Niall Griffiths: ‘yr Irvine Welsh Cymreig’?
Casgliadau - Postiwyd 04-10-2023
Fe ffrwydrodd Niall Griffiths ar y llwyfan llenyddol efo’i nofel gyntaf Grits yn 2000. Wedi’i lleoli yn ardal Aberystwyth, mae’r nofel yn archwilio bywyd ar ymylon enbydus a difantais cymdeithas. Fe ddenodd ei ymdriniaeth o gyffuriau, rhyw a throsedd a’i defnydd helaeth o iaith lafar gymhariaethau amlwg â’r nofelydd Albanaidd Irvine Welsh (Trainspotting).
Serch hynny, medda Griffiths ar lais pwysig, grymus a diddorol ynddo’i hun, fel y gwelir o’r 22 bocs o’i bapurau a gatalogwyd yn ddiweddar yn y Llyfrgell. Mae’r rhain yn cynnwys nodiadau, drafftiau, deunydd ymchwil, dyddiaduron, gohebiaeth, papurau gweinyddol ac effemera sy’n ymwneud â phob agwedd o’i fywyd llenyddol, gan gynnwys ei nofelau i gyd hyd at Broken Ghost (2019), yn ogystal â’i farddoniaeth, ei storïau byrion ac amryw ryddiaith arall, dramâu radio a ffilm, erthyglau ar gyfer cylchgronau, adolygiadau o weithiau gan awduron eraill, cyfweliadau, gweithdai, gŵyliau, papurau academaidd, cyhoeddiadau’n ymwneud â’i waith ei hunan, a llawer mwy.
Er iddo gael ei eni a’i fagu yn Lerpwl, a’i fod â theyrngarwch chwyrn tuag at y ddinas honno, ac er iddo fyw am dair blynedd yn Awstralia o’i fod yn 12 oed, mae Niall Griffiths yn awdur nodweddiadol Cymreig. Yng Nghymru y lleolir y rhelyw o’i waith, ac ar gyrion Aberystwyth y mae e wedi byw am y rhan fwyaf o’i fywyd. Efallai nad yw hyn yn syndod, oherwydd gan ei deulu Cymreig a chan y llenor o’r Rhondda Ron Berry y dysgodd gyntaf am bwysigrwydd iaith, straeon ac anianoldeb. Cyhoeddwyd ei ddau deithlyfr Real Aberystwyth a Real Liverpool yng Nghymru, a dyfarnwyd ei nofel Stump (2003) yn Llyfr y Flwyddyn gan Gyngor Llyfrau Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae Griffiths yn olrhain ei berthynas agos â bryniau Cymru i’r cyfnod y treuliodd yn Eryri tra ar gwrs troseddwyr ifanc yn ei arddegau, a phriodola natur danllyd, anhydrin ac (yn aml) ysbrydol ei waith i’w wreiddiau Celtaidd.
Mae Griffiths wedi byw’r bywyd a ddisgrifia yn Grits: partïo, cyflawni gwaith di-grefft a chael a chael wrth fyw ar y gwynt. Yn aml, mae ei gymeriadau’n chwilio am ryw foddhad yn eu bywydau, ac mae nifer ohonynt yn byw dan lach tlodi – unigolion llawn gofidiau sydd yn ceisio gwneud y gorau o fyd gelyniaethus sy’n tueddu amlygu eu beiau a’u diffygion – tra bod ei dirweddau gwledig a dinesig yn atsain i ysgytiadau anghytgord eu harddwch ynghlwm â’u creulondebau. Cyflwynir hyn oll gan Griffiths mewn arddull graffig a chydag empathi ac argyhoeddiad dwfn, agwedd sy’n treiddio trwy eraill o’i weithiau.
Wrth ddarlunio’r aelodau hynny o gymdeithas nas clywir eu lleisiau’n aml, mae Griffiths yn hynod ymwybodol o’r berthynas sydd rhwng iaith a gwleidyddiaeth. Mae nifer o’i lyfrau wedi’u hysgrifennu mewn tafodiaith, gydag acenion wedi’u trawsgrifio’n ffonetig (a chyda phob rhwydd hynt i iaith fras) ac fe eilw ar ei wybodaeth lenyddol eang er mwyn rhoi naws arwrol i’w gymeriadau. Mae ei arddull ddwys a thelynegol wedi denu cryn edmygedd a llwyddiant masnachol, ond ar yr un pryd wedi llwyddo i ddieithrio rhai darllenwyr ac adolygwyr.
Nid fod Niall Griffiths yn poeni ryw lawer am adolygwyr llenyddol ac academaidd. Dechreuodd ysgrifennu pan oedd yn ifanc iawn, wedi’i gymell yn ddiarwybod gan rhyw ysfa neu’i gilydd, ac, er iddo adael yr ysgol yn 15 oed, daeth i ddeall pwysigrwydd addysg – yn ogystal â’i gyfyngiadau. Dychwelodd i fyd addysg, gan fentro cyn belled â dechrau gradd Doethuriaeth mewn barddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond fe brofodd ddadrithiad, gan ddweud yn ddiweddarach fod angen iddo ddad-ddysgu rhan helaeth o’i addysg academaidd. Ers hynny, mae ei waith wedi ennill iddo gadair athrawol anrhydeddus ym Mhrifysgol Wolverhampton.
Amlygir cyfuniad o chwilfrydedd, angerdd, dysg, ansicrwydd ariannol ac afradrwydd trwy gydol cynnwys a threfniant yr archif fel ei gilydd. Ynghyd â’r ymchwil drylwyr a ymgymerwyd gan Griffiths ar ystod eang o bynciau, mae ei bapurau’n datgelu ei farn ddi-flewyn-ar-dafod ar sawl mater personol, creadigol, proffesiynol, cymdeithasol, gwleidyddol ac athronyddol. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cysyniadau hunaniaeth a hefyd mewn hanes llenyddol ac ym mhrofiad, crefft ac ystyr bywyd y llenor, ynghyd â diddordeb mewn teithio a nifer o bynciau eraill – yn enwedig pêl-droed, ac yn arbennig felly Clwb Pêl-droed Lerpwl.
Cymerwch olwg ar bapurau Niall Griffiths sydd newydd eu catalogio er mwyn gweld pam y bu – a pham y parha i fod – gymaint o alw amdano fel cyfrannwr i gyhoeddiadau a gweithgareddau mewn cymaint o wledydd ledled y byd.
Dr David Moore (Archifydd)