Blog - Newyddion a Digwyddiadau

Postiwyd - 03-05-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Bob Silvester

Dr Bob Silvester, FSA, Athro Gwadd, Prifysgol Caer sy’n cymryd rhan yn ein ymgyrch #CaruMapiau

Ac yntau’n archaeolegwr proffesiynol trwy gydol ei fywyd gwaith, yn gyntaf yn Nyfnaint a Gwlad yr Haf ac yn ddiweddarach yn Norfolk, symudodd i Gymru yn 1989 pan benodwyd ef yn ddirprwy gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys. Ymddeolodd o’r Ymddiriedolaeth ar ddechrau 2016, ac at ddibenion ymchwil mae e’n awr â chyswllt agos ag adran Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caer. Cychwynnodd ei ddiddordeb ymhob math o fapiau hanesyddol, ond yn arbennig mapiau ystadau, yn ystod ei gyfnod ar ffendiroedd Norfolk lle’r oedd mapiau’n atodiad hanfodol i’r gwaith maes a ddatgelai datblygiad y dirwedd hanesyddol. Yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf, mae ei ddiddordeb mewn mapio wedi tyfu a gan ei fod yn awr wedi ymddeol, mae’n gallu treulio mwy o amser o fewn muriau archifdai lleol ac wrth gwrs y Llyfrgell Genedlaethol yn astudio mapiau dwyrain Cymru a’r siroedd cyfagos ar y ffin yn Lloegr.

Thomas Badeslade

Efallai eich bod yn dyfalu pam nad oes map wedi’i gynnwys yn y blog hwn ond yn hytrach lluniad topograffigol o Gastell Penarlâg, Sir y Fflint, sy’n dyddio o 1740. Yn syml, delwedd fenthyg ydyw. Hyd y gwn i, ‘does dim arolygon llawysgrif gan Thomas Badeslade yn cael eu dal yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r rheiny a baratowyd ganddo yng Nghymru i’w gweld yn archifau Sir y Fflint, Caer a Phrifysgol Bangor, tra bo eraill yn dal ymysg dogfennau’r teuluoedd â’u comisiynodd bron i dair canrif yn ôl.

Roedd Badeslade, a oedd yn ôl pob tebyg yn hanu o deulu o Godalming (Surrey) a ymsefydlodd yn ddiweddarach yn Llundain, yn un o nifer o unigolion dawnus a fentrodd yn hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif ar brosiectau gwahanol i ennill bywoliaeth. Copïwr mapiau oedd e ar y cychwyn cyn troi ei law at luniadu pensaernïol (yng Nghaint ac yna ymhellach draw), yna dod yn dirfesurydd, yn arbenigwr ar ddraeniadau corstir a lluniwr mapiau sirol. Un o’i gyfoeswyr oedd ychydig yn iau na Badeslade ac rwyf eisoes wedi rhoi sylw iddo trwy ei fap o Sir Ddinbych a Sir y Fflint oedd William Williams a bu yntau hefyd yn arallgyfeirio ei ymdrechion mewn gwahanol feysydd. Yn fwy enwog na’r ddau ohonynt erbyn hyn yw John Rocque o dras Hiwgenotaidd, yntau hefyd wedi ymsefydlu yn Llundain, ac yn lluniwr rhai o fapiau pwysicaf a mwyaf nodedig y ddeunawfed ganrif.

Pam felly dewis ymdrin â Badeslade yma? Yn gyntaf, fe gredaf, am ein bod yn gwybod ychydig yn fwy amdano ef na llawer o dirfesurwyr eraill y cyfnod hwn. Ychydig iawn a wyddom am William Williams y dyn a’i yrfa ar wahân i rai manylion bychain y mae modd i’w dehongli o’i fapiau, diffyg oedd yn sicr yn wirionedd am nifer sylweddol o dirfesurwyr yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif. Fodd bynnag, yn achos Badeslade mae gennym ei ewyllys a gasglwyd at ei gilydd mis cyn ei farwolaeth yn 1744 (yn Llandinam yn Sir Drefaldwyn), sy’n datgelu ymysg pethau eraill fel y bu’n rhaid iddo chwilio am nawdd rhywle arall ar ôl ffrae enfawr gyda’i noddwr cyntaf Syr Robert Walpole yn Houghton Hall, Norfolk – dim syndod i’r rhai a ?yr am gymeriad hynod o anodd ein prif weinidog cyntaf. Golygai hyn y bu’n rhaid iddo gadw’i bellter yng ngogledd Cymru, ymhell i ffwrdd o ddylanwad Walpole.

Mae’n rhaid nodi er bod arddull mapio Badeslade wedi esblygu yn ystod y chwarter canrif y bu wrthi’n gweithio, eto i gyd roedd modd ei adnabod yn hawdd gydol y cyfnod hwn. Yn ei ewyllys ceir cyfeiriad at gomisiwn a gwblhawyd ganddo yn Newmarket (Trelawnyd yn awr) yn Sir y Fflint a’i fod yn dal i ddisgwyl cael ei dalu amdano. Llwyddwyd i olrhain drafft o’r map hwn yn archifau Prifysgol Bangor , a hynny nid oherwydd ei fod wedi’i lofnodi ond oherwydd arddull unigryw Badeslade.

Ac yn olaf, y mae’r mapiau eu hunain. Ar gyfer y teulu Grosvenor, Eaton Hall ger Caer, mapiodd Badeslade ucheldiroedd comin yr amrywiol arglwyddiaethau oedd yn eu meddiant yng ngogledd ddwyrain Cymru ym mlynyddoedd 1738 i 1740. Mae’r rhain yn fapiau anferthol, un ohonynt bron yn dri metr o hyd. Maent wedi’u darlunio’n eglur. Mae ffiniau’r comin wedi’u diffinio’n fanwl a dangosir yr aneddiadau ger eu hymylon. Hefyd, ac yn fuddiol iawn i’r archeolegydd a’r hanesydd tirwedd, dangosir olion gweithiau mwyn a gweithgarwch diwydiannol eraill ar y tiroedd comin eu hunain. Mae’r mapiau hyn yn bortreadau rhagorol o dirweddau ucheldir eang gogledd ddwyrain Cymru, ac roeddent mor hanfodol ar gyfer rhedeg ystadau’r Grovesnor fel y cafodd mapiwr o’r Wyddgrug, rhyw ganrif neu fwy yn ddiweddarach, ei dalu’n dda am wneud copïau manwl gywir ohonynt

‘D yw Thomas Badeslade ddim yn yr un categori â John Rocque, ond hoffwn gredu fod ei lwyddiannau sylweddol yn ei osod goruwch y garfan arferol o dirfesurwyr y ddeunawfed ganrif. Am fwy o wybodaeth am Thomas Badeslade gweler:

R. Silvester.Thomas Badeslade: ei fywyd a’i yrfa o ddwyrain Lloegr i ogledd Cymru yn S. Ashley & A. Marsden (golygyddion) Landscapes and Artefacts: studies in East Anglian Archaeology presented to Andrew Rogerson. Oxford: Archaeopress Archaeology, 2014, tudalennau. 217-229.

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

Rhagor o gofnodion #CaruMapiau

Casgliad Mapiau’r Llyfrgell

Postiwyd - 26-04-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Bob Silvester

Dr Bob Silvester, FSA, Athro Gwadd, Prifysgol Caer sy’n cymryd rhan yn ein ymgyrch #CaruMapiau

Ac yntau’n archaeolegwr proffesiynol trwy gydol ei fywyd gwaith, yn gyntaf yn Nyfnaint a
Gwlad yr Haf ac yn ddiweddarach yn Norfolk, symudodd i Gymru yn 1989 pan benodwyd ef yn ddirprwy gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys. Ymddeolodd o’r Ymddiriedolaeth ar ddechrau 2016, ac at ddibenion ymchwil mae e’n awr â chyswllt agos ag adran Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caer. Cychwynnodd ei ddiddordeb ymhob math o fapiau hanesyddol, ond yn arbennig mapiau ystadau, yn ystod ei gyfnod ar ffendiroedd Norfolk lle’r oedd mapiau’n atodiad hanfodol i’r gwaith maes a ddatgelai datblygiad y dirwedd hanesyddol. Yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf, mae ei ddiddordeb mewn mapio wedi tyfu a gan ei fod yn awr wedi ymddeol, mae’n gallu treulio mwy o amser o fewn muriau archifdai lleol ac wrth gwrs y Llyfrgell Genedlaethol yn astudio mapiau dwyrain Cymru a’r siroedd cyfagos ar y ffin yn Lloegr.

Map Edward Matthews – Llanarmon Mynydd Mawr

Dim ond i’r sawl sydd â diddordeb brwd yn hanesion mwyngloddio Cymru’r ddeunawfed ganrif y bydd enwau Thomas Slaughter a Richard Richardson yn gyfarwydd. Person digon di-nod oedd Slaughter ond yn ddi-os roedd Richardson yn fwy enwog ac yntau’n of aur, yn henadur yng Nghaer am sawl blwyddyn, ac yn 1757 yn faer y ddinas honno. Fel entrepreneuriaid mwyngloddio comisiynodd y ddau ohonynt fapiau arolwg o ardaloedd oedd yn debygol o fod yn cynnwys dyddodion mwynau heb eu cloddio cyn cymryd y tir ar brydles oddi wrth ei berchennog. Mae’n ymddangos mai Edward Matthews, cenhedlaeth gyntaf teulu o dirfesurwyr o’r Wyddgrug, Sir Y Fflint, oedd eu dewis cyntaf a gwelir ei enw ar sawl map gan gynnwys dau o’r 1750au. Mapiau yw’r rhain o ddaliadau ystâd Castell y Waun, sef Bryn Llanymynech ger Croesoswallt a’r llai adnabyddus Voel Fawr, fel y’i cofnodir ar y map a ddangosir yma, y bryn mwyaf amlwg ym mhlwyf Llanarmon Mynydd Mawr. Yn hanesyddol, roedd o fewn ffiniau de Sir Ddinbych ond bellach mae’n rhan o Bowys. Cafodd y map ei lofnodi gan y tri g?r, Slaughter, Richardson a Richard Myddelton, arglwydd Y Waun, a hyn yn cadarnhau ei fod mwy na thebyg yn bortread cywir o’r dirwedd hon a’i hucheldiroedd.

Ni ellir ystyried map Edward Matthews yn fap ystâd yn ystyr fanwl y gair. Cyfran fechan yn unig o’r tiroedd a berchnogwyd gan Richard Myddelton a ddangosir arno, ac mewn gwirionedd mae’n darlunio tiroedd rhydd-ddeiliaid eraill. Gwell fyddai ei alw yn fap eiddo, ac yn fy marn i dyma un o’i gryfderau. Pe bai’r map ond wedi bod yn ddarluniad o ystâd ffermio Myddelton yn unig, ychydig iawn o sylw fyddai’r mynydd-dir agored (yr hyn arferai fod yn Voel Fawr) wedi’i dderbyn oherwydd mai prin oedd ei werth amaethyddol. Yma fodd bynnag, y mynydd oedd yn bwysig am fod iddo botensial fel ffynhonnell fwynau. Mae Matthews yn dangos y tir fel cyfres o dwmpathau, mewn dull traddodiadol a fabwysiadwyd gan Saxton bron i ddau gan mlynedd cyn hynny. Mae’n darlunio’r gwahanol chwareli llechi a gafodd eu hagor ar dir a oedd bron yn sicr yn dal i weithredu fel tir comin yn y ddeunawfed ganrif. Hefyd, mae’n darlunio hen weithfeydd mwyn ar ffurf grwpiau o ddotiau duon, rhywbeth a fyddai’n bendant wedi denu sylw Slaughter a Richardson, fel y byddai’n wir am archeolegwyr heddiw.

Eto i gyd, nid y golchiad gwyrdd-olewydd a ddefnyddiwyd ar gyfer y mynydd sy’n denu’r llygad ond yn hytrach y lliwiau llachar – coch lliw bricsen, melyn, gwyrddlas ayyb – a ddefnyddiwyd ar gyfer gwahanol diroedd y rhydd-ddeiliaid. Mae’r tiroedd hyn yn gorwedd gan mwyaf i’r de o lwybr oedd yn cyrchu tua’r dwyrain ar hyd y cyfuchliniau tuag at bentref bychan Llanarmon Mynydd Mawr. Yn benodol, yr hyn sydd o ddiddordeb yw rhyfeddod y cymysgedd patrwm o ddaliadau tir a’u caeau o siâp anghyffredin. Ac yn hyn o beth, rydyn ni’n symud allan o faes archaeoleg ac i diriogaeth hanes economaidd-gymdeithasol, gan mai’r ffordd orau i ddisgrifio’r patrwm yw ffrwyth system Gymreig o etifeddiaeth gyfrannol, lle’r oedd pob un o etifeddion gwrywaidd y sawl a fu farw yn cael rhan gyfartal o’i dir. Roedd hyn yn gwbl wahanol i’r system ‘cyntaf-anedigaeth’ yn Lloegr lle byddai’r mab hynaf fel arfer yn etifeddu’r ystâd gyfan. Yn anffodus, nid yw map Matthews yn gallu rhoi i ni’r wybodaeth yngl?n â phryd y darniwyd y ffermydd. Mae’r caeau afreolaidd oedd i’w gweld mor glir ar ei fap yn anodd iawn i’w gweld yn y dirwedd heddiw am iddynt gael eu hysgubo ymaith gan resymoliad o gynllun y caeau yn ddiweddarach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Erys cwestiwn heb ei ateb. Pam y dangosodd y tirfesurydd dir ffermwyr eraill? Yr ateb mae’n bur debyg yw mai Richard Myddelton oedd arglwydd y faenor a’i fod ef yn hawlio’r awdurdod i gloddio mwynau ar draws, neu’n fwy cywir o dan diroedd pobl eraill. Fodd bynnag, does dim tystiolaeth archeolegol i awgrymu bod Slaughter a Richardson wedi manteisio ar yr opsiwn hwn.

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

Rhagor o gofnodion #CaruMapiau

Casgliad Mapiau’r Llyfrgell

Postiwyd - 19-04-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Bob Silvester

Dr Bob Silvester, FSA, Athro Gwadd, Prifysgol Caer sy’n cymryd rhan yn ein ymgyrch #CaruMapiau

Ac yntau’n archaeolegwr proffesiynol trwy gydol ei fywyd gwaith, yn gyntaf yn Nyfnaint a
Gwlad yr Haf ac yn ddiweddarach yn Norfolk, symudodd i Gymru yn 1989 pan benodwyd ef yn ddirprwy gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys. Ymddeolodd o’r Ymddiriedolaeth ar ddechrau 2016, ac at ddibenion ymchwil mae e’n awr â chyswllt agos ag adran Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caer. Cychwynnodd ei ddiddordeb ymhob math o fapiau hanesyddol, ond yn arbennig mapiau ystadau, yn ystod ei gyfnod ar ffendiroedd Norfolk lle’r oedd mapiau’n atodiad hanfodol i’r gwaith maes a ddatgelai datblygiad y dirwedd hanesyddol. Yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf, mae ei ddiddordeb mewn mapio wedi tyfu a gan ei fod yn awr wedi ymddeol, mae’n gallu treulio mwy o amser o fewn muriau archifdai lleol ac wrth gwrs y Llyfrgell Genedlaethol yn astudio mapiau dwyrain Cymru a’r siroedd cyfagos ar y ffin yn Lloegr.

William Williams’ Denbigh and Flint

 

Fel archaeloegydd nid yw mapiau sirol wedi cynnig llawer o wybodaeth i mi. Bron yn anochel roeddent wedi’u llunio wrth raddfa oedd yn rhy fach i ddangos manylion y newidiadau yn y dirwedd sy’n bwysig i’n hastudiaethau ni. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd y bûm yn gweithio yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, byddwn o bryd i’w gilydd yn gweld cyfeiriadau at New map of Denbigh and Flint, gan William Williams, yn dyddio o 1720 neu 1721, mewn llyfrau ac erthyglau ond heb weld y map ei hun. Yr hyn a oedd yn gyffredin rhwng y cyfeiriadau hynny oedd y cysylltiad honedig ag ychydig o rai eraill o ddechrau’r ddeunawfed ganrif, oedd gyda’i gilydd, yn enghraifft o ‘don newydd’ o fapiau sirol a oedd yn olynu mapiau Saxton, Norden a Speed o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg a dechrau’r ail ganrif ar bymtheg, gyda map William Williams’ yn cynrychioli’r unig fap Cymreig ymysg y mapiau arbennig eraill.

Cafodd William Williams ei hun yrfa ddiddorol ond cymharol fer. Aeth ati i wneud arolygon ystâd cywrain yng nghanol yn 1730au ar gyfer tirfeddianwyr o bwys yng Ngogledd-ddwyrain Cymru a Swydd Gaer, cyn dioddef o ‘gowt yn ei stumog’ yn 1739. Y tu allan i Gymru mae’n fwy adnabyddus am ei gyfrol o luniadau pensaernïol dan y teitl Oxonia Depicta a gyhoeddwyd yn 1732-33. Wrth astudio arolygon ystadau Williams, roedd yn anochel y byddwn yn edrych ar ei waith cartograffeg cynharach, a daeth dwy ffaith â chysylltiad rhyngddynt i’r amlwg. Y naill oedd mai ychydig oedd wedi’i ysgrifennu am y syrfëwr, gydag awdur diweddar ar bensaernïaeth hanesyddol Rhydychen yn dweud ei fod yn aneglur, sydd mae’n debyg yn sylw teg yng nghyd-destun canol Lloegr. O safbwynt ei fap sirol, mae’r unig sylwadau o sylwedd mewn papur a gasglwyd gan Glyn Walters LlGC yn 1968. Yn fwy diddorol, roedd yn amlwg yn 1968 a hyd yn oed fwy erbyn heddiw, er gwaetha’r ffaith mai map printiedig yw hwn, mai dim ond un copi y gwyddys amdano – y copi a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol – a allai esbonio i raddau pam fod cyn lleied wedi’i ysgrifennu amdano.

Ar yr olwg gyntaf mae map Williams yn wahanol iawn i’r mapiau sirol o’i flaen. Yn yr iaith fodern mae’n ‘brysur iawn’. Prin fod modfedd sgwâr o le gwag gan fod nifer fawr o dariannau arfbeisiol ar hyd ymylon y map wedi’u croesgyfeirio â rhif neu lythyren yn perthyn i dai’r pendefigion a’r bonedd sydd wedi’u marcio ar y map ei hun. O ran y teuluoedd amlycaf – teulu Grosvenor, teulu Mostyn, y Wynniaid – i gyd-fynd â’r harfbeisiau mae drychiadau o’u prif gartrefi yn y wlad. Fel pe na bai hynny’n ddigon mae lleoedd gwag o gwmpas y siroedd ar y map wedi’u llenwi â golygfeydd o Gaer a Dinbych, dwy o eglwysi mawr y siroedd – Wrecsam a Gresford – er efallai y dylid nodi na ddangosir eglwys gadeiriol Llanelwy, a’r gwaith plwm neu’r ‘wyrcws’ yn Gadlas ger y Fflint. Eto i gyd mae tystiolaeth gynyddol, er bod hyn yn rhywbeth yr wyf yn dal i weithio arno, fod Williams wedi mabwysiadu elfennau o fap Saxton ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg neu efallai yn fwy tebygol, un o’u waith mwy diweddar ar gyfer ei gynllun ei hun, yn hytrach na chynnal arolwg o’r ddwy sir o’r newydd. Yna cywirodd neu diweddarodd yr enwau lleoedd, gan ddileu un neu ddau adeilad oedd wedi diflannu yn ystod y ganrif a hanner flaenorol, ond gan ychwanegu nifer fawr o blastai yn ogystal â phrif ffyrdd.

Hyd y gwn i nid oed oes llawer o fapiau wedi eu cyhoeddi sy’n dangos nodwedd map sy’n cynnwys arfbeisiau prif dirfeddianwyr y rhanbarth, er efallai y bydd gan ddarllenwyr y blog hwn fwy o wybodaeth na mi. Un map sydd newydd ei gyhoeddi’n llawn gan Gymdeithas Cofnodion Swydd Gaerhirfryn yw Mapp of the Great Levell of the Fenns gan Jonas Moore o 1658, un arall yw A New General Atlas… gan John Senex a gyhoeddwyd yn Llundain lle mae’r tanysgrifenwyr niferus i’r atlas byd hwn wedi’u cynrychioli ar nifer o dudalennau rhagarweiniol gan eu harfbeisiau. Mae dyddiad y General Atlas – 1721 – yn bwysig yng nghyd-destun gwaith William Williams, yn anad dim oherwydd ar ddiwedd y teitl ar ei fap sirol mae’r geiriau L Senex sculpt wedi’u harysgrifio.

Fersiwn digidol o’r map

Postiwyd - 07-03-2018

#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruCelf – Caryl Lewis

Yr awdures Caryl Lewis sydd yn cymryd rhan yn ein ymgyrch #CaruCelf

Tre’r Ceiri gan Kyffin Williams.
Dyma ddarlun cynnar gan Kyffin, darn a brynwyd gan y llyfrgell yn niwedd y pedwardegau. Gwelir yn y darlun artist yn chwilio ei lais, ond mae’r lliwiau a’r awyrgylch a fynegir yn dangos egin arddull sy’n aeddfedu trwy gydol ei yrfa. Dewisiais y darn yma am ei fod yn symbol o bwysigrwydd y berthynas rhwng sefydliadau fel y Llyfrgell Genedlaethol ag artistiaid. Prynwyd y darlun yn gynnar iawn yng ngyrfa Kyffin ac oherwydd gweledigaeth y llyfrgellydd ar y pryd, fe feithrinwyd berthynas glos gyda’r artist a barodd trwy gydol ei oes. Ffrwyth y berthynas honno a welir yn yr arddangosfa sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar hyn o bryd.

Dwy Gloncen gan Aneurin Jones
Dyma ddarlun sy’n gwneud imi chwerthin. Mae osgo y ddwy gymeriad yn fy atgoffa o fy mhlentyndod. Y menywod cryfion oedd ym mhob cwr o gefn gwlad. Mae’r darlun yn dal dwli ac ysgafnder, ond mae ol gwaith ar eu crwyn ac ar eu dwylo, ac athylith Aneurin Jones yw medru dal y llon a’r lleddf.

A Vase of Flowers gan Gwen John
Dyma artist sydd wedi ennill ei phlwyf er gwaethaf cysgod ei brawd Augustus John. Menyw oedd yn herio confensiwn ymhob agwedd o’i bywyd. Beth dwi’n hoffi am waith Gwen John yw bod ei darluniau yn llonydd ac yn felancoli, ond roedd hithau, fel person fel corwynt. Dwi’n hoff iawn o’r ffaith fod artist yn medru creu gwaith sy’n wahanol iawn iddyn nhw eu hunain.

Moelni Maith gan Lisa Eurgain Taylor
Dyma ddarlun gan artist ifanc o Ogledd Cymru. Mae Lisa yn creu awyrgylch yn y darlun hwn- rhyw awyrgylch freuddwydiol braf. Mae’r lliwiau yn electrig bron a rhyw naws o heddwch yn treiddio’r darlun. Mae hi’n defnyddio paent olew, rhywbeth inni’n gysylltu efo arddull trwm iawn, yn ysgafn ysgafn. Artist y byddai’n ei dilyn yn y dyfodol.

Mwy o gofnodion #CaruCelf

Postiwyd - 12-02-2018

Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Archif We Y Deyrnas Gyfunol: Pennod Newydd

Cafodd safle beta Archif We y Deyrnas Gyfunol ei lansio o’r diwedd ar ddiwedd 2017 a gellir ei weld yma. Megis dechrau yw hyn ar broses a fydd yn cynnwys nifer o ddatblygiadau cyffrous i’r safle yn ystod 2018, a fydd yn y diwedd yn disodli’r safle archif we bresennol.

Er mwyn gwella ar eich profiad o ddefnyddio’r wefan yn y dyfodol , mae’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol yn gofyn am eich cymorth gwerthfawr! Boed eich ymateb yn ffafriol neu ddim, hoffem gael eich adborth ac felly pam na threuliwch chi ddwy funud yn llanw’r arolwg hwn.

Beth yw Archif We y DG? Mae’r Archif yn cynnwys Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol y DG i gyd a’i nod yw casglu holl gynnyrch parth gwe y DG yn flynyddol. O leiaf unwaith y flwyddyn ceir ‘cywain’ awtomatig er mwyn cipio cynifer o wefannau  y DG ag y gellir eu hadnabod  a’u cadw a’u diogeli a rhoi mynediad i’r deunydd i ymchwilwyr heddiw ac yfory.

Mae hon yn bennod newydd gyffroes o ran archifo’r we i Lyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol y DG. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn archifo gwefannau ers 2004 ac wedi casglu thai miloedd ohonynt. O 2004 ymlaen bu rhaid gofyn caniatâd i archifo gan berchennog y wefan. Proses hir a rhwystredig braidd, yn enwedig gan fod cynifer o bobl ddim yn ymateb.

Yna newidiodd popeth. O dan delerau Rheoliadau Adnau Cyfreithiol Dibrint 2013 caniatawyd i Archif We y DG archifo oll barth gwe y DG. Mae’r casgliad anferth hwn ar gael i’w weld yn stafelloedd darllen y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol.  Serch hynny y nod yw darparu ‘mynediad agored’ i gymaint o’r deunydd hwn ag sydd yn bosibl, felly peidiwch â synnu os ydych fel perchennog gwefan yn derbyn e-bost gennym yn  gofyn caniatâd i ddangos copi archif o’ch gwefan y tu allan i stafelloedd darllen y Llyfrgell.

Ar ben hynny, mae llawer o bwyslais wedi cael ei roi ar gasglu gwefannau sydd yn ymwneud â digwyddiad neu thema arbennig a’u rhoi mewn Casgliad Arbennig. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi treulio amser sylweddol yn casglu safleoedd yn ymwneud ag ‘Etholiad Cyffredinol 2017’ ac ‘Effaith Brexit yng Nghymru’.  Yn 2018 bydd Casgliad Arbennig ar y Gymraeg  – bydd blog ar hynny i ddilyn cyn bo hir.

Beth nesaf i Archif We y DG? Mae nifer enfawr o safleoedd i’w hychwanegu i Archif We y DG dros y 6 mis nesaf a gellir darllen am hyn ym mlog diweddaraf yr Archif ‘What can you find in the (Beta) UK Web Archive?’ Bydd diweddariadau pellach ar gael ar ei ffrwd Twitter ac wrth gwrs bydd nifer o bostiadau newydd yn ymddangos dros y misoedd nesaf ar y blog hwn ac ar flog yr Archif.

 

Aled Betts

Llyfrgellydd Derbyn

Postiwyd - 08-02-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Gerald Morgan

Yr Hanesydd, Athro ac Awdur Gerald Morgan sydd yn cymryd rhan yn ymgyrch #CaruMapiau y mis hwn.

Map Glanystwyth 1787

O holl adnoddau’r Llyfrgell Genedlaethol, ni fu dim yn rhoi mwy o bleser i mi na mapiau stad Trawsgoed a stadau eraill y sir wrth i mi chwilio i hanes y stad, a hanes Ceredigion. Bu mwy nag un tirarolygwr yn mapio tiroedd y Trawsgoed: roedd eu gwaith yn dangos i’r perchnogion yn union faint o dir oedd ganddyn nhw, gan ddangos y defnydd a wnaed o’r caeau a beth oedd eu henwau. Bu un W.W. Matthews yn arolygu’r stad yn 1756, ond dim ond map y demesne, sef y tir o gwmpas y plas, sydd wedi goroesi.

Gwnaed yr un gwaith eto yn hynod gelfydd gan Mercier yn 1771, ac yn 1781 gwnaed arolwg cynhwysfawr o holl diroedd y stad yng Ngheredigion gan Thomas Lewis. Maen nhw ar gadw mewn tair cyfrol sylweddol, ac er bod un neu ddau wedi diflannu gyda’r blynyddoedd, mae gwerth arbennig i’r casgliad i’r hanesydd. Ymhlith y mapiau ceir un o fferm Tan-yr-allt, Abermagwr, lle bum yn byw gyda’m teulu am bymtheng mlynedd hapus. Ond map fferm arall sydd dan sylw heddiw.

Erbyn ail hanner y ddeunawfed ganrif roedd mwyafrif ffermydd Cwmystwyth a rhan uchaf Dyffryn Ystwyth y tu hwnt i Lanilar yn frithwaith cymysg eu perchnogaeth, rhai’n perthyn i Hafod, rhai i’r Trawsgoed. Yn 1790 bu cyfnewid nifer o’r ffermydd hyn rhwng Wilmot, iarll Trawsgoed, a Thomas Johnes er mwyn cryfhau eu stadau yn agos at eu plasau, ond un fferm yn Nyffryn Ystwyth a arhosodd yn nwylo Hafod oedd Glanystwyth, gyfa fferm llai, Gwaununfuwch, oedd yn rhan o’r un tenantiaeth.

Pan aeth Thomas Johnes yn fethdalwr yn 1814 a marw yn 1815, bu stad Hafod Uchdrud i lys Chancery yn Llundain nes i Mrs Johnes farw yn 1834. Yna fe brynodd Dug Newcastle y cyfan heblaw Glanystwyth, oedd eisoes wedi ei fachu yn 1832 gan bedwerydd iarll Lisburne. Bu’n rhaid talu £8,400 amdanynt. Dywedir mai 300 erw oedd yn y cwestiwn, a’r rent yn £250. Beth felly am fap Glanystwyth? Mae’n hanes cymleth.

Roedd Thomas Johnes yntau wedi comisiynu arolwg o stad yr Hafod yn 1787, ond gwaetha’r modd, heblaw cyfrol o fapiau ardal Llanddewibrefi, fe aeth y cyfan ar goll rywdro ar ôl 1830. Ond roedd map Glanystwyth wedi mynd gyda’r fferm yn eiddo Trawsgoed 1832, a felly wedi goroesi. Yn anffodus ni ellir dangos yma y rhestr caeau sydd yn perthyn i’r map, ond ceir rhif ar bob un, A1-A24 ar gyfer Glanystwyth, B1-B14 ar gyfer Gwaununfuwch.

Lle felly mae’r map yn perthyn yn ôl daearyddiaeth heddiw? Rydym yn Nyffryn Ystwyth, ar ochr ogleddol yr afon honno, ryw filltir i’r dwyrain o bentref Llanilar. Y ffordd a ddangosir rhwng pen ucha’r map a’r gwaelod yw’r B4340 heddiw o Aberystwyth i Bontrhydfendigaid. Yr afonig sy’n rhedeg o’r chwith i’r dde yw’r un a elwir heddiw Afon Llanfihangel, ond yr enw gwreiddiol oedd Afon Pyllu, fel y dangosir gan yr enwau Pwlly Uchaf a Phwlly Isaf (gynt Aberpyllu). Dangosir ffordd yn rhedeg ychydig yn uwch na’r Pyllu: lôn werdd ydyw heddiw.

Gwelir Glanystwyth ei hun (A1) i’r dde o’r ffordd fawr. Er i’r t? gael ei foderneiddio droeon, mae trwch y muriau’n ddigon i awgrymu ei oedran. Y lle mwyaf diddorol ar y map o safbwynt hanes, debyg yw A10, sef Pentre Du, yn ymyl afon Pyllu. Mae’r cael ei ddisgrifio yn y rhestr fel ‘Houses, mill etc’. Nid oes dim ar ôl erbyn heddiw, ond mae pobl leol yn dal yn gyfarwydd ?’r enw. Mae’n ymddangos mai grwp o dai clom oedd yno, o bosibl yn gymuned o sgwatwyr. Dengys cofrestr plwyf Llanfihangel-y-Creuddyn Isaf bod dwy ferch ifanc o blant Pentre Du wedi marw o’r frech wen yn 1801. Yn 1861, yn ôl y Cyfrifiad, roedd tri theulu’n byw yn ‘Black Village’, fel y’i gelwid. Erbyn 1901 dim ond un teulu oedd yno.

Mae enwau mwyafrif y caeau’n ddigon cyffredin: Cae Pwll, Cae Bach, Cae Coch, ac ymlaen. Mwy diddorol yw A3, Dol y Cappel. Ond beth yw ei ystyr? Nid oes cofnod o gapel na sefydliad crefyddol arall (Ysgol Sul, er enghraifft) yn gysylltiedig ? Glanystwyth. Mae’r un broblem ar fap Tan-yr-allt, lle nodir ‘Cae Capel’: erbyn hyn mai’n debyg mae sail yr enw oedd sylfaen y villa Rufeinig a ddarganfuwyd yno’n ddiweddar. A16 yw Cae Ty’n y Fron, sy’n engraifft dda o’r broses o lyncu fferm fach (Tyddyn y Fron yn wreiddiol) gan fferm fwy.

Ar lan afon Pyllu ceir Dol-y-pandy (A14), er nad oes dim i ddangos bod y pandy’n dal i sefyll yn 1787: yn ei ymyl mae tir ‘about the Mill Leet’ (A13), oedd yn cario d?r o’r Pyllu i felin Pentre Du. Does dim arbennig o ddifyr am enwau caeau Gwaununfuwch, ond mae’r enw ei hun yn awgrymu mai tir tlawd oedd yno.

Pan welais y map am y tro cyntaf, tua deng mlynedd ar hugain yn ôl, dangosais gopi i Mr Hugh Tudor, oedd yr adeg honno’n byw yng Nglanystwyth, yn fab hynaf i’r perchennog, Mr Tom Tudor. Enwodd yr holl gaeau yn ôl ei wybodaeth ar y pryd, ac er bod rhai caeau wedi cael eu cyfuno ac felly wedi colli hen enwau 1787, roedd canran da yn aros yr un fath. Ond roedd y defnydd a wnaed o’r caeau wedi newid yn fawr: mae’r deg neu ragor o gaeau oedd gynt yn tyfu cnydau bellach i gyd yn laswellt.

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

Rhagor o gofnodion #CaruMapiau

Casgliad Mapiau’r Llyfrgell

Postiwyd - 07-02-2018

#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruCelf – Valériane Leblond

Mis yma, yr artist Valériane Leblond sydd yn cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCelf.

Mae wedi dewis View from Hen Gaer Castellan gan Edrica Huws (1907-1999) fel ei dewis olaf

Rwyf wrth fy modd efo’r ffordd mae’r artist yn defnyddio defnydd yn y modd y byddai peintiwr yn defnyddio lliwiau ar balet. Mae’r lliwiau yn ysgafn, ac o’r olwg gyntaf dydy’r gwrthrych ddim yn amlwg. Rwyf yn ei gweld hi’n ddiddorol fod Edrica Huws yn defnyddio clytwaith, crefft sydd ddim yn boblogaidd iawn ym myd celf, ond sydd wedi bod yn ffordd i ferched gyfleu eu hunain am ganrifoedd, yn enwedig yng Nghymru. Mae ei steil yn unigryw iawn ac mae’r patrwm ar y defnydd yn rhoi dimensiwn ychwanegol i’r gwaith.

View from Hen Gaer Castellan

Valériane Leblond

Postiwyd - 01-02-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Gerald Morgan

Yr Hanesydd, Athro ac Awdur Gerald Morgan sydd yn cymryd rhan yn ymgyrch #CaruMapiau y mis hwn.

Map Cymru 1702

Yn 1697 y cyhoeddwyd argraffiad cyntaf The History of Wales gan William Wynne (1671-1704), un o deulu Garthewin. Roedd yn offeiriad a chymrawd o Goleg Iesu, Rhydychen, lle roedd yn byw tan 1702. Cafodd ei benodi’n rheithor Llanfachaeth, Môn, ond ni fu ar gyfyl y lle, debyg iawn. Mae wynebddalen ei lyfr yn cydnabod mai cyfraniad Wynne oedd cymryd testun The History of Cambria (1584) a’i dwtio. Ymddangosodd eto yn 1702, gydag ailargraffiadau yn 1774, 1812 ac 1832. Mae’n gyfrol drymaidd a rhyddieithol, a dweud y lleiaf, ond hi oedd yr unig gyfrol o hanes Cymru am y degawdau nesaf, nes i William Warrington gyhoeddi ei gyfrol swmpus a darllenadwy, eto dan y teitl The History of Wales yn 1786, gydag argraffiadau diweddarach.

Argraffiad 1702 o waith William Wynne sydd o ddiddordeb arbennig i mi heddiw. Ynddo fe gyhoeddwyd map o Gymru, y tro cyntaf i hynny ddigwydd mewn unrhyw gyfrol nad oedd yn atlas o ryw fath. Mae’n fap o waith John Sellers, oedd eisoes wedi ei gyhoeddi mewn cyfrol o fapiau o siroedd Lloegr. Map bychan yw, 14cm x 12cm, ac felly does dim modd ei gymharu gyda gwaith rhagorol Humphrey Lhuyd. Mor fychan yw’r map fel y bu’n rhaid iddo dalfyrru enwau wyth o’r ddeuddeg sir ar y map; ni ddangosir Sir Fynwy.

Mae ambell enw lle wedi ei lurgunio’n hyll, e.e. Carnarvan, Laninthevery (Llanymddyfri), Bradsey (Bardsey), ac ymlaen. Mae Ynys Môn yn siap od iawn. Ond i mi, rhinwedd y map yw’r geiriau sylweddol THE WELSH SEA ar draws yr hyn a elwir heddiw The Irish Sea. Byddwn yn hapus iawn i anghofio am Fae Ceredigion pe bai modd adfer teitl Sellers!

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

Rhagor o gofnodion #CaruMapiau

Casgliad Mapiau’r Llyfrgell

Postiwyd - 31-01-2018

#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruCelf – Valériane Leblond

Mis yma, yr artist Valériane Leblond sydd yn cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCelf.

Mae wedi dewis Pictorial dictionary gan Eliza Pughe (c.1831-1850) fel ei thrydydd dewis.

Mae hwn yn ddarn bychan hyfryd. Roeddwn i yn arfer creu llyfrau bychan pan oeddwn yn blentyn, ac rwyf wastad wedi gweld y wyddor a phosteri addysgiadol yn ddiddorol iawn. Mae Eliza Pugh wedi darlunio pethau pob dydd mewn ffordd syml iawn, ac mae wedi ysgrifennu’r geiriau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r stori am yr artist yn deimladwy hefyd – roedd hi yn fyddar ers cael ei geni ac efallai yn medru mynegi ei hun drwy gelf.

Pictorial dictionary gan Eliza Pughe (c.1831-1850)

Valériane Leblond

<- Cofnodion Hŷn Cofnodion Newydd ->

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog