae’r rhai sy’n cyfrannu yn datblygu cyfeillgarwch ac ennill dealltwriaeth newydd o’r rhai a fu eisoes yn cael eu gweld fel bygythiad.”

Ceir hanes pellach am W. S. Gwynn Williams ac Eisteddfod Llangollen yn Oriel Enwogion ar wefan prosiect digidol MYGLYW ac ym mhapurau W. S. Gwynn Williams yn LlGC.

Casgliad Glyn Samuel a’i Fand Dawns

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 11-04-2011

Dawns yn Ystrad Mynach, 1951 (Casgliad Geoff Charles)

“The moon of Manakoora” … “Samoan love waltz” … “Meet me at twilight” …  dyna i chi sampl o rai o’r teitlau sydd ar y sgorau yng Nghasgliad Glyn Samuel. Mae rhamant egsotig y teitlau yn mynd â ni yn ôl i fyd gwahanol iawn y bandiau dawns a ddaeth yn boblogaidd o gwmpas yr Ail Ryfel Byd. Wrth gwrs, nid rhamant a dihangfa’r neuadd ddawns yw’r unig stori a edrydd y teitlau. Mae “The war in the air” … “Vanished Army” … “Poppies of Flanders” yn adrodd stori wahanol iawn.

Mae aelodau’r band fu’n defnyddio’r sgorau wedi gadael eu hôl arnynt, ac y mae hyn yn  gwneud y sgorau’n fwy diddorol ac yn ychwanegu at eu gwerth hanesyddol. Mae nifer o’r darnau, er enghraifft, wedi cael eu stampio gyda’r geiriau “Pavilion Treorchy” a “Glyn Samuel Rhythm Boys Dance Band, 89 Stuart Street Treorchy”. Ysgrifennodd ambell aelod o’r band nodiadau mewn pensel ar rai o’r sgorau hefyd. Un enghraifft o hyn yw’r jôc eironig ar y darn “The peace-maker” gan Adolf Lotter. Newidiwyd enw’r cyfansoddwr i “Adolf Hitler”.

Ganed Glyndwr Moroni Samuel ym 1905 yn Nhreherbert ac yr oedd yn gerddor amryddawn a gafodd yrfa lewyrchus a lliwgar. Y soddgrwth oedd ei offeryn cyntaf ac yr oedd hefyd yn offerynnwr taro. Bu Glyn Samuel yn rheolwr cerddorol gr?p o sinemâu yn ardal y Rhondda a bu’n rheoli band a oedd yn darlledu ym Mhorth-cawl yn ogystal â band o’i fywyd sifil yn R.A.F. Sain Tathan.

Am nifer o flynyddoedd fe weithiai ar longau’r cefnfor gyda’i gerddorfa salon ei hunan. Diau fod nifer o sgorau’r casgliad wedi cael teithiau ar draws yr Iwerydd yng nghwmni’r cerddorion. Yn y 40au daeth Llandrindod yn ganolfan i’w fand ac yno hefyd y symudodd Glyn Samuel i fyw ym 1947. Yn dilyn cyfnod arall ar y môr, cafodd yrfa newydd fel swyddog hysbysebu ar gyfer papurau newydd.

O fwrw golwg yn ôl dros fywyd Glyn Samuel, mae’n rhwydd synied amdano fel math o Glenn Miller Cymreig.

Am fwy o wybodaeth am gyfnod yr Ail Ryfel Byd, gweler gwefan MYGLYW.

Heini Davies

Awduron Cymru – Islwyn Ffowc Elis a Gillian Clarke

Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 09-12-2010

Mae tîm arddangosfeydd y Llyfrgell yn brysur yn cyfnewid arddangosfa Awduron Cymru, fydd ar hyn o bryd yn agor i’r cyhoedd dydd Sadwrn yma sef y 11eg o Ragfyr. Y nofelydd adnabyddus Islwyn Ffowc Elis a Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, sydd dan sylw y tro yma. Mae’r arddangosfa yn cynnwys llawysgrifau, brasluniau, a ffotograffau, sy’n olrhain bywyd a gwaith y ddau lenor.

Islwyn Ffowc Elis

Islwyn Ffowc Elis

Ganwyd Islwyn Ffowc Elis yn nh? ei fodryb ger Acton, ger Wrecsam yn 1924, ond fe’i magwyd yn fab fferm yng Nglynceiriog. Islwyn oedd y llenor Cymraeg cyntaf i geisio ennill bywoliaeth drwy ysgrifennu yn broffesiynol.

Yn 1999, enillodd ei nofel Cysgod y Cryman (1953) wobr Llyfr y Ganrif gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae ei weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys Cyn Oeri’r Gwaed (1952), Cysgod y Cryman (1953), Ffenestri Tua’r Gwyll (1953), Yn ôl i Leifior (1956), Wythnos yng Nghymru Fydd (1957), Blas y Cynfyd (1958), Y Blaned Dirion (1968), Y Gromlech yn yr Haidd (1971) a Eira Mawr (1972).

Ganwyd Gillian Clarke yng Nghaerdydd yn 1937 ac fe’i magwyd yng Nghaerdydd a Phenarth, er iddi dreulio cyfnod yn Sir Benfro yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Gillian Clarke

Gillian Clarke

Gillian Clarke yw un o feirdd amlycaf y Gymru gyfoes. Mae ei cherddi wedi derbyn cymeradwyaeth gwresog ar draws y byd, ac yn 2008 cafodd ei dewis yn Fardd Cenedlaethol Cymru.

Mae ei gweithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys Snow on the Mountain (1971), The Sundial (1978), Letter From a Far Country (1982), Letting in the Rumour (1989), The King of Britain’s Daughter (1993), Five Fields (1998), The Animal Wall (1999) Nine Green Gardens (2000), a Making the Beds for the Dead (2004).

Mae’r arddangosfa i’w gweld yn y Llyfrgell o 11 Rhagfyr 2010 i 26 Tachwedd 2011. Gellir cael fwy o wybodaeth am yr arddangosfa wrth edrych ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog