Blog

Cymru a’r fasnach gaethweision

Casgliadau - Postiwyd 23-08-2021

Ffynnodd y fasnach gaethweision drawsiwerydd rhwng y 17eg ganrif a’r 19eg ganrif, gan effeithio ar Gymru mewn ffyrdd nas gwerthfawrogir yn llawn o hyd. Gadawodd ei hôl nid yn unig ar y masnachwyr, y morwyr, perchnogion y planhigfeydd a’r gweithwyr ystad yr oedd ganddynt ran uniongyrchol ynddi, ond hefyd ar weddill diwydiant, masnach, cymdeithas a bywyd beunyddiol Cymru. Roedd Cymru’n enwog am ei haearn, ei gwlân a’i chopor, ac yn aml defnyddid y rhain i gyd i wneud nwyddau gâi eu cyfnewid am gaethweision neu eu defnyddio ar y llongau caethweision a’r planhigfeydd. Caethweision, hefyd, oedd cynhyrchwyr y cotwm a’r tybaco a ddefnyddid yn eang ar bob lefel o’r gymdeithas yng Nghymru.

Ceir tystiolaeth am y fasnach gaethweision a’i heffeithiau mewn ambell i gasgliad yn y Llyfrgell, yn arbennig yn archifau’r ystadau tir a fu’n berchen ar blanhigfeydd gyda chaethweision. Weithiau bydd y cyfeiriadau’n glir, ond yn aml mae angen i ni grafu’r wyneb er mwyn gweld y darlun llawn. Mae gwaith haneswyr fel yr Athro Chris Evans (Slave Wales: the Welsh and Atlantic slavery 1660-1850; Gwasg Prifysgol Cymru, 2010) wedi helpu i ddatgelu’r stori, ond mae llawer eto i’w ddarganfod yn yr archifau. Gyda Diwrnod Rhyngwladol UNESCO ar Awst 23 er Coffáu’r Fasnach Gaethweision a’i Diddymu, cymerwn gipolwg ar rywfaint o’r deunydd yng nghasgliadau’r Llyfrgell sy’n ymwneud â’r fasnach gaethweision.

O fewn yr ymerodraeth Brydeinig, fe weithredid y fasnach gaethweision ar draws y byd o India’r Dwyrain hyd America, a chwaraeodd nifer fawr o Gymry ran ynddi. Mae UNESCO yn pwysleisio’r fasnach drawsiwerydd oherwydd ei heffaith pellgyrhaeddol ar gysylltiadau hiliol heddiw, felly mae’r blog yma yn ffocysu ar India’r Gorllewin. Mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth am y fasnach gaethweision yn rhannau eraill o’r byd.

O’r cychwyn, fe roddwyd llawer o’r cyfeiriadau cyfoes at y fasnach gaethweision mewn côd gan y rhai oedd â rhan ynddi. Ym 1692, er enghraifft, dim ond cyfeirio at ei ‘fuddiannau’ yn Affrica ac India’r Gorllewin wnaeth cwmni a fasnachai yno (Tredegar Estate Records MSS and Docs 122); dyma’r cyfnod pan oedd Cwmni Brenhinol Affrica (The Royal African Company) yn ei anterth a chyda monopoli dros fasnach Lloegr a Chymru mewn caethweision Affricanaidd – cafodd cerflun o’i Raglyw, Edward Colston, ei daflu i mewn i’r harbwr ym Mryste yn 2020, mewn gweithred a dderbyniodd gryn gyhoedusrwydd. Ar yr wyneb, a thrwy’r cyfnod, rhoddai gweithredoedd tir a thrafodion busnes yr argraff nad oedd unrhyw wahaniaeth rhwng y planhigfeydd yn llefydd fel Montserrat, St Kitts a Dominica â maenorau yn Sir Gaerloyw neu Sir Fynwy (Gogerddan Estate Records MC2/1; Penty Park Estate Records 28; Nassau Senior Papers E714), ac yn aml mewn gohebiaeth o’r planhigfeydd siwgwr yn Nevis a St Kitts ni soniwyd llawer os o gwbl am bresenoldeb caethweision yno (Bodrhyddan Estate Papers 58/1-143).

Yn yr un modd, ceir llythyrau gan swyddogion y Llynges at Charles Hayes, Rhaglyw Cwmni Brenhinol Affrica, yn crybwyll bod Ffrancwyr yn cwyno am Brydeinwyr yn ymyrryd â’u masnach yn Senegal yng nghanol y 18fed ganrif heb fod yn gwbl eglur am natur y fasnach honno (Gogerddan Estate Papers GCB1/1). Mae siartiau dyfrddarluniadol o India’r Gorllewin, fel yr un a luniwyd gan Joseph Smith Speer ym 1774, yn ymddangos yn ddigon diniwed hefyd, ond maen nhw’n cuddio byd tywyll caethwasiaeth y cawsant eu creu ynddo (Aston Hall Estate Records 3503). Ar yr un pryd, ymfalchïai gwladychiaethwyr fel teulu Ottley yn eu safle fel cynrychiolwyr y Gyfundrefn yn Antigua, St Vincent, Grenada a mannau eraill yn nhrefedigaethau Prydain yn India’r Gorllewin (Ottley Family (Additional) Papers 1).

Mae caethwasiaeth ymhell o fod yn anweladwy yn yr archifau, serch hynny. Mewn llythyr at Charles Hayes ym 1747 mae William Slawman yn ei wahodd yn agored i gymryd rhan yn y busnes o gludo caethweision o Gambia i Buenos Aires (Gogerddan Estate Papers GCB1/1), a fe gafodd arwerthiannau o gaethweision eu cofnodi (Nassau Senior Papers E732). Fel arfer, rhestrwyd caethweision fel eiddo mewn llechresi a chytundebau, ochr yn ochr â da byw a gwaddodion mwynau (Peniarth Estate Records DK2), a chaethweision oedd cyfran helaeth o ystad Richard Swarton yn Jamaica yn y 1760au (Slebech Estate Records 3328-33). Ym 1785, fe gymerodd William Knox o Slebech ran yn arwerthiant 100 o gaethweision am bris o £54 10s. (NLW Deeds 1948); roedd y caethweision yma eisoes wedi cael eu cludo o Georgia i Jamaica, ac yn awr roedden nhw ar eu ffordd i Dde Carolina. Cedwid dyddiaduron gan yr asiantau a weithredai’r busnes hwn (Nassau Senior Papers E814), ac weithiau bydden nhw’n cofnodi gwybodaeth am iechyd y caethweision, er dim ond yng nghyswllt pa mor dda y gallen nhw weithio (Slebech Estate Records 8342-440). Roedden nhw’n ystyried y caethweision fel asedau ariannol yn unig, gan gwyno am chwyddiant yn y prisiau a’u hanhawster yn cael gafael ar gaethweison oedd wedi cynefino â’u hamgylchiadau (‘seasoned slaves’) (Nassau Senior Papers E51, E64, E4).

Roedd y masnachwyr a meistri’r caethion yn gwbl ymwybodol mai trais oedd sylfaen eu rheolaeth, ac fe’i gwnaed yn gwbl eglur ganddynt eu bod yn disgwyl i ‘gaethweision ar ffo’ gael eu darostwng (Nassau Senior Papers E74). Aeth planhigwyr a masnachwyr India’r Gorllewin ati i ddeisebu llywodraeth Prydain gyda’u pryderon pan waethygodd tensiynau rhwng y caethweision a’r planhigwyr ym 1791 (Slebech Estate Records 11532-41) – cafwyd gwrthryfel llwyddiannus gan gaethweision yn nhrefedigaeth Ffrengig Saint-Domingue ychydig o fisoedd yn ddiweddarach, a hynny’n arwain yn y pen draw at sefydlu gwladwriaeth rydd Haiti – ac fe dyfodd pryderon y perchnogion yn ystod rhyfeloedd Prydain gyda Ffrainc chwyldroadol (Glansevern Estate Records 1010). Pan ddaeth caethweision yn rhydd am y tro cyntaf yn India’r Gorllewin, trwy eu hymdrechion gwaedlyd eu hunain yn erbyn gwladychiaethwyr Ewropeaidd y cyflawnwyd hynny.

Roedd yna wastad wrthwynebiad wedi bod yng Nghymru i’r fasnach gaethweision, ond ni wnaeth lawer o wahaniaeth tan ddiwedd y 18fed ganrif. Erbyn hynny, roedd cyfarfodydd yn galw am ddiddymu’r fasnach yn dod yn fwy cyffredin, fel yr un ym Mrynbuga ym 1792 (Tredegar Estate Records 64/346). Roedd Edward Williams, neu Iolo Morganwg, yn adnabyddus am ei wrthwynebiad cryf i’r fasnach; yn ogystal â siarad, darllen ac ysgrifennu am y pwnc, byddai’n gwrthod gwerthu ei waith llenyddol i rai yr oedd e’n gwybod eu bod yn cefnogi’r fasnach ym Mryste (Iolo Morganwg and Taliesin ab Iolo Manuscripts and Papers NLW MS 21282E/359, NLW MS 21396E/17, NLW MS 21392F/29, NLW MS 21400C/24-24a ). Nid oedd pawb o’r un farn, fodd bynnag. Roedd llawer o’r boneddigion yng Nghymru a’u hasiantau wedi buddsoddi’n drwm yn y planhigfeydd, a’u dadl nhw oedd y byddai diddymu’r fasnach yn niweidio economi Lerpwl a phorthladdoedd eraill (Harpton Court Estate Records 2073).

Diddymwyd y fasnach gaethweision yn yr ymerodraeth Brydeinig ym 1807, ond roedd caethwasiaeth yn parhau o hyd, ac roedd hi’n dal i fod yn bosib i brynu a gwerthu caethweision mewn amgylchiadau arbennig. Ym mis Hydref 1810, er enghraifft, fe wnaeth yr Uwchfrigadydd Thomas Picton – a oedd yn ymladd ym Mhortiwgal gyda Wellington ar y pryd – gytundeb gydag aelodau teulu Delaforest i drosglwyddo planhigfeydd, adeiladau, offer, caethweision, ceffylau, mulod ac eiddo eraill yn Nhrinidad, a oedd wedi bod yn drefedigaeth Brydeinig ers 1797 (Picton Family Records 19). Roedd Picton, tirfeddianwr cefnog a ddaeth yn A.S. dros Fwrdeistrefi Penfro yn ddiweddarach, yn adnabyddus am ei greulondeb gormesol, yn arbennig tuag at gaethweision, a fe’i cafwyd yn euog o ganiatáu i ferch ifanc o’r enw Luisa Calderón (nad oedd yn gaeth) gael ei harteithio yn Nhrinidad ym 1801, ond apeliodd yn erbyn yr euogfarn ar bwynt technegol a ni chyrhaeddwyd benderfyniad terfynol. Am flynyddoedd maith cofid amdano yn bennaf oherwydd ei ran yn rhyfel Iberia a’i farwolaeth yn Waterloo, a chodwyd cofgolofn iddo yng Nghaerfyrddin. Mae ymgyrch wedi bod yn ddiweddar i’w symud ymaith.

Roedd triniaeth greulon caethweision yn Jamaica yn parhau i gael sylw ym 1815 (Nassau Senior Papers E136), a bu raid i Lynges Frenhinol yn India’r Gorllewin weithredu yn erbyn morladron a’r fasnach gaethweision – yr oedd cysylltiad agos rhyngddynt yn nhyb y llywodraeth erbyn hyn – am flynyddoedd ar ôl hynny (Penralley Papers 219). Roedd sylw’r diddymwyr yn awr yn troi tuag at gaethwasiaeth ei hun, nid yn unig yn ymerodraeth Prydain ond yn Unol Daleithiau America a mannau eraill. Ymhlith yr ymgyrchwyr yng Nghymru roedd y gweinidog Annibynnol Samuel Roberts (‘S.R.’) (NLW MS 9523A), ond yr unigolyn mwyaf blaenllaw yng nghasgliadau’r Llyfrgell yw Thomas Clarkson, a deithiai’n ddiflino dros y Gymdeithas Gwrthgaethwasiaeth (NLW MS 14984A) gan ymroi ei fywyd i’r achos a chan roi ei hun mewn perygl mawr ar adegau. Clarkson a ysgogodd y mudiad dros ddiddymu ym Mhrydain yn y 1780au trwy gasglu tystiolaethau gan forwyr; gwyddai y byddai hyn nid yn unig yn datgelu amodau byw a gweithio dychrynllyd y morwyr ar fwrdd y llongau caethweision, ond hefyd driniaeth y caethweision eu hunain. Roedd ambell i Gymro ymysg y morwyr hyn ym Mryste a Lerpwl.

Dim ond ychydig o’r eitemau mwyaf hygyrch yn ein casgliadau yw’r rhain. Mae llawer o straeon yn dal i fod ynghudd yn yr archifau ac yn aros i gael eu datgelu.

Nid gyda’r fasnach drawsiwerydd y dechreuodd ymwneud Cymru â chaethwasiaeth. Yn aml yng nghyfraith Gymreig yr Oesoedd Canol – y ceir nifer o lawysgrifau ohoni yn y Llyfrgell, yn cynnwys Peniarth MS 28 – fe gymerid caethweision yn ganiataol fel dosbarth o fewn y gymdeithas, tra soniai ffynnonellau traethiadol megis ‘Brut y Tywysogyon’ (Peniarth MS 20) a Vita Griffini filii Conani (Peniarth MS 434E) am Lychlynwyr o Iwerddon yn dwyn pobl yng Nghymru i mewn i gaethwasiaeth. Mae hyd yn oed yr hwiangerdd o’r seithfed ganrif ‘Pais Dinogad’, a ysgrifennwyd yn llais merch yn canu i’w phlentyn, yn cyfeirio at eu hwyth caethwas (‘wythgeith’) yn cydganu (NLW Llyfr Aneirin, Cardiff MS 2.81).

Nid rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol yn unig yw’r fasnach gaethweision ychwaith. Yn 2007 a 2008, fel rhan o gywaith cymunedol Everywhere In Chains, cynhaliodd Women in Jazz gyfres o weithdai yn ne Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth am gaethwasiaeth a’r fasnach gaethweision yn y byd modern yn ogystal â’r gorffennol (Jazz Heritage Wales / Archif Menywod Cymru 4/9). Gobeithiwn na fydd angen ychwanegiadau tebyg i’n casgliadau yn y dyfodol.

 

Dr David Moore (Archifydd)

 

Tagiau:

Crefydd a gwyddoniaeth

Collections - Postiwyd 16-08-2021

Diddorol oedd darllen pamffled ymhlith casgliad o gyfrolau rhydd Gladstone gan y mathemategydd a’r ffisegydd nodedig, George Stokes (1819-1903). Teitl y traethawd yn y pamffled yw “Rhai ystyriaethau ar astudiaeth o Wyddoniaeth Naturiol a’r modd mae’r darganfyddiadau yn cael effaith ar ein syniadau crefyddol”.

Roedd Stokes yn awyddus i ddangos i’w ddarllenwyr fod darganfyddiadau gwyddonol yn newid ond nad oedd hyn yn tanseilio credo crefyddol.  Credai’n gryf fod dysgu am reolau gwyddoniaeth naturiol yn helpu pobl i ddeall crefydd yn well ac i gryfhau eu ffydd. Mae’n cyflwyno nifer o enghreifftiau i gefnogi ei safbwynt.

Mae’n gofyn yn gyntaf i’w ddarllenwyr ddychmygu ynys anghysbell yn y Môr Tawel.  ‘Does neb wedi ymweld â hi o’r blaen. Mae’n enwi’r ynys yn Irene. Mae’r bobl yno yn ddeallus a chrefyddol, ond bach iawn yw eu gwybodaeth am wyddoniaeth naturiol.  Credent fod y synnwyr o allu gweld yn arbennig, a’i fod yn rhodd gan y Creawdwr.

 

 

Ymhen amser, darganfuwyd yr ynys gan gapten llong a’i griw o wyddonwyr. Daeth yr ynyswyr a’r gwyddonwyr yn ffrindiau a dysgodd yr ymwelwyr lawer am ffiseg i drigolion Irene cyn iddynt adael yr ynys. Dysgodd yr ynyswyr am opteg gan y gwyddonwyr. Hefyd dysgon nhw am fodolaeth pelydrau a rheolau adlewyrchu a phlygiant yn ogystal â sut mae delweddau’n ffurfio wrth ddefnyddio telesgop.  Ar ôl dyrannu llygad dangoson nhw ei fod fel offeryn optegol yn ffurfio gwrthrychau ar y rhwyden.  Arferai’r ynyswyr gredu fod eu gallu i weld yn rhodd gan y Creawdwr, ond nawr, dyma nhw’n sylweddoli fod eu llygaid yn ymateb fel unrhyw ddeunydd difywyd.  Roeddent yn dechrau ystyried fod y byd o’u cwmpas yn arddangos deddfau syml natur.

Ar ôl i’r gwyddonwyr adael, dechreuodd yr ynyswyr ffurfio barn fwy cymedrol am yr hyn roeddent wedi dysgu.  Dysgodd rhesymeg ddynol iddynt fod delweddau yn ffurfio yn y rhwyden fel rhai mewn offer optegol.  Ond erys y cwestiwn – sut oedd eu rhannau wedi addasu mor dda i wneud hyn?  Roeddent wedi eu synnu gyda thystiolaeth o’r cynllunio.  Rhaid felly fod yna gynlluniwr.  Dechreuon nhw feddwl am y Creawdwr mewn ffordd wahanol.  Roedd Duw yn cyflawni ei ddibenion wrth gydffurfio â, yn hytrach na gormesu rheolau natur.

Mae Stokes wedyn yn cymharu cyflwr yr ynyswyr i gyflwr ei ddarllenwyr pan ddaw darganfyddiadau gwyddonol newydd i law. Mae’n erfyn ar ei ddarllenwyr i gadw meddwl cytbwys rhwng tystiolaeth wyddonol a syniadau crefyddol. Da fyddai i ni gofio hyn heddiw.

Sonia Stokes am syniadau gwyddonol eraill, fel arbed ynni a theori esblygiad, i gefnogi ei gred fod Creawdwr y tu ôl i drefn naturiol y byd. Dewisodd y gwyddonydd nodedig hwn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roi sylw i’r pwnc i bwysleisio ei bwysigrwydd i’w ddarllenwyr bryd hynny. Mae ei syniadau o ddiddordeb i ni heddiw hefyd (gweler yr ail eitem yn y llyfryddiaeth).

 

Llyfryddiaeth

Stokes, G.G. (1879) On the bearings of the Study of Natural Science and of the contemplation of the discoveries to which that study leads, on our religious ideas. London: E. Stanford.

Davies, Noel A. a Jones, T. Hefin (2017) Cristnogaeth a Gwyddoniaeth. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

 

Hywel Lloyd

Llyfrgellydd Cynorthwyol

Recordiadau o emynau a cherddoriaeth gysegredig o silindrau cwyr

Darganfod Sain - Postiwyd

Mae esblygiad recordio yn ddyledus iawn i Thomas Alva Edison (1847-1931) a fu’n gyfrifol am ddarganfod y ffonograff ym mis Rhagfyr 1877. Daeth y cysyniad o silindrau cwyr fel y cyfrwng gorau i atgynhyrchu sain ar ddisg i fod drwy gystadleuaeth iachus rhwng Alexander Graham Bell ac Edison a enillodd y ras drwy ryddhau ei ‘Perfected Phonograph’ yn 1888.

 

[Ffotograff gan Daderot, ar gael trwy Wikimedia Commons –https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Wax_cylinder_set,_c._1895,_Edison_-_Museum_of_Science_and_Industry_(Chicago)_-_DSC06677.JPG]

 

Er mai defnydd gwreiddiol y ffonograff oedd naill ai yn archifol neu ar gyfer gwneud adysgrif, agorodd troad yr ugeinfed ganrif farchnad ar gyfer recordiadau cerddorol gyda dyfodiad y silindrau wedi’u mowldio, ac roedd emynau ar eu hanterth yr adeg hon.

Roedd chwarae ditectif drwy edrych ar rai o’r recordiau hyn yn apelio, er bod ansawdd y sain yn wael wedi iddynt gael eu digido gan yr Archif Sain o’r silindrau cwyr gwreiddiol gyda’u holl ddiffygion.Tra fod y disgrifiad casgliad yn adnabod y math o gerddoriaeth a’r dull o recordio, does dim gwybodaeth am bryd cafodd y silindrau eu recordio, gan bwy neu ar gyfer pwy. Cafwyd gwybodaeth bellach yn y cyflwyniadau i’r recordiau sy’n taflu goleuni gyda’r tameidiau rhwng clecian y cwyr.

Mae’r casgliad yn cynnwys 4 ffeil sain; nid yw’r silindrau cwyr gwreiddiol wedi’u catalogio eto yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gall fod mwy o fanylion wedi’u hysgrifennu ar y silindrau hyn, yn enwi perfformwyr a rhoi dyddiadau ond cafwyd hwyl yn yr ymarfer hwn yn gwrando ac adnabod yr emynau cyn ymchwilio i’r beirdd a’r cyfansoddwyr fel a ganlyn:

 

Emyn 1: “I am praying for you”, cenir gan ddau berson gyda chyfeiliant cerddorfa fechan yn aneglur achos y clecian. Ni ellir adnabod y cyhoeddwr ac mae enwau’r cantorion yn aneglur ond enw’r tenor yw Anthony. Ceir cyfeiriad at Hereford, naill ai fel lle neu fel cyfenw, ond roedd yn amhosib i weithio allan yr enw neu ryw’r ail ganwr. Er bod ‘Hereford’ yn awgrymu i’r recordiad gael ei wneud yn y DU, mae’n amlwg mai Americanwr yw’r cyhoeddwr.

Dyma emyn Methodist gan Samuel O’Malley Cluff (1860) wedi’i drefnu ar dôn Ira David Sankey (1874).

Ganwyd y Parchedig Cluff yn Nulyn yn 1837. Mynychodd Goleg y Drindod a daeth yn weinidog Anglicanaidd mewn lleoliadau amrywiol yn Iwerddon. Daeth yn arweinydd y Brodyr Plymouth yn 1884, ac wedyn priododd Anne Blake Edge, ganwyd pedwar o blant iddynt ac ysgrifennodd dros 1000 o eiriau emynau Cymraeg a chaneuon, gan gyfansoddi llawer o’r alawon hefyd. Daeth Ira Sankey ar draws “I am praying for you” wrth gynnal croesgadau yn Yr Alban. Fe’i ysbrydolwyd gan eiriau am weddi, cyfansoddodd gerddoriaeth a daeth yn boblogaidd yn ystod croesgadau ar ôl hynny. Rhoddwyd cydnabyddiaeth iddo yn llyfr Sankey, Sacred Song & Solos (1878) fel ‘S. O’M. Clough’.

Er bod pedwar pennill i’r emyn llawn, dim ond y pennill cyntaf sydd yn y recordiad hwn gyda chytgan sy’n cael ei hailadrodd.

Testun:

I have a Saviour, He’s pleading in glory,
A dear, loving Saviour, though earth-friends be few;
And now He is watching in tenderness o’er me,
But O, that my Saviour were your Saviour, too!

Cytgan:

For you I am praying,
For you I am praying,
For you I am praying,
I’m praying for you.

 

 

 

Emyn 2: “Pass me not, O Gentle Saviour” – yn yr ail recordiad hwn mae’r cyhoeddwr yn rhoi ychydig mwy o wybodaeth i ni am y cantorion, yr un rhai â’r recordiad cyntaf. Mae’n debyg mai deuawd yn cynnwys gŵr a gwraig ydynt, Anthony & Ann Hereford o Hereford Records, ond does dim lleoliad daearyddol i ddarganfod fwy amdanynt. Mae hefyd yn debyg mai’r cyhoeddwr Thomas Edison ei hunan gan fod ganddo lais nodedig, a ellir gael ei gymharu gan ffynonellau eraill ar-lein; os oedd Edison yn recordio yn y Deyrnas Unedig, neu os oedd yr Herefords yn byw yn yr UDA sydd dal yn aneglur.

Ysgrifennwyd y testun i’r emyn hwn gan Fanny Crosby, a gyhoeddodd ei cherddi gan ddefnyddio nifer anghredadwy o ffugenwau, yn wrywaidd a benywaidd. Ganwyd Frances Jane Crosby yn nhalaith Efrog Newydd yn 1820 a chollodd ei golwg yn 6 wythnos oed wedi salwch. Cafodd addysg wych yn y New York Institute of the Blind. Dyma lle ddechreuodd ysgrifennu geiriau i emynau i’w hathro cerddoriaeth, Dr Geoffrey Root. Rhwng 1864 a’i marwolaeth yn 1915, ysgrifennodd Fanny dros 8000 o eiriau emynau, gan ei gwneud yr emynydd mwyaf cynhyrchiol yn yr iaith Saesneg. Cyfansoddwyd yr emyn-dôn gan William Howard Doane – cyfansoddwr cynhyrchiol, diwydiannwr Americanaidd a dyngarwr a gefnogai waith ymgyrchoedd efengylaidd, gan gynnwys rhai dan arweiniad Ira D Sankey, y cyfeiriwyd ato ynghynt.

 

 

Dyma emyn arall gyda phedwar pennill, dewisodd yr Herefords recordio pennill un a phedwar gyda chytgan sy’n cael ei hailadrodd ac egwyl offerynnol rhwng penillion. Mae yna saib swynol gydag offerynnau pres ac offerynnau taro.

Testun:

1 Pass me not, O gentle Saviour
Hear my humble cry,
While on others Thou art calling
Do not pass me by.

Cytgan:

Saviour, Saviour
Hear my humble cry;
While on others Thou art calling,
Do no pass me by.

4 Thou the Spring of all my comfort,
More than life to me,
Whom have I on earth beside Thee?
Whom in heav’n by Thee [Refrain]

 

 

 

Emyn 3: “Jesus, Lover of my Soul”, cenir gan y tenor, Mr William McGillis. Yn anffodus, mae ei leoliad daearyddol wedi ei guddio yn llwyr. Llais Americanaidd sydd gan y cyhoeddwr, ond yn wahanol iawn i Thomas Edison, felly gallai’r silindr hwn fod wedi’i recordio gan rywun arall yn gweithio yn y diwydiant, neu ar ran Edison.

Ysgrifennwyd geiriau’r emyn gan Charles Wesley yn 1740, a’i gyhoeddi mewn casgliad Hymns and Sacred Poems. Yr oedd Charles yn ddeunawfed plentyn i’r clerigwr a’r bardd Samuel Wesley, yr oedd Charles yn frawd ieuengaf i sylfaenydd y Methodistiaid John Wesley, ac roedd yn rhan ganolog o emynyddiaeth Fethodistaidd, o’r 770 emyn a gyhoeddwyd yn y Wesleyan Hymn Book, mewn ffaith ysgrifennwyd 623 ohonynt gan Charles, sy’n cynrychioli dim ond 10% o’r cynnyrch i gyd.

Caiff ei adnabod fel un o emynau gwychaf Wesley– hefyd un o’r cynharaf – credir ei bod yn adleisio dau brofiad bywyd y ‘Bard of Methodism’. Y cyntaf oedd aderyn yn cael ei erlid gan hebog a hedfannodd drwy ffenest agored i mewn i freichiau Wesley wrth iddo ystyried anawsterau ysbrydol: “let me to Thy bosom fly”; efallai fod yr ail un yn ymwneud â storm a ddrylliodd eu ffydd a brofwyd gan John a Charles wrth hwylio ar daith genhadol i Georgia i 1735. Cafodd grŵp o gyd-deithwyr o Moravia argraff ar y brodyr gan eu bod yn canu emynau drwy’r storm gynddeiriog. Mae penillion Wesley yn sôn am ddŵr, “tempest” a “storm of life”. Tra bod y Morafiaid yn meddu ar sicrwydd iachawdwriaeth drwy eu ffydd, cyfaddefodd John Wesley yn ddiweddarach eu bod “had gone to Georgia to convert the people there, finding they themselves had need to be converted.”

Teitl gwreiddiol yr emyn oedd “In Temptation” ac mae’n ble am noddfa i bawb sy’n cael eu temtio, yn annheilwng neu angen cael eu glanhau o bechod gan nad oes noddfa arall. Mae’r dôn a ddefnyddiwyd ar gyfer y recordiad hwn yn cael ei hadnabod fel Celebration 167 yn y Baptist Hymnal (2008) Gelwid ef yn wreiddiol yn Martyn 7.7.7.7.D (yn adlewyrchu mesur yr emyn) ac fe’i cyfansoddwyd gan Simeon Butler Marsh, a ddysgodd gerddoriaeth i gannoedd o oedolion a phlant yn ei yrfa dros 30 o flynyddoedd mewn eglwysi yn Efrog Newydd a’r system addysg. Mae McGillis yn canu pennill un a thri, i gyfeiliant band pres.

Testun:

1 Jesus, lover of my soul
Let me to Thy bosom fly,
While the nearer waters roll,
While the tempest still is high:
Hide me, O my Saviour, hide,
Till the storm of life is past;
Safe into the haven guide;
O receive my soul at last.

3 Thou, O Christ, art all I want;
More than all in Thee I find:
Raise the fallen, cheer the faint,
Heal the sick and lead the blind:
Just and holy is Thy name,
I am all unrighteousness;
False and full of sin I am,
Thou art full of truth and grace.

 

 

Emyn 4: “Stand up, stand up, for Jesus” – mae’r recordiad hwn wedi’i ddifrodi mor ddrwg (mae’n bosib achos defnydd blaenorol o’r silindr cwyr ar gyfer recordiadau eraill) fel ei bod bron yn amhosib adnabod yr emyn neu’r dôn. Fodd bynnag, arweiniodd un llinell glir at y testun. Wedi’i ysgrifennu gan George Duffield yn 1858, ac unwaith i’r geiriau i gyd gael eu dangos ar y sgrin, roedd yn bosib clywed digon o’r emyn i gadarnhau mai’r emyn uchod ydoedd. Yn dilyn hyn cafodd ei dôn ei hadnabod fel “Morning Light” a ysgrifennwyd gan George J Webb ar fordaith o Loegr i Unol Daleithiau America yn 1837

 

 

Ganwyd y Parchedig Dr George Duffield (mab i weinidog Presbyteraidd) yn Pennsylvania yn 1818 a dilynodd yn ôl traed ei Dad. Pan ysgrifennodd Duffield “Stand Up”, roedd yn weinidog yn Philadelphia, ond roedd wedi bod yn weinidog mewn plwyf yn New Jersey lle roedd Webb yn byw, efallai fod y ddau wedi cwrdd. Yn ôl cofnod yn Lyra sacra Americana (Cleveland, 1868, p. 298):

“I caught its inspiration from the dying words of that noble young clergyman, Rev. Dudley Atkins Tyng, rector of the Epiphany Church, Philadelphia, who died about 1854. His last words were, ‘Tell them to stand up for Jesus: now let us sing a hymn.’ As he had been much persecuted in those pro-slavery days for his persistent course in pleading the cause of the oppressed, it was thought that these words had a peculiar significance in his mind; as if he had said, ‘Stand up for Jesus in the person of the downtrodden slave.’ (Luke v. 18.)”

Cafodd ei gyhoeddi am y tro cyntaf fel taflen fechan i blant wedi i Duffield roi’r llawysgrif i’w Arolygydd Ysgol Sul, lle cafodd ei adnabod fel ‘Soldiers of the Cross’.

Yn ôl yr amseru a’r mesur, mae’r recordiad yn cynnwys y ddau bennill cyntaf, ond mae gallu adnabod y canwr a’r cyhoeddwr yn amhosib. Mae llais uchel gan y canwr, ac er ei bod yn amhosib dweud ai soprano benywaidd neu wrywaidd sydd yma, Iris neu Idris Edwards. Mae’r cyhoeddwr, yr un modd, yn swnio’n fwy Prydeinig nag Americanaidd, felly mae’n bosib mai hwn oedd y silindr cwyr cyntaf i’w recordio yn y DU – wedi’r cyfan sefydlwyd y Phonograph & Gramophone Society cyntaf yng Ngorllewin Llundain yn 1911, gyda llawer yn ffurfio dros y ddegawd nesaf gyda Thomas Edison yn noddwr iddynt.

Testun:

Stand up, stand up for Jesus
ye soldiers of the cross;
lift high his royal banner,
it must not suffer loss:
from vict’ry unto vict’ry
his army he shall lead,
’til ev’ry foe is vanquished,
and Christ is Lord indeed.

Stand up, stand up for Jesus,
the trumpet call obey;
forth to the mighty conflict
in this his glorious day:
ye that are men now serve him
against unnumbered foes;
let courage rise with danger,
and strength to strength oppose.

 

 

I’r rhai hynny sydd am wybod mwy am y ffonograff, mae llawer o ffynonellau ar gael yng nghatalog y llyfrgell, gan gynnwys hanesion am silindrau a hanesion personol Edison a Bell, a gyhoedwyd gan y City of London Phonograph and Gramaphone Society; ffonograff Ma Rainey – yn rhan o erthygl yn edrych ar etifeddiaeth ddu oddi fewn i’r traddodiad gweledol-sonig; llawlyfrau technegol i’r rhai hynny sy’n berchen neu’n adfer offer ffonograffig; a ffonograffau a chof poblogaidd, a golwg ar gasglu hanes llafar yn America.

Cytunir mai cyhoeddwr y ddau silindr cyntaf yn y casgliad yw Thomas Edison, ac i gyd-fynd gyda silindrau eraill y gellir gwrando arnynt ar-lein o natur grefyddol debyg, felly mae’n ddigon saff i i dybio fod y pedwar recordiad hyn yn dyddio o tua 1908. Erbyn 1912, yn fuan wedi i’r DU ddal i fyny gyda’r ffenomen silindr cwyr, roedd Edison yn gwerthu ei ffonograff disg masnachol, a pharhaodd technoleg radio ar ei llwybr esblygiadol i’r byd digidol rydym yn byw ynddo heddiw.

 

Rasma Bertz, Gwirfoddolwraig Datgloi Ein Treftadaeth Sain

 

Rhodri Morgan yn America

Casgliadau - Postiwyd 09-08-2021

Rhwng 1961 ac 1963, roedd Rhodri Morgan, a ddaeth yn ddiweddarach yn arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru, yn astudio ym Mhrifysgol Harvard yn Cambridge, Massachusetts. Cafodd ysgoloriaeth o’r Thomas and Elizabeth Williams (Loughor School Board) Fund er bod ei deulu yn byw yn Abertawe gan fod diffyg ceisiadau o Gasllwchwr, ac er bod y gyllideb ddim yn fawr iawn, roedd yn ddigonol iddf fyw a theithio rhywfaint. Yn ystod ei gyfnod yno, ysgrifennodd cyfres o lythyron at ei deulu yn Abertawe.

Daeth galwad ffôn gan aelod o Bwyllgor Ymgynghorol yr Archif Wleidyddol Gymreig yn hwyr y llynedd yn dweud bod brawd Rhodri, Yr Athro Prys Morgan, yn awyddus i gasgliad o 88 llythyr o’r cyfnod ddod i’r Llyfrgell Genedlaethol. Yn fuan wedyn roedd casgliad o lythyron, ffotograffau a nodyn esboniadol wedi cyrraedd fy nesg.

Mae derbyn pecynnau o’r fath yn un o’r rhesymau ‘mod i’n mwynhau fy ngwaith sut gymaint. Roedd cael cyfle i ddarllen am anturiaiethau Rhodri Morgan, ei waith a bywyd prifysgol, cyfarfodydd, a theithiau amrywiol yn dipyn o fraint. Mae modd dilyn ei deithiau ar draws y wlad i Georgia, Iowa, California, New Orleans a Puerto Rico yn y llythyron; y rhan fwyaf wedi ysgrifennu yn daclus yn y Gymraeg ar bapur tenau yr Aerogramme, a gweld ambell ffotograff. Mae un llythyr wedi’i ysgrifennu o Blaza y Cenhedlaedd Unedig yn Efrog Newydd ac un arall yn cynnwys drafft o draethawd er mwyn i Prys rhoi sylwadau arno!

Ysgriefnnodd y llythyr cyntaf o Efrog Newydd, gyda disgrifiad o’r daith ar long o Rotterdam, cyrraedd diwrnod a hanner yn hwyr a cholli gweld y Statue of Liberty! Mewn llythyr arall mae’n son am y dathlu mawr ar Ŵyl Sant Padrig i gymharu gyda Dydd Gŵyl Dewi ac un arall o Berkley lle mae’n son am gwrdd a phobl o grwpiau gwleiddol fel y Christian Anti-Communist Crusade a’r Socialist Party Social Democratic Federation.

Mae’r llythyron yn gyfle i weld y byd trwy lygaid Rhodri Morgan, gweld ei ddiddordebau gwleidyddol yn datblygu a chael syniad o’r profiadau a’r cysylltiadau oedd wedi dylanwadu arno. Rydym yn dra ddiolchgar i’r Athro Prys Morgan am eu rhannu.

Rob Phillips
Yr Archif Wleidyddol Gymreig

Tagiau: ,

Beibl Thomas Pennant

Casgliadau / Derbynion newydd - Postiwyd 03-08-2021

Mae Thomas Pennant (1726-1798) wedi cael ei ddisgrifio fel y sŵolegydd mwyaf blaenllaw ar ôl John Ray a chyn Charles Darwin. Fe’i ganwyd a bu fyw ei fywyd i gyd yn ystâd ei deulu yn Downing Hall ger Whitford, Sir y Fflint, ond aeth ar deithiau i’r Alban, Cernyw a rhannau eraill o Brydain a chofnodi’r hynafiaethau a’r bywyd naturiol a welodd. Mae’r Llyfrgell yn berchen ar gasgliad helaeth o’i weithiau, gan gynnwys The British Zoology, A Tour in Scotland ac A Tour in Wales.

Mewn arwerthiant yn ddiweddar llwyddom i brynu Beibl Saesneg wedi’i argraffu ym 1619 sydd yn dwyn y llofnod “Thomas Pennant Esqr Downing” mewn ysgrifen hardd ar un o’r dalennau rhwymo. Yn bellach ymlaen yn y gyfrol ceir nodiadau llawysgrif eraill: “This Book for the Sarvents [sic] of Thos. Pennant Esqr of Downing” ac hefyd: “David Pennant Esqr His Booke In the year of Our Lord God 1751”. David oedd enw mab Thomas Pennant, ond ganwyd hwnnw yn 1763, sy’n awgrymu mai hwn yw llofnod tad Thomas Pennant, a oedd hefyd â’r enw David. Mae’n debyg felly fod y gyfrol wedi treulio blynyddoedd maith yng nghartref teulu Pennant. Mae’n addas iddo gael cartref newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol gyda gweithiau’r Cymro sylweddol hwn.

Timothy Cutts
Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Tagiau: ,

Clwb Busnes Rygbi Caerdydd

Darganfod Sain - Postiwyd

Dechreuodd y clip sain gyda chyfarfod cyntaf y tymor i Glwb Busnes Caerdydd. Mae’r siaradwr gwrywaidd sydd heb ei adnabod yn rhoi cyflwyniad byr am pam roeddent yno a throsolwg hefyd o bwysigrwydd rygbi yn y gymuned. Mae’n siarad am y lansiad ychydig o wythnosau ynghynt ym Mae Caerdydd, a pha mor hapus oedd ef i weld cymaint o bobl newydd yn dod i weld beth oedd beth. Yr oedd llawer o aelodau newydd, Is-lywydd ac aelodau corfforaethol yno. Doeddwn i ddim ar goll, er mod i fewn yn syth i’r clip heb gyd-destun, ac fe ddaliodd fy sylw o’r cychwyn.

Tua dechrau’r clip, mae’r dyfyniad hwn wedi aros gyda fi: ‘A great cross section of Welsh businesses, members of the Welsh government, people from sports, education, media and all kinds of fields of Welsh life’ – dyma ddyfyniad teimladwy sy’n dangos fod y Gymuned Rygbi wedi gwreiddio’n ddwfn yng ngweithgareddau’r gymuned. Mae’r dyn yn siarad am ba mor bwysig yw denu pobl o bob cefndir ynghyd. Mae’n dangos nad y bobl sydd agosaf atoch sy’n gwneud cymuned, ond mae’n tarddu o fannau annisgwyl.

Mae’r siaradwr ar frig byd rygbi, tra bod Cwpan Rygbi’r Byd yn digwydd adeg y recordio hwn yn 2015. Mae’n sôn am sut mae meithrin ysbryd Cymreig a chenedlaetholdeb wedi cynyddu mewn busnesau o gwmpas gemau yng Nghymru, ac wedi hybu morâl o ganlyniad. Roedd Caerdydd wedi cofleidio ysbryd y twrnament rygbi, ac yn hybu balchder mewn Cymreictod ymhellach. Mae’n cyflwyno noddwr newydd y clwb wedyn, Catherine Finn, sy’n cymryd y microffon i siarad ychydig cyn cyflwyno siaradwr y digwyddiad. Hi yw olynydd Matthew Hammond fel aelod o PWC (Price Water House Coopers) Cymru a De-orllewin Lloegr.

Mae’n cyfeirio at sleid yn yr ystafell, lle mae’n siarad am Brett Gosper, a aeth o fod yn chwaraewr rygbi amaturaidd yn y dyddiau cyn ddaeth chwarae rygbi i fod yn yrfa broffesiynol, ac yn chwaraewr proffesiynol a oedd yn ysgogi llwyddiant masnachol rygbi. Mae’r llwyddiant masnachol hwn ynghlwm wrth Gwpan y Byd a Chymru fel gwlad hefyd.

 

Darlun https://en.wikipedia.org/wiki/Brett_Gosper

 

Yna, mae Brett Gosper yn cymryd drosodd. Mae’n cymryd y rhan fwyaf o’r recordiad sain, yn dogfennu amcanion Rygbi’r Byd, a’r cyfleon a gynigiwyd gan ddigwyddiadu fel Cwpan y Byd a’r Gemau Olympaidd. Mae’n parhau, gan siarad am lwyddiant rygbi yn y sector adloniant, yn enwedig y twf mewn chwaraeon ymhlith merched a phlant ac sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion. Mae’n ymhelaethu ar bwynt Catherine yn gynharach am dwf rygbi yn fasnachol a’r uchelgais i ysbrydoli cynulleidfaoedd newydd. Roedd hysbysebu drwy’r cyfryngau cymdeithasol wedi bod o gymorth mawr i Rygbi’r Undeb, yn enwedig adeg y Gemau Olympaidd, a bu’n ymhelaethu ar y pwynt hwn am gryn amser. Aeth ymlaen, gan fanylu am ba mor bwysig yw fod gan rygbi strategaeth fuddsoddi hir dymor, drwy ymgysylltu yn ddigidol a chymdeithasol. Yna, ehangodd ar ba mor bwysig yw lles y chwaraewr wrth symud o fod yn rheolydd y gêm, fel mae Gosper yn ei alw, i fod yn hyrwyddwr y gêm.

Ar ôl hynny mae’r llawr ar agor ar gyfer Sesiwn cwestiwn ac ateb – mae’r pynciau’n cynnwys buddsoddiad i gael mynediad i’r Undeb Ewropeaidd, roedd yn ddiddorol iawn i ddysgu am y cymariaethau rhwng cynghreiriau pêl droed a rygbi, h.y. Rygbi’r Byd a FIFA, ac ymgysylltu rygbi gyda’r byd. Rhoddodd gyngor hefyd am ddewis eu plant o chwaraeon, gan fod dewis plentyn o chwaraeon bob amser yn bwysig. Gorffennodd drwy ateb cwestiwn am ddod â steil nôl i’r gêm.

Cafwyd pleidlais o ddiolch, a dyna ddiwedd y clip. Roedd yn brofiad pleserus iawn gwrando ac roeddwn yn teimlo mod i yn ysbryd y digwyddiad. Yn enwedig gan i’r byd gael ei amddifadu o ddigwyddiadau cymdeithasol yn ystod y pandemig, roedd yn braf iawn i glywed chwerthin, sŵn gwydrau yn tincian yn y cefndir a synau cyffredinol fel gyda Rygbi’r Undeb. Gallaf ddychmygu pawb yn eu dillad ffurfiol, yn cael hwyl gan gynnal a chreu cysylltiadau newydd.

Roedd yn hyfryd gwrando ar y clip unwaith eto a gobeithio mod i wedi gwneud cyfiawnder ag ef. Rydw i’n mwynhau ysgrifennu’r blogiau hyn, felly arhoswch am yr un nesaf, ac fe welai chi’n fuan.

Alice Tucker, gwirfoddolwr Datgloi Ein Treftadaeth Sain

Adnoddau Digidol Newydd i’r Haf

Collections / Digido - Postiwyd 29-07-2021

Ers dechrau’r flwyddyn mae’r gwaith o ddigido ein casgliadau wedi parhau ac mae’r eitemau a’r casgliadau canlynol bellach ar gael yn ddigidol i’w pori o gartref ar wefan y Llyfrgell a/neu y catalog:

Archifau a Llawysgrifau

Casgliadau Peniarth a Llanstephan

Papurau Sir John Herbert Lewis

 

Mae 33 o ddyddiaduron o bapurau Sir John Herbert Lewis Papers ar gyfer y cyfnod 1888-1924 ar gael:

Seliau a Siarteri Ystrad Marchell

Mae detholiad o ddogfennau a seliau canoloesol o Bapurau Pitchford Hall a Chofnodion Ystadau Penrice a Margam, Castell y Waun, Bronwydd a Wigfair, bellach ar gael, er enghraifft:

Mae mynediad hefyd i 33 o Siarteri Ystrad Marchell a cheir mynediad iddynt drwy’r catalog.

Deunydd Print

Casgliad Arthuraidd

 

Yn 2019, dewiswyd detholiad o gyfrolau print yn ymwneud â’r Brenin Arthur ar gyfer eu digido. Mae’r 13 cyfrol a ganlyn ar gael eisoes ac fe fydd y gwaith o ddigido’r gweddill yn parhau dros y misoedd nesaf:

Cofiannau (1809-1889)

 

Dros y misoedd diwethaf parhawyd i ryddhau cofiannau trwy Primo. Mae 913 o gyfrolau ychwanegol ar gael ar y catalog bellach, yn eu plith ceir:

Gweithiau printiedig eraill

 

Digidwyd 203 o weithiau eraill hefyd, gan gynnwys:

Mapiau a Deunydd Graffigol

Ffotograffau D C Harries

 

Mae 102 o ffotograffau a dynnwyd tua 1890-1936 gan D C Harries o olygfeydd, adeiladau a phobl ardal Llanymddyfri, Llandeilo a Chaerfyrddin wedi’u hychwanegu. Mae’r detholiad yn cynnwys ffotograffau megis: Staff standing outside Lipton’s shop, Caerfyrddin, Staff standing outside Star Supply Stores, Llandeilo a Men in cars outside Crown garage – T. Roberts & Sons, Llanymddyfri.

Archif Posteri Hanesyddol

 

Mae dros 2,630 o bosteri o Archif Posteri Hanesyddol y Llyfrgell ar gael i ddefnyddwyr drwy’r syllwr. Mae’r casgliad difyr hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o bosteri, gan gynnwys posteri ymfudo o Aberystwyth a Lerpwl i America, baledi a chaneuon, posteri’n cyhoeddi marchnadoedd ac arwerthiannau, cyngherddau ac eisteddfodau bach a mawr ac ambell “noswaith ddifyr heb ganlyniadau gofidus”. Mae’r casgliad hefyd yn yn cynnwys nifer fawr o bosteri’n cyhoeddi newyddion am droseddau a hanesion llofruddion, er enghraifft: Dwyn caseg John Philip, Pentre-Mawr (1818); ‘Cyffes Wirfoddol John Griffiths .. am fwrddrad Mary Griffiths, ei wraig’ (1811) a ‘Murder’ (1796).

Y Bywgraffiadur Cymreig

 

Cyhoeddwyd 20 erthygl newydd ar y wefan:

Cofiwch hefyd ddilyn cyfrif Trydar Y Bywgraffiadur: @Bywgraffiadur

Mapio Lleisiau’r Tir

Darganfod Sain - Postiwyd 28-07-2021

 

 

Mae bryniau ac ucheldiroedd Ceredigion yn ein cadw ni’n brysur ac yn hapus fel hafanau heddychlon i gerdded a beicio ond doedden nhw ddim yn arfer bod yn wag. Mae straeon y cymunedau ‘coll’ sy’n byw yn ucheldiroedd ein mynyddoedd wedi’u dogfennu mewn ffordd arbennig iawn: mae cyfoeth o archifau sain ‘Hanes y Goedwig’ yn cael eu cartrefu yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Mae cyfweliadau ag aelodau o’r gymuned, a wnaed yn y nawdegau cynnar, yn datgelu sut oedd bywyd yn yr ucheldiroedd. Ar ôl cwpl o funudau o wrando, mae byd cyfan aeth heibio’n ddiweddar o oes y ‘gorllewin gwyllt’ yn dechrau dod yn fyw. Mae’r cyfweliadau’n datgelu hanes y cymunedau mynyddig a fu’n ffermio’r ucheldiroedd gwyllt cyn iddynt gael eu plannu â choedwigaeth a’u palmantu â ffyrdd. Symudodd llawer o ffermydd neu fe’u gadawyd yn wag pan blannwyd yr ucheldiroedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac ar ôl gaeaf caled 1947. Gellir gweld gweddillion y meysydd, ffermydd, pennau a ‘chorlannau’ hyn yn adfeilion o amgylch Ystrad Fflur a Llynnoedd Teifi; ar fwlch Abergwesyn a ffordd fynydd Cwm Elan. Mae’r cymunedau mynyddig prysur, gwydn a gweithgar a oedd yn byw ynddynt yn dal i gael eu cynrychioli ledled trefi a phentrefi yr ucheldir.

 

 

 

Clywn am Dai Jones, y postmon olaf ar gefn ceffyl, yn cyflwyno rownd wythnosol i’r Swyddfa Bost Gyffredinol ddiwedd y 1950au. Roedd y ‘pony express’ hwn – yn rhedeg 3 diwrnod yr wythnos. Roedd ceffylau yn ganolog i fodolaeth ffermio’r bryniau, gall y ffermydd ‘gorsaf ddefaid’ ymddangos yn ‘anghysbell’, ond mewn gwirionedd, roedd yr hyn sy’n ymddangos nawr fel cymunedau ynysig yn symudol iawn ac yn ddiwylliannol ganolog. Roedd dynion, menywod a phlant yn berchen ar ferlod bryniau a allai fynd â nhw i unrhyw le yn y mynyddoedd am ychydig o laswellt o’r tir mynyddig.

 

 

Mae hanes o lusgo seiren coedwigaeth i fyny’r mynydd am hanner nos i ganu serenâd i briodferch yn rhoi ymdeimlad o waith caled a hwyl gwyllt. Mae ffermwr yn sôn am dorri ceffylau i mewn yn gyflym yn y gors, ac mae un coedwigwr yn cofio dod ar draws Byddin Rydd Cymru yn symud ar y mynyddoedd.

Disgrifir dyfnder a chryfder cymunedau ffermio y bryniau hyn yn eu gwaith cymunedol – bob haf byddai cneifio llaw torfol o hyd at ddwy fil o ddefaid ar y tro, aelwydydd y gymuned i gyd yn dod at eu gilydd i helpu eu gilydd.

O dan grant Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi comisiynu Mapio Lleisiau’r Tir, prosiect celf sy’n ceisio annog mynediad i’r archif trwy gerdded a thynnu lluniau hen lwybrau mynydd tra’n gwrando ar eu hanesion llafar perthnasol. Bydd yr adferiadau creadigol hyn o chwedlau’r mynyddoedd yn cael eu geo-tagio a’u gwneud yn y llefydd y mae’r lleisiau’n eu disgrifio. Mae’n hawdd cael eich ysbrydoli.

 

 

 

 

Yn cael ei gynnal gan Casgliad y Werin, bydd yr archif newydd hon o gelf a rennir yn rhan o gronfa ddata chwiliadwy o’r Llyfrgell Genedlaethol / Llyfrgell Brydeinig, gan fynegeio’r archifau sain gwreiddiol trwy ymateb cymunedol yr unfed ganrif ar hugain.

Mae’r prosiect Mapio Lleisiau’r Tir yn gweithio ar sail y cyntaf i’r felin: i gofrestru cliciwch yma

I weld y canlyniadau wrth iddynt gael eu creu yn ystod y misoedd nesaf, dilynwch y ddolen i wefan Casgliad y Werin a dolenni dilynol i dudalen y digwyddiad neu gwrandewch ar ffeiliau sain Seiniau’r Tywi fel rhagflas.

I gael mynediad i’r archif sain, y cyfan sydd ei angen yw tocyn darllenydd i’r Llyfrgell Genedlaethol. Gallwch ymchwilio i ba archifau sy’n berthnasol i’ch ardal lleol, a chlywed straeon sy’n sicr o’ch cludo yn ôl mewn amser. Ymweld â’r Llyfrgell

 

Gan Rupert Allan a Dorry Spikes

 

Gweithiau eiconig gan artist lleol yn rhodd i’r Llyfrgell Genedlethol

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Casgliadau - Postiwyd 26-07-2021

Rydym yn hynod falch yn y Llyfrgell Genedlaethol o fod wedi derbyn rhodd hael i’n casgliadau o dri gwaith eiconig gan yr artist blaenllaw Mary Lloyd Jones o Aberystwyth. Adwaenir yr artist am ei thirluniau deinamig, lliwgar, mynegiadol ac haniaethol yn seiliedig ar dirlun a diwylliant Cymru. Ganed yr artist ym Mhontarfynach yn 1934 a hyfforddodd yng Ngholeg Celf Caerdydd yn yr 1950au, cyn dychwelyd i Geredigion i fyw. Dyma’r ardal sydd wedi cael cryn ddylanwad ar ei gwaith fel y gwelir yn y tirlun pwerus ‘Ponterwyd/Gaia’ a oedd yn rhan o’r rhodd hael diweddar i’r Llyfrgell. Nododd yr artist

‘Y byd naturiol yw testun fy ngwaith, cymylau, cysgodion creigiau, creithiau, patrymau caeau ac anialwch corsydd mawnoglyd’.

Trwy gydol yr haf, rydym yn hynod falch o ddatgan y bydd modd gweld y gwaith yma’n cael ei arddangos yn Oriel Gregynog y Llyfrgell Genedlaethol.

Crëwyd y gweithiau olew tri darn trawiadol ‘Barclodiad y Gawres’ a ‘Bryn Celli Ddu’, a oedd hefyd yn rhan o’r rhodd, ar gyfer arddangosfa yn oriel eiconig Gregynog y Llyfrgell Genedlaethol yn 2006, ac felly mae’n hynod addas bod y gweithiau yma bellach yn cael eu cartrefu yn y Llyfrgell. Yn y gweithiau hyn mae’r artist yn mynegi ei theimladau am berthyn i ddiwylliant ac iaith leiafrifol.

Mae’r gweithiau tri darn yn seiliedig ar y patrymau cerfiedig a grëwyd gan y Brythoniaid ar gerrig cynhanesyddol ‘Barclodiad y Gawres’ a ‘Bryn Celli Ddu’ ar Ynys Môn, ac felly lle gwelir gwreiddiau’r iaith Gymraeg. Bu’r artist yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol yn aml wrth baratoi ar gyfer y gweithiau, gan ymchwilio i waith yr ysgolhaig Syr John Rhys a gasglodd enghreifftiau o gerfiadau Ogham ar garreg, yn ogystal â phapurau Iolo Morgannwg, lle gwelodd ‘Goelbren y Beirdd’ am y tro gyntaf. Teimlodd yr artist felly y byddai’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref hynod addas ar eu cyfer.

Nododd yr artist:

‘Yn y ddau ddarn yma rwyf yn gwneud i liwiau wrthdaro i greu awyrgylch arbennig sy’n cyfleu cyffro hudol y cerfiadau rhyfeddol hyn, a’u perthynas efo’r modd o fyw 4,000 mlynedd yn ôl. Trwy hyn rwyf yn ceisio cyffwrdd â hanes a dirgelwch sy’n perthyn i oes a fu. Mae yna barch uchel yn bodoli at lenyddiaeth Gymreig hynafol, ac mae beirdd yn aml yn cyfleu’r hyn yr hoffwn i ddweud yn fy nghyfansoddiadau. Mae creu pont rhwng y traddodiad barddonol a chelf weledol yn rhan o’r hyn rwyf yn ceisio ei gyflawni’.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Mary Lloyd Jones am ei chefnogaeth frwd i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n fraint medru adeiladu ar y casgliad o weithiau’r artist sydd eisoes gennym o fewn y Llyfrgell gyda’r rhodd hynod hael yma o weithiau.

Morfudd Bevan
Curadur Celf

 

Tagiau:

Ail fyw Ymgyrchoedd troad y Mileniwm

Casgliadau / Derbynion newydd - Postiwyd 05-07-2021

Mae cyfnod cyn etholiad wastad yn un prysur ar gyfer yr Archif Wleidyddol Gymreig, rydym yn trefnu casglu deunydd ymgyrchu ac mae aelodau sy’n sefyll i lawr neu sydd yn colli sedd yn cysylltu i gynnig archifau i ni.

Yn ystod y cyfnod pryswr hwn, daeth ychwanegiad hynod diddorol i bapurau Ann Jones AC. Cyflwynodd Ann Jones ei phapurau trwy Archif Menwyod Cymru fel rhan o brosiect Gwir Gofnod o Gyfnod (https://www.womensarchivewales.org/cy/news?id=105) sy’n gweithio gydag aelodau chyn aelodau Senedd Cymru benywaidd blaenorol i recordio eu hanes llafar a threfnu bod eu paprurau yn mynd i archifdy priodol.

Roedd grŵp cyntaf papurau Ann Jones yn dweud stori pasio Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 ac mae ei chefndir fel swyddog gyda’r gwasanaeth tân yn amlwg yn y deunydd newydd. Yn 2000 cyhoeddwyd cynlluniau i uno’r holl ystafelloedd rheoli’r gwasanaethau tân yng Nghymru, gan gynnwys ystafel rheoli’r gogledd yn y Rhyl. Mae 3 ffeil yn dilyn hanes ymgyrch Ann Jones i gadw’r ystafell rheoli yn ygogledd ar agor trwy ohebiaeth, datganiadau i’r wasg a dogfennau.

Mae gweddill y grŵp yn cofnodi gweithgaredd Ann Jones i sicrhau parhâd prosiectau i gynorthwyo plant yn dilyn cyhoeddiad gan Gymdeithas y Plant eu bod nhw’n bwriadau dod â’u holl weithgaredd yng Nghymru i ben. Mae gohebiaeth gyda Phrif Weithredwr am ymddiriedolwyr Cymdeithas y Plant, esgobion Eglwys Lloegr a staff a phartneriaid y prosiectau amrywiol yn cyfleu sioc a dicter yn dilyn y cyhoeddiad. Mae papurau ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU yn codi nifer o gwesitynau,a cheir cofnodion, gohebiaeth a datganiadau ar ran gweithgor o fewn y Cynulliad newydd er mwyn sicrhau parhâd y gwaith. Sefydlu’r elusen Tros Gynnal oedd canlyniad hyn i gyd. Er bod y stori yn un amlwg ar y pryd, mae llawer o mwy o dan yr wyned. Diolch i Ann Jones mae’r stori i gyd nawr ar gael.

Tagiau: , ,

<- Cofnodion Hŷn Cofnodion Newydd ->

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog